Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y Dr. W. P. Williams, Giandwr,…

News
Cite
Share

Y Dr. W. P. Williams, Giandwr, a "Chychwynmd a Chynydd y Bedyddwyr yn Ngliymru." Cyhoeddwyd, ysgrif ar y penawd uchod gan Dr Williams yn y "Geninen." Wedi ei da.rlle.n, teimlais ei bod yn haeddu adolygiad byr byddl hyny yn garedigrwydd a'r awdwr, ac a'r darllen- b ydd. Fel ysgrif hanesyddol, y mae yn wan a diffygioi'. Dylasai'r awdwr gasglu mwy o'i nerth i hanesyddu "Cychwyniad a Chvnydd yr Enwad yn Nghymru," a gadael "y bedydd," "y dull Y sgrythyrol o fedyddio," a'r "caeth- gymundeb" yn llonydd. Nid oedd. ("m yn galw am grwydro ar ol y pethau yna. A barnu yr ysgrif wrth ei thon, rhyw ymdrech eiddil ydyw i amddiffyn bed- ydd troch a chaeth-gymundeb. Ni bu cyfnod erioed yn hanes yr enwad Bed- yddiedig a mwy o alw am amddiffyn bedydd drw- drochiad, a'r caeth- gymundeb nag sydd heddyw, a theimla yr,enwad hyny ei hun, er ei fod ar lwy- fanau ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn udganu buddugo'l'iaeth o flaen y dwr. Fe wyr y werin mai gwendid ac nid nerth sydd wrth wraidd, hyny. Gorch- fygu yn dawel y mae nerth; ond ceisio gorchfygu clrwy waeddi a phro-phwydb y mae gwendid. Teimla Dr. Williams fod eisiau amddiffyn, yr "hen ddull Ys- grythyrol o fedyddio" (?), yn nghyd a'r caeth-gymundeb, a daliodd ar y cyfieus- z,Y tra yn yr ysgrif hon. Teimla llu o Fedyddwyr yn Nghymru heddyw fod amddiffyn y caeth-gymundeb wedi myned yn galedwaith poenus. Teimlwn nad oes argyhoeddiad wrth wraidd un amddiffyniad o'i heiddo, ond rhyw ho.n- iadau eithafol, a chulni sydd yn myned rhagddo yn ei wrthuni. Ceir llu o, Fed- yddwyr yn Nghymru (a'r enwad yn gyfan yn Lloegr) yn ddigon eangfrydig i gymuno gyda'r enwadau, ac yn d,digoin, gonest i gydnabod y dylai eu cymundeb hwythau fod yn gymundeb rhydd. Mae'r gwirionedd yn araf weithio yr enwad Bedyddiedig i fwy o ryddicl .ac eang- frydedd yn nglyn a'r Cymundeb. Flynyddaai yn ol, ceryddid aelodau yn llym am gymuno gyda'r enwadau; ond heddyw, bygwth yn unig y maent am gymuno—mae'r ceryddu wedi ei roddi heibio; fe aeth yn rhy wrthun i'r enwad i lynu wrtho. Flynyddau yn ol, ni feiddiai Bedyddiwyr gymuno' gyda'r enwadau, oblegid fe ystyrid hyny yn weithred bechadurus ond heddyw, -cymunant gyda'r enwadau yn ddibetrus. Prawf hyn fod y gwirionedd yn gweithio yr enwad Bedyddiedig i fwy o ryddid ac eangfrydedd yn nglyn a'r ordinhad. Llwyddiant ir gwirionedd i dynu i lawr ganol-fur y gwahaniaeth sydd rhwng yr enwad a'i frodyr sydd yn cario'r un faner, ac yn sefyll wrth yr un groes. "Yr hyn a rydd arbenigrwydd i enwad y Bedyddwyr," ebai y Dr., "fel yr ym- ddengys ei enw yw ei ymlyniad wrth y dull Ysgrythyrol o fecLyddiü. trwy da;nsuddo neu drochi mewn dwfr." Yn ol y dyfyniad yna, cesglir fod yr enwad Bedyddiedig wedi glynu wrth y droch yn mhob oes .a gwlad er y dydd y daeth i fodof aeth. Ond ai gwir hyn ? Nage, ebai hanes; tystia, ffeithiau yn wahanol. Mae'r Dutch, Anabaptists, er ,ys mwy na chan' mlynedd, wedi ym- ostwng i daenelliad, er eu bod gynt yn drochwyr selog ,a,c aiddgar. A dyma dystiolaeth patpyr y Bedyddwyr Seisnig ar gwestiwn y glynu wrth "yr hen ddull Ysgrythyrol" (?): "It will be remem- bered that the calculation arrived at by the editor of the paperv based upon by the published figures showed that we could only show an increase on this point (baptism) within recent years of one-twentieth, though OUT gain in mem- bership stood at one-seventh." Y cynydd yn one-seventh, a, bedyddio un o bob ugain! ac eta ymffrostia y Dr. Williams, yn ei ysgrif, fod yr enwad Bedyddiedig yn glynu wrth fedydd! troch Mae efe, neu "organ" yr enwad, wedi gwneud camsyniad dybryd ar y mater; barned y darlienydd pa un o'r ddau sydd yn y camwedd. Yn yr America, gwnaeth yr enwad Bedyddiedig gais at y Dr. Edmund B. Fairfield, yr hwn a fu yn weinidog gyda'r Bedyddwyr am 25 mlynedd, am ysgrifenu llyfr newydd yn mhlaid troch- ia.d, a chynygient i'r gyfrol fod tua 400 o dudalenau 12 plyg. Yr oedd y Dr. Fairfield yn ysgolhaig gwych, ac yn Fedyddiwir selog. Derbyniodd y cynyg at fe aeth dros y maes yn bwyHog a gofalus; ond fel yr elai rhagddo yn ei efrydiaeth, gwelai fod seiliau'r droch yn diflanu; ymdrechai yn y modd mwyaf llafurus: i'w hadgyweirio. Fis ar ol mis am tua, dwy flynedd ymdrechodd ddal ei hen safle, ond: bu'r oil yn ofer. Teimlaii fod gormod o ffeithiau celyd a chedyrn yn ei erbyn, a dyma ei eiriau iCNid trochiad yw yr unig fedydd. Nkl trochiad yw 'baptizo' yn y Testament Newydd Nis gallwn fod yn ddyn gonest a phara i broffesu credu yr hyn nad oeddwn yn ei gredu. Bum yn credu mewn trochiad gydag argyhoedd- iad cryf. ond gyda'r ffeithiau sydd yn awr ger fy mron, yr oedd yn anmhosibl i mi barhau yn weinidog yr Efengyl mewn unrhyw le trochyddo'l.— ("Letters on Baptism," tud. 14.) Yn ol Dr. Fairfield, hen ddull an- Ysgrythyrol yw trochi. Fe aeth yr awdwr o dan seiliau trochyddiaeth yr enwad, a chyhoeddodd yn groew a phen- daint yn ei lyfr nad oes iddi un sail yn y Testament Newydd. Ond ebai y Dr. Williams yn ei nordd gyfyng a char- trefol, "Yr hyn a rydd arbenigrwydd. i enwad y Bedyddwyr. yw ei fod yn glynu wrth y dull Ysgrythyrol 0' fed- yddio drwy clansuddü neu dro,chl mewn dwfr! Gwnaeth y Dr. Williams y gosodiad hwn yn ei anwybod- .aeth, neu gydag amcan i clatflu llaid i lygaid y werin; ond mae wedi myned yn or mod o'r dydd belliach i daflu llaid' i lygaid y werin drwy ddweyd, haner y gwir a chuddio'r haner arall. Cydnab- yddwn fod y Bedyddwyr fel enwad yn glynu wrth y droch, ac eithriÜl y rhai sydd wedi eu gadiael, a'r miloedd sydd yn cymuno ganddynt, ond heb eiltrochi --feI y dengys y dyfyniad uchod o, bapyr .yr enwad yn Lloegr. Mae rhyw anffaeledigrwydd poenus na cheir ddim o. ho-no, mewn gwir ddiwylliant ac addysg yn rhedeg trwy'r ysgrif er engraipht: "Rhaid yr ystyrir fod gweinyddiad yr ordinhad yn rhoddi rhyw flaenoxiaeth yn nghyfeiriad bywyd i'r plentyn ond dysgeidiaeth 'amlwg' yr Ysgrythyrau yw mai ffydd yn unig yw cyfrwng bywyd, a bedydd a phob peth sydd yn dilyn y broffes yn amlygiadau o'r bywyd hwnw." t, Os mai dysgeidiaeth "amlwg" yr Ys- grythyr yw, fod ffydd i flaenori bedydd o hyd. Onid yw yn syndod na fyddai dynion o'r un cyhoeddiadau meddyliol a'r Doctor ei hun yn gweled: hyny ? ac y mae yn fwy 0 syndod fyth na fyddai dynion sydd yn meddu ar uwch a chryf- ach cyhoeddiadau meddyliol nag efe, yn medru gweled dysgeidiaeth "amlwg" yr Ysgrythyr ar y mater o dan sylw? Pe byddai y Doctor vn dweyd fel hyn "Dysgeidiaeth amlwg yr Ysgrythyrau i mi yw," etc., cuddiai hyny ei anffaeled- igrwydd; ond y mae "dysgeidiaeth amlwg yr Ysgrythyrau" yn qynwys cy- huddiael yn erbyn pawb nad ydynt yn Fedyddwyr o ddiffyg gonestrwydd i gredu yr hyn y mae efe ei hun yn ei gredu; ac ni chydnebydd ein bod ni yn credu .yr hyn ydym vn ei broffesu, am fod yr hyn a gred efe yn "amlwg i bawb." Dyna syniad y Pab heddyw am yr Ymneillduwyr; ni chred yntau fod genym fel Ymneillduwyr argyhoeddiad na. chydwybod ar dir Ymneillduaeth, am yr un rheswm ag a roddodd y Doctor cred y Pab fod ei ddysgeidiaeth ef yn amlwg i bawb, ac o ganlyniad y dylai pawb fod vn Babyddion. Chwiliodd v Dr. Fairfield i seiliau trochyddiaeth, a syrthiodd yr adeilad tywiodlyd yn gar- libwns ar ei ben; a phe rhocldai y Dr. Williams dro trwy yr un diriogaeth glasurol (?), tynid: ti^'n o'r anffaeledig- rwydd hwn o hono, gan nad beth am ragor. (Pw barhau.) Hywel.

"Y GENINEN" A'R DOSBARTH

LLANDDELJSANT, SIR GAER-I…

Advertising

CYFARFOD CHWARTEROL

DIWYGIAD MAWR 1904.