Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

TRAETHODAU.

News
Cite
Share

TRAETHODAU. Y BEIBL GWYN. BREUDDWYD. YR oeddwn yn meddwl fy mod gartref, ac ar fy ngwaith yn cymmeryd i fvny y Testament Groeg (fel y byddwn arfer), i ddarllen pennod, darganfyddais, er fy syndod, fod yr hen lyfr a arferai ymddangos mor gartrefol yn hollol wyra, nid oedd yr un llythyren ar gael yn un man. Meddyliais ar unwaith mai damwain vdoedd- fod rhyw lyfr arall wedi cynimeryd ei le ac heb aros i chwilio am dano, cymmerais i lawr hen gyfrol fawr wythplyg, yr hon a gynnwysai yr Hen Destament a'r Newydd er fy syndod, yr oedd hwn yn hollol wyn o'r dechreu i'r diwedd. Yr oeddwn yn meddwl mai nid peth anmhosibl oedd i'r ddwy gyfrol gael eu newid mewn camgymmeriad. ac felly estynais fy llaw at gopi o Feibl Hebraeg, mewn trefn i ddarllen un ben nod. Er fy mawr syndod, a rhyw beth tebyg i ofn, canfyddais fod v gyfrol hon hefyd yn hollol wvn. Tra yr oeddwn yn synfyfyrio ar y dygwyddiad hynod hwn, daeth fy morwyn i'r ystafell, i'm hysbysu fod lladron wedi tori i'r ty y nos o'r blaen, ot>legid fod ei Beibl, yr hwn a adawodd ar y bwrdd y nos o'r blaen, wedi ei symud, a chyfrol arall o'r un maintioli, ond wedt ei wneuthur o bapur gwyn, wedi ei adael yn ei Ie. Ychwanegodd, dan wenu, mai lleidr lied hynod oedd, am nad yw yn beth cyffredin gweled lleidr yn lladrata Beibl, a'i fod wedi gadael un arall vn ei le oeddyn achos o syndod ychwanegol. Gofynais iddi a oedd rhywbeth arall ar goll, ac a oeddarwyddionyn ganfyddadwy fod Iladron wedi tori i mewn. Atebodd yn nacaol i'r ddau gwestiwn ar hyn, dechreuais ofni a theimlo yn lied anesmwyth. Ar fy mynediad allan i'r heol, cyfarfyd.lais a chyfaill, yr hwn, cyn braidd cymmeryd ham- dden i ofyn fy hynt, a ddechreuodd ddwevd wrthyf am ddygwyddiad hynod a gimmerodd le yn ei dy y nos o'r blaen. Dywedodd fod lladron wedi bod yn ei dy, gan gymmeryd ymaith bob copi o'r Beibl ag oedd ganddo, a gadael llyfr gwyn o'r un maintioli yn lie pob un. Ar fy ngwaith yn ei hysbysu fod yr un peth wedi dygwydd yn fy nhy innau, dechreu- y ais feddwl fod mwy yn y peth nag a feddyliais ar y cyntaf. Ar ein gnaith yn myned yn mhellach, cawsom bawb yr un mor ddyryslyd, yn syn am yr un golled; a chyn y nos yr oedd yn eithaf amlwg fod rhyw wyrth fawr wedi cymmeryd lie yn y byd mewn un nos- waith, yn araf, ond yn eithaf effeithiol, fod y llaw hynod hono ag oedd wedi ysgr fenu y geiriau rhyfedd hyny ar barwydydd llys y brenin, wedi gwrthdroi y wyrth-wedi dileu pob sill a llythyren a gynnwysai ein Beiblau, ac felly alw yn ol y fendith fwyaf werthfawr a gafodd dyn erioed, ond a gamddefnyddiwyd gan ddyn anniolchgar. Yr oedd yn achos syndod wrth sylwi ar yr effaith a gafodd hyn ar wahanol fathau o ddyn- olryw. Yr oedd yna ddyddordeb cyffredmol yn awr, beth bynag, yn cael ei gymmeryd yn achos y Beibl, y fath ag na ddangoswyd erioed cyn ei golli; a phe buasai rhywun mor fior- tunu's a meddu hanner cant o gopiau o hono, buasai yn sicr o wneyd ei fortune. Un hen gyfaill lied anturiaethus, mor fuan ag y dech- reuodd yr hanes am y peth ledaenu, a frysiodd i ystorfa y Feibl Gymdeithas yn Paternoster Row, i gynnyg prynu am bria da unrhyw gopi o'r Beibl a ddygwyddai fod ar law; ond hys- byswyd yr ben gyfaill nad oedd yr un copi ar gael. Nid oedd y rhai ag nad oeddynt wedi edrycn pa un ai gwag ai llawn oedd eu Beiblau, yn llai eu stwr a'u gofid pan yr hysbyswyd hwynt o'r peth gan eu cvmmydogion. Un hen foneddwr ag nad oedd erioed wedi tra- fferthu dim ,n nghylch y Bfibl, a ddywedodd ei bod yn rhy ddrwg ei fod yn caeleiamddi- fadu o'i (/refydd yn ei lien ddyddiau; ac un arall, yr hwn oedd wedi byw bywyd digon an. ystyriol, a ddechreuodd ofni fod moesoldeb mewn perygl; ofnai y cai y peth "effaith ddrwg ofnadwy ar rinwedd a moesoldeb y wlad." Gan fod y newyrid erbyn hyn wedi ym- daenu trwy y wlad fel tan gwvllt, yr oedd yn naturiol, feI gyda phob gwyrth arall, fad yno rai dynion dipyn yn fwy crafl na'r c)ffredin, yn gweled rhyw dwyli yn y peth, Yr oedd rhai nad oeddynt yn credu y peth —buasai hyny vn eu gwneyd i ymddangos fel dynion ereill. Un hen fachgen annghrediniol, yr hwn oedd wedi hod yn cadw ei wely am flynyddau, a fu yn hir iawn cyn credu (os, yn wir, y credodd o gwbl) fod dim byd rhyfedd wedi cymmeryd lie yn y hyd; ar v dechreu, yr oedd vn cyfrif yr hanesion a glywai i haer- llugrwydd ei wasanaethvddion, a rhyfeddai eu bod yn meiddio gwneyd digrilwch o'r fath beth. Wrth gael fod y pethau hyny yn cael eu cadarnhau gan y cymmydogion a'i gydna- bod, dechreuodd hisian, gan ddweyd eu bod mewn cynghrair a i wasanaethyddion. Ar eu gwaith yn dangosiddo hen Beibl a adnabyddid ganddo wrth y rhwymiad, ond ni wyddai yn y byd mawr yma beth oedd ynddo, dywedodd mai gorchwyl hawdd oedd newid un llyfr yn lie y llall, er nad oedd yn gallu rhoddi cyfrif am ddyben y bobl yn cymmeryd y fath dra- fferth ac ar eu gwaith yn sicrhau iddo fod y peth yn wirionedd, dechreuodd fyned i natur ddrwg, gan eu galw yn bob peth ond boneddig- ion. Ar eu gwaith yn dwyn ger ei fron faich o Beiblaugwynion.athystiolaethauycymmyd- ogion mewn perthynas iddynt, llanwyd ef gan ddigofaint. "Gyda golwg ar y cyfrolau, meddai, "nid gorchwyl anhawdd fuasai cael llwyth Hong o honynt; a diamheu eu bod wedi eu ceisio er mwyn cario yn mlaen eu twyll; yr oedd ef yn fwy boddlon i gredu fod yr holl fyd wedi ymgynghreirio yn ei erbyn, na chredu y fath ffolineb." Yr oeddynt hwythau yn eu tro yn lied ddig wrth ei annghrediniaeth, a dywedasant wrtho ei fod yn camgymmeryd yn ddirfawr os oedd yn meddwl eu bod hwy yn ei dwyllo. Nid oeddynt hwy yn gofalu ffyrling ddrwg pa un a gredai ai peidio; os nad oedd yn foddlon i gredu y peth, yr oedd at ei ryddid i beidio. Para yn gvndyo yr oedd yr hen gyfaill o hyd, gan ddwyn yn mlaen y rhesymau mwyaf ffol, nes o'r diwedd i un o'i berthynasau, bachgen ysbrydol oddeutu 14 oed, dori allan i chwerthin ond daeth yn ys- tyriol ddigon pan yr hysbyswyd ef gan ei dadcu digiedig na byddai iddo adael dim iddo yn ei ewyllys. Nid ydym yn gwybod a gred- odd yr hen lanc rywbryd ai peidio. Pur wahanol i achos yr anngbredadyn hwn oedd eiddo un foneddiges adnabyddus i mi, yr hon hefyd oedd wedi ei charcharu yn ei hys- tafell wely er ys amser maith, i'r hon yr oeddy Beibl wedi bod, lei i filoedd ereill, yn gydym- aith ffvddlon a gwastadol. Cefais hi yn edrych yn syn-fyfyriol ar y Beibl gwyn, yr hwn mor

. y«it IGIWTSIG. r,\.