READ ARTICLES (3)

Detailed Lists, Results and Guides
Copy
CWRDD DOSBARTH ABERTAWE. Cynaliwyd y cwrdd uchod yn Dinas Noddfa, Landore, o dan lywyddiaeth y Cad- eirydd, y Parch. Owen J. Owen, Caer- ealem. Dechreuwyd y Gynadledd am dri o'r gloch trwy ganu emyn o fawl, a gweddiwyd yn afaelgar gan y Parch. D. Pryse Williams Philadelphia, a Mr. Morgans, Manselton. Cafwyd anerchiad byr a chalonogol iawn gan y Cadeirydd, a phasiwyd y penderfyn- iadau canlynol: 1. Cadarnhawyd penderfyniadau y cyfar- fod blaenorol. 2. Gohiriwyd y cwestiwn o Gyfamod Eglwysig" hyd y cwrdd nesaf er galluogi yr eglwysi i roddi eu barn arno yn fwy llwyr. 3. Etholwyd y brodyr canlynol yn wylied- yddion ar gyfer Arholiad yr Ysgol Sul:- I Libanus, Cwmbwrla, Mr. Samuel Thomas, Bryn Street, Brynhyfryd; a Mr. David Daviess, 7, Cwmbwrla Road, Landore. I Bethesda, Mr. Stephen Jones, 6, Grove Place Abertawe, a Mr. Phillip Perkins, Manor Rd., Manselton. I Brynhyfryd, Mr. Edward Griffiths, 78, Middle Road, Cwmbwrla, a Mr. Llewelyn Evans, Sunny Terrace, Treboeth, Landor, R.S.O. 4. Etholwyd y swyddogion canlynol: Cadeirydd, y Parch. D. Pryse Williams, Philadelphia; Trysorydd, Mr. T. P. Wil- liams, 54, Major St., Manselton; Ysgrif- enydd, C. B. Griffiths, Bonymaen, ac ethol- wyd hefyd Mri. J. Glan Griffiths, Bony- maen, yn gynrychiolydd iddo. 5. Rhoddwyd croesaw cynhes i'r brawd hyfwyn a diymhongar Mr. Aeron. Ynys- tawe, i'n plith ar ei yimveliad a'r cwrdd. 6. Achos Salem, Llansamlet.-Etholwyd Dr. Williams, Landore, Parch. J. D. Harris, Parch. D. Price a C. B. Griffiths, i gwrdd a Phwyllgor Dosbarth Treforris, er cael gweled-beth ellir wneyd yn yr achos. 7. Ein bod yn inawr gjanerad wyo CyUl- deithas Genedlaethol Cymru" er diddjmiu masnach ar Ddydd yr Arglwydd (yr hon a gychwynwyd yn Abertawe), ac yn mawr hyderu y bydd y ddirprwyaeth o'r Gym- deithas hono a ymddangosodd o flaen y Watch Committee yn Abertawe yr wyth- nos o'r blaen i gyrhaedd yr amcan mewn golwg. 8. Fod y; Gynadledd hon yn tajer ddymuno ar i bob eglwys yn y Dosbarth wneyd pob ymdrech yn ei gallu i chwyddo y casgliad- au at y, Genadaeth Dramor o hyn i ddi- wedd Mawrth. 9. Ein bod fel Cyinadledd yn mawr gyd- ymdeimlo a'r Parch. E. Edmunds, Ysgriien- ydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn ei gystudd blin, ac yn gweddio ar i Ddu w pob gras ei lwyr adfer yn fuan i'w gynefinol iechyd. 10. Ein bod yn dadgan ein boddlonrwydd a'n llawenydd fod cynifer o Fedyddwyr wedi eu dyrchafu i'r Faingc Ynadol yn Abertawe yr wythnos o'r blaen. 11. Gan fod yr amser wedi myn'd ein bod yn gofyn i'r Parch. D. Price i ohirio ei anerchiad ar Yr eglwys a chwareuydd- iaeth yr oes hyd y cwhdd nesaf, yr liwn a gynelir yn Nghapel Gomer, a bod y Parch. W. P. Williams, D.D., Landore i bregethu yn yr hwyr. 12. Fod "Pwngc" y gynadledd i gael sylw yn union ar ol darllen y cofnodion. 13. Ein bod yn ilawenhau fod y Parch. T. E. Waters yn cymeryd gofal bugeiliol eglwys Mount Elim, Pontardawe. 14. Diolchwyd yn gynlies i'r eglwys am dderbyn y cwrdd ac i'r hybarch Ddr. Wil- liams am ei serchawgrwydd, yr hwn fel y nodwyd sydd yn bwriadu rhoddi gofal bug- eiliol yr eglwys i fyny wedi bod yn y weinidogaoth yn wr o nerth a chadarn o gynghor am o feww i ychydig fisoedd i 50 mlynedd, Mawr hyderwn y cawn ei gadw am flynyddoedd eto i'n harwain a'i gynghor- ion doeth a phrofiadol. Diolchwyd hefyd i'r gwragedd am weini mor serchog wrth y byrddau. Terfynwyd y Gynadledd trwç weddi gan y, Pareh. Hermas Evans. » YB. yr hwyr wedi diarllen a gweddi, caf- Twyd pregeth rymuis a godidog gan y Parch. E. Hermas Evans. C. 13. GRIFFITHS-, isg. Brynyrhaul, Bonymaen.

News
Copy
BETHEL, ABERNANT. Sefydilu y Parch. B. Williams. I, uLl a Llun, lonawr 25ain a'r 2Gain, oedd y dydidiau pa rai yr oedd yr eglwys yn edrych yn mlaen am danynt, ac nid rhyf- edd pan y cofiwn fod 38 o flynyddau oddiar pan y cafwyd cyrddau o'r un natur yn Bethel, set y 9fed a'r lOfed o lonawr, 1876, sef adeg sefydlu y diweddar Barch. J. Mills. Yr ydym wedi bod am bedair blynedd heb fugail daearol, ond amlwg oedd presen- oldeb y Bugail Mawr yn ystod y cyfnod. Bu'r eglwys yn daer wrth yr orsedd yn gofyn i Diduw am ddanfon olynydd teilwng yn ei le, ac erbyn heddyw mae'r oil wedi Parch. B. Williams. ei ateb yn mherson Mr. Williams. Gwasan- aethwyd ni y Sul gan y Parchn. Francis, GwawTi Cynog Williams, Heolyfelin; W. R. Lewis, Cwmaman; nos Lungan y Parch. E. T. Jones, Llanelli. Am ddau o'r gloch prydnawn Llun cynaliwyd cwndd sefydlu Cadeiriwyd gan y Partch. J. Griffiths, Cal- faria, Aberdar. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu ton, ac yna gweddi wyd gan y Parch. Dd. Bassett, Gadlys, Aberdar. Cawsom ar- aeth fer gan y Cadeirydd. Diolchodd i eg- lwys Bethel am roddi iddo yr anrhydedd o fod yn y gadair. Cyn cychwyn ar y rhag- len hyebysodd fod y rhai canlynol wedi danfon llythyrau yn dadgan eu hanallu i fod yn bresenol, a'u bod yn dymuno'n dda, a D;uw yn rhwydd i Mr. W. yn ei faes newydd. S. F. Roberts, Tref orris. J. Roberts, Abertyswg; E. T. Jones, Llanelli; E. Cefni Jones, Hirwaun; Dd. Reels a Hugh Evans, Bangor; Dl. Jones, Lampeter; jW. T. Hughes Cwmtwrch. Y na galwyd ar yr ysgrifenydd, Wm. Marshall, i roddi hanes yr alwad i Mr. W. Dywedodd ei fod wedi cael pleser mawr pan yn gohebu a Mr. Williams. Cafodd argyhoeddiad ei fod yn ddyn gonest, gostyngedig, ac yn ddyn a chanddo galon fawr. Aeth yr ysg. a ni yn ol am dipyn i'r gorphenol. Dywedodd mai yn Sul, Ion. 25ain, 1857, y traddodwyd y bregeth gyntaf yn Abernant gan y diweddar Hybarch, Dr. Price, Aberdar. Dilynwyd gan y brawd John Jones, diacon Bethel. Hysbysodd fod yr alwad yn gynhes ac unfrydol, nid yn unig o'r genau, oncl fod calon yr eglwys tu oefn icldi. Morgan Williams, diacon arall, yn Bethel a ddywedodd, ei fod yn credu fod Mr. W. yn fwy na dyn i'r eghvys, ond ei fod yn ddyn i'r ardal hefyd; fod arddeliad mawr ar ei weinidogaeth eisoes. Mae yma 24 yn aros am fedydd ac amryw yn dyfod yn ol o dir gwrthgiliad. Mae un o honynt wedi bod allan am 37 o fiynyddu. Yna atebwyd yr alwad gan Mr. W. mown modd teilwng ohono ef ei hun. Dywedodd fod ei bresenoldeb ef a'i cleulu yn y cyfarfod yn ddigon o atebiad. Hefyd fe ddywedodd Mr. W. ei fod eisoes wedi gwneyd llawer o ffryndiau er pan yn Abernant, ac wrth hyn gobeithia y ca gadw yr hen yn y Llwyn. Dywedodd hefyd ei fod wedi cael cymer- adwyaeth xichel iawn i Bethel yn y gorph- enol, ac fod ei gyd-frodyr yn y weinidog- aeth yn rhestru Bethel yn un. o eghvysi goreu yr enwad. Hefyd yr oedd am i'r eg- lwys yn Bethel i gofio un peth: nad oedd yn ei fwriad1 i lanw lie Mr. Mills, ond yn unig i lanw lie ei hun. Gofynwyd am fendith ar yr nndeb gan y, Parch. Francis, Gwawr. Siaradwyd hefyd eiriau o groesaw i Mr. a Mrs. Williams, gan Parch. M. Jenkins, Abercwmboi; Mr. T. Edmunds, Mountain Ash, Llywydd yr Undeb; Parch. R. Wil- liams (M.C.), Nazareth; Mri. D.. Meredith, D. Davies, H. Griffiths, D. Nicholas, W. Hughes, a D. Jenkins, Llwynhendy; D. Jones, Abernant; Parchn. J. James, Cwm- bach; W. R. Lewis, Cwmaman; Cynog Wil- liams, Heolyfelin; D. Hopkins, B.A., Tre- cynon; W. A. Jones, Cwmdar; a B. Howells Abercynon. Terfynwyd Ü¡;vy weddi gan Parch. W. R. Jones, Godreaman. Cafwyd pregeth feddylgar ac amserol yn yr hwyr gan y Parch. E. T. Jones, Llanelli i lond capel o bobl.

News
Copy
Y DIWEDDAR OLYGYDD. :1 Dros "Seren Cymru" y daeth cwmwl du-- Pan syrthiodd ei Golygydd medrixs hi, A heddyw, ar ei ol, galara'r wlad- Fel mam ar ol ei phlentyn lioll-us, mad, Ac ni fyn ei chysuro am nad yw Ei bachgen anwyl mwy ar dir y byw. Gwr o athrylitli nertliol ydoedd Diamwys ae amserol oedd ei lef, Pan ai i ddyfnder-gwelid ef yn glir-- Fel gem yn taflu allan oleu pur. 0 gwm dinodedd isel aeth i'r lan- Ar hyd Ilechweddau serth y mynydd ban-- Gan adael ei gyfoedion bron i gyd- Ar ol yn mhell wrth odreu llwyd y byd! Rhoes anfanteision trymion boreu oes- Ysbrydiaeth nerthol ynddo dan bob croes, A phob rhyw wrthwynebiad ddaeth i'w ran-- Ddefnyddiodd ef yn ris i ifyn'd i'r lan. Yr oedd yn weithiwr manwl--caled iawn- 0 foreu oes yn mlaen hyd hwyr brydnawn-- Wrth reol a threfn yr oedd yr oil a wnai- Gorphenol oedd ei waith--braidd yn ddifai. Pregethwr eoeth--arweinydd yn y gad-- Gwleidyddwr craffus--aiddgar dros ei wlad; At anghyfiawnder ac at ormes gaeth-— 0 bryd i bryd gollyngodd lawer saetk; Pob gwrthwynebydd geisiai gilio draw— Yn fuan iawn o'i wydd mewn siom a braw, Hwyi a Mddiflanent oil fel nosawi nudd-- 0. ilaen yr awel wyn,t a haul y dydd. Fe lywiodd ef y "Seren" ar ei l'hawd- Heb geisio gwen, nac ofni sen na gwawd; Yn ddewr a gafai drois a dybiai'n wir- Mor uniawn oedd ei galon ledan, bur; Ond syrthiodd ef, ac, wele gwmwl du Sydd heddyw'n cuddio'i gwyneb llachar hi. A iChymru'n eistedd mewn tywyllwch mawr— Yn mro aühygod angeu y mae'n awr- A ewn wylofus glywir ar bob Ilaw—- Am gipio'r gwron flwrdd gan frenin braw. Disgyned 'nawr ei "fantell fawr o rawn Ar rywun arall o gyffelyb ddawn, j Fel byddo'r Seren yn goleuo'n glir- j Pob cil a chwmwd oddifewn ein tir, A brysio gwawriad boreu hyfryd ddydd— 4 Ceir cyd-raddoldeb cyfiawn Cymru .Fydd.' Cwsg bellach mewn tawelwch, weithiwr mawr, Nes gelwir di i'r lan o bridd y llawr— I wisgo y drag'wyddol goron sydd- Yn acidawedig i holl blant y dydd. Treiettert. L. PHILLIPS.