Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Hide Articles List
12 articles on this Page
Y GOGLEDD.
News
Cite
Share
Y GOGLEDD. Etholwyd Syr J. Herbert Roberts, Bar., A.S., dydd Mawrth diweddaf, yn llywydd Eglwys "Bresbyteraidd Cymrti. Pennodwvd Mr. R. Eirion; Jones, A.L.C.M., Caernarfon, yn organydd eglwys Annibynol Saesnig Llandudno. Pennodwyd Mr. E. Harrison Morris, o swyddfa clerc yr heddwch, yn glerc pwyllgor blwydd-daliadau dros ranbarth Caernarfon. Pennodwyd y Parch. Henry Thomas, B.A., Aberdar, a'r Parch. Hughes Jones, B.A., yn giwradiaid yn Nghaergybi. Pennodwyd Mr. Idwal Roberts, B.S.c., jnab y Parch. C^idiog Roberts, gym, fytyr- iwr o Goleg Prifysgol Bangor, yn arolygwr i Fwrdd Amaethyddiaeth. Yr oedd yr elw clir dderbyniwyd oddi wrth y nodachfa agorwyd gan Mr. Lloyd George yn Nghaernarfon, tuag at gapel Siloh (M.C.), yn y dref hono, yn l,000p. Lladratawyd awrlais hardd, yn pwyso 40 pwys, o ystafell y blaenoriaid yn nghapel Llangefni, pan oedd y cyfarfod egwysig yn cael ei gynnal mewn ystafell ger Haw. Dywedid yn nghyfarfodydd blynyddol Undeb y Bedyddwyr yn Nghaergybi, yr wythnos o'r blaen, fod dwy ran o dair clia- coniaid yr enwad yn Nghymru yn llwyr-ym- wrthodwyr. Mae Mr. D. Francis Roberts, B.A., B.D., yn dechreu ar ei waith fel proffeswr cyn- nortthwyol mewn Hebraeg yn Mhmysgol Glasgow y mis nesaf. Bu Mr Roberts yn Ngholeg y Bala am dair blynedd. Y mae y pwyllgor yr ymddiriedwyd iddo godi cerflun o Mr. Peter Jones, Niwbwrch, Mon, fel cydna-byddiaeth 0'1 haehoni a r lie hwnw, wedi gosod y gwaith o ddarparu y cytfryw gerflun yn Haw Mr. Goscombe John. Yn Nghaergybi, ddydd Mercher, cafodd Francis B. Chavasso, mab esgob Liverpool, ei ddirwyo i Is. a'r costau, am farchogaeth bisycl heb oleu arno. Yr oedd yr esgob a i deulu yn aros ar yr adeg yn Caefabli, Caer- gybi. j, Am y waith gyntaf er's ugain mlynedd, nid oedd dim tin enw ar restr y llys methdal- iadol oedd i gael ei gynnal yn Mangor, dydd Mercher. Yn ngwyneb y marweidd-dra pre- sennol ynglyn a masnach, y mae hyn yn beth hynod. Cymmerodd priodas le yn eglwys bxwyfol Llangollen, dydd Mercher, rhwng Mr. Philip Grant Wavne, Caer, a Llundain, mab ieu- encaf Mr. Robert S. Swayne, Bryn Llewel- yn, Corwen, a Miss Barbara Douglas Robert- son, Plas Newydd, Llangollen. Penderfynwyd, yn nghyfarfod Bwrdd Gwarcheidwaid Gwrecsam, dydd Iau, gad- arnhau y igwahoddiad roddwyd gan gyn- lirvchiolwvr o Wrecsam. i gynnaJI Cynnad. edd Cyfraith Tlodion Gogledd Cymru y flwyddyn nesaf yn y dref hono. Y mae Pwyllgor Addysg Eilraddol sir Fflint wedi dyfarnu y llenfuddiannau sirol canlynol40p. i John Goronwy Edwards, Treffynnon 30p. bob un i R. A. Baxter, Nannerch; Fred Roberts, Penarlag, a Ro- bert Pierce Roberts, Rhosesmor. Cafodd eisteddfod flynyddol Amwythig ei chynnal dydd Ian, o dan lywvddiaeth Argl- srydd Ken von. Ennillwyd y brif gystndleu- rieth gorawl gan Glee Party' Amwythig a chor meibion Amwythig oedd v g°ref /n nghystadleuaeth corau meibion. Cor Astley gariodd y wobr i gorau pentrefol. Trefnir i arholiad cymdeithasfaol y Meth- odistiaid Calfinaidd ar ymgeiswyr i r wein- idogaeth i gymmeryd lie ddydd Mawrth a dydd Mercher, Hydref 20fed, a'r 21ain. Bydd i ymgeisAvyr Gogledd Cymru eistedd yn Nghaernarfon, ac ymgeiswyr Deheudir Cymru yn nghapel Penuel, Pontypridd. Yn Llangollen, dydd Mawrth, cafodd y Royal Hotel, un o'r gwesttai mwyaf adna- byddus yn v gvmmvclogaeth. ei gwerthu am y swm o 4,600p., i Mr. Moseford, Gwrec- sam. Gwerthwyd y ty yn Abbey Road, a elwir Glasfrvn,' i Mr. Hugh Roberts, The Howthorns, Abbey Road, am y swm o 735p. Cafodd bachgen, o'r enw Ishmael D-avies, Crane Square, Cefnmawr, ei draddodi gan yr ynadon vn Rhiwabon, dydd Gwener, i cef- tyll ei brawf yn y frawdlys, ar y cyhuddiad o dori i mewn i siop Mr. Jordan, masnach- wr cyffredinol, o'r lie hwnw, a lladrata football case,' gwerth 4s. 2c., a'r swm o -10s. 2c. Yn llys ynadon Birmingham, dydd Iau, fgwysiwyd Edward Maltby, cigydd, Water Street, Rhyl, gan y Gymdeithas er Attal Creulondeb at Anifeiliaid, am gludo deg ar hugain o foch mewn modd oedd yn debyg o achosi dioddefaint diangenrhaid iddynt. Dirwywyd v diffynycld i 20p. a'r costau, yr oil yn 2p. 12s. 6c. Cynnaliwyd cymmanfa ganu lwyddiannus yn Gaerwen, Mon, yr wythnos ddiweddaf. Llywyddid gan Mr. Eleazar Roberts, Hoy- lake, 84 imlwydd oed, cychwynydd mudiad y Tonic Sol Ffa yn Nghymru. Cafwyd an- erchiad ymarferol ganddo, yn yr hon y oyf- eiriai at y llwyddiant oedd wedi dilyn y gyf- undrefn Sol Ffa yn y Dywysogaeth. Prydnawn dydd Gwener, pan gyrhaeddodd jy tren pum' numyd wedi (pump i Ffestiniog o'r Bala, sylwodd y gyriedydd ar gap dyn ar y bocs tan, a rhwng gorsafau Manod a Ffestiniog, daethpwyd o hyd i gorph John Jones. 40 mlwydd oed. dyn yn mron yn fud \3 byddar, a'i ben wedi ei dori oddi wrth ei gorph. Tybir iddo grvvydro ar hyd y llinell, ac i3do syrthio i gysgu rhwng y meteloedd. Bwriedir codi cofadail deilwng i'r Esgob Henry Richards, Bangor, sylfaenydd ysgol enwog Botwnog, yn nefieu sir Gaernarfon. Yr oedd yr esgob yn frodor o'r gymmydog- aeth hono, a'r tebyigolrwydd ydyw, y bydd i'r gofadail gymmeryd ffurf o ddwfr-gronfa (' fountain '), yr hon a godir yn mhentref y Sarn. Y' mae" Mr. M. T. Morris, Caernar- fon, yn gweithredu fel ysgrifenydd y sym- mudiad, a'r Hybarch Arcbddiacon John Morgan fel trysorydd. Pa dref yn Nghymru a all hawlio y tym- mor meithaf o olyniaeth, heb unrhyw dor- iad ynddo, yn yr un person i'r swydd o faer? Ail etholwyd y diweddar Syr Llewelyn Turn- er yn faer Caernarfon am un mlynedd ar ddeg yn olynol. Ond yr oedd Aberteifi yn myned yn mhellach. Y^r oedd Mr. R. D. Jenkins, Cilbronau, wedi bod yn faer y dref hono bymtheg gwaith yn olynol. Ei fab liynaf ydyw y Parch. R. B. Jelikins, ficer Llangoedmore, a'i ail fab ydyw yr enwog Syr Laurence Jenkins, un o farnwyr Uchel- lysoedd India. 1- Ai ni fu y diweddar Mr. Ri- chard Muspratt yn faer bwrdeisdref hynaf- ol Fflint am fwy nag ugain mlynedd? ]
Y D E H E U.
News
Cite
Share
Y D E H E U. Dywedir fod y Prifathraw Prys wedi prynu .ty newydd, sef, Lluest Gwilym, ger Aberyst- wyth. Penderfynodd Cynghor Penybont-ar-Ogwy, dydd Mawrth, ar dretih o 2s. 4c. am yr ban- ner blwyddyn nesaf. Boddodd y Parch. Henry Jones, ciwrad o Abertawe, tra yn ymdrochi yn Man Lang- land, dydd Mercher. Mewn cyfarfod gynnaliwyd yn Mertliyr, nos Fawrth, penderfynwyd yn unfrydol ffürf- io Clwb Rhyddfrydig. Y mae y Parch. J. W. Parry, o Goleg Caerfyrddin, wedi dechreu ar ei weinidog- aeth yn eglwys Annibynol Willomore. Yn Caerphili, ddydd Mawrth, dirwywyd D. Pierce, glowr o Senghenydd, i 10s. a'r costau, am feddwi, ac ymddwyn yn afreolus. Cynnaliwyd cyfarfod sefydlu y Parch. Joseph James, B.A., yn weinidog eglwysi Annibynol Llandysilio a Bethesda, sir Ben- fro. Cydsyniodd y Parch. D. Myddfai Thomas a galwad dderbyniodd oddi wrth eglwys An- nibynol Ffaldybrenan ac Esgairdawe, sir Gaerfyrddin. Yn y Gynig'lires ar Addysg Moesol Gydgen- edlaethol, dydd Mawrth, darllenodd Miss E. P. Hughes, Barry, bapur ar Achos fethiant ysgolion nos.' Sefydlwyd y Parch. J. Llewelyn Da vies, PontrhYdfendigaid, Aberteifi, yn weinidog eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Tre- vine, sir Benfro. Yn llys ynadon Tredegar, dydd Mawrth, cyhuddwyd William Jones, glowr, o Tre- degar, o archolli ei fain, Medi 28ain. Gohir- iwyd ei achos am wythnos. Prydnawn dydd Mawrth agorodd Mrs. D. A. Thomas Gartref yn Merthyr, oedd wedi cael ei ddarparu gan yr Ymneillduwyr yn y dref hono a'r gymmydogaeth. Cofnodir marwolaeth y Parch. John Tho- mas, Llandeilo, yr hwn a fu ar un adeg yn weinidog eglwys Annibynol Wern, ger Gwrecsam, a Hermon, Croesoswallt. Yn nghyfarfod Cymmrodorion Caerdydd, nos Fercher, dadganwyd boddhad fod y Llywodraeth wedi pennodi Dirprwyaeth i ymwneyd a chof-adeiladau yn y Dywysog- aeLh. Mae y Parch. E. Griffith Davies, Thon- bury, wedi atteb yn gadarnhaol yr alwad a gafodd o eglwys Annibynoi Kingswood Hill, Bryste. Bwriada ddechreu yno y Sabbath cyntaf yn Rhagfyr. Teimla y Barry yn falch o'r ffaith nad oedd un farwolaeth wedi cymmeryd lie yn Mau Whitmore, Ynys Barry, yn ystod y tymmor diweddaf, er fod dros 100,000 o ym- drochwyr wedi ymdrochi yn y lie dyttnunol hwnw. Agorwyd Neuadd Goffadwriaethol John Pugh, Porth. Gosodwyd y ceEVg sylfaen gan yr Henadur T. H. Ho Ave 11, U.H., Master Henry Wayne Davies, a Mr. F. W. Roder. ick. Bydd lie yn y neuadd i 850, a 400 yn yr ysgoldy. Mewn cyfarfod o lywiawdwyr ysgol Caer- rphili. ddydd Mawrth, g'ofynodd Mr. J. P. Charles ai ni ellid rhoddi prydau o fwyd i blant tlodion yn Llanbradach, lie yr oedd streic. Penderfynwyd gosod y mater o flaen y Cynghor Sirol. Cynnaliwyd cyfarfod yn Abergafenni dan lywyddiaeth y maer, vr w.Hhnos ddiweddaf, a phenderfynwyd rhoddi gw ah oddi ad i'r Eis- teddfod Genedlaethol gael ei chynnal yno yn 1911. Pennodwvd Svr Ivor Herbert, A.S., yn gadeirydd y pwyllgor. Cyfarfyddodd AVdliaim Pinkham, glowr, o Maesteg, a Jaanea Weaver, Abergwynfi, a damwain angeuol, yn Nglofa Glynconwy, Blaengwyfi, ddydd Mercher. Diangfa gyf- yng gafodd John Rowlands, Abergwynfi, rhag cyfarfod a thynged gyffelyb. Derbyniwyd Miss Aranuen Evans, Mer- thyr, fel ymgedsydd i fyned ar y maes cen- hadol, mewn cyssylltiad a Chymdeithas Gen- hadol y Methodistiaid Calfinaidd ar Fryn- iau Khassia, India; ac y mae yn awr yn myned o dan gwrs o adclysg feddygol. Prydnawn dydd Gwener cynnaliwyd cyf- arfod o gangen Aberystwyth o Gymdeithas Merched Deheudir "Cymru, pan y caed araeth gan Lady Brynmor Jones, vr hon a^ddid- iganai ei gobaith y cawsai Mesur Dadsefydl- iad yr Eglwys ei gario y senedd-dymmor nesaf. Cafwyd cyfarfod yn nghapel Salem, Ton- gwynlais, y noson o'r blaen, i ganu ffiarwel a'r Parch. B. D. Johns (Peninder), ar ei waith yn symmud i gymmeryd gofal eglwys y Bedyddwyr yn Cilfynydd, Pontypridd. Anrhegwyd Mr. Johns gan yr eglwys ag an- erchiad a phwrs o aur. Anrhvdeddwyd Syr W. T. Lewis a dinas- fraint Merfhyr Tydfil, dydd 18,u dyveddaf. Cyflawnwyd y seremoni hono gan y maer (yr Heniadur W. D. Jones). Cyfeiriodd Syr William, yn hynod o ddyddorol, at fasnach a chynnydd y dref. Rhoddodd wledd, wedi hyny, i nifer liosog yn Nghastell Cyfarthfa. Dyfarnodd Cwmni Ffordd Haiarn Llundain a'r Gogledd Orllewin y swm o l,350p. i Mr. E. J. Sheppard, Cendl, yr'hwn a dderbyn- iwyd, mewn cyssylltiad a liawliau ddygid yn mlaen am niweidiau personol dderbyniodd ei ddwy ferch, ei fab, a'i wraig, trwy y ddam- wain yn ngorsaf Amwythig, Hvdref 15fed, 1907." Yn mrawdlys chwarterol Abertawe, ddydd iGwener, cydnabyddodd dau fachgen, o'r enw Pendarvis Tagholm a David John Harris, eu heuogrwydd yn ngwyneb nifer o gyhudd- iadau o dori i mewn. a lladrata gwerth 86p. Cafodd y ddau eu rhwymo drosodd o dan Gyfraitih Troseddwyr ar Brawf, i iawn ym- ddwyn am ddwy flvnedd. I Nid ydyw Cymdeithas Gorawl Llanelli, y cor buddugol yn Eisteddfod Llangollen, am orpluvys yn dawel. Yn sicr, y mae talu ym- weliad a Windsor, trwy orchymyn, i ganu 0 flaen dan o benau coronog, nc ennill y llawryf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn waith da mewn un flwyddyn. Anrhegwyd Mr. John Thomas, yr arweinydd, y noson o'r blaen, gan lelodau. ei gor ag oriadur aur. Hysbyswyd, yr adeg hono, y byddai 1 arian y wobr yn Llangollen gael eu rhoddi yn v ban.crc, er talu cost y cor i fyned i .Eis- teddfod Genedlaethol Llundsin y flwydd- yn nesaf.
[No title]
News
Cite
Share
Merched ydyw y cynnyrcliwyr ffrwythau goreu yn Califfornia. v Amcangyfrifir fod New York yn cvnnyddu o ran ei maintioli chwe gwaith yn fwy cyf- lym na Llundain.
Advertising
Advertising
Cite
Share
HOW TO MAKE LIGHT BUNS. By using Eiffel Tower Bun Flour the most inexperienced person can make light Buns and Cakes with certain success. Try a id, packet.
0 YNYS ENLLI I YNYS GIFFTAN.I
News
Cite
Share
0 YNYS ENLLI I YNYS GIFFTAN. [GAN Sbxthsntn], FFESTINFAB. Y mae vnadon Penrhyndeudraeth, Cy- nghor Trefol Pwllheli, a Bwrdd Gwarcheid- waid Pwllheli, wedi pasio pleidlais o gydym- deimlad a theulu y diweddar Ffestinfab. RHYDYCLAFDY. Y mae trwydded y Royal Oak Inn (Rhwng- y-ddwyafon), wedi cael ei throsglwyddo oddi wrth \lVIrs. Williams i Mr. William Jones, cyn-arolygydd tafarnau. OWN DEFAID. Rhaid i berchenogion cwn defaid fod yn dra gofalus ynglyn a chadw llywodraeth ar eu own o hyn 'allan. Yn ol y rheolau new- j'ddion, y mae gan yr heddgeidwaid awdur- dod i gymmeryd i'r ddalfa bob ci a geir yn crwydro o fachludiad haul hyd godiad haul. Rharid i'r ewn gael eu cadw yn rhwym neu mewn adeilad yn ystod yr amser a enwyd. Gwysiwyd dau ffermwr ger bron Heddlys Pwllheli dydd Mercher, am dori y rheolau. Daliwyd eu cwn yn lladd defaid. a saethwyd hwynt. Yr aimddiffyniad oedd fod un ci wedi cael ei gloi i fewn, ond iddo ddiangc rhywsut neu gilydd yn ystod y nos. Methwyd cael gafael ar y ci ,arall o gwbl., Yr oedd y ddau gi yn rhai gwerthfawr. Cafodd y ddau ddi- ffynydd fyned yn rhydd trwy dalu y costau yn unig. Ond dymunid tynu sylw holl am- maethwyr y wlad at y rheolau newyddion. HANNER CANT 0 YMGEISWYR. Anfonodd 50ain o ymgeiswyr geisiadau at Gynghor Trefol Pwllheli am swydd peirian- nydd dan y Cynghor. Deuant o bob rhan o'r wlad bron. Detholwyd tn. o honynt i ymddangos ger bron y cynghor; sef, Mr. Stephen Davies, Woodford; Mr. Charles D. Roberts, Prestatyn; a Mr. Gray Owen, Llangollen. BENTHYCA 10,OOOP. Bwriada Corphoraeth Pwllheli ofyn am fenthyg 10,000p. er rnwyn talu y ddyled sydd arnynt i'r ariandy. Gellid cael yr arian am lai o log nag a delid i'r ariandy. BODDIAD DAU DDYN YN MHORTH MADOG. Ar yr 21ain cynfisol, bu John Hethering- ton, Caerdydd, a Frank W. Barrow, Caer- dydd, dau beiriannydd perthynol i'r ager- long Derwent,' foddi yn Mhorth Madog, trwy i glwch ddymchwelyd tra yr oeddynt hwy yn myned ynddo o'r lan i'r agerlong. Darganfyddwyd icorph Hetherington ar y 23ain loynfisol, a-c un Barrow ar y 29ain cyn- fisol, y ddau yn ymyl y fan y boddasant. Yn y trengholiadau gynnaliwyd ar y 24ain a'r 30ain cynfisol, tystiwyd i'r perwyl can- lynol:—Aeth y ddau ymadawedig i'r lan ar yr 21ain loynfisol. Gwelwyd Hetherington a chychwr o'r enw Richard Jones, yn y Sail- or's Home, tua naw o'r gloch. Yr oeddynt yn 'sobr. Aeth y ddau 'allan. Gwelwyd Barrow yn yr Australia Inn. Cafodd yno ddau wydriad o gwrw. Aeth yn nghwlmni Evan Griffith, paentiwr, isiop Mrs. Jones, y Gell, lie y prynodd ^r ymadawedig 'groceries.' Mam Richard Jones oedd Mrs. Jones. Yr oedd Richard Jones wedi cyttuno a'r ymadawedig i'w cymmeryd mewn cwch i'r agerlong. Aeth Barrow a Griffith at ris- iau glan y mor, Penycei, lie yr oedd Richard Jones la Hetherington. Wedi i Griffith weled y tri yn y cwch, ymadawodd Griffith, ac aeth adref. Dywedodd y trengholydd y gohirid yr ym- chwiliad hyd dydd Iau nesaf. MR. LLOYD-GEORGE. Bwriada Mr. Lloyd-George adeiladu ty newydd yn Nghriccieth. Bydd ar lethr bryn, ac yn meddu ar olygfeydd prydferth ang- hyffredin. Ymadawodd Mr. Lloyd-George am Harlech i chwareu golff dydd Mawrth, ac yn hwyrach yn y dydd ymunodd a Mrs. Lloyd-George, ac aethant i Aberystwyth. Tranoeth ymadaws.ant am Abertawe. Nos Lun traddododd anerchiad yn Nghyf- arfod Cyllidol y Wesleyaid yn Nghriccieth. GWAITH CENHADOL. Yn nghapel y Pare, Porth Madog, y Sab- bath cyn y diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod cenhadol dan arweiniad Mr. R. G. HuJm- phreys (R. o Fadog). Pregethwyd gan Mr. Humphreys, a chymmerwyd rhan yn y cyf- arfod gan y Mri. Elias Pierce, G. Williams, R. Williams, Robert Parry, O. G. Jones, C. Dempsey, ac eraill. Yr oedd yn gyfarfod nodedig o hapus a llwyddiannus. CI CRWYDROL. Gorchymynodd yr ustusiaid i James Owen, Criccieth, dalu y costau am iddo adael ei gi grwydro. Dywedodd y diffynydd iddo roddi coler am wddf y ci, ond iddo ei thori. Cyl- ymodd ef wed'yn yn y ty, ond gallodd ddi- angc. Nis gallai y ci oddef coler. CRICCIETH. Y mae y Cynghor Trefol wedi dechreu der- byn arian oddi wrth y Gwaith Dwfr. Disgwylir y ceir benthyg arian gan Gorph- oraeth Liverpool at dalu am y Gwaith Dwfr. Nis gall y Cynghor Trefol ymgymmeryd a'r gost o symvmud ymaith y ceryg perjTglus sydd ar ffordd gollwng y bywyd-fad i'r mor. Rhaid i bobl eraill dalu y gost. DR. HUGH JONES. Yrn nghyfarfod cyllidol ,y Wesleyaid, yn Nghriccieth, dydd Mawrth. 'penderfynwyd sefydlu ysgoloriaeth yn Ngholeg Bangor a'i galw yn Dr. Hugh Jones' Scholarship,' er coffadwriaeth am y gwasanaoth mawr, yn ystod 50ain o flynyddoedd, a wnaeth y Parch Dr. Hugh Jones, Bangor, i Wesleyaeth ac i'w wlad. Un o gewri y pulpud yw Dr. Jones. LLANGYBI. Daliwyd Morris Thomas, cigydd, Four- crosses, yn saethu ar dir Melin Plas Du, gan geidwad helwriaeth y Parch. J. C. Williams Ellis, Glasfryn Fawr, a gwysiwvd ef o flaen ynadon Pwllheli dydd Mercher. Cafodd ei ddirwyo i lp., a 19s. o gostau. BACHGEN DI-LYWODRAETH. Y mae Pwyllgor Addysg Dosbarth Pwll- heli wedi cael trafferth fiawr i gael gan fach- gen Mary Williams, Tanyrallt Terrace, Piwll- heli, fyned i'r ysgol. Er ei gymmeryd i'r 3'sgol gan y swyddog gorfodol, -ac er i'w fam ef fyned a'i giniaw iddo yno, diangc wnai efe wedi'r cwbl. Aeth i Ysgol y Pabyddion yn Mhiastirion am dri'neu bedwar diwrnod, ond gwrthodwyd ef yno yn herwydd ei afreol- eidd-dra. Dywedid ei fod yn dioddef oddi j wrth afiechyd, ond sicrhaai Dr. R. Jones Evans ei fod yn hollol iach. Mothai ei fa n II ei gadw dan Iywodraeth. Dydd Mercher di- weddaf, daeth Mr. Evan R. Davies a'i achos ger bron yr ynadon ac anfonwyd y bachgen i'r hyffordd-long 'Clio.'
LIVERPOOL.
News
Cite
Share
LIVERPOOL. Y FEIBL GYMDEITHAS. I Nos Fawrth, cynnaliwyd cyfarfod hlyn- yddol cangen Liverpool o'r Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, yn y Neuadd Ganol- og." Cymmerwyd y gadair gan y Parch. Dr. Hugh Jones, llywydd y gaiigen. Wedi i'r cyfarfod gael ei agor trwy weddi gan y Parcli. James Davies cyflwynwyd ad- roddiad gan Mr. J. Saunders Jones, yr ysgrif- enydd meddygol. Dangosai fod derbyniad- au y gangen yn ystod y fi wyddyn yn cyrhaedd 362p. ]2.<. 5c., ac yr oedd 200p. o'r cyfryw wedi cael ei anfon fel rhodd i'r fam gymdeith- as. Er pan yr oedd y gangen wedi cychwyn yn 1831, yr oedd derbyniadau y gangen wedi cyrhaedd 35,007/-?., o ba un yr oedd 3^,578^. wedi cael ei anfon i'r brif-swyddfa— cyfartal- edd blynyddol o 413p. Cynnygiodd y Parch. J. Roberts, David Street, eu bod yn mabwysiadu yr adroddiad a bod y pwyllgor a'r swyddogion yn cael eu hail ethol; ac wrth wneyd hyny, gwnaeth appel at ei gydwladwyr am ymroddiad ad- newyddol ar ran y Feibi Gymdeithas. Y Parch, J. Cynddylan Jones, Caerdydd, cynnrychiolydd y Fam Gymdeithas, mewn araeth rymus a gefnogodd y penderfyniad a chyttunwyd arno. Y Parch. H. Elvet Lewis, Llundain, a gyn- nygiodd, a chefnogxld y Parch. 0. M. Owen, Windsor Street, ail benderfyniad, yn dadgan llawenydd ar lwyddiant y gymdeithas yn lledaenu Gair Duw trwy y byd, ac yn gofyn am weddiau chwanegol a hunan-aberth tuag at ledaeniad cyffredinol ar y Beibl.
WYDDGRUG.
News
Cite
Share
WYDDGRUG. Pwyllgor Dirwestol Annibynwyr SirovJd Din- bych a Fflint.—Cyfarfyddodd y Pwyllgor uchod yn ysgoldy Bethel, prydnawn dydd Mercher diweddaf. Llywyddwyd gan Mr. Joseph Edwards, Gwrecsam. Darllenwyd llythyrau yn gofidio nas gallent fod yn bre- sennol oddi wrth y Parchn. H. Ivor Jones, Caer; R Peris Williams, Gwrecsam; J. Tonlas Hughes, Bwlchgwyn; J. 11. Hughes, Soar a Mr. Hugh Edwards, Rhy). Cyttun- wyd fod yr appel wnaed drwy y p vyllgor at yr eglwysi am eu cefnogaeth i'r Mesur Dir westol ger bron y senedd wedi cael sylw cyif- redinol. Cynnygiwyd gan y Parch. J. D. Jones, Brynteg, a chefnogwyd gan y Parch. Thomas Roberts, Wyddgrug I!.in bod etto yn cymmhell yr eglwysi i barhau eu cefnog- aeth i'r Llywodraith yn eu hymdrech i ddwyn y mesur drwy'r Ty yn yr eisteddiad nesaf sydd ger Haw, drwy fabwysiadu pen- derfyniadau o'i blaid yn mhob cyfarfod eg- lwysig, Ysgol Sul, a Gobeithluoedd ac fod y penderfyniadau yn cael eu lianfon i'r aelodau seneddol dros y cylch, ac i'r Prifweinidog.' Cynnygiwyd yn mhellach gan y Parch. it. Evans, Nant, Coedpoeth, a chefnogwyd gan y Parch. J. D. Jones :—' Ein bod yn appelio drwy y cyfarfod chwarterol at yr cglwysi ar i'r egwyddor o lwyrymwrthodiad gael mwy o sylw, ac ar i'r swyddogion a'r aelodau ystyr- ied y pwysigrwydd o fod yn llwyrymwrthod- wyr; ac fod mwy o sylw yn cael ei roddi i'r egwyddor yn y Gobeithluoedd.
-----'-GWRECSAM.
News
Cite
Share
GWRECSAM. CYHUDDIADAU 0 LADRAD. Yn llys ynadon Gwrecsam ddydd Llun cy- huddwyd dau ddyn, o'r enwau Thomas Wil- liams a Thomas Jones, o dori i Oteley House, Salisbury Park, a lladrata oddi yno swm o bibell-au nwy, a nifer o tapiau pres, &c. Aeth y carcharor Williams i fyny at hedd- geidwad un diwrnod yr wythnos ddiweddaf, a dywedodd wrtho ei fod wedi tori i Oteley House, yr hwn oedd yn wag, a bod yr eiddo ysbeiliwyd wedi cael ci daflu i ffynnon. Yn ddilynol i hyny caed allan fod y pres yn meddiant masnachwr, o'r enw Flannagan, yr hwn oedd wedi ei brynu gan y carc'harox Jones. Plediodd y ddau garcharor eu heuog- rwydd; a dywedasant iddynt dori i'r ty tra o dan ddylanwad diod. Traddodwyd hwy i sefyll eu prawf yn y frawdlys. TRENGHOLIAD.— GOLYGFA. Arweiniodd gwaith dau o'r rheithwyr ddim yn atteb i'w henwau mewn trengholiad yn Ngwrecsam, nos. Lun, i eiriau lied fywiog gymmeryd lie rhwng y crwner (Mr. LI. Ken- rick), a dau o'r rheithwyr, ar ol iddynt gyr- haedd yn mhen vehydi- funydau ar ol hyny. Yr oedd y crwner ei hun wedi gwneyd ym- ddiheurad i'r rheithwyr am ei fod dri neu bedwar munyd ar ol yr amser pennodedig i gynnal yr ymclnviliad (7.45), ac eglurodd fod ei dren ddeugain munyd ar ol yr amser. Yn fuan ar ol hyny daeth un o'r rheithwyr oedd heb gyrhaedd, Mr. Edward Hanmer, i'r ystafell; a dywedodd y crwner wrtho nad oedd yn deg cadw y rheithwyr eraill i ddis- gwyl.' b Mr. Hanjmer:—' Y trengholiad olaf yr oeddwn arno yr oeddych chwi ugain munyd yn ddiweddar.' Y Crwner Nid oedd hyny yn un bai o'r eiddof fi.' Mr. Hanmer:—' Ond ni roddasocli un eglurhad.' Y Crwner:—'Nid oes genyf eisieu ymra- faelio a chwi. Os na bydd i'r rheithwyr roddi eu presennoldeb bydd i mi eu di- rwyo. Yr oedd Mr. Hanmer ar ddyweyd gair yn 01 pan yr attaliodd y crwner ef, ac y dy- wedodd ei fod o fewn ei allu i'w ddirwyo. Mr. Hanmer:—' Yr oeddwn yn meddwl i chwi ddyweyd eich bod wedi gorphen.' Y Crwner (yn llym)' Os bydd i mi gael chwaneg o aflonyddwch o'r fath yna bydd i- mi wneyd rhywbeth. Yr wyf yn meddu gallu i wneyd hyny; felly, yr wyf yn eich cynghori i fod yn ofalus.' Ar hyn cyrhaeddodd y rheithiwr arall, Mr. Edward P. Jones. Gwysiwyd c'hwi yma am 7.45,' meddai y crwner, gan droi ato, Y mae yr oil o'r rheithwyr, gyda'r eithriad o chwi a Mr. Han- mer, wedi dyfod yma yn brydlawn; a dis- gwylir pan eich gehvir am amser pennoded- ig. i chwi fod yn bresennol.' Mr. Jones (yn wresog) :—' Y tro diwedd- af yr oeddwn mewn trengholiad bu raid i mi ddisgwyl am danoch chwi.' Y Crwner:—' Nis gallaf fod yn gyfrifol am hyny.' Yr oedd Mr. Hanmer ar ddyweyd gair, pan y bygythiodd y crwner arfer ei awdur- dod; a chwanegodd, Y mae yn rhaid i ni gael trefn.' Dygwyd yr ymddadleu i derfyniad; ac aed yn mlaen i wrandaw y dystiolaeth. Boreu ddydd lau ymddengys fod bachgell o'r enw Frank Marcus Hodges, clrwe mlwydd oed, yr hwn oedd yn byw yn Marley Road, ar ei ffordd i'r ysgol, pan yr aeth ef. a bachgen arall o'r tu 01, i drol darllawydd. Gwaeddodd y gyriedydd arnynot i fyned. i ffwrdd; a gwnaeth y ddau hyny. Rhedodd y trangcedig, modd bynag, o flaen noat' oedd yn dyfod i lawr Salop Road. Tarawodd yn erb.yn y 'step,' a chunvyd ef ar lawr, ond nid aeth y cerbyd drostp. Cyntmerwyd ef i feddygdy; a bu farw y diwrnod canlyn- iad, mewn canlyniad i ennyniad. y fraslen, yr hyn oedd yn ganlyniad y niweidiau dderbyii- iodd. Dychwelwyd rheithfarh o Farwolaeth ddamweiniola rhyddhawyd y ddau yried- ydd oddi wrth bob bai..
-" ABERYSTWYTH.
News
Cite
Share
ABERYSTWYTH. CYFLWYNO TYSTEB I'R P.A&CH. JOB MILES. Nos Iau cynnaliwyd cyfarfod yn righapel yr Annibynwyr Cymreig, yn y dref Uchod, i gyflwyno tysteb i'r Parch. Job Miles, yr hwn, ar ol bod yn weinidog yr eglwys am bymtheg mlynedd ftr liugain, a roddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny ar derfyn y flwyddyfl ddiweddaf. Derbyniwyd tanysgrifiadau at drysorfa y dysteb oddi wrth liosog o gyfeill. ion ac edmygwyr mewn gwalianol ranau o'r wlad. Cymmerwyd y gadair gan Mr. Morgan Evans, Oakford. Yr oedd y dysteb yn cael ei gwneyd i fyny o anerchiad (album) oreuredig, a swm o aur,; ac yr oedd yr anerchiad yn gosod allan waith llwyddiannus Mr. Miles fel gweinidog, yn gystal a'r dyddordeb ymarferol a gymmerai yn holl symmudiadau yr enwad. Cyflwynwyd yr anrhegion uchoj gan y Parch. T. J. Parry, Cilcenm. un o'r ysgrifen- yddion; a Mr. John Evans, cyfreithiwr, Ab- erystwyth, y trysorydd. Traddodwyd anerchiad gan y Parch. L. Evans, y Wig; Proffeswr D. Morgan Lewis, Aberystwyth y Parch. Evan Evans, Llan- bedr pont-Stephan; Proffeswr Anwyl, a'r Prifathraw Roberts, Aberystwyth Dr. Dav- ies, Castellnewydd Emlyn; a'r Parch. R: Roberts, eadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig. Cyfeiriai yr oil o'r siaradwyr at Jafur a gweithgarwch Mr. Miles mewn gwa- hanol gylchoedd cyhoeddus- Mr. Miles, wrth gydnabod yr anrhegion, a ddywedodd, er ei fod wedi rhoddi i fyny ofal yr eglwys yn Aberystwyth, ei fod yn gobeith- io bod o wasanaeth fel pregethwr yr efengyl am lawer o flynyddoedd etto.
CYNWYD.
News
Cite
Share
CYNWYD. Cyfarfod Dirwestol.—Nos Iau, Medi 24ain, cynnaliwyd cyfarfod dirwestol yn addoldy y Bedyddwyr. Llywydd, Mr. John Edwards. Emyn 'Dyma gariad fel y moroedd.' Adrodd Salm gan Miss Hannah M. Roberts. Arwein- iwyd mewn gweddi gan Mr. Thomas Hughes. Emyn Pe meddwn aur Peru.' Gwrandaw ad- nodau a phennillion y plant, gan Mr. Moses Jones. Adroddiad, Ymweliad y Bardd,' gan David Evans. Darlleniad, Y pedwar teith- ydd masnachol,'gan Sammie Roberts. An- erchiad gan y llywydd. Adroddiad, Addysg Plant,' gan Eunice Williams. Dat- ganiad, Y Cartref Nefol,' gan John Evan Pugh. Cyfleusdra i ardystio. Nodiadau gan Mr. Richards, yn cynnwys sylwadau yn y gymmanfa ddirwestol. Nodiad chwanegol gan Mrs. Yaxley. Sylwadau gan Mri. Phillip Morris a J. Rhys Edwarda. Datganiad, Dyma Feibl anwyl lesu.' Darlleniad, Beth ddywed y Meddygon—y Darllawyr— a'r Tafarnwyr,' gan Miss Nellie Edwards. Adroddiad o'r gymmanfa ddirwestol yn N ghorwen, gan Mr. William Williams. Emyn derfynol. Diweddwyd gan Mr. Hugh Thom- as. Yr oedd y sylwadau gafwyd o'r gym- manfa mewn perthynas i'r deffroad dirwestol yn y wlad, a rhsvymedigaeth arbenig eglwysi crefyddol y deyrnas yn y cyfwng presennol, yn darawiadol a grymus. Hefyd, gosodir rhwymedigaeth ar fod yr ieuengctyd yn cael y gofal dyladwy, ac fod yr holl eglwysi yn fyw i'w dyledswydd ar hyn o bryd, er cynnal beichiau y Prifweinidog a'r Llywodraeth o blaid Mesur y Trwyddedau, yn ngwyneb y fath genllif sydd yn ei wrthwynebu yn mhob modd. Cynnelir y cyfarfod nesaf yn addoldy y Methodistiaid, Hydref Sfed.
| SICRHEIR Y BYDD I VENO'S…
News
Cite
Share
SICRHEIR Y BYDD I VENO'S UICHTNINC COUCH CURE WELLA PESWCH NEU ANWYD MEWN UN NOSON. Y mae y rhamant o'r modd y mae Veno's Liglhtning Cbugh (Cure wedi icodi yn un hynod iawn. Mewn saith mlynedd, y mae y feddyginiaeth enwog wedi gwneyd ei ffordd agos i bob cartref yn Mhrydain Fawr a'r Trefedigaethau. Y .mae dros ddwy filiwn o botelau yn cael eu gwerthu yn flynyddol. Y mae meddygon yn cyfarwyddo iddo gael ei gymmeryd, o blegid ei fod y feddyginiaeth arbenig ddiogelaf, bura.f, a mwyaf effeithiol tuag at- Anwyd (Asthma' Dyfetwflt Ffroenawl Ysgyfaint Egwau Peswch Hir-barhaol 'Crwp' Bronubitis' Y Pis. Dywed Albert Smith, Ysw. M.I.C.S., M.S.B .Sc., 2, King's Road, Brownswood Park, Llundain, N., yn ei dystysgrif o ddad- ansoddiad:—' Yr wyf yn icanfod fod Veno's Lightning Cough Cure yn cael ei wneyd i fyny o gyfferiau pur, effaith cyfunol pa rai ydyw lliniarui Hid, rhwyddhau y ffordd i daflu allan lysnafedd, ac i liniaru a symbylu yr ysgyf- aint, ac felly attal Ilid jparhaol a phesweh cysson sydd yn cynnyrchu lludded. Yn ol fy marn i, y mae yn feddyginiaeth o'r fatli fwyaf rhagorol, a gellir ymddiried ynddi fel meddyginiaeth ddiogel ac effeithiol at asthma,' bronchitis,' ac anhwylderaii yr .ysgyfaint, ar gyfer pa rai yr wyf yn ei ar- gymmJhell yn drwyadl.' Gofyriwell am Veno's Lightning Cough Cure, i'w gael gan yr holl fferyllwyr. Pris, Is, Sic., Is. lie., a 2s. 9c.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae yn rhaid i bob plentyn a rodda ei breaennoldeb mewn Kindergarten yn yr Ys- wisdir a'r Almaen gael eiddarparu a chadach pocedglan.