Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

I Colofnau'r Achos.

News
Cite
Share

I Colofnau'r Achos. Gan Un o Honynt. "Y rhai a dybid eu bod yn golofnau." Gal. ii, 9. XVII.—Y WRAIG LANHAU Tybcd a ystyria ein darllenwyr trn bod yn syrthio i'r brofedigaeth elwir yn "ben punt a chynffon ddimai" wrth ddiweddu fel hyn, oblegyd diweddu yr ydym, a theimlwn rym y ddiareb "GweJl yw diwedd peth na'i ddechreuad." Dyna'n barn am y gyfres hon, ac nid ydym yn gwneuthur ymddiheuriad am orphen gyda'r Wraig Lanhau. Ein harwyddair yw, Parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus," ac nid yw o un gwahaniaeth genym pa un a dirr parch gan yr anwybodus, y difeddwl a'r balch i'n gwrthcidrychau a'i peidio. Am y chwaer nodir yn ein testyn, teimlwn fod ei swydd 'run mor bwysig a chyfrifol fel nas gallwn, gyda dim priodoldeb, ei gadael yn ddisylw. Wrth gwrs, fe ddichon i rywun craff weled anghywirdeb yn ein testyn, neu o Leiaf ddiffyg ynddo, oblegyd credwn fod meibion yn glanhau capelydd weith- iau. Caniateir hyny. Atebwn ninau yn y lie cyntaf fod y wraig yn cynwys y gwr yn y gwaith hwn fel yn y lletyau ar lanau'r moroedd, ac yn yr ail Ie, ei bod yn bur amheus genym a oes un dyn ar wyneb y ddaear yn glanhau capel heb gymorth dynes. Onid i ran y llestr gwanaf yn gyffredin y disgyn gorchwylion ysgeifn a merch- edaidd megys codi cymylau o lwch, neu ysgwrio y Iloriau ? Onid yw yr ag- wedd ostyngedig a defosiynol o ben- linio yn gweddu yn well i'r ferch nag i'r mab, ac onid yw ei bod yn "ysgafala" yn rhoddi idddi well cyfle^i adwyn yr oruchafiaeth, ac agor y cysegr, nid yn unig o foreu i foreu, ond ar "achlysuron neillduol" ac mewn "achosion arbenig." Blin genym nad oes genym amser i fyned i mewn i gysylltiadau hanesyddol ein. testyn fel y dymunem. Gwnai y Lefiaid lawer o'r gwaith ddisgyna i'n harwres, o dan yr Hen Oruchwyliaeth, Os nad ydym yn camgymeryd, rhyw "jobsus" felly oedd gwaith neillduol y Nethiniaid hefyd. Efallai mai oddi wrth y ffaith yr edrychai yr Israeliaid i lawr arnynt, y tardda dirmyg llawer o grefyddwyr yn yr oes hon tuag at y rhai sydd yn cyflawni y gorchwylion angenrheidiol a blinion hyny adwaenir fel "menial offices." Dyddorol fuasai gwybod sut yr arferid glanllau y synagog, a pha drefn sydd gan yr luddewon yn awr, a pha beth oedd aiferiad y Cristionogion boreuol yn y mater hwn. Pe buasai amser yn caniatau, a ninau yn llwyddianus yn ein hymchwil, y mae yn amheus genym a werthfawrogai y darllenydd ein llafur. Yn ami, yr hyn gostia leiaf i'r lienor fwynheir oreu gan ddo ef. Rhyfedd sut y ceir un lienor cyd- wybodol! Hawdd fuasai dyfalu mai y drefn gyntefig oedd i bawb lanhau ei eistedd- le ei hun. Ond os bu y fath gynllun erioed mewn bod, credwn na pharha- odd yn hir, oblegid elal yn gynen pwy fyddai i lanhau y llwybrau atynt! Gwyddom am benderfyniad un eglwys barchus perthynol i enwad arall ar gyfer cyfarfod misol. Pasiwyd i bawb lanhau ei set ei hun, ond ni chadwyd at y cynllun, gan i un brawd o forwr oedd yn deal! paent yn well na'r cyff- redin, "folyntirio," ys dywedir; i godi y bay, drwy gymorth "soda" golchi, wedi ei wneuthur yn drwyth cryf. Llwyddodd y tu hwnt i bob disgwyliad —fel y profai cotiau duon y pregeth- wyr, pe yn dduon Lefyd. Rhag gwas- traffu gofod, gadawn i'r darllenydd "experimento" drosto ei hun os am wybod chwaneg. Barna y rhan fwyaf o eglwysi mai y ffordd fwyaf cyileus yw pcnodi rhywun i'r swydd o edrych ar ol y lie. Nid ydym am sicrhau mai dyna oedd gwaith y weinidoges Phoebe. Gall mai e. Gwelwyd gweinidogesau ar ol hyny yn gwneuthur y gwaith—neu yn arolygu eu monvynion. Prin y credwn fod llawer o wynt gan grefydd- wyr yr oes hon at y syniad fod i wraig y gweinidog lanhau ar ol eu traed. Nis gellir cyfrif am ragfarnau nis gellir ond eu derbyn. Gwelsom wraig offeiriad yn cyflawni gwait1* felly brwdfrydedd mawr. Yr oedd wedi ymwisgo mor briodol ar gyfer y rhan chwareuai nes y tybiem mai gwraig lanhau ydoedd mewn gwirionedd. Yr ydym mor agored, rywfodd, i gam- gymeriadau trwstan o'r fath, fel y gor- fodir ni i siarad yn lied barchus, wrth bob math, rhag ofn mai byddigions mewn "fancy dress" ydynt. Y mae yn debyg pe na bai cisiau y wraig i lanhau, na chyfiogid mo honi. Eithriad yw i bobl gadw cwn a chyfarth eu hunain. A'r mawrion yn unig sydd yn derbyn cyflogau iieb fod gwaith yng nglyn a hwynt. Yn ein byw, methwn a gweled paham v rhaid dirmygu a diystyru y rhai sydd yn gwneuthur ein gwaith yn ein lie, yn enwedig pan y cyflawnant waith y buasem yn ddigon ammharod iw gyf- lawni ein hunain. Onid ydynt yn cael eu talu ? Ydynt, ond am weithio, ac nid am gymeryd eu dirmygu, y telir hwy ac nid yw y ffaith ein bod, ni yn rhoddi ychydig sylltau am waith angenrheidiol estynant hwy yn gyf- newid am danynt yn eu gwneuthur yn slafiaid i ni. Telir i'r gweinidog am ei waith, a pherchir ef hefyd tra, i ddweyd ein barn onest ein hunain, cyflawnem ei waith ef yn llawer mwy dirwgnach-am ddim, pe byddai raid-- nag y cyflawnem waith y wraig lanhau. Pe deuai rhywun atom ar nos Sadwrn a dywedyd, "Mr. y mae'r gwein- idog yn analluog i bregethu yfory, a wnewch chwi gymeryd ei le P" "Gyda phleser," atebem ninau gyda gwen ffein, gymwynasgar, ar ein gwyneb. Am ddim, cofier hefyd, pe bai'n dibynu ar y truan gweinidog i dalu am ein gwasanaeth. Ond meddylier fod dir- prwyaeth yn dod atom dan ddweyd fod y wraig lanhau yn methu bod yn ei lie dranoeth, a bod eisiau rhywun i gyncu'r tan, a glanhau, a goleuo y lampau, ac agor y capel, a gofalu am gloi, etc., tueddem i feddwl fod y ddir- prwyaeth wedi colli arni, neu wedi ei chamgyfarwydao. Y ni i gyfiawni y fath orchwylion distadl! Bobol bach Y ni laith ballai i ddesgrifio y clwyf i'n teimlad a'n hunanbarch Ond, wrth gwrs, nid ydym yn gynefin a gwaith o'r fath! Pawb ei waith. Felly Oni chyflawnasom yr un o'r gorchwyl- ion yna erioed—nid yn y capel, ond yn neillduedd ein haneddau, lie gallem dori glo x phrician, a chyneu tan, a rhoi olew yn y lampau, faint fyd a fynem, heb beryglu dim ar ein parch na'i dylanwad ? Credwn mai prinion iawn yw yr Ymneillduwyr, yn bregeth- wyr a Ileygwyr, nad ydynt vedi cyf- lawni rhai o'r gorchwylion yna rywdro. Paham, ynte, y rhaid i ni ddirmygu y rhai sydd yn enill eu bywoliaeth drwy gyfiawni y fath orchwylion yn gyson ? O'r beio mawr sydd gan ryw gread- uriaid mursenaidd os bydd tipyn o lwch hyd yr eisteddleoedd. Sut na ddysgent dipyn o athroniaeth naturiol ? Y mae'r awyr yn llawn o lwch, ac y mae hwijw yn dueddol o ddisgyn, os caiff wyneb gyfaddas i'w ddenu-un oer, ni gredwn. Os sychir ef ymaith gyda chlwt sych, odid fawr na ddisgyna yn gawod ar ryw ran arall; ac os defnyddir gwlybaniaeth, ni bydd i'r farnais ddysgleirio fel y dylasai. Fel prawf mor gyflym y casgla llwch,

Advertising

[No title]

[No title]

Advertising