Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Hide Articles List
11 articles on this Page
GWYTHERIN.
News
Cite
Share
GWYTHERIN. FONEDDIGION, Darllenais gyda mesur o ddyddordeb y llithoedd sydd wedi ymddangos yn ngholofnau eich BANER parthed y plwyf tawel hwn. Gallem feddwl oddi wrth ebychiadau yr ysgriblwyr bondigrybwyll hyn eu bod yn ystyried eu hunain fel Saul, mab Cis, yn uwch o u hysgwyddau i fyny na'r rhelyw o honom. Ond druain o honynt! Beth ydyw b*rn y liiaws am danynt, tybed ? Ceir un o'r plym- blaid hon wedi ysgrifenu math o folawd i Die y Mynydd' a Murmur yr Awe! o dan gochl y ifug-enw clasnrol 'Llwyd y Mynydd.' Rhyfedd na buasai gwr cyn grafted ei amgyffreaion, eanged ei feddyliau, ac mor goeth a chlasurol ei frawdd- egau, yn dealt nad ydyw I Die y Mynydd' a Murmur yr Awel' amgen na dau ff&g-enw ar un dynyn o r Lian yma. Gyda 11aw, Mri Gol., nid yn y mynydd a'r capel y mae yr annhrefn yn y piwyf. Nid ydyw blaenoriaid y capel a bogeiliaid y mynydd \n cvfreituio ac yn pwdu, suro a sori, wrth bawb a phobpeth. Na choeliai fawr. Teg a ni, fel plwyfolion, ydyw gwneyd yn bysbys nad oedd y rhai a fu yn cweryla yn frodorion o'r lie hwn. Tro gwael iawn oedd i ua o hanom-un wedi derbyn llawer o garedigrwydd oddi ar ein llaw o dro i dro—ymostwng i godi yr hanes prudd hwn, a'i osod ar ddalenau newyddiadur a'r fath gylchrediad iddo a'r FANER. Cwyna ef yn dost o herwydd y cam-ddefnydd a wnaed o'r Ysgol Sabbothol i'bwnio ac i banu' 'Murmur yr Awel.' Y mae eisieu ail ddysgu j bregeth ar y myn- ydd yn Gwytherin. Ydwyf, &c, LLAFURWR O'R LLAX. [Ba raid i ni dynu rhai pethau allan o'r llythyr hwn. Dealler fod ensyniadau bryntion am bersonau yn athrodus.—GOL.].
[No title]
News
Cite
Share
Foneddigion, Y mae y cyfaill Dewi Tudur wedi syrth- io i amryfusedd cadarn; sef, tybio fod galw enwau drwg ar ei wrthwynebwyr vr un peth ag atteb eu gosodiadau. Tydi enwau drwg a rhesymu ddim yn gyfystyr--cofia hyn yn y dyfodol, Dewi bach. Dyma i chi list' o enwau clasurol Dewi am Dick a minnau: 1 Oracl anffaeledig,' I tandid:iear- olion,' tylwyth teg,' unwariaid,' 'rhyfyg- us o ddigywilydd,' 'cenhadon daearol a chnawdol,' 'Siamese twins,' 'foreigner,' efeilliaia .anffaeledig,' deillion rhagfarn- Ilyd.) Ac yn yr un gwynt dywed Wele rai riiwy na hyd yn oed blaenoriaid Gwytherin!' Dyna i chwi 'insult!' Dyna i chwi ergyd llaw chwith farwol! Dawn i yn lie y blaen- oriaid, mae arna i ofn y buaswn i yn rhoddi cyfraith arno am athrod fel hyn! Ond, 'rhosweh! Y funyd nesaf y mae yn eu cyd- nalJod fel ei gyfeillion, ac yn rhoddi llythyr cymmeradwyaeth iddynt—yn eu codi o'r llwch, ac yn eu gosod gyda phendefigion y bobl. Fel cyfeillion Dewi, a pherchenogion llythyr cymmeradwyaeth oddi wrtho ef, cant fynediad helaeth i bob cymdeithas ac ystafell yn y nefoedd uchod, ac yn y ddaear isod! Ac ni svnwn i ddim na fyddai rhai o'r blaenoriaid bylchog (nid 'cylchog,' Dewi bach) a cha,n newydd o foliant yn eu genau y Sul nesaf fel hyn "Dai 'mofyn haeddiant byth na nerth Gan neb mewn gwlad na thre'! Mäe'r ffordd yn glir, trwy Dewi Fawr, Bob cam i ganol ne' Be fase yr hen flaenoriaid yn feddwl o gael eu patio ar eu penau fel hyn fel cw:11. bach heb agor eu llygaid? Mi rydw i yn credu y base yr hen wron o Dy'r Capel yn dy- weyd wrth Dewi yn debyg i hyn:— Oernadwr yr erch nodau—dos ymaith Tu hwnt i'n gororau, A dilyn dy bedolau Gyda cheg wedi ei chan.' Gwaith ;anhawdd ydyw deall Ilith Dewi, o blegid y mae yn lkwn o wrth-ddywediad- au. Dyma i chi enghraifft neu ddwy. Dy- wed Dewi fod Die y Mynydd yn oracl an- ffaeledig; ac felly mae'n debyg, yn holl- wvbodol. Hona Dewi, er hyny, ei fod yn aduabod ardal Gwytheriin a'i phobl yn llawer gwell na Die, yr oracl hollwybcdol, anffael- ed'ig! Ac etto, fel y Pharisead gynt, diolcha nad ydyw efe fel dynion eraill, yn dueddol i addoli ei hunan! Pwy a ddeall ei gam- weddau? Glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig.' Dewi bach, coelia fi, mae Die wedi anghofio ganwaith fwy am Gwytherin nag a ddysgaist ti erioed. Unwaith etto. Chlywodd Dewi erioed am liaws o'r pethau ag y darfu i Die a minnau gyfeirio atynt.; ac felly, wrth gwrs, 'does dim yn bossibl eu bod hwy wedi bodoli erioedl. Y mae pob- peth tu allan i diriogaeth gwybodaeth a chlywedigaeth Dewi tu allan i diriogaeth gwybodaeth hefyd! Cofiwch, gydardalwyrj o hyn allan, mai dau sy'n gwybod pobpeth; sef, yr Aufeidrol a—Dewi Tudur. Dyma yr efengyl newydd, yn ol yr Efengylwr St. Dewi. Haera Dewi fod y cyfeiriad at yr hannos yn chwerthinllyd i'r eithaf,' ond ar yr un pryd dywed fod dwy,n y pethau hyn ar g'oedd gwlad yn creu mwy o elyniiaeth mewin, byd ac eglwys na dim ag y gallaf feddwl am dano.' Felly, yn wir! Y sylwedd yn chwerthinllyd, ond! dwyn y isylwedd ar g'oedd gwlad yn enbyd o niweidiol! Wel, dyma i chwi resymeg teilwng o ddyn wedi ei groesi a ithwrch daear neu lyffant! Y sylwedd yn ddim: y swn yn ddinystriol. Dydw i ddim yn meddwl, gyfaill hoff, dy fod di yn credu athrawiaeth fel hon—os wyt, mtae arna i ofn fod yna flacking yn dy be-a a dy galon di; ac mi fyddai yn well gen i fod yn 'twin' i'r 'Siamese' nag yn 'twin i Dewi Tudur.' Gair yn garedig wrth derfynu. Nid eth i chwerthin am ei ben, Dewi bach, yw yr hanes yma ar anfadwaith a'r drwg-deimlad sydd yn ei ddilyn. Agor cil y drws yn unig rldaru Dick ia. minnau—mi fedrwn i dynu darlun fyddai 'Yn ddrych o drisiweh i edrych drosto.' Y mae amgylchiadau y mynydd yma wedi bod arhydl y blynyddoedd yn wreiddyn chwerwedd a drwgdeimlad, nid yn unig yn mhlith y gwrandawyr a'r aelod'au, ond hefyd yn mhlith y blaenoriaid. Maes diamnedig- aeth fyddai y diweddar pell-weledydd Edwin ddall yn ei alw. Rwyt ti, Dewi hach, yn methu deall beth sydd a wnelo'r capel kg, annos defaid. Gofyn y cwestiwn fel arall, ac fe weli yr attebiadi ar unwiaith. Bhaid cymmodi cyn offrymu y rhodd ar yr allor—ammhossibl cyd-addoli yn y capel tra y'llecha yn y galon elyniaeth a drwg-deiml- ad a genhedlwyd ar y mynydd. Fel y dy- wed Dick, rhaid cael achau o r gymdeithas cyn ceir llwyddiant. Y mae rhyw bechodau nas gellir eu rhesymu allan o'r, byd-fel dy lith dithau, Dewi. Nid ydynt yn ddaros- tvngedig i ddeddfau rhesymeg. Yr unig ffordd i roddi terfyn a.r,nynt ydyw eu dad- lenu a'u gwawdio. Pelydrau haul cyhoedd-, usrwydd yn unig alvi-difa. Mae fy llith yn llawer rhy faith eisoes; ond rhaid chwanegu un gair etto, Mi rydw 1 i yn 'nabod Gwytherin lawer blwyddyn cyn dy eni di, Dewi bach; ac wedi dymunol Ilwyddiant yr ardal yn mhell cyn i ti agor dy lygaid ar y byd yma. Mi rydw i yn gwybod am lafurus gariad un, beth bynag, o'r swyddogion am o ddeutu hanner canrif, ac am y gwaith tardderchog a gyflawnodd efe a'i frawd athrylithgar, o fendigedig goffad- wriaeth. Mawr iawn. ydyw dyled yr ardal iddynt. Mi roeddwn i yn hen gyfaill i dad dau o'r blaenoriaid preseiinol, ae i daid y llall; ac mi rydw i yn sicr fy mod i yil teimlo cymmaint o barch i'w coffadwriaeth a neb pwy bynag. Mae dynion ardderchog wedi codi yn yr ardal, ac y mae yma ddyn- ion vardderchog etto ond y mae yn naturiol i mi, fel henafgwr, dybio fod yr hen yn well na'r ieuangc. Dydi gwyr y wasg ddim wedi d'weyd wrtha i pwy ydi Dick y Mynydd,' ond mi rydw yn camgymmeryd yn ofnadwy os nad ydi o yn teimlo at Gwytherim yn union yr un fath a finna. Cas y pvr nas caro'r wlad a'i macco.' Faswn i byth yn ei aibtegu oni bae fy mod i yn credu felly. Mi 'roeddwn i yen 'nabod taid a thad Dcwi- dynion campus oeddynt yn mhob modd, ac mi rydw i yn credu fod yna gyffelyb 'stwff yn Dewi hefyd. Gobeithio na wnaiff o yn y dyfodol ddim ysgrifenu truth mor annheil- wng o hono ei hunan. Ydwyf, &c., Murmur yr Awel. [Digon ar hyn, bcllach.—Gol.].
RHOSLLANERCflRUGOG A'R CYLCHOEDD.
News
Cite
Share
RHOSLLANERCflRUGOG A'R CYLCHOEDD. TRIGOLION Y RHOS A'R NWY. Nos Lun diweddaf cynnaliwyd cyfarfod cy- hoeddus, dan nawdd y Cynghor Plwyfol, yn y Neuadd Gyhoeddus, Rhos, i drafod pris uchel y nwy, a beth ellid wneyd tuag at ostyngiad. Llywyddwyd gan Mr. W. M. Jones, cad- eirydd y Cynghor Plwyfol, yr hwn a ddy- wedodd fod y cyfarfod) hwn yn ganlyniad trafodaeth y pwngc hwn gan y Cynghor Plwyfol, beth amser yn ol. Teimlad y cy- hoedd ydoedd y dylid galw cyfarfod o Insg- wyr y nwy i drafod y mater. Nid dyma y tro cyntaf y codwyd y cwestiwn i fyny, na'r tro cyntaf yr ymyrwyd a Chwmni y Nwy. Ond, gyda phob cwyn wneid, byddai y cwm- ni yn llechu tu ol i'r esgusawd, 'pan y clnvanegid nifer y llosgwyr y gestyngid y pris.' Siaradwyd lar y mater gan y rhai canlyn- ol —Mri. Tom Roberts, Richard! Jarvis, Kenn \Vyn:n, John Williams, D. J. Dtavies, R. R. Jones, William Garner, a C. Morgan. Cyfeiriwyd at rai moddion chwyldroadol tuag at ostwng y pris, megys, prynu y gwaith nwy; ond ar gynnygiad Mr. R. R. Jones, ac eiliad Mr. William Garner, pas- iwydl i anfon dirprw.yiaetli at gwmni y nwy. Cynnygiodd Mr. J. W. Jones, Paris House, iac eiliodd Mr. T. O. Griffiths, a phasiwyd, fod petisiwin yn cael ei wneyd, i fod yn llaw y ddirprwyaeth, er grymuso eu cenhadaeth. Pennodwyd y personau canlynol i fod yn ddirprwyaeth:—Mri. J. W. Jones, Paris House; R. R. Jones, London House; A. Edwards, Market Street.; W. M. Jones, a William Garner. A'r persoimu canTynol wedi eu chwanegu atynt i ffurfio pwyllgor y nwy rhatach:—Mri. C. Morgan, Johns- town, W. Griffiths, Meirion House; William Thomas, Johnson Street; Kenn Wynn, Market Street; Thomas Roberts, High Street, a Mr. Johnson, Market Street.
I-IHAWL I'R MYNYDD.
News
Cite
Share
HAWL I'R MYNYDD. Cynnaliwyd! cyfarfod cyhoeddus yr un nos- on, yni yr un lie, i helpu Cynghor Plwyfol Penycae yn eu bwri'ad i ymladd achosion ag yr oedd chwe dyn o Penycae wedi eu gwysio am drespasu ar y mynydd, Gwyl y Bangc diweddaf. Llywyddwyd gan Mr. C. Morgan. Dywedodd Mr. Phillip Pickering, ar ran cynghor Penycae, ei fod wedi dyfod i ofyn am help pobl y Rhos yn y mater pwysig hwn. Yr oedd ffeithiau yr achos fel y can- lyn :-Aeth chwech o ddynion o Benycae, Llun Gwyl y Biaiigc cliweddaf, i'r mynydd i bigo llus (' whimberries '). Pan yn brysur wrth y gwaith daeth is-geidwad atynt, gan eu gorchymyn i fyned yn is i lawr. Gwrth- ododd y dynion fyned hyd1 nes llenwi eu llrstri. Yna, galwodd yr is-geidwad tar ei uwchafiad, Mr. Brown, yr hwn a gymmer- odd einwiau y dynion. Cymmerwyd gwrit allan yn erbyn y dynion iam drespasu, ac aflonyddu y geITr, ac yr oedd yr achos i'w broft yn Llundain, ynl mhen pythefnos. Yn awr, y cwestiwn ydoedd, a oeddynt am ymladd yr achos ar ran y dynion. Os gall- asai y perchenogion rwystro y dynion hyn gerdded ar y mynydd gallasent rwystro pawb. Yr oeddynt hwy yn Penycae wedi penderfynu ymladd yr achos., ac yr oeddynt am gymmho'rth pobl y Rhos. Wrth gwrs, byddai raid iddynt hwy ddarparu yr hyn a elwid yn 'initial costs;' ac yna, cs gallent wneyd achos 0< hono, byddai gweddill y treuliau yn cael eu talu gan y Cynghor Sir. Penderfvnwyd! yn unfrydol reddi pob help i bob! Penycae, a pheuiiodwyd y personau canlynol i n'urno Pwyllgor lawudera.u y Mynydd:'—Mri. Joseph Rogers. High Street; William Williams, Glasfryn; D. Davies, Glasgow House; T. J. Hooson, Victoria House; J. Stephen Jones, a W. M. Jones, Ponkey; C. Morgan, Johnstown; S. Rowley, School House; John Williajns, Wesley Street; Joseph Charles, a Kenn Wynn, Market Street.
BLWYDD-DAL I'R HEN.I
News
Cite
Share
BLWYDD-DAL I'R HEN. I Fel y gwyddis, dydd hu diweddaf yd- oedd y dydd cyntaf y gellid cael forms o geisiadau am hyn yn y llythyrdai. Dy- ddorol ydyw deall rhif y ceisiadau yn y cylch hwn :—Rhos, 65 Ponkey, 30 a Johns- town, 4. Gwelir faint o ddisgwyl sydd am y mesur hwn yn y cylch, ao nad ydyw y cylch yn fyr o fanteisio ar ei ddarpariadau. Llwydd i bob achos teilwng.
CYFARFOD GWLEIDYDDOL.
News
Cite
Share
CYFARFOD GWLEIDYDDOL. DeaJhm fod Mr. Hemmerde wedi ymweJed a siarad bron yn mhob tref a phentref yn nwyreinbarth Dinbych yn ystod y pythefnos diweddaf. Nos Fercher diweddaf y bu yn Rhos, ac aiid oedd y Neuadd Gyhoeddus yn hanner digon o faint i gynnal y bobl ddaeth ynghyd. "Yr oedd! gydag ef Mrs. Hemmerde a Mr. James Rowlands, A.S. dros Dartford, Kent. Llywyddwyd gan Mr. Joseph Stephen Jones, Ponkey, a chaed anerchiad rliagorol gandcio fel arfer. Yna gahvodd ar Mr. Rowlands i anerch v cyfarfod. Cafodd dderbyniad' brwdfrydig. Dywedodd yr awgrv mid fod y Llywodraeth hon, pan d&1etp i rym, wedi gwneyd addewidion gwylltion, y rhai na fedrent obeithio eu cyflawni. Tybed fod hyn wedi ei wireddu ? Ei bleser ef ydoedd cael dyweyd i'r Llyw- odraeth hon roddi ar' ddeddflyfrau fwy o fesurau gwir ddefnyddiol nag unrhyw senedd o'i blaen. Y Weinyddiaeth debveaf i'r un bresennol ydyw yr un yn 1868—74, gan Mr. Gladstone. Wrth gyfeirio at y Mesur Trwyddeclol dywedodd mai un o gri y brag- wyr ydoedd na wnai leihau v swm o ddiod yfed yn awr. Os felly, pa ham y gwaedd- ent gymmaint? Yr oedd y bragwyr a'L palfau yn dyn ar y tafarndai :yn rheoli eu cwrw, eu gwirodydd, eu mineral waters. ac hyd yn oed eu pibellau clai. Galluogai y mesur y Wladwriaeth i gael yn ol, yn mhen 14eg blynedd, yr holl drwyddedau gollodd. Ynglyn a Mesur y Man Dyddvn- od, dywedodd mai mwyaf yr edrychil arno mwyaf oil y gwelem ei ardderchowgrwydd. Dyma fesur wnai yn bossibl i ddyn ennill bywoliaeth, ac ar yr un pryd gynnyrchu ymborth i eraill. Dyma ydoedd un o ag- weddau y GweIIiantau Tirol, a blaen teneu y cura i gael deddfwriaeth fwy manteisiol i weithwyr y wlad (cym.). 'Y Nodweddid anerchiad Mr. Rowlands gan ysb/yd tanbaid o'r dechreu i'r diwedd. Yna galwyd ar.MV. Hemnier^ i anerch y cyfarfod; a cliafodVl dderbyniad brwd- frydig iawn. Dywedodd Mr. Hemmerde ei fod yn disgwyl cael cyflwyno Mr. Winston Churchill (cym.) i bobl y Rhos yn fuan. Yr oedd wedi addaw dyfod, ond pan y dcnai carai gael temporary building' digon mawr i gynnal pawb oedd yn awyddus am ei glywed. Y dydd o'r hlaetll,' übai, bu siaradwr yn anerch cynnulliad1 yn y Rhos, ac yn dyweyd nad oedd wedi dyfod yno i siarad yn erbyn dynion fel Mr. Asquith, Mr. Lloyd George, a Mr. Haldane, ond pa mor gym- mera.d'wy bynag ydoedd y dynion hyn. yr oeddynt i gyd yn anghywir (chwerthin). Cyfarfyddodd ef y boneddwr hwnw wed'yn, a gofynodd iddo ai na tharawyd ef ryw- bryd y gallai y dynion mawr yna fod yn iawn, ac yntau yn anghywir. Tybiai ef (y siaradwr) nad! oedd. Yr oedd bob amser rhyw hunan-hyder chwyddedig ynghylch y dyn heb raglen, :nac heb y bwriad Ileiaf i gario un allan, pe yn ei meddu. Y noson hon yr oedd am ddyweyd rhai petlnau plaen am y parti i'r hwn y perthynai y bonedd- wr yr oedd newydd grybwyll. Er fod y blaid Sosialaidd yn hynod weithgar yn yr etholaethau, ac yn Nhy'r Cyffredin, yr oedd- ynt hyd yn oed yn fwy yswil i amddiffyn eu hegwyddorion na hyd yn oed y Diffvn- dollwyr. Gwaith lied hawdd ydoedd pre- gethu cenedlaetholi'r tir, a holl ddiwyd- iannau y wlad, i gynnulleidfaoedd asbid; ond egluro y modd i wneyd hyn ger bron cynnulleidfa feirniadol, a hyny yn ngwyneb y ffaith fod gan eu harweinwyr eu hunain wahanol gynlluniau i gyrhaedd hyny, yd- oedd yn beth y ciliai yr areithwyr Sosialaidd rhagddo. Yr unig effaith ga^vstai delfryd- iaeth chwyddedig ac anymarferol llawer o'r siaradwyr Sosialaidd hyn oedd dychrynu y dynion cymmedrol oedd yn ffafr diwyg- iad, ond yn wrthwynebol i cliwyldroad. Yr oedd wedi sylwi yn y Ty pan y byddai pen- derfyniad neillduol ger bron, trwy yr hwn y gallai y Blaid Llafur Annibynol rithio i'r golwg fel unig amddiffynwyr y gweithwyr, fod seddau y blaid hono yn anesmwyth o lawn, ond pan y byddai diwygiad ymarferol a gwirioneddol ger bron y Ty, yr oedd y gorfaelwyr hyn, o herwydd cydwybod boli- ticaidd, yn absennol. Ni welai un rheswm dros y cenhadon crwydrol hyn, y rhai a ymddangosent fel yn ymhollti gan bethau cyffredin lhvyfan. Y ddiau gwestiwn mawr ger bron ydoedd yr ymdrechfeyeld yn erbyn clwmbeth ('Trust') y ddiod, a. chlwmbeth y tir. Mewn perthynas a'r cyntaf, er fod y blaid Lafurcl yn gwneyd gwaith da yn yr 9 etholaethau, yn y bye-elections yn Peck- ham a lleoedd eraill, ni chymmerodd un- rhyw aelod perthynol i Bwyllgor Cynnrych- ioliadol Llafur ran ynddynt o gwbl. Nid yn unig hyn; ond yn Dundee a Newcastle coll- wyd, neu peryglwyd, seddau gan y blaid Sosialaidd. Y rheswm pa ham na fedrai yr L. R. C. reoli eu canlynwyr oedd fod llawer o honynt yn barhaus yn ymhyfrydu mewn ymosodiadau anonest a digydwybod ar y blaid Ryddfrydig, a thrwy geisio perswad- 10 y gweithwyr nad oedd gwahaniaeth rhwng y blaid Ryddfrydig a'r blaid Gd.t- wadol. Carai ef weled y Sosialiaid all in mewn bye-elections,' 'ac nid ar gonglau yr heolydd yn adrodd yr un hen 'stori fel y gwnaent yn Rhos ar nosweithiau I, un (cym.). Pan ydoedd yn Rhos y flwyddvn ddiweddaf enwodd dri o arweimvyr Sosial- aidd fel pen campwyr mewn dadl gyhoedd- us. Ond beth yw'r canlyniad? Ni fc-tral gael un o honynt i ddyfod. Dywedai Mr. Phillip Snowden fod ganddo ormod o ym- rwymiadau. Nid oedd, modd byniag, well csaifod ei areithiau yn y newyddiaduron! Byddai yn falch ganddo dalu i Mr. Snow- den a phob treuliau eraill os deuai ar ddi- wedd y flwyddyn hon (cym.). Yr oedd hyn yn her teg, a gadawer ef i'w chymmervd i fyny (cym. uchel). Mewn cyssylltiad A (c \,Pl. chlwmbeth y tir, nid yn unig bee-ban yd.y»y y rlian gymmerodd y blaid Lafurol i gefno-;i y Llywodraeth, ond) ni chaiodd ef, yn ei vmdrechion i ddylanwadu ar y Llywodraeth i gario allan ei haddewidion ynglyn a threthiad y gwerth tirol, ddim cefnogaeth ganddi. Gwnai y Sosialwyr lawer iawn mwy o ddaioni i achos y Weriniaeth pe byddent yn abertbu uchelgais personol a'r blaid. ac o ddifrif yn cynnorthwyo y blaid Ryddfrydol. Un peth oedd ben;niadaeth onest ac øofl1 ond nid oedd hawlio y clod am holl waith da y Llywodraeth, a cheisio mwyhau ei holl wendidiau, nac yn ddelio teg na busnes da (cym.). Yr oedd yn wrthun 0 beth fod. siaradwyr cyflogedig yn dyfod i ddwyreinbarth Dinbych i geisio hollti y gallu gvverinol, a thra. yr oedd ef yn cymmeryd seibiant byr fod y dynion hyn yn dyfod i lawr i geisio arwain y rhanbarth i drybini. Sosialwr Y mae genym hawl i siarad allan.' Mr. HemmerdeNid yw boneddigion byth yn siarad pan y bydd arall yn anerch cynnulleidfa (cym.). Gellwch ofyn cwest- iynau ar y diwedd.' Yna aeth yn mlaen i ddyweyd fod arnynt i ddiolch i'r glowyr yno am y gefnogaeth bybyr estynwyd idd'o ar un achlysur Ychydig amser yn ol anfonwyd allan gylch- lvthvr yn hysbysu nad oedd wedi anfon enwau dim o'r glowyr at Uchel Raglaw y sir fel cynnrychiolwyr y dosbarth hwn am le ar y faingc ynadol, ac hefyd ei fod yn wrthwynebol i Fesur yr Wyth Awr i'r Glo- wyr. Gwnaed hyn ychydig cyn i'r bleidkis gael ei chymmeryd ar y priodoldeb i'r glo- wyr ymuno a'r 1. L. P.' Pellebrodd i un neu 'ddau-o'r glofeydd., yn hysbysu fod yr adroddiad yna yn gwbl anwireddus. o blegid yr oedd Mr. Edward Hughes wedi gweled yr ohebiaeth fu rhyngddb ef a'r Uchel Rag- law pan wnaeth yr adroddiad yna. Yr oedd vn gwybod fod yr adroddiad yn anghywir. Anfonodd Mr. Hughes lythyr ato ef, yn gofyn a wnai bleidleisio dros ail ddarlleniad Mesur yr Wyth .Awr.Attebodd yntau (Mr. Hemmerde), Wrth gwrs y gwnaf.' Yna cyhoeddodd Mr. Hughes y byddai iddo ef (Mr. tlHemmerde) gyfyngu ei gefnogaeth i ail ddarlleniad y mesur. Nid oedd dim yn fwy iselwael a drwg nag ymyriad o'r nod- Avedd yna.. Yr oedd yn gofyn iddynt ei am- ddiffyn rhag triciau gwael ac annynol fel yna yn yr etholaeth. Nid yn unig yr oedd yn gefnogol i Fesur yr Wyth Awr, ond siar- adodd hefyd yn ei ffafr. Ni adawodd y ddadl arno unwaith o'r dechreu i'r divvedd, a chafodd ei roddi ar y pwyllgor oedd ylii ymwneyd a'r mesur. Gobeithi-ai y byddai yn ddeddf ar y llyfrau erbyn diwecld yj flwyddyn. Mewn canlyniad i'r mesur bydd- ai gostyngiad uniongyrchol o awr y dydd yn Ngogledd Cymru. Byddai i'r mesur, yn ei ffurf bresennol, gael ei basio trwy Dy'r Cyffredin yn mhen rhyw bythefnos wedi i'r Ty ail gyfarfod, ac yr- oedcl ganddo bob hyder y byddai iddo gael ei basio yn ddeddf erbyn diwedd y flwyddyn (cym.). Wrth gyfeirio at gyfundrefn y tir dywed- odd Mr. Hemmerde, os na byddai i'r tir gael ei drethu yn ol cyfartaledd ei werth gwertliadwy, na fyddai y Llywodraeth byth yn abl i didyfod a budd y Man Dyddynod i gyrhaedd y bobl. Felly byddai y Llywodr- aeth yn colli yn ei dyledswydd os na wnai ddeddfu yn y fath fodd ag i gynnyrchu prynwyr ewyllysgar a pliarod. Yr unig ffordd i gyrhaedd hyn oedd trwy gyfun- drefn o land valuation,' a phasio land valuation ar yr oil o Br y da in Fawr (cym.). Siaradodd ar y Mesurau Trwyddedol a Blwvdd-dal, ac cisteJclodcl wedi traddodi un o'i anerchiadau goreu erioed yn y Rhos. Gofynwyd iddo nifer o gwestiynau gan Sos- ialwyr penboeth ac attebodd yr oil i fodd- lonrwydd y dyrfa, os nadl y cwestiynwyr. Cynnygiodd Mr. W. Garner, ac eiliodd Mr. T. Hughes, y penderfyniad canlynol, a phasiwyd :—' Fod diolchgarwch goreu y cyf- arfod hwn yn cael ei roddi i Mr. Hemmerde am ei wasanaeth fel ein haelod seneddol, ac fod! ein hymddiriedaeth parhaol yn cael ei estyn iddo a'r Llywodraeth bresennol. yn yr hyder y byddant yn abl i basio yn ddeddf y cyfryw fesurau pwysig a'r Mesur Trwydd- edol, y Mesur Addysg, a Dadgyssylltiad i Gymru.' Wedi diolch i Mr. Rowlands a'r eadeirydd ymwahanwyd yn swn Hen Wlad fy Nhad- au.' Iago Ddu.
DI N BY C H.
News
Cite
Share
DI N BY C H. Wythnos o Cenhadaeth.—Trefnir i gyfres o gyfarfodydd cenhadol, neu odfeuon, gael eu cynnal o dan llawdd Cynghor yr Eglwysi Rhyddion, yn y dref hon yr wythnos nesaf, gan ddechreu nos Lun. Gwasanaethir gan y P-archn. W. M. Lewis, Abertawe, ac E. Keri Evans, Caerfyrddin. Bydd y genhad- aeth yn dechreu yn nghapel Lon Swan, ac yn ddilynol yn y Capel Mawr. Er mantais i gyfeillion o'r wlad trefnir odfa prydnawn dydd Mercher am hanner awr wedi dau. Prydnawn aydd Mawrth a Gwener bydd cyfarfodydd i'r chwiorydd, a phrydnawn dydd Iau cyfarfodydd i bobl ieuaingc. Y mae y cenhadon yn adnabyddus iawn, a hyderir y ceir cenhadaeth lwyddiannus a bendithiol.
Y TEMLWYR DA.
News
Cite
Share
Y TEMLWYR DA. Yr oedd nifer liosog o aelodau yn bresen- nol yn Nheml Caledfryn nos Wener, pryd yr aed yn mlaen gyda'r ymdrafodaeth ar y Mesur Trwyddedol, ac y cafodd y deml ei throi i fod fel Ty y -Cyffredill, gyda Mr. J. Morris Jones fel Llefarydd.' Pan ohiriwyd y ddadl yr wythnos firaenorol yr oedd Mr. R. RobertSj High Street, yn si- arad yn erbyn y mesur; ac efe, gan hyny, a agorodd yr ymdrafodaeth nos Wener diwedd* af. Cymmerwyd iihan pellach gan y Mri. J. Roberts (Densons), David Peters, a W. Mars- den Davies, o blaid y Llywodraeth,' a'r Mri. Arthur M. Benson Evans, Ivor Evans, a John Williams (Densons), dros yr Wrth- blaid.' Yr oedd y gweithrediadau yn fywiog dros ben, a chadwodd yr aelodau Gwyddel- ig '—Mri. Daniel Jackson, ac R. D. Aubrey— y Ty mown hwyl dda. Achoswyd cryn gyffro pan glywyd swn 'merched y bleid- lais yn yr oriel' gyda 'chlychau ac y bu raid symmud un o ihonynt. Bu raid syrnmud un o aelodau yr Wrtfhblaid hefyd, o'r 'Ty,' yr hyn a wnaed yn nghanol chwerthin mawr. Wedi i'r Prifweinidog,' Mr. Tom Lewis, wneyd ychydig sylwadau, ymranwyd ar y mesur, a chael mwyafrif da o'i blaid, ond wedi hyny, cafodd y penderfyniad ei roddi i fyny i bleidlais unfrydol. Wedi i Mr. James Jones (yr hwn oedd wedi gweithredu fel ar- weinydd yr Wrthblaid'), Mr. Daniel Jack- son, a'r Prif Demlydd wneyd ychydig sylw- adau, dygwyd v gweithrediadau i derfyniad, ar ol treulio dwy noson ddyddorol a buddiol ar y mater.
LLYS YR YNADON SIROL.
News
Cite
Share
LLYS YR YNADON SIROL. Dydd Mercher cynnaliwyd y llys hwn, ger bron Mr. W. D. W. Griffith (cadeirydd), Cadben Cole, Mil. Heaton, y Maer (Mr. Boaz Jones), Mr. R. E. Hughes, a Mr. Owen Wil- liams. Trwydded Pafiliwn Newell. Gwnaeth Mrs. Newell, perchenoges y paf- lliwn hwn, gais am i'r drwydded chwareu- yddol (theatrical), ganiatawyd iddi am dri irrds gael ei liestyn am bythefnos yn mhell- ach. Dywedodd yr Arolj'gydd Jones nad oedd ganddo un gwrthwynebiad i'r drwydded gael ei hadnewyddu. Dywcdodd yr Arolygyclel Jones nad oedd ganddo un gwrthwynebiad i'r drwydded gael ei hadnewyddu. Yna darllenodd Mr. J. Parry Jones, clerc yr ynadon, lythyr, wedi ei arwyddo gan y Parch. Evan Jones a Mr. J. Morris Jones, llywydd ac ysgrifenydd Cynghor Eiglwysi Rhyddion Dinbych, yn cynnwys penderfyniad basiwyd mewn eyilarfod o'r cynghor yn gwneyd appel at yr ynadon i beidio adnew- j yddu y drwydded. Siaradodd y Maer yn erbyn caniatau y drwydded. Yr oedd mwyafrif yr ynadon yn ffafriol i'r cais, yr hon a ganiatawyd felly. j Trespasu am Helwriaeth. Gwysiwyd Richard Davies, Tanygroes, Prion, llafurwr amaethyddol, gan Evan Ro- berts, ceidwad helwriaeth i Mr. G. G. Waud, Brynmorfydd, am drespasu i chwijio am hel- wriaeth, ar y 12fed o Fedi. Ymddangosai Mr. A. O. Evans droa yr erlyniad. Plediodd y cliffynydd ei euogrwydd; a di- rwywyd ef i 6s. 6c., a 13s. 6c. o gostau. Cafodd cyhuddiad o ladd coed-iar ajlan o'r tymmor ei alw yn ol. Ty-doriad yn Llanrhaiadr. Mewn llys arbenig o'r ynadon sirol, dydd Gwener diweddaf, dygwyd dyn ieuangc, o'r enw Herbert Smith, ger bron Mr. W. D. W. Griffith (cadeirydd), Cadben Cole, a'r Maer, yr hwn a gyhuddwyd o dori i mewn i Ffrith-y- Ceubren, yn mhlwyf Llanrhaiadr, ty Mr. Tiromas Davies, ffermwr, ar y 15f?d o'r IPi9 diweddaf, a lladrata arian a nwyddau, y cyf* an yn weriih 7p. 158. Thomas Davies, Ffrith-y-Ceubren, Llan- rhaiadr, ffermwr, a dystiodd i'r oarcharor fod yn ei wasanaeth fel llafurwr. Ar y 15fed o Fedi aeth o'i dy tua, chwarter i dri yn y prydnawn. Yr oedd ei wraig wedi myned i Rhyl yn y boreu, ac nid oedd neb ar y fferm heb law y carcharor, yr hwn a adawodd yn y cae maip. Clodd y ty i fyny, ac yr oedd y ffenestri wedi eu cau. Daeth adref am wyth o'r gloch yr un noson, pan y gwelodd fod y dnvs yn agored. Aeth i'r ty, a gwel- odd fod y chest of drawers yn agorea, yr hon oedd yn gauedig pan aeth ef allan. Aetli i'r llofft i edrych am bar newydd o esgidiau, ond nis gallai ddyfod o hyd iddynt. Ar ol cynneu tan, aeth i chwilio am y carcharor, ond methai a dyfod o hyd iddo. Rlhoddodd borthiant i'r gwartheg, ac aeth i'r ysgubor, a chafodd o dan beiriant yno barsel, yn cyn- nwys ei drawers,' smock frock,' ac ellyn, y rhai oedd wedi cael eu rhoddi i mewn yn nghob uchaf y carcharor. Canfyddodd -ei bwrs, hefyd, a ptiar o hen esgidiau, oedd wedi roddi i'r carcharor. Dyehwelodd ei wraig 0 Rhyl am ddeg, a chanfyddodd hi fod cob uchaf, siaced, dwy wasgod, a tphar o esgidiau, a phwrs yn cynnwys 3p. mewn aur, af goll. Yr oedd dau chwe cheiniog a cheiniog, hefyd, ar goll. Wedi hyny gwelsant fod dau grys, par o 'leggings, 'braces,' a chadach poced ar goll. Credai fod gwerth yr oil gollwyd ya 7p. IDS. Cafwyd y got a'r gob ucha-f or y carcharor. Rhoddodd Jane Davies, gwraig yr erlyn- ydd, dystiolaeth i gadarnhau yr udhod. Yr Heddgeidwad Pierce, Llanrhaiadr, a ddywedodd iddo dderbyn hysbysrwydd gan yr erlynydd tua hanner nos, y 15fed o Fedi, fod yno dy-doriad wedi cymmeryd lie Wedi iddo wneyd archwiliad ar y ty y diwrnod canlynol, aeth i chwilio am y carcharor, a daeth o hyd iddo y diwrnod 0 flaen y 11 je yn fferm Maes Tyddyn, Clocaenog, He yr oedd' yn gweithio. Dywedodd wrtho fod galw am dano am dori i mewn i'r ty dywededig. Wedi cyrhaedd i'r orsaf, cyliuddodd ef o'r trosedd, pan yr attebodd, Yr wyf yn euog.' Dy- wedodd iddo werthu y par esgidiau i fachgen yn Rhuthyn am 2s.4 y 'braces' i fachgen yn Manchester am 2g., ac iddo daflu y 'leg- gings ymaith ar Foel Fammau. Rhoddead y ddwy siwt i ddyn oedd yn gwerthu halen ar y ffordd, a dywedodd iddo dori i mewn i'r ty gyda bwyell. Gohiriwyd yr achos hyd dvdd Merc'her. Dydd Mercher, dygwyd y carcharor o flaen y llys drachefn ond y cyhuddiad yn awr yd- oedd un o ladrata. Plediodd y carcharor ei euogrwydd, a dy- wedodd fod yr erlynydd yn gwrthod rhoddi ei gyflog iddo. Crybwyllwyd fod y carcharor wedi cael ei gospi ddwy waith o'r blaen, ac anfonwyd ef i agrchar am dri mis, gyda llafur caled.
C A R N 0.
News
Cite
Share
C A R N 0. CYMDEITHAS DDIRWESTOL MALDWYN. Cynnaliwyd y gvmdeithas uchod yn Carno, Hydref laf a'r 2il. Nos Iau, cyfarfod cjThoeddu3 yn nghapel y Creigfryn. Llywydd, y Parch. B. Evams (y gweinidog). Cafwyd anerchiadau hywiog a sylweddol iawn gan y Parchn. Williams (W.), a Matth/as. Dyddi Gwener, 10.45, yn nghapel y Wesleyaid, Cynnadledd gjr- hoeddus, a'r un amser cynnadledd gyhoedd- us y chwiorydd yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, pryd y cafwyd adroddiad o weithrediadau y gymdeithas am y flwyddyn. Adroddiad pur galonogol ar y cyfan, ond nid cystal ag y dylai iod ar amryw ystyi- iaethau Am ddtau o'r gloch, cyfarfod i'r plant. Cadeirydd, Mr. E. Jones, Trer wythen. Anerchwyd y plant gan Miss Pritchard1, Birmingham a'r Parch. E. Parry, Drefnewydd, y naill a'r llall yn dda a d'ydd- orol iawn, yr oeddynt yn llawenychu yn fawr gweled cymmaint o blant ger eu bron, gan hyderu yn fawr y byddent yn genhedlaeth o lwyr-ymwrthodwyr. Canwyd amryw don- au gan y plant dan arweiniad Mr. I. Mat- thews a Miss Parry ac ar ol y cyfarfod yr oeddynt yn cael eu hanrhegu gyda phryd o de da oil—dim yn adnabod neb yn ol y cnawd. Dyna yw hi yma, i raddau mawr, er y flwyddyn fythgonadwy 1905. Am chwecn o'r gloch. cyfarfod cyhoeddus. Cadeirydd, Mr. Charles Benhow, Llanidloes. Siarad- wyr, Parch. G. Glyn Davies, Parch. Rhys J. Huws, Bethesdt-a a'r Parch. E. K. Jones, Brymbo. Gallwn ddyweyd fod y gymmanfa wedi troi allan yn ei gwedd allanol yn llwyddiant. Mewn cynnulliadau a pharotoad- au' boddhaol iawn, ac i'r chwiorydd y mae mwyaf o ddiolch yn ddyledus—y maent wedi gweithio yn anrhydeddus iawn. Cafwyd! Inn ddymunol iawn i gynnal y gymmanfa, a. phawb bron wedi cael y cynhauaf. Pasiwyd penderfyniad cryf o blaid Mesur y Trwydd- edau sydd gan y Weinyddiaeth ac yn dymuno yn fawr na lesteirir ef gan Dy yr Arglwv,ddi, fel y m, lent yn arfer gyda phob mesur da. Fe ddylai holl ganlynwyr Iesu Grist ddyfod allan fel un gwr o blaid y gymdeithas dda- ionus, hon, fel y ceir gweled Cymru lan yn Gvmru lan yn y cyfeiriad yma—Goheb- ydd.
:. SUDDIAD PLESERLONG YN Y…
News
Cite
Share
SUDDIAD PLESERLONG YN Y NIWL. GWAREDU 230 0 BERSONAU. Profiad enbyd y Teithwyr. Yn ystod oriau man boreu ddydd Mawrth cymmerodd yr hyn a allasai broti yn drychin- eb dychrynllyd Ie, yn ystod niwl, yn y Sian- el. Tra yr oedd y bleserlong Argonant,' yr hon a adawodd y Tafwys y noson flaenorol, gyda tua 120 o deithwyr, a chriw yn mron o'r un nifer, yn angori ger llaw Dungennee, rhedodd glo-long o'r enw Kingswell' iddi. Gwna-ed gryn niwed i'r bleserlong, a chafodd y teithwyr, yn mysg pa rai yr oedd llawer o bobl adnabyddus, eu trosglwyddo i fadau y Hong. Cyn i'r llestr suddo yr oedd pawb wedi myned i'r badau, ac yna cymmerwyd hwy ar ,fwrdd y llong Kingswell;' ond gan fod y llestr hono, hefyd, wedi derbyn gryn ni- weidiau, bu raid eu hail drosglwyddo 1 W bad- All. Yn ddiweddaraoh codwyd hwy gan lo- long arall, y I Southmoor, a ohawsant eu glanio yn Dover. Gwaredwyd llawer o bersonau mewn modd hynod, ond ni chollodd neb ei fywyd, er fod y pleserdeithwyr wedi gorfod gadael pob peth oedd yn perthyn iddynt yn y Hong suddedig.. Yn mhlith y teithwyr ar fwrdd yr Argc- nant' yr oedd Miss Morris, a Mr. E. Elias Morris," o Lletty'r Eos, Llansanrian. Collae- ant eu holl gludgelii. Yr oedd cwmni o Ddinbych a Threfnant wedi trefnu i ymunn a'r llestr, ond newidiasant eu meddyliau ar yr awr olaf, ac aethant i Pix-is yn Ha ihyny.