Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
3 QB00BBGa0 0QQEG3000 00E10 0B0B0Q0B000G0B0000 0B0 000 0 000B0a 8888DG880D8DDDD088088888808D88D88DDD8888080DG8008G80Ð 8 3 Q 3 p Lenor Bregethwr" »I a B0000BQB0000000BBBBQ0000 ROLL TOP DESK. Nis gellwcha e 0000Q00B00Q0B300000BBQ00 ddewis anrheg mwy pwrpasol. |j i □ 0 8 Os gellwch ymweled a'n Maelfa, cewch yno STOC FAWR ac am- □ rywiol; ac os na fedrwch, bydd yn bleser genym ddanfon catalogue a ° EI manylion llawn, gyda'r post. q o 3 I3ITI30E]00 □□ a El E2 □ 0000QQB00 00 00000000000 0000000 00000^ m 0 :11 I 8 8'\ I tJ EJ If 8 ø í G 8 i 0 G 0 8 8 8 0 8 0 o 0 o 0 o 8 8 G o B 8 8 o G 8 G C3 0 8 G 8 0 8 0 o G o G G 0 8 0 8 0 o 0 o 8 f:1 œ m G ° m B o 0 ^000B000Q000000000000000B000000000BQ00 000000O0000E0Qa 13 f^EDDERSHAW At FAB, I H B | HIGH STREET, ABERTAWE. 1 S I BBBBBBBBBBBBBBBBBBaBBBaBBBBBBBBBBBBBBBBBEnC]BBBBaBBaS) I
Advertising
W. WILLIAMS HAS THE. I BBBQ00QGBQQ0E1013SQB0BE100E1B0 T r. f/VAnf Cf „ W11 1 AO 3H00a0BQQQQElBQaQOQElBBQQEQEl I A J U r SI } I I 6 S |C lH WW /jlrX OF Engagement Rings, 22ct. Gold Wedding Rings, 18ct. Gold Keepers, English Lever Watches, Pebble Spectacles. EaasBnnannnnnBBnasnnnannnn ¡ Gvmry hoff dewch at y Cymro, Ysbectol gelfydd, hin-fynegydd, 1 Os am heirdd fedrwyau aur, Gwres-fesurydd, cwmpawd mor, Oriaduron ac awrleisiau, Geir gan Williams, Hoel y Castell, Gemau, a chadwynau claer; Trowch i mewn i wel'd ei stor. aBQ0 0B00B0000000BB00000E100 29, Castle Street, SWANSEA. FOREIGN MONEY EXCHANGE.
Yr Eglwysi Caeth a Rhydd.
Yr Eglwysi Caeth a Rhydd. Gan J. D. J. SUL I'W GOFIO. Ar ol llawer o son am Ddiwyg'iad '59, a gweddio yn daer am gael drachefn o orfoledd yr iachawdwriaeth," y mae Cymru heddyw yn diolch i Dduw am y dylanwadau nerthol, ac yn llawenhau yn nghanol y dyddiau dedwydd. Ydyw, y mae y nefoedd wedi rhwygo, a Duw yn ei ogoniant ar ei orsedd yn nghanol Seion. Mae yr eglwys wedi deffro a'r byd yn cael ei achub. Y mae Cymru heuuYw ar fynydd y gweddnewidiad, a diflana ysbrydian y dyfnderoedd gan swn ei cherddediad budugoliaetlius yn y dyfodol. 0, ie o'r nefoedd y daw peth fel hyn v mae yn rhy ddwyfol angherddol a gorchfygol i berthyn i'r ddaear, ac nid oes cwmwl yn defynu trugareddau yn codi o unryw le arall. Gwna yr Arglwydd i ni bethau mawr- ion, ac yr ydym yn llawenhau mewn moliant. Dymunol fyddai cael profiadau dar- llenwyr "Y Celt Newydd o ganol "y bedydd tan." Bendith i'r eglwysi oer a digyffra fyddai derbyn cawod o wreich- ion tanllyd calonau yn ffaglu dan ddylanwadau Ysbryd Duw. Dyna yr unig reswm dros y penawd i'r ysgrif hon—" Sul i'w Gofio." Calon ddiolchgar yn dra awyddus am estyn bendith i eraill sydd yn ysgrifenu -ac i Dduw y byddo y gogoniant am ei fawr drugaredd yn achub tyrfaoedd yn 1904.
[No title]
Gwahoddwn y darllenydd gyda ni i Seion, Abercanaid, am Sul—Tachwedd 27ain. Gwell egluro fod yma weddio taer a disgwyl pryderus wedi bod am hir amser, am i'r wawr dori; a chod- odd y llanw yn uchel mewn rhai cyf- arfodydd, yn arbenig yn un o gyfar- fodydd y Gymdeithas Ymdrech. Tal- odd rhai cyfeillion ymweliad ag Aber- cynon a lleoedd eraill enwog am y llanw mawr," a chafwyd bias ar y cyf- arfodydd undebol yn Merthyr, er fod yr ysbryd afian weai gwneuthur rhagor na dyfetha y gwasanaeth y buom yn -disgwyl yn ofer am y brawd enwog Evan Roberts. Torodd gwawr y Sul a nodwyd, cafwyd arddeliad ar egluro y gwirion- edd yn y dosbarth deg o'r gloch, ac edrychem yn mlaen at arddeliad neill- duol yr Ysbryd Glan yn y cyfarfod un ar ddeg, a chawsom fwy nag a ddis- gwyliem. Ar ol canu emyn a darllen Zechariah viii, gyda rhoddi ambell air i fewn am nodweddion y benod, mewn perthynas a'r diwygiad ar hyn o bryd yn Nghymru, canwyd yr emyn melus- Wel, dyma hyfryd fan I droi at Dduw, Lle gall credadyn gwan Gael nerth i fyw; Fry at Dy orsedd Di, 'Ry'm yn dyrchafu'n cri,- .o! edrych arnom ni, A'n gweddi clyw! Canwyd drosodd a throsodd, yna dech- reuwyd gydag arddeliad o'r newydd. Dyna hawdd gweddio y boreu hwnw! Teimlem y peth byw yn ein calonau. Ar ol y weddi, dechreuodd rhywun ganu ar yr oriel, ac aeth yn weddio ac yn ganu drwy yr addoldy, ac anghof- iwyd yr amser yn nghanol y dylan- wadau nefol. Aeth y son ar led fod rhywbeth rhy-fedd yn Seion y boreu hwnw, a, thyrodd pobl i'r cyntedd ac o gylch y capel. Dyna destyn pob aelwyd a dyna gafodd sylw pob dosbarth yn yr Ysgol Sul, a chododd yr awydd am droi yr Ysgol yn gwrdd gweddi. A dyna weddio Gweddiau athrawon yn, nghanol bechgyn heb eu hachub, a tharodd y merched i weddio am i Dduw i achub ei brodyr a'u rhieni. Cod- odd dyn ieuanc ar ei draed yn ei ddos- barth gan benderfynu derbyn Iesu yn Geidwad i'w enaid, a chododd ei chwaer yn ei dagrau i ddiolch i Dduw am achub ei brawd, gan ddeisyf yn daer am achub yr oil o'r teulu Tyn- odd swn y mawl y bobl at y capel o'r newydd. Cododd hyn ein disgwyliadau yn uchel iawn am ddylanwad mwy a chryfach yn y gwasanaeth hwyrol. Pregethu Na yr oedd y dyrfa wedi derbyn "ysbryd gweddi," ac yr oedd mwy nag un yn cydweithio ar adegau. Tad o dan yr oriel yn gweddio ar Dduw am achub ei blant, a merch i fyny yn gweddio am achub ei brodyr dyn ieuanc yn erfyn am achub ei dad, a bachgen amddifad o Sir Aberteifi, yn angherddol claer am i'r nefoedd i achub ei gyfeillion ieuanc Tybed fod Duw yr achub yn myned i wrando gweddio a'r ocheneidio, ac yn tosturio wrth y dagrau ? Pwy a gredodd ?" Dyma lais Y mae deu- ddeg o fechgyn ieuainc yr Ysgol Sul!" Dywedodd arall: Y mae dosbarth cyfan o ferched fan hon Oes mae deugain wedi rhoddi eu hunain i Iesu Grist! Bendigedig fyddo Duw am ei fawr drugaredd Ie, un a deugain o fewn un Sul; ac erbyn diwedd yr ail Sul cododd y rhif dros y pedwar ugain Ac yn eu plith y mae un ar bymtheg o wrthgilwyr Oes; y mae genedigion newydd yn Seion, a gweddiant yn eu dagrau mewn diolchgarwch am gael eu awyn at Iesu, ac mor daer y dymunant am achub eu perthynasau a'u cyfeillion. Mae y ferch ieuanc barchus ddiolch- odd i'r Arglwydd am achub ei brawd, yn yr Ysgol Sul, wedi cael yr hyfryd- wch dwyfol o weled ei thad, tri brawd a chwaer, yn arddel yr Iesu yn Geid- wad a'r tad fu yn gweddio mor angherddol am achub ei blant, heddyw yn gorfoleddu am fod yr oil i fewn Daw y dyrfa i'r cwrdd gweddi bellach, a rhaid troi pob cwrdd yn gwrdd i weddio! Gweddia y bechgyn a'r merched gydag arddeliad dwyfol; gweddia y rhai sydd wedi rhoddi eu hunain i'r Iesu cyn cael eu derbyn yn gyhoeddus i'r eglwys gweddia aelodau ydynt wedi bod yn dawel ar hyd y blynyddau; ac ar gynydd yr a y dylan- wad dwyfol o ddydd i ddydd. rhoddwn ein hunain yn rhydd ac yn heb ofn na chywilydd. Daw dynion i faddeu i'w gilydd heb ddanod, ie, heb gofio y camweddau, ac y mae yr ael- odau yn troi yn genadon dros y Ceid- wad. Ant o dy i dy er dyfod o hyd i esgeuluswyr, a daliant ar bob cyfleus- dra er dwyn y pell yn agos. ø
[No title]
Mae'r enwadua wedi dyfod yn un Cawn gyfarfodydd undebol, awn drwy yr heolvdd tan ganu a gweddio—yn orymdeithiau mawrian, ac y mae ar- ddeliad y nefoedd ar y cyfarfodydd gerllaw y tafarnaai. Methodd y delyn a'r holl oferydd a chadw y meddwon i fewn yn un o'r tafarndai hyn daeth- ant allan i swn y weddi a'r mawl, a pharhau i ddnyn Duw a wnant er y noson hono. Do gweddnewidiwyd y lie eisoes, a bydd yn well yn mlaen o hyd. Y mae eisoes tua haner cant ¡ wedi dyfod i fewn yn y Deml (B), a rhyw ugain yn y Graig (M.C.), ac yr ydym yn cydlawenhau yn y llwyddiant cyffredinol. Tyner a dylanwadol ydoedd gweddi merch ieuanc yn y cyfarfod neithiwr: 0 Arglwydd," meddai, "diolch i Ti am achub fy nau frawd. 0 achub fy nhad eto Yr wyt wedi achub tadau rhai eraill, 0 Dduw, achub fy nhad inau Mae yn gwrthod gwrando arnaf fi; llefara Di wrtho, 0 Dduw!" Dywedwn wrth yr eglwysi eraill ydynt heb deimlo y dylanwadau ac heb dderbyn y tywalltiad dwyfol. Ewch ati i weddio yn ffyddiog ac yn daer cymered gweddio le y pregethu; rhoddwch ein hunain yn rhydd ac yn llwyr i'r Ysbryd Glan "Na ddiffoddwch yr ysbryd!" Gwnewch beth bynag a ofyno Efe genych; torwch ar draws hen ffurfiau deddfol ac oer, a bydd anhrefn yr Ysbryd Dwyfol y drefn fwyaf fendigedig yn eich hanes Maddeuwch i'ch gilydd na fydded fod cenfigen a chasmeb yn cael lloches o fewn yr un galon a chyffeswch Iesu Grist ger bron yr holl gynulleidfa a'r byd. Ond ei arddel Ef, yna bydd Efe yn sicr on harddel ni. Cewch wawd y byd: nid oes genych hawl i ddisgwyl dim arall; dyna gafodd ein Blaenor ni, a phrawf o'r berthynas a'r nefoedd yw peth felly. Gelwir Evan Roberts a'i gwmni yn lunatics," a chlywsom fod tafarnwr yn Abercanaid yn dweyd am wrthgiliwr wedi troi ei wyneb yn ol tua Thy ei Dad ac yn cael ei dderbyn gyda breichiau agored yn y Demi (B.): "Y mae wedi joinio a'r idiots
[No title]
Cododd dyn ieuanc yn Seion ar "Y Sul i'w Gofio," a rhoddodd y newydd i'r gynulleidfa fod y brawd y cyfeiriwn ato wedi dychwelyd i'r Demi, a buom ninau yn canu Diolch Iddo mewn hwyl a dagrau. Duw yn achub gyda'r Bedyddwyr, a'r Anibynwyr yn Diolch Iddo!" Na; nid yw y brawd anwyl Evan Roberts wedi bod yn yr ardaloedd hyn, ond y mae Duw Evan Roberts yma, a phawb yn son am dano, a chanoedd yn ei glodfori. O.N.—Diolch i'n newyddiaduron am eu cynorthwy gwerthfawr er lledaenu y tan." Ydyw, y mae yr Ysbryd Glan yn puro y wasg.
-@----TABERNACL, DERI.
-@- TABERNACL, DERI. Cynaliwyd cymanfa bregethu yn y capel uchod dydd Sul y 27ain cynf. gan nifer o fyfyrwyr yr Academy, Pontypridd, pryd y pregethwyd yn y boreu gan Mr. W. Williams, Siloa, Aberdar yn y prydnawn gan Mr. W. J. R. Hier, Nolton, Penfro, yn Saes- neg a chan Mr. Ben D. Evans, Beth- ania, Cwmavon, yn Gymraeg. Yn yr hwyr, gan Mr. P. Buchan, Llanhilleth, yn Saesneg; a Mr. W. J. Evans, Deri, yn Gymraeg. Dechreuwyd yr oedfa yn y prydnawn gan Mr. A. A. Price, Cross Keys. Cafwyd cynulleidfaoedd Iluosog, pregethu da, a chasgliadau rhagorol; ac yr oedd yr eneiniad oddi wrth y SanctaYdtT Hym^yn amIwg yn y cyfarfodydd. Yn, ysfod yr wythnos ganlynol, rhoddodd ti-fdeg ar hugain eu hunain i'r Gwaredwr. Llwyddiant mawr fo ar y gwaith da eto. Yr oedd yn bresenol gyda'r myfyrwyr, eu parchus athraw, Mr. E. Dunmore Ed- wards, M.A. yn llaw yr hwn yr oedd y trefniadau.