Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
TY YR ARGLWYDDI, Llun.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI, Llun. Cyfarfyddodd eu harglwyddiaethau am bedwar or gloch i'r dyben o wrandaw y cydsyniad bren- hinol yn cael ei roddi, drwy uiirprwyaeth, i amryw fesurau, dirgel a chyhoeddus. Y mesur cyntaf a dderbyniodd y Royal Assent ydoedd GWEITHRED I RODDI TERFYN AR SEFYDLIAD YR EGLWYS WYDDELIG, ac i wneud darpariadau mewn perthynas iddi, ac hcfyd mewn perthynas i Goleg Mayiiooth.
TY Y CYFFREDIN, Llun.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN, Llun. Athrawon Ysgolion yn Iwerddon.—Aeth y Ty i bwyllgor adgyflenwad. Ar y bleidlais o £133,150 tuag at addysg genedlaethol yn Iwerdd- on, achwynai Mr. Maguire ar y sefyllfa yn yr hon y gadewid athrawon cenedlaethol. Mynegai fod eu hymborth, eu dillad, a'u preswylfeydd, yn waelach nag eiddo llafurwyr rheolaidd.—Yr oedd Mr. Chichester Fortescue yn hollol barod i addef nad oedd sefyllfa ysgolfeistri, ac ystyried pwysigrwydd eu gwasanaeth, y daioni a wnaeth- ant, a'r drwg a allent gyflawni, yn foddhaol. Yr oedd ganddynt, gan hyny, hawl gadarn yn rhag- ddarbodaeth y llywodraeth. Yr oedd yn rhaid iddynt addef hefyd y gynnaliaeth sefydlog fechan a roddid i athrawon cenedlaethol, yr hon, a chaniatau fod Iwerddon yn wlad dlawd, ydoedd mewn nod yn wrthgyferbysiol i'r achos yn Lloegr. Gobeithiai ef, fodd bynaar, na byddai i'r sefyllfa hon ar bethau barhau.-Wedi ymddyddan pell- ach, cydunwyd a'r bleidlais. Mesur y Telegraphs.—Ar y cynnygiad o fyned i bwyllgor ar fesur y telegraphs, achwynai Mr. W. Fowler yn gryf ar delerau y cytundeb a wnaed a chwmniau y telegraphs, y rhai, gan ddyfynu o areithiau Mr. Goschen ac aelodau eraill y weinyddiaeth, y flwyddyn ddiweddaf, a gondemniai ef fel yn anghymesur. Achwynai yn neillduol ar y modd yr aed i'r cytundebau; ac, er yn cymeradwyo trosglwyddiad busnes y telegraphs i'r llywodraeth, fod yn well ganddo aberthu pob mantais na rhoddi ei gydsyniad i'r fath delerau a'r rhai presenol, ag oedd yn cyn- nwys gwastraff o £2,000,000 ar arian y cyhoedd. -Amddiffynodd Mr. Ward Hunt ymddygiad y llywodraeth ddiweddaf.
LLEUAD.
News
Cite
Share
LLEUAD. Bore Dydd Llun. MR, GOL.,—A wyddoch chwi ddim sut na cheid gwybod rhywbeth o lywle am hanes gweithrediadau a symudiadau cynghor
'YR EISTEDDFOD ' '
News
Cite
Share
'YR EISTEDDFOD erbyn hyn? Er's llawer blwyddyn bellach byddid yn arfer a hwylio yn lied fywiog tuag at gael yr hen wyl Genedlaethol tua'r amser hwn o'r flwyddyn. Byddai 'pabell y cyfar- fod' yn cael ei chodi, a chalonau yr ymgeis- wyr yn dechreu euro fel calon 'deryn.' Byddai banner dwsin, neu saith yn hytrach, o feirdd wedi gwneud eu meddyliau i fyny, heb nag os, nac oni b'ai, i gael CADAIR neu gael CAM. Byddai y corau yn dechreu glan- hau eu gyddfau, nid yn unig i ganu am wobr, ond hefyd i gael rhegu y beirniaid os na chaent wobr. Byddai Talhaiarn yn tynu y rhwd oddiar Gywydd yr Haul,' o'i waith ei hun, er mwyn cael ei adrodd, bid siwr, y diwrnod y byddai of yn arwcinydd, er mwyn cael the same thing over again for a change.' Byddai Clwydfardd, yntau, yn dweyd englyn- ion y Llwynog' wrtho ei hun, er mwyn cael llosgi Madyn ar eithin ir a than araf' y diwrnod y byddai yntau yn arweinydd yr Eisteddfod, gan gwblgredu,niae'n ddiammheu, fod y wlad yn cael bias newydd ar hen wir- ioneddau;' a byddai pob Cymro, a phob Die Sion Dafydd trwy Gymru benbaladr, yn dysgu acenu yn lied groew, I Oes y byd i'r iaith Gymraeg,' pe buasent heb ddweyd yr un gair o Gymraeg yn ystod yr Eisteddfod, nac ar hyd y flwyddyn ychwaith, ond liwnw. Ond eleni, 'does dim cynhwrf yn y byd—dim Eisteddfod o gwbl, hyny yw, yn Genedlaethol felly. Rhaid byw eleni heb gael y fraint o weled Cadair heb neb ynddi-rhaid treio ym- daro heb gael clywed March of the Men of Harlech,' ac heb weled Pencerdd Gwalia yn taflu ei wallt o'i lygad, ac yn settlo ei gadair gyda'r fath fanylrwydd, cyn cydio yn ei delyn --a gwaeth na'r cwbl, neu yn hytrach gwell na'r cwbl, rhaid i'r papyrau Seisnig geisio llenwi eu colofnau eleni a rhywbeth lieblaw gwawdiaith a difriaeth ar y Cymry a'r Welsh Eisteddfod.' Ond y cwestiwn yw, Sut na cheid rhyw air am sefyllfa pethau, yn rhywle, gan rywun? Paham na cheid gwybod, pa un ai mwy ai llai y mae y ddyled anferth hono yn myn'd ? Oes arian yn d'od i law, ai nad oes ? Oes gobaith cael yr hen foneddiges o'r pawn,' neu beidio? A ydyw hi i gael ei chladdu yn yard y County Court, gan feiliaid a thwrneiod, (Gwrgant yn undertaker), neu ynte i gael ei rhyddhau, a'i gosod etto i ail ddechreu byw' mewn ty llai ac ar gynnilach supply? Hwyr- ach y byddai yn eithaf doetb, ar ran y Coun- cil, iddynt gadw y peth mor fyw ag y byddo modd o flaen y wlad; a gadael i bawb gael gwybod yn lied ami sut y mae pethau yn sefyll, oblegid teimlad y wlad i raddau ydyw hyn—Os ydych chwi yn myn'd i gadw holl affair yr Eisteddfod yn gyfrinach i chwi eich hunain, ac os na chawn ni wybod dim am dani ond gwybod ei bod mewn dyled—purion, gwneweli eich potes o honi, mi fynwn innau bwt o Eisteddfod pan d'rawo hwyl arnoni. Y gwir am dani ydyw hyn, os bydd rhyw sefydl- iad yn myn'd a'i law i boced y wlad, y mae y wlad ar unwaith yn demandio hanes y sefydl- iad hwnw, ol a blaen, yn fanwl; os amgen, y mae yn taro ei Haw ar ei llogell, ac yn dweyd yn benderfynol, Hold on, hands off'—'does dim dime' i fyn'd o mhoced i hyd nes y caf wybod i beth a pha fodd y mae yr arian i gael eu managio—dim dime' yn y byd. Ond hwyrach fod y tir hwn yn rhy gysegredig i loerig, heb ddyosg ei esgidiau oddiam ei draed,' i fyned i'w gerdded. Ond cyn gadael y cyfeiriad yna, rhaid i mi gael dweyd yn I blwinp ac yn blaen,' fod rhy fach o hysbys- rwydd yn cael ei wneud yn nghylch I Yr Eisteddfod.' Prin y cafwyd yr un math o hysbysrwydd swyddogol, awdurdodol felly, nad oedd yr un wyl i fod yn Aberhonddu eleni- dim ond just grybwyIliad gan olygydd neu ohebydd ar antur, yn dweyd, yr 'ydym yn deall,' neu 'dywedir,' neu 'fe fernir' fod yr Eisteddfod i gael ei gohirio am eleni, &c., &c. Yn sicr i chwi, ni ddaw y wlad i weled actio y ddrama Eisteddfodol, os bydd y rhag-gynllun- iau, a'r rhagbarotoadau, a'r rehersals i gyd yn cael eu performio BEHIND THE SCENES. Gresyn o beth, medde rhywun, fod 'yr Eis- teddfod' wedi myn'd dros ei phen a'i chlustiau mewn dyled. Ie, gresyn ydyw, a gresyn a thrueni ydyw fod y council wedi eu tynu i'r fath drybini. Ond y mae yna ddwy ochr i'r ddalen yna hefyd, fel pob dalen arall. Wrth edrych ar y ddyled y mae yna ryw deimlad bach yn rhwym o gyfodi ei lais yn y fynwes i ddweyd yn ddystaw bach felly, "does dim llawer o fater' -allasai y 'cyngor' wrando ar GYNGOJH y wlad, a cheisio cael Eisteddfod yn ateb i alwadau a chynlluniau y genedl, ac nid yn ateb i fynipwyon rhyw ychydig o 'etholedigion yn ol rhagwybod- aeth dynion.' Mae yna fymryn o deimlad fel yna yn rhwym o gyfodi yn y fynwes yn gymysg a thosturi at y council. Beth yw yr achos, tybed, fod pob eisteddfod ond yr un Genedlaeth- ol (ac eithrio Eisteddfod y Cymry), yn talu'? Gwnaed pwy fyned, yn y fan a fyned, ar yr adeg a fyned, Eisteddfod o ryw fath, byddys yn sicr o fod bron yn ddieithriad, yn ddiogel ar bwnc yr arian, boed hi yn eisteddfod bentrefol neu daleithiol—goronog neu hanner coronog— boed y gwobrau yn ugain dimai neu yn ugain punt, 'dyw o ddim gwahaniaeth mewn un modd, bydd yno ddigon o bobl a digon o arian i dalu. Ondcyhoedder 'yr Eisteddfod' yn un or prif drefydd, a seinier y 'corn gwlad' am hanner blwyddyn, a cheisier nawdd a nodded Barwniaid ac Arglwyddi ac Ieirll, a\chasgler cant neu ddau o bunnau o danysgrifiadau at ei chynnal, a dyna hi yn y diwedd ar ol yr holl udganu yn syrthio mewn dau, tri, neu bedwar cant o bunnau o ddyled! Mae drwg yn rhywle i ch'i cyn sicred a mod i yn lloerig. Ond 'does ryfedd yn y byd o ran hyny. Dyna i ddechreu, fel y buwyd yn ymresymu lawer gwaith, dyna y pabelli costfawr yn llyncu o bedwar i saith gant o bunnau bob blwyddyn. Heb son am wneud pabell symudol barhaus, beth pe bae y council am UNWAITH yn gwneud pabell DDIGON BACH. Y pwnc bob blwyddyn ydyw cael pabell DIGON MAWR— gwneud siho fawr fod pabell a gynnwysa 8,000 o bobl yn cael ei darparu, ond attolwg, pryd ac yn mha le y gwelwyd y babell yn cael ei llenwi ? Paham na cheid am unwaith dy IIawn ? Pa les adeiladu y naill flwyddyn ar ol y llall, le i ryw saith neu wyth mil o bobl, pan nad yw y gyn- nulleidfa ar y mwyaf yr un o'r blynyddoedd ddim dros bedair neu bum' mil? Talu cant neu ddau o bunnau yn flynyddol am roi eisteddleoedd a tho ar wagle—'does dim sense mewn peth fel yna. Dylai rhai sydd wedi cael gwersi mor chwerw ddysgu bellach i J) P7 fix 'Wneud y got fel bo'r cefn.' Dyna beth arall sydd yn hynod o anmhoblog- aidd ydyw
YB HOLL SAESNEG
News
Cite
Share
YB HOLL SAESNEG a siaredir ar hyd yr wyl. Eir i mewn i'r babell i ddechreu a cheir gweled mewn llythyrenau breision ar y talcen—'Oes y byd i'r iaith Gymr- aeg,' ac yn y cwr arall, 'Eu hiaith a gad want,' &c. Ond gyda hyn dyma y cadeirydd ar ei draed yn dechreu spoutio Saesneg 'fel slipio ired i botes,' a dyna lie rhaid bod yn gwrando ar hwnw am hanner awr, mwy neu lai, yn 'cabarlatshio' Saesneg ac wrth siarad ei oreu, yn dweyd dim, neu os bydd o yn dweyd rhywbeth, gellwch ben- derfynu mai rhywbeth a glywyd yn mhob eis- teddfod er y diluw a fydd y 'rhywbeth' hwnw. Gyda bod y cadeirydd wedi cau ei siop, rhaid cael alaw ar y delyn bid siwr. Wel, hwyrach y ceir alaw Gymreig yn awr, ond gellwch fod yn lied sicr pa un o ddwy neu dair a fydd hi, waeth heb eu henwi yn awr. A pheth arall, rhaid cael y delyn estronol i'w chanu. Wnaiff yr hen delyn deir-rhes mo'r tro—choelia'i fawr-rhaid cael y 'Pedal Harp.' Os ceir alaw Gymreig, rhaid cael telyn Seisnig, a Sais i'w chwareu, neu Gymro wedi ei ail fwrw yn hanner Sais ac yn hanner Italian, 'does fawr o sylw yn cael ei dalu i delynwyr o ddosbarth Griffiths, Llanover, a hen delynwyr y delyn Gymreig.^C Yn awr dyma yr arweinydd ar ei draed, a dyma hi yn Saesneg mawr gan hwnw wed'yn. Ddywed hwnw yr un gair o Gymraeg, os na ddywed o rywbeth fydd pawb wedi ei glywed ganwaith drosodd. Ac felly yn mlaen o'r dechreu i'r diwedd-Saesneg a Saesneg yn ddidorderfyn—beirniadaethau Saesneg—posters Saesneg ar y muriau—pro- grammes Saesneg yn nwylaw y gynnulleidfa— hyny o argraff sydd ar y tocynau yn Saesneg- pob peth yn Saesneg. Pa les, attolwg, dodi I Oes y byd i'r iaith Gymraeg' ar dalcen y Pavilion, a dodi pob peth yn Saesneg yn ngenau, yn nghlustiau, ac yn nwylaw y bobl ? 'Dwy' ddim, deallwch, yn orselog am gynnal yr wyl bob gair yn Gymraeg, a chau y Saeson allan fel ysgymun- beth hollol, na, gadewch ei chymysgu hi, a gadael i'r hen Gymraeg gael ei rhan. Byddai yr hen bobi wrth wneud 'crimsi cartref yn son am 'waelod du' neu 'waelod glas' neu 'waelod gwyn' iddo. Wel, i ddilyn cydmariaethy 'crimsi,' dylai yrEisteddfod fod a-'gwaelod' Cymraeg, a gadawer iddi gael ei britho hefog 'ttnwc' Seisnig,