Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
Gellir gweled goleuadau coch o bellder j inwy nocr,, gTy. rdd,
! CYNGHRAIR CENEDLAETHOL !…
News
Cite
Share
CYNGHRAIR CENEDLAETHOL CYMRU. Cyfeiriwn ein darllenwyr am yr ad- roddiad o weithrediadau Cynnadledd Cjnghrair Cenedlaethol Cyrnru yn Aber- tawe, yr wythnos ddiweddaf, at golofn- aueraill yn y rliifyn hwn. Ni phetrus- wn ddyweyd ei fod o ran, ysbryd a forwd- aniaeth yn un o'r rhai igoreu a gynnal- iwyd erioed. Yr liin ydoedd yn bob- peth y gellid ei ddymuno. Nifer y cyn- nrychiolwyr ydoedd yn lliosog, a'r eyfar- fodydd cyhoeddus oedd tu hwnt i ddim a, welwyd ar lanau y Dawe un amser. Penderfyniadau y gynnadl- edd oeddynt gynnwysfawr, ac yn yr areithiau yr oedd clocli fawr PJiyddfrydiaetli i'w chlywed yn adsein- io gyda phereidd-dra. Pob peth, mewn gair, a brofai fod calon fawr y Dywys- ogaeth mo,r iach yn y ffydd ag erioed. Dadwrdd ein Toriaid ydyw nad oes gan- ddynt hwy eisicu dim ond cyileusdra ehholiacl cyffredinol- i osod gwedd ne- wvdd ar gymmeriad Cymru mewn ystyr boliticaidd, gan awgrymu eu bod yn myned i ysgubo y wlad. Y mae eu cyn- nrycliiolwyr yn barod yn mhob ethol- aeth. Hyd yn oed y siroedd yr edrych- ent arnynt £811 y rhai mwyaf politicaidd ydynt i gael ymosod 'arnynt. Yn eu ffolineb, tybiant fod teimlad y genedl wedi myned o dan gyfnewidiad trwyadl. 91 Etholiad yr Eglwys hysgolion, Bacchus a'i ysbrydion,' a'r Tirfeddian- nwyr a'u tiroedd, fydd y nesaf. Nid oes genym wTrthwynebiad cryf iddyn'b hwy i anwesu eu breuddwydion, am eu bod yn peri cysur iddynt; dim gwrth- wynebiad, meddwn, tra yn eadw ein pylor ein hunain yn sych, a'n harfau yn loywon. Breuddwyd y wrach wrth ei h'wyllys yw y cyfan; ac amser a'i dengys. Yr ydym, wrth gwrs, yn go- beithio na ddaw y frwTydr fawr gyffred- inol hon am ennyd etto. Er hyny, dy- wedwn hyny nid am. fod genym ofn ei chanlyniadau. Ein hyder yn synwyr da ein cydetholwyr a, barha mor ddiys- gog ag erioed. Ond, ail awgrymwn ein rhwymedigaeth i fod yn effro. Y mae enw da ein gwlad yn ymddiriedaeth rliy gyssegrediig1 i adael iddo syrthio rhwng dannedd y bwystfilod! Od aeth rhyw un i eithaf y Deheu- barth, yr wythnos ddiweddaf gyda gronyn o amimheuaeth o berthynas i ddidwylledd ameanion y Weinyddiaetli gyda golwg ar y Dywysoga,eth, cred- wn na ddacth neb oddi yno dan deiml- adau ammheus. Er enghraifft, gwnaed pwngc Dadgyssylltiad yn amlycach ac yn sicrach nag erioed. I ni, testyn o gryn ryfeddod ydoedd fod i'w gael yn ein mysg gymmaint ag un Rhyddfryd- wr egwyddorol yn medru parhau i gol- edd ammheuaeth am y geiriau cryfion sydd, o bryd i bryd, wedi eu dyweyd, a'u hail ddyweyd ar y .pwnoc hwn. Ni fuom ni yn ammlieu bwriadau y Wein- yddiaeth bresennol ar y pwngc hwn am foment er pan y daeth hi i'r awdurdod yn agos i dair biynedd yn ol. Pa fodd y gallem wrthod rhoddi ein hymddiried yn llawn yn y Llywodraeth aig yr yd- oedd pob aelod o'i mewn wedi, ac yn parhau i dynghedu ei liun i gydraddol- deb crefyddol ? A ffrwyth y cyfnewid- iad a wnaed ynddi mewn canlyniad i farwolaeth yr hyglod Syr Henry Camp- bell Bannerman, a gwaith Mr. Henry Asquith yn yin.,a,flyd yn yr awenau yd- oedd gwneyd acdios Cymru yn rymus- ach nag erioed. Ni raid petruso dy- weyd fod genym y Weinyddiaetli ddad- gyssylltiol oreu a fu yn Mlirydain Fawr erioed. Y rhai ar y cyntaf y tybid fod eu gliniau yn weiniaid ar y pwngc ydynt wedi ei gadael. Nid ces igwyrni na phydredd ar y mater hwn nac unrhyw fater arall yn neb o'r rhai sydd yn aros. A pha bryd y bu Cymru erioed mor gryf mewn unrhyw Weinyddiaetli— Cymru ei htm ? Onid yr ail wrth y Bwrdd Cyfrin ydyw Mr. Lloyd George ei hun? A all y darllenydd am ferment feddwl am Ganghellydd y Trysorlys yn aros mewn gweinyddiaeth ag y gwyddai efe nad ydyw yn 'barod i wneyd ei goreu i'w anwyl wlad? 0 fewn y cylch cyf- rin ceir aelod Cym.reig arall, nid amgen Mr. Reginald McKenna. O'i chwmpas, fel swyddogion is ar ei graddfa:, ceir amryw eraill o'n haelodau pybyraf. Gwasanaetlied Syr Samuel Thomas Evans a Mr. John Herbert Lewis fel esiamplau. Yn sicr, gallwn fod yn dawel ein meddyliau. Caiff Cymru a'i phwngc mawr chw.areu teg gan y Wein- yddiaeth gref a, goiiest bresennol. Dis- 3 gwyliwn yn hyderus y bydd ein mesur yn cael y lie blaenaf ac amlycai: yn araetli y Penadur yn nechreu y flwyddyn nesaf. Hyd hyny—amynedd. Yn briodol iawn rhoddodd Can.ghell- ydd y Trysorlys, fel llywydd y cy- nghrair, le arbenig yn ei araeth fawr ef i gwestiwn y gweithwyr heb waith. Dylai pob gweithiwr trwy y Deyrnas Gyfunol, heb son am dalaeth fechan Cymru, deimlo yn ddiolehgar i Mr. Lloyd George am ei arawd odidog nos Iau yn. yr Albert Hall. Araeth i'r deyrnas yn gyffredinol ydoedd lion, ac aeth yn rhwydd at wraidd y pwngc ar unwaith. Ar araeth o, fath hon nid hawdd ydyw rhoddi gormod o bwys. Ei hareithyddiaeth ydoedd odidog. Nid L dyweyd pethau yn dyfod i'w feddwl ar y pryd yr oedd y gwr hyawdl. A-mlwg- arno fod oriau ol efrydiaeth o'r tu ol iddi. Arno' ef, fel Canghellydd y Trys- orlys, y disgyna y gwaith o chwilio am yr arian i ysgäfnhau baich y rhai sydd yn dioddef cyni. Rhaid gwneyd rhyw- 9 beth ar gyfer y drwg mawr y mae myrddiynau lawer o'n cyd-ddeiliaid ynddo. Pa gynllun sydd gan y Llyw- odraeth ni ddadguddiodd Mr. George, end gwnaeth y peth angenrheidiol blaen- orol i hyny. Gwnaeth ei ran i barotoi meddwl y wlad i wneyd aberilh Ni v/iw disgwyl y gullwn mi, osgoi ein rhwymedigaeth i'r diwaith heb aberth, an, hwyrach hwnw yn aherth mawr. Mawr neu beidio, rhaid ei wneyd. G wnaed hyny yn eglur gan y gwr y dis- gv.ylir iddo ymofyn am y math a'r moddion.' Math o ragymadrodd i draf- odaeth y senedd ar y pwngc oedd yr ar- awd orchestol hon. Mewn cynnadledd (Tymreig, yn naturiol, yr oedd y Mesur I Dirwesto! yn cael lie hel aeth. a brwd- frydedd mawr yn cael ei ddanigos dros to. Nia yw y gymmeradwyaeth i'r mesur yr gryfach yn un rhaii o'r deyrnas nag ydyw yn Nghymru. Heli law bendith- ion cyffredinol y trefniant1 newydd, yr ydym ni yn disgwyl bendithion arbenig yrddo; sef, estyn deddf cau y tafarn- au ar y Sabbath i sir Fynwy, a gyru y ffug-grwydryn sychedig a elwir y teithiwr gwirioneddol rhyw dair mill- dir yn mhellach nag yn avvr i chwilio am ei hoff ddioden. Yr ydym yn ddiolch- gar i'r gynnadledd am ddadganCii llais mor groyw dros a-ppwyntiad gweinidog arbenig i'r Dywysogaeth. Y mae gan Vsgot land un felly er's blynyddoedd, a dylem ninnau ei gael yn ddiymdroi. Ac at hwn, wrth gwrs, Cynghor Addysg ar whhan i'r Swyddfa Addysg. Ni eh aw n chwareu teg beb y ddau ddi- gwyddiad hyn. Hyderwn, wrth der- fynu, y bydd ffrwyth toreithiog ar gyf- arfodydd diweddaf ein Cyiiglirair Cen- edlaethol.
LLYWODRAETH GAREDIG Y GWEITHIWR.
News
Cite
Share
LLYWODRAETH GAREDIG Y GWEITHIWR. Ni ehlywsom erioed am Lywodraeth Doriaidd yn myned allan o'i ffcrdd i dori gwaith i weithwyr lalldn o waith. Nid y gweithiwr yw gwrthddrych ei sylw ym- arf&rol hi. Siarad yn unig yn ei gylch a gara hi. Ond, pan y 'bo nifer y dynion sydd yn gorfod segura yn anarfe,rol fawr, fel y maent yn y dyddiau presennol, yn y fan ceir Gweinyddiaeth Ryddfrydig yn rhoddi ystyriaeth i'w hadfyd, ac yn gwneuthur darpariaeth ar eu cyfer hyd y byddo yr amgylchiadau yn caniatau. Hyny ydyw, nid. ar siarad heb weithredu y boddlona, hi, fel y Llywodraeth sydd beunydd a'i llygad ar fuddiannau aris- tocrataidd, parsoniaid, darllawyr, a thir- feddianwyr. Nid oes eisieu i ni ddy- weyd pwy ydyw gwir gyfeillion y gweithiwr. Yr ydyrn yn attegu ein gosodiad gyda chyfeiriad at dair ffaith neillduol a ddigwyddodd yr wytlnios ddiweddaf oil. Eisoes cyfeiriasom at un 0 honynt, sef, araeth benigamp Cang- hellydd y Trysorlys yn Abertawe. Bron ar ei hyd nid oedd hono ond dadganiad o. gyfeillgarwch gonest y Weinyddiaeth breseamol tuag at y gweithiwr heb waith), a'i bwriadau ar ei gyfer. Ffeithiau o natur dra gwahanol ydyw y ddwy arall, ond yn arddangosiad o'r un ystyriaeth deimlaclwy a charedig. Y gyntaf o'r ddwy ydyw yr hysbysiad a wnaed gan Mr. Haldane mewn cyfarfod yn Ysgot- land nos Ferclier, i'r perwyl ei fod ef yn gwneyd trefniadau, fel Gweinidog Rhyfel, i osod un mil ar bymtheg o'r dosbarth hwn 0' weithwyr o dan ddysg- yblaeth filwraidd am chwe mis, gan ddarparu iddynt fwyd a pheth cyflog yn y cyfamser. Gellir disgwyl y bydd y rhan fwyaf o honynt, os nad yr oil, yn abl i gael gorchwyl ar derfyn y tymmor liwnw; Os tery am lie 11 un o honynt ar waith ar ganol ei dymmor, diau na fydd gan Mr.' Haldane wrthwynebiad i'w.oll- wng1 yn rhydd, er mwyn ei fachu' ar unwaith. Yr ail ydyw yr hysbysiad dy- ddorol a wnaed gaai Mr. McKenna ddydd Sadwrn fel Prif Arglwydd y Mor- lys, i'r perwyl ei fod ef. am orchymyn dechreu adeiladu nifer o longau rhyfel newyddion yn gynt na'r adeg y bwriedid ar y cyntaf, a hyny o hwrpas er mwyn cyfarfod i ryw fesur a'r alwad am waith. Ynglyn a hyn, chwanega y bydd yr oil o'r archebion sydd yn sefyll heb eu rhoddi allan am wiblongau hai- arn-wisg a dinystrwyr' yn cael eu gosod yn nwylaw perchenogion buarth- au preifat:hyny yw, y llestri yn cael eu hadeiladu, nid yn muarthau y Llyw- odraeth ei hun, yn y rhai nad oes prin- der gwaith, ond yn v rhai y bu yn rhaid troi gweithwyr allan ohmlynb o herwydd diftyg larchebion. Mewn canlyniad i drefniant newydd y Morlys, bydd y gweithwyr hyny, a llawer yn cliwaneg, yn cael eu cymmeryd i fewn. Nis gall y Tori mwyaf liannerpo edliw mai rhag- rith ydyw hyn mai cryfhau y llyniges yn unig" sydd mewn golwg (er mai nid hwynthwy ydyw y bobly byddai yn gysson ynddynt yngan gair yn erbyn cynllun a'r amcaii hwnw iddo). Nage: tosturio wrth y gweithiwr yn ei angen ef a'i deulu a wna. y Llywodraeth, adangos ei chydymdeimlad a hwy yn yr unig ffordd gwerth ei ddangos — mewn I gweithred a. gwirionedd. ) r ydym yn hydeiiu y bydd hyci yn cecLPlaid Llafur • -I- yn meddu digon o onestrwydd a mawr- frydigrwydd i gydnabod fod y Weinydd- iaeth yn swcro y gweithiwr yn effeithiol. CynlhmÍàu gwir ymarferol o'r nodwedcl hwn ydynt fil ragorach, yn eu hamcan a'u heffaith, na thrampio y wlad,' i ym- fflamychu pethau hurt-eithafol, a helpu y Toriaid i ennill seddau Rhyddfryclig yn Nhy y Cyffredin.
ARGOELION GWAWR.
News
Cite
Share
ARGOELION GWAWR. Ni raid i ni hysbysu y darllenydd ein bod er's misoedd mewn eyflwr o farw- eidd-dra ynglyn a gwaith a masnaeh. Ond, ai tybed fod. y nos ar fin darfod? Ai tybed ein bod yn min gwawr? Swyddogion y Llywodraeth, dyledswydd arbenig pa rai ydyw gwylio cwrs diwyd- iant a thrafnidiaeth, ydynt yn dechreu newid eu ton. Gwelant hwy rhyw ar- goelion sydd yn eu boddloni ar y ffaith fod y blaenaf, o leiaf, yn dechreu gwella, ao ymfywiocau. Yr arwyddion hyn a gGi" mewn gwahanol ranau o'r wlad, debygem. Yn enwedig, fe'u ceir ar hyd glonau y Glwyd yn Ysgotland, ac yn Neheudir Cymru yr un model y ceir yr argoelion dymunol hyn. Mae yr archeb- ion am waith yn llawer lliosocach nag y buont, ac am hyny, mwy o. grefftwyr yn cael gorchwyl a chyflog. Wrth g'wrs, parha sir Gaer Hirfryn i fod yn yspot- yn du.' Yr anhunedd yno yn mysg y gwehyddion a'r cribwyr a barha; ond yr ydym yn diolch am rai seiliau i obeithio na cheir gweled y ga.uaf wedi cerdded yn mbell iawn yn mlaen heb i gymrnod gael ei wneyd yn myd y cotwm. Gan hyny, gallwn yn rhesymol ddisgwyl y bydd y cyfyngder yn y ga.uaf agoshaol yn llai, yn ei ddioddefaint a'i drueni, nag yr oeddis rai wythnosau yn ol yn ofni ,a, fuasai. Wrth gwrs, dibyna Ilawer ar yr hin. Effaith gftuaf hir a chaled fydd peri attalfa ar waith yn yr awyr agor- ed, a. tbnvy hyny liosogi nifer y gweith- wyr heb waith. Ar yr un pryd, cym- merwn olwg gyffredinol ar yr amgylch- b b" iadau achos i deimlo yn weddol oheith- iol sydd genym. Na siomer ein disgwyl- iad am doriad y wawr.
HELYNT PWRS Y WLAD.
News
Cite
Share
HELYNT PWRS Y WLAD. Mewn rhai cyfeiriadau gwneir ym- gais i greu pryder ynghylch sefyllfa gyll- idol y deyrnas. Y dydd o'r blaen yr oedd un o'r prophwydi drygioni yn myn- ed mor bell a dyweyd y bydd y diffyig yn y gyllideb nesaf yn llawn pymtheng mil- iwn o bunnau; ac mai mewn prudd-der y bydd Mr. Lloyd George yn traddodi ei araeth gyntaf fel Canghellydd y Trysor- lys. A pha reswm sydd gan y darogan- wyr ar bethau anhyfryd i'w roddi dros geisio rhoddi i ni fraw yn y modd hwn ? Ho! y, Llywodraeth yn myned i wario ar ryw bethau nad yw hi etto wedi dyweyd gair yn eu cylch; wedi cynnyg eu gwneyd, nac yn bwriadu eu gwneyd! Gan mai hon ydyw eu ffordd rwydd hwy i wneyd diffygion yn y gyllideb, yr ydym yn rhyieddu eu bod wedi gallu ymattal ar ddim ond y swm cymmedrol o bym- theng miliwn o ddifiyg. Pa ham na 9 1 fuasent yn ei wneyd yn hanner can mil- iwn yn y man lleiaf? Ynfydrwydd di- gymmysg ydyw pob rhyw faldordd o'r fath yma. A fynai y prophwydi hyn i Mr. George gyhoeddi ei gyllideb cyn y Nadolig, ac nid yn mis Ebrill y flwyddyn nesaf? A ddywedant hwy y dylai efe wneyd yn hysbys yn Senedd yr Hydref pa, drethi a tholhm newyddion y bwriada efe eu codi—er mwyn cyfarfod a'i ddiffyg? Pan yr ydys yn cael aw- grymiadau o'r fath yma yn cael eu gwneyd mewn pwyll, ac i bob ymddang- osiad mewn difrifwcli, yr ydys ar un- waith yn symio i fyny ein barn, ac Y11 dyweyd—rDynion diwybed a dibrofiad. Ni chlybuwyd erioed o'r blaen am ddim o'r fath, a chan wyr o wybodaetha pliroiiad edrychir ar y daroganwyr a'u daroganiadau dan chwerthin a ehyda. dirmyg. Nid oes bwynfc na grym yn yr awgrym fod Cyllideb y flwyddyn nesaf eisoes yn pwyso yn drwm ar Farchnad yr arian ac ar y Stock Exchange. Nid oes pwys o gwbl yn hyn. Hyd y gellir gweled, nid oes nernawr, os dim gwahaniaeth yn ein seiyllfa. heddyw o'i chyferbynu a'r hyn ydoedd dri mis i heddyw. Yr oeddis yn gwybod y pryd hwnw y byddai gan Ganghellydd y Trysorlys cfynion trym- ion i'w gwne}7d ar y trethdalwyr. Ac etto, yr unig gasgliad y gallwn ei dynu I oddi wrth yr hyn. a ddywedodd efe yn \1 araeth fawr yn Abertawe nos Iau ydyw, ei fod ef ei hun yn edrych yn mlaen gyda me-sur helaeth o sirioldeb ysbryd at .yr adeg pan y daw galw arno i wynebu Ty y Cyffredin gyda'i Gyllideb gyntaf. Ac y -mae efe yn gwybod mwy am, ac yn gallu edrych yn mhellach ac yn ddyfnacli i'r sefyllfa na'r daroganwyr prndd-ar- 0 goelus. Amlwg yw nad ydyw y rhagolwg yn gormesu ar ei ysbryd ef. Mae ei ben yn rhy glir i ddim o'r fath. Pe gwelsem ef yn brudd, buasai genym reswm dros deimlo yn brudd ein hunain. I'r gwrth- wynelbgobaith a, hyder oedd cyweirnod- au ei araeth ar ei hyd; nid am ragolygon politicaidd ei wlad ond hefyd am ragol- ygon cyllidaeth ei deyrnas. Diau ei fed ef eisoes, yn ei feddwl ei him, wedi tynu allan brif linellau ei Gyllideb; ond, efe a erys hyd nes y delo yr adeg cyn dad- guddio yn mha gyfeiriadau y bwriada ( dramwv.
-" |!lt)thpr ^(unbain.
News
Cite
Share
|!lt)thpr ^(unbain. Llundaim, Nos Lun, Hydref 5ed, 1908.' (Oddi wrth cin Gohebydd Neillduol). Ar Crwydr. Wedi'r eisteddfod wlyb, aiigliysurus yn Llangollen, pleser o'r fath fwyaf oedd cael ymlieulo am ychydig wythnosau yn nhes gogoneddus dyffrynoedd Tuscany. Fe'm temtiwyd i fyned (am yr ail neu y trydydd tro) gyda chyd-Geltisaid eraill i dreulio Sul efo'r Llydaw-wyr yn Brest, ond rhywfodd neu gilydd, er pob tueddiad1 caredig tuag at y eefndryd sydd yn ceisio eyss ylltu Barddas gydag amrywiol bethau eraill tra anghyd- marus, nid ydwyf etto wedi gallu dygvmmod a'r Chwareuon Ffrangcaidd ?ydd yn myned o dan yr enw Fetes Celtiques,' ac yn.' cym- meryd aruyut eu bod yn perthyn i'r oil-- teddfod. Cawl cymmysg,' o ddefnyddiau digon anghydniarus ydyw y 'Fetes ac nid ydwyf yn sicr' na ddylai Gorsedd Beirdd Y llYS Pry dam wneyd mwy o ymchwiliad cyn taflu ei mantell drcstynt. Ond nid fy musnes i ydyw dysgu yr Orsedd; fe wyr yr Archdderwydd a'i gydswyddogion y tfordd yn llawer gwell Mg y medraf i ei ddangos, a d'igon i mi yw dyweyd! na roddais y tro hwn Ie i'r demtasiwn. Yn hytrach fe aeth- um i gyfeiriad y De i chwilio am olion trig- iad yr hen Liguriaid a'r Etrusciaid yn Lom- barda a Thuscany, a, rhanau eraill o ganol- barth Italy. Mae rhyw atdyniad rhyfedd i mi yn hanes y bobl hynod fu yn cyfaneddu ac yn adeiladu yr a ni dd i fry 11 f e^'d d cedym ydynt wedi goroesi y canrifoedd, ac sydd y dyddiau hyn yn cael sylw arbenig prif lenor- ion a hyiiafiaethwvr pob gwlad. Hwyrach fod a fyno y cyssylltiad possibl rhyngddynt hwy a'r bobl foreuol hyny a groesasant y cyfandir ac a diriasant yn y cynoesau yn Mhrydain rywbetli a hyny. Boed hyny fel y bo; y mae pleser d'iliysbydd yn y gwaith o chwilio ol eu traed ar hyd a lied y rhanbarth hono o'r Eidal y cyfeiriwn ato. < Ac os bydld1 un yn blino crwydro y mae yn eithaf hawdd yn awr astudio eu gwaith a'u hanes yn yr amgueddfeydd yn Padua; Bologna, a Flo- rence, o blegidl y mae dvsgedieion Italy wedi llwyr ddeffro i'w pwysigrwydd ynghylch y bywyd cenhedlaethol, ac yn gwneyd yr oil sydd ynddynt i ymlid y tywyllwch sydd wedi gordoi eu banes trwy Jawer o ganrifoedd. Ar whan i ryw grwydriadau hynafiaethol fel hyn yr oedd Italy gyda'i chelfyddyd ddigyffelyb a'i haul, yin baradwys fechan i un wedi blino ar niwl a gwlaw ac oerfel, rhyw Awst a Medi anamserol. Er hyny i gyd cartref ydyw cartref,' a theg edrych yno gan nad beth fo'r iswynion. y fan draw.
DADSEFYDLIAD.
News
Cite
Share
DADSEFYDLIAD. CYNNADLEDD BWYSIG YN LLUNDAIN. Bydd i gynnadledd arbenig ar Ddadsefydl- iad, wedi cael ei galw gan Gymdeithas Rhyddhad Crefydd gael ei chynnal yn y Westminster Palace Hotel, Llundain, ar y 12fed o Dachwedd nesaf. Bydd y gynnadledd yn ddadblygiad newydd o'r holl symmudiad tuag at gydraddoldeb crefyddol i'r holl deyrnas. Yn nghyfarfod y borellceir dadl ar gys- syllfciad Dadsefydliad ag undeb Cristionogol a chynnydd cymdeitha so 1, ac ar y cyfleus- dra presennol, a chyfrifoldeb pawb sydd yn ceisio buddiannau uchaf crefydd, i gychwyn ymgyrch fywiog er ysgaru yr Eglwys oddi wrth y Llywodraeth. Treulir cyfarfod y prydnawn i ystyried y cwe-stiwn Cymreig. Llywyddir gan Syr S. T. Evans, y Cyfreithiwr Cyffredinol. Cym- merir rlian yn y cyfarfod gan y Parch. Dr. Clifford, y Parch. Evan Jones, Caernarfon, llywydd etholedig Cynghor yr Eglwysi Rhyddion, ac amryw aelodau seneddol dros Gymni. "Cynnelir cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr, yn y City Temple. Cyrrimerir y gadair g'an Syr Robert Perks, A.S. Yn mysg y siar- adwyr bydd amryw o brif ddynion Cym- deitlias Rhyddhad Crefydd.
COLEC Y COCLEDD.
News
Cite
Share
COLEC Y COCLEDD. Cynnaliwyd cyfarfod o Gynghor y Coleg dydd Llun diweddaf, Medi 28ain, pryd yr oedd yn bresennol:—Y Gwir Anrhyd Argl- wydd Kenyon, cadeirydd; Mr. Henry Lewis, is-gadeirydd; Mr. H. R. Davies, Proffeswr E. Taylor Jones, Mr. W. P. Mat- thews, Mr. T. G. Osborn, Mr. H. Bulkeley Price, Prifathraw Syr Henry R. Reichel, ei Anrhydedd y Barnwr Bryn Roberts, y Gwir Barchedig Esgob Bangor, y Cofrestr- ydd, a'r Is-gofrestrydd. Cymmerodd y cy- nghor i ystyriaetih benderfyniadau oddi wrth gynnrychiolwyr chwarelwyr Bethesda, Cynghor Dinesig Bangor, a Chynghor Tref- ol Blaenau Ffestiniog, gyda golwg ar y bwr- iad i ddefnyddio llechi o'r Deheudir i doi yr adeiladau newyddion. Ar gynnygiad y cad- eirydd, yn cael ei eilio gan Mr. R. H. Davies, pasiwyd y penderfyniad a ganlyn:— Dymuna Cynghor y Coleg gydnabod der- byniad y penderfyniad a basiwyd genych gyda golwg ar v llechi yr ydys am doi yr ad- eilad newydd a hwynt, a dadgan eu gofid o blegid iselder y fasnach lechi yn Ngogledd Cymru ar hyn o bryd. Wrth blanio y coleg newydd bu raid iddynt gadw mewn cof eu bod yn darpar adeilad sydd i fod yn feddiant i Gymru aim; genedlaethau lawer, a chyda'r amcan yma bu iddynt sicrhau gwasanaeth y pensaer goreu yr oedd yn bossibl ei gael. Codi adeilad fyddai'n gorfforiad o'r hyn sydd uwchaf yn y gelfvddyd hon fu eu- hunig am- can, ac er mwyn ei gyrhaedd, gosodwyd pob peth arall, pob ystyriaeth leol a phersonol. o'r naill du. Y mae'r arddull ddewiswyd yn gofyn am lechi nad yw eu tebyg, fe'u hysbysir, o ran arliw a graen i'w cael yn unlle yn y Gogledd, ac nid ydys wedi bod yn fyr o wneuthur yr ymchwiliadau llwyraf ar y pen yma. Felly, nid oedd dim i'w wneyd ond naill ai defnyddio'r llechen fwyaf pwrpasol, neu ddewis un leol, fyddai, er yn ddiguro ynddi ei hun, yn anaddas, yn marn y ponsaer, i'r adeilad, ac yn elf en estronol yn nghyfanwaith y cynllun. Nid ydyw'r cynghor yn teimlo y gallant gyda phriodol- deb ddiystyru barn eu swyddog profiadol ar y pen yma, vn enwedig pan gofiant fod y penderfyniad 'i ddefnyddio llechi o'r De wedi bod ger bron y wlad ain flwyddyn a chwarter, fod c'vttundeb" gyda pherchenogion y cliwarel wedi ei arwyddo er's misoedd, ac nad yw y swm a delir am lechi yn debyg o gyrhaedd 200p. > Hydref 2il, 1908.
[No title]
News
Cite
Share
Adeiledir y simne dalaf yn y byd yn Mon- tana, Ulyl Dalaethau America. Pan, v gorphenir, cyrhaeddu uchder o 506 o droed- feddi. Hyd yma, yr Almaen oedd yn ym- ffrostio yn y simne uchaf, un o 460 o droed- fcddi.
TRAMOR.
News
Cite
Share
■V- Prydnawn dydd Mawrth gwelid awyren yn hofran uwch ben fforest Dourdan yn Ffraingc. Yn sydyn gwelid fflam ddisglaer, a'r foment nesaf swp du yn disgyn yn nghan- ol y Goed. -Ni chaed dim olion.o'r awyren, ac ni wyddis a. oedd dynion ynddi. Mawr fraw fit yn Liege, yn Belgium, y dydd o'r blaen. Cynimerwyd dynes i'r ysbytty, a thaenwyd y gair mai y geri oedd ei chlefyd. Yli ffodus, nid oedd sail i hyny. Mae y Campau Olympaidd yn y y Fatican wedi darfod. Ennillwyd llawer o'r gwobr- wyon gan Wyddelod. Neidio a dringo polion oedd eu prif orchestion hwy. Mwynhau eu liunain yn yr Almaen y mae brenin a brenhines Yspaen yn y dyddiau hyn. Atit o lys i lys. Rhoddir craesaw mawr idd- ynt 111 mhob man. 'Gwneir ffyrddhaiarn newyddion yn China, a. chodir ysgolion dyddiol yn mhob cwr o'r ymherodraetR. Ond, mor bell ag y mae llywodraethiad mewnol y wlad, nid oes ne- mawr os dim cyfnewidiad. China bedair mil o fiynyddoedd yn ol yw hi heddyw. Y tanau yn nghoedwigoedd yr America ydyntor diwedd wedi cwrdd &'u trech—y gwlaw. Ar hyd mis Medi, yr oedd wedi bod yn sych, heb gymmaint a dyferyn o wlaw Ond, y ddau ddiwrnod olaf daeth i lawr yn genllifoedd, gan wneyd mewn byr amser yr hyn y methai miloedd o bobl ei wneyd. Tua chanol y mis diweddaf bu tymmestl ag y ceir manylion fim dani yn awr yn gwneyd galanas difrifol yn Ynysoedd y Phil- ippiniaid. Tymmestl wynt o'r math a ehvir typhoonydoedd. Anrheithiwyd Ynys Samaar j yn dÔst iawn. Ynysoedd Mindoro, Masbate, a Marin- duque, a ddioddefasant. yn d6st, hefyd. Collodd lliaws eu bywydau. Cyfrifir yr anrhaith ar eiddo yn werth tua phedair mil o ddoleri. Rhwng Mr. Roosevelt a Mr. Bryan yn Unol Dalaethau yr America y mae cadym- baid wedi ei gyhoeddi. Dywed y blaenaf fod y ddadl' yn disgyn i'r personol.' Gresyn oedd i'r ddau ddechreu ymgecru. Pryderir yn fawr yn y dyddiau hyn yn nghylch iechyd y Brenin Charles o Rouman- ia. Dydd Tau efe a fu mewn lIewyg am dair awr. Dywedir fod ei nerth yn darfod yn fawr. Gan Mr. Wilbin Wright, ni a debygem, y maeyr awyren oreu at wasanaeth milwraidd. O'r ^hyn lleiaf, dyna farn Llywodraeth Ffraingc, Mae hono wedi rhoddi gorchymyn iddo am hanner cant o awyrenau wedi eu gwneyd ar ei gynllun neillduol et. Canlyniad y llifogydd enfawr yn Hyder- abad, medd yr adroddiad diweddaraf, ydyw colled ar o ddeutu mil o fywydau. Cododd un afon dros drigain troedfedd yn uwch na'i lefel arferol. Cyrph y meirw ydynt yn prys- ur lygru, ac ofnir rhag i haint dori allan. -Bu canlyniad difrifol i anghof yn Lisbon, prif ddinas Portugal, dydd Mercher. Magnel- wr a daniai fagnel, Wrth wneyd hyny, anghofiodd osod peg'bychan ynddo, i attal y nwyon rhag chwythu all, fel y Uosgwyd pedwar o ddynion a safent ger llaw yn dost. 0 Tiflis, yn Rwssia, ceir gair yn hysbysu fod yr heddgeidwaid wedi darganfod cronfa fawr o losgbelenau, drylliau, ac ergydion mewn ystordy tanddaearol. Elid i mewn i'r ystordy trwy ddrws dirgelaidd wedi ei wneyd o'r tu ol i'r tfin mewn tJnad oedd neb yn byw ynddo. Cymmerwyd amryw bersonau i'r Iddalfa. Gwnaed y llosgbelenau yn y tyhwn. Am fod y cyfan o dan y ddaear, nid oedd dim ynddo i greu drwgdybiaeth yn yr heddgeid- waid. Boreu wythnos i hedddyw cafwyd dyn 4'i enw Sidney Greaves yn farw yn ei letty yn Passy, yn Ffraingc. Ysgrifenodd lythyr at benaeth yr heddgeidwaid. Yn hwndywedai ei fod yn bwriadu cymmeryd gwenwyn. Gorchwyl presennol Marconi ydyw gwneyd i'w bellebyr diwifrau weithio ar draws yr oil o Canada. Yn ol yr arwyddion bydd yn debyg o lwyddo, hefyd. Masnachwyr Can- ada a ddisgwyliant hwylusdod mawr oddi wrth hyn. Yn mron mor gynted ag y dechreuodd Syr Thomas Gibson Carmichael ar ei ddyled swyddau fef llywodraethwr trefedigaeth Victoria, yn Awstralia, tarawyd ef i lawr gan yr anwydwst. Galwodd ei holl ym- rwymiadauynolam dair wythnos. Gan ei fod wedi cael yr anhwyldeb yn drwm iawn y tebygolrwydd ydyw y bydd yn rhaid iddo ymgadw yn ei dy- am amryw wythnosau yn hvfy- Y Dalai Lama o Thibet a alltudiwyd oddi yno yn adeg yr yiiigyreh, Prydeinig fiynydd- oedd yn ol. Dechreu yr wythnos ddiweddaf yroeddefeyn talu ymweliad & Llys China yn Pekin. Daeth yno o Ting-chan mewn cer- bydres arbenig. Gorymdaith o Dibetiaid gwylltion gyda'u gwynebau wedi eu llosgi gan yr haul, yn marchogaeth merlynod bychain, oeddynt yn gorymdeithio trwy yr heolydd, ac yn destyn syndod miloedd o edrychwyr. Rhoddwyd i'r Dalai Lama groesaw mawr yn y brif ddinas Chineaidd. Gwyddis erbyn hyn pa beth ydyw rbaglen y Rhyddfrydwyr yn Twrci. Estynir yr eth- olfraint i bob dyn dros un ar hugain mlwydd oed. Pawb o bob cenedl ydynt i gael yr un rhagorfreintiau a'u gilydd, ac i dalu yr un trethi. Byddswydfeyddy Llywodraeth yn agored i bawb, heb wahaniaeth o herwydd credo na gwaed. Agorir y fyddin i rai heb fod yn Fahometaniaid. Caniateir rhyddid crefyddol perffaith Bydd yr holl ysgolion dyddiol dan arolygiaeth y Llywodraeth, a'r addysg yn rhad yn yr ysgolion elfenol. t