Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
- 'LEVEL UP' Y DDYNOLIAETH.
News
Cite
Share
'LEVEL UP' Y DDYNOLIAETH. ER ein bod yn angliymeradwyo anffyddiaeth a rhyfyg a gogan rhai o ohebwyr y 1 Sunday Dispatch,' yr ydym yn hoffi ei gymhelliadau i grefyddwyr o bob eglwys ac o bob enwad i gydymroi i wneud en goreu i ddyrehafu y genedl i degwch a brawdgarwch a phob rhin- Wedd. Ofer, medd y I Dispatch/ ydyw i un- rhyw eglwys, beth bynag fydd ei henw a'i golud a'i dawn, geisio gwella moesau gwlad, os bydd y geiriau Trais ac anghyfiawnder' yn argraffedig ar ei thalcen a'i hallor, yn lie y geiriau, I Ffydd, gobaith, achariad.' Ni bydd ddim yn hawdd i offeiriad na gweinidog hregethu ar y Sabbath oddiwrth I siampl Paul,' os bydd wedi bod drwy yr wythnos cyn hyny yn ymladd am ddegwm y mintys a'r cwmin o law y llywodraeth. Pa le y mae ffydd eglwys, os na bydd ganddi rywbeth i bwyso arno, a byw wrtho, heblaw gwaddoliad- au seneddol. Gall golli'r dydd, a darfod am dani, os na bydd ganddi ryw oruwch-reolaeth a nawdd heblaw awdurdodau y ddaear. Pa le y mae ei gwroldeb a'i liarfogaeth ysbrydol, ei helm a'i dwyfroneg, ei tluirian a'i chleddyf, os na fedr ymladd dim dros ei Brenin, heb iddi gael gwrthglawdd y gwaddoliadau yn gysgod ac yn amddiffyn iddi. Amddiffyner y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint a'r arfau nad ydynt gnawdol. Aeth yr hen saint, milwyr cyntaf y groes, allan, yn anwaddoledig ac yn ansefydledig, yn dlodion a dirmygedig, heb parsonages na glebe-lands, na degwm na threth, o unrhyw natur, ond yn wrol, yn ysbryd eu Blaenor, yn gorchfygu ac i orch- fygu. Rhaid, medd y Dispatcb,' ac y mae yn dweyd y gwir, rhaid i holl eglwysi Cristionog- aeth, os byddant yn wir eglwysi, fod yn eglwysi cenhadol a milwriaethol. Os ant i dybied niai dyben penaf eu cenhadaeth ydyw ceisio sefydlu unffurfiaetli cred a dysgyblaetli, maent yn camddeall eu cenhadaeth. Os ydynt yn meddwl fod y rhai sydd am iddynt ymgyfnewid 0 fod yn filwriaeth wladol i fod yn filwriaeth ysbrydol yn elynion iddynt, y maent yn cam- feddwl. Gwyr y nefoedd a'r ddaear fod gwaith ddigon ar bob llaw i'r holl eglwysi, ac 1 bob dyn o ddim* calon ac ymenydd. Gan hyny, gweithier; gweithier yn ddyfal, yn mhob man, ac ar bob adeg. Gweithier yn ol y gorchymyn uchaf, a'r siampl buraf ac uchaf, er Iles dynolryw. Gweithier er addysgu, rhybuddio, ceryddu, cynnorthwyo, ac arwain; gweithier er porthi y newynog, er denu y crwydredig yn ol, er noddi y gorthrymedig, er gloywi a lledu delw Duw ar galon dyn, er gwneud y genedl yn well ac yn ddoethach, yn santeiddiach a chyfiawnach; a hyny drwy athrawiaeth ac ymarweddiad yr eglwysi. Dyrchafiad dynoliaeth-, level up' y byd, ddylai fod prif ymgais yr eglwysi. Tra y maent yn croes-ddadlu am unffurfiaeth credo- au, a chatecismau, a defodau a dilladau, y maent yn gwario eu liamser yn ofer, ac yn c°di tramgwyddiadau Anghristionogol ar yrfa eu defnyddioldeb crefyddol. Ymdrechwn i I level up' ein natur syrthiedig. Coder dynol- iaeth o'i hiselderau. Enniller meddiant o'r tiroedd anghyfannedd. Coder y rhai sydd dan draed. Unioner y rhai g\fryr-geimion. Cryfhaer y cymalau gweiniaid. Cyfnerther y cyrff crebachlyd. Bywiocaer y calonau llesg. Llanwer y tir o bobl hawddgar, doeth a da. Tra y mae yr hen eglwysi yn ymladd am y gwaddoliadau, y mae y miliynau yn marw o eisiau gwybodaeth. Y mae anwybod- aeth a llygredd, a throsedd, yn gwneud llawer parth o'n byd ni yn uffern bron mor uffernol ag uffern y byd a ddaw. Yn erbyn llygredd anian foesol dyn, yn erbyn ei gyfeiliorni, yn erbyn ei anwybodaeth a'i drosedd, y dylai pob cglwys, Brotestanaidd a Phabaidd, gan roddi heibio bob malais a chenfigen, filwrio ac ym- drechu, o unfryd calon, ochr yn ochr, gan gadw yr amcan mawr o hyd mewn golwg. Na oddefer i gynhenau duwinyddol, na chen- figenau sectyddol, na diffyg ymddiried gael lie yn mynwes unrhyw gangen o'r fyddin ag sydd i filwrio er gwneud dynion yn well a ded- wyddach. Eglurer drwy air a bywyd y cariad hwnw ag sydd i barotoi dyn i fuchedd well, pan y bydd Haw oer angau wedi diffodd yr einioes bresenol. Cydymrodded pawb, yn wyr lien a gwyr lleyg, at y gwaith mawr o geisio 'level up' y ddynoliaeth, trwy ddysgu dynion pa fodd i fyw, ac i gael ymborth i'r meddwl, yn lie ymladd ac ymboeni yn barhaus am y bara a dderfydd. N id ydym yn dysgwyl y daw y byd oil i'r un level o ragoroldeb, o allu ac o Iwyddiant; y daw pobl y byd oil yn saint a gwroniaid, ac athrawon o'r dosbarth blaenaf; ond gellir drwy gyfreithiau teg, trwy gynlluniau doeth, a thrwy egniadau haelioni a chariad, wella y byd, a'i godi i uwch level nag ydyw, a symud llawer o'i ormes, ac ysgafn- hau ei feichiau, a symud ei dlodi: gellir agor ffyrdd hyfryd gwybodaeth o flaen pawb, a gwneud ei lywodraethwyr yn fwy gwladgar a dyngarol, a'i grefyddwyr yn fwy rhyddfrydig a gweithgar. Gall ein cyd-ddynion o w bob dosbarth, uchel ac isel, ddyfod yn ddoethach ac yn well nag ydynt. Gall ein hamcanion fod yn uwch, ein grasau yn loywach, ein teuluoedd yn ddedwyddatch, ein heglwysi yn berfFeithiach, a'n Cristionogaeth yn fwy Crist- ionogol. Dylai ein hoffeiriaid o bob eglwys, a'n gweinidogion o bob cyfundeb, a'n deddf- wyr a'n barawyr o bob llys gydymroi i weithio, drwy y wasg a'r areithfa, er dyrchafu, neu 'levelling up y ddynoliaeth i dir rhinwedd a dedwyddweh. Dyna swm un o bregethau diweddaf y Sunday Dispatch' i grefyddwyr; ac y mae yn berl gwerth ei dderbyn o enau llyffant.
. ARGLWYDDI TIROEDD CYMRU.
News
Cite
Share
ARGLWYDDI TIROEDD CYMRU. Y MAE y ddadl fawr ddiweddar yn y senedd gyda golwg ar eu hymddygiad yn gorthrymu eu tenantiaid wedi effeithio yn fawr iawn ar y wlad. Cludwyd ffeithiau ac ymresymiadau y ddadl ar edyn y newyddiaduron i bob cwr o'r deyrnas. Y mae yr Economist' yn un o brif bapyrau cylchoedd trymaf ei masnach; a sylwa ar y pwnc fel y canlyn :— Fod araeth Mr. Henry Richard wedi gwneud yr argraff dyfnaf a helaethaf ar farn a theimlad y wlad; nad oedd neb wedi beiddio cynnyg gwadu ei ffeithiau, a bod cynnygion ei gwrthwynebwyr i dori grym ei ymresym- iadau wedi effeithio er eu cryfhad: mai ystyr cwyn Mr. Richard oedd fod yr arglwyddi tir- oedd yn Nghymru yn ystyried mai hwy sydd i gyfarwyddo politics a phleidleisiau eu tenant- iaid; a bod y tenant na phlygai i bleidleisio yn ol eu hewyllys hwy i gael ei droi ymaith; a bod 43 yn sir Aberteifi a 26 yn Arfon, wedi cael rhybuddion i ymadael, heb reswm yn y byd dros hyny, ond eu bod wedi pleidleisio yn ol eu cydwybod; a bod teuluoedd rhai o'r cyf- ryw wedi dal y ffermydd am dros ddau can' mlynedd, ac wedi rhoddi llawer o'u harian a'u llafur mewn gwelliantau; a bod ambell un yn colli ar unwaith ganoedd o'i arian ag ydoedd wedi roddi i wella ei dyddyn. Fod yr ar- glwyddi tiroedd, gan mwyaf, yn Doriaid ac uchel-Eglwyswyr Seisnig, a bod eu tenantiaid bron oil yn Rhyddfrydwyr, ac yn Ymneilldu- wyr Cymreig; ac felly fod pellder mawr rhyngddynt o ran eu syniadau a'u teiniladau am elfenau hanfodol crefydd, ac yn enwedig am gysylltiad crefydd a'r llywodraeth. Fod pob plaid, yn y senedd ac allan o'r senedd, wedi cydnabod yn gyhoeddus fod tenantiaid Cymru wedi bod yn nodedig o heddychol; ac mor rydd oddiwrth droseddau fel nad oedd bron ddim gwaith i lysoedd barn yn siroedd y Dywysogaeth:—Fod yr arglwyddi tiroedd yn dyn iawn eu barn fod pleidlais y tenant yn gystal a'r tyddyn yn eiddo iddynt hwy: a bod Mr. Charles Wynn wedi dadlu mai y ffordd oreu fyddai i'r arglwydd tir osod ei ffermydd i'r rhai fyddent o'r un farn ag ef; ac os byddai yn Eglwyswr am iddo fod mor gyson a pheid- io eu gosod i neb ond Eglwyswyr. Y mae yr Economist' yn rhyfeddu at athrawiaeth I Outre,' neu gynghor ynfyd Charles Wynn— y byddai yn gyson ac yn gyfiawn i arglwyddi tiroedd Eglwysig Cymru droi ymaith naw o bob deg o'u tenantiaid, a hyny am ddim ond defnyddio hawl wladol a roddir iddynt gan y gyfraitli. Dadleua yr Economist' y byddai hyny mor anghyfiawn a phe byddai i Rydd frydwyr yr House of Commons, gan eu bod yn awr yn fwyafrif, gyhoeddi-Na chaiff y Torïaid ddim dal tiroedd yn Nghymru, os hyf- droseddant felly egwyddorion sylfaenol eu teitlau i'w tiroedd a sicrha y bydd i logic tra-arglwyddiaeth a gormes yr arglwyddi tir- oedd, os parhant i'w weithio allan, gynhyrfu digofaint a gorthrech; ac os cynhyrfir nerth y fraich gan nwyd dial, mai y tenantiaid a orthrechant yn y diwedd, ac mai i'r arglwyddi y bydd yr anfri a'r golled. Y mae y tenant, gan fod y gyfraith wrth ei gefn, yn barnu fod ganddo hawl i bleidleisio yn ol goleuni ei gydwybod. Y mae y meistr tir, gan fathru y gyfraith dan ei draed, yn barnu y gall ei gosbi drwy ei droi o'i le oblegid ei bleidlais.