Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
♦ — Y Sabbath Heddwch.
♦ — Y Sabbath Heddwch. Daw tro hwnw oddi amgylch y Sab- bath nesaf, Rhagfyr 18. Mae Cym- deithas Heddwch yn gwneud ei goreu tuag ato iddo fod yn ddydd nodedig iawn. Danfonwyd allan mewn cylch- lythyron i weinidogion tua 36,000, yn datgan hyder yn eu cydymdeimlad a'r achos, ac yn eu ffyddlondeb i ddweyd gair yn ystod y dydd y nei ffafr. Eleni, mae'r ceisiadau hyn wed imyned allan i Ffrainc, at weinidogion, athrawon yr Ysgol Sul, ac i eraill o. gyhoeddus- rwydd. Dangosir gan rai wrthwyneb- iad mawr i hyn, ond gwrthwynebiad neu beidio, mae egwyddorion heddwch i lwyddo, ac mae cyflafareddiad i ddod i awdurdod ac i ymarferiad. Mae y rhyfel presenol sydd rhwng Japan a Rwssia yn gofyn am ddeffroad llwyr yn meddwl a chydwybod y deyrnas o blaid cyflafareddiad ac heddwch. Geill athrawon yr Ysgol Sul, yn eu dos- barthiadau, wneud llawer yn y ffordd hon, yn o gystal a phregethwyr yn eu pulpudau.
BETHANIA, CWMAVON.
BETHANIA, CWMAVON. Golygfa nad anghofir yn fuan oedd yn y capel uchod nos Sul diweddaf, pan y cafodd y Parch. J. Evan Jones, Sciwen, y fraint a'r anrhydedd a roddi deheulaw cymdeithas i 77 o aelodau newyddion. A chan mai yr un Sabbath yr oedd y frawdoliaeth yn addoli yn y capel am y tro cyntaf ar 01 ei ad- newyddu a'i harddu yn drwyadl yr oedd yr achlysur yn fwy dyddorol fyth. Mae yr achos yn Bethania yn addawol iawn.
Y " South Wales Daily News…
Y South Wales Daily News a'r Diwygiad. Y ddau brif gyfrwng yn lledaeniad stori fawr y diwygiad yw y South Wales Daily News a'r Western Mail." Hwynthwy sydd wedi, ac yn rhoddi gwynt i adenyad y stori. Pe cyhoedd- id yn llyfryn Stori'r Diwygiad," fel yr ymddengys yn y papyrau dyddiol hyn, buasai yn un o'r llyfrau mwyaf llawn ei gyfaredd a'i fendith yn ein gwlad. Pe yr edrychid ar y stori, yn ei hagwedd lenyddol, a dim ond hyny, buasid yn rhwym o roi credyd uchel iddi. Mae y modd y troir h iallan o ddydd i ddydd, y dernyn mwyaf dar- llenadwy yn yr iaith am nad oes dernyn arall yn gafaelyd yn y fath fodd yn y darllenydd. Bid sicr, mae i dra- fodaeth o fath hon, ei helfen fasnachol; ond mae graen uwch nag eiddo mas- nach ar yr ysgrifau hyn. Ceir yn- ddynt waed cydymdeimlad yn rhedeg yn fyw ac yn gynhes, ac mae ol Ilaw gwyr celfydd o dan argyhoeddiad eu hunain ar yr ysgrifau. Efallai fod rhai o'r ysgrifenwyr heb fod yn gyhoeddus ymroddedig i genhadaeth y diwygiad yn ei frwdfrydeud cyhoeddus mewn addoldai; ond, os nad ydynt felly, y maent yn ymroddedig iddo a'u pin a'u pen a'u calon a'u cydwybod. Dyma un o'r pethau prydferthaf yn llenydd- iaeth ddyddiol ein Tywysogaeth. Yr ydym yn ein cyfarfod chwarterol a misol, ac yn ein cynadleddau_cymanfa- ol a cundebol a sasiynol, yn condemnio y papyrau hyn, am eu hanwybyddiad o'r eglwysi a chrefydd a thua blwydd- yn yn ol, pe dywedasai rhywun y cawsai y Western Mail" a'r South Wales Daily News" y fath droedig- aeth a gweddnewidiad, amheuid ef gyda threm anghrediniol; ond wele hyny yn ffaith. Lionwyd ein calon yr wythnos ddiweddaf i weled y South Wales Daily News" yn rhuthro i ben gohebwyr Llundain, yn eu gwibdeithiau i'r Deheudir, ac yn eu hadroddiadau camweddus am y diwygiad. Nid mater oi fusnes oedd gwneud y fath ymosod- iad ganddo, ond mater o gydwybod a chariad. Arferwn briodoli gallu mawr i'r wasg ac ambell dro, dadleuir ar Pa un ai y Wasg, ynte y Pulpud yw y Gallu Cryfaf?" A dweyd y lleiaf, fe saif y wasg yn nodedig o uchel yn y cyffroad presenol; ac ni a hyderwn y bydd cymeriad eglwysi Cymru yn y dyfodol, yn hawlio ac yn sicrhau hyn oddi ar eu llaw. Shirgar.
------00-..--. GROVE ST.,…
-00- GROVE ST., LERPWL. Gweinyddwyd yn nghyfarfod blyn- yddol y lie uchod ar Sabbath diweddaf a'r nos Sadwrn blaenorol, gan y Parch. J. M. Davies, M.a. Bala-Bangor; a'r Parch. D. Silyn Evans, Aberdar. Par- haodd oedfa nos Sul o chwech o'r gloch hyd chwarter i ddeg.
.6)... EGLWYS ANIBYNOL NODDFA,…
.6). EGLWYS ANIBYNOL NODDFA, GODRE AMMAN, ABERDAR. CYFARFOD SEFYDLU. Cy'nelir cyf arf od sefydlu y Parch. T.. Thomas, gynt o Salem, Llandilo, yn weinidog ar yr eglwys uchod dydd Llun.* Ionawr 2, 1905. Disgwylir i'r Parchn. canlynol i wasanaethu: D. Silyn Evans, Aberdar, i bregethu ar Natur Eglwys H. A. Davies, Cwmamman, i roddi Siars i'r Eglwys W. Davies, Llandilo, i roddi "Siars i'r Gweinidog a gweinidogion eraill. Rhoddir gwa- hoddiad cynes i'r holl frawdoliaeth a phawb eraill i fod yn breseriol. Byddi lluniaeth yn cael ei barotoi ar gyfer- dyeithriaid. Dechreuir yr oedf aon dydd Llun am 10.30, 2, a 6 o'r gloch.
0 Fryn i Fryn.
0 Fryn i Fryn. Gweledigaethau'r Diwygiad. Mae i bob diwygiad sydd a hanes am dano, ei weledigaethau. Coeliwn fod hyn yn wir am ddiwygiadau cymdeith- asol, yn o gystal a rhai crefyddol. Bid sicr, yn yr ystyron hyn, maent yn ddos- barthiadau gwahanol iawn o, weledig- aethau. Gweled carcharau a chelloedd daearol, a swyddogion gwladol ac engyl rhyddid, oedd John Penry a chlywed canu oedd plant Diwygiad au '49 a '59 ac yr oedd un ger Bangor, yn taeru ddarfod iddo glywed angel yn canu bas, a'i swn fel swn rhaiadr mawr neu lonaid cae o fas-ganwyr. Un o'r peth- au mwyaf synfawr yn nglyn a'r diwyg- iad presenol ydyw ei weledigaethau. Yr ydym yn defnyddio y gair synfawr, yn hytrach na'r gair bendithiol, a hyny yn fwriadol. Adroddir am y gweledig- aethau hyn yn y cyfarfodydd, a char- iant eu dylanwad yn amlwg. Dichon y gwneir hyn, er prawf fod y diwygiad hwn yn gyflawniad llythyrenol o bro- phwydoliaeth Joel, sef a'n gwyr ieu- ainc a welant weledigaethau ac mae yn hawdd cyfrif am danynt yn ngoleuni deddfau y meddwi. Ac uwchlaw hyn oil, onid eill Duw i roi gweledigaethau neillduol i bersonau neillduol yn awr fel cynt? Ar yr un pryd, pethau i'w trafod gyda llawer o ofal a doethineb a gochelgarwch yw y gweledigaethau hyn. Dywedai on tadau a'n mamau, eu bod hwy yn cael gweledigaethau, ac adroddent eu gweledigaethau ger y tan ar nosau yn y gauaf, nes gyru gormod o ofn yn y plant i fyned at y bwrdd swper, rhag ofn fod rhyw dylwythyn teg yn llechu o dan y fainc, neu yn y cornelau. Gwawdid llawer at y cyfryw weledyddion a'u gweledig- aethau ond erbyn heddyw mae y <c Psychical Research Society" yn cyd- nabod fod i weledigaethau y tadau ystyron gwirioneddol a dwyfol. Codir yn Nghymru gyda'r diwygiad hwn, weledyddion, gyda gwahaniaeth deu- blyg rhyngddynt a'r tadau, sef fod y gweledyddion heddyw yn ieuainc, a bod eu gweledigaethau yn fwy nefol a dwyfol. 0 bosibl, y redrycha rhai ar weledigaethau y plant, fel y gwnaed ar weledigaethau y taclau, yn ofergoeledd ac yn ffwlbri, ac yn ddangosiad o wen- did meddyliol, neu o orweithiad ys- brydol. Gwyddom am rai na chant weledigaeth yn eu hoes, oddigerth idd- ynt i weled ysgyfarnog yn y rhedyn, neu fuwch ar y farchnad, neu wydryn yn y ffenestr. Mae ambell un mor amddifad o awen a Thirty days hath September, April, June, and Novem- ber," etc. tra mae eraill mor llawn o hono, nes maent ar hyd eu hoes yn breuddwydio breuddwydion ac yn gweled gweledigaethau. Mae rhywrai yn sicr o weled gwel- edigaethau ac os na ddeuant atynt, y maent yn sicr o'u creu: ac mae pob un yn greawdwr neu yn feddyliwr gwreiddiol ac anibynol yn ei freudd- wydion a'i weledigaethau. Llawenhawn yn hapusrwydd y bob! sydd yn cael hyn o fraint, ac yr ydym ninau ar adegau yn cael y fraint o ddod i'w bro- ydd dedwydd ond amheuwn eu doeth- ineb yn gwneud llawer o ddefnydd o honynt, yn enwedig ar adeg o gyffroad crefyddol. Mae hygoeledd pobi yn uchel iawn ar achlysuron o'r fath, a llamant at y newydd beth o hyd, a chymerant eu darbwyllo a'u rheoli ganddo yn ddibetrus. Gwyddom am rai sydd yn son mwy am weledigaethau y diwygiad nag am adnodau o'r BeibI a chodid hwynt i hwyl grefyddol go ar- uchel gan gyfaredd sanctaidd y gwel- edigaethau hyn. Meddylient am danynt gyda'u gwaith; siaradent am danynt i'w plant; gweddient am danynt iddynt eu hunain a'u heiddo ac os na buasent yn dod, amheuent eu bod hwy o gwbl wedi gweled Iesu ac wedi der- byn yr Ysbryd Glan. Nid oes genym eiddigedd nac atgasrwydd at adroddwyr y gweledigaethau hyn ond ni ddylid eu defnyddio yn y fath fodd ag i bery idynt i hudo meddwl pobl wan oddi wrth wirioneddau y Beibl, at y ffansi- on sydd ynddynt hwy. Yr ydym eisoes yn gwrando ar ysgrifenwyr a siaradwyr yn son am gyfrifoldeb yr eglwys yn ngwyneb ei miloedd dychweledigion presenol; ac yr ydym yn sylwi mai'r bobl fwyaf anghyfarwydd a'r gwaith sydd yn siarad hyotlaf. Ar yr un pryd, mae'r pwnc o gadwraeth y dychweled- igion yn un o'r rhai pwysicaf; a phe na buasai ond yr ystyriaeth o barhad eu harosiad yn yr eglwysi, dylesid rhoi yn eu cof a'u calon ddylanwadau mwy sylweddol a chlir, na breuddwydion a gweledigaethau. Fe eill y weledigaeth a'r freuddwyd fod o ryw ddyddordeb a symbyliad a chyfarwyddid i'r breudd- wydiwr a'r gweledydd ei hun ond nid oes hawl ganddo eu dal i fyny fel an- hebgorion gwir ddiwygiad a gwir dro- edigaeth; ac mae'r neb a edrycha arnynt felly, yn colli eu hymddiried- aeth yn y Beibl; ac nid yw eu brwd- frydedd crefyddol, ond tybiant gwyllt, byrhoedlog a siomedig. Yr ydym ninau fel eraill, wedi bod, ac yn bod, yn nghanol Hi mawr ysgubol y deffroad hwn ac mae lawer gwaith wedi ein taflu ar ein hyd, i wingo ac ochain a gwaeddi. Un boreu, aethom allan o'r ty, a disgynai yr eira o'n cylch, a dy- wedem: How beautiful falleth the snow," a chyn pen dwy awr,mewn oedfa weddi, gwelsom hen bechaduriaid yn syrthio fel meirw, a dywedem: How beautiful falleth the sinner." Credwn yn nwyfoldeb y diwygiad hwn ac am hyny, yn arbenigrwydd ei safiad yn nghanol diwygiadau hanes; ac am hyny, yn mhellach, yn ei effeithiau daionus, tragwyddol. Yn y diwygiad hwn cawsom oleuni newydd ar Dduw, ac ar ddynion, ac ar genhadaeth trefn achub. Rhyfeddach nag erioed yw dynion i ni ar ol y diwygiad, a rhyfedd- ach yw Duw hefyd ond yr ydym, wrth ymbwyllo ac ystyried, yn canfod perygl o dri chyfeiriad, sef oddi wrth Ie, a ffurf, a breuddwyd. Tri gallu ydyw y rhai hyn sydd a llaw ganddynt yn ffurfiad ein cymeriad, ac yn ein bywyd cymdeithasol ond mae eisiau i ni i gadw mewn cof fod Duw yn fwy na lie, ac uwchlaw lie, a'i fod yn newid ei ffurf o hyd, fel na cheir ef ddwywaith yn yr un ddiwyg ac yn mhellach, mae gan- ddo greigiau cadarnach i bechadur i bwyso arnynt na gweledigaethau a breuddwydion, ie, pobl dda, anwyl a gwerthfawr. Oni wrandawant ar Moses a'r prophwydi, ni chredant ychwaith, pe codai un oddi wrth y meirw."
AT EIN GOHEBWYE.
AT EIN GOHEBWYE. 1. Erfyniwyn, hyd y bo'n bosibl, i ysgrifau a newyddion i fod yn llaw y Golygydd:—
PARCH. D. SILYN EVANS,
PARCH. D. SILYN EVANS, 19, Tanybryn St. Aberdar, erbyn dydd Llun. Os teimlir rhyw anhawsder i gael y Celt Newydd gan rywrai, bydd yn dda genym ei ddanfon drwy y post i unryw gyfeiriad am y prisoedd canlynol:- 1 copi yn wythnosol, am chwarter, 1/71 am flwyddyn, 6/6—Blaendal. 2. Rhaid dweyd eto, mai byrion yw yr ysgrifau i fod, heb fod dros golofn, neu golofn a haner; cwtogir i ateb hyny, oddigerth fod y testyn yn bwysig a'i ymdriniad yn dda. 3. Gwahoddwn newyddion lleol yn helacth, am ddigwyddiadau, personau, etc. wedi eu trefnu yn fyr ac yn ddoeth. Mae eisiau Dosbarthwyr yn mhob man. Rhoddir telerau neillduol am 6 ac uchod yn wythnosol. Am fanylion pellach, yn nghyd a phob archebion a thaliadau am y Celt Newydd, dan- foner at
E. REES A'I FEIBION, ARGRAPHWYR…
E. REES A'I FEIBION, ARGRAPHWYR A CHYHOEDDWYR YSTALYFERA. MEWN LLAW.—Hyn a'r Llall, gan Oliver; Dadgysylltiad a'r Senedd Dymhor Nesaf; Adolygiadau—" Clych- au'r Plant," etc. Bryste, Cyfundeb Deheuol Morganwg.
#-«-• Esgob Llandaf a'r Diwygiad.
#-«-• Esgob Llandaf a'r Diwygiad. Mae'r Esgob Lewis, ebe efe, yn gwylio yr hanes am y diwygiad, fel y ceir ef yn y papyrau dyddiol. Teimla oddi wrth ei brofiad blaenorol, ei bod yn rhy gynar eto i roi barn derfynol arno. Dylid rhoi lie mawr i deim- ladau y Cymry mewn cyffroad fel hwn. Sylwa, fod rhai y mae ganddo olwg ar eu barn, yn dweyd fod cyfnewidiad mawr, wedi dod dros ddynion drwg yn a thrwy y diwygiad hwn ac ychwan- ega, nad oes neb, am hyny, yn fwy llawen na'i arglwydcliaeth. Llawenha ei arglwyddiaeth yn mhellach, fod ei eglwysi mewn rhai plwyfi yn cymeryd mantais ar y diwygiad hwn, drwy gychwyn cyfarfodydd difrifol a rheol- aidd, a thrwy ddyfnhau y teimlad ysbrydol. Yn gyffelyb i hynyna yr ysgrifena Dr. Lewis am y diwygiad, ac mor llawn o'r Ysbryd Glan ydyw dywediad- au o'r fath. Y fath gaffaeliad i Gymru fuasai cael dyn o fath yr Esgob Lewis i gynal cyfarfodydd diwygiadol, o her- wydd, mor gref yw ei ffydd, ac mor angherddol yw ei gariad, ac mor eang yw ei gydymdeimlad.