READ ARTICLES (3)

News
Copy
MARWOLAETH Y PARCH. EVAN JONES, TABERNACL, MERTHYR. Anwyl Dr. Williams,Bydd yn flin genyoh ohwi a nifer lluosog o ddiarlleuwyr y Seren glywed am farwolaeth sydyn yr Hybarch Evan Jones, yr hyn a gymerodd le boreu dydld Mawrth diweddaf, Rhag'fvr 24ain. Nos Sul diwedidaf teimlai yn iach a hwylus, a tfhynorthwyodd fi fel arfer i weinyddtu y cyniundeb yn ys Tabernacl; ond nos Lun cafodjd "stroke" farwol pan newydd orphen ysgrifenu llythyr at ei ferch sydd yn byw yn Birkenhead. Gan y bwriadwn ddanfon ychydig o'i hanes i'r Seren" yn fua.n ni ddywedwn yn awr ond a ganlyn: Ganwyd ef yn Llwyndafydd yn 1837; deohreuodd breget-hu yn Jerusalem, Rhymni, addysgwyd ef yn Ngholeg Pontypool; or- deiniwyd ef yn Ruthin, a bu yn ,vo-ii-tido,- wedi hyny ar eglwysi Glyncleiriog a Blaon- ftvon. Claddwyd ef dydd Gwener, Rhagfyr 27, yn Mlaenavon, a gwasanaethwyd yn yr ang- ladd gan y Parchedigion Rowlad Jones (Tabernacle); W. A. Jones (Zion); D. L. Jones Tabernacle), Merthyr, a'r Parch. loan Meredith, BLaenavon. Oydymdeimlwn a'r pLa, rit. an wyl adewir i alaru ar ei ol. Rowland Jones.

News
Copy
EGLWYE BETHEL, ABERNANT. Dathliad Haner Canrif yr Achos yn y lie. Cawn mai canghen ydyw eglwys Bethel o'r hen eglwys barchus Calfaria, Aberdar. Y o-wasanaeth ciefyddol cyntaf yr ydym yn oael hanes am dano yn ardal Abernant oedd yr Ysgol Sul a chyfarfodydd gweddi. yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1847. Er mwyn trefnusrwydd dewiswyd un i ofalu am yr Ysgol Sul a chyrddau gweddi. Syrthiodd y rliau yma o'r gwaith iddwylaw yr hen frawd anwyl a hoff (John) neu fel y'i geINNTid Shoii Thomas, Row Forge, Aber- nant. Gwelodd eglwys Calfaria ynghyd a'i gweinidog (Dr. Price) mai dbeth fyddai codi a&hos yn y lie fel canghen o Galfaria, ac felly yn y fiwyidjdjyn 1856 adeiladwyd ysgoldy eangJ a hiardld, yr hyn a. gostodd rhwng y ty anedd y swm :0 £ 371 12s. Yn y flwyddyn 1864 o&wn fod yr eglwys yn rhoddi galwad taer a cliynhcs i'r Parch. W. Williams o Goleg Hwlffoi^dd, ac yn mis Chwefror, 1864, ordeiniwyd ef yn weinidog cyntaf ar oglwya Bethel. Gwasanaethwyd gan y Parchn. T. Nicholas, Aberaman; J. P. Williams, Ll.D., Rhymney; Dr. Davies, Hwlffordd; a Dr. Price, Aberdar Bu dyfodiad Mr .Williams i'r lie yn llwyddiant o dan fendith y Nefoedd. Caf- odd y fraint o. fedyddio llawer. Etc gaf- odd y fraint o fedyddio y Parch. J. W. Lewis, gweinidog presenol eglwys Calfaria, Treforris, a'r diweddar barchus weinidog, y Parch. J. Mills, Abernant. Wedi Mr. Williams fod yma am ddwy flynedd a thri mis derbyniodd alwad i Gendl. Ni fu yr eglwys yn hir heb weinidog, ond ychydig fisoedd. Rhoddodd alwad unfrydol i'r Parch T. T. Jones, F.C.S., o Blaenywaun (Sir Benfro); dechreuodd Mr. Jones ar ei wein- idogaieth yn mis Rhagfyr, 1865, ond ni fu ei arosiad ond byr iawn, ond tua 18 mis. Gweithiodd yn ddiwyd a lkfurus. Traddod- odd 24 o ddarlithiau ar Ddaeareg. Bed- yddiodd yn y naw mis cyntaf o'i weinid- ogaeth 109; wedi hyny 50; cyfanswm 159, ac yn mis Mehefin, 1867, ymadawodd i Ffestiniog*, Sir, Fcirionydd. Bu yr eglwys wedi hyny yn amddifad o weinidog am ddwy flynedd. Yn y flwyddyn 1869, daeth yr eglwyte i deimlo angen bugail 18C)9, daeth yr ep i'w gugeilio, a rhoddwyd gal wad unfrydol i Mr. John Fuller Davies o Goleg Hwil- ffordd, ac ordeiniwyd ef yn mis Awst 1869. Gwiasa.ruaethwyd gan y Parch n. T. Hum- phooy., Cwmam&n; D. S. Davies, Gwmdar; H. C. Parry, Caerdydd; D.r. Davies, Coleg Hwlffordd; a Daniel Davies, Login, tad y gweinidog ieuangc. Er mai byr oedd ei wieinidogaeth fe giafodd yntau y fraint o fedyddio 67; Gwelodd yr eglwys ei fod yn bregethwr da, ac yn weinidog tfyddlawn, ao yn Gristion disgiaer. Dangoswyd ei fod mewn parch nid gran yr eglwys yn unig ond gan y frawdoliaeth trwy ei anrhegu ag oriawr a chadwyn aur. Dim ond ychydig* fisoedd y oaf odd y fraint i fwynliau yr anrheg. Yn mhen dau fis wedi hyny, ar foreu dydd Sadwrn, NIai 25ain, 1872, daeth y newydd blin fod ein hanwyl weinidog ieuangc wedi ei alw oddiwrth ei waith at ei wobr. Ei glefyd oedd y frech wen. Gorfuwyd ei gladdu dranoeth (Sul, Mai 26, 1872). Claddwyd yr hyn oedd farwol o hono yn nghladdfa gyhoeddus Aberdar, ac yr oedd y miloedd oedd yn yr angladd yn llefaru yn uchel am ei rodiad dichlynaidd a diargyhoedd. Gorphenodd ei lafur dae- arol yn gynar i fwynhau ei dragwyddol wobr yn y nef. Dyma'r eglwys eto heb fugail daearol, ond er ein cysur, yr oedd y Bugiail mawr yn aros. Wedi i'r eglwys flodi yn amddifad o weinidog am bedair blynedd daethant i benderfyniad i roddi galwad gynhes ac un- frydol i'r Parch. J. Mills, Treuddyn a Choedllai, Gogledd Cymru; ac fel yr oedd yn rhesymol i feddwl, atiebodd yntau yn gadarnhaol; ao yn ddiamheu ei fod yn teimlo yn llawen i ddyfod yn ol i'w hen gartref ac i gael yr anrhydedd o fugeilio yr eglwys a'i magodd ef. Cynaliwyd y cyfarfodydd sefydlu ar y 9fed a'r lOfed o lonawr, 1876. Gwasan- aethwyd ax yr achlysur gan y Parchn. W. Harris, Heolyfelin; J. W. Williams, Mount- ain Ash; J. Vaughan, Merthyr; a. Dr. Prioe, Aberdar. Cafodd Mr..Mills y fraint o fedyddio lluaws. Yr oedd yn bregethwr mwyn ac efengylaidd, ac yn fecldyliwr cryf a thrwyadl; yn weinidog da a ffyddlawn ilesnGrist; a hefyd fe lanwodd rai swyddii pwysig yn yr enwad. Bu yn Llywydd Cym- anfa Dwyreiniol Morganwg. Credaf hefyd mai efe gafodd yr anrhydedd o fod yn Llywydd y Cwrdd Dosbarth cyntaf yn Ab- dar. Mae'r hen ddywediad, Nad oes an- rhydedd i brophwyd yn ei wlad ei hun"; gwelwn OOd. felly y bu yn hanes eglwys Bethel a'i gweinidog. Buge-iliodd. ei braidd yn 'Bethel am y tymhor hirfaith o 34 o fiynyddau o'r adeg y sefydlwyjd ef yn y flwyddyn 1876 hyd ei farwolaeth yn mis Tachwedd, 1909. Wele ni eto yn gwynebu (fel eglwys) ar gyfnod mwyaf calon rwygol fu yn hanes yr eglwys erioied. sef yn marwolaeth ein han- wyl a pharchus weinidog-, J. Mills; boreu bythgofiadwy oedd y boreu liwinv i'r ardl yn gyffredinol, Tachwedd 26ain, 1909, pan esgynodd ei ysbryd iat yr hwlii a'i rhoes. Dioddefodd boen dirfawr yn amyneddgar gan gredu fod pob pfith yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw. Dydd pwysig arall yn hanes Aberdar oedd Rhag. laf, 1909, panyngosod yrhyn oedd farwol o hono yn nhy ei hir giartref. Cafodd ang- ladd clywysogaidd, pryd y daeth llawer o weinidogion yr enwad ynghyd. Claddwyd ef yn nghladdfa gyhoeddus Aberdar. Tref- nwyd yr angladd gan y Parch. R. E. Williams (Twrfab), Ynyslwyd. Gwelwyd llawer o ddagrau hiraethus yn carelou ty- NA,iallt, ,ir ei fedd1. Er iddo farw1 mae eto yn llefaru. Eir f yjnod. wedi eich arwain am ychydig yn y lleddf, oeisiaf eich sylw ymhellach ar yr ochr Ion yri hanes yr eglwys. Maio Bethel wedi cael y fraint o'i chychwyniad hyd yn bresenol o fagu deunaw o genadpn hedd i bregiethu Crist Croeshoeliedig yn Geidwad1 digonol i fyd o beohaduriaid, sef Parchn. J. Mills, ein diweddar barchus weinidog; J. W. Lewis, Calfaria, Treforis; D. H. Jones, Hugh Robinson, (Joseph Rees, Edward Rees a John Davies; ymadawodd y tri yma i'r America), David Ho wells (Seisneg), Pienrhiwoeibr; Benjamin James, .1 Tumble; William Morgan, Nantyffyllon, Maesteg; Thomas Harries, Llangorse; Wil- liam Rowlands, Moss; Samuel Morris, Elan Valley; Ebenezer Morgan; John Vaughan, Gwilym Walters, Glanamrnan; David Rees, Hirwaun; a Hugh Evans, Abernant, dau fyfyriwr yw y ddau olaf. Dyma gipdrem o hanes eglwys Bethel am yr haner canrif diwodda f. Sylwn wrth yr hanes mai ar y 7fed a'r 8fed o Ragfyr, 1862, yr ugonvvd y capel cyntaf yn y He. Penderfynodd yr eglwys i gynal rhes o gyfarfodydd er dathlu haner can' rnlwydd yr achos yn y lie. Cymerodd y rhai hyn Ie o'r 7fed hyd yr 15 fed o Ragfyr, 1912. Nos Sadwrn y 7fed cawsom gwrdd gweddi ardderchog i Eaenori y gyfres gyfarfodydd. Sul, Rhagfyr 8fed, pregiethwyd gan y Parch. Hugh Jones, Llanelli. Nos Ferclier a dydd lau, 1 leg- a'r 12fed, pregethwyd gan y Parch Charles Davies, Caerdydd; a'r Parch. R. B. Jones, Ynyshir. Nos Fercher darllenwyd hanes yr eglwys gan y Parch. C. Davies, yn ddigoiii cglttr i bawb i'w ddeall. Sul, Rhagfyr 15fed, pregethwyd gan y Parch. T. V. Evans, Clydach, Abertawe. Teg yw nodi yn y fan yma na anghofiwyd y plant ar yr wyl. Pregethwyd dwy bregeth i'r plant gall y Parchn. Hugh Jones a T. V. Evans; ni raid i'r brodyr da yma wrth gianmoliaeth, mae e:u hen wi yn unig yn profi ein bod wedi cael gwledd arrderchog a Duw yn aml wg o'r dechreu i'w (ti wedd. Er ein bioid yn amddifad o fugail daearol mae'n gysur i ni gofio fod yr hwn a ddy- wedodd, Yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byid, yn dal yr un o hyd. Mae'n dda gjenyf allu dweyd fod yr eg- lwys yn dal gyda'i gilydd yn ardderchog. Mae clod am hyn yn ddyledus i'n swydd- ogion parchus am eu hymdrech difiino gyda yr achos. Teimlwn yn iaw-r fod yr eglwys mewn angen am fugail. Terfynaf gyda'r penill hwn a gyfansodd- wyd gan y Parch. T. E. James (T. ap Ieuan), Glyn Nedd, pan yn gosod careg sylfaen y capel cyntaf, Mai 20fed, 1862. Fe wawriodd arnom ddydd, 'R ugeinfed ddydd o Fai, A wna i lawer sydd 'Nawr yma i lawenhau; Mae genym obaith cryf yn awr 'R a Bethel Fach yn Bethel Fawr. R. M.

News
Copy
TYSTEB DR. J. SPINTHER JAMES. Rev. J. L. Jones, Liscard, 5s.; Mr. Evan Roberts, Llandudno, 10s. 6c.; Mr. Walter Wood, Llandudno, 58.; Dr. J. T. Griffith, Tonyrefail, 5s.; Mr. Roger Williams, Llan- dudno, 10s.; Mr. B. Rees, J.P., St. Dog- mells, lp Is.; Mr. John Williams, Llandud- no, 5s.; Mr. O. W. Roberts, Llandudno, 5s.; Mr. Hugh Hughes, Llandudno, 5s.; Mr. W. Maurice Jones, Llandudno, 10s. 6c.; Mr. Wm. Owen, Llandudno, 5s.; Mr. S. Chantrey, Llandudno, 10s. 6c.; Mr. Ralph Fisher, Llandudno, 10s. 6c.; Rev. E. T. Jones, Llanelli, 10s. 6c.; Principal Silas Morris, 5s.; Mr. John Lewis, Pontyclun, Ip Is.; Parch J. Irvon Davies, Llandudno, 10s. M. W., Llandudno. 5s.; Mr. Wm. Jones, Gloddaeth Isa, Llandudno 10s. 6c; Cyfaill 5s.; Mr. Wm. Thomas, White House, Llandudno, lp Is.; Mr. T, J. Jones, Din- arth Hall, Llandudno, 10s. 6c.; Mr. T. Osborne Roberts, Llandudno, 10s.; Mr. Wm. Jones, yr Erw-, Llandudno, 5 s.; Cyfaill Cywir, 5s.; Cyfaill Cywir arall, os.; Mri. Pierce Bros., Llanduidno, 5s.; Mrs. Ed- wards, Penant House, Llandudno, 5s.; Mr. Wm. Roberts, Madoc St., Llandudno, 5s.; Mrs. Thomas, Lloyd House, Llandudno. 5s. Symiau dan 5s. 6p 17s. Cyfanswm £ 19 9s. N,oidia.d.Cyfa,iiswili y Dysteb i'r amser presenol—- £ 69 9s. 9c. Cauir y Gronfa Chwefror 15fed, 1913.