Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Llythyr o'r Gogledd.
Llythyr o'r Gogledd. GWILYM COWLYD YN E1 FEDD Wedi oes helbulus a phrotestio llawer yn erbyn anhrefn y byd yma, y mae y prif-fardd pendant" fel yr hoffai alw ei hun, wedi croesi i'r byd anweledig. Dyn od iawn ydoedd, ond yn meddu ar dalentau disglaer iawn. Yr oedd yn wir fardd, ac onibai iddo grwydro yn ei gredo a derbyn pob math o sothach fel gwirionedd, diau y byddai yn un o brif feirdd y genedl. Y mae ei awdl i Fynyddoedd Eryri" yn orlawn o'r farddoniaeth fwyaf ar- ucrel. Pe yn ymgadw yn ffyddlon i awen ei ieuenctyd, byddai ei goffadwr- iaeth yn fendigedig fel bardd; ond aeth i ymgecru yn nghylch y mesurau caethion, ac i dreio eu gwneud yn fwy caeth nag oeddynt, ac i ymladd yn erbyn Gorsectd y Beiraa sydd yn nglyn a'r Eisteddfod, ac i haeru nad oedd gan Eifionydd, Hwfa and Co. hawl i godi gorsedd yn unlle ond ar lan Llyn Geirionydd, ac yn ei wyddfod ef fel y Prif-fardd Pendant." Y mae llawer o ffwlbri, sydd yn ymylu ar fod yn an- nuwiol a phaganaidd, yn nglyn a Gor- sedd y Beirdd sydd yn nglyn a'r Eis- teddfod Genedlaethol ond yr oedd credo Gwilym am yr Orsedd a'i hawliau yn cynwys peth wmreuu mwy o ddwli. Pe cawsai Gwilym ei ffordd, byddai crefydd y wlad yma yn gymysgedd o Dderwyddiaeth a Christionogaeth, a mwy o'r Derwydd nag o'r Cristion yn y golwg. Credai ei ddwli yn angerddol, ond ni lwyddodd er ei holl angerddol- rwydd i wneud un disgybl ffyddlon i gadw yn fyw mewn cnawd ei ddaliadau ar ol iddo eii fyned i ffordd yr holl ddaear. Credai y pethau ynfytaf. Daliai mai fel archdderwydd y cododd Elias allor ar Carmel, etc. Yr oedd yn gallu olrhain yr Orsedd o ddyddiau y cyn-ddiluwiaid i lawr hyd yr Orsedd yn yr. Arwest flynyddol dan ei arolyg- iaeth ef ar lan Llyn Geirionydd. Yr wyf yn dweyd eto, ei fod yn wir fardd, ac yn lienor ac hynafiaethydd o fri. Gresyn, a gresyn mawr, i dalent mor ddisglaer redeg yn wyllt. Yr oedd yn nai, fab chwaer i Ieuan Glan Geir- ionydd ac efe gyhoedaodd waith y bardd hwnw. Efe hefyd gyhoeddodd weithiau Talhaiarn. Bu o gryn was- anaeth i lenyddiaeth yn moreu ei oes, a dylasai fod wedi myned rhagddo a llwyddo; ond ni wnaeth.
BETHESDA A'R DIWYGIAD.
BETHESDA A'R DIWYGIAD. Llawer o son sydd wedi bod yn ddi- weddar am yr helyntion blin yn mysg chwarelwyr Bethesda. Yr oedd yn hawdd canfod fod y diafol yn cael daear fras yno er ys blynyddoedd, i hau ei efrau. Yr oedd pob peth yno mewn byd ac eglwys, wedi eu hysgwyd o'u lie. Yn awr, y mae y Diwygiad wedi myned yno, a "nerthoedd y tra- gwyddol ysbryd," ac mae yn brysur wneud trefn o anhrefn y diafol. Yr oedd y teimladau mwyaf cas yn bodoli rhwng aelodau eglwysig a'u gilydd. Yr oedd amryw yn gwrthod cymeryd yr elfenau o law y diaconiaid am nad oeddynt yn cydweled ar faterion yn nglyn a'r chwarel. Gwrthodai eraill fyned at eu hathrawon yn yr Ysgol Sul am fod anghydwelediad y chwarel wedi cynyrchu drwg deimlad rhyngddynt a'u gilydd. Crwydrai llawer o'r hen aelodau yn y byd; aeth llawer o'r capeli i'r Eglwys Wladol, i ddal gafael mewn rhyw enw o grefydd, ac i sicrhau gwen yr uwchafiaid. Yn awr yn y capeli, yn swn caniadau Seion, y mae y pleidiau dig yn dod at eu gilydd, ac yn ym- gystadlu pwy sydd i faddeu oreu. Pawb am y cyntaf yn dweyd: "Arnaf fi oedd y bai"; pan o'r blaen yr oedd pawb mewn ysbryd croes yn dweyd: "Arnat ti oedd y bai, ac nid arnaf fi." Mae y crwydriaid yn y byd yn dod yn ol, a'r encilwyr i'r Eglwys Wladol yn dod adref i'r capeli tan wylo. Dyma olyg- feydd sydd yn peri i angylion lawen- hau, ac yn llanw eu genau a chwerthin. Nid oedd le yn holl Ogledd Cymru a mwy o eisiau y diwygiad na Bethesda. Gwyddai y nefoedd hyny, ac y mae wedi ei anfon yno yn gynar. Y mae yn ffaith sicr mai un o'r pethau mwyaf anffodus allai yr Eglwys Wladol gael fyddai diwygiad. Y mae swn diwygiad mewn ardal yn gwaghau y tafarndai— a'r Eglwys Wladol. Nid oes yno fwyd i genedl ar adeg diwygiad crefyddol. Gwna ffurf-wasanaeth oer yr Eglwys y tro yn iawn i saint oer, claiar, balch ond pan ddaw yr YsbrydGlan a'i ddy- lanwadau mawr, y mae yr eneidiau yn gwaeddu am fwyd nad yw gwasanaeth peirianol yr Eglwys yn ei roi. Gwir ydyw hyn, and gwirionedd difrifol. Pan ddaw diwygiadau mawr y mae yr Eglwys Wladol a'i sychder yn eu hymlid allan o'i themlau. Dyma hanes cychwyniad Wesleyaeth yn Lloegr, a Methodistiaeth yn Nghymru. Ni byddai yr enwadau hyn yn bodoli heddyw onibai fod yr Eglwys Wladol yn rhy oer a pheirianol i ysbryd y diwygiad allu byw o'i mewn. Y mae hyd yn nod yr Eglwys Babyddol yn gwybod yn well na'r Eglwys Wladol sut i ymddwyn yn garedig at ddiwyg- iwr wedi ei danio gan yr Ysbryd Glan. Os y bydd dyn yn yr Eglwys Wladol yn erlidgar ei ysbryd, ac yn dwyn mawr zel dros gulni ei eglwys, y mae ganddo chance am ddyrchafiad and os yn llawn zel grefyddol, deilwng o zel Apostolion Crist, rhaid iddo ofalu rhag ofn y troir ef allan o gorlan yr eglwys fel Daniel Rowlands a'r ddwy fil.
Y TAFARNWYR A'R DIWYGIAD.
Y TAFARNWYR A'R DIWYGIAD. Y mae busnes y diafol yn dirywio yn mhob man ond y mae cwymp y diafol yn fwy eglur yn y tafarndai nag yn un lie. Yno, y mae ei waith yn dod i lawr ar garlam. Os aiff y diwygiad yn mlaen fel hyn, bydd canoedd o dafarn- dai wedi eu cau cyn diwedd y flwyddyn 1905, ac ugeiniau o dafarnwyr ein gwlad wedi ymddangos yn llys y meth- dalwyr. 1'r cyfeiriad yma mae y wlad yn gwyro, ac y mae yn gwyro i'r iawn gyfeiriad. Brawd gwledig mewn ardal yn llawn o ysbryd y diwygiad a ddy- wedai y dydd o'r blaen: Bobol! mae yn ofnadwy ar y diafol yn y wlad yma y dyddiau hyn, ac mae yn myned yn boethach, boethach arno bob dydd. Pe bawn i yn lie y diafol,-ond gobeithio na fyddaf byth,-mi fuaswn yn hel fy mhac, ac yn dianc o'r wlad yma ar unwaith." Nid oes neb yn fwy trist yn Nghymru heddyw na'r diafol. Y mae ei gaerau yn syrthio yn gyflymach nag eiddo Port Arthur, ac mae ei longau goreu ar dan yn ngwasanaeth y diwygiad mewn llawer ardal. Merch i dafarnwr a ddywedai dro y nol: I hope this old diwygiad" is not going to stay in this place long, or else it will ruin dada's business." Pob parch i'r ferch ieuanc sydd wedi gwenu llawer yn ngwasanaeth y diafol wrth werthu cwrw a gwirodydd, ond gwell i draffic y ty ballu a'r fasnach fyned yn adfeilion, nag i eneidiau yr ardal gael eu colli trwy y cwpan.
Y DYN CLAIAR A'R DIWYGIAD.
Y DYN CLAIAR A'R DIWYGIAD. Mae y brawd hwn yn mhob ardal lie yr a y diwygiad. Y mae yn gall, ac yn bwyllog, ac yn synwyr o wadn ei droed hyd y coryn. Pan y mae eraill yn y tan yn llosgi yn ngwasanaeth Duw, y mae ef yn eistedd ar bentwr o rew gerllaw yn beirniadu y cwbl, ac yn rhincian ei ddanedd yn yr oerfel. Gwelais un y dydd o'r blaen. Yr oedd fel pibonwy o oer. Yr oedd wedi bod yn y cyfarfodydd diwygiadol amryw o honynt, ond dywedai nad oedd ef wedi teimlo dim. Dywedais wrtho nad oeddwn yn cenfigenu wrtho. Dywedai ef oddi ar ymffrost nad oedd wedi teimlo dim. Fel pe yn meddwl mai rywrai bach gwan, merchedaidd a digon o ffynonau dagrau yn eu penau oedd yn gwneud hyn. Na, nid felly; y mae y dynion mwyaf ysbrydol yn mhob ardal yn falch o'r diwygiad, ac yn hiraethu am ragor o'r teimladau sydd yn symbylu y sawl a'u caffo yn mlaen i fywyd uwch. Uwelais y dyn a nodais wedi hyny, a gwreichionen o'r tan wedi toddi yr eisteddle rew oedd tano, ac yntau yn wylo yn hidl ac yn chwerthin bob yn ail. Clywais hanesyn am Ddiwygiad '59 y dydd o'r blaen. Yr oedd gwr a gwraig yn arfer dilyn cyfarfodydd y diwygiad hwnw yn gyson. Yr oedd y gwr yn mhob cyfarfod yn gorfoleddu ac yn gweddio, ac yn fwy ei swn a'i helynt wrth wneud hyny na neb. Yr oedd y wraig heb gael y bedydd tan eto, ac yn anfoddlon iawn fod John ei gwr yn gwneud y fath swn ac yn creu y fath aflonyddwch yn y cyfarfodydd. Yr oedd wrth fyned i'r oedfa un noson gydag ef yn groes ei hysbryd, ac yn ymylu ar fod yn gas wrtho. Da ti, John," meddai, "paid.a chadw row heno gyda dy grefydd. Os oes arnat eisial1 gweddio, gweddia ar dy ben dy hun.' Paid aflonyddu y cyfarfod a gwneud dy hun yn wirionach na neb." Gwrandawai John yn astud, ond ni ddarfu iddo wneud un addewid i'w wraig. Nid oedd aflonyddwch John yn yr oedfaon ond cynhyrfiadau yr ysbryd, ac nis gallai anufuddhau i ddylan- wadau y nef pan ddeuent. Yr oedd y dylanwadau yn '59 yn anorchfygol. Fodd bynag, y noson hono, taniwyd enaid y wraig, ac ar ganol yr oedfa, cododd ar ei thraed a llefodd allan mewn llais uwch na neb:- Mae llawer mil o bethau Am gael fy mhen i lawr; Nid oes a'm ceidw'n unig Ond gallu'r Meauyg Mawr." A chan gredu nad oedd wedi gwneud digon o stwr" gyda'r emyn, dyma hi wedyn yn dechreu curo ei dwylaw, yr hyn a wnaeth yn ddiball am rai mynudau, a John yn edrych arni yn syn, a chyda llais hunanfeddianol, dywedai: Wei, wel, Jane ni ddarfu i ti fy ngweledi mor ddireol a hyn." Ti sydd yn glaiar, paid a cheisio diffodd y tan yn eraill. Efallai mai ti fydd dan y bedydd tan nesaf.
Y CEFFYLAU A'R DIWYGIAD.
Y CEFFYLAU A'R DIWYGIAD. Yn y Rhos y mae y diwygiad yn gwneud mwyaf o waith yn y Gogledd yma. Deffro yr eglwysi y mae yr ysbryd mewn llawer o leoedd, ond y mae yn achub eneidiau yn y Ithos. Y mae eisoes ryw dri chant wedi dod at Grist yn y lie hwnw, ac y mae un hen frawd wedi prophwydo na bydd i'r di- wygiad fyned heibio heb adael pum' mil a ddisgyblion newydd gwresog eu hysbryd i'r Iesu yn y lie hwnw. Y mae pobpeth yn cael ei greu o'r newydd yn y lie hwnw. Y mae llawer o greadur- iaid direswm yn gweithio tan y ddaear yno-ceffylau a mulod. Y mae y creaduriaid hyn er y dydd yr aethant dan y ddaear wedi arfer byw yn swn llwon a rhegfeydd, ac yn swn rhegu yr oeddynt yn gwneud eu gwaith o ddydd i ddydd. Ond y mae y diwygiad wedi dwyn yr anifeiliaid hyn i fyd newydd. Yr wythnosau hyn y maent yn methu gwneud eu gwaith fel o'r blaen, am nad ydynt eto yn medru iaith y dyn newydd ;ond y maent megys tan addysg ysbryd y diwygiad yn dysgu iaith y creadur newydd yrt Nghrist Iesu. Mae awyddfryd y creadur yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw." Y mae ocheneidiau y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd'fel ei feistr, yn cilio yn swn y diwygiad. Y mae pobpeth ar ei enill o herwydd y diwygiad. Na; yr wyf yn dweyd gormod.
TRAMP A'R DIWYGIAD.
TRAMP A'R DIWYGIAD. Mewn cyfarfod pobl ieuainc y dydd o'r blaen yn yr ardal hon, arweiniodd ysbryd y diwygiad y bobl hyn ar gyfeiliorn. Yr oead un o honynt wedi gweled tramp ar y ffordd wrth ddod i'r cwrdd, a chan fod yr olwg arno yn ddigon o brawf fod ei gorph a'i enaid mewn angen am ras ac efengyl, gwa- hoddwyd ef i'r capel. Yn ufudd, daeth y tramp i'r cyfarfod, a gwrandawodd yn astud, a dygodd rhai arwyddion yn ei ymddygiad fod yr efengyl yn gallu cyffwrdd a rhai tannau o'i natur. Casglwyd 5s. i'r tramp i'w helpu ar ei daith, ac i gerdded ar y lwybr newydd. Ond cyn naw o'r gloch yr oedd y tramp yn feddw chwil hyd heolydd y dre, ac nid oedd gan ddeddf gwlad na deddf yr efengyl fawr o ddylanwad arno. Yr wyf yn nodi hyn er mwyn i chwi sydd yn llawn zel i wylio rhag i'r zel eich harwain i helpu plant y diafol pan yn meddwl eich bod yn helpu plant y deyrnas. Peidiwch a gadael i'ch zel ddiorseddu y farn, a thrwy hyny ddwyn y diwygiad dan gondemniad rhai.
EMYNAU Y DIWYGIAD.
EMYNAU Y DIWYGIAD. Llawer hen emyn anwyl sydd yn cael ei ganu gydag eneiniad y dyddiau hyn, ac y mae rhai o honynt yn myned yn emynau newydd yn llewyrch ysbryd y diwygiad. Yr wyf wedi gweled fod yr emyn hwnw, 'Rhwn sy'n gyru'r mellt i hedeg," yn cael ei ganu yn ami iawn ac yr wyf wedi gweled yn amryw o'r newyddiaduron mai Dr. Saunders oedd awdwr yr emyn. Nis gwn fod Dr. Saunders wedi cyfansoddi penill nac emyn erioed; ond gwn na ddarfu iddo gyfansoddi yr emyn uchod. David Saunders, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, gyfansoddodd yr emyn, ac efallai, cyn geni Dr. Saunders y Methodist. Yr wyf yn gwneud y cyweiriad hwn am fod arnaf ofn fod culni enwadol ac awydd i dwyllo yn dangos ei hunan hyd yn nod yn nghanol diwygiad. Os camgymeriad yw, rhaid fod yr ysgrifenydd yn an- faddeuol o anwybodus am grefydd ac emynau ei wlad.
BRYN SEION, NELSON, SIR FORGANWG.
BRYN SEION, NELSON, SIR FORGANWG. Dydd Sul, Rhagfyr 4, a'r nos Lun dilynol, cynaliodd yr adran uchod o eglwys Ebenezer, Trelewis, ei chyfar- fodydd blynyddol cyntaf. Y gwahodd- edigion oeddynt y Parchn. E. Olwern Evans, Moriah, Bedlinog; a J. Edryd. Jones, Moriah, Cilfynydd. Yn an- ffodus iawn, goddiweddwyd y blaenaf gan anwyd blin yn ei wddf, fel y coll- odd ei lais bron yn hollol, ac nas gall- asai wasanaethu. Yn garedig iawn, ac ar rybudd byr, daeth y Parch. Mr. Davies, Abertysswg, i wasanaethu yn ei le. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon. gan Mr. Davies, Adulam, Merthyr, a,, chan Olwern Evans nos Lun, goreu y medrai. Yr oedd yn llawen iawn genym ei weled yn bresenol, a'i fod ar wellhad. Pregethodd y Parch. J. Edryd Jones, prydnawn Sul yn Saes- neg, i gynulleidfa barchus, yn cael ei gwneud i fyny o'r Bedyddwyr Seisnig, Primitive methodists, a'r Methodistiaid Calfinaidd (Heol Fawr), yn nghyd a thorf o Drelewis. Cafwyd cynulleidfa- oedd cryfion, er fod y tywydd yn wlyb, a phregethau yn y ddwy iaith a gofir yn hir. Casglwyd arian yn galonogol yn y cyfarfodydd, ond yn ben ar bob- peth, casglwyd eneidiau at Grist, ac i Grist, ni a hyderwn. Yr oedd Ysbryd' Duw yn amlwg iawn yn yr oedfaon. Parhaed felly yw dymuniad calon y gohebydd.