Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Sir Gaerfyrddin a

News
Cite
Share

Sir Gaerfyrddin a Pholisi Caerdydd. Gan Ap y Frenni. Yn y cyfarfo 1 a anerchwyd gan Mr. Lloyd George, A.S. yn nhref Caer- fyrddin, rai wythnosau yn ol, gwnaed I yn hysbys y bwriad i alw yn nghyd I gynhadledd o Anghydffurfwyr a Rhydd- frydwyr ,er mwyn cael eu barn ar y polisi y siaradai yr aelod dros Orllew- inbarth y sir mor gryf yn ei erbyn. Llawer gwaith y mae y sir wedi rhoddi ei barn ar y mater hwn bellach a chwareu teg iddi, y mae wedi dal yn gyson o'r cychwyn i gefnogi y polisi cenedlaethol. Antonwyd allan wahodd- iadau i holl eglwysi Ymneillduol y sir i ddewis cynrychiolwyr i'r gynhadledd. Daeth tyrfa fawr yn nghyd; yr oedd y neuadd eang wedi ei gorlenwi. Llyw- yddwyd gan Mr. J. Lewis, Meiros Hall, Cadeirydd y Cynghor Sir. Y prif siaradwyr oedd Mr. Lloyd George, A.S. a'r Parchn. T. Law, Ysgrifenydd Cynghor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion a'r Parch. Sylvester Horne, M.A. Yr oedd y d-.au olaf hyn yn bresenol er mwyn sicrhau y Cymry fod holl rym Eglwysi Rhyddion Lloegr y tu cefn i Gymru yn yr ymgyrch pre- senol. Yr oedd yn eglur ddigon oddi wrth eiriau y ddau foa Ymneillduwyr Lloegr yn awyddus i Gymru sefyll fel gwyr, heb son am gyfaddawd, fel y gallont benderfynu y cwestiwn unwaith am byth. Gwyr darllenwyr y Celt" yn dda fod Mr. Sylvester Horne yn un o'r dynion mwyaf rhagorol, ac yn un o'r gwyr grymusaf fedd Lloegr heddyw. Yr oedd yn galondid i Gymry ei glywed yn dweyd yr ategai efe ni i'r man eithaf yn y frwydr y rhoddai ei wasanaeth yn mhob rhyw fodd i gasglu arian yn Lloegr, ac i gryfhau calon ein cenedl fechan ddewr. Cyfeiriodd at Mr. Lloyd George, nid yn unig fel y prif gad-lywydd yn Nghymru, ond prif arweinydd y Saeson hefyd yn y rhyfel hwn. Am Mr. Lloyd George ei hun, wrth reswm, yr oedd yn feistr y gynulleidfa, fel arfer. Siaradodd am dros awr o amser yn y prydnawn. Teimlai ei gynulleidfa ei bod yn ddyogel yn ei law. Dangosai fel yr oedd y polisi cenedlaethol wedi llwyddo hyd yma. Dywedai ei fod wedi arbed miloedd o bunoedd i Gymru eisoes. Nododd Sir Gaerfyrddin fel engraifft, a sylwai y buasai cario y ddeddf allan yn Sir Gaerfyrddin, fel y gwneir mewn rhanau o Loegr, yn golygu codi y dreth, man lleiaf tair ceiniog y bunt. Gyda'r gair, cododd y Proffeswr Jones ar ei draed i daeru fod hyny yn anwiredd. Dech- reuodd y Proffeswr egluro, ond gwelid nad oedd wedi cydio y mater oedd dan sylw Mr. Lloyd George ar y pryd. Ceisiai yr aelod anrhydeddus ddar- bwyllo y Proffeswr nad oedd wedi deall y mater oedd ganddo mewn Haw ond ni fynai Mr. Jones gymeryd ei ddar- bwyllo 0, gwbi. Felly bu tipyn o gyn- hwrf am enyd. Ond rheolodd y cadeir- ydd caffai y Proffeswr draethu ei ten ar ol i Mr. Lloyd George orphen. Hyny a wnaeth. Tra yr ai y gweddill o'r cyfarfod yn mlaen, brysiodd Mr. E. R. Davies, Ysgrifenydd Cynghor Sir Gaer- narfon, gyda Mr. H. Jones-Davies, Glaneiddan,—un o aelodau Cynghor Sir Gaerfyrddin,—i swyddfa Mr. Nicholas, Ysgrifenydd Cynghor Sir Gaerfyrddin, a chymerasant Proffeswr Jones gyda hwy i lygad y ffynon. Aethant drwy y ffigyrau, a chawsant y buasai y dreth ddwy geiniog y bunt yn fwy nag y dywedai Mr. Lloyd George Dychwelasant mewn pryd—(heb y Proffeswr)--i gyhoeddi hyn i'r cyfarfod. Ond paham yr ymhelaethaf? Pasiwyd y penderfyniad gyda brwdfrydedd mawr, heb nemawr law yn ei erbyn, fod y gynhadledd yn glynu wrth bolisi Cynadledd Caerdydd, ac yn ymrwymo i wneud yr oil yn ei gallu i gario allan y polisi hwnw. Felly deil yr hen sir yn iach o hyd. Yr oedd rhai aelodau seneddol eraill yn bresenol, sef Mr. Abel Thomas, Mr. Brynmor Jones, Mr. Alfred Davies, a Mr. Weir o'r Alban. Siaradodd v cyntaf ychydig eiriau i bwrpas. Cynal- iwyd cyfarfodydd yn yr hwyr yn Nghaerfyrddin yn yr Hen Dy Gwyn ar Daf, ac yn Nghastellnewydd Emlyn. Yn mhob un o'r cyfarfodydd hyn, pas- iwyd penderfyniad i'r un perwyl a'r uchod. Y mae Qffeiriad yn nhref Caerfyrddin sydd wedi cymeryd rhan bur flaenllaw yn ddiweddar yn mhlaid y deddfau addysg gorthrymus y brwydrwn yn eu herbyn. Dygwyd ei enw rywfodd ger bron yn y cyfarfod hwn. Nododd Mr. Lloyd George, yn nghanol tipyn o chwerthin, rai ffeithiau pwysig yn nglyn ag ef. Codwyd Mr. Lloyd George ac yntau yn yr un ysgol-ysgol Eglwys- ig. Yr oedd Mr. Camber Williams,- oblegyd dyna enw yr offeiriad,-yn Ymneillduwr y pryd hwnw, ond am na chai fyned yn athraw heb droi i'r Eg- Iwys, cefnodd Mr. Williams ar ei enwad. A nodai Mr. Lloyd George ei fod wedi ei brynu ag arian y cyhoedd, —ei brynu, meddai, mor wirioneddol ag y prynid moch ei dad yn ffeiriau Llanystumdwy.

Yr Athrawon a'r Esgobion.

;—. Y Bywyd Newydd yn Rwssia.

Cenadaeth Dr. Torrey a Mr.…

[No title]

[No title]