Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

YMWELIAD A DOLWYDDELEN.

News
Cite
Share

YMWELIAD A DOLWYDDELEN. YN ddiweddar daeth i'm meddwl i dalu ymweliad Wr lie uchod, yr hyn a wnes yr wythnos ddiweddaf. I. Teithiais o Bettws-y-Coed cyn i gawr-y-dydd ymddangos yn ei lawn ogoniant. Cyrhaeddais i'r llety yr arferwn aros dros nos pan yn dyfod ar daith o'r fath, yn yr hwn le y byddwn yn cael lie mor gysuras a rhad nes y byddwn weithiau yn aros ynddo ddwy neu dair noswaith, ond yr oeddwn yn gweled pawb yn bur ddyeithr imi nes yr amheuwn a oeddwn wedi peidio camgymeryd, eis allan gael imi weled, ond er fy syndod gwelwn mai yr un oedd y tvy; gwneis ymholiad am y rhai oedd yno pan oeddwn ar fy nhaith ddiweddaf, ar hyn wele ddeigr yn ymarllwys o lygaid yr hon a ofynais iddi ac yn dweyd mai yn y bedd; dywedodd gyda'r fath galon ddrylliog nes yr oedd fy nheimladau yn metliu dal y dywediad; ond da genyf gael dweyd fy mod wedi cael lie mor gysurus y tro hwn a'r troion blaenorol. Wedi ymddyddan ychydig. gofynais a oedd yno neb a allasai ddyfod gyda mi i weled yr hen adeilad yr hwn a fu'n enwog yn y dyddiau gynt, sef Y CASTELL. Cefais gydymaith pert anghyffredin ac oedd yn alluog i ddweyd tipyn o'i hanes imi. Wedi cyraedd yno, dangosodd i rni y fan yma a'r fan arall gan ddweyd ychydig ar bob un, yrhyn a'mboddhaodd yn fawr iawn. Wedi olrhain trwy y Castell yn ol a blaen, ymadawsom gan wnbud ein ffordd tua'r Gwydir Arms Hotel; cych- wynasom drachefn tua'r Eglwys, yr hon etto sydd adeilad henafol iawn a'r olwg arni yn ardderchog. Aethom yn mlaen draehefn dros bont yr hon sydd yn uno dwy ran o'r pentref yn un; o'n blaen y mae dau addoldy mawreddog yn sefyll ar le tirion iawn; ond wrth fyn'd yn mlaen dyma ni ar unwaith mewn heol gul (os gweddus yr enw), yr hon oedd mor aflan nes yr oedd yn beryglus ini wyro ar dde nac aswy rhag ein cael ar un llaw hyd ben y glin mewn baw, neu ar y llaw arall syrthio i lawr y cellerydd; ond i fyn'd yn inlaen i weled y pen draw, cyrhaeddasom chwarel o'r enw Ty'nybryn, ond ni allasem aros yma fawr gan fod yma gymaint o arogl ink, a gwaedd y gweithwyr sydd wedi bod ynddi yn gweithio am amser ac yn methu cael dim am eu llafur yn ddigon i ddeffro y gydwybod fwyaf caled. Ond rhaid troi yn ol trwy yrun heol; ond os oeddwn wedi cael fy synu y tro eyntaf wrth fyned, yt wyf wedi rhyfeddu mwy pan yn dychwelyd.Gweled gwragedd mewn oed a synwyr yn ymgasglu i dy naill y llall i yfed te ac i drin achos pawb a fyddai wedi gwneud y peth lleiaf yn groes i'w mympwy hwy; safais am enyd er mwyn cael eithaf sicrwydd a oedd fy nghyfaill yn dweyd y gwir, ar hyn clywais dine soniarus y llestri te, a ha! ha! ha! dros y pentref pan oedd rliyw greadures yn pasio, nes yr oeddwn yn gwrido drosti yn cael y fath gyfarchiad. Gan imi ddeall mai dyna y ffordd sydd ganddynt i daflu gwarth ar y rhai a fo'n myned lieibio, onid gresyn na chai y gwragedd hyn fwy o waith neu well gwaith na'r hyn a nodwyd. Aethom yn mlaen drachefn ar hyd y ffordd yn nghy- feiriad Bettws-y-Coed yn araftan siarad am y peth yma a'r peth arall, ar hyn dyma fy nghyfaill yn galw fy sylw at rhyw banner dwsin o wragedd a phawb a'i biser yn eu llaw yn cyfeirio eu camrau tua'r amaethdai, ac os dygwyddai iddynt gael croesaw mewn rhai o honynt byddai yn rhaid cael yr ystraeon allan o un i un mewn rotation. Onid gresyn fod trigolion yr ardal hon mor isel a chario gwag ystraeon y naill i'r llall gan roddi y lliw a welant hwy yn oreu arnynt. Yr wyf yn mawr obeithio pan y deuaf y tro nesaf y caf yr un cydymaith, gael imi wybod pa fodd y bydd yr arferion gwartlius yn myn'd yn mlaen.-OLIPHANT.

CYCHWYNIAD 'STRING BAND' YN…

IYR ENWAU CYMREIG ETTO.

TAITH I AMERICA.