READ ARTICLES (7)

News
Copy
Yma ac Acw. Cynelir cyrddau nesaf yr Undeb yn Carmel, New Tredegar. tI Derby niodd y Parch. W. T. Fianci-s, gweinidog llafurus Gwawr, Aberaman, alwacl unfrydol oeglwys Calf aria, Llanelli, i ddy- fod i'w bugeilio. Atebodd yr alwad yn gad- arnhaol, a bydd yn dechreu ei jweinidogaeth yn Llanelli tua chanol mis Ebrill. Teimlir chwithdod mawr yn Nghwm Aberclar wrth feddwl colli Mr. Francis. Ni fu yma yn hir, ond enillodd le cynhes mewn llawer calon. Efe yw Cadeirydd CAvrdd Gweinidogion y cylch o'i gychwyniad, a bu'n barod ei gef- nogaeth i bob mudiad teil wng yn ei enwad ac o'r tuallan. Ymedy gyda dymuniadau pur am ei lwyddiant a'i gysur yn Llanelli.

News
Copy
H anesion Crefyddol Ynysybwl.Cynaliodd eglwys Saesoneg y lle uchod gyfarfodydd i sefydlu ei gweinid- og newydd, Parch. J. M. Elias, gynt o Pont- yclun, Llun, Chwef. 9. Llywyddwyd y cyfar- fod croesawu yn y prydnawn gan y Parch. Evan Lewis, Treforest, ysgrifenydd Adran Saesoneg Pontypridd a'r Rhondda. Cymer- wyd rhan gan amryw o weinidogion a lleyg- wyr adnabyddus o'r cylch, a darllenwyd llythyrau a brysnegesau oddiwrth lawer o ed- mygwyr Mr. Elias a'r eglwys. Yr oecld ton y cwrdd yn ardderchog, a'r siarad yn sylwedd- ol a buddiol. Yn yr hwyr pregethwyd i gyn- ulleidfa gref gan Parch. W. A. Williams, Tabernael, Pontypridd, a chafwyd oedfa en- einiedig iawn. Stay little.Nos Wener, Chwef. 13, cyn- aliwyd cyfarfod llenyddol yn y He uchod. Llywydd, Parch. J. L. Hopkins, ein gwein- idog. Arweinydd, Mr. Thomas Jones, Glyn. Cymerwyd rhan ynddo gan gor yr eglwys, a hefyd gor y plant, o dan arweiniad y brawd ffyddlon Richard Brown. Cafwyd pedv\arawd gan Abram Brown a'i barti. Hefyd deuawd- au gan Miss Annie Brown, Sally Vaughan, a Myfanwy Vaughan; unawdau gan Mr. Die- son, Dylife, Abram Brown, Jno. Brunt, Annie Brown, Sallie Vaughan; adroddiadau gan Annie Brown a Jno. P. Edwards; ar- aeth difyfyr S. Tudor, Nantyrhafod. Cafwyd detholion ar y 'Gramaphone' gan Mr. Jno. Jones. Diweddwyd wedi dwy awr a haner o gwrdd blasus trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau gan J. P. Ed wards. Jezreel, Goginan.lsros Sul, -Chwef. 8fed, cynaliodd Ysgol Sul yr eglwys hon ei chwrdd ysgol, a chafwyd un o'r cyrddau goreu ei fwynhad a'i fendith. Wedi canu mawl dech- reuwyd y gwasanaeth gan y brawd Ed. Parry, sydd ddiacon ffyddlon yn yr eglwys. Efe hefyd yw arolygydd diwyd yr Ysgol Sul. Efe oedd y llywydd apwyntiedig y noson hon, ac arweiniodd yn ddeheuig drwy y rhaglen a ganlyn: —Can gan Richard L Dav- ies, adroddiad Martha Owens, can Enid Sped ding, can Huw M. Evans, adroddiad Tommy Mason, can Sallie Evans, detholiad ar yr or- gan newydd gan Miss E. Sayoell, A. Mus., L.C.M. adroddiad Dorris Morris, can Minnie Richards, adroddiad Lydia Owens, can Olwen Evans, adroddiad Kate Owens, can R. L. Davies, parti gan William Evans. Cafwyd anerchiad pwrpasol ac addysgiadol gan y Llywydd, a dymunwyd trwy weddi gan y brawd Richard Owens, diacon ffyddlon aralI o'r eglwys, am i fendith y cwÑId fod yn ? arosol, yn enwedig ar yr ieuangc oedd yno.

News
Copy
Bedyddiadau. Noddfa, Blaenclydacb.Nos Sul, Chwef. 8, 2, gan y gweinidog, Parch. T. T. Jones. Tabernacl, Llandudno.Chwef. L3; 4, gan y Parch. David Davies. Felindre (Maesyfe,d).Sabotli, Chwef. 8, 3, gan ein gweinidog, Parch Stanley Thomas. -0-

Family Notices
Copy
B U FARW. Chwefror 9, 1914, yn 30 mlwydd oed, ein hanwyl chwaer Mrs. Hannah Thomas, priod Mr. Richard J. Thomas, Groeslon (gynt), a merch i Mr. a Mrs. John a Catherine Griffiths, Llwyndu Bach, Penygroes/blaenor gyda'r Bedyddwyr yn Calf aria, Penygroes, yr eglwys yn mha un y mae y teulu yn aelodau. Claddwyd hi yn Macpelah Peny- groes, ar y 12 o Chwef. Gwasanaethwyd yn y ty gan yParchn. T. P. Williams, Groes- Ion; E. Pritchard, Salem, Talysarn. Anerch- wyd gorsedd gras gan D:. Davies, Ebenezer, Llanllyfni, o

Family Notices
Copy
AUOLYGIAD. Social Problemls in Wales. Dyma enw y llyfr a gynwys y papyrau ddarllenwyd Medi diweddaf yn Llandrindod dan nawdd "Ysgol Undebol y Gwasanaeth Cymdeithasol i Gymru." Ymdrinir a mater- ion o bwys gan ddynion nodedig gymhwys i'r gwaith. Ceir tri papyr am "Yr EgI wys a Chwestiynau Cymdeithasol, gan Mr. D. Lleufer Thomas, M.A., Ynad Swyddogol Pontypridd; y Parch. S. E. Keeble (W.), Parch. Percy Dearmer, M.A., D.D. Cyf- yngir yr ail adran i dri papyr ar "Ath- roniaeth G ristionogol Bywyd," gan Y Prif Athraw Prvs. M.A., a'r Proff. D. Miall Ed- wards, M.A. Traethir yn y drydedd adran d'r llyfr ar "Y gweithiwr Amaethyddol yn Nghymrii," gan Mr. G. R. Carter, M.A., Parch. Richard Jones, M.A., a'r Parch. Gwilym Davies, M.A. Gwelliantau Amaeth- yddol yw penawd y bedwaredd ran, dan ofal Mr. John Owen, Mr. G. R. Carter, M.A., Mr. H. Jones Davies, Y.H., Milwriad H. Pilkington, C.B., a Mr. C. Venables Llewellyn, Y.H. Cynwysir yn y Ilyfr dor- aeth o wybodaeth Cymdeithasol Cymru, a cha pob diwygiwr cymdeithasol,a dylai pob gweinidog, diacon, ac aelod eglwysig fod felly--gynorthwy mawr yn ei waith trwy ddarllen y ff-eithian hyn. Digon yw dweyd fod dau neu dri o'r papyrau yn werth y swllt ofynir am y llyfr. Bydd darllen pap- yrau Proff. D. Miall Edwards, Mr. G. R. Carter, Parch. Gwilym Davies, Mr. D. Lleu- fer Thomas, a Mr. H. Jones Davies, heb son am eraill, yn dal digonol i'r darllenwyr.

News
Copy
BLORYNOD COCHION AR Y WYNEB. 60, Eldon Road, Caerdydd, De Cymru. "Gwellhaodd y Sebon ac Eli Cuticura fi yn llwyr oddiwrth yr anhwylder a anurdda y wyneb set rash y barbwr. Dioddefais am gyfnod o ddwy flynedd. Ymddangosodd ar fy wyneb rai wythnosau wedi i mi ddechreu eillio, mewn ffurf o florynod bychain. Wedi peth amser dechreuasant dori gan adael manau coch gan florynod. Yna lledaenasant dros fy "wyneb gan achosi poen llosgawl a. chosawl, ac yn goron ar y cyfan, pan na fyddai blorynod, deuai draen wyneb. Yn fuan nid oedd le glan ar fy wyneb. Treiais amrywiol eliau, y rhai ni wnaeth- ant les i mi, canys gynted ag y rhoddwin hwy dechreuai y 'rash' gosi a llosgi yn ofnad- wy. Wedi dwy flynedd cymeradwywyd fi iro- ddi prawf ar Sebon ac Eli Cuticura. Gynted ag y dodais Sebon ac Eli Cuticura esmwythas- ant y boen adaeth gwellhad cyflym." (Ar- wyddwyd) Max Ludsky, Chwef. 12, 1913. Gwerthir Sebon ac Eli Cuticura gan holl fferyllwyr. Anfonir siampl ynghyda llyfr 32 tudalen yn rhad drwy'r llythyrdy. Cyfeiriad: F. Newbery & Sons, 27 Charterhouse Sq., London, neu Potter Drug. and Chem. Corp., Boston, U.S.A.

News
Copy
5000 0 Filwyr mewn pen pin Y mae eich gwaed yn llawn o filwyr, mor fychain fel y *s gall pum mil ohonynt droi o fewn pen pin. Eto, y mae eich iechyd, eich bywyd hyd yn oed, yn dibynu ar eu gallu i ymla-tkL Y Ce lIoedd gwyn a elwir Phagocytes, neu "Gelloedd Bwytaol," yw y milwyr hyn, oherwydd eu gwaith yw lladd neu fwyta y trychfilcd gwenwynig all fyn'd i'r gwaed. A chedwir hwy yn brysur, oherwydd yr ydych yn anadlu trychfilod pan yn darllen. Y maent yn mhobman-yn yr awyr, yn y cwpan, ar eich plat. Os y bydd fich celloedd gwyn yn gryf a digon niferus gallant ddifa y trychfilod peryglus. Ond os y bydd eich gallu gwrthladdol wedi ei leihau bydd angen i amddiffyniad y celloedd gwyn gael ei adgyfnerthu gyda Virol. Cynydd rhyfeddol yn ngallu y celloedd "Milwrol" sydd > yn amddifyn y corph ar ol ymborthi ar Virol N Fel canlyniad nifer o ymchwiliadau ar raddfa eangawnae4 yn ddiweddar mewn Iechydfa adnabyddusprofwyd i sicrwydd fod ychwanegu Virol at y bwyd yn dylanwadu yn rhyfeddo1 ar waith y celloedd gwyn yn y gwaed, y rhai eydd yn amddiffsn y corph yn erbyn germs. Ar ol deuddeng wytbnos o ymborth yn cynwys Virol yr oedd gallu y celloedd gwyn yn y gwaed i ddinystrio y germs yn bedair gwiith gymaint ag eiddo gwaed cyffredin rhai nad oeddynt wedi ymborthi ar Virol. Dylai pawb felly—dyn, • dynes, a phlentyn—yn neillduol y rhai sydd yn wanllyd a nychlyd, gymeryd Virol. Porthwch fabanod a phlant ieuainc ar Virol; y maent yn ag-ored i gymaint o afiechydon nas gall ond y celloedd nnlwol" hyn yn unig eu hamddiffyn rhagddynt. Mewn costrelau i/ 1/8, a 2/11. r VIROL Defnyddir mewn mwy na ¡ Mil o Ysbyttai ac Iechydfaoedd, VIROL, LTD., 152/166. Oll Street, London, B.C. ,I. f> '4