READ ARTICLES (3)

Detailed Lists, Results and Guides
Copy
Tipyn o Bopeth. —Mae Cwmni y Cunard Line wedi ap- wyntio Mr. W. T. Turner, Capten y Maur- etania, yn gapten eu Hong newydd a'r fwyaf "Aquitania." Mae Capten Turner yn ngwasanaeth y Cwmni er's 40 mlynedd, a bu yn gapten ar amryw o'u prif longau. Dechreuodd fel cabin boy oncl erbyn hedd- yw y mae wedi dringo yn gapten Hong fwyaf y byd. —Mae George Ball, yr hwn. a lofruddiodd Miss Bradfield mewn swyddfa yn Lerpwl, wedi cael ei gondemnio i farw. Nid yw ond 23 mlwydd oed. -Bu gorlifiad dyfroedd ofnadwy yn Ne- heudir America yn ddiweddar, ac ysgubwyd ymaith bentrefydd a threfydd, a chollwyd dros fil o fywydau. —Mae Undeb Dirwestol Merched y Gogledd yn rhifo dros 18,000 o aelodau. —Dywedodd cynghorwr yn Mountain Ash fod y Picture Palaces yn dinystrio arch- waeth pobl at lyfrau, ac fod 12,000 yn llai o lyfrau wedi eu benthyca o Lyfrgell Rhydd Caerdydd y flwyddyn ddiweddaf na'r flwydd- yn flaenorol. —Dywedodd ysgolfeistr yn Ngogledd Cymru, fod yn anmhosibl er y dydd yr agorwyd picture palace" yn y dref, i gael y plant i ddarllen dim ond llyfrau yn cynwys hanesion llofruddiaethau a digwydd- iadau erchyll. -Rhoddodd Syr Hildred Carlisle, aelod Seneddol Toriaidd St. Alban's, Hertford- shire, Y.150,000 tuag at Gronfa waddoledig Coleg Bedford, er coffadwriaeth am ei fam. Coleg i ferched ydyw hwn, ac y mae yn deilwng iawn o'r gefnogaeth sylweddol hon. —Gadawodd y diweddar W. Langham Christe, cyn-aelod Seneddol Toriaidd eiddo gwerth miliwn o bunau ar ei ol. Bydd y "death duties" ar ei eiddo dros £ 140,000. —Mae y Parch. F. B. Meyer, B.A., D.D., Llundain, wedi dwyn allan gofiant i'r di- weddar Dr. Cecil Robertson, y meddyg- genadwr ieuangc a fu farw yn Sianfu. Mawrth, 1913, yn 28 mlwydd oed. Yr oedd y dyn ieuangc hwn wedi enill y gradd o F.R.C.S., y gradd meddygol uchaf yn yr holl fyd. Ymgysegrodd ei fywyd i'w Wared- wr, ac a aeth allan i'w wasanaethu yn China, ond cyn pen pum' mlynedd yji aberth i'r dwymyn. —Rhif y, Bedyddwyr yn New Zealand ydyw 5,763. Cyfranasant at y genadaeth yn Bengal, India, y flwyddyn ddiweddaf £ 2,798. Mae hyn ar gyfartaledd yn agos yn haner sofren yr aelod. Mae Bedyddwyr Cymru yn rhifo 127,258, ond ni chyfranwyd at y genadaeth y flwyddyn Jddiweddaf ond £ 6,104. Nid yw hyn ar gyfartaledd ond yn agos swllt yr aelod. —Mae y swm anrhydeddus o Y,60,000 wedi cael eu haddaw gan un nad yw am ivsbysu ei enw, tuag at yr Ysgol Feddygol Uenedlaethol Gymreig. Hysbys ydyw fod yr aelionus Syr W. J. Thomas, Ynyshir, yn ..aenorol wedi addawi £ 30,000. —Oil o'r olleiriaid hynaf yn Nghymru yiyw y Parch. D. L. Williams, Llanwnda, ir Garnarvon, yr hwn sydd wedi ymddi- wyddo yn 91 mlwydd oed. Ganwyd o yn i gliaerfyrddin, ac y, mae o yn or-yr i'r anfarwol Peter Williams. Bu yn offeiriad Llanwnda am 53 mlynedd. —Dirwywyd gyriedydd cerbyd modur yn Croydon o £26, am ddiofalwch wrtli yru ei gerbyd a pheidio a sefyll ar ol taro dyn i lawr. —Dirwywyd un arall yn Westminster o X20 a £3 3s. o gostau, am yru y modur yn rhy gyflym. Dywedir ei fod yn myned yn ol 70 milldir yr awr. Claddwyd Hannah Roberts, Casllwchwr, mam Evan Roberts, y diwygiwr, yr wythnoG ddiweddaf. Bu yn dihoeni yn hir, ac yn ystod ei chystudd blin dymunodd lawer am gael gweled ei mab Evan, yr hwn sydd yn aros yn Leicester, ond ni chafodd ei dymun- iad. Gwrthododd yn bejtdaiit i ddyfod gar- tref. Aeth ei dad- ychydig amser yn ol i Leicester gan obeithio cael ei weled ac ym- ddiddan ag ef yn bersonol, ond gwrthodwyd ei gais, a dychwelodd yr 'hen wr yn siom- edig iawn. Ni ctdaeth Evan i angladd ei fam, yr hyn oedd yn siomedigaeth fawr i'r teulu yn eu trallod. Yr oedd Mrs. Roberts yn wraig rinweddol a duwiol. Dywedir fod 45 o dai trwyddedol gogyfer a 5,083 o drigolion yn nghylch St. Clears, sef tafarn am bob 113 o'r boblog- aeth. Rhy ddrwg yn wir. —Gwerthodd Arglwydd Joicey y rhan fwy- af o'i ystad yn Sir Drefaldwyn yn mis Hydref diweddaf, ac yn awr y, mae o wedi gwerthu y gweddill yn gyfrinachol i Mr. D. Davies, A.S., Llandinam. Mae ymeddianau yn cynwys palas henafol iawn gyda cerf- luniau derw gwerthfawr o goat-of-arms Brochwell Ysgythrog, un o dywysog-ion cyntaf Powys. -Mae Arglwydd Tredegar yn gorfod gwerthu darn helaeth o'i ystad yn Sir Frych- einiog er mwyn cyfarfod a gofynion y "death duties" ar feddianau ei dad. Dywedir mai y pwll glo dyfnaf yn Nghymru, ydyw pwll newydd Nantgarw, yr hwn sydd yn 860 llath. Buwyd am dros dair blynedd yn ei agor. Disgwylir y bydd He j 2,000 weithio ynddo yn mhen deuddeng mis etc. n G. E. W.

News
Copy
AMRYWION 0 AMERICA. Yr efengylydd enwog W. A. Sundaysydd wedi bod er's tua thri mis yn Ngorllewin- barth Pennsylvania yn efengylu i dyrfaoedd mawrion. Biu am saith wythnos yn Johns- town, ac fe wnaeth yr Arglwydd trwyddo waith nad) a byth yn anghof. Ei gyfarfod- iddef yn y Tabernaol mawr oedd attynfa y miloedid tra y bu ef a'i gynorthwywyr yno. Ni chafodd teyrnas y, tywyllwch yfath ysgydfa yn hanes Y, ddinas. Ychwanegwyd miloeid at y gwahanol eglwysi perthynol i bob enwad. Y mae yr eglwys Fedyddiedig Gymreig o dan ofal weinidogaethol y Parch. J. D:. Roberts, wedi derbyn dros gant o aelodau newyddion. Yr Ysgol Sul a phob adraii o'r eglwys wedi derbyn mesur helaeth iawn o adfywiad crefyddol, ac yn gwisgo agwedd neillduol o lcwyrchas, a'r capel lawer yn rhy fach i'r gynulleidfa. Un o ganlyniadau y cyfarfodydd fydd troi yr eg- lwys yn hollol Seisneg yn y, dyfodol agos, fel mewn lleoedjd eraill yn y wlad. Bydd yn ofynol wrth lawer iawn o ddoethineb gyda gwyliadwriaeth a gweddi i gadw y gelyn allan oblegid ystyfnigrwydd rhai Cymry, sydd yn well ganddynt grino a marw yn Gymraeg yn hytrach na byw a blodeuo yn Seisneg. Y mae yn Johnstown frodyr rhag- orol, parod i aberthu llawer o bleser yr hen Gymraeg anwyl, os y bydd hyny yn fanteisiol i lwydjdiant egwyddorion Teyrnas y gwirionedd." Y mae Mr. Sunday yn Pittsburg oddiar y Sul cyntaf yn y flwyddyn. Ni chafodd erioed y fath wrthwynebiad ag y mae wedi gael yn y ddinas hono. Cyn iddo ddechreu ar ei waith yno yr oedd galluoedd teyrnas y tywyllwch wedi gosod eu magnelau yn mhob cyfeiriad, ac yn benderfynol o ladd dylanwad yr Efengylydd. Gwariwyd miloedd o ddoleri gan berchenogion y darllawdai a'r dafarn er gwasgariu y celwyddau mwyaf du am dano. Yr oedd Undodiaeth ac Unifers- aliaeth yn tanbelaiiti o bob cyfeiriad gan feddwl parlysu y gwaith da yn y ddinas. t Yr oedd hefyd ambell i bregethwr cul a rhttgfarnllyd yn fethiant ei hun ag y gellid, eu rhestru gyda'r gallu ymosodol. Er hyn oil ni ddigalonodd yr Efengylydd, yr oedd yno ar yr awr benodedig i ddechre, ac ar y dechreu hysbysodd y dorf fawr am ystryw- iau "pyrth uffsrn" i atal cerbyd y carlw 1 fyn'd yn ei flaen. Ond,' meddai, dewch yn mlaen, chwi holl blant y, fall, chwi holl gethern gwlad yr haner nos, dewch yn mlaen nid oes arnaf fi a'm cynorthwywyr ddim 4 o'ch ofn, oblegyd y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni, y mae yr Hwn ddywedodd, wele yr wyf fi gyda chwi hyd ddiwedd y byd," gyda ni, yr ydym ni ei law ef, ac fe fydd dinystr mawr ar rengoecld byddinoedd y tywyllwch yn y ddinas hon mewn canlyniad i waith gras Djuw trwy y cyfarfodydd hyn. Ei gyfarfodydd ef yw prif gyrchfa y, mil- eedd yn y ddinas fawr yn y dyddiau hyn. Y mae yn y labernacle eisteddleoedd i unfil-ar-bymtheg o bobl, ac ar rai adegau byldd ugain mil i -mewn. Prydnawn Sul, Ionawr lleg, yr oedd yn pregethu i ugain mil o ddynion, nid oedd menywod i fod yn bresenol yn y cwrdd hwnw, a dywedid fod ugain mil y tu allan i'r Tabernacl bron gwallgofi eisieu ei glyw- ed. Chickens come home to roost," oedd title ei bregeth. "Darfydded y pechaduriaid o'r tir," &c., oedd geiriau ei destyn. Gosod- odd bechod yn ei wedd erchyllaf o flaen y bobl, darluniai ddynion o dan ddylanwad y pechodau duaf, bryntaf ag y gall dyn eu cyflawni, ac yna daliai hwy o flaen brawdle fanwl y Barnwr Cyfiawn os yr elent yno heb edifrhau am bechod. Yna galwai yn enw y Meistr Mawr ar ddynion i edifarhau a gadael eu ffyrdd drygionus. Golygfa bryd- ferth oedd gweled tua phum' cant yn myn'd at y llwyfan ac yn gafael yn ei law fel ar- wydd eu bod yr awr hono yn dlechreu byw bywyd newydd. Y mae can oedd yn mhob cyfarfod yn gwneyd yr un peth. Nos y, Sabbath y cyfeiriwyf ato uchod, digwyddodd i'r Anrhydeddus W. J. Bryan, a'i briod fod yn pasio trwy Pittsburg a chan- .y Pittsb-a?g a c h an- ddynt bedair awi* i aros am y tren, aethant i wrandaw Mr. Sunday--cawsant le yn mhlith y cantorion y tu ol i'r pregeth wr- ychydig iawn ddarfu eu hadnabod. Yn mhen ychydig ddyddiau ar ol hyny, anfon- odd lythyr at Mr. Sunday yn mynegu y mwynhad mawr a gafodd ac yn cymeradwyo ei waith yn y modd uchelaf, gyda geiriau o galondid iddo yn ngwyneb' y gwrthwyn- ebiadau oedd yn gael. Cewch air eto am y gwaith yn Pittsburg. Profedigaeth lem a gyfarfyddodd y Parch. W. J. John a'i briod a'r teulu pan newydd symud o Newcastle i Pittsburg, Pa., trwy i Ruth, eu merch hynaf, tair ar hugain oed syrthio oddiar ail lawr porth cefn y ty. Yr oedd ei brawd bach, pum' mlwydd oed, wedi myn'd trwy y drws i'r llawr hwn, a rhag ofn y digwyddai niwed iddo aeth ar ei ol, taflodd y bachgen ei gap i'r tu cefn i'r ty, ac aeth Ruth a'i dwylaw ar ganllaw y porth er edrych lie yr oedd cap ei brawd, ac ym- ollyngodd y ganllaw ac aeth hithau ar ei phen i'r gwaelod, a bu farw yn mhen ugain munud. Yr oedd ei rhieni yn y ddinas ar y pryd yn pwroasu rhoddion Nadolig i'r plant, a phan ddaethant adref yr oedd eu hanwyl Ruth yn farw. Nid oes neb fedr roddi dar- luniad o deimlad y rhieni ar eu dyfodiad gartref a gweled eu merch brydferth yn farw. Dydd Mawrth dilynol i'r ddamwain, sef Rhagfyr 16eg, oedd ddydd yr angladd. Daeth torf fawr i'r angladd, a chryn nifer o New Castle. Y Parch. R. E. Williams, gynt o Parsons, a'r ysgrifenydd, ac amryw o weinidogion eraill yn gwasanaethu. Daethum yn adnabyddus iawn a'r teulu yn ystod y deng mlynedd y buont yn New Castle ac yn edmygwr mawr ohonynt oil. Yr ,o.edd Ruth yn un o'r merched pryd- ferthaf a adnabyddais erioed. Meddai ar natur lednais a thawel, ac yn wir grefyddol. Yr oedd yn ffyddlon i holl wasanaeth y cysegr, yn enwedig ir Yisgol Sul a chyfar- fodydd ybob ieuaingc. Cysuredy Nefoeddy, teulu trallodus yn eu galar a'u tristweh KDAW. J. T. L.

News
Copy
dim arall, a'r owbl am na f'asech chi yn codi ei ysbryd ef trwy ddweyd geiriau caredig wrtho mewn pryd." Gallai y, weinidogaeth fod yn anrhaethol fwy piaradwysaidd, a'r gwaith fod yn fwy pleserus a idymunol, a Theyrnas Dduwenill mantais fawr ar Deyrnas Satan, pe ymgym- erai yr aelodau crefyddol a dyifeisio ffyrdd i ddatgan a phrofi i'r gweinidog eu gwerth- fawrogiad ohono a'i waith, fel y gallai wneyd ei waith mewn nwyfiant, hoewder, ieuengrwydd, a'i fywyd gweinidogaethol yn gan o fawl bob dydd. Hyfryd i deimlad pob gweinidog teilwng yw aros yn nghariad Crist ac yn nghariad ei eglwys. Dyma y ddelfryd—Y gweinidog yn caru Duw a'i eglwys, a'r eglwys yn caru Duw' a'r gwein- idog, a'r eglwys a'i gweinidog yn byw yn heulwen cariad Daw yn Nghrist Iesn. Boed hyn yn brofiad nefol pob eglwys a gweinidog