Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

---------._"---'Y DYN A'R…

News
Cite
Share

'Y DYN A'R BAICH DRAIN' A PHOBL HARLECH. MR. GOL.,—Cawso.ni Gymanfa Gerddorol ardderchog yma eleni etto; ond ymddengys wrth liw y DYDn, wedi y cwbl, fod ein cyfaill o'r Lleuad, o dan deimlad ei fod yn ymddarostwng yn fawr wrth dalu ymweliad a rhyw dreflan fechan o'n daear ni, a chael nad oeddynt wedi darparu yn anrhydeddus gogyfer a'i ddospaitli anianol, wedi ffromi—ie, cymaint felly wrth drigolion Harlech, nes yr ydym braidd yn pryderu, ar ol iddo ddychwelyd adref, a gawn ni oleuni y lloer i'n lloni y gauaf nesaf yn nhywyllweh ei nosweithiau hirion ai peidio. Yr ydym yn gobeithio y bydd i'n cyfaill y tro nesaf y cymer wibdaitli i'r ddaear, aros yno yn ddigon hir i ddyfod i ddeall tipyn o'r lielyntion, ac i ymsynied ych- ydig am yr anhawsderau sydd yn ngltn a gwneuthur pobpeth yn iawn i drweh blewyn mewn amgylchiadau neillduol a phur anghyffredin, ac a'r pryder sydd yn gysylltiedig a masnacli ac anturiaethau,!fawrion a man, cyn ybydd iddogondemnio, yn wholesale, ymddygiadau trigolion unrhyw le bychan fel Harlech, pan yn darparu i gyfarfod a symudiad ar scale mor eang, ac un hefyd a drodd allan yn gymaint success a'r Gymanfa Fawr yn Nghastell Harlech eleni. Efallai fod trigolion y Lleuad, fel y beavers a'r gwenyn, yn fwy instinctive na plireswylwyr y ddaear, a'u bod yn cyrhaedd perffeithrwydd ar unwaith yn nghyflawniad pobpeth a berthyn iddynt; ond am fodau rhesymol y byd.isloerawl hwn, o fesur ychydig, ac ar ol ami brofiad, y maent hwy yn cyrhaedd at rywbeth tebyg i berffeitli- rwydd. Yn y Gymanfa y Ilynedd, ni chlywsom am gymaint ag UN a aeth adref heb ei ddiwallu, a hyny yn foddhaol; yr hyn sydd yn dystiolaeth go lew i ailu cyf- rifolpobi Harlech, wrth ystyried mai h6no oedd yr wyl gerddorol gyntaf. Ond bernirgan lawer fod yn bresen- ol eleni yn agos i gymaint arall ag oedd y llynedd; ac felly nid rhyfedd ein bod dipyn allan o galculation y tro hwn; er y gallwn dystio fod mewn rhai tai ugeiniau o bwysau o gig heb ei fwyta, pan yr oedd y cwbl wedi diflanu o'r golwg mewn lleoedd eraill yn gynnar ar y diwrnod. Yr oedd Cymro gwladaidd, flynyddauyn ol, yn dweyd wrth frawd iddo oedd yn borthmon, ei fod yn synu yn mha le yr oedd yr holl anifeiliaid oedd yn myned, hyd yn nod o Gymru, yn cael eu bwyta. 'Dyn a dy helpo,' ebe y porthmon, 'pe baet yn cerdded un a strydaedd Llundain ryw fore, fe ryfeddit pa fodd y ca'i pawb o'r bobl frecwast.' Felly yn union yr oedd hi yn Harlech; buasai ami un yn barod i ofyn wrth weled y darpar- iaethau oedd yn myned yn mlaen y dyddiau blaenorol i'r wyl, Hawyr fach, o ba le y ceir digon o gegau ar gyfer y fath doraetli o beef a mutton, cig Iloi, a chig mocli, ieir ac wyau, ag oeddynt yn dylifo o bob cwr o'r wlad ?' Ond pe buasai y rhai hyny yn dygwydd bod yn sefyll ar y llechwedd yn ngolwg y Trains yn d'od i mewn, ac yn gweled dylifiad yr hil ddynol o'r carriages, fel heidiau gwenyn o'u cycliod, buasent yn barod i ofyn mewn syndod, Pa beth ydyw anifeiliaid y wlad i gyd rhwng cynnifer?' Fel hyn, Syr, y mae yn bur anhawdd ei ffitio hi. Y mae yn broblem pur ddyrys i'w solvio, a cliyfrif i'r dim, ie o fewn ychydig iawn chwaith, faint o beef a mutton, &c., a f'ai yn ddiogel i bobl sydd yn meddwl talu i bawb yr eiddo, fentro ei goginio ar rai o ddyddiau brwd Mehefin, erbyn cyfarfod mawr fel hwn. Pwy allasai ddyfalu pa nifer a fuasai yn debygol o ddyfod o Gaer, o Wrexham, ac o Liverpool, &c. ? Ac hwyrach fod ein cyfaill yn barnu y dylasai yr Harlechiaid fod wedi rhostio eidion neu ddau ar speculation ar gyfer llnaws mawr a allasai ddisgyn o'r Lleuad, heb hitio ffigsen pa un ai profit ai loss fuasai y canlyniad, pan mewn gwir- ionedd, o ran dim ag sydd wedi ymddangos, mewn nac ysgrifenu na siarad, nad oedd, o'r cannoedd a'r miloedd a ymwelsant a'n hen Gastell y diwrnod hwnw, ond UN LLOERIG yn eu plith Goddefer i mi wneud yn liysbys i'n cyfaill, ac i bawb arall, fod bechgyn Harlech yn rhy hen i hyny. Y tro nesaf y cawn Gymanfa Gerddorol yma (ac yn mha le ond yn hen Gastell Harlech y ceir un iawn?), byddwn yn dra diolcligar i'n cyfaill talentog os ym- ostynga i roddi i mi ryw gynnorthwy i wneud amcan- gyfrif o'r niferi a fyddant yn debyg o dalu ymweliad & ni o wahanol barthau y byd, er mwyn ein galluogi i wneud rhyw gyfartaledd yn ein darpariadau at yr achlysur. Os bydd iddo ef ein lianrhydeddu a'i bres- enoldeb, a gawn ni awgrymu iddo y dymunoldeb o dreio dygymod a bodolaeth heb FAICH 0 DDRAIN ar ei gefn. Rhag ofn y gallai adsain y beroriaetli ardderchog oedd yn ein hen Gastell fod wedi cyrhaedd y Lleuad, a swyno lluaws mawr o'r llu nefol hyny i ddyfod i'r Gymanfa nesaf; ac wrth ystyried y posiblrwydd i'r cymundeb rhyngddom ni a'r Lloer gael ei ddyrysu trwy ryw ddam- wain neu gilydd, fel ag i ni fod yn anhysbys o'u dyfod- iad, ac felly i'r un anffawd ddygwydd iddynt hwy y tro hwnw ag a ddygwyddodd i'r Dyn a'r baich drain y tro diweddaf, buaswn yn awgrymu y priodoldeb o fod PADELLAD ANFERTH 0 Uivo i gael ei ferwi yn un o ystafelloedd eang y Castell fore y diwrnod hwnw go- gyfer a hwynt; a bod puncheon o driagl i gael ei osod mewn congl gerllaw iddo. Buasem yn cynnyg ein cyfaill Mynyddog hefyd i fod yn llywodraethwr y wledd, ac i edrych ar fod pawb yn cael eu diwallu, ac na byddo neb yn cymeryd gormod o driagl rliag iddo acliosi i'r dyeithriaidrunrhyw boen, na chnofeydd o dan eu gwasgodau. Gosoder sign i fyny uwchben yr entrance i'r twr, a llun y Dyn a'r baich drain arni. Hefyd, ar- graffer arni- LUNATIC HOTEL —HOT DINNER FOR A SHILLING. Ond gwneud hyn, ni bydd perygl i neb fyned ymaith ar eu cythlwng; a diau genyf y dychwel ein cyfaill a'i gwmni yn ol yn right good tempered, ac y cawn etto 'Y lloer i arianu'r lli,' fel cynt. Yr eiddoch yn barchus, M. Y DDAEAR. [ Gan fod Gwyl Gerddorol Harlech wedi tyfu i ddyfod yn sefydliad mor boblog ac mor fuddiol y mae 'PWNC Y yn un o bwys,-er bod y Dyn o'r lleuad a'r dyn o'r ddaear yn ei drin dipyn yn gellweirus. Er fod hen Gastell Harlech yn lie enwog o gyfleus at yr Wyl, nid hawdd ydyw i deuluoedd Harlech beidio syrthio i brof- edigacth ar ryw law, nnill ai drwy ormod, neu ry fach o ddarpariaeth. Yr oedd rhai o'r corau wedi cymeryd eu einio a'u te gyda hwy, ae yn gallu hulio eu bwrdd ar y glaswellt glan yn yr awyr iacli, ond ni buasai eystal yno pe buasai y gwlaw taranau yn gwlychu eu tamaid; buasai yn toddi yr halen a'r siwgr yn rhy fuan, ac yn golchi y plate a'r cwpan ar ganol y bwyta. A plie buasai POB cor a phob teulu yn cludo eu bwyd yno, ni buasai raid i bobl Harlech drafferthu dim. Nid oes dim pobl yno, nac yn un man arall, am ddarparu arlwy fawr i fyn'd yn ofer. Y mae pwyllgor gwyl Harlech yn bobl gynllungar, yn men of business; a dichon y gallent drefnu rhyw rag-gynllim fel ag i ddarparu digonedd dibrinder, ac ar yr un pryd i ysgoi y gor-lawnder a baraigolled. Diclion y daw y pwnc dan eu sylw yn eu cyfarfod nesaf. Yr ydym ni yn meddwl mai y tfordd hwylusaf a rhataf ar y cyfan, yn enwedig os byddai golwg am gawodydd, fyddai i'r ymdeitliwyr adael eu hampers a'u basgedi bwyd gartref; a gadnel i bobl Harlech y gofal o ddarparu ac arlwyo. Gellid, dichon, ffurfio pwyllgor goliebol bychan yn Harlech; a gallai pob ardal gyfanvyddo y cyfryw i drefnu drostynt, y lie, ylluniaeth, a'r ammod- au. Neu gallai unrhyw gor, neu gorau cymydogaethol, anfon cenad i Harlech bythefnos yn mlaen i drefnu ar eu eyfer. Cai teuiuoedd Harlech felly ryw awgrym pa faint i ddarparu; a diamlieu y ceid yno ddigon hefyd dros ben i'r bobl fawr ddamweiniol a ddenid yno o'r trefydd ac o'r ardaloedd pell. Y mae y camp-style o fwyta yn un digon iacli adifyr, os ceir y tywydd yndeg: ond dichon ar y cyfan mai y dull arall fyddai y tecaf a'r anrhydeddusaf i'r bobl gaitref ac i'r dyeithriaid hefyd. Yr ydym yn meddwl y byddai yn dda i'r pwyllgor recommendio rliyw gynllun; oblegid lie na byddo tipyn o ragdvefniad, gall 'pwnc y bwyd' achosi profedigaeth mewn gwyliau llawer llai na gwyliau cerddorol Harleeh. Ac yr ydym yn hyderus y deillia tipyn o fudd oddiwrth wibdaith y Bardd a'r Cerddor a'r Wit o'r Lleuad, a thrwy ddifyrwch y gwr tafodog a llygadog o Harleeh. -Go L.J

!GAIR AT ANNIBYNWYR LLEYN.

i ARHOLIAD MYFYRWYR COLEG…

LLAN-Y-CRWYS, SIR GA'R.

TAITH I AMERICA.