Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
HELYNT GER LLANRWST.
News
Cite
Share
HELYNT GER LLANRWST. ACHOS RHWNG DAU GYMMYDOG. Yn heddlys Llanrwst gwrandawyd aclios yn mha un y cyhuddai lJrice Evans, Cefn Madoc, Maenan, Llewelyn a Willam Rob- erts, Cerniach, o ymosod arno rhwng un ar ddeg a hanner nos, Medii 12fed, pan oedd ar ei ffordd adref o Llanrwst. Ymddangos-ai Mr. R. 0. Davies (Llanrwst a Blaenau Ffestiniog) i arwain yr ac\ ,-s drcs yr erlynydd, a Mr. J. E. Humphreys. dies y diffynyddion. Yr. eriynydd a ddywedai ei fod yn myned adref, ac i'r diiFynyddion ddyfod i iawr o'r cerbyd. Daeth Llewelyn Roberta yn gyntai, a dywedodd; Mae hi yn ddigon buan i ti'r d ac yna ymosododd arno. Wedi hyny neidiodd William o'r cerbyd, a dechreuodd ei gicioo'r tu ol i Llewelyn. Tystiai Walter Jones iddo weled yr er- lynydd yn y dref tua hanner awr wedi deg, ac nid oedd dim arwydd diod arno, a thyst- lwvd yn mbellach ean Thomas Jones, Bryn Bettws; WilHam Thomas, gwas y diffyn- .vuaioii; yr nwu a dayweaai nad aeth Will- iam Roberts or cerbyd o gwbl; a John Pierce, Gwytherin. Yr achos dros y diffynydd Llewelyn Rob- erts oedd, fod yr elynydd wedi curo ei ddwylaw, a dychryn ei ferlen, a gwaeddi rhywbeth ar ei ol rhyw bythefnos yn fiaenor- ol, yr oedd wedi dyweyd wrth y gwas y golchai yr erlynydd pan gawsai afael arno. Yr erlynydd a roddodd liwth iddo ef yn gyntaf, ac ni wnaeth ond tagu tipzii arno yn y gwrych. Gwadai William Roberts yn bendant iddo fyned o'r cerbyd o gwbl. Taflwyd yr achos yn erbyn William allan, a dirwywyd Llewelyn i ddeg swllt a'r cost- au.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae dros 500 o filldiroedd o ffyrdd. Jlaiarn yn Ceylon.
iunbir (Trmnt.
News
Cite
Share
iunbir (Trmnt. f Oddi wrth nin Gohfbvdd Nnitfduol., Urddo Cweinidog yn Soar, Cwm Clydach. Rihoddes eglwys Annibynol Soar, Cwtm Clydach (Clydacih Vale), alwad i Mr. John Caerau Rees, myfyriwr yn Athrofa Aber- honddu, i fod yn weinidog iddi. Cynnaliwyd y cyfarfod urddo ar ddydd lau, wythnos i'r diweddaf. Yr oedd Cyfarfod Trimisol Anni- bynwyr Dwyrain Morganwg yn cael ei gyu- nal yno yr un adeg. Dechreuodd hwnw ddydd Mercher. Yr oedd yno,, gan hyny, gynnulliad rhagorol o tldyeithriaid wedi dyfod i cliwyddo'r cyfarforlycifl. A chafwyd cyf- arfodydd liliagorol o ran torfeydd a gwasan- aeth, Yr oedd v cynrweinidog—y Parch, T. Williams, wedi ymddiswyddo o'r weinidog- aeth sefydlog er's dwy flynedd yn ol. Llanwasai ei gylch yno yn. llwyddiannus am 26ain mlynedd; ac yr oedd efe yno yn çyhI- 111eryd rhan bwysig yn nghyfarfod urddo ei olynydd. Cwrdd pregethu oedd yno yn y boreu, a. pftiregethodd y Prifathraw ,T. Lewis, M.A., B.D., Aberhonddu, ar egwyrld- orion Annibyniaeth a phregethodd y Parch. T. Williams yr annogaeth (charge), i'r egl- wys. Cynnaliwyd gwasanaeth yr urddo am ddau o'r gloch. Cymmerodd y Parch. E. Richards, Ton-y-pandy, y gadair lywyddol. Rhoddwyd y gofyniadau i'r gweinidog gan y Parch. J. Williaims, Hafod, ac attebwyd hwynt yn gymmeradwy ganddo yntau. Yna. rhoes y gynnulleidfa arwydd o'i chydsyniad a'i attebion; ac ymrwymodd yntau i'w gyf- ammod gweinidogaethol. Wedi'r cynawn. iad pwysig yna, daeth dau aelod o eglwys Seion, Caerau, Maesteg, yn mlaen i gyf- Iwyno i Mr. Rees swp o lvfrau detholedig— gwerth 20n.1ros ei gyfeillion yn yr eglwys ho no. Dilynodd y Prifathraw Lewis hyn ag anerohiad craffus a chvfaddas. Ac wcd'yn traddodwyd yr archiad defodol i'r gweinidog gan y Parch. J. Hope Evans, Mardy. Gwas- ."naethodd v Parch. Rowland Huws, B.D., Tylorstown, a'r Parch. Gwilvm Rees, B.A. —brawd y gweinidog iiewydd-vii nghyfar- fod. yr hwyr. Yr oedd arlwy cyfluniaeth de wedi cael ei darparu i'r dyeithriaid yn /r ysgoldy wedi y cyfarfod urddo. Yr oedd yno lu- o weinidogion, ac o efrydwvr athnjfa- ol wedi ymgasglu i'r cyfarfod arbenig hwnw. Brodor o Sciwen ydyw Mr. Rees, a brawd i'r Parch. T. Mardy R ees, Llundain, ac i'r Parch. Gwilym Rees, Llandysul. Marwolaeth Newyddiadurwr Cymreig. Bu Mr.FJbenezer Rees, Ystalyfera, per- chenog a golygydd 'Llais Llafur,' newydd- iadur Cymreig wythnosol, farw ddydd Mer- cher diweddaf. Bu Mr. Rees yn dioddef yn fawr gan anhwyldeb corphorol; ac aim, hyny gdrfu arno roddi'r newyddiadur i fyny ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf. Aeth wedi hyny, yn mis Mawrth, tan driniad offer llawfeddygol yn Ysbytty Abertawe. Ond ni fu'r driniaeth hono yn foddion i'w adfer; clafychodd yn waeth-waeth, o hyny hyd der- fyn ei fywyd. Cymmerodd Mr. Rees ran dda yn mywyd cyhoeddus ei ardal; a bu llaw ddiwyd ganddo i liyrwyddo achosion chynnydd a llesoldeb y bobl. Yr oedd yn wr selog dros IIndeb y Crefftwyr.' Bu efe ei hun yn gweit'hio tan y ddaear hyd nes daeth i'w lawn oed. Ymgymmerodd wed'yn a bod yn fasnachwr llyfrau. Cododd swyddfa ar- graphu yn 1877, a chyhoeddodd newyddiad- ur C-ymraeg wythnosol a elwid Y Guladwr Cymreig.' Papur byrhoedlog fu hwnw. Eithr ymaflodd drachefn mewn cyffelyb or- chwyl yn 1898, a daeth a Llais Llafur allan yn wythnosol, a chynnorthwyid ef gan ei ddau fab. Parhacdd i'w ddwyn allan yn rheolaidd hyd derfyn 1907. Galerir ar ei ol gan weddw a saith o blant. Bwriedid eladdu ddydd Sadwrn diweddaf, yn mynwent Beulah, Cwnrtwrch. Sefydlu Gweinidog yn Ynyshir. Y mae'r Parch. J. Wilson Roberts, gynt o eghvys y T. C. Stretford, Llundain, wedi ymsefydlu yn weinidog eglwys y T. C. Tab- ernacl, Ynyshir, Rhondda Fach. Wyth- nos i ddydd lau diweddaf y cynnaliwyd y cyfarfod sefydlu yno. Daeth llawer o ddy- eithriaid i'r cyfarfod hwnw. Yr oedd yr egl- wys wedi arlwyo'r byrddau te iddynt yn ys- goldy'r capel cyn y cyfarfod. Llanwcdd Mr. W. Evans, Manchester House, swydd y gad- air lywyddol. Ilhoddodd Mr. Levi Williams hanes byr am yr alwad. Yna, caed gair da am y gweinidog fel pregethwr a bugail gan Mr. Stephens, blaenor yn eglwys Stretford, Llundain, a chan y Parch. D. Oliver, Llun- dain. Anerchwyd yn roesawgar gan y Parchedigion a ganlyn :-D. M: Phillips, M.A., Ph.D., Tylorstown; LI. B. Williams, B.A., a B. Watkins, Ferndale; W. Williams, a D. J. Evans, Pont-y-gwaith E. C. Davies (A.), Baron, a J. R. Phillips (B.), Ynyshir; T. E. Davies, Blaen Clydach, ac eraill. Pregethwyd yn nghyfarfod yr hwyr gan y Parch. W. Lewis, Penuel, Pont-y-pridd, a'r Parch. D. Oliver, Llundain. Y Parch. W. Charles, Treorci, yn Ymneiliduo. Ymneillduodd y Parch. W. Charles, M.A., gweinidog eglwys Hermon (A.), Treorci, er's rhai miRoedd yn 01.' Y mae Mr. Clharles yn dioddef gwaeledd iechyd er's dwy flynedd, ac y mae Mrs. Charles, hefyd, mewn iechyd egwan. Y i-raei- teulu, gan hyny, yn ym- ada-el o Dreorci i fyw yn Eforest Each, ger Abertawe. Cynnaliodd yr eglwys gyfarfod ymadaw-ol, nos Eawrth, wythons i neiihiwr, j anrhegu Mr. Charles a'i deulu. Cadeir- iwyd gan y Parch. J. Davies, Cwmparc. Dy wed odd Mr. John Evans, diacon, fed Mr. Charles yn bregethwr rhagorol, iach yn y ffydd; pregethai Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio. Ni ellid dyweyd hyny yn onest, medda-i, am lawer o bregethwyr sy'n llenwi'r pulpudaii Cymreig y dydd liwn. Credai Mr. Charles yr hen athrawiaeth am Dadolaetli Duw, Mabolaeth Crist, a rhin- wedd achubol yr lawn. Tystiodd Mr. Evans nad amlygwyd mwy o ysbryd brawdgarwch a chariad mewn unrHiyw eglwys, yn ystod y pymtheng mlynedd a aeth heibio, nag yn Hermon. Blaenorai eu gweinidog ymadaw- 01 yn rhagorol fel gwr heddychol; a gwnai ei oreu yn mhob cylch i gadw heddwch a thangnefedd yn yr eglwys. Cafwyd anerch- iadau cymrrieradwyol a chanmoliaethus gan y boneddigion a ganiyn:—Y Parch. T. G. Jenkyn, Llwyn-y-ipia; Mr. T. Millward, cyf- reithiwr, Pentre; Dr. W. E. Thomas, Ys- trad; y Parch. Rowland Huws, B.D., Ty- dorstown; y Parch. E. Richards, Ton-y-pan- dy; y Parch. Penrith Thomas, Ferndale; Dr. W. Morris (B.), Treorci; y Parch. J. Wil- liams, Hafod, ac amryw eraill. Cyflwynwyd amseriadur aur i Mr. Charles cruet stand arian ardderchog i Mrs. Charles, a rhoddion destlus eraill i Miss Charles, a Mr. D. S. Charles-y plant. Diolchodd Mr. Charles dros y teulu am y rhoddion, gan ddyweyd nad oedd ganddo ddim teimlad drwg at neb yn yr eglwys. ¡YI' oedd ganddo lawer o gyfeillion ynddi; a chafodd lawer o garedig- rwydd oddi ar en Haw, a gobeithiai yr ar- weinid hwy fel eglwys gan Dduw i ddewis olynydd iddo ef. Bu Mr. Charles yno am bymtheng mlyn- edd. Yr oedd ganddo gryn ddycldordeb yn addysg y Rhondda. Bu yn aelod ar y Bwrdd Ysgol hyd nes y diddymwyd ef gan ddeddf y cynghorau. Y mae gan hanes Cymru ac efrydiaeth Geltig hudoliaeth ar Mr. Charles. Y mae swyn y Mabinogion yn ei ddenu yn I rhyfeddol. Cymmrodorion Rhondda. Cadwodd y gymdeithas hon gyfarfod cynt- af y tymmor gauaf, nos Fawrth wythnos i neithiwr, yn ysgoldy capel Jerusalem, T. C.. Ton, Pentre. Llywyddwyd ar .gynnulliad lliosog o aelodau ac ardalwyr eraill gan y Parch. T. Jones, Calfaria, Treorci. Tra- ddodwyc1 darlith ddawnus ac addysgiadol ar Bedwar Dyn y Byd/ gan y Parch. Ri- chard Morgan, Bangor., Siaradodd amryw o lofarwyr cyhoeddus eraill ar ei ol e:f. Bydd Syr Marchant Williams, Ynad Cyflogedig, yn anerch y cyfarfod nesaf yn yrliii lie. Yr Henadur E. H. Davies, Pentre, ydyw llyw- ydd y gymdeithas .Mr. D. Thoma.s ydyw ei thrysorvdd, a Mr. Tom Davies ydyw ei hys- grifenydd. Rhymni a'r Eisteddfod Genediaethol. Y mae Rhymni, fel y crybwyllwyd o'r blaen, yn awyddus am gael yr Eisteddfod Genedlaetbol yno yn 1911. Cynnaliwyd cyf- arfod lliosog nos Lun cyn y diweddaf, yn Sefydliad y Gweithwyr, i ymdrin a'r amcan hwnw. Llywyddid gan Mr. Richard Benja- min, U.H. Wedi ymdrin ago red a brwd, cyttunodd y cyfarfod, ar gynnygiad y Parch. G. Griffith, i'w gwahodd yno yn 1911. Ffurf- iwyd pwyllgor, ar unwaith. i drefnu'r gwaith rhag-barotoadol. Boed iddynt fyned rhag- ddynt yn egniol a dyfal. Dadlenu Cofarwydd Ben Bowen. Dydd Iau diweddaf oedd y dydd gosodedig i ddadlenu cofadail Ben Bowen, y bardd ieu- angc athrylithfawr. Ymgasglodd torf fawr, oedd yn frith gan gyfeillion ac edmygwyr y bardd, a chan awenyddion a llenorion hoff- ymlyngar, o bell ac agos, i gladdfa Treorei brydnawn y dydd hwnw. Yr oedd haul teg y dydd yn dwyn hin hyfryd i'w ganlyn. Lledodd y ffurfafen ei ffafr dros y bedd a'r maen coffa, a'r gwasanaeth prudd oedd yno. Dechreuwyd y ddefod trwy ddarllen rhan o'r Beibl gan y Parch. W. Lewis, a gweddiodd y Parch. D. Hughes, Llanelli; ac yna can- odd y dorf '0 fryniau Caersalem.' Daeth Mr. 0. M. Edwards yn mlaen at y golofn, wedi'r canu, i dynu'r lien oddi arni. Cyn- northwyid ef yn hyn gan Mrs. Enoch Davies. Ithfaen llwyd tua deg troedfedd o uchder ydyw'r golofn hon, ac arni arysgrifen yn cynnwys enw'r bardd a'i oed. Siaradodd Mr. Edwards ar athrylith nodedig y bardd ieuangc, ei anhawsderau, a'i ymroddiad. Ni fedrai Mr. Edwards ddim ond dyfalu pa ham y cymmerwyd ef ynlaith o'u plith mor ieuangc; mai er mwyn cadw. ysbryd awen- yddol a llenorol Cymiu yn bur ac ieuangc. Annogai fechgyn ieuaingc Cymru i efelyohu bywyd Ben Bowen, a dilyn ei gamrau gym- maint a fedrent. Felly, terfynodd cyflawniad y ddefod yn y gladdfa gyhoeddus, ac aeth y dorf oddi yno tuag addoldy Noddfa (B.). Yr oedd y siaradwyr yn y cyfarfod hwn yn ami eu rhifedi, ac yn barablus eu doniau. Siaradodd Dyfed, Mr. O. iM. Edwards, Mr. David Evans, ysgolfeistr, Whitland; Bryn- fab, y Parch. Dyfnallt Owen, Pontypridd; y Parclli. E. K. Jones, Mr. Ifano Jones, Caerdydd, Miss Eluned Morgan, o'r Wla-dfa. Gvmreig, v Parch. D. Rhvdderch, B.A. Dr. Hughes, Ton, ac eraill. Cododd Mr. Ed- wards y dorf i ysbryd brwd anarferol wrth draethu ar aimryw agweddau llenyddiaeth Gymreig, ac ar ddysgu Cymraeg fel modd- ion o ddiwylliad rhagorol. Canwyd Hen wlad fy nhadau wrth derfynu. Cafodd yr ymwelwyr ar ol y cyfarfod gyd-gyfranogi o ddarpariadau llawnion y bvrddau te a ar- lwywyd iddynt yn yr Ysgoldy. Anrhydeddu Syr W. T. Lewis, Barwnig. Ymwisgodd tref Merthyr Tydfil yn bryd- ferth a'i haddurniadau gosod goreu ddydd Iau diweddaf—y dydd pennodedig i anrhyd- eddu un o'i brodorion penaf. Chwyfiai ban- eri heirdd o'r tai a'r masnachdai, a chroesid yr heolydd gan raffau banerog amryliw. Yr oedd y dydd yn ddiwrnod hafaidd, ac yr oedd y dref yn dwyn arni olwg harddwych yn ei oleuni. Hwn oedd dydd dewisedig Corpfhoraeth Merthyr i osod Rhyddfreiniad Anrhydeddus y Fwrdeis-dref ar Syr William Thomas Lewis, Barwnig. Cyflawnwyd y ddefod hon yn y prvdnawn, yn y Neuadd Drefol, yn wgwydd tyrfa orlawn o fonedd- wyr a boneddesau, a chynnulliad llawn o Henaduriaid a chynghorwyr y fwrdesdref. Yr oedd y maer—yr Henadur D. W. Jones, yn swyddol fantellog, ac yn gwisgo'r gad- wyn fireiniol; a'r oofiadur trefol-Mr. T. Aneuryn Rees—yn gwisgo'i ferwig a'i fan- tell, yn ei ganlyn ef. Eisteddai Syr Wil- liam yn ymyl y maer, ar ei law aswy. Yr oedd llu o ttrddasolion a blaenoriaid y bobl yn wladol a chrefyddol yn eistedd ar y llwy- fan. Darllenodd yCofiadur y rhybudd i gynnull y cyfarfod. Yna, ar alwad y maer, darllenodd y Cofiadtir benderfyniad y cy- nghor yn mis Medi i wneyd Syr William yn Rhyddfreinydd Bwrdeisdref Sirol Merthyr. Rhoddwyd croesaw calonog i Syr William pan gododd i'r cyflwyniad. Ar hyn gofyn- odd y maer iddo am ei ganiatad i'r Cofiadur weinyddu'r llw ffyddlondeb iddo. Darllen- wyd y llw gan y cofiadur, ac yna yn ebrwydd llawnododd Syr William y memrwn, yn nghanol swn cymmeradwyol y gynnulleidfa. Cyfarchwyd ef yn ganmoliaethus fel brodor enwog o'r lie, ac fel cylmmwynaswr hael i'r ardal gan y maer, a chyflwynwyd iddo yr ysgrif ryddfreiniol, a'r llawgist ihardd o gywreinwaith godidog. Diolchodd Syr William i'r maer a'r cynghor am yr anrhyd- edd y bu yn wiw ganddynt ei gosod arno. Rhoddodd anerchiad cyflawn iawn yn dangos cyflwr Merthyr yn yr hen amseroedd, a'i chynnvdd gweitnfaol rhyfeddol yn yr amser diweddar. Wrth derfynu, gofynodd ar iddynt oil gyduno ag ef i ddymuno Hir lwyddiant i Ferthyr.' Oynnaliodd Syr Wil- iam wledd ddarparedig i'r maer a'r cynghor, ynghyd a llawer o wahoddedi^ion eraill, yn Nghastell Oyfarthfa yn ddiweddarach yn y prydnawn.
SARON (M.C.), TREFFYNNON.
News
Cite
Share
SARON (M.C.), TREFFYNNON. Bu cenhadon o'r cyfarfod misol yn y lie uchod nos Sabbath diweddaf yn cymmeryd llais yr eglwys yn newisiad chwaneg o flaen- oriaid. Ar un yn tinig y syrthiodd y goel- bren, sef, Mr. Richard Jones, Moss Bank, Treffynnon (yr Hen Flaenor). Bu Mr. Jones yn flaenor am lawer o flynyddoedd yn Bagillt, ac wedi hyny yn eglwys Saesneg Treffynnon. Bydd Mr. Jones o wertih mawr i Saron, ac yn gaffaeliad i gyfarfod misol sir Fflint; a chan ei fod bellach yn rhydd oddi wrth ofalon masnachol, bydd hyny yn fan- tais chwanegol i'w ddefnyddioldeb.
BWRDD GWARCHEIDWAID LLANELWY.
News
Cite
Share
BWRDD GWARCHEIDWAID LLANELWY. Dydd Gwener cynnaliwyd cyfarfod pytlief- nosol y bwrdd hwn, o dan lywyddiaeth Mr. Edwin Morgan. Gwnaed yn hysbys mai nifer y tlodion yn y ty, y diwrnod hwnw, ydoedd 155—cynnydd 0 20 ar y nifer yr un diwrnod llynedd. Yn ystod v pythefnos estynwyd cynnorthwy i 177 o grwydriaid—cynnydd o 54. Hysbysodd y meistr i blant y tlotty, yn gystal a phlant eraill, ar wahoddiad Esgob Lianeiny a Mrs. Edwards, gael eu gwahodd j i de i'r Palas, ar y 12fed o Fedi; ac i'r tied- ion mewn oed gyfranogi o arlwv gyffelyb yn y sefydliad hwnw y dydd Sadwrn dilynol, trwy garedigrwydd yr esgob a Mrs. Ed- wards, ei- datblu priodas eu merch. Ar gynnygiad y cadeirydd, a chefnogiad Mr. J. Frimston (yr is-gadeirydd), pasiwyd pleidlais galonog o ddioichgarwch i'r esgob a Mrs. Edwards. Yn ol yr adroddiad gyflwynwyd gan bwyll- gor yinweliadol y boneddigesau, cawsant y Ty, ar eu hymweliad diweddar, yn lan a threfnus, a'r oil o'r tlodion yn gysurus. Mabwysiadwyd penderfyniad gan y bwrdd, gyflwynwyd gan Undeb Kettering, yn ffafr talu blwydd-daliadau i'r fyddin a'r llynges vn wythnosol, yr un fath a Blwydd-daliadau i Bobl mewn Oed. Caed trafodaeth ar gwestiwn oedd yn codi o lythyr dderbyniwyd oddi wrth warcheid- waid Conwy, yn ymholi pa un a oedd y bwrdd wedi gwneyd trefniadau gyda deint- ydd i archwilio a gofalu am ddannedd plant y tlotty. I Penderfynwyd cael allan pa un a oedd y pwynt hwnw yn dyfod o fewn cylch ym- chwiliad yr arolygydd meddygol sirol ar ) blant yr ysgolion. Cymmerodd y Bwrdd o dan ystyriaeth yn nesaf ohebiaetlh rhwng Bwrdd y Llywodr- aeth Leol a chyfreithiwr oedd yn gweith- redu ar ran dyn a gyfarfyddodd a damwain tra yr oedd wedi ei osod i dori cervg yn y tlotty. Dangosai yr onebiaeth i'r dyn, pan osodwyd ef i gyflawni y gwaith hwnw, ofyn am orchudd dros ei lygaid (eye-guard), fmd nad oedd wedi cael un; a tlira yn tori y ceryg, iddo gael ei daraw yn ei lygad. Yn nghwrs yr ymdrafodaeth, dywedcdd y cadeirydd ei fod ef yn deall oddi wrth at- tebiad Bwrdd y Llywodraeth Leol, nad oeddynt yn gyfreithlawn gvfrifol i ddar- paru eye-gnards.' Wrth fyned i mewn am eye-guards,' yr oeddynt yn gwneyd mwy nag oedd yn ofynol iddynt. Cyflwyliodd pwyllgor y cyllid yr archeb arianol am yr hanner blwyddyn yn diweddu Mawrth nesaf.
LLANFYLLIN A'I LLWYBRAU CYHOEDDUS.
News
Cite
Share
LLANFYLLIN A'I LLWYBRAU CYHOEDDUS. BETH MAE YR AWDURDODAU LLEOL YN El WNEYD? ADGOFION DYDDOROL GAN FRODOR. Flynyddoedd yn ol (ysgrifena gohebydd), yr oedd llwybrau cyhoeddus yn lliosog yn amgylchoedd Llanfyllin; ond heddyw y maent wedi dyfod i lawr i ychydig, a by- gythir y bydd i bobl y dref yn awr golli llwybr dymunol arall. Ar gyfnodau, y mae tirfeddiannwyr wedi cymmeryd meddiant o'i, hawl ffyrdd hyn, tra yr oedd yr awdurdod cyi\'ifol am eu cadwraeth yn parhau yn dawel. Y mae yr ymgais ddiweddaf i amddifadu y cyhoedd o'u hawliau wedi achosi digllon- edd mawr yn y dref a'r gymimydogaeth; ond trwy ymdrechion canmoladwy Mr. T. Bul- keley Jones, Manchester House, galwyd sylw y cynghor at y mater, gyda'r amcan o ddiogelu buddiannau y trethdalwyr. Am flynyddoedd caniateicl i ddynion, merched, a phlant fynychu Pare Green Hall, heb i neb aflonyddu arnynt. Ar ddydd Gwener y Groglith, arferai yr ieuaingc a'r hen ddringo i ben y bryn coediog, a phrydferth, ac yno fwynhau cysuron /pic-nic.' Dydd Gwener y Groglith diweddaf ymwelodd pobl y dref a'r lie dymunol hwnw, fel arfer; ond er eu mawr syndod, gofynodd ceidwaid helwr- iaeth—y rhai a ddywedid oedd yn gweith- redu ar igyfarwyddiadatt Mr. Arnold Gillet, Brynderwen Hall-iddynt ddychwelyd. YIlIl- giliodd y ibobl ieuaingc, ond heriodd y trig- olion hynaf hawliau y ceidwaid helwriaeth i ymyraeth a hwy, a gwrthodasant adael y Pare. Yn ddilynol i hyny rhoddwyd rhybuddion i fyny ar lwybr St. George, yn ngwaelod y bryn, yn gosod trespaswyr ar eu gwyliadwr- iaeth; ond y maent wedi cael eu symmud yn awr. Dygwvd y ffeithiau o dan sylw y Cy- ngbor Trefol, arolyg'ydd yr hwn, hefyd, a gwynai yn erbyn rhwystraeth osodwyd ar y llwybr, trwy fod clawdd wedi cael ei godi, yn amgau darn o dir, a hauwyd ag yd i'r am- can o fagu helwriaeth. Yr wyf yn credu i'r cynghor ofyn i'r troseddwr symmud y rhwystraeth; ond mor bell ag yr wyf yn cofio, ni chyhoeddwyd un attebiad. Hys- bysir fi i'r mater gael ei ystyried mewn pwyllgor o gyfarfod o'r cynghor dydd Mawrth. Yn sicr, os ydyw hyn yn gywir, y mae yn anghyfiawnder a'r trethdalwyr, y rhai, yn naturiol, a deimlant y dyddordeb mwyaf yn y cwestiwn a dylid, ar bob cyf- rif, hysbysu beth ydyw y dadblygiadau di- weddaraf. Cychwynodd y cwestiwn trwy y wasg, ac y mae y trethdalwyr yn edrych am oleuni ar y mater. Nid oes dim ond go- beithio fod y tadau gwladol yn gwneyd pob- peth i ddiogelu hawliau y cyhoedd. Y mae cwestiwn pwysig yn y glorian, ac edrycha y trethdalwyr at eu cynnrychiolwyr i ymladd yn ddiofn hyd y diwedd. Yn ngwyneb sylwadau ein gohebydd, y mae yr hyn a ganlyn, a dorwyd o lytliyr ysgrif- enwyd gan Mr. David Rees, Longsight, Manchester, at gyfaill yn Llanfyllin, o ddy- ddordeb neillduol. Y mae yr ysgrifenydd yn frodor o Llanfyllil1, a sieryd am y llwybr- au cyhoeddus oedd yn y gymmydogaeth dros 60 o flynyddoedd yn ol, ychydig o ba rai sydd yri aros. Yr oedd y fynedfa i'r Llwyn, imeddai, fel yn bresennol, ond nid oedd mur ar bob ochr, na dim lodge wrth yr afon. O'r tu mewn, a hanner y ffordd i fyny, yr oedd 1lwybr yn arwain i Penllwyn, ae, hefyd, i'r coedwigoedd, ac yn mlaen i'r ffordd am filldir, neu rywbetb felly, yn mhellach yn mlaen. Yn y dyddiau hyny yr oedd Ion a elwid Wttra'r Person, ar hyd ochr pa un yr oedd llwybr trwy bedwar neu bump o gaeau. Cafodd v Ion a'r llwybr eu. cau pan wnaeth Dr. Dugdale y ffordd newydd. Yn mhellach i fyny ar Ffordd y Tlotty, rhedai llwybr o'r cae sethr yn mlaen i Cefngaer. Ychydig yn mhellach yn mlaen ar y ddeheti yr oedd llwybr yn arwain trwy gae i'r brif-ffordd, yn agos i goedwigoedd Coedllan. Trwy ganol Coedllaii yr oedd 1lwybr yn terfvnu yn ymyl y llyn. Yr oedd un laraB i iCoedllan yn de- chreu tua hanner y ffordd at yr hen dollborth o Llanfyllin. Ar ddreif Pare Bodfach, yn rhywle o gwmpas y porth, ger llaw y palas, yr oedd lhvybr yn arwain i Domen yr Allt. Yr oedd ffordd yn pasio yn yimyl ffryntfferm y Ketch, ac yn mlaen i'r Fownog, ac oddi yno yr oedd llwybr yn myned yn union- gyrchol i'r ffordd oedd yn arwain'i Bodfach. Yr oedd llwybr yn imyned i fyny Cae Bon- cyn, a thros y caeau i Bwlehycorsydd; ac un arall n rhedeg o dan Cae Boncyn, ac yn mlaen i'r ffordd, o dan goedwig a elwid, fel yr oedd yn credu, St. George's Walk.' Trwy iganol y goedwig yr oedd llwybr yn myned yn mlaen i'r gwastadedd ar y pen uebaf. Yr oedd llwybr i Top Pare, yn rhedeg yn ochr y mur, yn cael ei ddefnydd- io gan fechgyn, yn benaf. Yr oedd y llwybr o St. George's Walk i, a thu hwnt i'r Goed- en Unig, yn cael ei ddefnyddio bob amser fel lie- agored, ac nid oedd efe erioed wedi clyw- ed am y gwrthwynebiad lleiaf iddynt chwar- eu yno, a mwynhau en hunain wrth fodd eu calon. Yr oedd y rhan gyntaf wedi cael ei orchuddio ag eithin a grug, a thua therfyn y ddeugeinfed, neu ddechrr-n yr hanner can- fed flwyddyn yn y ganrif ddiweddaf, y phn- wyd y coedydd presennol. Yn flaenorol i hyn yr oedd yn lie agored, heb gael ei gau i mewn o gwbl. Llwybrau eraill oeddynt y rhai oedd yn y caeau ar hyd ochr y ffordd oedd yn arwain at yr afon, o'r lie y mae yr orsaf yn awr i'r ffordd yn agos i'r bant, ac ar draws y cae oedd yn arwain i'r llwybr blaenorol. Cafodd llwybr trwy ganol Maes Llwyn a'r caeau i Bachie Road, ei gau pan wnaed y ffordd newydd. Yr oedd Domen yr Allt yn un o'r lleoedd yr arferent fyned iddynt, ond nid oedd ei gof 4yn glir gyda golwg ar y llwybrau oedd yn arwain i fynv yno. Yn ngwyneb yr ymgais i gau Pare Green Hall, y mae sylwadau Mr. Rees o ddyddordeb neilldnol Yr oedd Coedwig St. George,' meddai, a'r pare o'r mur i'r un tu hwnt i'r Goeden Unig, tra yr oeddwn yn facligen, yn rhydd ac agored, heb urt- rhyw rwystraeth ar ffordd trigolion Llanfyll- in, ao yr oeddym ni fechgyn yn gwneyd Hawn defnydd o hono. Mor dda yr wyf yn cofio chwilota am wiwerod yn St. George, ac yr oedd ein hoernadau i'w clywed yn eithaf clir yn y dref, ac nid oedd un heddgeidwad. na thirfeddiannwr yn ymvraeth.' Cyfeiriwyd llythyr Mr. Rees i Mr. Buck- ley .Jones; ac yr ydym yn hyderu y bydd yr olaf yn llwyddiannus yn ei ymdrechion.
BWLGARIA ANNIBYNOL.
News
Cite
Share
BWLGARIA ANNIBYNOL. CYHOEDDIAD FFURFIOL. SEFYLLFA DDIFRIFOL. Cymmerodd cyhoeddiad annibyniaeth Bwl- garia le foreu ddydd Llun, yn Tirnova, prif- ddinas hynafol y Dywysogaeth, lie yr oedd y Tywysog Ferdinand a'r gweinidogion wedi myned y noson flaenorol. Y mae y cam pwysig hwn yn achosi argyf- wng nas gellir yn bresennol ei ragweled. Pja un a dorir ar heddwch Ewrop, dibyna hyny yn benaf ar agwedd Twrci, lie y derbyniwyd y newydd gyda chryn gyffro. Y mae dan deimlad pendant yn hodoli-un yn ffafriol i ryfel, a'r Hall yn erbyn; ac y mae y blaenaf yn bresennol yn gryfach na'r diweddaf. Hona cenadwri o Vienna, dderbyniwyd yn Paris, fod byddin Fwlgaraidd eisoes yn sym- mud ar derfyndir Twrci, a bod corphluoedd Tyrcaidd yn symmud yn mlaen i'w cyfarfod. Coleddir ofnau y, bydd i ryfel dori allan. Credir yn gvffredin nad ydyw byddin Twrci yn barod i yimladd. Dywedir fod byddin Bwlgaria wedi bod o dan ddysgybJ- aeth dda, ac adroddir fod 130,000 o gorphlu- oedd yn barod i gymmeryd y maes ar un- waith. Y mae y sefyllfa yn cael ei gwneyd yn fwy dyrys trwy beiKferfyniad Awstria- Hungari i gyssylltu Bosnia'a Herzegovina heddyw (dydd Mawrth), neu dydd Mercher. Y mae yr Ymherawdwr Francis Joseph wedi cyfeirio llythyrau at y Galluoedd Mawrion yn hysbysu am yr uniad agoshaol. Y mae Prydain Fawr wedi hysbysu na bydd iddi gydnabod unrhyw gyfnewidiadau yn Nghyttundeb Berlin sydd heb dderbyn- iad y Galluoedd oedd wedi ai-wyddo y Cyt- tundeb hwnw, ac yn neillduol gan Twrci. Yn yr agwedd hon bydd i'r Llywodraeth Brydeinig dderbyn cefnogaeth Ffraingc a Rwssia, y mae'n debygpl.
CWRONIAID MEWN FFYNNON.
News
Cite
Share
CWRONIAID MEWN FFYNNON. DAU YN CYFARFOD A'U MARWOLAETH. Cymmerodd trychineb hynod le yn mhen- tref Dunstan, ger Lincoln, yr wythnos ddi- weddaf, trwy i ddyn a bachgen gael eu myg'u im;ewn hen ffynnon, ac i ddyn arall gael ai- angfa hynod o gyfyng. Saif y ffynnon ddywededig o fewn terfyn- au y ficerdy, ac nid oedd wedi cael ei defn- yddio er's pymtheng mlynedd. Yr oedd y ficer, y Parch. R. M. Ede, yn awyddus am wneyd defnydd o honi; lac i'r amcan hwnw cyflogodd Christopiher Halkes, adeiladydd, 27ain Imlwydd oed, rheolwr i ffirm o Lin- coln, i wneyd archwiliad ar y ffynnon, ac i gyfiwyno adroddiad ar ei chyflwr. Rhoddwyd ysgol i lawr y ffynnon, yr hon sydd tuag ugain troedfedd o ddyfnder, ac aeth Halkes i lawr; ei amcan trwy hyny ydoedd cael allan beth oedd yr achos o'r at- talfa ar y bibell. Archwiliodd y lie yn fan- wl, ac yr oedd yn dyfod yn ol i fyny yr ysgol, pan y darfu iddo honcian yn sydyn, a syrth- io i'r dwfr. Sylwodd Sidney Lupton, 14eg mlwydd oed, bachgen oedd yn gweithio yn ngardd y ficer, arno yn syrthio, yr hwn, mewn modd gwrolfrydig, a aeth i lawr yr ysgol i estyn cynnorthwy. ond gorchfygwyd ef yn ddioed, a syrthiodd yntau i lawr y siafft. Rhedodd y ficer, yr hwn oedd wedi bod yn gwylio y gwaith, i'r ffordd am help, a si- aradodd a Mr. Webster, Fferm y Manor, yr hwn, gyda thri o ddynion, oedd yn gyru tua chartref. Aeth marchwas Mr. Webster, dyn o'r enw Brown, i lawr i'r ffynnon yn ddi- oed. Gwrthododd gymlmieryd rhaff am dano, ond cymmerodd gadwen yn ei law. Ni chafodd yntau braidd gychwyn i lawr nag y cafodd yntau ei orchfygu4 ac y taflwyd ef i lawr. Llwyddodd llafurwr, o'r enw Scatchard,y n mhen rhyw gymniaint o al1:fCr, i gael y cyrph allan. Yr oedd Brown yn s-nymwybodol; ond llwyddwyd i'w adfer yn lied fuan. Tybir onai agor y ffynnon. ar ol iddi fod heb gael ei defnyddio am gymmaint o amser, a ryddhaodd y nwyau oedd wedi ymgasglu yno, trwy ba rai y gorchfygwyd y dynion an- ffodus hyn. Yn y trengholiad dydd Sadwrn rhoddodd Brown ddisgrifiad o'r modd yr oedd wedi cyrhaedd gwaelod y ffynnon cyn i'r nwyau ymosod arno, ac iddo ganfod Halkes a Lup- ton yn ocheneidio yn y gwaelod. Rhoddodd rhaff am fraich un dyn; ac yna, ni wyddai ddim chwaneg.
[No title]
News
Cite
Share
Nid yw poblogaeth Greenland yn rhifo 11,000.
TELYN Y GWYNT.
News
Cite
Share
b-- ft-.y.sgrifenwyd; a'r gwynt yn chwareu ei fiwsig cyrmhyrfiol, anneffiniol ar ein ctyw. Digon t-ebyg, pe y buasem yn Z5 In aros hyd yiorv, y buasai y cyfan mor anelwig a. breuddwyd. Ond, heddyw, v inae ysbryd,y gwynt wedi ein cyfar- èddu, ac yr ydym yn barod i floeddio ar nodau ucliaf ein llais, yn ngeiriau Is-. I wyn 4 Gyrwcli, wyntoedd, Ar v eich hyntoedd, pros y llyn, pros y glyn, Dros y bryn, w .i-i A thros lawer Alp-for gwyn!' v IV. Daeth Cysgodau yr hwyr. Ciliodd y wylan o'n gwydd. Machludodd yr haul dros y goi-wei, gan weddnewid lliwiau y y i gorllewm. Daew'r newydd loer yn ym- ddangos fel cryma-n orian yn yr eang- 4er tawel, pell. Ac yn ami, gostega, tynt:ta., seiniäu gwylltion y gwynt, a. nlilywuf ei sibrydon yn y goeden ger. Haw y ty. Y mae'r campau drosodd; darfu y/afiaeth direidus, ,a/I' symmud- iadau troelldg, cliwyrn. Dyna'r oil sydd yn aros-tyner so, lei odlau serch- -su yr aw el yn nheml y nos, v Y mae rhifyn Hydref o'r Drysorfa wedi dyfod i'm llaw—rhifyn arbenig o ddyddorol, dybiwn i, ar gyfrif amryw- iaeth a chyfoeth ei ysgrifau. Ar y wyneb-ddalen ceir darlun gwych o Pvfed—-nid yn niwyg yr archdderwydd, ond yn niwyg pregethwr, gyda choler wen, ond heb gadaeh gwyn.' Hyd y gellid barnu, nid oes ganddo gadaeh o gwbl! Y pregethwr, ac nid y bardd, p z, sydd yn fwyaf amlwg yn y darlun. I 11 Ond y m,ae Alavon wedi ysgrifenu am r, w 1 dano fel awenydd, beirniad, teithiwr, darlithydd, pregethwr, ac emynydd. Da, genym weled ein cyfaill o'r Ysgoldy yn rhoddi y;lle haeddiannol i Dyfed fel pregethwr.Nid bardd-bregethwr, neu athronydd-bregethwr, yn ol arfer rhaio ymadroddi;. ond pregethwr yn ystyr symlagoreu. y gair. 0 Anhawdd ydyw llunio ysgrif ,a.r gymmeriad cy- hoeddus, ac ef0 etto yn fyw; ond y mae lledneisrwydd a doethineb Alavon wedi ei gyfaddasu at y fath orchwyl. Y mae Dr. Cynddylan Jones yn talu teyrnged uchel i gymmeriad a galluoedd y diweddar Dr. Thomas Rees,' ac y mae ganddo bethau lied ddeifiol i'w dywedyd, megys, wrth fyned heibio,' y.jglyii a gwaith y pulpud, a'r cym- sriiwysderau i'w gyflawni, yn y dyddiau presennol. Er engliraifft: Deall ieithoedd sydd yn igwneyd dyn yn ysgol- haig, deaH pynsciau sydd yn gwneyd dyn yn- ddysgedig, ac y mae'r olaf yn annhraethol bwysicach na'r bl-aenaf. Y. rriae ysgolheigdod yn burion os vyedi ei gyssvlltu a dysgeidiaeth; ond ysgolheigdod wrtho ei liun yn y pulpud ydyw y peth eiddilaf dan haul.' Tyner odiaeth ydyw sylwadau adgofiannol y Parch. Griffith Ellis, M.A., am 'Dr. Roberts, Khassia.' Fel yna, swn hir- aeth sydd yn rhifyn Hydref o'r Drys- orfa '—hiraeth am enwogion y pulpud, a'r maes cenhadol. Ond, ys dywedai Alunyn ei farvvnad i'r Esgob Heber, yntau yn un o genliadon cynnar India: Yn lara£, fy mrawd, paid, paid an- obeithio, Gwnei gam ag addewid gyfoethog dy lor, A ddiffydd yr haul am i seren faeh1 uclo ? 0s pallodd yr alber, a sychodd y mor? Na, na; fe ddaw 'boreu bydd un Hale- liwia Yh ennyn o'r Gauts hyd gopaau Hima- laya, Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India, 0 aelgerth Cashgur hyd i garth C) Tra vane ore.'