Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Sir Gaerfyrddin a
Sir Gaerfyrddin a Pholisi Caerdydd. Gan Ap y Frenni. Yn y cyfarfo 1 a anerchwyd gan Mr. Lloyd George, A.S. yn nhref Caer- fyrddin, rai wythnosau yn ol, gwnaed I yn hysbys y bwriad i alw yn nghyd I gynhadledd o Anghydffurfwyr a Rhydd- frydwyr ,er mwyn cael eu barn ar y polisi y siaradai yr aelod dros Orllew- inbarth y sir mor gryf yn ei erbyn. Llawer gwaith y mae y sir wedi rhoddi ei barn ar y mater hwn bellach a chwareu teg iddi, y mae wedi dal yn gyson o'r cychwyn i gefnogi y polisi cenedlaethol. Antonwyd allan wahodd- iadau i holl eglwysi Ymneillduol y sir i ddewis cynrychiolwyr i'r gynhadledd. Daeth tyrfa fawr yn nghyd; yr oedd y neuadd eang wedi ei gorlenwi. Llyw- yddwyd gan Mr. J. Lewis, Meiros Hall, Cadeirydd y Cynghor Sir. Y prif siaradwyr oedd Mr. Lloyd George, A.S. a'r Parchn. T. Law, Ysgrifenydd Cynghor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion a'r Parch. Sylvester Horne, M.A. Yr oedd y d-.au olaf hyn yn bresenol er mwyn sicrhau y Cymry fod holl rym Eglwysi Rhyddion Lloegr y tu cefn i Gymru yn yr ymgyrch pre- senol. Yr oedd yn eglur ddigon oddi wrth eiriau y ddau foa Ymneillduwyr Lloegr yn awyddus i Gymru sefyll fel gwyr, heb son am gyfaddawd, fel y gallont benderfynu y cwestiwn unwaith am byth. Gwyr darllenwyr y Celt" yn dda fod Mr. Sylvester Horne yn un o'r dynion mwyaf rhagorol, ac yn un o'r gwyr grymusaf fedd Lloegr heddyw. Yr oedd yn galondid i Gymry ei glywed yn dweyd yr ategai efe ni i'r man eithaf yn y frwydr y rhoddai ei wasanaeth yn mhob rhyw fodd i gasglu arian yn Lloegr, ac i gryfhau calon ein cenedl fechan ddewr. Cyfeiriodd at Mr. Lloyd George, nid yn unig fel y prif gad-lywydd yn Nghymru, ond prif arweinydd y Saeson hefyd yn y rhyfel hwn. Am Mr. Lloyd George ei hun, wrth reswm, yr oedd yn feistr y gynulleidfa, fel arfer. Siaradodd am dros awr o amser yn y prydnawn. Teimlai ei gynulleidfa ei bod yn ddyogel yn ei law. Dangosai fel yr oedd y polisi cenedlaethol wedi llwyddo hyd yma. Dywedai ei fod wedi arbed miloedd o bunoedd i Gymru eisoes. Nododd Sir Gaerfyrddin fel engraifft, a sylwai y buasai cario y ddeddf allan yn Sir Gaerfyrddin, fel y gwneir mewn rhanau o Loegr, yn golygu codi y dreth, man lleiaf tair ceiniog y bunt. Gyda'r gair, cododd y Proffeswr Jones ar ei draed i daeru fod hyny yn anwiredd. Dech- reuodd y Proffeswr egluro, ond gwelid nad oedd wedi cydio y mater oedd dan sylw Mr. Lloyd George ar y pryd. Ceisiai yr aelod anrhydeddus ddar- bwyllo y Proffeswr nad oedd wedi deall y mater oedd ganddo mewn Haw ond ni fynai Mr. Jones gymeryd ei ddar- bwyllo 0, gwbi. Felly bu tipyn o gyn- hwrf am enyd. Ond rheolodd y cadeir- ydd caffai y Proffeswr draethu ei ten ar ol i Mr. Lloyd George orphen. Hyny a wnaeth. Tra yr ai y gweddill o'r cyfarfod yn mlaen, brysiodd Mr. E. R. Davies, Ysgrifenydd Cynghor Sir Gaer- narfon, gyda Mr. H. Jones-Davies, Glaneiddan,—un o aelodau Cynghor Sir Gaerfyrddin,—i swyddfa Mr. Nicholas, Ysgrifenydd Cynghor Sir Gaerfyrddin, a chymerasant Proffeswr Jones gyda hwy i lygad y ffynon. Aethant drwy y ffigyrau, a chawsant y buasai y dreth ddwy geiniog y bunt yn fwy nag y dywedai Mr. Lloyd George Dychwelasant mewn pryd—(heb y Proffeswr)--i gyhoeddi hyn i'r cyfarfod. Ond paham yr ymhelaethaf? Pasiwyd y penderfyniad gyda brwdfrydedd mawr, heb nemawr law yn ei erbyn, fod y gynhadledd yn glynu wrth bolisi Cynadledd Caerdydd, ac yn ymrwymo i wneud yr oil yn ei gallu i gario allan y polisi hwnw. Felly deil yr hen sir yn iach o hyd. Yr oedd rhai aelodau seneddol eraill yn bresenol, sef Mr. Abel Thomas, Mr. Brynmor Jones, Mr. Alfred Davies, a Mr. Weir o'r Alban. Siaradodd v cyntaf ychydig eiriau i bwrpas. Cynal- iwyd cyfarfodydd yn yr hwyr yn Nghaerfyrddin yn yr Hen Dy Gwyn ar Daf, ac yn Nghastellnewydd Emlyn. Yn mhob un o'r cyfarfodydd hyn, pas- iwyd penderfyniad i'r un perwyl a'r uchod. Y mae Qffeiriad yn nhref Caerfyrddin sydd wedi cymeryd rhan bur flaenllaw yn ddiweddar yn mhlaid y deddfau addysg gorthrymus y brwydrwn yn eu herbyn. Dygwyd ei enw rywfodd ger bron yn y cyfarfod hwn. Nododd Mr. Lloyd George, yn nghanol tipyn o chwerthin, rai ffeithiau pwysig yn nglyn ag ef. Codwyd Mr. Lloyd George ac yntau yn yr un ysgol-ysgol Eglwys- ig. Yr oedd Mr. Camber Williams,- oblegyd dyna enw yr offeiriad,-yn Ymneillduwr y pryd hwnw, ond am na chai fyned yn athraw heb droi i'r Eg- Iwys, cefnodd Mr. Williams ar ei enwad. A nodai Mr. Lloyd George ei fod wedi ei brynu ag arian y cyhoedd, —ei brynu, meddai, mor wirioneddol ag y prynid moch ei dad yn ffeiriau Llanystumdwy.
Yr Athrawon a'r Esgobion.
Yr Athrawon a'r Esgobion. Tachwedd 23, cafodd cynrychiolwyr ysgolfeistri y wlad gydeistedd a'r ped- war esgob yn Llandaf ac ar Rhagfyr 8fed, cafodd cynrychiolwyr yr ysgol- feistri bresenoldeb is-bwyllgor o'r Cyng- horau Sirol, yn Nghaerdydd. Cyn- rychiolid y Cynghorau gan Mr. Lloyd George, A.S. Syr Alfred Thomas, A.S. Mri. Herbert Lewis, A.S. D. I Brynmor Jones, A.S. T. J Hughes, E R. Davies, Caernarvon a Dr. W. E. Thomas, Rhondda. Yn cynrych- ioli Undeb Cenedlaethol yr Athrawon yr oedd Mri. Sharpies, Harry Coward, Tom John, a Mr. Yoxall, A.S. Galwyd y pwyllgor yn nghyd gan yr athrawon, a hyny yn ffafr y plant a'u haddysg. Gosodent ger bron y posibl- rwydd o heddwch neu gadoediad, hyd nes buasai y Senedd yn dwyn oddi am- gylch welliantau yn Neddf Addysg 1902. Nid oeddynt yn gofyn am un math o compromise," nac ychwaith am y gwyriad lleiaf oddi wrth egwydd- orion ond dymunent gyflwyno modd i weithio allan y Ddeddf, yr hwn a fuasai am y tro, yn boddloni y ddwy blaid. Bwriadai yr athrawon i gydgyfarfod eto a'r esgotuon Cymreig. Symud- odd cynrychiolwyr y Cynghorwyr Sirol yn mlaen yn araf ac yn ddoeth, a chadwasant eu hunain yn glir rhag rhwymo eu hunain, na'r Cynghorau, hyd nes cael cydymgynghoriad pellach. Ymadawyd gydag argraff Iled ffafriol o gyd-ddealldwriaeth ar y pwnc poenus hwn. Bellach, mae yr is-bwyllgor, a'r Cynghorau Sirol, yn o gystal a'r athrawon, yn ymdeimlo yr anmhosibl- rwydd i ddod i un math o gyd-ddeall- dwriaeth ond ar y telerau mwyaf cyf- iawn ac anrhydeddus. Mae digon o wawd eisoes wedi ei daflu ar wrthsafwyr goddefol, heb fod ychwaneg yn cael ei daflu gan anghysondeb, a gwendid yr arweinwyr Anghydffurfiol ac mewn achlysuron fel hyn, mae yn ddigon hawdd gwrasdo ar lais cydymdeimlad er mwyn rhyw fath o heddwch, yn hytrach nag ar lais cydwybod, er mwyn yr iawn fath o gyfiawnder.
;—. Y Bywyd Newydd yn Rwssia.
;— Y Bywyd Newydd yn Rwssia. Cymerodd hwn y ffurf o orymdaith yn erbyn y llywodraeth y Sabbath diweddaf. Arweinid hi gan fyfyrwyr yr athrofa ac ysgolion eraill. Yr oedd y disgyblion hyn yn dyrfa luosog, a chyd- deithiwyd a hwynt gan ganoedd yn ychwanej. Daeth swyddogion y llyw- odraeth alJ zm ar draed ac ar feirch i'w gwrthwynebu, a bu gwrihryfel hyd at golli gwaed. Parhaodd hyn am tua phedair awr. Arwyddair y gorym- deithwyr oedd, Dim Rhyfel! Dim Llywodraeth Unbenaethol!" Dechreua pob diwygiad mawr mewn aflonyddwch ac aniddigrwydd a therfysg o fath hwn; a'r cam nesaf a fydd iddo yw i I gael deddfau gwell i ateb llais y bobl. ■
Cenadaeth Dr. Torrey a Mr.…
Cenadaeth Dr. Torrey a Mr. Alexander. Gwir adeiladol ydyw yr ysgrifau a gyhoeddir yn y papyrau Seisnig ar yr uchod. Cyduna y mwyafrif o honynt i gymeradwyo y genhadaeth, fel y mwyaf bendithiol er dyddiau Moody a Sankey. Gwir y dywed ambell un:- (1) Er fod da wedi ei wneud, eto nad yw i fyny a'r disgwyliadau (2) Nad yw y lies a gyfrenir i'r eglwysi i fyny a'r draul a'r ymdrech (3) Fod y genadaeth yn berffaith yn ei pheirianwaith, ond yn anmherffaith mewn gallu neu ddy- lanwad (deficient in power). Tystiol- aetha ambell un yn y fel yna ond gwa- hanol ydyw y gweddill; ac mae amrai o'r ysgrifenwyr yn camddefnyddio yr ohebiaeth, am eu bod yn cynyg at roi arbenigrwydd ar eu ffansion crefyddol eu hunain, ac yn ergydio yn ffals gre- fyddwyr eraill o olygiadau a defosiynau gwahanol iddynt; ac yn cynyg at roi cylioeddusrwydd i'w plaid grefyddol eu hunain. Gellir cael llawer iawn o addysg o'r gohebiaethau hyn ac mae eu darllen yn sicr o brofi yn lies i arweinwyr crefydd yn Nyhymru yn bresenol. Adrodda un am ddyn ieuanc deg ar hugain oed, wedi ei berswadio i fyn- ychu cyfarfodydd Torrey yn Bryste, a'i fod wedi ei blygu i dderbyn Iesu Grist; a chan nad oedd wedi bod mewn un lie o addoliad o'r blaen, cyfarwyddwyd ef i fyned i'r addoldy agosaf i'w gartref. Felly gwnaeth. Cyfarfu dyn cyfrifol ag ef yn mhen rhai wythnosau ar ol hyn, a gofynodd iddo: Sut yr ydych yn myned yn mlaen ?" Pruddaidd a lied ddigalon oeua ei atebiad, ac meddai: Yr wyf fi a'm gwraig wedi bod yn mynychu capel N- bob Sul oddi ar hyny tan yn awr ond rywsut, 'does neb wedi bod yn siarad gair a ni, ac yr ydym yn ofni nad ydynt am ein gweled. Mae mor oer yno ac yr ydym ni ein dau yn meddwl mai gwell i ni yw sefyll draw." Derbyniodd yr ymholydd ei eiriau gyda Uiirifoldeb a chydymdeimlad, a chynghorodd ef i adael y lie am le arall. Fe aeth y gwr a'r wraig i'r lie arall hwnw, ac maent yno yn awr, ac yn ddau ffyddlon a gweithgar. Hyderwn na cheir adroddiadau cyffelyb yn nglyn a dychweledigion yn Nghymru.
[No title]
■ ■■■■.—■I. Yr oedd Methodistiaid CaHinaidd Bangor, yr wythnos ddiweddaf, yn dathlu can'-mlwyddiant sefydliad eu hachos yn v ddinas esgobol. Gwneir parotoaldiau prysur gan Faer a Maeres Abertawe i spno am y tlawd sydd dros 60 mlwydd oed yn y dref hono yn ystod y Nadolig trwy ranu cig, bara, te, a siwgr iddymt. Penderfynodid1 Gwarcheidwaid Mer- thy.r, dydd adwrn, ganiatau swllt yn yr wythnos chwanegol i'r tlodion oedd yn derbyn cynortihwy i dalu am lo'. Aeth Arglwydd Penrhyn i Chwarel Bethesda ddydd lau, a chiyfiwynwyd iddo anerchiad gan gynrychiolwyr y gweithwyr.
[No title]
+-■& Cyrhaeddodd canoedd o ffoedigion Rwssiaidd, dynion ieuainc gan mwyaf, i Orllewinbarth Llundain yr wythnos ddiweddaf. Ol-filwyr yw y rhan fwyaf o honynt, ac y maent wedi dianc rhag cymeryd rhan yn y rhyfel bresenol. Y mae gwraig weddw vn byw yn yr un bwthiyn yn Mat tingley er's 76 o flynydd- oecd. Y mae yn awr yn 104 mlwydd o.ed, a'r dydd o'r blaen derbyniod bell- ebyr oddi wrth y Brenin yn ei llon- gyfarch ar ei hoedran mawr. Y mae careg enfawr o Dartmoor, yn pwyso chwe' tunell, wedi ei rhoddi ar fedd Syr H. M. Stanley gan ei wraig. Craig wedi ei gwnued gan Natur ydyw. Y mae argraph yn cofta am y teithiwr byd-enwog wedi ei cherfio arni.