Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

UCHEL-LYS I'R GWLEDYDD.

News
Cite
Share

UCHEL-LYS I'R GWLEDYDD. YN niwedd y flwyddyn 1863, ar ol cyfeirio at y pynciau dyrys oeddynt y pryd hyny dan sylw llywodraethau Ewrop, a'r profedigaeth- au i gynhen a rhyfel cysylltiedig a hwy, ys- grifenodd ymerawdwr Ffrainc lythyr at ei gjydbenaduriaid ag oedd yn terfynu fel y canlyn:— Yr wyf yn cynnyg ar fod i cliwi alw Congress neu Gynnadledd, er trefnu pethau yn bresenol a diogelu yn y dyfodol. Cefais fy ngalw i'r orsedd gan ragluniaeth, yn ol ewyllys pobl Ffrainc; ond cefais fy nwyn i fyny yn ysgol adfyd, ac felly y mae yn llai goddefadwy i mi nag i neb arall i anghofio hawliau penaduriaid a dymuniadau y bobl. Felly yr wyf yn barod, heb unrhyw ragfarn na rhag-gynllun, i ddwyn i "International Congress," neu Gynnadledd felly, yr ysbryd o gymedroldeb ac uniondeb ag sydd yn gyffredin yn meddiannu y rhai a ddyoddefasant y fath amryw brofedigaethau. 'Os wyf fi yn cychwyn y fath gynnygiad, nid wyf yn gwneuthur hyny o unrhyw wag-hunan- oldeb; ond gan fy mod yn benadur a ystyrir fel un o'r rhai mwyaf awyddfrydig, y mae yn mryd fy nghalon i brofi ar unwaith, drwy y cynnyg teg yma, mai fy unig ddymuniad, ydyw diogelu, heb drais, dangnefedd Ewrop. 'Os derbynir fy ngliynnyg, yr wyf yn deisyf arnoch ddewis Paris fel dinas ein cynnadledd. Ac os bydd i'r tywysogion ag ydynt mewn cyf- eillgarwch a chyngvair a Ffraine farnu yn addas i gefnogi ein cydymgynghoriad drwy eu pres- enoldeb, bydd yn falch genyf gynnyg iddynt groesaw fy llettygarwch. 'Dichon yr ystyrir y bydd o betli mantais i'r ddinas o ba un y cychwynwyd dinystr allan lawer tro, fod yn eisteddle i'n Cynnadledd amcanedig, i roddi i lawr sylfaen sefydlog am heddwch eyffredinol. Ysgrifenwyd yn Paris, Tacli. 4, 1863. Drouyn De L' Huys. NAPOLEON. Derbyniwyd y cynnygiad teg, bvawdgar, ardderchog liwn, yn yr ysbryd mwyaf cyfeill- gar gan ymerawdwr R wssia, a brenhinoedd Prwssia, Itali, Sweden a Norway, Denmark a'r Netherlands, Belgium, Portugal, Bavaria, Hanover, Saxony, Wurtemberg, a Groeg, a chan frenhines Spaen, a llys y Pab, a chyd- gynghorfa Germani. Yr oedd teimlad calon holl gyfandir Ewrop dros gynnygiad mor gymydogol, ac yr oeddid yn barnu fod awr ddedwydd gwaredigaeth oddiwrth gelanedd a difrod y cleddyf wedi dyfod; a bod oes hyfryd dawel o gyfeillgarwch, yn lie cenfigen, yn dechreu; a bod doethineb a phwyll, o hyny allan, i gael teyrnasu, yn lie nwyd ddall, a gwallgofrwydd balchder, a dialgarwch. Ond darfu i un hen lywodraeth sefyll o'r neilldu, a gwrthod y cynnyg, a'i daflu yn ol gydag oerder a dirmyg; ac y mae yn alar genym ddweyd mai llywodraeth Prydain ydoedd hono. Ni ddeallodd ei gweinidogion ogwydd yr oes nac 'amser eu hymweliad.' En barn hwy oedd nad oedd yr un ffordd well am ddiogelu heddwch nag i bawb gynnal sefydliadau milwraidd, a chadw digon o gleddyfau yn barod at eu Ilaw-barn bagan- aidd felly ydoedd barn gweinidogion coron Lloegr. A'r dynyn bychan, hunanol, mwyaf cylymedig wrth ddaliadau a hen ddefodau barbaraidd yr oesau TYWYLL, ydoedd Lord John Russell—y pryd hyny Lord Johnny, ond yn awr yr larll o Dy yr Arglwyddi. Bydd ei ymddygiad yn gwrthod gyda dirmyg gynnygiad mor deg o orsedd Ffrainc—y llys agosaf ato-yn warth ar ei goffadwriaeth tra y bydd dim son am ei enw yn Seneddau y ddaear. Buasai cynllun fel un ymerawdwr Ffraine yn un hawdd ei ddwyn o amgylch a'i roddi mewn gweitlirediad; ond gan i Loegr, mewn ysbryd mor ystyfnig ac iaith mor annheilwng ei wrtliod, darfu iddo yntau ddigaloni, a'i adael o'r neilldu i farw; ac nid all neb byth ddirnad y niwaid a wnaeth hyny i'r byd. Rhaid cael dynion Russell-aidd, Palmerston- aidd, o'r ffordd, a chael dynion Cobden-aidd a Bright-aidd yn eu lie, cyn y ceir dyngarwch a heddwch y Mil Blynyddoedd i deyrnasu dros y ddaear. Pe byddai i alluoedd mawrion Ewrop gyd- ymgyfammodi felly i derfynu. eu holl ddadl- euon drwy bwyll a rheswm, mewn uchel-lys o gyflafareddiad, byddai undeb felly yn nerth anorchfygadwy iddynt, pe codai cad i'w lierbyn o'r Dwyrain neu o'r Gorllewin; a byddai y byd yn sicr o'u cydnabod a'u han- rhydeddu fel 'UNOL DALEITHAU EWROP.' ♦

BRAWDLYS MEIRIONYDD.