Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

" Un o ' Big Guns' ei Enwad!"

News
Cite
Share

Un o Big Guns' ei Enwad!" Fel "un o 'big guns' ei enwad y cyfeiriwyd at bregethwr adnabyddus, perthynol i'r enwad Anibynol, yn ngholofnau y wasg yn ddiweddar. Tarawodd yr enw fi a syndod, a phar- odd i mi sefyll ac ymholi llawer beth sydd yn, a than, a thu draw, ac wrth wraidd y cyfeiriad at weinidog Iesu Grist fel "big gun." Rhyfedd mor wahanol yw y cyfeiriadau a geir yn y Gair Sanctaidd at genadon a phro- phwydi y Goruchaf, i'r cyfeiriadau a geir yn y wasg headyw Yn y Gair Sanctaidd, fe'u gelwir gwr Duw," gweision Duw," cenad yr Arglwydd," tystion," angel yr eglwys," etc. ond heddyw sonir am y gweinidog Crist- ionogol fel big gun ei enwad Mae big gun," fel enw ar weinidog efengyl, yn yr un awyrgylch foesol a'r enw pugilist, ac nid oes gan yr hwn a sonia am y gweinidog o dan y cyfryw enw syniad clir iawn, mor bell ag y mae teimlad yn y cwestiwn, am y gwa- haniaeth rhwng y pugilist pen ffair a gweinidog yr efengyl! Syniad anianol iawn sydd wrth wraidd y cyfeiriad at weinidog fel big gun ei enwad. Y meddwl anianol sydd wedi llunio'r enw. Nis gallai meddwl ysbrydol, Cristionogol, iach, lunio y fath enw diraddiol ar waith a swydd mor anrhydeddus a gweinidogaeth yr efengyl. Dyn yn byw, yn symud, ac yn bod yn nhiriogaeth yr anianol yn unig sydd yn synied felly am yr efengylydd Cristionogol-dyn wedi colli ysbryd yr efengyl ei hun dyn ag mae yr efengyl yn fwy o waith pen iddo nag o ddim arall; dyn ag y mae yr efengyl yn grefft neu yn alwedigaeth barchus yn ei olwg. I ddyn o syniadau felly, mae yn naturiol iddo son am bregeth- wr da a chymeradwy fel big gun ei enwad. Un yn myned o gwmpas y wlad ac eglwysi i wneud "strokes" crefvddol! Fel yna yr wyf yn darllep ysbryd a syniadau yr hwn a eilw genad Duw yn "'big gun' ei enwad." Mae rhyw ysbryd anianol iawn yn mhre- gethu yr oes hon, a rhyw syniadau anianol iawn am bregethwyr. Rhydd hyn wedd fydol, faterol, ac andwyol iawn ar y weinidogaeth; ac fe aiffy teitlau a roddir ar weinidogion heddyw mewn ymddyddanion ac yn y wasg, yn mhell iawn i gyfrif am ysbryd a syn- iadau afiach a chyfeiliornus llawer am y pulpud a'i waith. What's in a name ?" ebai y bardd Seisnig. Y mae mwy ynddo nag a dybir yn gyffredin. Y mae ysbryd, a syniadau, a barn, a gogwyddiadau dyn yn dod i'r golwg yn yr enw a rydd ar berson neu bethau. Mi welaf fi, ac fe wel pawb sydd yn gallu gweled, y byd meddyliol yn yr hwn y mae'r person sydd yn galw cenad y nef yn big gun yn byw; ac och! mae yn fyd oer, ac yn llawn o ddryg- sawr heintus i ysbryd crefyddol iach. Rhydd fferyllwyr a meddygon enwau Lladin ar wahanol gyffeiriau, er cadw yn ddirgel, meddir, natur, a phob gwybodaeth am y feddyginiaeth. Felly y mae big gun," fel enw ar weinidog yr efengyl, yn celu ei waith, a natur ei genadaeth, oddi wrth ddynion, ac yn tueddu i lanw llestr gwan o wynt a balchder, nes ei yru yn deilchiori i ddinystr a gwaradwydd. Peth dinystr- iol iawn yw gwynt ar y mor, ac mae yn llawn mor ddinystriol ar y tir. Rhoi gwynt afiach o dan geseiliau, yw galw dyn yn £ big gun ei enwad Diolch fod rhai yn ddigon cryf i ddal. Ond paham y temtir dynion gan rai a gymer arnynt fod mewn cydymdeimlad a hwy ? Mae llawer iawn o ddiofalwch ac arwynebolrwydd wrth wraidd hyn, yn nghyd a diffyg dirnadaeth ysbrydol. Heblaw fod yr enw big gun"; yn dangos syniadau anianol, dengys hefyd ddisgwyliadau bydol am lwyddiant. Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd, o'r lie y daw fy nerth," ebai y dyn da hwnw yn y Salm; ond nid oes gan yr hwn a fedd ddisgwyliadau bydol fyn- yddoedd i godi ei lygaid arnynt. Mae ei lygaid ef ar y gun," ac ar fawredd y gun ac er ei swn, edrych i lawr y mae efe, ac nid edrych i fyny-edrych ar y tan, a'r mwg, a'r hwyl ddaearol; mae yn estron hollol i nerthoedd y byd a ddaw! Fe fydd ef, druan, yn colli ei ben os daw'r hwyl heibio iddo, a chwyd i ganmol y gun am y gwaith a wnawd ganddo. Bydol yw ei ddis- gwyliadau am mai bydol yw ei syn- iadau: nis gall neb godi yn uwch na'i fyd ond fe ddylai llawer godi yn uwch na'r byd y maent yn byw ynddo, oblegyd y mae eu byw yn dylanwadu i anfantais ar amgylchoedd bywyd. Fe ddyoddefa cymdeithas heddyw oblegyd syniadau afiach a chyfeiliornus dynion am grefydd a'r efengyl. Mae'r diafol yn dawnsio o orfoledd gan glyw gen- adon y nef yn cael eu galw, a chael synied am danynt fel big guns yr enwadau Fe wel y diafol fod yr eglwys yn dod i synied a theimlo fel efe am waith y pulpud. Anti-Humbug.

Undeb Pontypridd a'r Rhondda.

Seion, Abercanaid.

:—... 0 Lanau'r Cynon.

Advertising