READ ARTICLES (4)

News
Copy
Nodiadau Cenadol. Congo.Daw newyddion cysurlawn o Wathen, lie mae yr eglwys beunydd yn gwneyd cynydd. Yn mis Tachwedd diweddaf agorwyd ty gweddi newydd wedi ei adeil- adu o briddfeini (bricks) yn Mputu, lie yr ymgynull y Cristionogion o dri pentref gwahanol i acldoli ac i gwrdd a Mr. W. B. Frame. Mae y eyaydd yn Mputu yn 'ddyledus yn benaf i ymdechion athraw or enw Mapwata, hen fyfyriwr o Athrofa Kim- pese. Dysgodd hwn ddigon o Avaith saer maen a saer coed tra yn yr Athrofa fel ag i ymgymeryd ag adeiladu ty gweddi new- ■ ydd ei hun, yn cael ei gynorthwyo gan ereill o'r Cristionogion trwy gario y defnyddiau, &c., &c. Yr oedd y eynulliad yn y cymun- deb diweddaf yno yn rhifo 88. "Mae yn ardderchog," meddai Mr. Frame, gwel'd y, gwahanol bentrefwyr yn ymdrechu codi lleoedd i addoli yn y gwahanol fanau, Tystiola.eth ddistaw o'u dych weliad at Grist. Yakusu.Gwnaeth y Parch. E. E. Wil- ford arholiad manwl o gyfanrif yr eglwys, a dyma fel y saif petliau: — Aelodau ymddit bynol (arnynt) 637. Cynydd er 1913, 135. Aelodau dan ddysgeidiaeth neu yn fwy pri- odol 'disgyblaeth' 70. Maxwolaethau 76. Symudwyd 5; iynwyd all an oddiar yr eglwys 191. Cyfanrif y rhai a fedyddiwyd er 1902 979. 21 yn fyr o gyrhaedd 1000. Lushailand.Anfona Parch. J. H. Lor- rian newyddion da am lwyddiant y gwaith yn y rhan ddeheuol o Lushiai (yn y bryn- iau), yn y de ddwyrain o India. Mewn cysylltiad a'r cynulliadau hydrefol yn Lun- gleh bedyddiwyd oddeutu 60, yr hyn oedd llrwy ill diwygiad sydd wedi bod yn yr eg- lwys er's tro. Marwolaeth gwraig y Cenadwr Mr. Thomas yn Delhi.Derbyniwyd y newydd am farwolaeth Mrs. Thomas gyda galar dwfn yn Delhi, lie y treuliodd flynyddau o'i bywyd. Anfonodd beohgyn a merched yr ysgol eu cydymdeimlaJd a, Mr. Thomas. Ymddengys fod Mrs. Thomas wedi bod yn nodedig o ddefnyddiol gyda'r bobl ieuaingc yno, ac yn anwyl iawn yn eu golwg. Ac nid yw yn rhyfedd fod ei cholli yn achlysur galar cyffredinol yn Delhi. Dychweliad i'n Maes.Dyma fel y dj- wed Parch. C. H. Williams, Kasauli, ar ei ddychweliad at ei waith: Yr ydym yn dechre ar ein gwaith yma ar ol dychwelyid. ac un o'r pethau cyntaf a gawsom oedd dyfodiaid clerk Brahminaidd atom o Simla, yn dyweyd fod arno awydd mawr am gael darllen y Testament Newydd, a chael eg- lurhad ar ranau ohono genym, ac yn fuan iawn cawsom yr hyfrydwch a weled ainryw, yn ymgeiswyr am fedydd." Ceylon.Mae ysgol y merched 'Matale' yn cynyddu mewn rhif; mae genym yno yn bresenol 56 o ysgolheigion yn 14 o raiyn byw i mewn (boarders); ac mae dyddordeb y Sefydliad yn cynyddu mwy na'r ysgol- heigion. Dyddorol iawn yw gwel'd fel y sylwa y paganiaid bach ar wersi or Ys- grythyrau. Mae fy nghydathrawon yn gweithio'iirliacorol, acyneyme-i.-y,cl (iidclor- deb mawr ya y gwaith," meddai y cenadwr. ss, China. Yr Argraphiad Cyntaf. Ysgrif- ena Parch. R. S. McHardy, o Siantu (China) gan roddi hanes yr Argraphiad cyntaf arno wedi myn'd yno a threulio rhyw wyth mis yno. Meddai, "Mae y Chineaid yn hollol gyfeillgar, yr unig anhawsder mawr wyf yn deimlo fy anallu i ymddiddan a liiny o horwydd diffyg gallu eu hiaith, Fy syniad am gydwyboclolnvyddcrefycldol y bobl ydyw1 mai gwanaidd ac ychydig yv. Eto credaf fod dyfodol mawr i'r eglwys yma, 03 gall dalujy pris am y llwyddiant." Towyn. H. W.

News
Copy
Y Diweddar Dr. Newton H. Marshall. Nid oes angen ysgrifenu yn helaeth am Dr. Newton Marshall am fod gymaint wedi ymddangos yn barod yn "Serèn Cymru." Derbyniwyd N. H. Marshall i Athrofa Nott- tingham yn Ionawr, 1893, pan oeddwn "i yn Llywydd yr Athrofa. Yr oedd newydd matriculato yn Mhrif Ysgol Llundain. Ymadawodd o Nottingham ar ol iddo fod yno agos i bum' mlynedd yn y Sefydliad, yn Ngorphenaf, 1897. Bu wedyn yn yr Al- maen am dair blynedd yn Mhrif Ysgol Ber- lin, ac am rai misoedd yn Halle, lie yr enill- odd ei Ph.D., gydag anrhydedd. Cafodd B.A. Llundain yn 1895. Yn 1899 pasiodd M.A. (Llundain) mewn athroniaeth, gan gymeryd y Medal Aur a roddir i'r goreu ar y rhestr os yn ei haeddu. Yr oedd wedi amcanu yn Nottingham basio arholiadau Llundain am y, B.Sc., gan efelychu ei wei- nidog Dr. Cliitord, 'ac yn sier yr ;oedd ganddo ddigon o allu i wneyd hyny. Ond tua 1895 cymerodd myfyrwyr y, Coleg a minau ofal eglwys feehan yn .Nottingham, Edwin Street, a gwnaeth Marshall lawer iawn dros eglwys y coleg a hefyd dros achosion gweiniaid ereill. Efe oedd y dyn blaenllaw ynNghym- deithas Ddadleuol Coleg y, Brif Ysgol, ac ysgrifenodd lu 0 erthyglau i gylchgrawn y Coleg hwnw. Yr oedd ganddo rbywbeth mewn bron pob rhifyn. Gwendid a chryfder Mar,shall oedd ei amlochrwydd a'r gwaith mawr a da a wnaeth mewn llawer o gyf- eiriadau. Ni chwrddais erioed a dyn mwy cydwybodol, caredig, crefyddol, nag ef. Ni anghofiaf byth fy mhrofiad am dros saith mlynedd yn Ngholeg Nottingham. Dyna'r amser y daethum yn agosach at galonau myfyrwyr nag yn unrhyw goleg arall, am ein bod yn cydfyw; yn cydfyw' ac yn cyd- weddio bob dydd. Yr oedd rhywbeth tebyg' i hyny yn hen sefydliad anwyl Hwlffordd. Drwy'r holl amser y bu Marshall yn yr Athrofa, gwelais lawer ohono yn y dos- barthiadau, ac yn fy nghartref, yr hwn oedd bob amser yn agored i'r myfyrwyr. Mae genyf yr adgofion hyfrydaf am dano fel myfyriwr ac fel dyn. Yr oedd yn 'gentleman' ac hefyd yn Gristion dilwgr. Un o'r pyngc- iau y. darlithiais arnynt yn Nottingham oedd Egwyddorion y Bedydclwyr." Arrai adegau gofynais i fyfyriwr i agor dadl ar ryw fater cysylltiedig a,'r darlithiau. Dew- isais Marshall i ymdrin ag "Ainodau ael- odaeth yn eglwys Crist." Siaradodd yn gryf o blaid eglwysi rhydd yn eu haelodaeth, ac yn y, cymundeb. Cafodd ei bapy* feixn- iadaeth gref gan rai o'r myfyrwyr a chan y, Prifathraw. Nid oedd yn deall y tir ar ba un y saif Bedyddwyr Caethgymimol, ac ni chredaf y dealla Bedyddwyr Cymru y mater llawer Gwiell. Yn fy narlithiau ar y pwngc, yr oedd yn arferiad genyf roddi y, rhesymau dros ac yn eicyn, gan gyfeirio at lyfrau ar y, ddwy oohr. Dadleuwr galluog teg a gonest oedd Marshall bob amser, a gwnaeth ef a'i gyfaill Rushbrook ac ereill lawer i helpio'r dosbarthiadau i fod yn fywiog ae yn f aiddiol. Croldw,yf pan oedd y, ddau yn y Coleg fod Rushbrook yn llawn mor alluog a Marshall, os nad mwy felly; ond cafodd lawer o anfanteision yn ei fywyd boreuol, ac ar ol priodi gwraig ardderchog yr oedd y ty am flynyddau yn fath. oglaf- dy trwy afiechyd parhaol ei gydmar. Mag- wyd Rushbrook mewn eglwys gaethgymunol, a chaethgymunwyr oedd ei rieni. Ni chofiaf yn fy mywyd wr a phersonoliaeth mwy ar- dderchog ac atdyniadol na J. H. Rush- brook, a bu ganddo ddylanwad mavvr a da ar ei gyfaill mynwesol. Teimlodd Marshall anhawsderan meddyliol yn y gref ydd Grist- ionogol. Yr oedd yn rliy gydwybodol .i broffesu yr hyn na gredai. Cefais lawer o siarad ag ef, ac mae genyf nifer luosog o lythyrau o'i eiddo ar y mater; ond yn y. diAvedd daeth yn Fedyddiwr diysgog a chyd- wybodol, a dadblygodd ei alluoedd ynrhyf- eddol. Ysgrifenodd ryw haner dwisin 0 lyfr- au galluog, un ar "Yr lawn," Yn Notting- ham ac wed'yn trwy lythyrau erfyniais arno i wneyd Duwinyddiaeth yn fyfyrdod penaf ei fywyd, ac, mewn un llythyr ataf, cyfeiria at y pwngc ("Speculative Theology" oedd y term a idclefnyddiais); ond tuedld Marsh all fu, fel eiddo Dr. Clifford, ei weinidog, 1 ymwneyd a llawer o bethau (versatility). Ysgrifenodd i'r "Dictionary of Christ and the Gospel" trwy i mi ysgrifenu am dano i Dr. Hastings. Ei ddysgawdwyr yn yr Almaen oedd 1 yr Athrawon canlynol:Athroniaeth, Paulsen a Dessoir; yn yr Hen Destament, Gunkel; mewn Duwinyddiaeth, Harnack; Kaftan a Weiss. Mewn llythyrau sydd genyf r hod da Marshall yr holl fanylion am ei fywyd yn yr Almaen. Yn ei farwolaeth mae'r enwad a'r eglwys Gristionogol wedi dioddef colled fawr. Fel un o'i hen athrawon mae ei symudia.d di- symwth yn un o siomedigaethau fy mywyd. Onid ydyw colled fel hon yn apelio at ein gweinidogion ieuaingc a'n myfyrwyr i ym- roddi yn fAvy fwy er llanw bylchau fel hyn a wneir yn y Aveinidogaeth o bryd i brykl. T. WITTON DAVLES. Athrofa'r Brif Ysgol.

News
Copy
PETH NEWYDD YN LLANDUDNO— no n Y. JNeuadd JJreloi yn rhy tach i gynwys y bobl a fynent wrando yr hen wrollSpinther yn dodi y Great Orme i adrodd ei hanes ei hun, yr wythnos ddiweddaf. Siaradodd y darlithydd am ddwy awr gan ddisgrifio ac adrodd hanes y mynydd, ac yna clangos ei olion hynafiaethol a'i nod weddau arbenig dan oleu Llusern effeithiol ein cy<l-drefwr Mr. A. H. Hughes; ac ni symudodd na hen nac ieuangc o'u llo nes i'r Cadeirydd, L. J. Roberts, Ysw., H. M.'s Inspector of Schools, hysbysu y byddai i'r ddarlith gael ei rhoddi drosodd drachefn, er mwyn y, rhai-cant a haner, fel y -deallai-- oedd wedi methu dyfod i mewn. 1REFWR. -0-

Advertising
Copy
Mr. M Tile. After months of suffering, Veno's -then cure absolute. I suffered from a bad Chest Cougli, and I had tried innumerable so-called 'cures,' with- out getting the slightest benefit. It racked my whole body, and the phlcgiii kept clogging up the .air passages till I could hardly brtsathe. After months of suffering I' tried Veno's JJigh-tn ing Cough Cure" and what a re.ieft With the first dose or two the phlegm was loosened, and one bottle completely cured ifie." ■ • Veno's Lightning Cough Cure is prepared from medicaments wliieh have a direct healing, restorative action on the respiratory syst,em, and -so it cures though. all else may fail. iir. John Methven, New Farm 'C(,t! tges, Acivlor>'Of-Fal]:land, Fifeshiref N.B. Awarded Grand Prix and Gold Medal, tnternatisnal Health Exhibition, Paris, 1910.  «J ?°'* Coughs and Colds, ?tBBT'n Bronchitis, Asthma, d I Influenza, Catarrh, and all Chest and Lung Per Bottle. Troubles in old or young. Larger Sizes The surest and speediest remedy f/H & 2/9 known. |fi Wg v$2bi i»5 f CCWICH CURE