Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
I AT EGLWYSI Y BEDYDDWYR YNI…
News
Cite
Share
AT EGLWYSI Y BEDYDDWYR YN NGHYMRU. Yn gymmaint a'n bod ni fel eglwys 0 Fedyddwyr yn Mountain Ash, Morganwg, wedi cael ar ddeall fod David T. Jones, gynt oddiyma, wedi dyfod yn ol olr America yn ddiweddar, dan y teitl o Welsh Spurgeon," ac yn pregethu yn bresenol ar hyd Sir Benfro :—yr ydym yn hysbysu nad yw y cyfryw David T. Jones yn bregethwr nac yn aelod gyda ni er y 3ydd o fis Mawrth diweddaf. Aeth o'r lie hwn tua'r America oddeutu mis Mai diweddaf yn ddiar- ddeledig genym ni. Pa fodd ac ar ba dir y codwyd ef i bregetliu tu draw i'r Werydd nis gwyddom ni. Gan mai yma y bu yn aelod ddiweddaf cyn ym- fudo tua'r America, yr ydym yn barnu y dylem wneyd ei sefyllfa yn hysbys, fel na fyddom ni yn adored i'n beio na'n gwarthruddo o'i blegid ef. WILLIAM WILLIAMS, Gweinidog. JAMES WILLIAMS, EVAN JENKINS, THOS. PHILLIPS, RICHARD JOHN, ? DIACON™D' DAVID JENKINS, THOMAS RICHARDS. J
CWMTWKCH A'R GYMMYDOGAETH.
News
Cite
Share
CWMTWKCH A'R GYMMYDOG- AETH. Lied farwaidd ydyw pethau wedi bod yma er ys cryn amser. Y mae marweidd- dra gwaith Ynyscedwyn wedi effeithio yn fawr ar weithwyr y gymmydogaeth yma, oblegid yn Cwmtwrch. mae y rhan helaeth. af o gloddfeydd mwn y gwaith uchod, ac mae y rhai hyny wedi sefyll er ys blwyddyn a hanner; ond y mae dynion a ddylai fod yn gwybod, yn sicrhau y bydd i'r gwaith uchod ail gychwyn o hyn i ddechreu mis Mawrth nesaf, ac os ydyw hyny yn gywir, fe welir gweithwyr Cwmtwrch yn fwy calonog nag y maent wedi bod er ys cryn amser. Mae gwaith Y stalyfera hefyd yn argoeli myned yn y blaen yn hynod o le- wyrchus y flwyddyn ddyfodol. Fe gyn- wyd ffwrnes yno yr wythnos ddiweddaf, a dvwedir eu bod yu bwriadu cyneu un etto heb fod yn hir. Y maent wedi dech- reu codi glo o ddrifft y Gilwen, perthynol i'r gwaith uchod, er ys amryw wythnosau, ac mae yn sicr o ddyfod yn un o'r gweith- iau glo mwyaf yn y gymmydogaeth. Dyg- wyddodd damwain angeuol dydd Mawrth wythnos i'r diweddaf yn mhwll glo Hen- dreforgan, ger Cwmtwrch, trwy i ddyn o'r enw John Llewellyn syrthio i'r pwll, dyfn- der pa un oedd yn agos i bumtheg llath ar ugain, a bu farw yn y fan. Banco oedd gwaith y trancedig, ac wrth ei fod yn gwthio dram i'r carriage, fe gamsyniodd yr ochr yr oedd y carriage ar lan, ac aeth y dram ac yntau yn bendramwnwgl i'r gwaelod. Y dydd Gwener canlynol, ym- gynnullodd tyrfa luosog i hebrwng ei ran farwol i dy ei hir gartref, pryd y gosod- wyd ef i orphwys yn ei wely newydd yn mynwent Cwmllynfell hyd ganiad udgorn y farn fawr. G. AB TWMI.
RUMNI A'l CHYMMYDOGAETH.
News
Cite
Share
RUMNI A'l CHYMMYDOGAETH. Mae'n amser tra rhyfedd yma, er ys mis- oedd bellach, mewn perthynas i Fedydd. Vr oeddwn I yn meddvrl na fuasai dynion yn dkl yn eu cenfigen cyhyd yn ei erbyn. Ond felly y mae wedi bod yn mhob oes oddiar yr amser y daeth taenpHiad i'r byd. Mae Solomon yn dweyd, .1 Cenfigen a ladd eipherchenog;" ond gobeithio na fydd i ddynion ddal eu cenfigen yn erbyri y gwir- ionedd wrth bleidio cyreiliornad nes y byddo iddi eu lladd. Mae Mr. Hughes, Pen- main, wedi bod yma er ys ychydig ddyddiau yn ol, yn pregethu ar Fedydd, megys ag yr hysbyswyd yn y SKREN o'r blaen, yr hyn sydd wedi peru i'r Taenellwyr i orfol- eddu yn eu hanwybodaeth. Gresyn yw meddwl fod dyn o fath Mr. Hughes yn dyfod o amgylch y wlad, i dwyllo ei gyd- greaduriaid mewn perthynas i ordinhad mor bwysig a Bedydd. Nid wyf yn gwybod beth fuasai y canlyniad o'i dwyll resymeg oni buasai i'r Parchedigion Williams a Lewis ddangos mai anwiredd noeth oedd yr hyn a ddywedodd. Nos Wener a nos Sadwrn, yr 20fed a'r 21ain o'r mis diweddaf, gwnaeth y brodyr uchod adolygiad ar ddwy bregeth Mr. Hughes, pan ag yr oedd capel Jeru- salem yn orlawn o wrandawwyr o bob enwad. Mae llawer yn methu deall beth oedd dyben Mr. Hughes wrth ddyfod i draddodi'r fath beth twyllodrus i'w gyd- ddynion. Mae rhai yn dweyd hyn, ac ereill yn dweyd fel arall; ond hyn yw fy meddwl I o'i berthynas :-Daeth rhyw wr parchus i Rumni, er ys blynyddau yn ol, i Gym- manfa ag oedd gan yr Annibynwyr, ac yn yr hon y pregethodd rhyw bregeth ardder-
•V ANTURIAETH BWYSIG.
News
Cite
Share
•V ANTURIAETH BWYSIG. MR tioi. Crefir eich caniatad i ni, drwy gyf rwng y SEKEN, i alw sylw ein brodyr y Bedyddwy at yr anturiaeth yr ydym wedi argymmeryd a hi. Teimlai llawer fod mawr angen achos Seising i'r enwad yn y rhan boblogaidd hon o'n tref, a elwir Pill- gwenlly. Ymddengys ei fod yn meddwl un ac aral], er ys talm, y dylid gwneyd rhywbeth etto, hyd fis Awst diweddaf, ni wnaethwyd dim. Aelodau gweith- gar o eglwys barchus Charles Street a gymmerasant y cam cyntaf yn y mudiad. Tua'r nn adeg, wedi i waith Llanelli, Brycheiniog, sefyll, a'r bobl gael eu gwasgaru, teimlai yr ysgrifenydd yymhelliad crvf i am- canu dros Dduw ac yn ei enw godi achos newydd yn y maes gobeithiol hwn. Felly, er cael cymhellion taer o faesydd pwysig ereill, penderfynodd ddechreu llafurio yma, a gwnaeth yn unol a'i benderfyniad yr ail Sul yn Hydref, 1861. Yn y cyfamser, h.y., rhwng Awst a Hydref, dechreuwyd pregethu ar nos Fercher o bob wythnos yn yr ystafell a ddelnyddir genym gan y Parch. Evan Thomas. Cafwyd arwyddion o foddlon- rwydd y Nef. Dychwelwyd dau, a bedyddiwyd hwy yn Charles St. Dyma y blaenffrwvth. Tachwedd 19, cafodd yr ysgrifenydd y fraint o fedyddio chwech yn nghapel y Deml. Y mae hanes y bedydd hwnw, yn nghyd a hanes corffoiiad yr eglvvys fechan, eisoes ger- bron y cyhoedd. Os Kofynir, beth am ansawdd preaenol yr achos, a pha Iwvddiant sydd yn debyg o ganlyn yr anturiaeth ? wele y y ffeithiau :-Er dechreu gyda chynnulleidfa o ddau ar bnmtheg, yn blant a chwbl, nid.ydvm wedicyfarfod ;'r braidd unwaith, heb ychwanegiad amlwg at rifedi n gwrandawwyr. Y mae gell m 0 flaen yr eghvys, yn ceisio aelodiaeth, fwy nag sydd yn yr eglwys. Gorfodir ni i helaethu ein terfynau, ae yr ydym yn gwneuthur felly ar hyn o bryd. Tebygol i'r elVbl, s'cr yw y gor- lenwir ein hystafell yn fuan iawn wedi ei helaethu. Ein gofid mwyaf fydd diffyg lie a gobeithiwn, os byw fyddwn, y gwel yr Arglwydd yn dda ein bendithio a chapel newydd cyn hir. Bwriadwn gychwyn Ysgol Sabbotho) cydag agoriad y long room, fel y gellir ei alw, ar ol yr ychwanegiad, y Sabboth cyntaf yn Ion- awr hwn. Teimlwn yn dra chjlonog yn ngwyneb derbyn profion o gydymdeimlad a dymuniadau da oddi- wrth bob eglwys Fedyddiedig, Cymry a Saeson, yn y dref; ac, fel v mae yn gweddu i ni, coleddwn hyder diysgog yn yr Arglwydd ein Duw. Pan yn j'mddyddan a gweinidog hoff a haeddbarch Charles St., dywedai nad oedd ganddo ammheuaeth yn nghylch cynnydd yr achos newydd; ac mai yr inig beth a ymddangosai yn dywyll iddo oedd, pa fodd y cynnelid y pregethwr neu'1' gweinidog yn ystod mebyd yr eglwys ?" Cwestiwn Bed bwysig i NI, hy- naws ddarllenydd ond gorweddai ar y bwrdd yn ein hymyl lyfr, a elwid "Remarkable Answers to Prayer." Yn hwn, dangosir pa fodd y dygir yn y blaen anturiaethau cyffelyb. Dadleuir yr holl secret yn ngeirian yrawdwr fel yma:—" Y mae gan y rhai hyny o bobl yr Arglwydd sydd yn gweithredu yn ol yr ysgrythyrau (megys Diar. 9. 10 1 Cor. 16. 1, 2, &c.) ddigonedd mewn lIa w bob amser 0 arian a gyfrifan t yri eiddo yr Arglwydd. Cadwant god i'r Arglwydd yn gystal ag iddynt eu hunain. Bankers yr Argl wydd yw y fath Gristionogion. Y maent yn dal yn eu llaw rhyw gymmaint o'i leddiannau Ef, a phan osodir cheque yn dwyn enw (signature) Duw ger eu bron, ni ddianrhydeddant y cyfryw. Beth, gan hyny, sydd ofynol er cael cymmaint sydd angenrheidiol o arian oddiwrth bobl yr Arglwydd? Rhaid troi yn uniongyrchol at DdIlW, a golyn iddo geisio gan ei gedyddion (bunkers)—ei swyddogion, dalu yr arian sydd eisieu allan o'i drysor Ef." Yn ddiweddar, damweiniodd, fel y dywed dyn on, i ni lettya gydag un o'r "bobl y cyfeiriwyd atynt, ac heb i ni feddwl s6n am y fath beth, dywedodd, Mi a roddaf i cliwi XI y chwarter at eich cynnaliaetli am flwyddyn o leiaf." Un arall (Cymro) a gymhellwyd gan Dduw i ymrwymo rhoddi i ni ddeg swllt ar hugain a chwe cheiniog y flwyddyn, h.y., hanner coron y mis. Nid ydym yn anfoddlawn i gyfadrlef ddarfod i ni, yn iaith y llyfr, droi yn uniongyrchol at Ddnw, a gofyn iddo Ef; eithr am droi yn uniongyrchol "atddyn- ion, nid yw yn ein bwriad wneuthur dim o'r fath beth. Y cwbl sydd genym i'w osod gerbron ein brodyr, y Bedyddwyr yw, ein bod yn llafurio yn y Pill dros Iesu Grist-nad ydym yn derbyn cyflog o un fath yn y byd —ein bod yn penderfynu glynu gyåa'i waith tra parhao i weled yn dda i'n bendithio.a'n bod, am dymhormodd bynalf, yn ymddibynol fel teuln-nid ar y plwyf, nid ar y byd, ac nid ar yr eglwys ychwaith, ond ar gyfoeth a tfyddlondeb Duw pob gras, a digon, digon yw I Bellach, terfynwn, gyda dywedyd, nid os tuedda yr Arglwydd," ond yn hytrach "pan dueddo Efe" un arall o'i bobl i wneyd rhywbeth drosom, gellir tros- glwyddo y rhodd drwy law iy enwog gyd-lafurwr yn y dref, Rev. Evan Thomas, Baptist Minister, New- port." Os ewyilysia neb gael unrhyw ffeithiau per- thynol i hanes ein mudiad a'n gwaith-hyderwn fod ein cymmeriad uwchtaw ammheuaeth—awdurdodir ni i'w cyfeirio at Mr. Thomas. Gyda gofyn maddeuant y Golygydd a'r darllenydd am y trosedd o wneyd llvthyr mor faith, gorphwysaf, Yr eiddoch yn Nghrist, Casnewydd. E. EDWAEDS. Fel un adna'oyddus a'r achos, yr wyf yn cymmeryd y cyfleustra hwn i hysbysu cyfeillion y gwirionedd trwy y wlad, fy mod yn onest yn credu fod unrhyw gymhorth a allant roddi iddo yn wasanaeth i wir grefydd. Bydd yn bleser genyf drosg'wyddo i Mr. Edwards yr hyn a anfonir i mi i'r dyben hwnw. Casnewydd. E. THOMAS.
IHANESION CREFYDDOL.
News
Cite
Share
Ceiliog y Rhedyn a'r Morgruiiyn," J. Davies a Moses Jones. Hanes y Messiah," Dl. Baker. •• Nedi Jones," Thos. Harry a Win. Joseph. Ad- roddwyd dernyn o farddoniaeth gun Thos. Baker. The drunkard," T. Baker. Y niweid i fechgyn a raerched ieuainc garu ar nos Sul," J. Morgan a M. Baker. "Vmctdydrlan rhwng Joseph Harries a'i fah (Ienan Ddu)," T. Turberville a H. Harries. Tystiai pawh oedd yn hresenol fod yr adroddiadau yn bynod ganmoladwy. Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan y cadeirydd. ac ymadavod i pawb wed. eu lhvyr foddloni, gyda hiraeth dwys am gy far fod cyffelyb.- UN OEDD YNO.