Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
YSPEILIO YR AMDDIFAID.
News
Cite
Share
YSPEILIO YR AMDDIFAID. VENNOD I. Each man's life is all men's lesson? OWEN MEREDITH. AMRYWIOL ydynt y ffyrdd trwy ba rai y mae dyn- ion yn cael eu darostwng i dlodi ac angen. Wrth daflu golwg ar amgylchiadau ein cyd-ddynion, yn gytfredin y mae yn anhawdd iawn penderfynu pwy sydd dlawd, a pliwy sydd gyfoethog. Brithir ein heolydd yn fynych gan hen ac ieuanc, yn droed- noeth, a'u gwisgoedd yn garpiog, a'u gwynebau yn llwyd ond wedi y cyfan, nid y cyfryw ydyw gwir dlodion ein gwlad. Os tnynwn wcled y gwir diod- ion, y mae yn rhaid edryeh am weddw ac amddifaid a yspeiliwvd o'u meddiannau a'u harian gan haid o greaduriaid diegwdddor, ac a Iethwyd bron dan bwn trallod a gofid. Nid yw cardota o ddrws i ddrws yn un baich yn y byd i un a godwyd o'r eawell i fvny y y gwaith-ei grefft ydyw. Ond gweled dyn neu ferch ieuanc a fagwyd ar fronau digonedd a llawn- der, yn gorfod ymddarostwng i wneyd hyny, sydd fel brath cleddyf i'r fynwes i edrycli ac i feddwl am danynt. Er mwyn cael gwraidd yn yr hanes (yr hwn sydd yn sylfaenedig ar ffeithlau) y mas yn rhaid myned yn ol i flwyddyn Bed derfysglyd yn hanes ein gwlad, sef 1807. Gerllaw i bedair milltir o'r Dre- fawr, ar yr ochr orllewinol iddi, y safai Llan y Bryn, ac yn nghanol y Llan yr oedd ty mawr gwyn, ac un ochr iddo yn cael ei orcbuddio gan eiddw, ac o'i gwmpas yr oedd coed a lhvyni o bob math a lliw—rhai mawr, a rhai bach ac o flaeri drws y t9 yr oedd gwelyau o flodau chweg yn brithio y llawr, ac yn gwasgaru eu perarogl o gylch y He. Ad- nabyddid y t$hwn wrth yr enw Llys." Amrywiol ydoedd ystorion a thraddodiadau yr hen blwyfolion o berthynas i'r Llys dywedai rhai o'r trigolion fod Rhufeiniaid yn yr hen amser wedi bod yn gweinyddu ynn; ereill a dybient fod gari gyfreithiau Hywel Dda fwy o hawl i'r Llys nag oedd gan wyr Rhufain ac i'r dyb hon yr oedd llawer iawn o seiliau, gan fod yn hen eglwys St. Dewi yn mhen uchaf y Llan arleni (copies) o hen ewyHysiau Llwydiaid y Llys yn cael eu cadw gyda y gofal a'r parch mwyaf try- lwyr, o herwydd fod hen ac ieuanc yn mwynhau ben- ditbion trwyddynt. Er fod blvnyddoedd ar flyn- yddoedd wedi myned heibio er pan hebryngwyd Ieuan, Edward, a Gwenllian Llwyd i'r fynwerit oer; etto, er gwaethaf holl gyfnewidiadau a chwyldroadau yr amseroedd, yr oedd eu herwau yn fyw byth yn mynwesau trigolion y plwyf. Y gwir yw, nid oes dim peadraw ar ddylanwad un weitbred o dru- garedd a thosturi Yn yr haf ar ol y flwyddyn atha un cyfeiriwyd y eisoes, yr oedd un o deulu yr henafiaid hyn yn byw yn y Llys. Enw y gwr boneddig ydoedd John Owen Lloyd neu, fel ei gelwid gan ei gymmydogion, Captain Lloyd. Yn mis Mawrth, yn y flwyddyn 1810, y dychwelodd Captain Lloyd i'r pentref (wedi bod yn absenol am ddeunaw mlynedd), gyda gwraig, mab, a merch; pa rai na welsant Lan y Bryn erioed o'r blaen. Ytnadawodd J. 0. Lloyd a LInn y Bryn yn un ar ugain oed, yn ei lawn dwfr gwisgi, gwrol a boneddigaidd yr olwg, arno mewn gair yn bob pethaallesid ddysgwyl, er mwyn llanw ei swydd, a thynu sylw yn y fyddin. Ond erbyn hyn, yr oedd cyfnewidiad wedi cymmeryd lie, ei fraich dde wedi ei cholli yn mrwydr waedlyd Corunna yn Yspaen, yn mhaun, trwy ei wrolder, v tynodd sylw Syr John Moore. Dyn glan goleu ydoedd Captain Lloyd, o bryd a gwedd; ond fod ymdeithio trwy ynysoedd poeth ac oer wedi effeithio ar ei gyfansoddiad, nes ei wneyd ddeng mlynedd yn henach yn ei ymddangos- iad nag oedd. Dyn rhwydd a thyner o ran ei natur ydoedd, ac yn Ilawn o bob anwyldeb tuug at ei deulu, yn enwedig ei fab Edwin, yrhwn a anwyd ar noswaith o gyfyngder mawr, ar dad, mam, plentyn, a milwr. Ennillodd dyn erioed fwy o barch yn myddin Prydain 11S Mr. Lloyd, trwy ei nodweddiad syml, ei wybodaeth eang, a'i ofal parhaus dros anrhydedd ei wlad a'i genedl. Ond er derbyn parch a dyrch afiadau, nid ydynt wedi'r cwbl ond pethau gwael myn amser wneyd ei 61 ar bethau a phersonau. Pan ymadawodd J. O. Lloyd a LIsn y Bryn, gad awodd ar ei ol dad, mam, brawd, a chwaer vn y Llys. Darfu prynu swydd i John, ac ymddygiadau afradol ei frawd William, efleithio yn drwm ar gyf. oeth Owen Lloyd, nes ei orfodi i godi ariati ar y Llys. Unwaith y dechreua meddiant neu arian fyned fel hyn, y mae yr un fath yn union a chareg yn treiglo i'r goriwared—ni wyddjs yn mha ley disgyna. Yn ystod yr amser rhwng marwolaeth teulu y Llys a dyfo.liad Captain Lloyd adref, yr oedd y t9, y ddodrefn, yn nghyd a'r berllan, yr ardd, a'r tir, wedi dod dati ofal un Mr. Price, hen gyfreith- iwr o Drefawr. Bu hwn yn arolygu y ty a'r tir, ac yn derbyn arian oddivvrthynt am tua thair blynedd, sef o ddydd marviolaeth y tad h)d ddyfodiad y mab. Hen wr byr oedd Price, o edrychiad sarug a phen- derfynol-ei wyneb yn eithaf dadblygiad o'i feddwl. Yr oedd wedi vmdroi yn mysg dynion am yn agos i driugain mlynedd heb allu llwyddo i gael cymniaint a chi yn wir gyfaill. Nid oedd ei eiriau ond mawl pan elai dyn ato ar neges, yn enwedig os byddai arian mewn golwg i'w meddiannu. Arferai ddweyd yn fynych wrtb Bob Jones, ei ysgrifenydd, gyda gwen ragrithiol, mae y ffordd oreu o bob ffordd i dwyllo dynion oedd bod yn dawel nes eu cael i'r man am- canedig, wedi'n siarad a gweithredu. Yr oedd Owain Lloyd o'r Llys yn rhy dawel a diniwed o lawer i ymdrafod a'r fath ddyn a Price, o herwydd nad oedd yn ei fywyd wedi dycbymmygu am y twyll a'r caledwch sydd yn gwneyd calon ambell gyf- reithiwr i fyny. Y pedair blynedd ddiweddafo fywyd Owain Lloyd oeddynt mewn gair yn chwer- wach iddo ef nag angau. Y gwasanaeth cyntaf o eiddo Price yn y Llys ydoedd ysgrifenu ymrwymiad priodas ihwng Gwen yr unig ferch, a Tbos. Williams, Ysw., o'r Ty Gwyn, o'r un pKyf ond rhyw fodd neu gilydd ni chym- merodd y briodas Ie, o herwydd rhyw annghydfod rhwng y touluoedd, yr hyn a berodd i ofid redeg i fynwes Gwen fel afon, a chreu cwmwl dudew dros amgylchiadau y teulu. O'r adeg y doeth Gwen i ddeall nad oedd priodi yn unol a meddyliau y teuluoedd o'r ddau tu, ni bu dydd na nos iddi fel o'r blaen ymneillduodd oddi- wrth gymdeithas, car-ii unigedd, ni fynai ymgom'o 4 neb ond anian, gan y Uwyr gredai nad oedd dim yn mysg dynion ond twyll a rhagrith. Y fath gyf- newidiad all siomiant ei wneyd ar ddyn neu ferch ieuanc. Nid oedd yr un rian yn mhlwyf Llan Ddewi yn fwy ysbrydol a thecach ei gwedd, na Gwen Lloyd yn y ffair a'r farchnad tynai sylw pawb, gan ei bod o ymddangosiad mor hardd a boneddigaidd. Ond gall siom newid drych y fein- wen hawddgar—medrodd dynu i lawr y corlf llun- iaidd, llwfrhau yr ysbryd gwrol, a chyfnewid gwedd y gruddiau oedd fel y rhosyn, trymhau y lIygaid oedd fel y ser, a phrnddhau y gwenau mwyn, a rhoi terfyn ar serchiadau un oragorolion y ddaear. Nid oedd y byd a'i bethau erbyn hyn iddi ond baich. Trueni oedd ei gweled ar Ian aiori Ollwen wrthi ei hunan myrdd o feddyliau yn gwau trwy ei meddwl ar unwaith, a'r rhai hyn oil mor drwm a'r pIwm. Nid oedd dim digonoogoniant yn naid y drithyll o'r crychyn, nac yn ngwau adau y clisiaid yn y llyn, nac yn ngban yr ehedydd yn y nwyfre, na chwaith yn man flodau y gweirddolydd, godi ei meddwl i'r lan. Ni pharhaodd y bywyd ttwnyn hir, gan i angeu wneyd ei waith, a'i thynu i dy ei bir gartref yn anamserol. Erfyniodd unpethcyn rhoi ffarwel i dad, mam, a brawd, ar wely angeu, sef iddynt fynu gweled carreg uvvchben ei gorweddle, ac yn gerfiedig arni ei henw, a SIOMIANT BYB. Yn mhen mis i'r dydd y claddwyd Gwen y cladd. wyd y tam. Ar ol yn y Llys nid oedd ond tad torcalonus, a mab afradlon. Prif hyfrydwch Edward oedd tlilyn cwn, ceffylau, ceiliogod, saethu, a physgota, I gario yr ymdrafodaethau hyn yn mlaen yn iawn, yr oedd yn rhaid cael arian i ddilyn tafarndai, er mwyn cwrdd a'i gyffelyb i roi arian i lawr yn y Jai (stakes), ac weithiau i godi yehydig i fyny, er mwyn eu gwario a chario y spri yn y blaen. Pa fodd yr oedd Edward i gael arian ? Pwy oedd ddigon gwan ei ben i roddi benthyg arian i gymmeriad fel hwn (er yn fab i wr boneddig) ? A oes rhyw un a rydd iddo ? Oes, ac un hir ei ben, a cbratf ei olwg, yn gweled yn mhell, a chalon fel mae'n isaf y fdin, ac yn dwyllodrus yn ei boll flyrdd,
! GYDA'R BEIRDD AR BRYDNAWN.
News
Cite
Share
yn mha un y mae wedi ei ysgrifenu. Mae wedi ei ysgrifenu niewn style gampus yn wir. Ond o ran hyny, nid yw yn well yn hyn na chynnyrchion ereill ei ysgrifell dalentog. Mae yn y Cofiant y peth hwnw ag sydd yn rhwym o hawlio iddo ddar- lleniad. Gwelir yn eglur ynddo garwriaeth rhwng yr awdwr a'i bwnc, cydymdeimlad, y galon ddynol yn siarad, a naturioldeb. Ond wn I ddim beth i'w alw fo. Mae yn hawddach ei deimlo na'i ddarlunio. Galwa ein cyfeillion Seisnig ef yn pathos; a chred- wyf fod llawer sydd yn ymbyfhau fod yn awdwyr yn dra lIawn o'r petit Itwnw. Wrth hyn, nid wyf yn cyfeirio at y brodyr a'r ystafelloedd gweigion; ond teimlir ei ddiffVg gan ysgritenwyr yn fynych yn ysgrifau gwyr llawnion eu deall. Byddai y Cofiant hwn yn dext book campus i'r dosparth lluosog hwnw yn hyn o beth." "Extreme I extreme! too much, brother," ebe Mr. Hughes. 0 nage, nage," ebe Giraldus, II a siarad yn ddifrifol, mae y Cofiant yn wir deilwng o garnriol- iaeth uchel iawn. Mae yn dda, Mr. Hughes. Hen arferiad sydd weai bod yn mhob oes yw ys- grifenu hanes bywyd y rhai sydd wedi ein blaenu i'r byd mawr tragywyddol, yn enwedig y rhai a gyr- haeddasant enwogrwydd a pharch yn y fuchedd hon ac mae eu hanes yn ddiau wedi bod yn fen- dith i'w dilyntvyr yn y byd, yn enwedig dynion duwiol, achyderwyf y bydd Cofiant y brawd teilwng a dirodres T. R. D. yn cael ei efelychu gan lawer. Mae wedi cael ei roddi mor dda ac mor deg, fel ag y mae ymarweddiad y brawd T. R. Davies i'w wel'd yn naturiol ynddo. Mae yn wir dda." Wei, wel," ebe Mr. Hughes, "mae yn bryd myned tua'r cwrdd. Deuwch frodyr." Ar hyn, codwyd, ac aethom allan. Ni gofiwn ddyfod yn nghyd ar ol y cwrdd," ebe Giraldus, "i gael ryw ychydig o gyfeillach gyda'n gilydd." "Mae cyfeillach yn fuddiol," ebe Dewi, "ond gofalu am bethau a gwerth ynddynt. Yr ydwyf yn hoffi bob amser i gael bod yn nghyfeillach dynion o feddwl-dynion fo yn caru myfyrio pethau a ryw sylwedd ynddynt; y pethau a fo a thuedd ynddynt i faethu i rhotidi improvement i'r meddwl. Dywed athronwyr wrthym fod ychwanegiad a didoliad yn cymmeryd lie pan fyddo defnydd yn newid ei sef- yllfa, fod gwres (caloric) yn cael ei ychwanegu at ddwfr pan yn cael ei wneyd yn ager, ac yn cael ei ddidoli oddiwrtho pan yn rhewi. Yr ydym wrth fyfyrio, meddwl, ac ymresymu, yn casglu neu yn ennill gwybodaeth, a thrwy ebargofiad yn ei cholli. Ac wrth arllwys ffrwyth y meddwl a'n myfyrdodau mewn cyfeillach y naill i'r Hall, mae yno gynnydd ac ychwanegiad yn cymmeryd lie yn y meddwl." Erbyn hyn, yr oeddem wrth ddrws y capel; ond cyn myned i mewn, meddai Mr. Hughes, Nis gall dim fod yn fwy niweidiol i gynnydd meddyliol dyn na'i fod yn whimsical. Mae trwy hyny yn agored i droi oddiwrth y gwaith y pertbyna iddo gan wa- hanol bethau. Dylai fod gan bob dyn, yn enwedig y rhai ieuainc, reol, trefn, a phenderfyniad i lynu wrthynt, cyn y byddo sail i obeithio am lwyddiant i goroni ei efrydiaeth," A chyda yna, yr oeddym yn y capel. EBWYWYSON.