Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Syr Henry Campbell Banner=…
Syr Henry Campbell Banner= man a Mr. Asquith yn Siarad. Yn Manceinion siaradodd Camp- bell-Bannerman. Dywedodd pe bu- asai efe yn sefyllfa y Llywodraeth bresenol, y buasai yn rhwym o fod wedi vmddiswyddo, a hyny er's amser hir. Nis gallasai weled un rheswm dros fod dynion o liunanbarch a goleuni yn parhau i gadw y Weinydd- iaeth yn eu Haw, fel y maent wedi gwneud ar hyd y flwyddyn a haner diweddaf. Ar hyd y cyfamser, mae'r Weinyddiaeth yn raddol wedi bod yn colli ymddiriedaeth y wlad, ac nis geill ond ystyfnigrwydd a hunanfantais mewn golwg yn ei pharhad. Siaradai Mr. Asquith yn Southend a chafodd gvnulleidfa o bedair mil i'w wrando. Cyhoeddai Mr. Asquith yn groew, fod y Llywodraeth yn ei hym- lyniad ystyfnig ac asynaidd wrth ei gwaith, yn rhwystr i deimlad goreu y bobl i gael ei fynegu, ac yn rhwystr i ddeddfwriaeth amserol a gwir angen- rheidiol. Cyfeiriodd at waith Mr. Balfour yn son am ad-drefniad y sedd- au yn yr cisteddiad nesaf. Cydna- byddai nad yw pethau yn deg mewn llawer man fel y maent ar hyn o bryd ond dangosai ei bobl fod lluaws o faterion eraill i'w hystyried gydag ad- drefniad seddau ac y buasai mesur o'r fath yn anymarferol heb ystyried y rhai hyn. Yr hyn a andwyai ein cynydd a'n dadblygiad gartref, oedd treuliau gwastraffus, deddfau Ilac, a deddfwriaeth anheg a sylw gormodol yn cael ei roi i faterion neillduol, a hyny ar draul esgeuluso y lluaws.
: Y Diwygiad a'r Dafarn.
Y Diwygiad a'r Dafarn. I Dduw bo'r diolch un o wyrthiau godidocaf y tan yw gwaghau y dafarn. Yn un o'i gyfarfodydd, darllenai Evan Roberts, Apostol y Diwygiad, lythyr o'i gartref yn Casllwchwr, yn hysbysu y ffaith fendigedig hon, sef fod yno dafarn neillduol yn y cylch, o'r hwn y dylifai yn ddrewllyd gan ddiod dri chant o bobl adeg stop-tap" ar nos Sadwrn ond syned daear-nos Sadwrn diweddaf, ar ol y tan sydd yn puro, dim ond un-ar-ddeg llwydion eu gwedd ddaeth allan a'r drysau yn cau ar eu hoi. Dyma rywbeth gwerth gwaeddi Amen ac Amen onide ? Tyra llawer i'r dafarn er mwyn y cwmni a chyn- hyrfiadau twyllodrus alcohol, ac yn y l boddhad a'r excitement," eir yn ddall i'r drwg; ond wele gwmni newydd- cwmni'r pererinion ac excitement newydd—" excitement" dwyfol, ac mae y truan oedd yn colli ei hun yn y gwirod ddoe, yn colli ei hunan yn yr ysbryd heddyw. Dyma'r gweithred- oedd mwy." Pechod creulon golla'r dydd, Caethion medd'dod ddont yn rhydd; Llwyr ddymchwelir Babel fawr, Er ei bri, hi gwymp i lawr.
Y Deffroad yn Rwssia.
Y Deffroad yn Rwssia. Mae ysbryd deffroad gwleidyddol a clienedlaethol ar waith er's tro yn Rwssia, ac mae hwnw yn ysbryd sydd yn ergydio yn uniongyrchol ar orthrwm ac anchwareuteg unbenaethdod. Un meddwl cryf a phendant sydd yn llywodraethu Rwssia; ac fe'i hategir gan nifer o segur swyddwyr a drwg swyddwyr a chynffonwyr ac mae'r meddwl hwn yn cadw'r werin fawr mewn anwybodacth, a chaethiwed, a thlodi. Ychydig amser yn ol, ni feiddid dweyd gair yn erbyn y meddwl hwn ac os .^aasid yn drwgdybio un o fod yn ei erbyn, cymerasid ef yn rhwym yn ddioed, a danfonid ef yn ddi-drugaredd i Siberia. Yr oeddem yn siarad y dydd o'r blaen a dyn o Ferthyr, yr hwn sydd a mab ganddo yn Rwssia a dywedai y dyn hwn na chawsai ei fab dderbyn llythyr oddi wrth ei dad heb ei archwilio, ac na chawsai y tad lythyr oddi wrth ei fab heb fyned o dan yr un archwiliad, ac heb gael ei ddarnio a'r sisiwrn, a'i dori yn ei eiriau a'i hysbysiadau. Barnol o lethol a gwywol ydyw unbenaethdod Rwssia; ond erbyn heddyw, mae tro ar fyd hyd yn nod yn Rwssia. Y Sabboth diweauaf, cyfarfyddai tua 700 o bobl yn St. Petersburg, y rhai a gynrychiolent feddwl mwyaf goleuedig a gwrteithiedig y ddinas i gymeryd i ystyriaeth ryddid bobl ac angenion y wlad. Un o'r penderfyniadau cyntaf y cydunwyd arno gydag unfrydedd ydoedd eu bod o'r farn fod yn rhaid i'r wlad wrth fwy o ryddid er iawn ddatblygiad ei hadnoddau a'i gallu- oedd a'i posibiliadau, sef rhyddid ym- adrodd, rhyddid cydwybod, a rhyddid y wasg, a rhyddid i ddeisebu at y Llywodraeth. Yr oedd yr ail bender- fyniad yn dweyd y dylasai fod gan y bobl law a llais yn eu gwladlywiaeth. Yr oedd y trydydd benderfyniad o blaid rhoddi yr un iawnderau ac hawl- iau i bobl ar wahan i'w cenedl; a chyd- olygid y dylesid cael deddfrwrfa ar un- waith i gymeryd i ystyriaeth sefyllfa'r wlad. Yr oedd y cyfarfod ar ei hyd yn ofnadwy o frwdfrydig. Clywid gwaeddiadau ynddo, "I lawr ag unben- aethdod; "I lawr a'r rhyfel." Eglur yw fod ysbryd Rhyddfrydiaeth yn fyw ac yn lledu yn y wlad, ac y bydd yn ddigon cryf yn y man i ddarnio deddf- au ac i ddymchwelyd groseddau.
[No title]
Yn Milodfa Bostock yn Paris ar hyn o bryd, ceir gweled "y Hew a'r oen yn gorwedd yn nghyd." Cymerodd digwyddiad ofnadwy le yn Kiev, yn Rwssia, ychydig ddyddiau yn ol. Mewn gwledd briodasol, bu farw ugain o'r gwahoddedigion o effeithiau yfed brandi anmhur.
Nodiadau.
Nodiadau. Gan Ap y Frenni. Swn y diwygiad crefyddol sydd yn cerdded drwy yr holl wlad. Nid oes flas i ysgrifenu gair bron am ddim arall. Fel y gwyr darllenwyr y golofn hon, cwestiwn addysg yn benaf sydd wedi ei ymddiried i mi er yr adeg y taflodd y blaid Doriaidd ni i'r fath ferw drwy eu deddfau anghyfiawn eu gwanc a'u trais. Ond cyn gwneud nodiad neu ddau ar bwnc addysg heddyw, rhaid i mi ddatgan fy llaw- enydd fod tan y diwygiad yn myned ar led. We], y mae yn llosgi yn dawel mewn rhai ardaloedd er ys dwy neu dair blynedd. Y mae felly mewn am- bell ardal lonydd yn y wlad, yn mhlith pobl nad ydynt arferol o roddi myneg- iant rhwydd iawn i'w teimlad hyd yn nod pan y mae eu calon yn llyn. Ond metha y bobl dawel hyn gadw yr ar- wyddion o'u teimlad yn ol y dyddiau presenol. Diau fod clywed am y cyn- hyrfiadau mawrion mewn ardaloedd eraill yn tueddu i dori'r argaeau. Ond nid hyny yn unig yw. Codai y llanw cyn i'r argaeau dori mewn rhanau o Forganwg, a siroedd eraill hefyd o ran hyny. Sycheda yr holl wlad am dy- walltiad nerthol. Er bod rhai wedi tybio, ac yn dysgu yn gyhoeddus, na welid byth wedyn ddim tebyg i'r hen ddiwygiadau pan anghofiai dynion eu hunain a'u hamgylchiadau. Yr oedd addysg a diwylliant wedi gwneud di- wygiadau felly yn bethau anmhosibl Druan o'r prophwydi gau! Llama rhai o honynt gan orfoledd erbyn hyn am chwalu eu prophwydoliaethau, a gwasgar eu rhag-gyfrifiadau i'r pedwar gwynt. 0 ran fy hun, yr wyf yn ddi-euog o dybio nas gwnai yr ysbryd ymweled a ni wedyn yn union yn y ffordd y mae wedi wneud. Cefais brawf yn misoedd cyntaf 1896 yn Ferndale o'r hyn a allai Ysbryd Duw wneud yn yr oes oleu hon. Cawsom y pryd hwnw ar raddfa fechan, bron yn union yr un peth ag a geir ar raddfa fwy y dyddiau hyn. A deallaf fod Ferndale ,Tony- pandy, ac feallai leoedd eraill yn y Rhondda, wedi cael profiadau cyffelyb yn ddiweddar, cyn bod y cenadon a ddefnyddia Ysbryd Duw yn y cyffroad presenol wedi derbyn eu gweledig- aethau a'u bedydd tan. Yn y cyffroad y cyfeiriaf ato yn Ferndale, yn 1896, gellir dweyd mai yn nghyfarfod y bobl ieuainc y dechreuodd y tan fflamio. Hwy, ar ol wythnos o weddio, a fynent ei chynyg am wythnos arall. Bechgyn a merched ieuainc yn benaf a deimlent y pwerau anorchfygol, ac a ysgydwent y torfeydd a'u dawn di-addurn, ond dwyfol. Cefnogai yr hen bobl hwy i'r man eithaf. Gwaeddent allan weithiau, Ewch yn mia'n Dyna fe Ysbryd mla'n, fechgyn Llawer gwaith yr wyf wedi dweyd oddi ar hyny yn gy- hoeddus a dirgel, mai yn mhlith y dynion ieuainc y torai allan y diwygiad nesaf. A dyma fe wedi dod! Yr oeddwn yn ofni yn fy nghalon yr awn yn rhy hen i'w deimlo yn ei rym cyn y deuai. Ond diolch i Dduw, nid wyf. Cerdda rhyw drydan drwy fy esgyrn, yn neillduol pan yn nghanol fy mhobl ieuainc, ac yn nghwrdd y plant. Ac eto, ei ddisgwyl yn fwy grymus yr ydym yn yr ardaloedd hyn. Y mae yma syched mawr a gweddio taer am dano. Pa bryd y daw ? Chwi wyr grymus sy'n nghanol y tan, wnewch chwi weddio dros Sir Gaerfyrddin ? Dywedaf yn nghyfieith- iad Ben Davies o Throw out the life- line "— Dewch, cynorthwywch,—dewch, cyn- orthwywch Teflwch y rhaff ar y don Dewch, cynorthwywch,- dewch. cyn- orthwywch, Mae rhywun yn suddo'r awr hon -+- vVel, yn awr, sut y mae myned yn ol at y byd eto ? Teimlaf yn debyg i wr a'i gwpan a dalodd ymweliad a Sir Forganwg yn ddiweddar. Arferai pan yn myned ar ymweliad a'i blant i For- ganwg, fwynhau ei hun yn debyg i'r modd y gwna miloedd ysywaeth, gyda'r bibell ac uwch y cwpan. Gofynai rhywun iddo ar ei cldyehweliad:- Wel, Dafydd, sut le gawsoch chi'n Morganwg y tro yma ?" Ei ateb oedd i £ Gwerth dim o'r baw, fachgen. 'Rodd yr hen ddiwygiad yna yn ,mhob man yr awn i. Weles i. 'rioed shwd beth!" Ond y gwirionedd yw, pe symudid yr anhawsderau, sy'n gorwedd wrth wraidd brwydr addysg, byddai ein gwlad yn llawer mwy rhydd i'r efengyl redeg a chael gogonedd. Cydweithia yr enwadau Ymneillduol heb fod eu gwahaniaethau sectyddol yn fawr rhwystr iddynt. Pe gosodid yr Eglwys Sefydledig hefyd ar yr un tir, diau y deuai yn fendith ddirfawr i'r Eglwys hono ei hun ac i grefydd yn gyffred- inol. Gyda'r amcan i hyrwyddo pethau yn y cyfeiriad hwn, y bwriedir cael cynhadledd luosog o gynrychiolwyr o holl eglwysi Ymneillduol Sir Gaer- fyrddin, yn nhref Caerfyrddin, pryd- nawn dydd Gwener nesaf, Rhagfyr 9. Anerchir y gynhadledd gan y Parchn. George, A.S. ac eraill. Synwyd dipyn i Brifathraw Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin, enwebu Tori yn Nwyreinbarth tref Caerfyrddin i'r Cynghor Trefol. Rhoddodd y trethdalwyr ateb pur effeithiol iddo drwy ddychwelyd y ddau Ryddfrydwr, a gadael allan y ddau Dori. Gyda dim y dychwelai y Gorllewinbarth gyn- rychiolydd Rhyddfrydol hefyd. Tybed bod prophwydoliaeth Myrddin yn dod i ben fod Caerfyrddin i suddo? Go- beithio y teflir ysbrydiaeth newydd i wleidiadaeth y dref gan y cyfarfodydd dydd Gwener nesaf.