Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

IMEIRION A'R GLANNAU.

News
Cite
Share

I MEIRION A'R GLANNAU. Deallwn fod y Proff. Phillips wedi penderfynu peidio myned i wasanaethu ynglyn a'r Fyddin oher- wydd galwadau y Coleg Diwinyddol. Da gennym ddoall fod Principal Prys wedi gwella, ac yn ail ym- aflyd yn ei waith. Cydymdeimlir a Mr. John Morris, GLanffrwd Hall, Llanbedr, ar farwolaeth ei chwia-er yn Birkenhead. Traddododd y Parch. Wellesley Jones, B.A., B.D., anerchiad rhagorol ar ran Cymdeithas y Beibl- au yn Nolgellau, dan lywyddiaeth y Parch. J. Rad- cliffe; B.A., B.D. Mae chwiorydd Salem, Dolgellau, yn selog dros roi tysteb sylweddol i Llew Meirion ar ben chwarter canrif o wasanaeth fel dechreuwr canu. Claddwyd y Mil'wrilad Scott yn Arthog ddydd Sadwrn. Dywedir fod y palas gerllaw Dolgellau yn cael ei gau am dymor o leiaf, a llawer o'r gweision yn ymadael.

NODION 0 LEYN.

MANCHESTER.

OR YSTWYTH I'R DDYFI.

Family Notices