Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Parha dyfodol y Fasnach Feddwol yn brif fater dadl drwy Gymru, ac nid oes angen gwneud esgusawd dros ddychwelyd ato un wythnos eto. Gwaith hawdd yw pasio pender- fyniad,—mewn cyfarfod cyhoeddus, cynhadledd neu gyfarfod crefyddol. Gwaith I-lawer mwy anodd yw creu barn gref, oleuedig, ddiogel ar y mater. Treuliais ran o'r wythnos ddiweddaf i geisio cael syniad cywir am. nerth y Fasnach Feddwol yng Nghymru,—yng Ngwrecsam, yn y Gogledd ac yn Nghwm Rhondda yn y De. Fis yn ol bum drwy dafarndai un o drefi mwyaf poblog Lloegr. Daw yr amser ryw dro i adrodd yr hanes. Nid cael defnyddiau i ysgrifennu i bapur newydd oedd fy amcan. Ond argyhoedd- wyd fi yn fwy nag erioed o anhawsterau gwir- ioneddol- y cwestiynau sydd o flaen y wlad ar hyn o bryd, ac arwydd er daioni yw gweled dyn- ion meddylgar Cymru yn ceisio gwynebu yr an- hawsterau. -+- ) Yr wythnos hon ceisiaf roddi o flaen eich darllenwyr grynhodeb o araith ragorol y Parch. R. R. Williams, M.A., gweinidog eglwys y Meth- odistiaid yn y Bala, ac ysgrifennydd Cymdeith- asfa ei enwad yng Ngogledd Cymru. Traddod- wyd yr araith yng nghynhadledd ddirwestol y cylch, ac i'r 'Seren' yr wyf yn ddyledus am yr adroddiad. Gwerth'pennaf yr anerchiad yw ei fod yn ceisio gosod yn glir o flaen y darllenydd y ddwy ochr i'r cwestiwn. A hynhy, ar hyn o bryd, yw yr oil sydd yn eisieu. Daw'r adeg i basio penderfyniadau yn ddiweddarach. Beth a feddylir wrth genedlaetholi? Dyna gwestiwn cyntaf Mr. Williams, a dyma ei ateb- iad :Fod y Wladwriaeth i brynu allan fudd- iannau y rhai sydd yn cario ymlaen y Fasnach feddwol, mewn trefn i'w rheoleiddiad fod yn llwyr yn ei Haw hi ei hun. Awgrymwyd gan Gomisiwn a benodwyd gan y Llywodraeth i ys- tyried y mater, mai y modd tecaf i gytuno ar y pris fyddai cymryd cyfartaledd prisiau y cyfran- ddaliadau yn y gwahanol gwmniau am y tair blynedd oedd yn diweddu Mehefin 30, 1914, yn ol fel yr oeddynt yn Rhestr y Stock Exchange yn Llundain neu ddinasoedd eraill; a lie nad oedd y cwmniau yn rhai cyhoeddus, neu y pris- iau heb fod ar Restrau y Stock Exchange, aw- grymid dull diogel i sicrhau peidio talu pris an- heg. Ymhellach, fod y pris i'w dalu mewn Government Stock, can' punt o Stock i gostio can' punt, a'r llog i fod yn bedair punt y cant, a chorff yr hawl i'w dalu i fyny, os gwelai y Llywodraeth yn dda, ymhen unrhyw amser ar ol saith mlynedd. Tybir y byddai y pris yn rhyw- le 0250 o filiynau i dri chan' miliwn o bunnau. Yn ol y cynllun hwn deuai y Wladwriaeth i fedd- iant llwyr ac uniongyrchol o bob gallu, rhagor- fraint, a hawl a fedd perchenogion y Fasnach feddwol ar hyn o bryd. Dyna yr hyn olygir wrth Genedlaetholi y Fasnach. -+ -+ -+ Cyn myned ymlaen i fantoli y manteision a'r anfanteision teimlai Mr. Williams y rhaid sylw- eddoli yr anhawsterau sydd ar ffordd pleidwyr dirwest ar hyn o bryd. Y mae gennym yn was- tad yn ein herbyn ar hyn o bryd :( ¡) Y brag- wyr a'r distyllwyr sydd yn gwneud y diodydd meddwol. (2) Y cyfranddalwyr, wrth y mil- oedd, yn y cwmniau hyn; rhai yn fwriadol wedi prynu cyfranddaliadau, eraill yn gyfrannog yn y Fasnach heb feddu dewisiad eu hunain, megis gweddwon ac amddifaid ag y buddsoddwyd eu harian ynddi gan eu hymddiriedolwyr. (3) Gwerthwyr y ddiod, y trafaeliwr a'r tafarnwr, a'u teuluoedd. (4) Pob masnach a crefft arall sydd yn cynyrchu nwyddau ar gyfer y Fasnach, < neu yn meddu rhyw gysylltiad a hi,—y cyngr- heiriaid,the allied trades," fel y gelwir hwy. -+- -+- -+- Honnir y bydd cenedlaetholiad yn symud ym- aith y gwrthwynebiadau gyfyd yn wastad o'r holl gyfeiriadau hyn. Gwneir i ffwrdd a gallu gwleidyddol y Fasnach. Sefydlir disinterested management. Ni bydd temtasiwn i'r rhai fydd yn gwerthu y ddiod i wthio'r gwerthiant er mwyn elw personol. Rhoddir terfyn ar brotest y rhai sydd a'u harian yn y Fasnach. Mae gwahan- iaeth barn ymhlith pleidwyr cenedlaetholiad gyda golwg ar nifer a maint y gwelliantau ddaw ar ol hynny, a'r ffurfiau a gymerant. Ond, hyd y gwelais i, cytunant oil mewn dweyd mai dym- a'r fantais fawr, y fantais gyntaf a'r fwyaf,—y fwyaf am nad yw gwelliantau eraill yn bosibl hebddi,—sef y rhoddir yn ol i'r Wladwriaeth yr hyn y mae wedi golli, hynny yw, y gallu i weith- redu ('the power to act'). Heb hyn nis gall wahardd, na chyfyngu, na rheoli y Fasnach. Y mae y Fasnach ar hyn o bryd, yn llawn ystyr y gair, yn entrenched. O'i chwmpas y mae wire entanglements nas dichon dyn fyned trwyddynt, a trenches nas dichon neb eu cymryd. -+- -+- Dyna un ochr i'r cwestiwn. Beth am yr ochr arall? Rhanna Mr. Williams y rhesymau dan bump o bennau. Yn gyntaf oil sylwa ar yr agwedd ariannol. Dywedir y bydd dyled y wlad hon ar derfyn y rhyfel yn ddwy fil neu dair mil o filiynau o bunnau Os prynir y Fasnach fedd- wol bydd raid ychwanegu at y ddyled honno dri chan' miliwn arall, ar yr hyn y bydd y llog blyn- yddol tua phymtheng miliwn o bunnau. Hwyr- ach nad ymddengys hynny yn anfantais i rai wedi myned eisoes i ddyled mor enfawr, ar yr egwyddor na "waeth torri am lawer nag am ychydig." Ond o bosibl y cyfyd temtasiwn o'r sefyllfa eithriadol y byddwn ynddi fel gwlad ar ol y rhyfel i gymryd elw o'r Fasnach feddwol er mwyn ysgafnhau y baich. Yr ydym ar hyn o bryd yn derbyn tri ugain miliwn o bunnau o elw yn flynyddol drwy y trwyddedau, a hynny yn groes iawn i deimlad miloedd o bobl. Dichon y bydd y ddyled aruthrol ar ol y rhyfel yn peri* i'r wlad gyda'i gilydd fod yn llai parod i gydsyn- io i wneud i ffwrdd a'r elw ariannol elljr ei gael o'r Fasnach mewn diodydd meddwol. -+- -+- -+- Ynglyn a hyn cyfeiria Mr. Williams yn arben- nig at y rhagolygon yng Nghymru. Dywed nad yw Cymru heb wybod am bobl yn aberthu lies ardal er mwyn cadw y trethi i lawr. Yn amser yr hen Fyrddau Ysgol, yr oedd rhai o'u hael- odau yno i ddim ond i gadw y dreth i lawr. Ceid dynion yn yr ardaloedd amaethyddol yn nodedig yn y camwedd hwn. Dywedir am dref hefyd, yng Ngogledd Cymru, i'w Chyngor rai blynyddoedd yn ol brynu rhyw feddiant oedd yn cynnwys ty trwyddedol ac i gais gael ei wneud am i'r dafarn, fel y cyfryw, gael ei chau wedi iddi ddod yn eiddo i'r dref, a'r ty gael ei ddefnydd- io at amcanion eraill. Ond gwrthodwyd y cais gyda dirmyg. Gofid i galon pob un sydd yn caru lies uchaf ei wlad ydyw clywed am ami i dref yng Nghymru, fod y dynion goreu, trym- af, a mwyaf dylanwadol ynddynt wedi cilio o'u Cynghorau, wedi blino ar ddynion cecrus, croes, na fedrant drafod achosion trefol heb fyned yn bersonol a difrio cymeriadau eu cyd-aelodau. Os daw ychwaneg o awdurdod i ddwylaw y werin ar ol cenedlaetholi y Fasnach feddwol, bydd raid i Gymru edrych ati i ethol ei phobl oreu ar Gynghorau Sir, Tref a Phlwy.' -+- Trwy genedlaetholi ychwanegir pum can' mil o bobl at nifer Gweision y Wladwriaeth. Bydd I gwneuthurwyr a gwerthwyr y diodydd meddwol wedi hynny yn 'Civil Servants,' fel y mae, dy- weder, y rhai sydd yng ngwasanaeth y Llythyr- dy. Ar hyn o bryd pum' mlynedd ar gyfartal- edd, fe ddywedir, ydyw oes tafarnwr mewn 'tied house.' Nid hyd ei yrfa ddaearol feddyliaf (er fod honno yn fyrrach na gyrfa dyn mewn unrhyw alwedigaeth arall), ond hyd ei denantiaeth daf- arnyddol. Rhaid i'r bragwr gael profit, ac os na bydd y brofit yn ddigon, rhaid i'r tenant fynd, ac ar gyfartaledd y mae yn mynd ymhen pum' mlynedd. Wedi rhoddi safle i'r gwerthwr cwrw yn y Gwasanaeth Gwladol nis gellid ei droi ohono cyn bod yn driugain a phump, mae'n debyg, a byddai raid rhoi blwydd-dal iddo wrth ymneilltuo. Yn naturiol, byddai gan y pum' can' mil gwasanaethyddion hyn allu gwleidydd- ol. Ffurfient undeb i hyrwyddo eu buddian- nau. Dywed aelodau seneddol eu bod yn cael eu poeni yn ddiddiwedd gan gynrychiolwyr gwa- hanol undebau, o bob math, i sicrhau fod eu hawliau hwy yn cael eu diogelu yn neddfwriaeth y wlad. -+- -+- -+- Byddai cenedlaetholi y Fasnach yn ei gwneud yn fwy parchus yn syniad pawb. Rhoddid sel y Wladwriaeth arni. Hyd yma yr ydym wedi dysgu y plant yn y Gobeithluoedd mai drwg di- gymysg yw y diodydd meddwol, ac yn wastad yn rhybuddio pobl ieuainc rhag y perigl sydd mewn Cysylltiad a hwy. Ofnir y bydd cyfranogi fel gwlad o elw'r Fasnach (nid yn oddefol fel yr ydys yn awr trwy y trwyddedau), a chodi safle y rhai sydd sydd ynglyn a hi, yn rhwystr ar y ffordd i ddangos y drwg moesol sydd ynddi. -+- -+- -+- Anfantais arall enwir ydyw mai masnach yn mynd ar i waered ('declining trade'), er maint ei grym, yw y Fasnach, ac nad priodol prynu masnach felly. Er ys dros hanner can' mlyn- edd y mae ei gwrthwynebwyr ymhob gwlad war- eiddiedig wedi bod yn ddyfal yn dangos y niwed a wna i gorff ac enaid dyn, i'w deulu a'i am- gylchiadau, i gymdeithas yn gyffredinol o'r naill oes i'r llall. Y mae 'public opinion' yn raddol, ond yn sicr, yn myned yn erbyn y Fasnach. A'r hyn sydd yn gwneud y cynhygiad i brynu y Fas- nach yn fwy amheus ydyw mai oddiwrth y brag- wyr y cododd yr awgrymiad. -+- -+- Yr anfantais olaf a enwodd ydoedd nas gell- ir bod yn sicr beth a ddigwydd ar ol cenedlaeth- oli. Nid oes dim swm yn ormotl i'w roi am dani, os-gellir cael gwaharddiad drwy hynny. Ond nid oes neb yn tybio y ceir gwaharddiad. Gwahaniaethir yn ddirfawr, fel y dywedwyd, ymysg pleidwyr cenedlaetholiad o berthynas i'r gwelliantau a geir drwy hynny, er eu bod oil yn cytuno mai mantais i sobrwydd fyddai yr oil ohonynt. Tybir y cauid o hanner i dri chwar- ter y bragdai sydd yn awr yn y wlad, nid am y byddai llai o alw am y ddiod, ond am y gallai llawer llai o fragdai gyhyrchu yr holl ddiod a yfir yn awr. Byddai cwtogiad ar oriau gwerthu y ddiod, a cheid cau ar y Saboth lie nad yw hynny yn bod ar hyn o bryd, ac ar ddyddiau eth- oliad ymhob man. Dywedir fod y ddiod yn wanach yn awr nag ydoedd cyn y rhyfel, ac y gwneid hi trwy ddeddf seneddol yn wanach eto. Diau nid anfantais fyddai hynny. Cauid can- noedd o dafarnau. Symudid eraill o heolydd y ffrynt i strydoedd y cefn i arbed rhenti a threthi uchel. Gwneid eraill yn gyfryw ag y gallai dyn fyned iddynt yng nghwmni ei wraig a'i blant. Diau na chytuna pawb o garedigion sobrwydd a moesoldeb pa un ai mantais ai anfantais fydd rhai o'r pethau hyn. Ond, a chaniatau mai mantais i sobrwydd fyddant, dibynna yr oil a enwyd, a phob gwelliant arall a awgrymir, ar y bobl,-nid ar y Blaid Ddirwestol,—ond ar gyfangorff yr etholwyr, ar y wlad yn gyffredinol. >