Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Hide Articles List
14 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
II MR. F. J. WARREN A DDYWED YR HANES. Y mae hanes dynion a fygy- thir gan ddarSodedigaefia9 ac a achubwyd gan SCOTT'S Emulsion, bob amser yn rhyfeddoL Mr F. J. Warren, 31, Ashdown Road, Kings- ton-on-Thames, ysgrifena (1,5/08) Yr oeddwn yn ngalael yr arwyddion cyn- taf o'r DARFODEDIGAETH, ac yn colli enawd yn gy- flym. Actmbodd SCOTT'S Emulsion Ii, a dectireiiais weithio draclieSn yn mben dau lis." Y mae actsosioii o'r lath yma, o ba rai y mae llawer, y prawl goreu posibl o'r gallu eifliriadol sydd yn SCOTT'S. Pa allu na cheir ef mewn "emul- sions ereill o gwbl, a dyma y paSiain y mae gan SCOTTS restr o rai well- bawyd nad oes gan neb ei thebyg. Anfonwoh am betel sampl rliad-ani-aver 30 at y cluiiad a chrybwyll y pajiyr lnvn. Fe dda'.v Ilyfrvn prydferth i'ch pientyn gyda& ef. SCOTT & BOWNiC, Ltd., 10-11 Stonecutter Street, London, E,C. # YR ARWYDD TRWY BA UN Y BYDD. WCH YN DEWIS EICH GWELLHAD. II
TREGARON.
News
Cite
Share
TREGARON. "WeIe yr hin adeg ysgrifenu y nodyn hwn fel pe ar gyfflewid. Bellacli, dymi ddiwrnod heulogr, clos, a Bych, wedi di-oiseddu y diwrnod cawodog. Beth sydd yn cyfrif am hyn ? I bwy y mae y cyfnewidiad i'w briodoli. Neb ilai, ni gredwn, nag Awdwr natur ei bun, er ydyveiir yn mysg lliaws o'n hynafgwyr ac hynaf- wragedd mai y lloer pydd wedi newid, a dywed rhai o honynt yn gywir fel pe bae gan y Brenin Mawr ddimi'w wneyd i'r lieu ad. Onid Hwn ydyw yr un a roddodd orcbymyn i'r haul aros er's llawer dydd. Ie, yr un ydyw. Dyma ni wedi cael cyfnewidiad, ac nis gallwn lai na theimio qin calonan yn llama vnom o lawenydd a di-.)chgqrwch. Er ein byr amynedd a'n grwgnachrwydd behdithir ni à chynhauaf toreithiog eleni etto, ac ni byddwn yn hir cyn ei gaiglti i ddiddosrwydd. 01 na foliannem yr Arglwydd am ei ddaioni i ni.
CROESAW I'R GWIR ANRHYDEDDUS…
News
Cite
Share
CROESAW I'R GWIR ANRHYDEDDUS D LLOYD-GEORGE, A S. Dydd Mercher diweddaf oedd yn ddiwrnod a gofir am tiro yn y dref fechan hon Cyrhaeddcdd v newydd glustiau rhai yma fod y Gwir Anrhydeddus Llovd- George yn bwriadu myned drwy yr orsaf ar ei ffordd i'r G-ynnnadledd Fawr Ryddfrydig a gynnaliwyil yn Aber- tawe Ymgymwerodd rbai 0 wyr blaenaf v He bycban &g edrych a oedd byn yn wirionedd ai peidio; ac wedi anfon brysnegeaan i rai manau sicrbawyd liwy fod y peth yn ffaith. Ehedodd y newydd hwn ar led dros yr boll dref ar ffrwst; ac er nad oedd or.d rhyw awr o amser rhwng yr adeg y daeth y newyèd ana y peth pyntaf a'r adeg yr oedd ef yn pasio heibio i'r orsaf daeth torf enfawr ynghyd. Cauwyd ysgolion y lie am rhyw banner awr er galluogi y rhai a'u mynychent i gael cipolwgavdywysog aelodau seneddol Cymrn. Teiinlai dysgyblion Ysgol y Cynghor fod ganddynt hwy fwy o afael yn Nghang- bellydd y Trysorlys n,t'r ysgoiion eraill, o herwydd ai nid yma y derbyniodd Mr John Rowland (ei ysgrifen- ydd cvfrinachol a ffyddlawn), ei addygg fo,enol, ac onid yma 'v bu yn gwasanaethu fel dysgrbl-athraw am flynyddoedd. Gan fod un mor hoiÍ genym, fel tref, yn dal pertbynas mor agos a'r cawr hwn, nid rhyfedd fod teimlad y lie wedi myned yn nchel, ac fod pob nn yn gwneyd am yr orstf. Ar ddyfodiad y gerbydres i mewn dacw y pedwar cant, oedd wedi ymgynnull yrtghyd, fel pe wedi en trydanu, yn ymnno a'n gilydd i ddyrcbafu i'r awyr floeddiadau byddarol. Nid hir y j bawyd cyn cael ajlan y cerbyd yr ei&teddai ef a'i briod, a'i ferch, a chyda hyn wele ruthr am ddrws y cerbyd, Aeth Dr Lloyd, U R, Llys EiLon, yn mlaen ar ran v trefwyr, a chyflwynodd lddo ycbydig o eiriau 0 groeeaw. Wedi i'r meddyg orphen -,ve!e ef a i banner allan c f Ty y ffenestr yn ein hanerch. Teimlai yn ddi 'lehgar, meddai, fod oynnifer o honom wedi ymgynnull i ddy- muno iddo 'Foren Da' y borei hyfryd hwnw. Gvyddai ein bod o le enwog—He genedigol y diweddar Mr Henry Richard, Apostol Hecidwch—un o'r Cymry gniresocaf a mwyaf teyrngarol a fagodd y genedl enoed. 'Dyma un,' meddai, nad a ei enw byth yn anghof, eithr yn hvtrach dyrchefir tf yn nwch fel yr a cenedlaeth ar of cenedlaeth, ac oes ar ol oes, heibio. Yr oedd, befyd, yn ddyledus i'r He bycban hwn am un i'w ddal Myny yn nghyflawniad gorchwylion trymion ei ddyledswydd. Erbyn hyn wele y tren yn ail gychwyn, a dyna yntau yn gafaelyd yn dyn yn Haw un o'n hen gymmer- ladau anwylaf, Ceinor Davles (Heol y Bont gynt), a adwaenir genym ni fel Ceinor yn nnig Credwn na tiglodd law & neb yn fwy teyrngarol i JSyddfrydiaeth enoed nn Obeinor. 'Teimlai yr hen gymmeriad yn rhy falch i siarad ag ef yn mron. Nid oedd ganddi ddim i'w ddyweyd ond ei fod yn anwyl ganddi, neu yn ei geirian hi, 'O'r un bach, anwl, ma'n dda gen i dy wel'd di,' a rhoddodd iddo eithaf three cheers.' Gobeithio y cawn y fraint o'i weled yma yn fuan etto. AP ASAPH,
Advertising
Advertising
Cite
Share
THE NEW BEEF TEA. In Fluid Ju-Vis (the New Beef Tea-), you get about double value for money as compared with the usual Fluid Beef Extracts. Fluid Ju-Vis is equally nutritious, being prepared solely from Beef, with valuable vegetable additions. It makes delicious rich gravies, or a Cup of Strong Beef Tea for a ¡ penny. Try it. — 6jd. bottles of all grocers.
TREFALDWYN UCHAF.
News
Cite
Share
TREFALDWYN UCHAF. Cynnaliwyd yr uchod yn Aberangell, dydd- iau Ian a Gwener, Medi 24ain a'r 2.5ain, 1908. Llywyddion y Parch. J. T. Jones, B.D. a Mr. Stephen Breese, Garth. De- chreuwyd gan Mr. Richard Jones, Perth- eirin. Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod mlisol diweddaf. Cydnabyddwyd cydyin- deimlad y cyfarfod misol ar ran y Mri. R. George, XI.H.; R. Bennett, T. Breese. Pas- ivvyd i'r cyfarfod niisol nesaf fod yn Carno, dyddiau Ian a Gwener, Hydref 29ain a'r 30ain. Mater y Seiat: Cyflawn ddilyn yr Arghvydd,' Numeri xiv. 24. Cafwyd an- erchiad yn cynnwys awgrymiadau gwerth- fawr gan y Parch. J. T. Jones, B.D., ar ei ymneillduad o'r gadair, a chyflwynodd y gad- air i Mr. Stephen Breese. Diolchwyd i Mr. Jones am ei wasanaeth medrus tra yn y gad- air, ac am ei anerchiad ymadawol. Amlyg- wyd cydymdeimlad a Mr. R. Morris, Wig, Pennant, yr hwn oedd yn bresennol, yn ei alar ar of ei chwaer, a phasiwyd i anfon llythyr at Mr. Richard Davies, Bryndyfi, I Cemmaes, yn ei lesgedd. Gwnaed cofEliad serchog am y diweddar Dr. John Roberts, y cenhadwr—a Mr. John Thomas, Cristion cywir a blaenor ffyddlawn a defnyddiol yn Ninas Mawddwy. Cafwyd adroddiad o ban- es yr achos, a phrofiadaii y swyddogion yn Aberangell, Mallwyd, a Dinas Mawddwy, dan arweiniad Mr. David Brown, Llangurig. Y uTiae yr eglwys yn Aberangell wedi gweithio yn rhagorol er y cyfarfod misol o'r blaen— wedi talu 1,300p. am y capel, ac y mae en dyled yn awr wedi dyfcd i lawr i 300p. Gof- ynwyd d'r eglwys ymgynghori a Phwyllgor y Meddiannau .gyda golwg ar y cwrs doethaf gyda'r Hen Gapel, ac ysgoldy Hendreddu. Pennodwyd brodyr i ystyried llythyr a dder- hyniasid ar fater neillduol oddi wrth frawd o Fachynlleth ac wedi ystyried y mater yn ofalus, deuwyd i'r penderfyniad nad oedd y brawd yn meddu 'claim cyfreithiol na moes- 01 ar yr eglwys na'r cyfarfod misol. Pas- iwyd i roddi 10s. 6c. at dreuliau Cymimanfa Ddirwestol Gwynedd am eleni, a bod ymhol- iad i'w wneyd at y flwyddyn nesaf beth a I wneir fan yr eglwysi at hyn. Hysbyswyd fod Mr. Robert Pugh, Llawr, wedi ei ddewis yn fiaenor yn Penegoes. Derbyniwyd y chwech o flaenoriaid yn aelodau o'r cyfarfod misol; sef, y Mri. J. G. Jenkins, G. Caffrey, ac R. Llewellyn Jones, o eglwys Saesneg Machynlleth. Y Mri. <Thos. Jerman a David Wigly, o Pennant; a Mr. Robert Pugh o Penygroes. Holwyd hwy ar yr ys- grythyrau, gan y. Parch. J. M. D'avies, a rhoddwyd cynghor iddynt gan Mr. D. Bowen, Llandinam. Diolchwyd i'r brodyr hyn am wasanaethvi. Dewiswyd yn swyddogion y cyfarfod misol am y tair blynedd nesaf Ys- grifenvdd, y Parch. D. Davies, Saron; y9- tadeo-ydd, y Parch. J. M. Davies, Park; trysorvdd, Mr. John Mills. Cyflwynwyd y j ystade'gau gan y Parch. D. Davies, a diolch- wyd iddo am ei sylwadan, ac am ei waith fel ystadegydd am y tair blynedd diweddaf. Enwyd Mr. John Edwards, Penegoes, i gyn- nrychioli y cvfarfod misol yn nghymimanfa Ddirwestol "Maldwyn, a gynnelir yn nrychioli y cvfarfod misol yn nghymmanfa Ddirwestol "Maldwyn, a gynnelir yn Ngharno. Pennodwyd y brodyr canlynol yn trustees ar eiddo pertihynol i Maengwyn. Dros yr eglwys-Parch. D. Cunllo Davies, y Mri. D. M. Jones, Richard Rees, David Evtans, D. Morgan, Osborne Morgan, T. Powell. Dros y cyfarfod (tnnsol—l archn. R. W. Jones, J. Williams, Seion; F. J. Davies, Mr. J. Edwards. Rhydygwiail; W. Jones, Goed ddol; E. LI. Evans. Hefyd, rhoddwyd caniatad i eglwys Maengwyn i fen- thyca 250p. ar yr eiddo uchod, ac awdur- dodwyd y personau canlynol i arwyndo v Notes of Hand,' Mr. S. Breese, Parch. J. T. Jones, B.D. R. W. Jones, Mr. Hugh Davies, a Richard Rees. Galwyd sylw at gasgliad yr ysbyttai, ac annogwyd yr egl- wysi i'w wneuthur. Cymmeradwywyd cais capel uchaf ac isaf am 'grant' o'r Gronfa Fenthyciol,' os gwelir. eu bod yn dyfod i fyny I a'r ammodau. Pasiwyd i argraphu y llyfr cylioeddiadau am 1909, fel arfer. Rhodd- odd Mr. Hugh Davies rybudd y bydd yn cyn- nyg yn y cyfarfod misol nesaf Na byddo caniatad i godi arian ar eiddo cyfundebol heb fod y note of hand yn cael ei arwyddo gan swyddogion y cyfarfod misol. Cyf- lvvynwyd adroddiad Pwyllgor y Meddiannau. (a), Bethel Hall: Penderfynwyd fod y cyf- arfod misol yn rhoddi benthyg lOp. aim y tro i ad-dalu cyfran Bethel Street i'r Gronfa Fenthyoiol liyd nes y ceir adroddiad gan Bwyllgor Bethel Hall, a bod dymuniad taer am i'r"pwyllgor hwn ddyfod ag adroddiad yn ddioed. (b), Gweithredoedd Capelau: Fod I y pwyllgor i gyfarfod ynglyn a chyfarfod misol Llanidloes, i edrych trwy gyTnnwys cist gweithredoedd capelau, ac i roddi ad- roddiad i'r eyfarfod misol unwaith bob blwyddyn. Hefyd, fod y Parch. T. M. Pierce, a Mr. J. Mills, a'r ysgrifenydd i gyf- arfod yn mlaen llaw i barotoi y rhestr. Go- hiriwyd adroddiad o gymdeithasfa Caernar- fon hyd y cyfarfod misol nesaf. Mater y Seiat, Hawhau Crist ar ei bobl.' Pregeth- wyd gan y Parchn. D. Cunllo Davies, J. T. Jones, B.D. Elias Jones, J. Williams, Carno; a John Evans, Llanfair.
SIR GAERFYRDDIN.
News
Cite
Share
SIR GAERFYRDDIN. Cynnaliwyd hwn yn Llansadwrn, Medi 22ain. Cadeirydd, y Parch. Evan Wil- liams, Llanddeusant. Oadarnhawyd cofnod- ion y' cyfarfod misol diweddaf. Darllenwyd llytjiyrau yn cydnabod cydymdeimlad y cyf- arfod misol. Gohiriwyd darllen llythyr i Mr. Gwilym Arthur Edwards, Caerfyrddin, hyd nes y byddo yn bresennol. Dewiswyd pwyllgor i gymmeryd i ystyriaeth y llythyr a dderbyniwyd oddi wrth y Prifathraw prvs—y Parch. W. M. Davies, Hendre, yn gynnullydd. Cadarnhawyd dewisiad Mr. Daniel Jones, Penuwch, i fod yn fugail ar eglwysi Rhydcymmerau, a Llansawel. Cad- arnhawyd penderfyniadau y dosbarthiadau. Y genadwri o ddosbarth Llangudock i fod ar rhaglen y cyfarfod misol nesaf. Pennod- wyd y Parch. Isaac Davies, Nantcaredi" a Mr. Harris, Penllwynau, i fyned i Llanfyn- ydd i ddewis blaenoriaid. Enwyd personau i fyned at berchenog glofa'r Emlyn mewn perthynas i'r arian a addawyd i eglwys Pen- y-groes. Pennodwyd y Parch. John Oliver a Mr. William James, Pontardulais, i fyned i ymddiddan ag ymgeisydd am y weinidog- aeth yn eglwys Bethany, Ammanford. Rhoddwyd caniatad i ymgeisydd yn Capel Newydd, Llanelli, i fyned trwy y dosbarth ar brawf, Mr. William Jones, Siloh, i'w drefnu. Arv/yddwyd appwyntiad ymddiriedolwyr ar y capelau canlj'nol gan y cadeirydd; sef, Rhydargauau, Llarnpuimsaint, a'r College. Penderfynwyd fod yr ysgrifenydd i anfon at I argraphydd adroddiad y Forward Move- ment i geisio ganddo i wneyd i fyny sypyn- au i'r eglwysi, cyn eu danfon i'r brodyr sydd yn gofalu am vr aohos yn y sir. Dewiswyd Mr. D. R. Williams, Southfield, Llanelli, i fod yn drvsorydd casigliad y Drysorfa Fen- thyciol yn lie Mr. William Eynon, yr hwn sydd wedi ymddiswyddo o herwydd ystad ei iechyd. PellderfYllwyd .fod v llythyr a dder- byniwyd oddi wrth ysgrifenydd y Genhad- aeth Dramor i gael ystyriaeth (pwyllgor sirol y Genhadaeth. Mewn perthynas i Hanes Methodistiaeth yn y sir,' penderfyn- wyd fod y Parch. D. iceler Owen i anfon at yr eglwysi i geisio ganddyiit i wneyd yr hyn sydd yn angenrheidiol yn ddioed. Pen- derfynwyd fod y rheolau sefydlog' newydd i gael eu hargraphu, ac i gael sylw yn nghyf- arfod misol Rbagfyr. Dewiswyd yn Ilywydd- ion y cyfarfod misol am v flwyddyn nesaf, y Parch. Samuel Evans, Cwmdwyfran a Mr. Phillip Parkins, Cefnbyrach. Derbyniwyd y Mri. David Griffith a David Thotmas, dau o flaenoriaid Eglwys Llansadwrn, yn aelodau o'r cyfarfod misol. Cafwyd hanes yr achos yn y dosbarth gan y Parch. Benjamin Mor- ris, ac hanes yr achos yn y lie gan y Parch. R. Salmon, yr hwn sydd yn iugail ar yr eglwys ynghyd ac eglwys Llangadock, er's deunaw mlynedd ar hugain. Cafvvyd gair o brofiad gan dri o flaenoriaid yr eglwys; sef, y Mri. Thomas Morgan, yr hwn sydd, bell- ach, yn bedwar ugain a naw oed; Rees Jones, a Rees Lewis. Trefnwyd i'r cyfarfod misol nesaf gael ei gynnal yn Llanddarog, Hydref 20fed, y cyfarfod cyntaf i ddechreu am un o'r gloch. Bydd cerbydau yn cyfar- fod v dyeithriaid yn station Nantcaredig, tua deuddeg o'r gloch. Gwnaed sylwadau coffadwriaethol am y diweddar y Mri. John Davies, Bancylau John Jones, Plasnewydd a John Davies, Aberllechach. Penderfy-n- wyd fod Ilythyr o gydymdeimlad i'w anfon i'r Parch. Evan Phillips, Castellnewydd, yn ei brofedigaetih. Trefnwyd fod cyfarfod gweddi o ddiolchgarwch i'w gynnal, yr adeg i'w benderfynu gan yr eglwysi. Pregethwyd gan y Parch. D. E. Thomas, Tumble; R. R. Davies, Joseph Lewis, a W. M. Davies.
CYFARFOD CHWARTEROL MALDWYN.
News
Cite
Share
CYFARFOD CHWARTEROL MALDWYN. Cynnaliwyd hwn yn Penarth, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Medi 22ain a'r 23ain. Nos Fawrth, am saith o'r gloch, pregethwyd yn Penarth gan y Parch J 0 Jones, Llvs Einion, Glandvfi. Dechreuwyd yr odfa gan y Parch S Roberts, Llanbryn- mair. Yr un adeg pregethwyd yn Cana gan y Parch E Wnion Evans; yn Jerusalem, gany Parchn T B Evan?, Carno, a G Griffith, Drefnewydd; yn Llanfair, gan y parchn W Thomas, Aberhosan, a W Roberts, Llan- idloes; ac yn Siloh, gan y Parchn R J Mason, Llansilin, a W L Evans, Penybont fawr. Am naw o'r gloch boren ddydd Mercher cynnal- iwyd Y GYNNADLEDD., o dan lywyddiaeth y Parch T Williams, Foel (y cadeir- ydd am y flwvddyti). Heb law y cadeirydd yr oedd yn bresennol y Parchtl T Wynn Williams (y gweinidog); W L Evans, Penybont fawr; G Griffith, Drefnewydd; S Roberts, Llanbrynmair; William Roberts, Llanidloes; E Wnion Evans, Terwenlas; W Thomas, Aberhosan; R R J Mason, Llansilin; T B Evans, Carno; Rhys Jones, Hanidloes; R C Evans, Samah; Ifor Griffiths, Llanfair; D Morgan; Trallwm; Dan Aubrey, Pontrobert; J Parry, Bwlchyffridd; J E Thomas, Meifod; a J C Jones, Llys Einion; a'r Vri J Jones, Pantglas; Tom Jervis, Dolgead Hall; D Thomas (Llwydiarth M'n); R Pugh, Llanfair; P Davies, Penlan; A Humphreys, Ty'nycelyn; Davies, Penygarnedd; J M Jones, Ruthiawen; M Williams, Pant; J P Jones, Glog; Davies, Llwyngwyn; E Jones, Bryn mawr; Evans, Yewtree, &c. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch Rhys Jones, Llanidloes; ac wedi darllen a chadarnhau cofnodion y gymmanfa yn Hermon, Croesoswallt, a darllen y gohebiaethall- 1. Penderfynwyd i'r Cyfarfod Ohwarterol nesaf fod yn LI midloes. 2. Fod y Parch Josiah Jones, Machynlleth, ibregethu ar fater a. roddir iddo gan yr eglwys yn Llanidloes, a'r Parch T B Evans i bregethu ar GynawnMd trwy Eydd. 3. Ein bod yn cymmeradwyo y cynllun o gynnal y cvfarfodydd cenhadol arbenig yn y gwabanol ddos- barthiadau. 4. Fod treuliau y Parch Ifor Griffiths ynglyn a phwyllgor yr Ysgol Sabbothol i gael eu talu o arian y Caniedydd.' 5. Fod y Parch R J Mason, Llansilin, i gynnrychioli y cyfundeb yn Nghymtnanfa Ddirwestol Gwynedd gyda'r Parch R D Jones, Llanrhaiadr. 6. Fod y Parchn R C Evans, Samah, ac H Parry, Bwlchyffridd, i gynnrychioli y cyfundeb yn Nghymmanfa Ddirwestol Maldwyn, a gynnelir yn Carno. 7. Ein bol yn cymmeradwyo cais. eglwys Horeb, Aberangell, am rodd o drysorfa y Gronfa at ddi-ddyledu eu capel fel un gwir deilwng o gefnogaeth. 8. Ein bod yn cyflwyrio y cylchlythyr dirwestol i bwyllgor dirwestol y cyfundeb. 9. Fod yr ysgrifenydd i anfon llythyr at Mrs Roberts, Penrhos, a Mrs Dav'es, Pant, yn dadgan cydymdeiiidad y gynnadledd a hwy a'u teuluoedd yn eu profedigaeth lem a'u galar, ac a'r eglwys yn Penycoed yn ngwyneb colli dau swyddog mor rhagorol trwy oruchwyliaetb angeu. Terfynwyd y gynnadledd trwy weddi gan y cad- eirydd. Y MODDION Cthoeddus. Pregetbwyd am ddau o'r gloch gan y Parcbn H Parry, Bwlchyffridd (yn Saesneg), ac R C Evans, Samah, ar y pwngc, 'Elfenau hanfodol ysbrydoliaeth y Beibl.' Am hanner aNI wedichwech pregethwyd gan y Parcbn Dan Aubrey, Pontrobert, ac S R berts, Llanbrynmair, ar y pwngc a roddwydgan yr eglwys yn Penarth, 'Elfenau hanfodol y gwir Gristion.' Dechreuwyd y gwahanol odfenon gan y Parchn S Roberts, Llanbrynmair; W Roberts, Llanidloes; ac R J Mason, Llansilvn. Cafwyd cyfarfod rhagorol; gwnaeth swyddogion yr hen eglwys barchus yn Penarth, a'i gweinidog gweith- gar (y Parch T Wynn Williams), bob peth yn eu gallu i wneyd y cyfarfod yn llwyddiant. Da genym fod golwg mor lewyrchus ar yr achos o dan weinidogaeth rymus ein hanwyl frawd, a'r capel wedi ei adnewyddu mor ddymunol a phrydferth. Deallwn fod y ddwy eglwys arall, Jerusalem a Chanaan, yn gwisgo gweddyr un mor lewyrchus. J. 0. JONES, Ysgrifenydd.
EU GWELLHAD UYFLAWN.
News
Cite
Share
EU GWELLHAD UYFLAWN. YN RHAD TRWY Y LLYTHYRDY I DDIODDEF- WYR A WNANT GAIa DIOED. Newydd ei gyhoeddi, yr ail argraphiad o lyfr 48 tudalen, yn disgrifio yn llawn y Dyfer- wst Ffroenawl, Asthma, a Bronchiti* Hirbar- haol, a pha fodd y gellir gwella yr afiechydon hyn yn gyflawn gartref. Y gwaith mwyaf ymarferol a gyhoeddwyd erioed, a'r hwn a ddylai fod yn llaw dioddefwyr sydd yn; awyddus am wella eu hunain yn fuan. Y mae y cynnyg hwn yn dal am 30 o ddyddiau o'r dyddiad hwn. Bydd i host-card yn rhoddi eich enw a'ch cyfeiriad ddwyn y llyfr i chwi gyda throad y-post. Cyfeirier Dept. 43., Dr. Cassell's Co., Ltd., King Street, West, Man- ( chester. t
Advertising
Advertising
Cite
Share
-1111_891_8" | A | °RE" j 18' WIVL CO., I FUR MANUFACTUP.ERS AND SKIN MERCHANTS, HAVE I ■ THE LARGEST AND MOST HIGHLY EQUIPPED DEPART- ■¥ I MENTS FOR SEALSKIN AND FUR ALTERATIONS AND 8 REPAIRS JN THE PROVINCES. THEY GIVE TRUST I WORTHY ADVICE UPON ALL FUR WORK. THEIR i«§ ■ CHARGES FOR SKILLED WORKMANSHIP ARE MOST H m MODERATE. ESTIMATES ALWAYS FURNISHED. NEW- P 1 EST MODELS ON VIEW.. i j 56, Bold Street, Liverpool, j ■ ■ ■ ■
- CYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG…
News
Cite
Share
CYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG LLANELWY (FFLINT). Dydd Gwener cynnaliwyd cyfarfod misol y cynghor hwn. Cymmerwyd y gadair gan Mr. W. Morris, y cadeirydd. Y mater cyntaf gymmerwyd o dan ystyr- iaeth ydoedd adroddiad Dr. Fletcher, arol- ygydd Bwrdd y Llywodraeth Leol. Darllenwyd llythyr oddi wrth Fwrdd y Llywodraeth Leol, yn gofyn am gael eu hys- bysu pa gam a fwriedid ei gymfmeryd er cario allan yr argymmhelliadau cynnwys- edig yn yr adroddiad hwnw. Ar gynnygiad Mr. LI. B. Evans, yn cael ei gefnogi gan Mr. W. S. Roberts, pender- fynwyd cynnal cyfarfod arbenig y dydd Gwener canlynol, er myned i mewn yn llawn i'r mater. Penderfynwyd caniatau cais Cwmni y Petroleum Prydeinig i adnewyddu eu trwydded i 1 ystorio petrol am dal o 5s. Gyda golwg ar lythyr dderbyniwyd oddi wrth Gynghor Sirol sir Fflint, o berthynas i'r angen am fynegbost ar y ffordcl rhwng Grange Road a Pendyffryn Road, Rhyl, pen- derfynwyd gofyn i'r Cynghor Sirol dalu hanner y gost o osod y cyfryw fynegbost i fyny. Cafwyd trafodaeth faith ar y cwestiwn o ledu ffordd Rhuddlan a Bodelwyddan, yn agos i Pengwern Lodge. Yr oedd y cynghor, mewn cyfarfod blaenorol, wedi penderfynu cario y gwaith allan, a'r cwestiwn oedd yn aros ydoedd y gost. Bglurwyd fod yr aimr cangyfrif o'r gost yn 255p. Tybiai arolyg- ydd y Cynghor Sirol, modd by nag, y gellid gwneyd y gwaith am 180p., ac yr oedd Cy- nghor Sirol sir Fflint wedi amlygu ei fwriad i gyfranu lOOp. at hyny. Cynnygiodd Mr. Lothian fod y planiau yn cael eu cymmeradwyo, a'r gwaith yn cael ei gario allan mor raa ag oedd yn bossibl. Cefnogodd Mr. Bell y penderfyniad. Wedi rhyw gymmaint o siarad, pasiwyd penderfyniad Mr. Lothian, ac i hystbysiad gael ei rodtfi am gynnygion i gario y gwaith allan. Cyflwynwyd plan iau o dai newydd fwried- id eu hadeiladu yn Election Row, Rhuddlan, gan Mrs. R. Owen. Yr oeddynt yn unol a'r Cyfreithiau Lleol, a chawsant eu pasio.
Y LLANW MAWR DIRWESTOL.
News
Cite
Share
Y LLANW MAWR DIRWESTOL. GAN Y PARCH. J. GWYNFRYN EVANS. Dyddorol iawn ydyw sylwi ar y diwygiad dirwestol sydd yn ysgubo, fel y nawfed don, dros y Takethau Deheuol a thrwy Ohio, Illinois, a'r cylchoedd. Yn Illinois yn unig, fel ffrwyth yr etholiad, cauwyd un fil ar ddeg o saloons. Mae North Carolina o d'an ddeddf Gwaharddiad trwy fwyafrif o dair mil a deugain. Yn wir y mae y Solid South' ar flaen y rhes, ac fel Benjamin a Judah yn arwain miloedd Israel. Y mae Ohio wedi pasio deddf yn caniatau y Dewis- iad Lleol i bob sir yn y Dalaeth. Mae can- noedd' o'r tafarndai wedi cau yn barod, a disgwylir buddugoliaeth ar fuddugoliaeth yn yr hydref agoshaol. Mae y wlad yn nghanol un o'r cyffroadau moeisol mwyaf a welwyd er's blynyddau. Gellir yn briodol ei o.1w yn ddiwygiad cym- deithasol. Mae cymdeirthas yn deffro ac yn chwilio am ffordd uniondeb. Cyfiawnder cymdeithasol yw y peth yr ymdrechir am dano. Dyna welir ar fanerau gwladgarwyr fel Hughes, Henley, a Koch. Dyna arwydd- air meibion llafur yn eu hundebau a'u cyf- rinfaoedd..Dyna yw meddwl y Square Deal' a'r frwydr yn erbyn y clymbleidiau nerthol a dienaid, sydd yn drygu y wlad. Mae yr ymgyrch yn erbyn y fasnach feddr wol yn rhan o symmudiad mwy, fel ag y mae cyffro y Werydd yn fwy na'r tonau sydd ar ei wyneb. Clywais ex-Gov. Northen, Georg- ia, yn dyweyd yn ddiweddar fod y llan.w dirwestol yn y De yn codi o'r eglwysi. Crefydd ydvw ffynnonell y diwygiadi yn y De, ebe y gwr enwog. Dyddorol yw edrych yn ol am chwarter canrif oddi ar y safbwynt bresennol i weled y cynnydd sydd yn nodweddu yr achos dir- westol. Yr wyf yn cofio dechreuad mudliad y rhuban coch, o dan lywyddiaeth Daniels yn Bangor, Maine, Talaeth waharddol. Cofiwyf y symmudiad rhyfedd a phoblogaidd o dan arweiniad Murphy. Ardystiodd mil- oedd odan Murphy. Yr oeddwn yn nghanol y cyffro yn ninas Pittsburg. Cofiwyi yn dcia am Frances Willard a, C'hymdeithas y Merched a'r Gwragedd a elwir W.C.I.U., gychwynwyd ganddi hi, ac a fu y fath nerth yn ei dydd hi, ac hefyd sydd yn parhau i i wneuthur gwrhydri yn y maes dirwestol. Trwy ymdrech y gwragedd hvny dysgwyd gwirioneddau am y diodydd meddwol yn yr ysgolion cyhoeddus sydd wedi bod yn nerth a. grymusder i'r geinedlaeth sydd yn awr yn codi. Bum yn gefnogyddi gwresog i'r blaid Waharddol o'i chychwyniad, am y credwn ei bod yn allu mawr i ladd y cawr a wrthwyn- ebai fyddinedd y Duw byw. Y mae genyf feddwl uchel o symmudiad yr Anti Saloon. Dyma yr offerynoliaeth sydd wedi gwneuthur pethau mawrion yn Illinois, Ohio, ac Oklahoma. -Amser cyn hauaf ydyw hi yn awr, y tadau a'r mamau a lafuriasant, a ninnrau a aethom i mewn i'w Ilafur hwynt. Nid adeg i hepian ydyw. Mae y meusydd yn wynion i'r cynhauaf. Mae y ffermwyr yn dyfod at eu gilydd tua deg ar hugain neu ddeugain mewn nifer, yn amser dyr.nu gwenith a clieirch i helpu eu gilydd. Mae galw am gymmhorth gydag achos dirwest. Mae mwy na dwy ran; o dair o sir Putnam, Ohio, yn sych, heb yr un 'saloon;' ond mae trefydd fel Ottawa a Kaleida, &c., yn lle- oedd dros i'r hudoles. Bydd yn amser dyrnu yn fuan, a gelwir am help. Gwnaed! pob dvn ei oreu dros ei wiad, ei Dduw, a'i deulu. Yr ydym yn dra diolchgar am yr hyn a wnaed yn y mynedol; ond mae tir lawer etto heb ei feddiannu yn Ohio a Pennsylvania, a thal- aethau eraill ein gwlad. I'r gad, gyfeillion! Drylliwn eu rhwymau, a thaflwn eu rheffynau oddi wrthym.
MARWOLAETH HUGH PUCH.
News
Cite
Share
MARWOLAETH HUGH PUCH. New York, Medi 5.—Yn y 'Drych' yr wythnos ddiweddaf cofnodwyd fod Hugh Pugh, sexton eglwys 11th St., yn bur wael, ond nid yn orweddog. Yr oedd y brawd yn orweddog ar y pryd, ac y mae yn ddrwg iawn genyf hysbysu ei fod erbyn hyn wedi ymadael a'r fuchedd hon. Bu farw nos Fawrth, Medi laf, yn sydyn iawn, o anhwyldeb yr afu. Cynnaliwyd gwasanaeth angladdol yn maelfa (store), angladdau Stephen Merrit, 8th Ave., a 79th St., nos Iau y 3ydd. Daeth lliaws mawr o'i hen gyfeillion yno ar rybudd mor fyr, y Parch. W. R. Edwards (A.), Scranton, yn gweinyddu yn darawiadol iawn. Canwyd y don Aberystwyth' ar eiriau Saesnig, a Bydd myrdd o ryfeddodau.' Brodor o Machynlleth oedd Hugh Pugh, 42ain mlwydd oed. Daeth i'r wlad hon 21ain mlynedd yn ol. Teiiliwr ydoedd wrth ei alw- edigaeth, a bu yn gweithio hefo Rogers, Peet a'i Gyf., am rai blynyddoedd. Gwasanaeth- odd fel sexton eglwys llth street am naw mlynedd, a bydd chwitndod mawr ar ei ol, o herwydd ei fod bob amser mor radlawn ac mor ewyllysgar gyda phawb tua'r capel, yn enwedig; tuag at ddyeitihriaid. Claddwyd boreu dydd Gwener yn mynwent Kensico. Gadawodd briod a phedwar o blant bychain i alaru ar ei ol. Cyfaill yr amddifaid a fyddo yn dirion wrthynt yn eu galar mawr.—John Evans. W. P. Edwards a ysgrifena am yr ymadaw- edig:—' Edrychem ar Mr. Pughfel dyn chwennychai ddyddanu ei gyd-ddynion. Yr oedd yn Ilawn o chwareu a chwerthin diniwed, a bu'n iechyd i'n calonau droion ei glywed yn adrodd ystoriau am Gymry noded- ig oedd yn adnabyddus ikldo. Yr oedd yn Annibynwr i'r earn. Meddai farn bendant ar byngciau y dydd, a llywodraeth eglwysig. Llawer dveithrddyn ddaeth i 11th St., yn W teimlo'n ddigon unig a digalon, ag a wnaed yn llawen gan ei ysgydwad Haw egniol a'i wenau croeawus. Dawnsiai caredigrwydd yn ei lygaid. Cymro ydoedd yn caru hanes a helyntion yr Hell Wlad, yn enwedig sir Feirionydd.
II SARIIHE' BLOOD MIXTURE.
News
Cite
Share
II SARIIHE' BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.—Dyna yr hyn y mae y Sarzine Blood Mixture' yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fol yr 'Yankee Patent Medicines;' ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurvy, doluriau, penddynod, &c., yn tarddu o waed drwg ac ammhur mynweh botelaid o Sar- zine Blood Mixture" gan. y Druggist nesaf atoch, im a 2/9 y botel, neu gyda 3c., at y cludiad yn chwanegol, oddi wrth y Perchen- og— HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. 3382k.
[No title]
News
Cite
Share
Ymwelodd Mrs. Lloyd-George ag Ysgol y genethod yn Nghaernarfon y dydd o'r blaen. Annogai hwy i beidio byth a chywilyddio o'r iaith Gymraeg.