Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
• • SEEDS Secured from a reliable source are bound to give Satisfaction. Send for my Garden Seeds ,Catalogue, ftee. Kay's Nurseries, Fairbourne, SO ARGRAFFU Adroddiadau' Eglwysig, r Ystadegau, TaflenKymanfaoedd. j &c., &c. r l yn brydlon a destltts, ac am y prisiau mwval rhesymol -f ( Anfoner archebion ar unwaith i- 'J Swyddfa'r *Cymro Dolgellau. L i.. Use KEEN OR SELF-RAISING jSj FLOUR IT MAKES PERFECT PASTRY, SCONES, &c, Ac. SOLE WHOLESALE AGXNTIS- V. MORRIS & JONES, Ltd., LiAerpool a Manchester. SASIWN LLANIDLOES, MEHEFIN 1916. Y Gwasanaeth Ordeinio GYDA DARILUNIAU. I'w gael oddiwrth y PARCH. R. W. JONES, Aberangell, Mont. PRIS 3c. (Trwy y Post 4c.). Porfeydd Gwelltog. ADNODAU AR WAHANOL DESTYNAU At Wasanaeth Plarnt y Seiat, Athrawon yr Ysgol Sabothol, Gweinidogion y Gair, A Sasint Duw o bob Oed a Sefyllfa. Wedi eu casglu a'u trefnu gan y Parch. WLLLIAM LEWIS, Pontypridd, Gyda RHAGAIR gan y Parch. JOHN WILLIAMS, Brynsieocyn. Llyfr cymwys i fod yn rhodd i'r Milwr. TELERAU.-Danfonir un copi yn rhad gyda'r post aim 21s. 6 copi ac uchod am is. 6c yr un a'r cliudiad. Ychydig o gopiau ar law. Dantfooer at- Rev. W. LEWIS, THE GROVE, PONTYPRIDD. Y CYMRO.
ATGOFION AM Y PARCH. THOMAS…
News
Cite
Share
ATGOFION AM Y PARCH. THOMAS JONES WHELDON, B A GAN MR. H. ARIANDER HUGHES, LLANBERIS. Y MAE yn sicr y bydd llawer o ysgrifennu hanes bywyd cyhoeddus Mr. Wheldon, gan gynnwys y gwasanaeth diamheuol werthfawr a wnaeth i addysg a chrefydd Cymru; ond hwyrach nad hollol annyddorol fydd ychydig o ffeithiau yng- lyn a'i hanes boreuol, ac yn fwyaf neilltuol cyn iddo adael cartref., Ganwyd ef ym mis Tachwedd, 1840, yn Llwyncelyn, Llanberis, ac yn y ty yma y cych- wynwyd yr achos ymneilltuol cyntaf yn y plwyf, sef oddeutu'r flwyddyn 1765. Er nad oedd rhif yr aelodau ond bychan iawn, eto ffurfiwyd yma eglwys, a dywedir fod yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd wedi cael ei gweinyddu yno. Dywedir hefyd mai yn Llwyncelyn y cynhal- iwyd y Cyfarfod Misol cyntaf yn y rhannau yma o Sir Gaernarfon, ac mai y pregethwyr oeddynt Siarl Marc o Leyn, awdwr y pennill adnabyddus "Teg wawriodd arnom ddydd," ynghydag un Thomas Evans, a John Thomas, Waenfawr, yr hwn oedd yn frawd i'r bardd enwog Dafydd Ddu Eryri. Ar ol hyn, fe ddaeth John Thomas i fyw i Llanberis, ac efe oedd yn gofalu yn fwy- af neilltuol am yr achos. Arhosodd yr eglwys fechan yn Llwyncelyn hyd nes yr adeiladwyd y Capel Coch yn y flwyddyn 1777, ac yrphlith y rhai mwyaf blaenllaw yn adeiladu y capel new- ydd, yr oedd Dafydd Sion y Garregwen, yr hwn oedd yn daid i'r englynwr diguro Dewi Arfon, ac efe hefyd oedd awdwr y pennill genir yn ami, "Mae Seion wan yn gruddfan dan y groes." Dywedir hefyd i Lwyncelyn fod yn daith Sab- othol gyda'r Waenfawr am rhyw gyfnod-pellter o rhyw bedair milltir. Gwelir felly i Mr. Whel- don gael ei eni mewn ty ag oedd wedi ei gysegru i Dduw gan nifer fechan o grefyddwyr syml a gwledig, a hynny yn fore iawn. Deallaf mai o rywle yn Lloegr y daeth y Wheldon cyntaf i Gymru, ac mai dyfod i'n gwlad i weithio yn y Gweithfeydd Copr a wnaeth, ond y mae gwa- haniaeth barn ynglyn ag o ba le y daeth y Whel- don- cyntaf i Lanberis. Tybia rhai iddo ddod o Lanllyfni, ac mai wedi bod yn gweithio yn Drwsycoed yr oedd, ond y mae eraill, ac yn ol yr oil a allaf farnu mai hwy sydd yn iawn, yn dweyd mai o Lanengan yn Lleyn y daeth. Bjddai taid ein gwrthrych yn arfer dweyd fod ganddo gefnder wedi bpd yn byw yn y Crugan, Llanbedfog, o'r enw Pyrs Jones, a dyna hefyd oedd enw y taid, gan ychwanegu yr enw Whel- don weithiau. Dyma y cyntaf ohonynt a gofir gan hen drigolion Llanberis. Yr oedd Mr. Wheldon wedi ei freintio a rhieni duwiol, ac yn arbennig felly ei fam. Mae yr atgof am ei duwioldeb gan lawer heddyw yn dystiolaeth i hynny, ac yr oedd tystiolaeth ei mab o'r pulpud laweroedd o weithiau yn cad- arnhau yr un peth; a phwy ai hadnabyddai yn well ? Cyn gwneud y rheilffordd, arferai yr hen bobl fyned yn fynych ar draed i Gaernarfon dros Fwlch y Groes, a thrwy y Waenfawr-pellter un ffordd o ryw saith milltir, a byddai Mari Jones, Llwyncelyn (dyna yr enw arferedig gan ei chyd- nabod am ei fam) yn gorfod ei cherdded yn ami. Gan y byddai y tad gyda'i waith, nid oedd gan- ddi neb i aros yn y ty i warchod, ond cyn cych- wyn byddai yn rhoddi y plentyn yn y cryd, ac yn ymostwng wrth ei ochr, gan ei gyflwyno i'w Thad Nefol hyd nes iddi ddychwelyd. Yna a i'w thaith yn hollol ddi-bryder ac yn ol, gan ganfod fod ei phlentyn wedi cysgu yn dawel trwy yr amser, ac fe wnaed hyn lawer gwaith. Yr oedd ei dad Mr. John Wheldon yn gerddor ac yn gantwr gwych, ac ar nosweithiau hirion y gaeaf, byddai yn arferiad i'r holl deulu gylch- u'r tan, i ganu emynau ac anthemau, ac hefyd i ddysgu egwyddorion cerddoriaeth; a thro arall ceid math o Ysgol Feiblaidd; ond bob amser fe ofelid am ddiweddu mewn offrymiad teuluaidd. Perthynai i'r hen amaethdy, sef Llwyncelyn, gegin fawr," ac mewn cornel yn agos i'r drws cedwid y "potiau llaeth." Un diwrnod yr oedd y forwyn yn chware gyda Tomos ar lawr y gegin, tra y fam yn paratoi llaeth cynnes i'r lloi. Rywsut disgynodd y bachgen Tomos yn wysg ei gefn i'r llaeth poeth, ond ar d'rawiad gafael- odd ei fam ynddo a bwriodd ef yn ddi-seremoni i'r "pot llaeth cadw," a daliodd ef yno am ys- baid, ac wedi iddo ddod allan, er eu mawr syn- dod, yr oedd wedi cael meddyginiaeth lwyr, ac heb fod fymryn gwaeth. Wrth dyfu i fyny bydd- ai yn naturiol iddynt ddisgwyl iddo helpu ychydig gyda gwaith y fferm, ond gyda'i lyfr yr hoffai fod. "Dos i nol y defaid Tomos," meddai ei fam. "Mi af yn y munud mam," meddai yntau, gan obeithio na ofynid iddo yr ail dro, er mwyn iddo gael llonydd gyda'i lyfr. Dechreuodd ei yrfa addysgol yn yr Hen Ysgol Frytanaidd fel y gelwid hi, a bu o dan addysg amryw o athrawon rhagorol, a'r olaf o ba rai yd- oedd y diweddar Barchedig David Evans, M.A., Abermaw. Wedi hynny aeth i ysgol yn y Bala, ac oddiyno i Goleg y Bala, gan ddychwelyd i Lanberis i ddechreu pregethu. Y cennad an- fonwyd i'r eglwys dros y Cyfarfod Misol yd- oedd y Parch. David Jones, Treborth, a dywed- ir fod y cynghorion roddodd i'r pregethwr ieu- anc ar yr amgylchiad pwysig yn ei hanes, yn un o'r pethau mwyaf effeithiol a glywyd gan y gwr mawr hwnnw. Yr oedd hyn yn y lfwyddyn 1861. Fel y sylwyd yr oedd wedi myned trwy y coleg fel, y dywedir cyn iddo ddechreu pregethu o gwbl. Gydag ef yn myned i':¡ Bala, yr oedd y diweddar Barchedig David Roberts, y Rhiw, yr hwn oedd ar y pryd yn gweithio yn chwarel Llan- beris, a chyda'u gilydd y bu y ddau yn lletya tra- yno. Mewn llai na thair blynedd ar ol bod yn y Balar yr oedd Mr. Wheldon yn graddio yn y London University', ac ar ol hynny yn dechreu ar ei waith fel bugail ar eglwysi Cymraeg a Saes- neg y Drefnewydd. Clywais fy nghyfaill Mr. Richard Jones, yr hwn fu yn flaenor yn y Taber- nacl, fel y mae ym Maenofferen yn awr, yn dweyd mai y modd y daeth Mr. Wheldon i sylw eglwysi Blaenau Ffestiniog ydoedd trwy ddyfod i angladd mam ei gyfaill y Parch. Robert Owen, M.A., Pennal. Yr oedd yn un o'r rhai oedd yn cymryd rhan yno, a phenderfynodd cyfeillion y Tabernacl a Bethesda ei wahodd atynt yn fugail ar unwaith, ac felly y bu, trwy iddo yn ddoeth dderbyn yr alwad. Cefais y pleser o fod yn aelod yn y Tabernacl yn ystod y cyfnod yma, ac fe wn yn dda am y gwaith a wnaeth yn ei eg- lwysi, ynghydag yn y cylch yn gyff redinol. Cod- odd dosbarth mawr o ddynion ieuainc yn ei eg- lwysi ag oeddynt wedi eu symbylu ganddo ef i ddarllen a myfyrio; ac y mae llawer ohonynt eto yn fyw ac yn glod i Gymru a'i chrefydd. Pre- gethai yn y ddau gapel bob yn ail Sul, a phe buasai yno yn amlach, ni fuasai neb yn blino arno, gan mor fresh a meddylgar y byddai ei