READ ARTICLES (3)

News
Copy
YMDDISWYDDIAD Y PARCH. Dd JAMES, LLANDILO. Dian y gwyr lluaws o ddarllenwyr SEREN OYMRU am ymddiswyddiad y brawd parchus uchod o faes y weinidogaeth sefydlog, wedi bod ar y twr yn dal baner y groes am dros un mlynedd a deugain, ac o'r cyfryw wedi treulio yn ymyl deunaw mlynedd ar hugain yn yr un maes. Bedycldiwyd ef yn Bethabara, Sir Benfro, yn 1859. Dechreuodd bregethu yn Moriah, Dowlais, yn 1867. Cafodd dderbyniad i Athrofa Llangollen yn 1869. Ordeiniwyd ef yn Porthyrhyd, Idanddarog a Sittini, Felin- gwm yn 1872. Rhoddo.dd Sittim i fyny yn 1877 i gymeryd gofal eglwys Ebenezer, Llandilo. Symudodd o Porthyrhyd i Pont- brenaraeth yn 1883. Bu yma yn gwasan- aethu ei Feistr hyd ddiwedd y flwyddyn 1913. Daliodd ati yn ffyddlawn hyd yr eith- af, llesg o ran iechyd ydyw wedi bod ar hyd y hlynyddau diweddaf, a chyflwr bregis ei iechyd a barodd iddo roddi y fugeiliaeth i fyny, ac oni bai am dynerwch a gofal dibaid, ei anwyl briod, diau y buasai wedi gorfod ildio ei l'eusydd yn llawer cynt, ond cafodd ei fendithio ag ymgeledd gymwys yn ngwir ystyr y gair. Fe wyr y profiadol fod afiechyd mewn teulu yn golygu treuliau cyson a thrymion, ac yr ydym fel pobl ei ofal yn Ebenezer a Bethel wedi penderfynu rhoddi tysteb syl- weddol i'n hanwyl frawd, fel arwydd o barch am wasanaeth maith ac helaethaf ei oes yn ein mysg mewn pregethu efengylaidd, bug- ,eiliaeth ofalus a gweithgar. Cyfaill pur mewn gorthrymderau, ac offeryn yn llaw Duw i gyfeirio camrau y colledig at lesu Grist. i¡ Y mae yn amlwg fod gan Mr. James lu o frodyr a chyfeillion tu allan i gylch ei weinidogaeth, a hefyd tu allan i'r enwad yn awydd us am ddangos eu parch a'u cyd- ynideimlad tnag- ato a chredwn mai cam a'r rhai hyny fyddai peidio rhoddi cyfle idd- ynt daflu i mewn i'r drysorfa a phender- fynwyd rhoddi y drws yn agored i'r amcan hwnw, hyd ddiwedd mis Mawrth, gan liyd- eru y teimla ff-ryndiaii Mr. James yr amser a nodwyd yn llawn digon iddynt ddangos eu hedmygedd o hono, a'u cydymdeimlad ag ef yn ei afiechyd presenol trwy gyfranu. yn llawen a helaeth er gwneyd y Dysteb yn deilwng o'r derbyniwr, a hefyd o'r cyfranwyr caredig tuag ati. Derbynir pob rhodd gan y Trysorydd, Mr. J. Rees, Frondeg, Allan Road, Llan- dilo, a chan yr Ysgrifenydd, Mr. T. C. Hurley, Cyfreithiwr, Llandilo, a chydnab- yddir y cyfryw gyda diolchgarwch trwy Seren Cymru" neu yn bersonol trwy y llythyrdy. •; [ [jj Arwyddwyd dros yr eglwys, T. C. HURLEY, Ysg. J. REES, Trys. -11

News
Copy
TabernacI, Ynysboeth. Sul, Chwef. 15, cawisom y fraint o wrando ar yr efengyles ieuangc, Miss A. Rosina Davies, Noddfa, Treorci, yn traddodi i ni y gwirionedd gyda grym ac axddeliad mawr.

News
Copy
Maesgwyn, Llanboidy, ddewisasid i gynyg derbyniad Araeth yr Orsedd. Gwnaeth hyny yn ofalus, yii bleserus mewn ysbryd hedd- ychol, gan geisio cyfanu teimladau y Gwy- ddelod o bob plaid. Rhoddodd llwyr fodd- lonrwydd i Mr. Asquith a'r Blaid Rydcl- frydol. Cafodd longyfarchiad llu o lionynt. Yn ol trefniant y Weinyddiaetli, eiliwyd gan MR. GORDON HARVEY, K.C., mewn anerehiad cryf a hyawdl. Cododd MR WALTER LONG (C ) ar ran y Toriaid i gynyg eu gwelliant swyddogol hwy i Araeth yr Orsedd. Cynygiai efe nad oedd y Weinyddiaetli 1 fyned yn mlaen a Mesur Ymreolaetli i'r Iwerddon. Honai fod Ymreolaetli yn ddrwg i'r Iw- erddon ac i'r wlad hon. Nododd fod Ulster yn ffyrnig yn erbyn Ymreolaeth, ac fod yno gan mil o wyr arfog-edig- yn barod i rwystro gweinyddiad y Ddeddf newydd, os daw i rym. Siaradwr hytrach aneffeithiol yw Mr. Long. Safodd y Prif Weinidog, MR. ASQUITH, ar ei draed i ateb dros y Weinyddiaeth. Aetli efe dros ychydig o hanes perthynas yr Iwerddon, a pherthynas Prydain ag Ymreol- aeth. Dangosodd awydd dwfn 5 rhan o G o'r Iwerddon dros Ymreolaeth ia thystiolaeth an ol Prydain yn yr etholiadau diweddaraf o blaid Ymreolaetli. Teimlai efe a'r Weinydd- iaetli bwysigrwydd gwrthwynebiad Ulster, ac addawodd roddi gwelliantau i ystyriaeth yr Wrthblaid er mwyn sicrhau unoliaeth ac un- frydedd yr Iwerddon i osod y Gyfraith newydd mewn gweithredia 1. Dilynwyd ef gan amryw s iaradwyr. Dydd Mercher. Parhaodd y ddadl ar Araetb yr Orsedd. Agorwyd gan SYR JOHN SIMON, y Twrne Cyffredinol, mewn anerehiad da, ond nid i fyny a'i wastad cyffredin. Dy- wed odd mai amcan mawr y Toriaid oedd di- rymu a diddymu Deddf y Senedd, sydd wedi ei bwriadu i wneyd mesurau Rhyddfrydol yn Gyfreithiau y wlad. • Yiia siaradodd SYR EDWARD CARSON, arweinydd yr Ulsteriaid yn erbyn y Mesur. Codoclld i'w fan uchaf yn ei anerehiad 111 am ychol gan wasgu ar y Weinyddiaetli a'r Ty benderfyniad yr Undebwyr i wrthwynebu Ymreolaeth yn mhob gwedd ar y Mesur, gan y credant fodegwyddor Ymreolaeth yn wir ddrwg. Yna rhoddwyd araeth gan MR. JOHN REDMOND, Arweinydd yr Ymreolwyr, gan norli y gallai claro anerchiad Syr E. Carson yn 01 yn yr," 11 ysbryd ymosodol, ond na wnelai, oblegid ei awydd i gario yr oil o'r Iwerddon yn ,unol i clderbyn a gweithio allan Deddf Ymreolaetli i gael yr Iwerddon i gyd yn heddychlawn, yn gariadus a llwyddianus. Parod oedd efe, a'i gydaelodau, i dderbyn unrhyw welliantau, i sicrhau i Brotestaniaid Ulster, ryddid per- ffaith i'w holl iawnderau a'u buddianau, heb un math o anfantais, oblegid eu lleiafrif yn y wlad. Dilynwyd ef gan MR BIRRELL (R ), Ysgrifenydd yr Iwerddon, mewn araeth ddy- ddorol, gan roddi mwynhad pleserus i'r Ty heb ychwanegu at gryfder a goleu y ddadl. Gobeithiai am gytundeb rhwng y ddwyblaid cyn hir. Ar ran y Weinyddiaeth traddododd MR. LLOYD GEORGE yr araeth ddiweddol gan bwysleisio y ffaith fod y Weinyddiaeth yn sylweddoli grym y gwrthwynebiad gan leiafrif bychan Ulster i Ymreolaetli, ynghyd a'r parodrwydd swydd- ogol, Rhyddfrydol i wneyd camrau etc .i gyfeiriad heddweh, and os methir yn hyny, na ddychrynir y Weinyddiaeth rhag myned yn mlaen i roddi Ymreolaetli yn ü 1 cais mwyrif niawr yr Iwerddon. Cododd MR. BONAR LAW (C.) i derfynu y ddadl, mewn araeth ymladdol a digyfaddawd, gan geisio cynhyrfu y Toriaid i fwy o wrthwynebiad i'r Mesur. Pleidleisiwyd -1 Dros welliant y Toriaid 255 Y nerbyn 333 Mwyrif o blaid y Weinyddiaeth 78 Cymerir fyny adranau eraill Araeth yr Orsedd eto. TY YR ARGLWYDDI. D y'dld Mawrth. Cynygiodd Arglwydd G leneonner (R.) dderbyniad Araeth yr Orsedd. Eiliwyd gan Iarll Carrick. Beirniadodd Arglwydd Middleton (C.) ad- ran Wyddelig yr Araeth. Amddiffynodd Arglwydd Morley safle y W einyddiaeth. C'vrthwynebodd Arglwydd Wiloughby De Broke Fesur Ymreolaetli yr Iwerddon. Siaradodd Arglwydd Lorehurn (R.) dros degwch .a,c ysbryd 'he!ddychlawn :er cyrliaedd y daioni mwyaf i'r wlad tra yr awgrymai Arglwydd Lansdowne ei awydd am Etlioliad Gyifredinol arall ar y cwestiwn. Teimlai Arglwydd Haldane mai y peth goreu oedd ceisio rhwyddhau y ffordd i Ul- ster a phenderfynu y mater am byth. Dyidd lau. Cynygiodd Mr. J. Ramsy Macdonald, Ar- weinydd Plaid Llafur, welliant ar Araeth yr Orsedd, yn cymvys ymchwiliad i'r materion tucefn i alltudiaeth naw o arweinwyr gweith- wyr De Affrica, o'u gwlad i'r wlad hon. Dadleuodd Mr. Macdonald y cwestiwn yn gymedrol a deheuig o safle y gAveitlnvyr gwynion. Atebwyd ar ran y Weinyddiaeth gan yr Ysgrifenydd Trefedigaethol, Mr. L. Har- court, mewn araeth goeth, syml, glasurol a gorphenedig, gan bwysleisio hawl pob Tref- edigaetli i benderfynu ei materion mewnol ei hunan, heb awdurdod gorfodol y famwlad. Dangosodd mai peth peryglus fyddai i Sen- edd Prydain Fawr i ymyryd a Senedd De Affrica yn ei gwieinyddiad o'i decldfau ei hun, mai ymyriad felly dorai ar unwaitli yr Ymerodraeth yn ddarnau. Credir yr erys araeth Mr. Harcourt ar berthynas Prydain a'i Threfedigaethau, yn awdurdod ar y mater am flynyddau i ddod. Pleidlais: Dros welliant Mr. Macdonald 50 Yn erbyn 214 Mwyrif yn erbyn 164 Pleidleisiodd Ty yr Arglwyddi ar Well- iant y Toriaid ar Araeth y Goron ar Ym- reolaeth, gan gario y Gwelliant trwy fwy- rif o 188, ond nid oes grym o gwbl yn eu mwyafrif os gosodir Deddf y Senedd mewn gweithrediad. Dydd Gwener. Yn hwyr dydd lau cynygiodd Mr. Braoe (LI.) welliant ar Araeth yr Orsedd, i alw sylw at y llacrwydd iynglyn a damweiniau ar y RheilfEyrdd a'r glofeydd. Gwnaeth hyn mown anerchiad da. Gohiriwyd y mater i ddydd Gwener, a. chymerwyd ef fyny gan Mr J. H. Thomas (LI.) yn ategu Mr. Brajoe. Er syndod i bawb rhoddodd Arglwydd H. Cav- endish Bentwick (C.) araeth gref frwdfrydig yn condemnio esgeulusdod y Bwrdd Mas- nach, gan ddweyd fod aelodau y Bwrdd hwnw yn meddwl mwy am logellau Cyfar- wyddwyr y RheilfEyrdd a'r Glofeydd nag am fywydau y gweithwyr. Cododd Mr. J. M. Robert,son (R.) arrany Weinyddiaeth i addaw, vmchwiliad pellach i'r mater hwn. Wedi i eraill isiarad, tynodd Mr. Brace ei welliant yn ol ar sail addewid y Weinyddiaeth am ymchwiliad, ond mynodd y Toriaid ei wthio i bleidlais, er mwyn caei cymhorth yr aelodau Llafur i orchfygu y Weinyddiaeth, ond methu wnaethant yn y bleidlais, gan i aelodau Ltafur bleidleisio yn erbyn y Toriaid. Yna cynygiodd Mr. Lief Jones (R.) well- iant yn galw sylw at yr angen mawr am Fesur i leihau dryo-alt y Fasnach Feddwol yn y wlad. Cododd y Prif Weinidog i ddweyd i'r Weinyddiaeth hon wneyd ei goreu o blaid mesur felly, a phery cydymdeimlad llwyr aelodau y Weinyddiaeth a Deddfwriaeth Ddirwestol. Pwyisleisiodd y ffaith mai ofer yw gosod gerbron y Ty Fesur o'r nodwedd hon—oblegid y ddadl boeth geid arno--heb aniser digonol i'w droi yn Gyfraith gwlad. Awgrymodd felly mai ar ddechreu nid ar ddiwedd bywyd y Weinyddiaeth y ceir gobaith am sylweddoli amcan gweithwyr dirwestol.