READ ARTICLES (4)

News
Copy
Gwersi yr Ysgol Sul. GAN Y PARCH. R. H. JONES, LLAN- GYNDEYRN. Sul, Mawrth laf, 1914.—Actau xxyii. 13-24. PAUL YN YR YSTORM. Y mae yr ystorm yn ddadguddydd cymer- iadau. Amlygwyd cymeriad Paul: ei bwyll, a'i wroldeb, ei hyder yn Nuw, a'i yspryd haelfrydig at ddy uiou: mewn cyferbyniad i ryfyg, a gwendid, ao hunangarwch y llu o'i gyd-deithwyr. Trwy'r dadguddiad hwn o'r yspryd rhag- orol oedd ynddo, enillodd ddylanwad mawr ar bawb oedd ar y bwrdd. Cod odd o fed yn un o'r carcharorion, i fod mewn rliinwedd yn llywydd YI Hong, a thrwyddo, ac er ei fwyn, g wared wyd pawb oedd arni rag angeu. Ar y, cyntaf "gwrthodwyd ei gynghor, a bu'r canlyniadau yii alaothus: adn. 10, 13, 20. Antur ryfygus oedd ceisio cyrliaedd Phenice, a phrofodd yn golledus. Yr oeddynt yn yiii- wybodol o berygl, a morient hyd ymcdrent dan gysgod yr ynys. Am enyd elent yn hwylus: a gwawdient o bosibl. y cynghor a roddodd Paul; ond addewid siomedig oedd eiddo'r deheuwynt: trodd y gwynt drachefn, a tharawyd YI Hong yn sydyn gan wynt tymhestlog, a dde;uai dros fynyddoedd Greta, ac a'i gyrodcl allan i'r mor, ac o ddinystr. Y mae ein by wyd yn agored i g-yfnewid- ian sydyn alwant am bwyll. lago iv. 13-15. Try'r boreu teg yn anil yn ystormus, ddu brydnawn, Y mae felly yn arbenig ar lwybr anystyriaetli a rhyfyg. Diar. xiv. 12 a xxiii. 31, 2. Yn y,r ystorm, yr oedd y morwyr yn 'ddigymhorth' (helpless), adn. 15. Cip- iwyd y Hong fel pluen; a dygwyd hi lie nis mynent. Gwnaethant ymdrech ingol i ddiogelu y Ilong a n lieinioes. adn. IG-19, Darllena hanes y fordaith fel cofnodion. o 1 log-book y llong. Yr oedd Luc ar y bwrdd ac yn sylwedydd craffus, a phrofa ymweliad- iadau diweddar gywirdeb ei ddesgrifiadau. Gwnaed pob peth oedd bvosibl i gadwrdlestr —" Pobpeth a rlYdd gwr am ei einioes." Suddasant i anobaith," adn. 20. Heb weled haul na ser dros ddyddiau: collasant eu harweinyddion i forio. Ni wyddent lie yr oeddent: nac i ba gyfeiriad y gyrid hwynt. Diau hefyd fod y llong ynymlenwi a dwfr, fel yr ofnent iddi suddo, cyn cyrliaedd unrhyw dir, Tawdd eu henaid ,gan flinder," fel Had oedd calon ganddynt i fwyta bwyd. 'Hyder yr Apostol yn Nuw a'i galoiidid i'Av gyd-deithwyr, adn. 21-4. Tra y. maent hwy yn ymollwng i anobaith, y mae Paul yn eu casglu o'i gylcli i'w calon ogi, drwy adrodd iddynt y wel,edigaeth nef- ol a gaf odd, i'w sicrhau na chollid einioes yr un o honynt, er y collid y llestr. Y mae yn eu hadgofio o'r modd y rhy- bujddiodd hwynt, ac y gwireddwyd ei eir- iau, er mwyn enill sylw gwell i'w genadvvn bresenol. Rhoddwyd iddo'r weledigaetli 1 fel gwr Duw.' Oyffes ardderchog yw adn. :28, Llef- ara wrthynt, fel rhai a gredent inewn duw- iall lawer, "Y Duw a'm piau. Y mae n eiddo i Dduw-fel ei Newr-ei Bryuwr-yr Hwn a'i seliodd a'i yspryd, ac a enillodd ei galon; ac y mae Duw yn eiddo yntau. Teimlai yn ddiogel yn rhinwedd y herthyn- as. Gofala Diuw am ei eiddo. Arwexnia'r ymdeimlad o berthynas I wasanaeth 'a'r Hwn wyf yn ei addoli. Ei addoliad yn wasanaeth, a'i wasaiiaeth yn addolgar, gan droi ei holl fywyd ynalrn o fawl, ac yn offrwm diolch. Iddo ef, gwr Duw, y, daeth y genadwri o'r llys nel'ol, Salm xxv. 14. Rlioddwyd y wolodiga,eth "mewn atebiad i weddi." Awgrymir liyn yn y gait. "Ae wele rhoddes Duw," --caniataodd Duw, "iti y rhai oil sydd yn morio o-yida thi." Nid oedd yntau heb ganfod y perygl, a'i deimlo, ond cafodd ymwared rhag ofn mewn gaod-di. Gweddi haelfrydig oedd ei weddi, dadleuai, nid yn- unig am ei ein- ioes ei hun, oitid am einioes pawb oedd air y llong. Y mae eiriolaeth y saint yn gysgod "i'w sicrhau y celai ddymuniad ei galon," i fyned i Rufain, i dystio dros Grist. Nac ofna." Yr ofn a'i blinai, oedd, nid ofn angeu, ond ofn na chawsai oi ddynmn- iad hwn..Rhaid i ti sefyll ger bron Cesar,' dyna fwriad ac addewid y Nef, ac ni ddichon dim rwystro eu cyflawniad. --0-

News
Copy
CYNLLUN Y WEINIDOGAETH, Argrapihiadau diderbyniwyd yn Nghwrdd y Gronfa, yn Nghaersalem, Llanelli. Euthum i fel 11awer eraill, i Lanelli ar y, 3ydd cylisol, yn lied bryderus parthed dyfodol Cynllun y Weinidogaeih. Ofnem fod y cynllun hwn fel eraill gyflwynwyd 0 bryd i bryiil i sylw'r enwad i liycliu'n hir o ddiffyg brwdfrydedd i'w gafio drwodd yn llwyddianus. Nid ydym fel enwad yn brin mewn athrylith i gynllunio, ond prin fuom, ysywaeth, mewn zel a dyfalbarhad i gario allan ein cynlluniau. Ofnem hefyd, ar ad- egau, fod yr hyn y gwnawn gymaint obono ein hanibyniaeth eglwysig--i fod yn faen tramgwydd ar lwybr cynllun sydd a'i duedd yn ein tyb ni, i wneyd canoedd o'n heg- lwysi yn anrhaethol fwyanibynol nag ydynt yn awr. Ond wedi'r cwrdcl rhagorol hwnyn Llanelli diHanodd ein hamheuon a chiliodd ein hofnau, a dyehwelsom gyda chalonau ysgeifn a .diolchgar i'r A-rglwydd; Ystyr- iwn i'r enwad fod yn dra ftodus i ,sicrhau ysgrifenydd mor ddiogel a chraff yn y Parch. W. A. Williams, Pontypridd. Yn ei anerchiad yn Llanelli dangosodd feistr- olaeth lwyr o'r cynllun yn ei holl weddau, a charia ei eglurhad ar yr adranan y tybir eu bod yn ymyryd ag anibyniaetli yr eglwysi gweiniaid argyhoeddiad i bob meddwl di- ragfarn. Amlygai gyfarwycldeb a'r modd y manteisia eglwysi ar f,esurau anheg i gael gwared i f'rodyr fydd, yn eu tyb lnvy, wedi goroesi eu defnyddioldeb. Pan ddaw y cyn- llun hwn i weithrediad diogelir buddianau uchaf yr eglwysi gweiniaid a'u gweinidog- ion. Dang os odd Mr. Williams fod egwyddor y cynllun mor bell ag y bydd y Pwyllgor Canolog yn cael llais yn newisiad gweinid- og ar eglwys fyddo'ndibynu ar y Gronfa, mewn gweithrediad eisoes yn Nghenadaeth- au Cartrefol y gwahanol gymanfaoedd. Ym- ddengys i'r egwyddor weithio'n hollol ddi- dramgwydd yn y Cymaufaoedd. Pa aclios ofni y gweithia'n wahanol ynglyn a'r cyn- llun newydd? Dangosodd hefyd fod yr egwyddor I1011 yn gyson a'r modd y gweithredir yn mhob cymdeithas arall. Egwyddor fawr gwerin- iaeth mewn gwleidyddiaeth yw fod.cyfran- iad yn golygu llais a chyi-irychiolaotli; fod y sawl sy'n gyfrifol am fieindio cvfalaf yn cael llais mewn penderfynu'r defnydd a wneir ohono. Os yw hyn yn gyson a'r egwyddor werinol yn y cylch gwleidyddol, nid yw yn anghyson a'r un egwyddor yn y cylch crefyddol. Credwn fel y dywedod-ci Mr. Williams, mai angen mawr yr enwad, ac yn enwedig yr eglwysi gweiniaid, yw deall y cynllun. Deuant i ddeall maiyr amcan mewn golwg yw sicrhau eu cysur tymhorol a'u buddianau ysbrydol uchaf. Gwridem wrth feddwl fod 0 80 i 90 o weinidogion yn derbyn y cyflog gwarad- wyddns 0 X40 i £70 y flwyddyn; ac fod clau gant 0 eglwysi heb weinidogaeth gyson. Beth am y, dyfodol os pery petliau yn y cyflwr hwn? Na feier ein dynion ieuaingc disgleiriaf os cymhwysant eu hunain ar gyf- er cylchoedd eraill yn hytrach na'r weinid- ogaeth. Yr oedd pawb ohononi yn falch 0 weled a chlywed Dr. Edwards, Caerdydd. Daetli yno drwy anfanteision mawr. Rhwydd gredwn yr hyn a ddywedai, fod ganddo wel- edigaeth, a hono'11 weledigaeth iiefol yn nglyn a'r mudiad hwn. Rhoddes eisoes lawer o'i amser prin a gwerthfawr i hyrwycldo'r mudiad, ac mae gwr all ddod yr holl ffoxdd o Gaerdydd i Lanelli yn nghanol afiechyd i ddadleu hawliau mudiad fel hwn, y mae gwr felly, meddwn, fel yr apostol yn ufudd- hau i'r weiedigaeth nefol. Rhoddes yntau enghreiphtiau byw o'r angen am gynllun o'r fath er caJdw llawer o eglwysi gweiniaid rhag gwyro. Gallwn sicrhau y Dr. nad yw'r "plea" a iddanfonddd allan wedi syrthio'n ofer. Cadwed yr Arglwydd ef i droi ei weiedigaeth yn ffaith. A phwy na ddywed fofl i Dr. Gomer Lewis ei le ei hun ynglyn a'r muldiad hwn? Pwy edwyn y gwyr cefnog gystal ag ef? A oes hafal iddo am wleithio 'i ffordd i'w llog- ellau? Gall ei arabedd, ei frwdfrydedd, a'i hyawdledd toddedig fod: 0 werth mawr i'r enwad yn yr argyfwng presenol. Gobeith- iwn y caniata ei eglwys barchus iddo lawer o ryiddid i ymweled a'r eglwysi ar ran y mudiad. Gofala'r Parch. Hugh Jones, Ysg- rifenydd Cylch Llanelli, y gwneir y gwaith lwyred ag y, byddo modd yn y cylch hwn. Rhoddwyd y gwaith mewn dwylaw diogel. Bu'r cwrdd h wn yn gryu ysbrydiaeth ini. Teimlwn fod ein harweinwyr o ddifrif gyda'r gwaith, ac y gwneir pobpeth fydd yn bosibl i gario'r cynllun drwodd yn llwyddianus. A yw'r nod yn ddigon uchel? Hyderwn y gwelir cyn hir nad anmhosibl cyrliaedd nod uwch. Amaniord. J. GRIFFITHS.

News
Copy
o TABERNACL, PONTYPRIDD. Sul, Chwef ror yr 8fed, oawd gweld- un yn dilyn Crist yn y dyfrllyd fedd. Mae'r eglwys a'r gweinidog ffyddlon yn gwynebu y, gwaith yn gryf. ao er trymed y ddyled y, maent yn penderfyiiu ei chael i lawr. Mae Mr. Williams wedi, ac yn gweithio yn galed gyda "Ohynllun y Weinidogaeth." Mae yn iiiedr-Li egluro y pAvngc yn rliagorol. Mae yn fedrus ar bob pwngc 0 ran hyny, a charia ei fater bob amser i dre. Gwn fod llawer mewn llawer lie wedi cael goleu ganddo ar y, 'Cynllun.' Os oes rhai am eglurhad ar y, Cynllun anfoned am y Parch. W. A. Williams, Pontypridd, Ysgrifenydd J mudiad, a chaent oleuni clir. CYFAILL JOHN. -0-

News
Copy
Pecfair Blynedd-ar-ddeg o Ddiffyg Tnaul. Poen, Uwynt, Poen Pen, Heintus. G wellhai Rhyfeddol gan DR. CASSELL'S TABLETS. Peda,ir blynedd-ar-ddeg o Ddiffyg Tratil-- meddyliwch am dano. Pedair blynedd--ar- ildeg 0 boen dyddiol. Dyna fel y bu Mrs. Rowe, 2, Gloucester-street, Newport Mon., hyd nes iddi roddi prawf ar Dr. Cassell's MRow-è Newport. lablets. a gwellhawyd hi fel miloedd ereill. Dyma fel y dyiie,ml- "Bum yn dioddef am 14 mlynedd oddi wrth ddifiyg traul, ac ni charwn weled un yn myned trwy y cwrs y burn ynddo yn ystod yr amser hwn. Yr oeddwn yn cael y gwynt a phoen pen yn ddyddiol, a phoen ar ol cymeryd ymborth. Os oeddwn yii inyii- ed unrliyw amser heb fwyd, teimlem yn wan a heintus. Ni chefais waredigaeth hyd xet cymeryd Dr. Cassell's Tablets. Wedyngwell- ais yn ddyddiol, ac yn awr yr wyf mewn iechyd rhagorol." Prawf gwellhad ar ol gwellhad, hyd yn oed yn yr achosion gwaethaf, mai tabledi Dr. Cass ell yw y feddyginiaetli sicraf a ddyfeisiwyd at fethiant y nerves, tlodi gwaed, gwendid, anhunedd, poen nerves, af- reoleiddiwch y stumog a'r arenau, gwendid plant, parlysiad y nerve a'r cefn, dihysbydd- iad nerth cyiiredinol, lludded ymenydd, a phob math ar fethiant yn y cyflwr. Anfoner 2g. heddyw i Dr. Cassell's Co., Ltd., 418, Chester Road, Manchester, am sampl rhad. Gwerthir y tabledi gan yr holl Fferyllwyr am lOic., Is. lie. a 2s. 9c,.— y maint olaf yw y rliataf yn y dinvedd.