Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
NEWYDDIADURON.
News
Cite
Share
NEWYDDIADURON. GALL y crybwylliadau byrion a ganlyn roddi rhyw awgrym i ni am gynnydd lledaeniad newyddiaduron er dechreu y ganrif bresenol. Yr oeddid, cyn y flwyddyn 1813, wedi cy- chwyn triarddeg yn Glasgow; ond trengodd wyth o honynt bron ar eu cychwyniad er iached oedd awyr y ddinas hono at ddarllen. Nid oedd cylchdaeniad yr 'Herald,' prif newyddiadur Glasgow, yn 1815, ond mil a chant. Yr oedd ei bris yn saith ceiniog, sef tair am y papyr, a gr6t o dreth. Gwerthwyd o'r rhifyn ag oedd yn cynnwys ha.nes brwydr enwog, a buddugoliaeth ogoneddus Waterloo, 2,122 o gopiau-dim ond hyny; ac yr oeddid y yn ystyried hyny yn orchest. Bu y cynnydd wedi hyny, mewn canlyniad i ddiddymiad y trethoedd, yn fawr iawn. Yn 1851, deunaw mlynedd yn ol, nifer y newyddiaduron yn y Deymas Gyfunol oedd 563, sef 23] o rai I Rhyddfrydig, 174 o rai Torïaidd, a 158 o rai canolog; ond erbyn 1868, yr oedd y nifer wedi cvnnyddu i 1,324-wedi llawer mwy na dyblu mewn deunaw mlynedd; ac o'r cyfryw, yr oedd 85 yn rhai dyddiol. Y nifer y llynedd yn Lloegr a Chymru oedd 1,133; yn Scotland, 132; yn yr Iwerddon, 124; ac yn yr ynysoedd Prydeinig, 15. Y mae 75, neu yn mhell dros banner newyddiaduron Scot- land, wedi cael eu cychwyn er y flwyddyn 1850; ac y maent oil, ond pump, wedi cael eu cychwyn yn yr hanner can' mlynedd diweddaf. Y gwaith goreu allai llywodraethau wneud er hyrwyddo lledaeniad addysg, ydyw symud y trethoedd oeddynt yn Ilyffetheirio cerdded- iad moddion addysg, ac yn dramgwyddiadau ar ei ffordd. Bu llywodraeth Lloegr naill ai yn araf iawn i amgyffred hyny, neu ynte yr oedd gogwydd dirgel ddyn ei chalon yn erbyn lledaeniad gwybodaeth. Yr oedd ei hynfyd- rwydd, a'i hanghysondeb, a'i hannhegwch yn drwm iawn; ond nis gwyddom yn sicr pa un ai wrth ddrws ei hanystyriaeth, a'i hanwybod- aeth, ai wrth ddrws rhagfarn cul ei haristoc- ratyddiaeth, yr oedd y drwg yn gorwedd. Y mae wedi bod yn bur araf i roddi maes rhydd a chwareu teg i foddion addysg ac ordinhadau crefydd. » ;Í t. ,f7( bi! — +
¥ Senetfa.
News
Cite
Share
¥ Senetfa. Ty Y CYFFREDIN, Iau, Gorpli. 22. Mesur yr Eglwys Wyddelig—Gytundeb.— Oedwyd trefniadau eraill y dydd mewn trefn i alluogi eu harglwyddiaethau i fyned yn mlaen a rhesymau Ty y Cyffredin am anghytuno ar rai o welliantau yr Arglwyddi ar y mesur. Dywedai Iarll Granville, ar ol y penderfyniad y daeth- pwyd iddo ddydd Mawrtli, iddo ef deimlo mai ei ddyledswydd ydoedd oedi y ddadl, mewn trefn i ymgynghori a'i gydswyddwyr gyda golwg ar y llwybr a ddilynid. Barn Llywodraeth ei Mawrhydi ydoedd, fod y penderfyniad y daeth eu harglwyddiaethau iddo ddydd Mawrth o nod- wedd bwysig, ond yr oeddynt yn anewyllysgar i attal eu harglwyddiaethau rhag ystyried y gwell- iantau eraill, a theimlent yn bryderus am i'r ddadleuaeth gael ei chario yn mlaen mewn ysbryd tangnefeddus a chymmodlawn. Yr oedd ef yn awr yn cynnyg na byddai i'w harglwydd- iaethau bwyso ar y gwelliant yn cyfnewid y dyddiad o Ionawr i Mai, 1871, ac hefyd am adferu y geiriau fel y safent yn wreiddiol yn y mesur: ond, os byddai teimlad y Ty yn erbyn hyny, na byddai iddo ranu, ond y tynai y cyn- nygiad yn ol.—Dywedai Arglwydd Cairns ei fod ef yn tallu ei hun ar oddefiad y Ty. Ar ol y gohiriad ddydd Mawrth, yr oedd ef wedi cael cyfleusdra i gydymddyddan ag larll Granville, a byddai yn burion iddo fynegu yn gywir yr hyn a gymerodd le rhyngddynt. Tybiai ef nad oedd y gwelliantau a arosent ar ol y rhaniad ddydd Mawrth yn llawer, nac yn analluadwy i'w rhyddhau, ac yr oedd yn llawen ganddo fod yr Iarll ardderchog eyferbyniol yn cael ei ysgogi gan yr un ysbryd. Yr oedd ef yn cyduno a'r Llywodraeth, nad oedd y gwelliant gyda golwg ar y dyddiad ond o bwysigrwydd ailraddol, ac o ganlyniad yn barod i dderbyn y dyddiad Ionawr 1, 1871. Gyda golwg ar gwestiwn y curadiaid, cynghorai ef eu harglwyddiaethau i beidio pwyso am eu gwelliantau, a chymeryd yr un llwybr gyda golwg ar breswylfeydd: ond mewn perth- ynas i gynnygiad larll Caernarfon, cyfeiriedig at y blwydd-dalion, yr oedd cytundeb wedi ei awgrymu, yr hwn y tybiai ef y gellid ei dderbyn, hyny yw, os byddai i dair rhan o bedair o esgob- aeth gyfnewid, y gallent yn ymarferol gael 12 y cant yn lie 7 y cant yn ychwanegol. Yr unig gwestiwn ydoedd yn aros oedd mewn perthynas i adran 68, yn ymdrafod a'r surplus, a'r cytun- deb y daethpwyd iddo ar y pen hwn ydoedd, fod i'r adran gael ei gwella, fel ag i alluogi y Senedd os yn angenrheidiol, i gymhwyso cyfran o'r trysorfeydd tuag at ysgafnhau drygfyd anochel- adwy. Pasiwyd y mesur yn unol a'r cytundeb.
I TY Y CYFFREDIN, Iau.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN, Iau. Mesur Ysgolion plioyfol Scotland.—Mewn atebiad i Syr J. Elphinstone, dywedai yr Ar- glwydd Ddadleuydd y byddai iddo ddwyn y mesur uchod yn mlaen ddydd Mawrth. I- Electric Telegraphs.—Gosododd Ardalydd Hartington ar y bwrdd adroddiad y pwyllgor detholedig ar electric telegraphs. Sefyllfa New Zealand.—Ar gynnygiad i fyned i bwyllgor adgyflenwad, galwodd Ar- glwydd Bury sylw at yr ohebiaeth o berthynas i helynt New Zealand, a thynodd ddarlun truenus o sefyllfa y drefedigaeth, yr hyn a briodolai ef i wladlywiad y Swyddfa Drefedigaethol mewn perthynas i'r brodorion. Yna achwynai yn gryf oblegid penderfyniad y Llywodraeth gyda golwg ar gais y drefedigaeth am gynnorthwy sylweddol. Cefnogwyd ei olygiadau gan Mr. Magniac a Syr H. Selwyn lbbeston.-Gwadai Syr C. W. Dilke fod y llywodraeth ymerodrol yn gyfrifol am sefyllfa bresenol pethau yn New Zealand. Nid oedd gan y rliyfel presenol yn ei ddechreuad ond ychydig i'w wneud a'r rhyfeloedd blaenorol. Yr oedd y drefedigaeth, o dan swyddogaeth Mr. Weld, wedi gwrthod cynnorthwy y catrodau Seisnig; a phe gallent roddi i fyny y meddyl- ddrych am gymhorth ymerodrol, dylai y trefed- igaethwyr, a gallent, fel yr oedd ef wedi nodi, ddarostwng y corff bychan o frodorion gelynol. —Dywedai Mr. Monsell fod y Llywodraeth yn meddu y cydymdeimlad dyfnaf a threfedigaeth- wyr New Zealand; ond nid oedd sefyllfa y drefedigaeth, er yn ddiammheu yn ddifrifol, yn agos mor beryglus ag y gosodid allan. Credai ef mai y peth mwyaf dinystriol a allent wneud fyddai caniatau cais y trefedigaethwyr, am y dystrywiai ynddynt yr ysbryd hwnw o hunan- ddibyniaeth drwy yr hwn y gallent obeithio dyrchafu eu hunain o'u hanhawsderau.
TY Y CYFFREDIN", Gwener.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN", Gwener. Gyfraith y Wasg.—Mewn atebiad i Syr J. Gray, mynegai Mr. Ayrton fod gwasg gyfnodol y wlad, i fyny i ddechreuad yr eisteddiad presenol, yn ddarostyngedig i ddwy ganghen o gyfraith. "i'r oedd un yn cael ei harddodi i gynnorthwyo casglu y trethiad, ac i ddarostwng anfri tybiedig mewn cyhoeddi cabldraeth. Yr oedd y ganghen yna o'r gyfraith yn bresenol wedi ei diddymu; ond yr oedd newyddiaduron yn rhydd etto i osod stamp er mwyn y cylch- daeniad drwy y llythyrdy. Y ganghen arall o'r gyfraith ydoedd y Copyright Act, yr hon na effeithiwyd dim ami drwy y cyfnewidiad a gymerodd Ie. Yr oedd newyddiaduron i hawlio yn barhaus y breintiau ag yr oedd y Copyright Act yn eu harosod arnynt; ond yr oedd y weithred yn ei gwneud yn ammod fod -copi o bob newyddiadur i'w gyflwyno i'r British Museum. Gofynir i bob newyddiadur gael ei gofrestru, ac os bydd i unrhyw berson wneud coflyfriad ffug- iol, neu droseddu yr Act, bydd yn ddarostyng- edig i erlyniad. Dal Murphy yn Birmingham.-Galwodd Mr. Newdegate sylw at yr hyn a ddygwyddodd yn Birmingham gyda Mr Murphy, a chynnygiai, 'Fod yr liawl o ryddid ymadrodd y diogelwch pwysicaf i lywodraeth dda, a bod ymosodiadau ar yr hawlfraint hon, gan hyny, yn beryglus i ffyniant y wladwriaeth; fod ymddygiaddiweddar yr Ysgrifenydd Cartrefol yn lluddias dadleuaeth rydd ar bynciau pwysig, mewn fFaith yn ymosod- iad ar y diogelwch- hwn i ryddid, ac y mae, gan hyny, yn haeddiannol o gerydd gan y Ty hwn; fod yr ymddygiad hwn o eiddo yr Ysgrifenydd Cartrefol wedi ei brofi yn niweidiol, gan iddo arwain i doriadau o'r gyfraith gan bersonau swyddogol, yn fwyaf neillduol gan Faer Birm- ingham, yr hwn a barodd gymeryd i fyny berson diniwaid gyda'r amcan o luddio yr hyn, iddo ef ydoedd yn ddadl wrthwyneblyd.—Gwadai Mr. Bruce ei fod ef yn euog o arfer unrhyw allu dir- dynol, na'i fod wedi gweithredu yn anghyfan- soddiadol yn achos Murphy, a dywedai nad oedd ef yn gyfrifol am ei ddaliad gan Faer Birming- ham. Ni ddylid anghofio, fodd bynag, pa le bynag yr a Murphy, y bydd ei bresenoldeb yn sicr o fod yn rhagredegydd i derfysg a chreulon- deb. Yr oedd ef, yn yr oil a wnaeth, wedi gweithredu yn ol cyfarwyddyd swyddogion cyf- reithiol y Goron. Yna dilynodd dadl rhwng amryw aelodau ar yr ymddygiad yn Birmingham; ond collodd Mr. Newdegate ei gynnygiad.
BRAWDLYS MEIRIONYDD.
News
Cite
Share
bychan iawn oedd y casgliad. Yr oedd yno byrsau tlysion nodedig i dderbyn yr ofFrymau gwirfoddol; ac yn wir, yr oeddynt yn dlysach at y pwrpas na'r un plat arian, na chwpan mahogany, na rhaw alcam, na basged wiail a welsom erioed. Yr oedd yn dda genym allu hebgor chwech i'w roddi yn y fath bwrs, a buasai yn dda genym allu hebgor mwy; oblegid yr ydym yn caru gweled pwrs y drefn wirfoddol ar fwrdd yr Eglwys. Nid mewn ysbryd beio nac mewn ysbryd cellwair y gwnaed y nodiadau blaenorol. Y mae genym barch cynhes i ordinhadau cref- ydd; ac yr ydym yn dweyd yn ddifrifol y dylasai gwasanaeth CREFYDDOL yr Assizes gael ei roddi o'r neilldu, neu y dylai gael gwell cefnogiad. Nid yw y ddefod fel y mae ond rhoddi archoll i Gristionogaeth yn nhy ei chyfeillion. Pa les ordeinio Assize Sermon,' os na ddaw nchel-reithwyr yr Assize i'w gwrand01 Pa gysondeb cysylltu gwasanaeth eglwysig a Brawdlys, tra bydd Grand Jury y Brawdlys yn dibrisio y cyfryw wasanaeth, drwy gefnu arno? Yr oeddym yn hoffi eu gweled yn gwrando mor astud ar charge y BARNWR, a buasem yn hoffi eu gweled yn gwrando yr un mor astud ar charge y PREGETHWR, gan fod y naill fel y Hall o appwyntiad y Goron. Nid oeddym yn rhyfeddu cymaint fod y Barristers yn methu dyfod i'r bregeth; oblegid fod gan- ddynt, dichon, fwy o archwaeth at y ddeddf nag at yr efengyl. Ond buasai dwsin o Wigs yn edrych yn dlysion o flaen y pulpud, yn enwedig gan uad oedd dim gwaith, ond rhyw fymryn bach i un o honynt, yn eu cwrdd diweddaf yn Nolgellau. Nid oedd yno ond dau garcharor- dau estron go ddienaid, ac ni chymerodd ond ychydig iawn o fynydau i benderfynu eu hachos, ac i gyhoeddi eu ded- fryd, o bedwar mis o garchar i'r hogyn am ddwyn dillad- a deuddeg mis i'r hen grwydr- yn llwyd, half compos, am anmharchu gwraig oedranus yn Corris. Yr oedd brawdlys mor ysgafn yn anrhydedd i Feirion. Ond dywedwn etto, y buasai gweled bon- eddigion blaenaf y sir, ynadon urddasol ei meinciau barn, yn talu gwarogaeth i GREF- YDD, drwy anrhydeddu ei hunig oedfa. ar y fath adeg, yn anrhydedd i'w swydd, yn goron i'w cymeriad, yn gryfhad i'w dylanwad, yn ddyddanwch i'w calon, ac ar yr un pryd yn fudd i'w Heglwys ac yn fendith i'w gwlad. Os nad oes hamdden at y fath oedfa ar adeg Brawdlys, nid yw yn gallineb ei chyhoeddi; ond os ydys am ei chadw, peidier esgeuluso ei chydgynnulliad, fel y mae arfer rhai. Ond annoger y Grand Jury, a gwyr dysgedig a doniol y Wigs i ddyfod iddi, a hyny yn fwy o gymaint a'u bod yn gweled y DYDD yn nesau. ♦