Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

HANESION CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

HANESION CYFFREDINOL. YMGYFARFYDDIAD Y SENEDD.—Fe ymgyfer- fydd y senedd i gyflawnu ei gorchwylion ar ddydd Mawrth, y 14eg, neu ddydd Ian, yr l6ego Ionawr. Cymmerodd y gohiriad i'r 7fed o Ionawr le ar ddydd Mawrth. IECRYD ARGLWYDD PALMERSTON.—Taenid y gair tua chanol yr wythnos ddiweddaf, fod iechyd Arglwydd Palmerston mewn sefyllfa beryglus ond dywed yr Express ei fod wedi deall oddiwrth ymo- fyniad a wnaethai yn mhala* ei arglwyddiaeth ei fod yn llawer gwell, ac yn gallu dilyIi ei orchwylion arferol. Dyoddefodd ei arglwyddiaeth arwyddion y gout. yn ei ddwylaw, o ba 1* y mae yn awr wedi disgyn i'w draed ond y mae pob gobaith yr ymedy yn fuan. Y PRENINES.—Da genym ddeall fod iechyd ei Mawrbydi gystal ag y gellid dysgwyl dan yr am- gflchiadau. Tybid ar y cyntaf, mewn canlyniad i farwolaeth y Tywysog Cydweddog, y gelwid ar ei Uchelder Brenino) y Dug Caergrawnt i gynnorth- wyo ei Mawrhydi a'i gynghorion yn ei gweinydd iad o achosion y deyrnas. Deallir yn awr fod ei Mawrhydi wedi penderfynu dwyn y llywodraeth yn mIaen heb help neb ond Tywysog Cymru. Y mae y newyddiaduron yn gvffredinol yn canmol y penderfyniad hwn o eiddo ei Mawrhydi. YMNEILLDUWVR YN MHRIF YSGOL CAER- GUAWNT.—Wedi pasio y gyfraith i roddi hawl i Ymneillduwyr i gvmmeryd graddau yn y brifysgol. derbyniodd Mr. William Johnson, athraw parchus ysgol Ty Llandaf yn Nghaergrawnt y gradd o B.A., yn ngholeg Corpus Christi, lie yr oedd efe wedi derbyn ei addysg. Wrth ofyn i'r coleg hwnw roddi ei enw ef ar y bvrddau, fel y gallai fyned yn mlaen i dderbyn y gradd o M.A., gwrthodwyd ei gais, o herwydd nad oedd ef yn aelod o'r Eglwys Sefydl- edig. Da genym ddyweyd, modd bvnag, ddarfod i aelod enwog a pharchus o'r senedd ddwyn yr achos o ftaen aelodau hynaf Coleg y Drindod, a .phasiwyd trwy bleidlais unfrydol fod i Mr. Johnson gael derbyniad i'r gymdeithas anrhydeddus hono. TRACL RHYFEL YR UNOL DAI<BITHIAU. Y mae yn debyg fod sefyllfa gyllidol Llywodr. aeth yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd yn ffafriol i heddwch. Yn 01 adroddiad Mr. Chase, ysgrifenydd y drysorfa, bydd y draul am y flwyddyn yn di weddu Gorphenaf. 1-862, yn cyrhaedd i uwchlaw ^108,000,000. Mae hyn yn fwy o £ J24,000 000 na'n traul ni yn ystod y flwyddyn fwyaf costus o ryfel y Crimea. With gwrs rbaid cyfarfod a'r draul aruthrol hon trwy gynnyddu y trethi. Addefa yr ysgrifenydd ei fod wedi gorgyfrif cyllid y tollau am 1861, ac am hyny annoga ar fod i'r trethi ar siwr, te, a choffi gael eu codi. Cynnygia hefyd osod ttethi newyddiod ar wlybyroedd dystylliedig. tybacco, arian nodau, a phapyr; a chyda'r trethi hyn a threthi yr incwm gobeithiai wneyd i fyny y cyllid. Y mae wediechwyna 197 o filiynau o ddoleri er mis Gorphenaf diweddaf. Os pery y rbyfelyn bwy na chanol yr haf nesaf, eyfrifi\y bydd y ddyled gyhoeddus yn Gorphenaf, 1863, yn cyr- haedd i 900,000,000 o ddoleri, neu oddeutu £ 200,000.000. Y mae Llywodraeth yr Undeb yn dechreu teimlo mai peth dychrynllyd o gostus ydyw rbyfel. RHYFEL AG AMERICA.—Dydd Mawrth, Rhag. 17eg, ymgyfarfytldodd corff cyffredinol Gweinid- ogion Protestanaidd Ymneillduol y tri enwad, y rhai sydd yn preswvlio yn ac o gwmpas dinas Llundain, yn Llyfrgeil y Cynnulleidfawyr, Bloom- field street, i gymmeryd perthynasau presenol y wlad hon ag Unol Daleithiau yr America o dan) ystyriaeth—Parch. Proffeswr Hoppus, D.D., yn y gadair. Mabwysiadwyd penderfyniadau yn nn- frydol I- yn condemnio rhyfel ag America fel trychineb nas gallai y cyfarfod edrych arno heb y teimladau dyfnaf o ofid a dychryn-ýn galw ar holl Gristionogion y ddwy wlad i arfer eu holl ddylanwad yn trafr heddwch—ac yn taer annog, yn lie apelio at y cleddyf, fod i'r mater mewn dadl gael ei benderfynu trwy gyflafareddiad, fei dull mwy cysson &'r egwyddor Gristionogol, a tnwy teilwng o gymmeriad dwy genedl oleuedig yn dal perthynas agos a'u gilydd.Ar yr un diwrnod fe ymgyfarfyddodd pwyllgor Undeb Cynnulleidfaol Lloegr a Chvmrll i'r un dyben, a phasiasant ben. derfyniadau cyffelyb, ac hefyd mabwysiadasant anerchiad gyda golwg ar y cweryl presenol oddi- wrth Gynnulleidfawyr Lloegr at yr Eglwysi Cyn- uulleidfiiol yn yr Unol Daleithiau. SAETHU TAD GAN El FAB.—Nos Fercher, Rhag. 19fed, cymmerodd dvgwvddiad galarus le yn Birmingham. Saethwyd dyn o'r enw James Mil- lard, 42 mlwydd oed, yr hwn oedd yn byw yn Adelaide street, Lombard street, yn ei ben, gan ei ftb John Millard, 17 mlwydd oed, dan amgylch- iadau hynod. Yn fuan ar ol naw o'r gloch, nos Fercher, aeth John Millard adref gyda llawddryll a brynasid ganddo, ac ar ol cliwareu gyda:; ef, a'i ganmawl am beth amser, rhoddodd ergyd ynddo. Yn fuan ar ol hyny daeth ei dad adref, yr hwn oedd wedi bod allan yn feddw, ac eisteddodd i lawr. Edrychodd am beth amser ar ei fab yn chwareu gyda'r llawdryll, ac yna gofynodd iddo yn bwyllog ei saethu ef. Efe a ofynydd hyn lawer gwaith, a chododd y mab y llawddryll i tyny bob tro fel pe buasai am saethu ei dad, ond cyfryngodd ei fam hob tro, am ei bod hi yn meddwl, er fod y cwol yn cael ei wneyd mewn ysmaldod, fod perygl i'r ergyd fyned allan yn ddamweiniol. Yr oedd ganddi, ar ol hyny, achos i fyned o'r t9; ond nid seth yn mhell, ac fel vr oedd hi yn dychwelyd, clywai sw^n ergyd yn nghyfeiriad y ty, ac yn ddioed rhuthrodd ei mab allan o'r tk a rhedodd ati, a dywedodd, "Yr wyf wedi saethu fy nhad." Hi a redodd i'r tycyn gynted ag y gallai, pan y cafodd ei g&r yn gorwedd ar y Ilawr, wedi ei saethu yn ei ben a bwlet. Ynll. galwyd Dr. Jordan, a meddygon ereill i mewn, a gwelsant fod y bwlet wedi myned i ben y dyn anfFodus yn ymyl ei glustaswy, ac wedi sefyll yn ei ymenydd. Symudwyd y dyoddefydd, yr hwn oedd yn ddideimlad, i Ysbytty y Frenines, yn y dref hono. Cymmerwyd y mab i fyny, ac y mae yn awr yn ngharchar yn aros ei brawf. OFEKGOELEDD RHYFEDD.—Dygwyddodd am- gylchiad tra ryfedd yn ddiweddar, yr hyn a ddaeth i'r goleu o flaen yr ynadon yn Macclesfield yr wythnos ddiweddaf. Gwraig i ffermwr a gyhuddai gipsy o'r enw Priscilla Heaps o ledrata oddiarni hi X43 10s. Ymddengys fod y gipsy wedi darganfod cymmeriad y ffermwraig ar yr olwg gyntaf a gafodd ami, ac yr ol trefu gyffredin ei llwyth, hi a'i hys- glafaethodd. Yr oedd y ffermwraig yn glaf, a dywedai y gipsy wrthi mai wedi ei rhibo ydoedd, a chan mai er arian y rhibwyd hi, ag ariau y dad- ribid hi." Y wraig ffol druan yu credu hyn, a osododd yn nwylaw y gipsy bedwar bill £ 10, a thri phenadur a hanner, dan yr addewid y dychwelid y cwbJ iddi yn fuan. Aeth y gipsy ymaith, ac nid oes eisieu dweyd na ddychwelodd hyd nes y dyg- wyd hi yn ol gan hedageidwad. Traddodwyd y gipsy i garchar i sefyll ei phrawf yn y brawdlys nesaf. TORl'a. SABBOTH.—Arforeudydd Sul yn ddi- weddar, fel yr oedd nifer o blant yn myned i'r ysgol Sabbothol yn Jabes, Dyfed, gwelsant gert, a hwnw yn perthyn i ofleiriad oedd yn byw o fewn can milldir i Drefdraetb, yn tramwy dros y ffordd. Aeth yn ddadi rhwng y plant yn y man pa un ai dydd Sui ydoedd ai peidio. Dechreuodd rhai o honynt edrych ar eu traed, er gweled a oedd eu hesgidiau wedi eu glanhau Haerai rhai mai nid dydd Sul ydoedd, onide ni fyddai yr offeiriad yn danfon allan ei gert ar y dydd hwnw, gan el fod yn arfer rhyhyddio ei wra.idawwyr i gadw yn santaidd y dydd Sabboth. Fodd bynag, daeth y plant i ben- derfyuiad mai nid dydd Sul ydoedd, a throisant yn ol gan gredu eu bod wedi colli diwrnod; ac mae achos ofni fod yr offeiriad wedi colli diwrnod hefyd, ac nad oedd wedi parotoi un bregeth erbyn y dydd hwnw. Cynghorem yr offeiriad i dynu ei bregeth nesaf oddiwrth Deut. 5. 13, 14, a gall diweyd ar ei diwedd fel yr offeiriad gynt wrth ei wrandaw- wyr, Gwnewch fel yr wyf yn dweyd, ac nid fel yr wyf yn gwneyd." MAJOR YELVERTON A MRS. LONGWORTH YELVERTON .-Cofus gan ein hall ddarllenwyr am y trial mawr yn Dulyn ychydig fisoedd yn ol rhwng y diiau uchod, yn yr hwn yr ymdrechai Major Yelverton brofi nad ei wraig, eitbr ei ordderch- wraig, ydoedd Mrs. Longworth Yelverton, yn yr hwn gynnyg y darfu iddo lwyr fethu. Y mae trei- alon newydd yn myned yn mlaen yn yr Iwerddon a'r Ysgottard yn awr. Yn yr Ysgotland y mae elfen newyrid wedi ei dwyn i mewn i'r treial. yr hon nis gall lai na pheru i bob dyn o synwyr cyffredin i chwsrthin yn iachus. Myn Major Yelverton nad oedd "gwaed pui yn rhede& drwy wythienau Mrs. Yelverton ar ochr ei mam Cydnabyddir mai boneddwr oedd ei thad, ond mai un o'r 1* werin oedd ei mam! Gofynir gan bawb sydd yn gwybod rhywbeth am achau y Major dewr hwn, pa bryd y dechreuodd y gwaed pur" ffrydio drwy wythienau ei achau ef. Mae yn debyg mai siopwr llwyddiannus oedd ei dadcu, ac etto y mae yn hawlio i'ldo ei bun" waed pur." Y mae yn rhyfedd fod y fath sothach a hyn yn cael siarad am (iano mewn llys cyfreithiol. Pe buasai Miss Long- worth wedi tarddu o'r achau distadlaf dan haul, a'r Major mawreddog hwn wedi disgyn mewn llinell union oddiwrth ei Uchelder Nefol Amher- liawdwr China, buasai y briodas rhyngddynt yr un mor rwymedig a phe byddent yn hollol gydradd. Son am waecl pur, yn wir! Buasai cywilydd ar y crefftwr gwaelaf i arddel perthynas ag un y llusg- wyd ei enw drwy y llaid mor ofoadwy yn Dulyn a Major Yelverton, yr hwn a'i waed pur" a ser- iwyd a dunod amlwreigiaeth, au a brofwyd yn euog o'i enau ei hun o gynllunio-ond yn ofer—brad- wriaeth yn erbyn ei wraig ei liun. IWERDDON.—Y mae cyflafan erchyll wedi ne- wydd ei cbyflawnu yma. Llofruddiwyd dyn o'r enw Carleton, yn Enniskillen, yn y modd wwyaf barbaraidd. Yr oedd ei daleen wedi ei fwrw i mewn, a'i wddf wedi ei dori mewn modd ofnadwy. Drwgdybir dau filwr, ond nid oes neb mewn dalfa am y weithred hyd yn hyn. Y LLOFRUDDION.I—Mae y crwt Reeve, yr hwn a gafwyd yn euog o lofruddio ei chwaer yn Drury Court, er wedi derbyn dienoediad oddiwrth ei Mawrhydi, etto yn gorwedd yn ngharchar New- gate felly y dyn Maloney, yr hwn hefyd a ddien. oedwyd am lofruddiaeth ei wraig yn Westminster. Deallir fod ymchwiliadau pellach yn caeleu gwnayd i achos yr olaf.

LLOEGR AC AMERICA.

GOIIEBIAETH 0 LUNDAIN. -