Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Cyfarfod Ymadawol y Parch.…

News
Cite
Share

Cyfarfod Ymadawol y Parch. T. Thomas, Salem, Llandilo. Mae yn wybyddus i'r darllenydd fod Mr. Thomas wedi derbyn galwad un- frydol a chynhes oddi wrth eglwys ieuanc Noddfa, ger Cwmaman, Aber- dar, a'i fod yntau wedi ei hateb yn gadarnhaol; ond cyn ei ymadawiad a'i hen eglwys barchus, ac a maes blaenorol ei fywyd a'i weinidogaeth, cynaliwyd cyfarfod ymadawol yn Nghapel Salem nos Iau, Tachwedd 24ain, 1904. Daeth cynulleidfa luosog a chyfrifol yn nghyd1 erbyn saith o'r gloch, yn cynwys yr eglwys a'r gynulleidfa yn y lie, yn nghyd a chynrychiolaeth ragoroi o holl eglwysi o cyl'ch 01 bob enwad-yn ddangoseg o barch yr eglwysi a'r cylch iddo, gwerthfawrogiad o'i lafur yn ystod deunaw mlynedd ei weinidogaeth, hiraeth ar ei ol, yn nghyd a'u dymun- iadau da iddo yn ei faes, ei waith, a'i fiywyd dyfodol. Ar gais y gynulleidfa, cymerwyd y gadair gan y Parch. W. Davies', Llan- dilo. Wedi rhoddi emyn allan i ganu, galwodd ar y Parch, i. Thomas, Llan- gadog, i ddechreu drwy ddarllen a gweddio. Yna cafwyd anerchiad o'r gadair, yn egluro mater gwasanaeth a gwerth cyfarfod o'r fath. Nid dyfoid yma i ganmol y gweinidog na'r eglwys, ond i ddangos fod gan giyfarfod o'r fath ei genhadaeth arbenig yn nglyn a'r eglwys ac a Mr. Thomas, ac a phawb o, honom sydd yn llafurio yn ngwaith gwelliant y byd-mai cyfrifoldeb mawr yw deal'l vstyr eu hamgylchiadau a'u hamgylchoedd er mwyn dal ar bob cyf- nod a chyfnewidiad, a'u troi yn foddion addysg, hyfforddiant, ac ysbrydoliaeth er daioni mwy a gwell ar gyfer y dyfod- ol. Mae yn gyfleustra i ddwyn i'r golwg ochr oreu bywyd, a dangos i'r cyhoedd elfenau a rhinweddau cudd- iedig bywyd a chymeriad perthynol i eglwys a gweinidog da, na welwyd, feo. ddichon, tra yn nghymdeithas eu gilydd. Mae cael adee a chyfle i adolL ygu bywyd, gwaith, a chymeriad yn bethau gwerthfawr ac yn ami yn dyfod a gweledigaethau newyddion i'r meddwl ac yn gwasanaethu yn foddion o ras, cryfhad, a datblygiad helaethach yn y dyfodol. Wedi hyny, darlleno-d,d y Cadeirydd amryw lythyrau ddanfonwyd gan gyfeillion oi herwydd methiant i fod yn bresenol:—Oddi wrth y Parch. D. James, Llandilo; Parch. D. E. Walters, M.A., Llanymddyfri; a D. Lleufer Thomas, Ysw., bar-gyfreithiwr, Aber- tawe, ac un o blant yr eglwys; a chan ei fod yn blentvn yr eglwys, yn fab i un o'r swyddogion, yn adnabod yr eg- lwys, y wlad, a bywyd a gweinidogaeth Mr. Thomas, caiff y cyhoedd ddarllen ei lythyr cynwysfawr, caredig, a chref- yddol:— "8, Brynmill Crescent, Abertawe, "Taichwiedid 23ain, 1904. "At Gadeirydd y Cyfarfod Ymadawol yn Salem." "Anwyl Gyfaill,— "Pan glywais gyntaf fod cyfarfod ym- adawol i gael ei gynal yn Salem er ffar- welio a Mr a Mrs Thomas ar eu hymad- awiad a'r ardal, penderfynais ar unwaith y gwnawn didod iddo, os na ddeuai rhyw- beth anorfod i'm lluddias. Trefnais bobpeth, ond y tywydd, ar gyfer dod i'r lan. Yn anffodus, er hyny, mae y tywydd wedi troi mor auafaidd, fel yr wyf yn ofni anturi.o ar y siwrne, yn en- wedig gan y byddai raid i mi ddych- welyd gyda'r tren cyntaf boreu dydd Gwener, o herwydd yr 'Assizles' yma ar hyn o bryd. Y mae yn siomedigaeth blin i mi nas gallaf dan yr amgylchiad- au ddod i'r cyfarfod, g;an yr hoffaswn, fel un o blant eglwys Salem, gymeryd mantais o'r cyfle ihwn i ddangos y parch diffuant a deimlaf tuag at Mr. Thomas a'i briod, ac i ddymuno Duw yn rhwydd iddynt yn y cylch newydd ac eangach y maent yn myned iddo. "Rhyfygus fyddai treio goscyd pris ar waith gweinidpg ffyddlon, hyd yn nod pe byddai hyny yn bosibl; ac felly, ni chynygiaf roddi barn ar faint dyled eg- lwys Salem a'r cylch vn gyffredinol i Mr. Thomas am ei lafur tawel, amyn- eddgar, ond egniol a diiflino am yn agos ddeunaw mlynedd. "Am amser hir i ddod, bydd cof melus a bendithiol am ei ddifrifoldeb a'i daerineb fel pregethwir a chynghor- wr; ond am yn hyawdl fyth fydd dylanwad ei esiampl', ei gymeriad gloew a'i fywyd dirodres, ei onestrwydd un- lyg, ac addfwynider ei ysbryd. "Ac y mae ei briod wedi llwyr cyd- gyfrangoli ag ef yn mhob gwaith da', gyda'r doethineb mwyaif air hyd yr holl flynyddoedd. Pleser a braint nid bychan fuasai i mi allu dwyn tystiolaeth o hyn all yn y cyfarfod ond fel y dywedais, blin genyf fy siomi yn hyn oi obaith. Gyda chofion gwresocaf at y cyfeillion yn Salem, a'r dymuniadau goreu ar ran Mr. a Mrs. Thomas, gor- phwysaf, "Yr eiddoch yn ddidwyll, "D. Lleufer Thomas." Wedi darllen y llythyrau, aethpwyd at y gwaith dyddorol o, qyflw-, no, yr an- rhegion gwerthfawr o du yr eglwys a'r gynulleidfa, yn nghyd ai gweinidogion y cylch. Rhoddodd yr eglwys a'r gynull- eidfa ddau ddarllun (oil portraits) o hon,ynt eu hunain i Mr. a Mrs. Thomas, o waith yr arlunydd medrus ac ad- nabyddus, Mr. Ap Caledfryn. Galwyd ar Miss Evans, Cwmgwaunhendy, i gyf- lwyno, yn enw yr eglwys, y darlun i Mr. Thomas; a Mr. Thomas, B.A., yr ysgolfeistr, i gyflwyno i Mrs. Thomas. Gwnaeth y ddau eu gwaith yn fedrus a boneddigaidd. Wedi hyny, daeth y Parch. D. Richards, Myddfad, ysgrilienydd y cyfarfod ymweliadol, yn mlaen i gyf- lwyno anerchiad gan ac yn enw gweini- dogion y cylch fel y can]jyn:—

Advertising

[No title]

ANERCHIAD I'R PARCH. THOS.…