Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

-----------.. LLYTHYR 0 AMERICA.

News
Cite
Share

LLYTHYR 0 AMERICA. Derbyniwyd y llythyr canlynol gan riaint yr ysgrifenydd, ac ar eu dymuniad, mae yn 0 dda genym ei gyhoeddi:— YOUNGSTOWN, Tachwedd 25ain, 1861. Fy ANWYL DAD A PHERTHYNASAU,—Trwy drugaredd a tliiriondeb yr Arglwydd tuag atom, yr ydym wedi ein gadael ar dir y rhai byw, lechyd yn ein cyrff, a nerth yn ein fferau, ac yn cael digonedd o bob rheidiau er cynnal corff ac enaid mewn undeb ond er y cwbl, nid yw mor gysuriw ag y gwelsom hi mae y rhyfel presenol yn effeithio yn drwlll ar y wlad, ac yn peru i'r tlawd deiralo. Yr oedd America ar ei chynnydd o ran ei gweithfeydd cyhoeddus, a phethau ereill; a chalonogodd pasiad y Tariff Bill amryw i ffurfio yn gwmpeini yma ac acw trwy y wlad i suddo eu capital mewn agor gweithiau glo, adeiladu ffwrnesi, a chychwyn hen weithfeydd, pa rai oedd ar stop er ys llawer blwyddyn ond erbyn eu bod wedi dyfod yn barod i gychwyn yr olwynion, dacw Jefferson Davis a'i gabinet wedi dyfeisio ffordd i'w hattal! Eisteddle y cynllunwyr yw dinas o'r enw Mont- gomery, yn Nhalaeth Alabama, ac yn y Neuadd wen ar lan yr afon mae ei Senedd-dy, yr hwn a alwaf yn ddarllawdy, lie y mae Jeff. a'i gwmni wedi bodyn darllaw trwyth, ag sydd yn fwy niweidiol i'r eyfansoddiad nag yw cohiius indtktts neu alcohol: a dacw hwy ar esgyniad Abraham Lincoln yn dan- fon Mr. Jeff. Davis, megys commercial rider, gyda y Lightning Express Train, a siampl o'r trwyth, i'w gynnyg i'r hen Abraham a'i gabinet; ond ni chaf- odd ef na'i siarnpl ddim welcome. Fodd bynag, bu yn ddigon hyf i ddywedyd wrthynt, os na dder- bynient ef trwy deg, y buasai yn rhaid iddynt ei gymnieryd drwy drais; ac y mae wedi bod yn un ft'i air. Dyma y whul wedi gorfod yfed o hono, nes ydyw masnach wedi ei meddwi, a'i gosod i gysgu ae, yn awr. mae lie i ofni fod llawer o'r blaenoriaid hefyd wedi yfed yn ormodol o'r trwyth. Gellir eu tebygu i ambell i feddwyn a welwyd yn Nghymra ac America, tra daa ddylanwad y trwyth, yn bygwth ac yn rhuo yn ofnadwy ond dacw ddyn wedi ei wisgo ag arwyddluniau y llywodraeth (sef yr heddgeidwaid) yn ymaflyd ynddj, ac yn ei ddwyn yn hollol feddiannol o hono ei hun felly mae v blaenoriaid yn y terfysg hwn— maent yn bygwth ae yn siarad, ond heb wneuthur dim oddieithr bwyta y wlad fyny &'u cyflogau mawrion, a danfon y tlawd yn dlotach, a dwyn y boneddwr i sefyllfa gwas; ac y mae yn eitliaf amlwg y bydd yn rhaid i ryw lywodraethau ereill, cyffelyb i Ffrainc a Lloegr ddyfod allan, fel math o hedd- geidwaid, ac ymaflyd yn y gorchwyl o sobreiddio y ddwy blaid, a gwneuthur iddynt aidystio y pledge undebol, ac i fyw yn unol a'r cyfansoddiad. Mae cyflwr y wlad yn resynus yn bresenol. Er ys ychydig yn 01, y siarad oedd, Yr ydyin wedidodi yr iawn ddyn yn yr iawn Ie, sef gosod McClellan yn Field Marshal; mae efe yn sicr o wastadhau y gwrthrytelwyr; efe yw'r dyn i ddwyn pelhau i drefn." Yr oedd vn bob peth er ys ychydig fisoedd yn ol. Yr oedd wedi bod allan yn y Crimea yn amser y rhyfel, ac yn llygad-dyst o frwydr Alma ac Inkerinann a thybiai yr A mericaniaili ei fod wedi llyncu hot! drefniadau, a dysgu yr oil o'r war tactics ag oedd Arnold, Canrobert, Pellissier, Raglan, a Simpson, yn wybodus o honynt; ond nid gwiw gwneuthur dal arnynt, maent mor eaciteful. Wedi ei dderchafu a': osod yn y rhes llaenaf fel llywydd ar faes y frwydr, dyma yr un personau ar faes yr un cvhoeddiadau yn siarad am ei supercedo, am na bai yn ymlid y gelynion ar ffo, heb wyr wedi eu dysgu, heb arfau, heb ddarpar- iadau gogyfer a chychwyn. Byddai yniosudiad or fath yn debyg o droi allan yn anfuddugoliaethus. Galleru feddwl y dylenl hwy fod wedi eu hargy- hoeddi i beidio ejchwyn brwydr yn anmharodwedi un Bull's Run; cafodd y wlad yn gyffredin weled nad yw crug o boliticians o fawr gwerth i lywyddu ar faes y frwydr, ac ymfoddloni i gychwyn ar y Sabbath, a dweyd, Goreu bo'r dydd, goreu bydd y weithred." Ond mae McClellan wedi gwneuthur dau fudiad da, yn ol fy meddwl I, sef codi com- manders o'r rhai profiadol, a rhoddi gorchymyn i an- rhydeddu y Sabboth, trwy ei gadw yn 01 y gorch- ymyn sydd yn llyfr Exodus. Gobeithio y bydd iddo hefyd i enforco'r cyfreithiau ar y bradwyr sydd yn britho'r fyddin a'r llynges. Yr wythnos ddiweddaf, diangodd un o secret clerks y llynges i'r South, a dygodd gydag ef yr oil o'r maps a'r cynlluniau. Y chydig cyn hyny, gadawoda commander y blockade yn New Orleans i un o longau y South fyned allan fi dau gommis- sioner ar ei bwrdd, un i Ffrainc, a'r Hall i Loegr, ac mae rhywbeth cyffelyb yn dygwydd beunydd* Paham na tharewir y post nes y byddo y glwyd yn crynu Y rheswm, yn ol fy meddwl I yw, fod gormod o deimlad yn y congress tuag at y caeth- ddalwyr ac mae lie i ofni fod rhai o honynt yn dal caetbion yn bresenol, ac mewn rhan yn ble diol i'r gwrthryfel presenol; ond nid yn ddigon amlwg, neu mae yn lied debyg y caent eu rhyddhau o'u swyddau, a gresyn na byddai iddynt ymddwyn mor onest a Breckenridge, yr hwn a fu yn fradwr per- ffaith am rai misoedd, fel aelod Seneddol; ond pan welodd fod y wlad o ddifrifam gael ei bender- fyniad mewn llw, i fod yn ffyddlawn i'r constitu. tion, methodd ei gydwybod a chaniatau iddo dyngu llw o anudon, ond yn hytrach caniataodd ei goesau iddo ddianc i'r South, at ei debyg; ac oni bai fod yma ddynion yn well eu hegwyddor na General Patterson, o'i rhan ef buasai Jefferson Davis yn eistedd ar y gadair lywyddol yn y Ty Gwyn, yn Washington, a slavery and cotton wedi myned yn arwyddair trwy yr holl gyfansoddiad. Yr oedd Patterson yn un o'r commanders yn ffrwgwd Bull's Run, a nifer o filoedd dan ei gommand, ac yr oedd wedi cael gorchymyn o'r Flag Staff i wylled na fuasai adgyfnerthion yn dyfod er cynnorthwyo y bradwyr ond buasai yr un peth yn union rhoddi gorchymyn i leidr i wylied annedd-dy rhag y buasai ereill o'r un gymdeithas ddyfod, a thori mewn, a lledrata. Felly yr oedd yma; dacw Johnston, un 0 generals y South, yn dyfod i'r golwg, a thua deng mil o wyr dan luman y Deheu, i gynnorthwyo ei gyfeillion yn Bull's Run. Yr oedd Patterson yn wybodus am eu dyfodiad, a gallasai fod wedi sicr- hau math o gagendor i'w rhwystro pe buasai yn ewyllysio. A wnaeth ef hyny ? JVa do. WeJ, paham na fuasai ? Am fod ei holl gyfoeth a'i feddiannau yn y Dehau. Pa reswm i ddyn agsydd yn werth tua deuddeg cant o Niggers, a'r rhai hyny oil yn y talaethau gwrthryfelgar, godi arfau yn erbyn ei hun ? Mae deuddeg cant o Negroaid ya werth tipyn. Dywedwn eu bod yn cael eu averago i 500 o ddolar, neu gan punt yr un o arian Prydain. Ond, beth wnaeth y llywodraeth iddo? Gwnaeth yr un fath yn gymhwys ag y buasai un o gaffers yr lien wlad yn wneyd i ddyn tlaw i a fuasai yn troseddu yn ei erbyn, sef rhoddi'r sack iddo, a'i adaet i pidio yn rhydd. Ai fel yna y gwnelsai llywod- raeth LI'>egr pe buasai i un o'i hofficersi ymddwyn yr un fath a hyny mewn rhyfel ? Nia yw o un detnydd yu y byd i osod dynion cyfoethog i lywyddu mewn rhyfeloedd; gw ell fyddai i'r cyfryw aros yn dawel yn eu palasau' ac ym- i'r c. bleseru ar hyd eu rhodfeydd, a gadael men of experience i ddangos i'r wlad a'r byd mai hwy yw y dynion iawn i ddwyn pethau oddiamgylch. Dyna John C. Fremont, Pathfinder y Rocky Mountain, pherchen Mexico Newydd, yr hon dalaeth sydd yn llawn mwnau o'r fath ddrutaf, yn amser toriad allan y gwrthryfel presenol, yr oedd yn Llundain r ryw neges; ond pan glywodd fod ei wlad yn myned i ryfel, gadawodd y cwbl, a pharotodd i ddychwelyd gartref; ond eyn cychwyn, prynodd ryw 'awer o ddefnyddiau rhyfel ar ei gost ei hun, a hwy'iodd a hwynt yma. Wedi gweled ei ambition gymmaint, cynnygiwyd ef i fod yn brif-lywydd y (Jreat South West, a mawr oedd twrw y wlad am dano, a'i holl siarad oedd, The right man in the right place ond erbyn fod y waedd wedi cyr- haedd o ddyffryn Mississippi i lanau y Werydd, dacw waedd arall yn ei dilyn, fod General Lyons wedi ei glwyfo yn farwol, ac yn taflu yr holl fai ar Fremont. Erbyn fod hono wedi cael ei siarad drosodd, dyma waedd arall yn dyfod, fod Colonel Mullighan wedi cael ei orchfygu, a gorfod rhoddi Lexington i fyny, sef dinas ar lan afon Missouri, a cholli chwarter miliwn o ddoleri, a hyny am na buasai Fremont yn danfon adgyfnerthion iddo, ae yntau yn gwybod ei sefyllfa. Wei, beth fu y can- lyniad? 0, ei supercedo, a gosod Hunter yn ei le. Oni fuasai yn well gadael General Lyons i syrthio a'i goron ar ei ben na myned a'r swydd oddiwrtho,

LLOEGR AC AMERICA.