Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Mr. Chamberlain

News
Cite
Share

Mr. Chamberlain A'i 6yfarfod yn yr East=end, LIundain. Nos lau, Rhagfyr 16, cafodcl Mr. Chamberlain hwyl yn neuadd fawr Dr. Barnardo, yn mhlith gweithwyr Llun- dain yn yr East-End. Ystafell ydyw hon wedi ei chyfaddasu i wasanaeth crefyddol ac i addoliad ac mae arwydd- eiriau Beiblaidd ar y muriau ond y noson hon, cuddid yr arwyddeiriau Beiblaidd ag arwyddeiriau gwleidydd- ol a Chamberlainyddol. Yn awgrym- iadol iawn, onide ? Rhodder Cham- berlain yn mlaenaf—a'r Beibl wedyn. Mae hyn yn eithaf cyson a chefnogwyr Deddf Addysg 1902 i ymyru, a Mesur y Trwyddedau i waddoli masnach y cwrw. Fe ddaw y diwygiad a'r Beibl i'r amlwg, a hyny drwy addysg, gwleidyddiaeth, a chwrw; ond mae .diwygiad Chamberlain yn rhoddi ei arwyddeiriau ei hun i guddio geiriau Duw. Rhai o osodiadau Mr. Joseph Cham- berlain yn ei araeth oedd (1) Fod Mr. Balfour ac yntau mewn perffaith gyd- ymdeimlad ar Ddiffyndollaeth (2) Ei fod ef yn ystod 30 mlynedd ei yrfa seneddol, wedi sylwi mai araf oedd y dosbarth gweithiol i gymeryd i mewn syniadau a gweledigaethau newydd- ion (3) Mai goreu oil pa mor fuan y cymer yr etholiad cyffredinol Ie (4) Y dylesid codi ei genhadaeth uwch- law plaid, a'i fod ef ar ei eithif yn ceisio gwneud hyny, ond fod ei wrt'i- wynebwyr yn gweithredu yn groes iddo. Yr unig osodiad y galleesid ihoi "Amen" gyd^g ef ar unwaith yw, mai dymunol fuasai etholiad cyffredin>il buan. Credwn y gwna hwnw roi llawer ar eu prawf ac yn eu lliw priodol. Mae yn bosibl fod Mr. Cham- berlain yn cael ei hudo i gredu fod y wlad o'i blaid, ac fod ei genhadaeth yn sicr o fuddugoliaeth ond os ydyw hyny yn wir, mae mewn cyflwr cam- arweiniol hollol. Dau enw sydd yn wrthodedig, a hyny gyda dirmyg yn y wlad, yw'r ddau enw Balfour a Cham- berlain. Ar hyn o bryd, maent yn gorphoriad, neu yn ymgnawdoliad o orthrwm, creulonder, gwamalrwydd, a drwg ac am hyny, gwrthodir hwynt gyda chroewder. Enwau sydd yn farn ar gydwybod gwlad ydynt. Sonia Mr. Chamberlain am godi ei bolisi uwch- law plaid. Ymddengys nad oes yr un ,gwr cyhoeddus yn fwy tueddol nag ef i'w chysylltu a phlaid. Sonia yn mhob araeth o'i eiddo am dano ei hun a Bal- four, ac am Balfour, ac am dano ei hun; a phwysleisia ar gydymdeimlad Balfour. Mor bell ag yr a siarad Mr. Chamberlain, pwnc plaid ydyw, ac i amcanion plaid y gosodir ef ger bron y wlad. Yr un noson ag y siaradai Mr. Cham- berlain yn Llundain, siaradai Syr M. Hicks-Beach yn Cheltenham. Gwelwyd Syr Michael unwaith yn cefnu ar Bal- four yn herwydd ei ymlyniad wrth Chamberlain ond yn araf, fe gafwyd y mab afradlon hwn yn ol; a bellach, mae yn fab ufudd. Siaradai yn Chel- tenham yn uchel yn ffafr y Llywod- raeth. Dywedai ei bod yn uwch yn marn y wlad nag oedd ddeuddeg mis yn ol; a bod ei ddoethineb gyda chwestiynau tramor yn achlysur i hyny. Taerai fod "Fiscal Polisi" y Llywodraeth yn un y gallasai Rhydd- frydwyr i ymgymeryd a hi; a datganai ei ymddiriedaeth yn mwriadau Mr. Balfour. Y fath ddau siaradwr gwahanol- Syr Michael a Chamberlain, onide ? Son am Fiscal Polisi Balfour a wna Syr Michael son am ei bolisi ei hun wna Chamberlain. Awgryma Cham- berlain fod Balfour ac yntau yn deall eu gilydd; ond ni cheir y fath beth gan Syr Michael. Y gwir yw, y mae Balfour a Chamberlain yn deall eu. gilydd ar y polisi o dwyllo'r wlad, yn well nag ar y ffiscal polisi, ac mae yn hen bryd i'r wlad i gadw llygad ar hyny. — v-W-

PORT ARTHUR.

[No title]

Mr. Asquith yn Nghaerdydd.

[No title]