Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

¡amrgtoiaetljau.

News
Cite
Share

¡ amrgtoiaetljau. Dydd Mawrth diweddaf, boddodd tri yn y Thames wrth ymdrochi. Yn ystod yr wythnos ddiweddaf, cymerodd 42 o longddrylliadau Ie, yn gwneud cyfanswm am y flwyddyn hon yn 1,340. Y mae 300 o filwyr y 10fed gatrawd yn Secunderabad wedi ymadael ag Eglwys Loegr, ° herwydd y defodaeth sydd yn cael ei arfer gan y gweinidog yn Trimulgherry. Dywed papyr Americanaidd-Ddoe, cyfar- fyddodd sect newydd dan yr enw, Brodyr yr un ffydd. Bydd hwn yn eithaf enw tra na byddo ond un aelod yn perthyn iddi. Aeth cardotyn yn New Orleans yn feichiau dros gyfaill, gan dyngu ei fod yn werth 20,000 dollar. Dywed y 'Philadelphia Ledger,' fod 80,000 o bobl yn Nagasaki, a chyfrifir fod 48,000 (dros eu hanner) yn myned yn feddw bob nos i'w gwely. Meddwant ar saki, yn cael ei wneud o rice. Agorir y Suez Canal i drafnidiaeth gyffred- lnol yr 17eg o Dachwedd. Y tal am fyned drwyddo fydd 8s. am bob ymfudwr, a'r un faint am bob tunell. Y mae un dyn anturiaethus yn bwriadu cymeryd embankment y Suez Canal i bastio hysbysiadau ar hyd-ddynt. Well done, onide? Gwrthwynebwyd gwelliantau yr Arglwyddi yn Mesur yr Eglwys Wyddelig gan Dy y Cyffredin gyda mwyafrif o 80, 90, 100, ac 120. Ni phleid- leisiodd yr un aelod Rhyddfrydig dros Gymru na Scotland yr unwaith, yn yr holl raniadau, yn erbyn y llywodraeth. Yr ydys erbyn hyn wedi derbyn sicrwydd am lofruddiaeth y teulu Cymreig yn Abyssinia, sef Mr. a Mrs. Powell a'u cyfeillion. Ond credir mai y llwyth Tekahaidd a'u llofruddiodd, ac nid y Bezanaidd, fel y cyhoeddwyd gyntaf. Daeth y Bezaniaid ar draws y llofruddion, ac a'u gor- fodasant, nid yn unig i adael eu hysglyfaeth, ond i roddi y cyrff i fyny, a dygodd y Bezaniaid hwynt i'r cenadon Swedaidd, pa rai a'u claddas- ant yn barchus. Dysgwylir y bydd i Mri. Henry Powell a Jenkins lwyddo i ddwyn gweddillion eu perthynasau anffodus adref i'w claddu. Cyflawnodd merch ieuanc, 16 oed, hunanladd- iad yr wythnos ddiweddaf, drwy daflu ei hunan i'r Thames, yn nghymydogaeth Rotherhithe, Surrey. Ymddengys ei bod yn caru dyn ieuanc er's amryw fisoedd, ac yr oeddynt ar delerau pur dda; ond fodd bynag gwrthododd ef ei phriodi; a'r canlyniad fu iddi daflu ei hunan yn ysglyfaeth i angeu, yr hwn ni ddywed byth, 'Digon.' Yn Mrawdlys Worcester, o flaen y Barnydd Piggott, cafwyd Fanny Frances Maria. Oliver yn euog o wenwyno ei gwr ar yr 16eg o Fai diweddaf, a chollfarnwyd hi. Yr hyn a'i harweiniodd i hyny oedd dyfod i gyfarfyddiad 4 hen gariad iddi, a chymdeithasu yn anghyfreithlon ag ef. Gwnaeth anerchiad hynod o ryfygus trwy alw yn barhaus ar Dduw yn dyst o'i dieuogrwydd. Cyrhaeddodd yr ymdrechwyr detholedig o Brifysgol Havard, America, sydd yn myned i ymdrechu rhwyfo a'r rhwyfwyr goreu o Brifysgol Rhy dy chain, Lerpwl, ddydd Mercher. Cymer yr ymdrechfa le dydd Sadwrn nesaf ar y Thames. Cymerodd ffrwydriad dychrynllyd le yn Leeds dydd Llun; ond yn wyrthiol, ni laddwyd neb. Yr oedd 100 o ddynion yn gweithio yn y lie, ac ni dderbyniodd yr un o honynt unrhyw niwaid. Yr oedd nerth y boiler yn 40 nerth ceffyl, a ffrwydrodd pan dan bwysan 450 pwys o agar.. Gwnaeth dipyn o niwaid i adeiladau cyfagos, a chlwyfwyd dyn a dwy eneth fechan yn y pellder o 200 Hath. Cynnygiwyd i foneddiges ieuane yn ddiweddar, yr hon oedd wedi appelio am iawn o herwydd tori ammod priodas, settlo am 200 dolar. Beth meddai, '200 dollar am ddinystrio gobaith, am feddwl drylliedig, am ddifrodi bywyd, ac am galon ddrylliog!-200 dollar am hyn oil! Byth, byth! Gwnewch hwy yn dri, a bydd yn fargain. —Papyr Americanaidd.

UN 0 FARNWYR LLOEGR AR FEDDWDOD.

[No title]

TANYGRISIAU.

[No title]