Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. JE-LE-TRKNS—Os yw Ieuan Ionawr i gael rhyddid i gyhoedli y peth a fyno yn Cronicl' Bangor, tra y mae yr un Cronicl' yn eich gwrthod chwi, ystyriwn eich cais am le i'ch amddiffyn eich hun yn y DYDD. II. JONE", Liverpool.- Ymdrecbwn ddilyn eich cyf- arwyddiadau i'r llythyren o hyn allan. J. P.-Nis gellir cyboeddi eich atebion i 'Un sydd hoff o siwgr' heb i hyny eich dwyn i berygl cyfraith. DOWLAIs.-Gan fod 'Bethaniad' yn ysgrifenu dros laweroedd, a fyddai gwrthwynebiad ganddo roddi ei enw yn llawn wrth ei lythyr ? H. W., L. D., ac R. O.-Gwell genym beidio cyhoeddi eich llythyrau ar hyn o bryd; ond bydd raid i Presbyteria t y 'Faner' a Dyn y 'Dysgedydd' esbonio eu hen ddar ) stori am dwyll lladronig hunanoldeb yr M.A. anonest, neu ynte rhaid iddynt ymorwedd yn y baw dan y cymeriad o fod yn ysglandrwyr cel- wyddog a gwenwynllyd. Y mae yma amryw ohebiaethau ag y bydd yn dda genym eu cyhoeddi cyn gynted ag y gallwn gael lie iddynt. Y gamp am bob beirniadaeth ydyw ei bod yn deg a boneddigaidd; ac am bob adroddiad ei fod yn fyr ac yn eglur. GWALL.- Yn y DYDD Gorph. 23, yn altOH i ddiwedd y y III. Bennod ar y Tugel a'i Bleidwyr, rhoddwyd Diar. xviii. 1. yn lIe yr xxviii. 1. Y FARDDONIAETH.-Anfoner y cyfan i'r Lleuad Office, Fron, Llanbrynmair, Montgomeryshire. CYFEIRIER y Gohebiaethau fel y canlyn:—Rev. S.R., Dolgelley; a'r Eirchion i Mr. W. HUGHES, Dolgelley. Telerau y 'DYDD.' Anfonir y DYDD trwy y Post am chwarter yn oi y teler- au eanlynCJl :-1 (os telir yn mlaen) am 2s. 6c.; 3 am 4s. 6c. Os na tltelir yn mlaen, 1 am 2s. 9c.; 3 am At. lie. Hysbysiadau. Heb fod dros dair llinell, Is. y tro; am bob llinell ychwanegol, 3c. Ond ymddengys hysbysiadau am yspaid o amser am brisiau Uawer is.
DIWEDD Y FRWYDR.
News
Cite
Share
DIWEDD Y FRWYDR. YR ARGLWYDDI YN RHODDI EU IIARFAU I LAWR. Y MAE pwnc mawr dadsefydliad a dadwaddol- iad yr Eglwys Wyddelig wedi cael ei bender- fynu or diwedd, a hyny yn ol egwyddorion sylfaenol cynllun Mr. Gladstone. Gwnaed yehydig iawn o gyfnewidiadau dibwys yn y Bill, er lleddfu teimladau siomedig^ yr Ar- glwyddi: ond y mae yr amean pwysfawr oedd mewn golwg-yr amcan ag y buwyd yr ymgais am dano am ugeiniau o flynyddoedd, sef sefydlu cydraddoldeb crefyddol, a chyd-degwch gwlad- ol i bob plaid ac enwad yn yr Iwerddon, wedi cael ei gyrhaedd o'r diwedd. Bu pedair neu bum cenhedlaeth o ddeddfwyr doniol yn croes-ddadlu yn ei gylch er dyddiau Pitt a Fox a Burke a Grattan a'r hen Syr Watkin. S.afolld Addington a Castlereagh a Peel a Wellington hyd y gallent yn erbyn rhydd- freinio y Pabyddion: ond pan y deallodd y ddau olaf fod Iiliyfcl Cartrefol ar ennyn, ac y byddai yn debyg o rwygo yr ymerodraeth yn ddau ddarn, os nid yn chwilfriw, plygasant i wneuthur hyny o iawnder, sef caniatau i'r Pabyddion, corff mawr y deiliaid yno, gael eu hawliau gwladol. Ond er hyny parhawyd i ymladd mor boeth ag erioed yn erbyn cyd- raddoldeb crefyddol. Yr oedd yn rhaid i'r Eglwys Brotestanaidd sefydledig gael yr ascendancy, sef cael y lie uchaf, a'r Haw uchaf, a'r llais uchaf, a chael gwen a nawdd a gwadd- ol y llywodraeth: ond y mae hyny yn awr i gael ei derfynu: ac nid ydyw goruchwyliaeth gyfiawn a gogoneddus a bendithiol y cydradd- oli ond dechreu. Daw awelon iachusol y diwygiad dros Gymru, a thros holl daleithiau eraill yr ymerodraeth. Y mae athrawiaeth Gristionogol y cydraddoli yn awr yn yr ascen- dant. Y mae yr anghyfiawnder fu yn dyrysu ac yn nychu yr Iwerddon am dri chan' mlyn- edd ar gael ei symud. Buwyd am bron gan' mlynedd yn ymladd yn ei erbyn, ond addfed- odd argyhoeddiad y wlad o'r diwedd ei bod yn bryd bellach i derfynu y ddadl, ac i sefydlu y pwne mawr o degwch crefyddol. Cafwyd Prifweinidog o ysbryd a doniau bron anghy- mharol i agor y pwnc; cafwyd llywodraeth oleu a diymmod i'w gynnorthwyo; a Senedd Z5 bwyllog ryddfrydig benderfynol i'w gefnogi: ac yn awr mae y farn wedi ei dwyn i fuddugol- iaeth. Ymgyndynodd yr Arglwyddi i wrth- wynebu hyd y gallent. Brwydrasant yn erbyn nes oedd y tir dan eu traed yn crynu, a'r tbnau oddeutu eu hynys yn berwi am chwyldroad. Gwnaeth rhai o honynt longddrylliad o'u ffydd arsiglenydd y gwaddoli pawb: ond plyg- asant o'r diwedd i waeddi, 'Trowch ni o'r frwydr, canys ni a glwyfwyd yn dost.' Buasai yn dda genym, ar ryw olwg, iddynt ddal yn hwy heb roddi eu harfau i lawr: oblegid yr oeddynt yn cael eu llorio yn deg bob ergyd, a hyny ar eu llawr eu hun: ac yr oedd terfyniad pob round o'r frwydr yn fuddugoliaeth newydd 6 y i achos iawnder a thegwch. Er y cyfan o'u cyndynrwydd, y mae yn dda genym nad yw yr hen House of Lords etto ddim wedi myned ymaith gyda'r gwynt: ond, yn wir, bun siglo hyd ei seiliau: a gobeithio y byddant ar eu gwyliadwriaeth rhag codi y fath dymhestl ofn- adwy byth ond hyny. ♦
'URDD-RADDAU DUYVINYDDOL.'I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
'URDD-RADDAU DUYVINYDDOL.' Y MAE' Presbytel'iad Cymreig,' yn y 'Faner' am yr wythnos ddiweddaf, yn adgyhoeddi o'r 'Dysgedydd,' am 1866, tudal. 360, y geiriau canlynol:— I Flynyddoedd yn ol, gwnaed ymdrech mawr gan gyfeillion gwr pur adnabyddus yn y Dywysogaetli, i gysylltu M.A. a'i enw. Nid oedd erioed wedi ei ennill yn gyfiawn; ond yr oedd yn gwasmaethu ameanion plaid ar y pryd i'w roddi iddo, gan ei fod gan wr enwog arall ag yr oedd tipyn o dynu torch rhwng y ddau; ac ni chlywsom i'r gwrhwnw erioed fod yn ddigon gonest i gyhoeddi nad oedd y teitl yn eiddo teg iddo.' Byddfiua deg i Presby teriad' y Faner,' ac Annroynwyr y Dysgedydd,' gyhoeddi pwy oedd y 'gwr anonest' hwnw, ddarfu mewn dull mor lladronig' wisgo y teitl o M.A. nad oedd yn eiddo iddo. Y mae gan fyd ac eglwys hawl i wasgu arnynt i enwi y gwr anonest lladronig hwnw; ac os na wnent, bydd gan fyd ac eglwys nod i'w roddi ar eu talcen hwy. Y mae insinuations y darn-stori uchod wedi cael eu taenu ganddynt, nid yn unig drwy y 'Dysgedydd' a'r 'Faner,' ond gan- noedd o weithiau mewn ffyrdd eraill-drwy holl gysegroedd a holl gynteddoedd, a holl bwyllgor-fanau cudd a dirgel-Iwybrau troellog eu Presbyteriaethau Annibyniaethol, a hyny drwy holl gydol y tair blynedd diweddaf.. ac y mae yn llawn bryd iddynt gyhoeddi eu stori yn llawn, a hysbysu pwy oedd yr M. A. anonest hwnw. Pa bryd a pha fodd y cafodd ei ftttg-deitl? A pha 'blaid' fuyn ei gynnorth- wyo i wneud y fath dwyll? Dylid bellach gaely stori allan yn gyflawn. 2. Y mae yr Annibynwr yn y Dysged- ydd' a'r Presbyteriad yn y 'Faner,' yn ysgrif- enu yn bur uchel, ond nid yn rhy uchel, am deilyngdod Dr. William Rees i wisgo ei deitl. Y mae y Dr. wedi bod yn enwog a defnyddiol am hir dymmor fel llenor a gweinidog; a bydd, dichon, dipyn yn syn gan y brawd o'r 'Faner' a'r brawd o'r 'Dysgedydd,' i wybod mai yr 'M. A. anonest' y cyfeiriant ato, ddarfu, yn un o ddau, osod teilyngdod ei hen gyfaill Dr. W. Rees o flaen Henry Ward Beecher, fel ag i gael iddo y D.D. o Amherst College; a da gan yr M.A. anonest fod gan- ddo dipyn o law yn hyny o wasanaeth. 3. Cafodd yr M.A. anonest gynnyg ar D. D. unwaith, a phe buasai yn eu derbyn, buasai yn ddigon o dasg i'r un Presbyteriad Annibynol na'r un Annibynwr Presbyteraidd eu dwyn oddiarno; ond ysgrifenodd ar y pryd i wrthod y cynnyg, ac i ddweyd fod ei hen gyfaill Everett yn deilyngach o'r urddas. Ac felly Dr. Everett a'i cafodd; ac y mae yn dda iawn gan yr hen M. A. anonest hyd heddyw ei fod wedi cael hyny o tdl-Iaw yn urdd-freiniad ei hen gyfaill boneddigaidd a hawddgar Dr. Everett. 4. Y mae y ddau henadur enwog o'r'Faner' a'r Dysgedydd' wedi enwi yn barod rai o'r brodyr ydynt i gael yr urdd—0. Thomas, a J. Hughes, Liverpool; Parry o'r Bala; Charles o Aberystwyth; Thomas, Bangor; Evans, Neuaddlwyd; a Griffiths, Caergybi. Y mae gan y Wesleyaid a'r Bedyddwyr eu gwein- idogion galluog a defnyddiol: ond y mae yn amlwg eu bod i gael eu cau allan o list Doctoredigion y recommendation-mongers. Nid oes gan hyd yn nod yr M.A. anonest ddim, nac oes yn wir ddim, yn erbyn yr un o'r brodyr defnyddiol a enwyd-carai i bob un o honynt gael ei Ddoctoreiddio; a chan fod y ddau frawd wedi dechreu enwi, dylasent roddi tri neu bedwar eraill yn list eu recommendations, am y byddai yn fuddiol iawn eu doctoreiddio: ac yn enwedig y ddau clique-wron enwog ag ydynt wedi llafurio mor gydwybodol a bon- eddigaidd, mewn amser ac allan o amser, i ddiraddio yr hen M. A. anonest, yr hwn sydd wedi bod drwy ei fywyd yn bleidiwr i bob caethiwed, ac yn gynhyrfydd i bob rebeldod. Os nad ydyw clique-studies, a clique-projects, a clique-creeds, a clique-conferences dau frawd felly yn haeddol o gael eu doctoreiddio, ni cheir neb byth bythoedd yn haeddol o r fath anrhydedd. Ond bernir mai nid D.D. a weddai oreu iddynt, oblegid nid ydynt yn rhyw hoffus iawn o Philosophi Duwinyddiaeth, sef dilyn Duw fel plant anwyl. Ac nid LL.D. a weddai oreu iddynt: oblegid, yn wir, y maent dipyn bach ar ol yn eu hadnabyddiaeth o bob 'Laws,' yn enwedig poh Laws of honour and honesty and good manners. Ond byddai PH.D. yn bur briodol ar ol eu henwau, oblegid y maent yn athrawon uchel profedig o'r fiect fanylaf o Brif-Athrofa y Phariseaid: ac y mae yr hen I M. A. anonest' yn ymrwymo i grynhoi swch ei wefl yn y dull niceiaf y gallo, er seinio eu teitlau yn y style fwyaf clasurol; oblegid y maent hwy yn ei anrhydeddu ef er's blynyddoedd yn mhob. dull y medrant. 5. Y mae y I Presbyteriad Cymreig' am enwi eyfeisteddfod o'n dynion callaf a phuraf eu chwaeth at y gorchwyl penodol o recom- mendio y personau hyny yn unig a farnent hwy yn deilwng o gael eu Doctoreiddio.' Diammheu y bydd i'r ddau frawd ydynt wedi ym-urddo i enwi y cyfeisteddfod,' fod yn Master-spirits ynddi, ar ol eu henwi; oblegid byddai yn anmhosibl cael neb callach a phur- ach, a byddai hyny yn ddigon o wystl i'r byd o ryddid perffaith y fath 'gyfeisteddfod' oddiwrth bob rhagfarn a chulni, oblegid y maent hwy eu dau yn ddynion call, caredig, a brawdol—diddichell, diwenwyn, a gwyneb- agored; synwyrol a phwyllog, boneddigaidd, gostyngedig, a hawdd eu trin; eang eu gwyb- odpieth, dwfn eu dysg, a thra nodedig o an-. sectaidd a rhyddfrydig, heb byth ymwthio na