Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

GOIIEBIAETH 0 LUNDAIN. -

News
Cite
Share

GOIIEBIAETH 0 LUNDAIN. Claddedigaeth y Tywysog Cydweddog- Darlith Mr. George Thompson ynnghapel Surrey ar y JRhyfel ag America- Y Dr. Williams o Goleg Llanbedr ac Esgob Salisbury. MARWOLAETH disymmwth a chladdedig- aeth buan y Tywysog Cydweddog ydyiit wedi bod brif destunau siarad v Brif-ddinas yn ystod y pytnefnos diweddaf. Y mae teimlad o hiraeth dwys yn gyfFredin ar ol y Tywysog rhinweddol bwn; a phan y dygir ar gof ei luosog weithredoedd da, ac na ddarfu iddo erioed ymyru mewn pethau gwladol, eithr gadael i bob plaid boilticaidd yn Ilonydd i weithio ei ffordd yn mlaen neu suddo yn ol ei theilyngdod neu ei hannhei- lyngdod,—pan y cofir y pethau hyn, nid yw yn rhyfeddod yn y byd fod cymmaint o hiraeth yn cael ei deimlo a'i ddatgan ar ol y Tywvsog Albert. Boreu dydd Llun cyn y diweddaf cludwyd ei gorff i'r bedd. Nid mynych v gwelwyd dyn yn llanw y sefyllfa uchel a lenwai ef, yn cael ei gladdu mewn dull mor syml. Dywedir mai dymuniad amlddatganedig y Tywysog oedd iddo gael 0 t5 ei gladdu yn y dull symlaf; ynganai hyn yn fynych pan yn ei berffaith a'i gyflawn 'echyd, pan nad oedd cymmaint a llun llaw y dinystrydd yn y golwg. Cyflawnwyd ei ddymuniad. Onid ydyw dymuniad u'r fath vii profi nad oedd ei Ucheled Breninol yn meddwl llawer am rwysg a mawredd daearol ? Y mae yn ymddangos felly i mi, beth bynag. NiJ annyddorol efallai i fil- L, y oedd Cymru fyddai gair neu ddau o ber- thynas i ymddangosiad y Brif-ddinas y diwrnod y claddwyd y Tywysog. Cadwyd y dydd fel dydd galar; yr oedd yr holl lasnachdai, mor bell as* oedd hyny yn ddi- cholladwy, wedi eu iau, ac er fod yr aiandai yn gorfod bod yn agored, ychydig o drafn- idaeth a gerid yn y blaeu. Gyda golwg ar y Llythynly Cvffredin, ni wnawd ond y gwaith nahebgorol, megys ag ar y Sabbath, ftC ni chiudwyd y llythyron oddiamgylch unwaith yn yøtod y dydd. Yr oedd y liys- oedd a'r swyddfeydd cyfreithiol yn hodol gauedig. Arbobun o'r adeiladaethau cy- hoeddus yr oedd Uumanau yu chwyfio half- mast hiyh, felly heiyd ar y myrdd llongau yu yr afon. Yr oedd galarwe am goes chwip gyrwyr yr holl gerbydau cyhoeddus. O. ddeuddeg o'r gloch, pan oedd yr orym- daitb angladdol i gychwyn allan o Gastell Windsor, tanid magnel bob mynyd yn y Pare ac yn y Twr; felly hefyd yn Wool- wich, Amddiffynfa Tilbuiy, a lleoedd ereill. Dylaswu fod wedi dweyd tod ttjarwolaeth y Ii '.f'f 4 B.+TTJI Jii-jO L: J Tywysog wedi bod yn destun cyfeiriad i raddau mwy neu lai yn koll Gapeli ac Eg- lwysi y ddinas y Sabbath cyn yr angladd, ac yn ol yr hvnwyf yu ddarllen yn y papurau, cyfeirid at yr un amgylchiad gofidus yn holl pwlpidau y deyrnas. Yn Llundain telid teyrngedau hyawdl i'w goffadwriaeth, ac yr oedd pob cynnulleidfa braidd mewn galarwisgoedd, tra yr oedd yr Eglwysi a'r Capeli w..di eu gorchuddio hefyd Sgarwydd- C5 ion galar i raddau na welwyd erioed o'r blaen. Mewn rhai o'r cyfryw leoedd, yr oedd y cynnulleidfaoedd mor dýn, fel yr oedd yn angenrheidiol cloi y pyrth allanoi gyda bod y gwasanaeth yn deehreu. Er mwyn gweled yr orymdaith angladdol aeth- ym i lawr i Windsor gydag ychydig o gyf- eillion, gan feddwl na allem ddefnyddio'r dydd i well pwrpas. Os oedd galar am y Tywysog yn beth cyffredin drwy y wlad, yr oedd wedi ei sylweddoli yn y lie hwn. Yr oedd y Tywysog mor adnabyddus yn y dref, ac yn cael ei garn a'i barchu gymmaint, fel ag yr oedd pob un yn y He yn galaru megys am berthynas agos a da. Pan gyrhaeddodd y gerbydres ag oedd yn cludo o Lundain y rhai a wahoddid i'r angladd, yr oedd galar- gerbydau yn eu dysgwyl er eudwyn i Gapel St. George, lie y cyflawnwyd y gwasanaeth angladdol gan Ddeon Windsor. Yr oedd y Capèl Breninol yn orchuddiedig a galarwe o'r Ilawr i'r nenfwd, yr hyn yn nghyd a dystawrwydd y galarwyr a phrudd-der difrif yr amgylchiad, a lenwai fynwes yr edrych- ydd A theimladau rhyiedd. Yn y cyfamser deallais fod y eyfryw o'r Teulu Breninol ag oedd i fod yn yr angladd yn ymgynnull yn un o ystatelloedd y Capel; ac yn mhen ychydig amser arweiniwyd pob un o nonynt i'w lie gan un o swyddogiou y Ty Breninol, sef Arglwydd Castlerosse; tra yr oedd v sawl ag oedd i ffurfio yr orymaaith yn y Capel yn cael eu gosod yn eu lleoedd priodol yn Wolsev's Hall. Yn mhen ychydig am- ser fl'urfiwyd yr orymdaith, a chychwynwyd i Gapel St. George, ewruprinj o'r 2nd Life Guards yn gweithredu fel gosgorddlu. Yr oedd gradd uehel, a rhagorach fytli, cym- meriad difrycheulyd y Tywysog ymadaw- edig; sefyllfa y prif alarwyr, yn eu dwfn ofid presenoldeb rhai o brif wtr y wlad- wriaeth, rhes o urddasolion penaf yr Eglwys, a rhai o gyfeillion persouol yr ymadawedig, yn datgan yn eglurach na all geiriau fod hiraeth mawr yn bod am y Tywysog Cyd- weddog. Yr oedd swn clychau yr Eglwysi, a thaniadau y magnelau, yn ychwanegu at bwysigrwydd a difrifoldeb yr olygfa. Yr oedd y prif alarwyr, sef Tywysog Cymru, a'i frawd bychan unarddeg oed, y Tywysog Arthur, yr hwn oedd yn wylo yn chwerw- dost; Dug Saxe Coburg a Gotha, brawd, a Thywysog Prussia, mab yn nghyfraith yr ymadawedig, yn wrthddrychau tosturi a chydymdeimlad cytfredinol. Aethont drwy y gorchwyl profiadol gyda chymmaint o dawejwch as oedd bosibJ; eithr nid yw 1J.1-J .V -J ft 2 J. i v h gradd na rhwysg yn rhyddhau neb oddiwrth y gofidiau sydd yn ddynrhwygiadrhwymau tynaf a melusaf dynoliaeth, ac yr oedd eu teimladau yn gwneyd eu hunain yn hysbys i bawb pan oedd gweddillion y Tywysog yn cael eu gostwng i gell oer y bedd. Gan y hydd genych mewn rbyw gongl arall o'r Seren hancs y gladdedigaetb, ni wnaf flino eich darllenwyr drwy fyned dros y maylion. Yr unig beth a grybwyllafyn ych- wanegol yw hyn Ar ddiwedd y seremoniau difrifol rhoddwyd tair torch o fwsw a blodau —gwaith dwylaw y Frenines a'r Dywyeoges Alice eu bunain-ar y coffin, pa rai oedd yn sppelio yn gryfach at deimladau y gwyddfodolion na braidd dim arall. Parodd hyn i mi feddwl mai yr un teimladau, wedi'r cwbl, sydd yn llywodraethu pob gradd o ddynion, dim ond fod rhai yn gorfod dys- gyblu eu hunain i'w celu. Yn ddiau, y rnae hiraeth y Frenines a'i hanWyl blant mor ingol ar ol y gwr a'r tad ymadawedig ag ydyw hiraeth y weddw dlotaf a'r amddi- faid mwyaf dinodded ar ol eu heiddo hwy. "Beth yw mawrfri uchel achau," &c. Efallai nad yw vn hysbys i'r rhan amlaf o'ch darllenwyr ddarfod i'r enwog Mr. Geo. Thompson draddodi darlith yn Nghapel Surrey yn ddiweddar ar America. Llyw. yddwyd y cyfarfod gan y Parch Newman Hall. ArnddifFynai Mr. Thompson ym- ddygiad y Gogledd yn yr ymdrech o lethu gwrthryfel y Deheu, a datganai ei hyder yn llywodraeth y Llywydd Lincoln, gan gon- demnio yn y modd mwyaf egniol yr ysbryd milwriaethus sydd yn cael ei amlygu mewn rhai manau yn y wlad hon yn erbyn Ame- rica. Ychydig amser yn ol, traddodwvd darlith ar destun cyfFelyb gan y Parch. Newman Hall. Yr wyf yn credu fod y rhan gallaf o'r bobl yn cydweled a Thomp- son, Newman Hall, Cobden, ac ereill o'r un ysgol ar y mater hwn. Hyd y nod os na rydd America Slidell a Mason i fyny, nid oes eisieu i ni ymladd. Bydd yn ddigon er amddiffyn baner Lloegr i'r Llywodraeth adalw Lord Lyons o. Washington. Nid yw y ID gwr boneddig yn tynu ei got lawr i ymladd a phob un sydd yn ei insultio. Paham y gwna cenedl hyn ? Y mae amryw gyfar- fodydd weai eu cynnal yma yn ddiweddar, yn y rhai y dadleuid y buasai cyflafareddiad yn fwy teilwng o ddwy genedl Gristionogol na rhyfel. Chwi wyddoch am y ffra rhwng Dr. Wil- liams, o Goleg Llanbedr, ag Eligob Salis- bury, o barthed i'r Essays and Reviews." Dechreuwyd y cychwyuiadau yn erbyn y Doctor yn Llys yr Archau yr wythnos ddi- weddaf. Niter y cyhuddiadau. yn ei orbvn oedd dau-ar-hugain. Yr oedd Dr. Phiili- more dros yr Esgob, a'r Dr. Dearie dros y Dr. Williams. Bydd i'r trial bara am gryn amser, ac ni wyddys sut yn y byd y bydd hi yn y pen draw. Os cyll Dr. Wiliiams y dydd, bydd yn nos dyweJJ ar ryddid ymad- '.f ¡; i' t