Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Canton Grantor.

News
Cite
Share

Canton Grantor. INDIA.—Hyderir y bydd i'r ymchwiliadau diweddar i gyllidau ac adnoddau India, fod yn foddion i droi ystyriaeth ein llywodraeth at y dulliau goren i dd wyn yn mlaen welliantau yno: gwelliantau ag a fydd er ennill i'r wlad, ac er anrhydedd i'r llywodraeth. GWLAD CANAAN.—Y mae cymdeithas er chwilio i'w hynafiaethau, ac i adfeilion ei din- asoedd, yn parotoi adroddion o'u hymchwil- iadau a fyddant o addysg a dyddordeb i ddar- Henwyr yr ysgrythyrau. Y RAILFFORDD AR DRAWS AMERICA.—Y Inae y ganmoliaeth uchaf i'w cherbydau a'i boll drefniadau gan amryw ydynt wedi ei theithio: fod byrddau a llestri Hall eu gwledd- oedd, a gwelyau a gwydrau, a byrddau ym- olchi a holl gyfleusderau y cerbyd-resi yn ardderchog: a bod yr olwynion yn treiglo yn mlaen mor esmwyth a digryndod fel na byddi yn ysgwyd na'r gwydr gwin na'r ddysgl gig wrth deithio ugain milldir mewn ugain mun- ud: a bod y golygfeydd mewn manau, yn enwedig ar godiad a machludiad haul, yn nodedig o brydferth: breuddwydion hun y nos yn felus ar ol mwynhau golygfeydd a gwledd- oedd a chyfeillachau y dydd. INDIAID AMERICA.—Y maent etto heb eu hollol ddiwreiddio o gyrau gorllewinol y wlad: ond y mae byddinoed y llywodraeth yn gwasgu drymach drymach arnynt. Y maent drwy tyny yn trymhau eu cyfyngderau, yn lluosogi e';1 profedigaethau, ac yn poethi eu nwydau dial, er cael achlysuron i ryfel er eu difodiad. Y mae awdurdodau llywodraeth gref yr Unol Daleithiau wedi ymddwyn tuag at yr Indiaid toewn dull hollol annheilwng o yspryd ac eg- wyddorion Washington a Franklin a Roger Williams. SPAEN. Y mae Don Carlos, er gwaethaf cyfrwystra a gofal Ffrainc, wedi gallu croesi y terfyn i dir Spaen gyda'r bwriad iennyngwrth- ryfel yno er adsefydlu ar yr orsedd denlu y Bonrboniaid. FFRAINC AC AMERICA. Y mae y pellebyr tanforawl rhwng y ddwy wlad ar gael ei or- phen. Bydd yn hwylusdod i'w cydfasnach, ac yn rhwymyn newydd i'w cyfeillgarwcli. POSTAGE RHATACH. — Y mae y ddadl yn Cryfhau o hyd drwy daleithiau Germani am doll ddimai ar newyddiaduron, ac ar lythyrau agored. Dylai Lloegr flaenori mewn trefn o'r fftth fuddioldeb i bawb o bobl y byd.

IECHYD MR. GLADSTONE.

Y DANCHWA YN HAYDOCK.

!YMWELIAD TYWYSOG A THYWYS-OGES…

PORTHMADOU.

WYDDGRUG.

MERTHYR.