Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Hide Articles List
11 articles on this Page
ANNIBYNIAETH BWLGARIA.
News
Cite
Share
ANNIBYNIAETH BWLGARIA. Brwdfrydedd anarferol sydd trwy yr oil o Bwlgaria, mewn canlyniad i gyhoeddiad annibyniaeth y wlad. e
YR ALMAEN.
News
Cite
Share
YR ALMAEN. Dywed llysgenad yr Almaen na wyddai y Tywysog Buelow ac yntau ddira am f wi iadan t Awstria a Bwlgaria, a'u bod yn eu hanghym- meradwyo.
TELSRAU Y * F A N E R,
News
Cite
Share
TELSRAU Y F A N E R, tam argraphiad dydd Sadwrn ydyw Ig. yr un ond ei pferifc am ehwarter, yn rhad drwy y post, ydyw li. 8g., ond talu yn mlaen, nen 2s. os na wrcir hyny. Anfouiv 2 gopi tjrwv y post am 2s. ge. y ehwarter, ond talu yn m'.&cn. neu t*. oa na wneir hyny. Hefyd, anfonir 4, 6, nau unrhyw fynnifer, yu ddi-draul drwy y post gan y Cyhosddwyr yn el Ig. yr un. ftin argrapbiad dydd Moreher ydyw 2g. Bi phria afa ohwartor, yn rhad drwy 'r post, oscymraerir 2, neu unrhyw nifer mwy dan yr un avnlen, y yn ol Zs. 2g. yr un, oild talu yu miaen ueu 23. 6c. oa na wnsir hyny. Ei phria wedi ei sampio ydyw 2J„ nen 211. 9c. y ehwarter, ond tala talu yn mlaan; a 3s. os na wneir hyny. I f mae y chw^rteri yn terfynu ddiwedd Mawrth, Mahefln. Kedi, a Rhagfrr. Yn rahob arr.gyietiiad, anfonir hi yn mlacu hyd nes y coir rhybudd i afcial, CTJKOL DALAETHAU YR AMERICA -AnionIr y ddwy Fankk am y prisiau csnlynol yn ddi-draul i'r Unol Dal. aethau :—BAKXH dydd Mercher yn ol 3s. 3c. y chwarter a BAXBB dydd Sadwrn yn 2a. 2g. y ehwarter :-ond yn mhob amgylchiad y mae yn rha.id talu yn mlaen, ac kitelir hi pan y bydd yr arian wedi eu treulio. Gellir anion trwy ddrafft ar hEge, nen ar rhyw d, masnachol pArohus diogol arall yn Ll"«gr a gwell hyn na thalu trwy bapyrau dollars yr Unol D;i*.et.h:»u, gun fod eu gwerte hwy yn gy fuewidiol yn y wlad hon. G'&yr pawb, hefyd pa bryd y terfyna. •aRBDONIAETH.—Y mat ami un o'r beirdd, wrth anJon y oyfansoddiadau l ni, yn pwyso arnom eu eyhoeddl 11 wythnos nesa/ Dymanwn hysbysu y cyfryw tod yn amrnhosaibl i ni gyflawnl ou cats oud fel hy^bysladau, Oa bydd rhyw rai yn dymuno hyny wrth anfon Uinellau ar farwolaethau, priodasau, neu enedigaethau, &c., deallor y bydd yn angenrheidiol iddynt anfoll 3c. am bob ilinell • gynnwysay cyfanBoddiad.au. C4nt felly ymddangos yn ein nesaf;' ond ni byddwn yn gyfrifol am eu rhagoroldeb lel cyfansoddiadau. Os na wneir hyn, bydd n angen- rheidiol i ni anfon y cyfansoddiadar at olygyda y Fardd- »nlaeth & chymrner felly rai wythnosau cyn ymddango* ra ol i*m y Farddoniaoth fvdd mown Uaw,
--T3LERAU AM HYBBYSIADAO.
News
Cite
Share
T3LERAU AM HYBBYSIADAO. Tnatn Hysbyaiadau Masnachol, Ysgolion, Elateddfodan, Cyfarfo<3ydd Cyhoeodus, Ll.vfrau, fee., fydd yn ol 3s. y fed- fodd-gan fesur i lawr y golofu. Siriaa neu lal, codir 6c.; ac yn ol lo. am bob tri gair droa hyny on tellr yn mlaenllaw; nell tc. y iilnall. os na wneir hyny
SUDDIAD AGERLONG FAWR.
News
Cite
Share
SUDDIAD AGERLONG FAWR. GWRTHDARAW1AD YN MAU ABERTEIFI. COLLI TRIO FYWYDAU. Tua chwarter i wyth boreu Sabbath cym- merodd gwrthdarawiad le yn Mau Aberteifi, yn y niwl, rhwng yr agerlong City of Dundee a'r agerlong Matina, a suddodd y gyntaf mewn saith munyd. Cafodd yr oil o'r teith- wyr, deuddeg mewn mfer, a'r rhan fwyaf o'r criw eu gwaredu, trwy iddynt gael eu tros- glwyddo i'r Matina. Boddodd y cad ben, yr ail swyddog, a'r lluestwr. Costiodd gwroldeb y cadben ei fywyd iddo.
EWYLLYS Y DIWEDDAR BRIFWEINIDOG.
News
Cite
Share
EWYLLYS Y DIWEDDAR BRIFWEINIDOG. Hysbysir yn swyddogol y bydd i ewyllys y diweddar Syr Henry Campbell-Bannerinan gael ei phrofi yn fuan Ar ol trefnu amrywiol gymmunroddion, gan gynnwys un o'r holl ohebiaethau, papyr- au, &c. obob math i'r Gwir Anrhyd. John Sinclair, A.s., yr Ysgrifenydd dros Ysgot- .1 go land, i gael ymwneyd & hwy yn hollol gan- ddo ef, yn ol fel y barno yn ddoeth, cyfar- wyddai Syr Henry i'r holl swm gweddiH, gan gynnwys Castell Belmont, gael ei ddal mewn ymddiriedolaeth i'w or-wyr, James Hugh Campbell, nes iddo gyrhiedd i'r oedran o bump ar hugain, a'r incwm yn y cyfamser i gael ei weinyddu gan nith Syr Henry, Mrs Alice Eliza Campbell, mam Mr. James Hugh Campbell. Bydd i'r holl eiddo personol gael ei dyngu o dan 60,000/?. Y mae hyn ar wahSni'r ystadau yn Yrsgotland, y rhai sydd yn dra gwerthfawr. Nid oedd Syr Henry yn meddu budd yn ystad Hunton Court, ger Maidstone, ond tra byddai byw, a'r hon oedd yn disgyn i'w nai, Mr. James Campbell Ban- nerman, yr hwn, hefyd, fydd yn etifeddu yr hyn a dderbynir oddi wrth werthiant Pare Gennings.
.---'--'---.---. CYNGHRES…
News
Cite
Share
CYNGHRES YR EGLWYSWYR. A'jORWYD Cynghres yr Eglwyswyr yu Mar.- n-it'ster heddy-w (ddyd Ma wrth); ond cafodd ryfart'cd vhag-.rwt:iniol oi gynnal yn Neuadd Miipriiich R'y del 11 os fiiin. Cyfarfod ydoedd i fft-'ohed. LlywydJid gan Esgub Manchester. z, Traddodvvyd areithiau gan yr Esgob, Lady Acland, Mrs. Ashley Carns Wilson, ac Esgob Perth (Gorllewin Awstralia). Siaradodd Esgob Manchester am ddyled yr egl wys i ferehed am eu gwaith cyhoeddus, yn gystal ag am eu dyagu preifat a'u dylanwad. Yn y cyfeiriad hwn cyfeiriodd at y dylanwad a ladgwodd ei fani a'i chwiorydd ar ei fywyd ef ei hun. ,Pe byddai i fywyd cartref ywlad hon gael ei gadw yn 14n a phur, nid oedd fanddo un ofn gyda golwg ar beth fyddai y ywyd cyhoeddus.
MARWOLAETH MR. OWEN J. WILLIAMS,…
News
Cite
Share
MARWOLAETH MR. OWEN J. WILLIAMS, CEFN. Y Sabbath tufanv Mr. Owen J. Williams, ar ol dioddef cystudd byr, yn Cefn Hall, ger Llanelwy, yn 57ain mlwydd oed. Efe oedd pedwerydd mab y diweddar Syr Hugh Will- iams, Bodelwyddan, ac ewythr y barwnig presennol; ei frawd ydyw Esgob Bangor, ac yr oedd ei fam yn chwaer i'r diweddar Syr Watkin Wynn.
[No title]
News
Cite
Share
Pum mlynedd ar hugain ynol dysgocld yr Al- maen Japan i wneyd botymau bychain. Yn awr. y mae Japan yn eu hallforio i'r Almaen, Ffr&ingc, a Phrydain Fawr, a gwledydd ei-aill. 0 Rhaid i fagwyr anifeiljaid Belgium gadw cofnodiad o bob uno honynt, ac i nifer cof- restredig gael ei roddi ar fodrwy roddid ar ei glust.
CARTREFOL.
News
Cite
Share
CARTREFOL. YN y dyddiau pan oedd efe yn aelod o Dy y Cyffredin, ac yn cael ei adnabod dan yr enw Mr. Marjoribanks, y gwnaeth Ardalydd Tweedmouth fwyaf o wasanaeth i'r Blaid Ryddfrydig yn ddiau. Efe oedd chwip y Llywodraeth, ac nid gormod a fyddai dy- weyd na fu gan Weinyddiaetli erioed chwip rhagorach. Mae efe yn awr wedi tori ei gyssylltiad a'r Llywodraeth o herwydd afiechyd. Mewn niwl tew yn y sianel Brydeinig dydd Mawrth aeth Hong yn cario haiarn yn erbyny bleserlong Argonaut, gan ei suddo Diangfa bron wyrthiol a gafodd y 231 teithwyr a morwyr oedd ar ei bwrdd. Coll- odd un foneddiges werth chwe mil o bunnau yn ei gudSad. Ar hyd" y gauaf nesaf y mae cwrnnlau y ffyrdd haiarn am fyw yn gynnil. Llygad eiddigeddus ar y llogranau sydd wrth wraidd hyn. Ar y dydd cyntaf o'r mis yr oedd saith cant y dydd yn Hai o drenau yn cael eu rhedeg, a chymmeryd yr holl deyrnas i'r cyfrif. Y tren cyflym o Derby i Manchester dydd Mawrth a arafwyd o herwydd fod arwydd- ion perygl wedi eu codi yn agos i Haddon Hall. Erbyn gwneyd ymcbwiliad cafwyd yr arwyddwr yn ei foes yn Rowsley yn hollol farw. Dywedir fod ei law yn ymyl y lever, fel pe yn myned i'w dynu i lawr. 1 Syr George Wyatt Truscott sydd wedi ei ddewis yn Arglwydd Faer Llundain am y flwyddyn ddyfodol. Ei ragflaenor oedd Syr John Bell. Bu tad Syr George yn Arglwydd Faer y ddinas. Beth arnser yn ol daeth mynach Bwdd- haidd drosodd i Lundain i weithio fel cenad- wr. Nid yw efe wedi bod na segur na diffrwyth. Dywed ei fod wedi cael saith gant o ddychweledigion' mewn byr amser. Mae gan y Brenin Edward feddwl uchel o'r fydd in dirol newydd. Trefna yn awr ar fod tlws yn cael ei roddi i'r swyddogion a lynant wrthi am ugain mlynedd. Bydd hyn yn symbyliad neillduol yn ddiau i beidio ymad- ael na gofyn am ryddhad. Ar fwrdd yr Argonaut anffodus y cyfeirir ati uchod yroedd saith o gathod. Perthynai rhai o honynt i'r teithwyr, a'r gweddill i'r morwyr. Trist iawn, ar ol eyrhaedd glan yn ddiangol eu hunain, oeddynt na fedrasant achub cyinmaint ag un o'u hoff 'bwssis.' Yn ei araeth yn nghapel y Bedyddwyr yn Perth nos Fawrth gwnaeth Mr. Haldane yn bur eglur fod y Weinyddiaeth yn myned i lynu yn dyn wrth yr amser terfyncl o bed air blynedi ar ddeg ar y Mesur Trwydded- oJ. Dangosodd fod hyny yn ddigon o ainser i'r darllawyr i drefnu eu hamgylchiadau, ac nad 038 ynddo ronyn o anghynawnder. Yr ydym yn llongyfarch ein Postfeistr Cyffredinol ar ei flfawd dda. Ar ol trefnu yn barod ar gyfer ei phlant eraill gadawodd ei fam 113,502/?. i Mr. Buxton. Bu yr hen foneddiges farw yn ddiweddar, yn 84ain mlwydd oed. Yr ydym yn ddiolchgar am yr awgrym diweddaraf o Fwrdd y Llywodraeth Leol. Mewn gair at bwyllgorau lleol Blwydd- daliadau i Hen Bob! dywed wrthynt am beidio cynnal eu cyfarfodydd mewn tafarnau. Da iawn, mewn gwirionedd. Yr wythnos ddiweddaf twyllwyd un o fangciau Edinburgh yn gyfrwys o dair mil o burnau. Rhoes dyn 1,500p. yn y bangc. Cododd amryw fan cheques, ac wedi hyny un am fil o bunnau. Llwyddodd y cyfrwys i droi yr 1 yn 4. TalwYd iddo 4,000(c. Ni wybuwyd am y twyll hyd nes yr aed i gymmharu llyfr y talwr a llyfr y clerc, ond erbyn hyny yr oedd y gwalch wedi diflanu, ac nid yw byth wedi dyfod i'r golwg. Am yr banner blwyddyn diweddaf cyfan- swm cyllid y Deyrnas Gyfunol ydoedd 159,612,620.0. Hyny yw, yn agos i bedair mil- iwn a hanner yn llai na swm yr banner blwyddyn cyferbyniol y llynedd. Y teleph6n yn unig a ddangosent gynnydd yn eu der- cl byniadau. Yn ei araeth yn Abertawe, nos Fercher, llawenychai Mr. Lloyd George fod Rhydd- frydiaeth yn Nghymru yn ffyniannus a siriol, ac nid oes ganddo ronyn o ammheuaeth am ffyddlondeb y Dywysogaeth yn y dyfodol chwaith. Yr ydym ni, y Cymry, meddai, yn cofleidio egwyddorion Rhyddfrydiaeth am fod genym ffydd ynddynt, ac nid oddi ar unrhyw gymmhellion hunangar. A chwan- egai.:—' Mae hi yn Hawn bryd gwobrwyo a chydnabod Rhyddfrydiaeth ddiysgog a diwyrni Cymru.' 0 Yn nghyfarfod Bwrdd Gwarcheidwaid Undeb Limerick, wythnos yn ol, darllenwyd llythyr oddi wrth yr Esgob Pabaidd, Dr. O'Dwyer. Yn hwn dywedai y prelad beth- au chwerwon am Mr. John Dillon o her- wydd ei sylwadau am y Gynghres Sacra- mentaidd ddiweddar yn y brifddinas. Dywedai ea bod yn fwy yn eu malais na dim a wnaethai y Prifweinidog. Uhwanegai fod y cyffrawd o blaid Ymre- ojaeth yn disgyn i'w fedd.' Bydd ei was- anaeth angladdol yn cael ei weinyddu gan T. P.. O'Connor a John Dillon, meddai. | Prif bechod.yi^dau wladgarwr ydyw eu bod yn gwrthod cymmeryd eu harwain yn mhob peth gan yr offeiriadaeth. Cyfrifir fod y golled a achosir gan y streic bresennol yn myd y cotwm yn dri chan mil o bunnau yn yr wythnos. Tra yr ysgrifenwn nid oes arwydd am gymmod. Ond, parheir i wneyd ymdrechion yn y cyfeitiad hwnw. Mr. Solly B. Joel, y miliwnyid, a'r perch- enog meirch rasus' adnabyddus, a niweid- iwyd yn d6st dydd Mercher. Aeth march oedd wedi rhedeg ymaith yn erbyn ei gerbyd ar un o heolydd Llundain. Dymchwelwyd cerbyd y miliwnydd, a hyrddiwyd. yntau yn ddiseremoni allan o hono. Ymddengys fod areithiau Mr. Haldane a Mr. Lloyd George ar y Mesur Trwyddedol wedi cario effaith i raddau ar y blaid Undebol. Ceir rhai o'i newyddiaduron yn ysgrifenu yn llai hyderus yn awr nag yr arferent wneyd. Nid ydym mor sicr mai ei daflu allan a gaiff y mesur. Carai 11awer gael gwybod pwy fu yn cyf- ranu i gronfa etholiadol yr ymgeisydd Sos- ialaidd yn ddiweddar yn Newcastle. Rhodd- odd larlles Warwick 50p. meddir. Yn naturiol iawn y gwnai hi hyny, canys Sosial- aeth ydyw ei phroffes gysson hi. Bydd argraphiad rhad o lythyrau y Fren- hines Victoria yn cael ei gyhoeddi yn ebrwydd. Rhoddodd y Brenin ei gydsyniad i'w cyhoeddiad. Chwe swllt fydd eu pris. Anfonir lliaws o gleifioa i ysbyttai Liver pool o Ogledd Gymru, a chdnt eu gwella yn rhad. Disgwylia ypwyllgor am gyfraniadau oddi wrth ein cynnulleidfaoedd. Ysywaeth, er appelio yn daer bychan a phrin ydyw yr atteb. Hen long ddeng mlwydd ar hugain oed oedd yr Argonaut. 0 herwydd hyny bernir y byddal y draul o geisio ei chodi yn fwy na'i gwerth. Ond, bydd yn angenrheldiol ei dryllio, am ei bod hi yn elfen perygl yn mor- dwyaeth y Sianel. Gwraig oedranus nos Fercher diweddaf a groesai y ffordd yn agos i Fanchester. Tarawyd hi i lawr gan fodur, yn yr hwn yr oedd maer Salford a'i deulu, er mai yn ol chwe milldir yn yr awr y teithiai. Bu yr hen wreigan fawr cyn iddi gyrhaedd i'r ysbytty. —————————— Boreu Mercher yr oedd Mr. Ruiiciman yn anerch yr efrydwyr yn Mhrifysgol Aberys-j wyth. Yn mysg ei wrandawyr yr oedd Miss j Mary Gawthorpe, y 'sylfragetes' adnabydd-1 us. Hi a ofynodd 'Beth ydych chwi yn fwriadu ei wneyd gyda golwg ar yr etholfraint i ferehed V Fy ngwaith i ydyw dysgu merched,' oedd yr atteb parod. Bwriada Atr. Lloyd George adeiiadu bungalow yn Nghriccjeth. Bydd ar un o'r llanerchau prydterthaf yn Nghymru Ac yn ymyl capel y Bedyddwyr yn mha un y bodyddiwyd ef yn fachgenyn un mlwydd ar bymtheg. Blynyddoedd lawer etto i Mr. Eleazer Roberts, o Hoylake, gynt o Liverpool, ben wron wyth deg a phedwar y Tonic Sol ffa yn Nghymru. Y dydd o'r blaen yr oedd efe yn y Gaerwen, yn yn llywyddu mewn Cymmanfa Ganu. Rhoddodd adgofion dy- ddorol am gychwyniad y Sol ffa yn y Dy- wysogaeth. Chwareuai Mr. Balfour ei hoff brangc— golff '-yn St. Andrews, Ysgotland, dydd Mercher. Tarawyd ef yn ei ben gan un o'r peli. Bu raid iddo roi fyny, gan faint ei boen. Ceir hanes cyflafan ddychrynllyd o Words- ley, yn agos i Brierley Hill, yn swydd Stafford. Yn hwyr nos Fawrth cafwyd dyn ieuangc pum mlwydd ar hugain oed a'i enw Joseph Dainty, o Stambermill, gydag ar- choll ddofh yn ei wddf. Caed ef felly yn gorwedd ar ganol y brifffordd. Dywedodd yn floesg—'Mae hi yn y gamlas.' Aeth yr heddgeidwaid ar hyd ymyl y gamlas, a chawsant gyllell a gwaed ami, a llythyr. Wedi hyny daethant o hyd i gorph marw merch ieuangc, ugain mlwydd oed, a'i henw Isabella Carter. Biiasai y ddau yn caru' am beth amser. Ond, y llythyr a ddangosai nad oedd gwen y rhieni ar y garwriaeth. Hyn, y mae yn ym- ddangos, a arweiniodd i'r gyfiafan. Nid ammheua neb Broteataniaeth y Barnwr Willis, y Bedyddiwr enwog. Nid yw efe yn credu y buasai cludo elfenau y Cym- mun trwy heolydd Llundain yn groes i'r gyf- raith. Ar yr un pryd, creda fod y Prif- weinidog wedi gwneyd yn iawn, er mwyn heddweh. Yn Carrick on-Shannon, yn yr Iwerddon, y dydd o'r blaen, daeth dyn o'r enw Pat Reynolds i'r llythyrdy i chwilio am ei bapur biwydd dal. Faint ydyw eich oed ?' oedd y cwestiwn a ofynwyd o gywreinrwydd. Cant a naw, ac yn berffaith iach' oedd yr atteb parod. Tra yn aros mewn gwestty yn Richmond, yn swydd Gaerefrog, gwelai y Cadfridog Baden-Powell fwg yn dyfod allan o fasnach- dy dilledydd yn Heol y Farchnad tua plied- war o'r gloch yn y boreu. Yn y fan rhoes yr alarwm allan. Rhoes bob cymmhorth i'r tan- ddiffoddwyr, hefyd. Yn ol adroddiad y Bwrdd Amaethyddiaeth cynhauaf canolig a gaed eleni, Ceirch ydyw y cynhauaf gwaelaf o ran ei swm. Dywedir fod y pytatws yn hynod g!ir oddi wrth anhwyldeb. Ar un adeg yr oedd adar y tb yn lliosog yn Shetland; ond, prin y ceir un o honynt yno yn awr. Yn eu lie cwningod sydd yn heigio yr ynys. Pa reswm sydd i'w roddi am hyn, nis gwyddom. Dymckwelodd melin gotwra yn Bradford, y dydd or blaen, ac anafwydpujnpo ferched. Oni bae i'r dymchweliad ddigwydd yn ystod yr awr giniaw, diau y collasai llawer eu bywydau. Cyrhaeddodd yr agerlong Majestic o'r Seren Wen i Plymouth wythnos yn ol dair awr at ddeg dros ben ei hamser. Y syndod yw iddi gyrhaedd pen ei siwrnai o gwbl. Bu yn y dymmestl waetliaf y bu ynddi erioed. Amddyddiau-bwy-gilyddhi a fu yn brwydro yn erbyn y corwyntoedd. Mor uchel ydoedd y tonau fel y Iluchient dros bont y llestr. Saith milldir yn yr awr a allai hi ei forio, ac etto, daeth trwy y gethern yn ddiangol, hi a'i llwyth. Gwysiwyd milwriad o flaen yr heddlys wythnos i heddyw yn Aldershot am ladd cath, hoff 'bwssi' tabyrddwyr y Ysgots Guards. Ei esgus ef oedd fod y gath wedi ymosod ar un o'i gwn. Ar ei waith yn talu y costau-lp. 12s. 6c.-cafodd y swyddog fyned yn rhydd, ond dywedwyd wrtho yn groyw ei fod ar gam. Mr. Paul Taylor, yr ustus yn heddlys Marylebone, Llundain, y dydd o'r blaen, a wrthododd gospi mewn aclioso ymosodiad ar deithiwr yn y tren trwy ei wthio allan am fod y cerbyd yn llawn. 'Os na wna y rhai a ofalant am drenau eu dyledswyddau yn ffyddlawn, trwy attal gorlenwi cerbydau,' meddai efe 'y mae gan y teithwyr haw I i weithredu drostynt eu hunain.' Wythno3 i heddyw oedd y 30ain o Fedi poetliaf ar gofa chadw. Ar ol dydd Iau diweddaf yr ydys yn cael anfon ein llythyrau i Unol Dalaethau yr America am geiniog. Cyfarfodydd ardderchog a gafwyd yn Abertawe yr wythnos ddiweddaf, fel y gwelir oddi wrth golofnau eraill yn y rhifyn hwn. Cafodd prif byngciau y dydd eu gwyntyllio yn drwyadl. A dangoswyd yn eglur fod Rhyddfrydiaeth Cymru yn bren mor flagurog ag erioed. Mae y ddau ddyn Winborn a Canham wedi eu traddodi i sefyll eu prawf. Y cy- huddiad yn eu herbyn ydyw ysgrifenu llyth- yrau bygythiol at Mrs. Joel, er mwyn cael arian ganddi, a bygwth lladd ei phriod, Mr. J. B. Joel, os na chaent. Cymmerodd y cyfan le yn Llundain, yn ystod yr wythnosau diweddaf. Dros bedair mil ar ddeg o bunnau rdyw swm yr arian a ddyfarnwyd fel ad-daiiad i deuluoedd y rhai a laddwyd yn nhanchwa Maypole, y lofa gyfagos i Wigan. Yn y Llys Sirol yn Wigan dydd Tau y bu y dyfarniad hwn. Y Barnwr Bradbury a eisteddai ar y faingc. Ffyrnig iawn ydyw yr Henadur Salvidge, o Liverpool, am fod pobl yn dyweyd fod pobl feddwon yn ngorymdaith y bragwyr yn Llun dain wythnns i'r Sul diweddaf. Yr oedd efe yno. Ac ni welodd ef un dyn meddw. Coeliwn ef. Mor bell ag yr oedd ei lygad ef yn myned. Ond, hawyr, beth am lygaid pobl graff eraill 1 Wrth y llwyfan Cymreig bu tro chwith gan yr hyrwyddwyr. Dymchwelwyd y byrddau arnynt. Ond, arnynt hwy eu hun ain yr oedd y bai. Bu un o'r arawdwyr yn ddigon ffol i enwf 'Lloyd George.' Mewn moment yr oedd y Pare yn diaspedain. Ar areithydd wedi ei ddistewi. Clywsom hyn gan un oedd yno. Ac un a I gymmerai ran yn y distewi. Rhaid fod y peth yn hollol wir.
TRAMOR.
News
Cite
Share
TRAMOR. Pa fodd iorchfygu effeithiau angeuol mall- awyr yn y Mauritius? Dywed y Meior Ron- ald Ross y gellir gorchfygu y drwg os bydd y Llywodraeth yn barod i wario naw mil o bun nau am nifer o flynyddoedd. Pe gellid puro y corsydd y cwyd yr awyr fall o honynt, ac yn mha rai yr heigia y mosquitoes sydd yn ei gludo o honynt, gellid gorchfygu y dflvg yn effeithiol, medd y swyddog galluog hwn. Yn y dyddiau hyn gwneir cymmaint o hel ynt ynglj>n Sg amddiffyniad Awstralia a phe buasai y gelynion ar fin ymosod arni. Trefnir i osod pob un rhwng deuddeg a nhwech ar hugain mlwydd oed o dan ddysgybheth fil- wraidd. A'u cadw dan y ddysgyblaeth am chwe blynedd. Nifer inilwyr Awstralia yn awr ydyw ugain mil. 0 dan y trefniant newydd gall gael redwar ugain mil cyn pen ychydig flynyddoedd. A thuag at sicrhau hyny ni bydd eisieu gwario ond can mil o bunnau yn chwanegol at yr hyn a werir yn bresennol. Yr aflwydd diweddaraf yn yr Indit ydyw llifogydd enfawr. Yn Hyderbad a'r Deccan y bu hyny ynbenaf. Collwyd llawer o fyw ydau, a gwnaed dinystr enfawr ar eiddo. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf yr ydys wedi clywed sibrydon dro ar ol troynghylch rhyfeloedd rhwng y Weriniaeth Arianin a Brazil. Ni chlywir gair am bethau mor an- hyfryd yn y dyfodol, yr ydym yn gobeithio. Mae y ddwy wlad ar fin gwneyd cyttundeb cylafareddol a'u gilydd. Os gellir rhoddi pwys ar arwyddion y dyddiau hyn ni ddigwydd anghydwelediad rhwng y Galluoedd, Yn Victoria, Columbia Brydeinig, mae y cynghaws cyfreithiol mwyaf a fu yno erioed yn cael ei gario yn mlaen yn y dyddiau hyn. Cynghaws rhwng mam a'i mab ydyw. Y swm mewn dadlrhyngddynt ydyw deqg mil- iwn ar hugain o ddoleri. Y fam ydyw Mrs. John Dunsmuir. Y mab ydyw yr Anrhydeddus James Dunsipuir, llywodraethwr y Dreftdigaeth. Taerant Si'u gilydd ynghylch dwy lofa sydd ar Ynys Van- couver. Y mab piau y glofeydd hyn, ac efe sj dd yn eu gweithio. Er hyny, gofyra elfam am gyfrif manwl o'r holl arian a d derbyniwyd ac a wariwyd gmddo o'r flwyddyn 183:3 hyd yn awr. Y cynghaws hwn cldilynii; Syda, dyddordeb neillduol trwy yr holl drefedig- aeth. Sibrydir mewn rhai cylchoedd mai y ffotdd i derfynu yr anghydwelediad rhwng Twrcl a Bwlgaria fyddai yniddlried y cyfan i fartt pwyllgor Cydgynghorfa yr Hague. Yr ydys yn hyderu y gall y ddwy ddyfod i weled lygad- yn llygad heb hyny. Ond, os na allant, da fydd cael cylafareddi id y pwyllgor, neu un o'r Galluoedd. Ychydig ddyddiau yn ol aeth pedwar i fyny yn yr awyren Rhine. Cyrhaeddasant i'r uclider o chwe mil o droedfeddi. Ac o'r uchder hwnw cwympasant yn agos i Dussel- dorf. r '9 Ymddrylliodd yr awyren yn sydyn. Dis- gynodd i lawr yn chwap fel careg Y syn- dod mwyaf, modd bynag, ydyw i'r pedwar ddiangc heb ddim gwaeth nag ysgytiad. Bu damwain arswydus ar y trên trydanol uwch ben yr heol yn Berlin ddechreu yr wythnos ddiweddaf. Dymchwelodd un o'r cerbydau i lawr i'r heol, ac un arall a daflwyd dros yr ymyl nes oedd yn ymgrogi uwch beh yr ystryd. Lladdwyd dau ar bymtheg o bersonau yn ddiattreg, ac anafwyd nifer fawr. Yr achos o'r ddamwain, y mae yn ym- ddangos, ydoedd gwaith y gvriedydd yn es- geuluso yr arwyddion. Cyfaddefa y dyn i bensyfrdaniod ei ddal, fel na welodd yr ar- wyddion o gwbl. Modd bynag, y mae efe ac un arall yn y ddalfa yn aros eu prawf. Yn yr ymladdfa deirw yn Avignon, yr wythnos ddiweddaf, baeddwyd dau o'r ym- laddwyr gan darw ffyrnig. Corriiwyd y ddau yn ddychrynllyd. Oni bae cymmhorth eu cydymladdwyr buasent wedi eu lladd. Cafodd Cymdeithas Llaethwyr Denmarc ei tharaw yn drwm gan dwyll y cyn-weinid- og Alberti. Efe oedd ei IIywydd. O'r her- wydd y mae y gymdeithas wedi ei thori i fjny Dygodd y dymmestl fawr ddiweddaf gyni annaele ar ynyswyr y Bahamas, yn yr India Orllewinol. Dfau y dioddefasai llawer o honynt newyn t6st oni bae am y cymmhorth prydlawn a anfonwyd iddynt. Dyfodoltywyl1 sydd iddynt, am fod eu heiddo wedi ei ddin- yitiio yn mron yn llwyr. Rhydd y cynhauaf toreithiog eleni yn Can- ada symbyliad mawr i osod chwaneg o dir dan wenith at y flwyddyn nesaf. Mae y cynhauaf diweddaf wedi mwy na llanw dis- gwyliadau pawb. Eisoes y mae y Llywodr. it eth yri gosod tiroedd iymsefydlwyr newydd- ion. Gwna y geri marwol hafog annaele yn Rwssia; ond, nid agos cymmaint ag a wna yn China. Mewn un dalaeth yoo y mae deng mil ar hugain wedi eu Iladd ganddo. Ysywaeth, nid oes yn China ddarpariaeth effeithiol i wrthweithio yr haint. Profiad gofidus ydyw eiddo y Cadben Massol, un o swyddogion byddin Ffraingc yn Lille. Yr oedd efe wedi dyfeisio 'trap' i ddal y lladron a allent dori i mewn i'w dt. Ond, ysywaeth, efe ei hun oedd y cyntaf i syrthio iddo. Y fagl ydoedd Ilawddryll wedi ei osod yn ei gist ddillad yn y fath fodd fel y taniai at pwy bynag a agorai y drws. Mewn anghof hollol efe oedd y cyntaf i agor y drws. Yr un foment aeth yr ergyd allan, ac i'w yrnys- garoedd yntau. Myn Llywodraeth yr Almaen y fantais oreu yn bossibl oddi wrth y darganfyddiad ar gloddfa gyfoethog o ddiemwnt yn ei thiriog- aeth hi yn Ne-orllewin Affrica. Eisoes y mae y gorchymyn wedi myned allan yn erbyn i neb fyned yno i gloddio am y trysorau. Hi a'i myn oil iddi ei hun. Oes y cynghresau ydyw hon. Y ddiwedd- af y clywsom am dani ydyw yr un sydd vn eistedd yn awr yn un o dreflanoedd yr Ys- wissdir. Cynnadledd ydyw hon ar y modd goreu i ddysgu merched mewn gwasanaeth teuluaidd. Mae ynddi dros chwe chant a hanner o gynnrychiolwyr. Cynnrychiolir Prydain, Ffraingc, yr Almaen, Rwssia, Awstria a Hungary, yr Eidal, Belgium, ac hyd yn-oed Brazil bellenig, ynddi. Hyderwn y bydd ffrwyth toreithiog ar yr ymgynghoriadau hyn. Hen air a ddywed fod cariad yn ddall. Teulu merch ieuangc o'r enw Miss Spier, o Atlanta, Unol Dalaethau yr America, a daer- ant yn gryf mai cariad perffaith ddall a bar- odd iddi hi ddiangc y dydd o'r blaen i'w phriodi gyda gyriedydd ei modur. Yn y goleuni, y mae yn debyg, yr oedd y 'shaffer,' canys y mae hi yn aeres i filiwn o ddoleri. Hunanladdiadau gan blant ydynt yn cym. meryd He yn fynych yn Berlin, a thrwy yr oil o'r Almaen. Yr enghraifft ddiweddaf ydyw bachgenyn naw mlwydd oed, mab i adeiladydd, yn crogi eihun rhag ofn cael ei gospi gan ei dad am ladrata pum swllt oddi nreifam. Wedi cyfaddef ei ladrad wrth ei fam aeth allan, a chrogodd ei hun. Soniasom o'r blaen am y streic arlinell ffordd haiarn Canada a'r Tawelfor. Gofyn- ai y gweithwyr am godiad yn eu cyflogau, yr hyn a wrthodwyd. Y diwedd fu iddynt hwy eu hunain ofyn am gael eu cymmeryd i mewn yn eu holau. Gweinidog Tramor Rwssia a ddaw yn faan i'r wlad hon. Mae ef wedi bod yn yr Al- maen, ac yn awr yn Ffraingc. Beth yw ei neges? Galwyd deunaw cant o dirfilwyr Ffraingc i fyned i Chartres ar gyfer eu hymarferiadau. Anfonwyd eu clud o'u blaenau. Ond i Patis, nid i Chartres, yr aeth. Yn eudillad cyffredin y bu yn rhaid idd- ynt ymladd. Am nad oedd y cyllill a'r ffyrc chwaith wedi dyfod, rhaid oedd bwyta & b £ s a bawd. Pwy fonglerodd yw y cwestiwrryrr awr. •