Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
¡ Àrwriaeth d&hn Á,Úhmiy.;
News
Cite
Share
¡ Àrwriaeth d&hn Á,Úhmiy.; Lied dlawd ydyw Ileiiyddiadtih Cymru o IT of el an arwriaethol. Y mae Mr. Evan Row- lands (Ap Lleehwedd) wedi dwyn allan ra- mallt trwy wasg y Mri. Davies a'i Gwmni, Swyddfa y 'Rhedegydd,' Blaenau Ffestin- iog. Llyfr 80ain tudalen ydyw, wedi ei ar- graphu a'i amlenu yn lan a phrydferth. Ymwna y rhamant a hanes arwr o'r enw John Anthony. Ba,chgen, i rieni cyffredin oedd John..Amiinella yr awdwr, yn fyr, hanes rhieni John, ei fodryb (gyda'r hon y dygwyd ef i- fyily, pail yn blentyn), ei ewythr (William Jones), a phersonaiL eraill, a hyny gyda medr mawr, gan gyd-blethu ffeithiau dyddorol, a 11 awn moddion cynnhyrfiol gyda'r hanes. Dygir i fewn fywyd carnladron sir Drefaldwyii, cyiillwyhion ffug-honwyr a thwyllwyr. Ceir golygfeydd gwaedlyd gar- tref, ac oddi cartref, a dadblygir yn fedr- us amgylchiadau bywyd anturiaethus John Anthony, drwy ganol arihawsderau mawrion. Crea yr awdwr gymmeriadau byw o fllaen y llygad. Daw y iClrwg a'r da allan yn nod- weddion gwyr y palasau. Mae yn y rhamant rai pethau cyffelyb i'r hyn geir yn y Mabin- ogion, ac y maent mor Gymroaidd a'r pethau hyny. Mae y digwyddiadau sydyn, etto naturiol, yn mywyd a marwolaethau rhai o'r cymmeriadau yn gyffrous. Ceidw yr awd- wr gymmesuredd, ei waith yn y golwg yn bar- haus, ac yn y diwedd cawn y rhamant yn terfynu yn naturiol, a John Anthony wedi llwyddo i gael dyrchafiad mawr yn y byd, a phriodi yn hapus. Daeth o fod yn blentyn tlawd i fod yn filwr enwog a chyfoefcliog. Llongyfarchwn yr awdwr ar ei lwyddiant di- ammheuol fel ysgrifenydd; a disgwyliwn chwaneg oddi wrtho.
[No title]
News
Cite
Share
The Dawn of European Civilisation.' Gan y Parch. G. Hartwell Jones, M.A., Rheith- or Nutfield. Cyhoeddedig gan y Mri. Kegan Paul, a'u Cyf., cyhoeddwyr, Llundain. Pris 12s. Rhoddir i'r gyfrol hon y ganmoliaeth fwy- af diledryw gan y wasg, a chan ysgolheigion a llenorion, Prydeinig ac Ewropaidd, a ys- tyrir yn awdurdodau ar y mater yr ymdnnir ag ef. Y mae'r mater hwnw—toriad gwawr gwareiddiad yn Ewrop-yn un o ddyddordeb dwfn a chyffredinol, ac un y mae astudiaeth lied drylwyr wedi ei wneyd o hono gan liaws o awdurdodau enwog, yn enwedig felly ar y Cyfandir. Ac, yn awr, wele Gymro, yn mherson Mr. Hartwell Jones, wedi rhoddi llam megys o flaen rhestr yr enwogion hyn, trwy gynnyrchu cyfrol sydd yn gyflawn o bob gwybodaeth ellir ei sicrhau ar y mater, ac un sydd yn ymwneyd a'r cyfryw fater yn y dull mwyaf meistrolgar a dwfn-dreiddiol. Y mae dyddordeb y gyfrol gymmesured ag eangder y pwngc. Ar wahan i'w hysgolhedg- dod, a thrylwyredd y dull yr olrheinir y pwngc, y mae arddull yr awdwr, ac eglur- der cwrs ei ymresymiad yn dwfnhau dy- ddordeb y darllenydd o ddalen i ddalen, hyd derfyn y gwaith. Galluoga ysgolheigdod yr awdwr iddo dynu ei ffeithiau, a chyda'r ffeithiau hyny ysbrydoliaeth, o ffynnonellau mwyaf amrywiol o ran eu cynnwys a'u han- sawdd, a'r goleuni defiir ganddynt ar y pwngc. Dengys yr awdwr ei fod wedi cyf- ranogi yn helaeth o ysbrydiaeth y lenydd- iaeth oreu ar y cwestiwn, ac y mae mor gar- trefol yn nghlasuron Groeg a Rhufain, Ffraingc a'r Almaen, ag ydyw yn nghyfrin- ion Uenydduiaeth oreu ei wlad ei hun. Fel yr awgryma teitl y gyfrol, dadblygiad cymdeithasol meddyliol a chrefyddol Ewrop yn oesau boreuaf hanes yw y mater yr ym- drinir ag ef, a chydnabydda'r adolygwyr, un ac oil, fod Mr. Hartwell Jones, trwy y gyf- rol werthfawr hon, wedi dwyn efrydwyr y gangen bwysig hon o hanes dan deyrnged adorn o ddyled iddo; ac argymmhellir y gyf- rol iddynt o herwydd trylwyredd ei chyn- nwys, dyfnder ac helaet'hrwydd ei harchwil- iaeth, eglurder ei harddull llenyddol, amryw- iaeth ac effei'thiolrwydd ei dyfyniadau eglur- haol, symlrwydd a naturioldeb ei hymresym- iad. Canmoliaeth uwch ni ellir roddi i un- rhyw gyfrol, ac ni plietruswn ei gosod yn mysg goreu llenyddiaeth Ewrop ar y mater hwn. Dywed y De Amsterdammer y gall Arglwydd Avebury (Syr John Lubbock, gynt), pan yn adolygu ei restr o'r Can' llyfr goreu yn llenyddiaeth y byd, roddi i'r gyf- rol hon le anrhydeddus. Dyna ganmoliaeth dra uchel, a llongyfarchwn yr awdwr yn galonog ar lwyddiant ei ymchwil, a'r gym- imeradwyaeth gyffredinol roddir i'w ddull effeithiol o ddwyn ffrwyth y cyfryw ymchwil ger bron ei ddarllenwyr. Yn ei ragarweiniad i'r gyfrol, ymdrinia'r awdwr a lie Groeg a'r Eidal yn hanes gwar- eiddiad a dadblygiad. Ffurfiai y ddwy wlad hyn fath o stepping stones' rhwng dau gyfandir, ac fel man cyfarfod i wareiddiad y Dwyrain a'r Gorllewin yn yr oesoedd bor- euol a hanner paganaidd. Priodola wareidd- iad y ddwy wlad i ddadblygiad; a dengys fod y satfon uchel o ddysg a diwylliant medd- yliol a gyrhaeddwyd gan eu trigolion yn ffrwyth dadblygiad a chynnydd graddol a rheolaidd. Mae hanes y ddwy wlad, eb efe, yn faes cyfoethog i'r efrydydd a fyno astud- io twf sefydliadau cyhoeddus, a meddwl dyn, ar doriad gwawr hanes y ddynoliaeth. Dy- fynir yn helaeth, ond yn ddoeth, o Aristotle Lucretius, Horace Thucydides, Euripides, ac eraiJI o'r ysgrifenwyr clasurol; ac ymdrinir yn ddeheuig ar y Ddamcaniaeth fawr o Ddadblygiad (' Evolution '). Ynglyn a chyn- nydd meddyliol—moesol a chrefyddol—dygir i'r ymresymiad dystiolaeth ysgrifenwyr ys- brydoledig y Testament Newydd, a'r Tadau, megys Awstin Sant (hanesyddwr athronydd- 01 crefydd), Clement o Alexandria, &c. Mae'r rhagarwe,iniad yn agorfa cywir i gyn- nwys y pennodau sydd yn dilyn. Yn y bennod nesaf ysgrifena'r awdwr ar lammodau cynnydd, neu ddadblygiad, yn Ngroeg a'r Eidal, a cheir ganddo olrhein- iad manwl i ddylanwad yr Aryaid ('Aryans'), neu y llwyt-hau gogleddol, ar y ddwy genedl ddeheuol, a pha rai yr ymgymmvsgasant, ac y daethant i gyd-gyfathrachu. Y mae am- linelliad yr awdwr o nodweddion meddyliol a phersonol yr Aryad yn ddyddorol dros ben, ac yn dra dealladwy. Olrheinir ei ddylanwad cynnyddol wedi ei ymfudiad i froydd y de, o'i -v diriogaethau gogleddol brochwyllt; a cheir disgrifiad cywir o'r modd y cadwodd ei oruch- afiaeth am ganrifoedd ar hanes dadblygiad a chynnydd y Groegiaid a'r Eidaliaid. Dyg- ir y bennod i derfyniad: gyda dadansoddiad beirniadol manwl o nodweddion meddyliol y ddwy genedl, a'u gwahanol syniadau am yr hyn a ystyrient yn grefydd, gweddi, ac ys- brydoedd. Mewn pennod arall, traetha Mr. Hartwell Jones yn fedrus ar drawsfudiad llwythau a chenedloedd, ac offeithiau hyny ar hanes gwareiddiad yn moreu hanes. Dyma actios cyntefig nodweddion cenedlaeth- ol, medd ef; ac un o brif achosion traws- fudiad, yn wir, y penaf oil, ydoedd annigon- | olrwydd y tir i gynnal ei drigolion. Yr oedd f dau achos ail raddol yn cyfrif am hyn yn yr oesoedd tywyll hyny—anwybodaeth o'r gelf- yddyd i adnewyddu adnoddaii hysbyddedig y tir, trwy oruchwyliaeth gwrtaith, a chyn- nydd parhaus y bobiogaeth. Yn wyngb sef- yllfa presennol pethau yn y Deyrnas Gyiun- ol, pan heidir y trefydd gan y llafurwyr am- ae'thyddol, ac y clywir y cri, Yn ol i'r tir,' y mae y goleuni deflir yn y gyfrol am draws- fudiad yr Aryaid o'r Talaethau Gogleddol i'r gororau deheuol yn dra dyddorol. Yn y cyssylltiad hwn traetha yr awdwr ar newyn am dir, am ddylanwad mudiad y bobl ar eu cymmeriad, a chwestiynau perthynasol eraill; a thrwy'r holl ymresymiad deil y dyn at ei bwngc, a. phrofa mewn modd eglur i ba radd- au y bu gan y pethau hyn ran yn nhoriad gwawr gwereiddiad. Mewn pennodau dilynol ymdriilisr yn mysg eraill, a'r pyngciau a ganlyn:— A,m- gylchedd (' Environment'), Dylanwadau Allanol,' Hela a Bvwyd Bugeiliol,' Am- aethyddiaeth,' 'Y teulu a'i ffurfiad,' Pri- odas,' Triniaeth plant,' Triniae'tfh y rhai mewn oed,' Cyflwr merched,' Trefniad y teulu,' Eiddo/ Caeth-wasiaeth,' Llywodr- aeth, &c., &c., a diwedda gyda thraethawd dysgedig ar 'Berthynas y Byw a'r Marw.' Y mae pob tudalen yn y pennodau hyn, ac eraill, yn orlawn o'r ffeithiau mwyaf dy- ddorol. Yn y bennod ar Amaethyddiaeth,' er enghraifft, ymwneir a dadbJygiad diwyll- iant yn y cyfnod trosglwyddiadol o'r byw- yd bugeiliol syml a ddilynid gan y cenedl- oedd boreuol, i'r bywyd amaethyddol, a'r effeithiau gafodd hyn ar sefydliadau a defod- au cymdeithasol, ynghyd ag arferion y bobl. Ysgrifenir gyda'r fath nerth ac eglurder fel y mae bron yn ammhossibl colli golwg ar lin- yn yr ymresymiad. Yn ei ddisgrifiadau o'r trosglwyddiad o gyfnod yr hela i gyfnod y bywyd bugeiliol, ac yna i'r bywyd amaeth- yddol, y mae'r darllenydd fel pe yn sylwedd- oli 'toriad gwawr y gwareiddiad,' gan mor naturiol y disgrifiadau. Ac felly trwy y gyfrol o ben-bwy-gilydd. Gallesid yn hawdd ymhelaethu ar deilyng- dod yr awdwr; ond rhaid darllen y gyfrol, a'i hail ddarllen, i fwynhau yn drylwyr ei chynnwys. Y mae ynddi oludoedd dihysbydd bron ar bob pwngc sydd o ddyddordeb anar- ferol. Llongyfardhwn Mr. Hartwell Jones ar ei lwyddiant. Y mae ei enw yn dra ad- nabyddus yn Nghymru. Fel y gwyr lliaws o'n darllenwyr, bu am flynyddoedd yn Athro Lladin yn Mhrifysgol Deheudir Cymru a sir Fynwy, yr hon swydd a ddaliwyd ganddo hyd nes yderbyniodd fywoliaeth Nutfield, yn swydd Surrey. Y mae ei ysgolheigdod y tu hwnt i :ammheuaeth, a pherchir ei enw gan bob Cymro teilwng o'r enw, o herwydd ei genedlgarwch. Pe yn llai cenedlgarol, mae'n lied debyg y buasai meitr esgob wedi ei gosod ar ben Mr. Jones er's llawer blwyddyn ac y mae rhai llai galluog a theilwng nag ef yn y swydd heddyw. Edrychwn yn mlaen at yr amser pan, fel esgob, y daw i gyssyllt- iad agosach a gwlad ei enedigae'th, a'i hel- ynteoedd. Y mae ynddi ddigon o le i wr o'i fath ef. Argymmhellwn y gyfrol newydd hon o'i eiddo yn y modd mwyaf calonog.
. Y FFENESTRI AUR*
News
Cite
Share
Y FFENESTRI AUR* Er yn bur foreu ar ei hanes yr oedd hynod- edd dawn Anthropos fel ysgrifenwr wedi taraw pobl oedd a llygaid ganddynt i weled. Pan oedd efe yn efryclu yn y Bala, fe safai yn uchel yn syniad ei gydefrydwyr; a llys ydyw hwnw, nad yw ei ddedfryd ar wr ieu- angc, ar un cyfrif, i'w ddiystyru. Bydd ef- rydwyr yn methu yn ddigon ami yn eu barn am athrawon, ond nid yn ami yn eu barn am eu gilydd. Ni chlywais i ddarfod i An- thropos hynodi ei hun mewn arholiadau. Nis gwn beth oedd barn ei athrawon am dano fel efrydwr; ond y mae cof byw. genyf fod amryw o'i gydefrydwyr, ac yn eu plith rai o'r rhai callaf, yn meddwl y byd o hono. Clywais un o honynt yn dyweyd, wedi dar- llen paragraph pur nodweddiadol o'i waith ef, -fe 'sgrifenai Anthropos gyfrolau o beth- au fel yna.' Nid wyf yn coho beth oedd y darn; ond daeth y sylw yn fyw i'm cof pan ddarllenais y gyfrol hon. Cyfrol o bethau fel yna.' Sut bethau ydyw'r rhai hyn P Nid yw yn hawdd dyweyd ar fyr eiriau. Fe allasai na chyfeiliornem lawer pe dy- wedem fod yr erthyglau byrion yma, areitih- iau, adolygiadau, ymsonau, ac yn y blaen, yn waith gwr sydd yn fwy o lenor nag ydyw o ysgolhaig. Y mae yn gryn dipyn o ysgol- haig. O'r leiaf, nid oes ynddo ddim o'r aflerwch a gyfyd o ddiffyg ymgolheigdod. Y mae ei darawiad yn groewlym, a'i doriad yn lan. Etto; rnwy o lenor ydyw nag o ysg<5lhaig. Chwi ddarllenwch waith yr ysgolhaig noeth yn unig er mwyn helaethu terfynau eich gwybodaeth; eithr chwi ddarllenwch waith un sydd yn llenor, hefyd, heb law bod yn ysgolhaig, am mai ei waith ef ydyw—am fod cryn lawer o'r gwr ei hun yn ei waith. Chwi a'i darllenwch er mwyn y dawn, lawn cym- maint ag er mwyn y deunydd. Swydd y llenor yn eich llyfrdy yw clirio a llathreidd- io y pethau sydd eisoes yn y meddwl, yn gys- tal a chwanegu at eu swm. Un o'r pethau sicraf o grebychu meddwl dyn yw cyfyngu ei hun ormod i'r defnyddiol noeth, bod yn or- mod o Utilitarian yn ei ddarllen. I'w waredu rhag y perygl yna, y perygl, felly, o fod heb ddarllen dim ond sydd arno ei eisieu at rhyw bwrpas ymarferol, dylai fod gan bawb yn mysg ei lyfrau rai cyfrolau o draethodau byrion, difyr. Dywedir y bydd y cogyddion Ffrengig yn darpar rhai dysgl- eidiiau bychain yn un swydd er mwyn codi eisieu bwyd a-r y bwytawyr. 0 drugaredd, nid oes arnom ni yn Nghymru fawr o daraw am be'th fel yna; ond y mae arnom ninnau eisieu yr un peth mewn llenyddiaeth—rhyw- beth i ddeffro tarchwaeth at fwyd, rfiyw ap- petizer ysbrydol, megys. 'Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched,' ydyw deddf y byd hwnw; ac un o swyddi lienor, dros ben amlhau gwybodaeth, ydyw rhoddi mm ar archwaeth pobl at yr hawddgar a'r canmoladwy. Y mae y llyfr yma, yn ddiau, yu helaethu terfynau ein gwybodaeth ni. Y mae yr adgofion personol sydd ynddo yn ddi- gon ynddynt eu hunain, bron, o reswm dros gyhoeddi'r llyfr. Ond ail swydd i lyfr o'r fath yma Yw cliwanegn at wybodaeth y dar- llenydd. Ei brif Wasanaelbh yw dihuno'r awydd am wybodaeth. Ni ddywedwch chwi ddim, fe allai, ar darawiad, pa faint elwach ydych o'i ddarllen; ac etto, elwach ydych o lawer lawn; o blegid chwi ewch at lyfrau eraill, syohach, mwy di-awen, a'u cael yn newydd o herwydd myned o honoch atynt dan ddylanwad Anthropos. Nid cynhaufa gwair, a'i wneuthur yn feiehiau ysgwar at eu gwerthu, a wna efe, ond gadael i'w fedd- wl bori wrth ei bleser yn meusydd lien, nes ennill rhyw irder rhyfedd mewn cymmundeb ag anian, ac a meddwl goreu plant dynion, ac yna, cyfranu yr irder hwnw i chwithau,
[No title]
News
Cite
Share
*'Y Ffenestri Aur.' Oriau gyda Niatur, Awduron, a Llyfrau. Gan Anthropos. I Cyhoeddedig gan Gee a'i Fab, Cyf. i na wyddoch chwi ddim pa fodd. Y mae cwmpeini ei feddwl, rywsut, yn eich adnew- yddu—dyn wedi byw ar diroedd nehel inyfyr- dod, a dyfod yn ol i'r gwastadedd, ag arogl Libanus ar ei wisgoe<id. nes peri i chwi han- ner tybied fod o honoch gydag ef ar y myn- ydd. I like browsing among tooks, ebai Thomas Hill Green, yr athroriydd; a gallai Anthropos ddyweyd yr un peth. Nid pob rhyw fardd a fedraSai ysgrifenu fel hwn. Un peth ydyw medru disgrifio aii- ian; medr y rhan fwyaf o feirdd gweddol hyny peth arall ydyw gwirioni ami—dwlu, chwedl pobl y De, ar swynion y greadig- aeth weledig. Bron na chwynai dyn, mewn rhyw dymmer ryddieithgar, fod yma ormod o ddisgrifio blodau; ond pe gofynid wed'yn, pa un o'r disgrifiadau yna y carech fod heb- ddo, chwi dawech yn y fan. Dyma un pur dda. Nis gwn ai nid wyf fi yn ei weled yn well nag ydyw, am ei fod yn talu gwarog- aeth i'r goreu genyf fi, o ran prydferthwch, o holl brenau'r ardd—y pren lilac—pren nad yw beirdd a llenorion prin wedi gwneyd eu rhan iddo. Wrth i mi arogli y rhosyn sydd yn fy ymyl yn awr, y mae fy meddwl yn cymmeryd ei aden, ac yr wyf yn gweled gardd fechan yn Meirion, gardd fy mebyd. Nid oedd ynddi gywreinion na gwychder, dim ond hen wr, coeden lilac, a choed rhosynau, yn hanner orchuddio talcen y ty. 0, mor 'hudolus oedd eu sawr ar foreu o haf. Llawer orio; a dreuliais mewn swyn-gyfaredd yn seiat y rhosynau, hyd nes y deuai rhyw orchymyn pendant o'r ty i'm galw i ffwrdd. Sawl haf a aeth heibio er yr adeg ddedwydd hono? Ond yn y munydau hyn, tra yn arogli y rhos- yn hawd-dgar sydd ar y bwrdd, yr wyf fel pe yn nghwmni gardd fy mebyd, yn gweled y pren lilac, ac yn syllu ar y blodau gwyn- goch ar dalcen y ty.' Ie'n wir hefyd, sut na chawsai'r lilac a'r hen wr fwy o sylw beirdd a llenorion? Beth a wnaeth llygaid y dydd, a'r rhosyn, a'r lili, a rhyw ambell un o flodau haf, i haeddu eu canmawl mewn llenyddiaeth yn anad y IIeillP A pfoa beth, o ran hyny, sydd yn llywodraethu dewisiad y beirdd o'u testynau can yn mhob cylch? Pa ham, o bydd eisieu anfarwoli geneth dlos, mai merch y melinydd a fydd hi naw tro o bob deg? Ni fydd byth son am ferch y crydd, na merch y cigydd. Wel, y mae gan y beirdd eu ffansi mewn blodau, ac mewn rhianedd; ond y mae Anthropos yn fwy rhyddfrydig ei chwaeth na'i frodyr. Ond tra'n ymroddi i gyfaredd natur wel- edig, y mae mor fyw a hyny i ryfeddodau natur dyn. Nid oes dim tlysach genyf fi yn Llyfr y Salmau na'r tarawiad hapus hwnw yn y salm a gaiff ei darllen lawer gwait'h yn y ddeufis nesaf, y bedwaredd ar ol y cant. Wedi darlunio cymmylau, a choed, a dyfr- oedd, ac adiar, a bwystfilod, ebai'r Salmydd, Dyn a a allan i'w waith, ac i'w orchwyl hyd yr hwyr.' Y mae hwnw mor farddonol a'r un o honynt. Yr achlod i'r rhodres coegfon- heddig, sydd yn ymddifvru mwy yn mhob peth gwlad nag yn ei phobl hi. Nid oes dim o hono yn Anthropos. Gresyn, hefyd, na chawsai fo genad i am- lygu rhagor o enwau y rhai a ddarlunir mor wych ganddo—y Llenor Cudd, Pensator,' a rhai heb law hyny. Gwnaethai Claudius Clear, heb ronyn mwy o ddawn i adrodd ei ystori nag sydd gan Anthropos, ami i hanes- yn go ddibwys ynddo ei hun yn ddyddorol trwy grybwyU yr enwau. Y tro nesaf y daw i ran Anthropos wneyd darganfyddfadau llenyddol, gofyned ganiatad i dori blwch y gyf..inach yn mhen rhyw hyn a hyn o flyn- yddoedd, fel na pharo mwyach i ni ferwi o chwilfrydedd am wybod pwy ydyw pwy, ac yna troi ei gefn heb ein goleuo. Hir oes a gaffo i wneyd darganfyddiadau, ac i ysgrif- enu llyfrau fel hwn. Ond beth a wnawn ni yn son ? Gwlad fechan ydyw Cymru ac nid gwiw dadguddio gormod o gyfrinaehau. Ni sathr Anthropos ar gyrn neb; ac os gwna ar ddamwain megys, ni chaiff neb ei frifo, o blegid ni fydd byth hoelion yn ei esgidiau. Y mae yma sen i lenorion ieuaingc, rhai oedd yn ieuaingc ugain mlynedd yn ol. Y mae hi yma yn rhywle, ond nis gallaf weithian gael hyd iddi. Mi a'i printiwn yma pe gallwn, o blegid y mae ar lenorion ieuaingc pob cyf- nod dipyn bach o'i heisieu; ond ni ddaw hi ddim wrth ei galw. Ond y peth a barodd i mi ei chrvbwyll yrwan yw, na wn i ar y ddae- ■ar pwy sydd yn cael y sen—ai Mr. Owen M. Edwards, ai'r Proffeswr Morris Jones, ai xnyfi. fy hun druan. Llawer a wnaeth awdwr y gyfrol fach hon, drwy ysgrifau mewn cylchgronau a newydd- iaduron, ac yn enwedig drvvy ddarlithio i Gymdeithasau llenyddol Arfon, Ilawer a wnaeth i beri i bobl ieuaingc syrthio mewn cariad a llenyddiaeth. Fe wna, o'i ddarllen a'i wrandaw yn fynych, gymmaint a hyny i gadw dynion rhag myned yn gaethion llen- yddiaeth. Y mae eisieu hyny, ac y mae i'w gael ganddo ef. Fern gesyd ar ein rhybudd rhag boddloni ar efelychu'n gilydd mewn rhvddiaeth la chan. Gwnaeth natur ag ef yr hyn a wnaeth Wordsworth i Mr. William Watson, pan oedd efe am ennyd wedi ei lygad-dynu gan Shelley, a beirdd eraill a fu yn dywysogion i'w awen ieuangc; ac, medd- ai Watson am danynt hwy, o'u cyferbynu a Wordsworth:— They sang me captive; but he sang me free.' Felly y gwnaeth natur i'n hawdwr ninnau. Os canwyd ef yn gaeth gan eilunod llenydd- ol, fe'i canodd natur ef yn rhydd. Ychydig o amynedd weithian sydd ganddo at yr ys- grifenwyr a wna lenyddiaeth yn amcan er ei mwyn ei hun. Clywir cyfeillion hoff o gynghanedd yn adrodd englynion i'r friallen, a blodau eraill, mewn maes a Ihvyn. Son- iwch wrthynt am rosyn y berth, Ie,' medd- ai'r gwrandawr, Glywsoch chwi englyn Trebor Mai?' Ac y mae yn ei adrodd gyda hwyl. Onid ydyw yn glws?' Beth—yr englyn ? Debyg iawn. Sylwch ar gywrein- rwydd y gynghanedd, y glee sydd yn y Hin- ell olaf.' Ie, da iawn; ond y mae un peth yn rhagori ar yr englyn yna, a phob englyn arall. Beth ? Y rhosyn ei hun. A ddarfu i chwi edrych ar hwnw?' Nid oes flas ar godi man frydhau ar Gym- raeg mor loyw ag sydd drwy'r Ilyfr. Dyd yr awdwr fanod gan amlaf o flaen enwau afonydd—Dyfrdwy, Tafwys, Menai-tra mai hen ddefod y Gymraeg yw rhoddi afonydd heb yr 'Y.' Cymmwynaswr penaf yr iaith, wedi'r cwbl, yw'r rhai a ysgrifeno rywbeth a fyn fyw. Llawer o drafod sydd ar oes yr iai'th, er y dyddiau y bu'r Dr. Johnson ar giniaw yn Lleweni, yn ymdrin a chynnyg newydd y pryd hwnw at gadw'r Gymraeg yn fyw. Ond tra byddo genym ysgrifenwyr a fedr ddyweyd Ilawer nas gall y byd fforddio ei hebargofi, ni bydd dim peirygl am ddyfodol yr iaith. Clasuron pob iaith a'i ceidw hi. Os pethau tu allan i gylch dyddordeb y werin a fyddant, hi gaiff ei hastudio fel iaith farw rhyw ddiwrnod; a bydd ei thrysorau hi ar gael yn unig fel blodau wedi eu gwasgu mewn llyfr. O'r tu arall, o bydd pethau goreu'r iaith yn bethau poblogaidd, hefyd, bydd yr iaith byw cyhyd, nad yw'n worth ymofyn pa bryd y bydd hi farw. Y mae llyfrau sydd yn byw tipyn, yn unig am fod yr iaith yr ysgrifenwyd hwynt ynddi yn iaith fyw. Y mae eraill, wed'yn, sydd yn help sylweddol i gadw'r iaith yn fyw. I'r dos- barth uwchraddol yna y perthyn ysgrifau goreu Anthropos, ac od oes dwy neu dair aT yr eithatf o ysgrifau'r llyfr hwn yn bethau un-dydd un-nos, y mae'r rhei'ny yn haeddu lie ynddo fel siamplau o ddawn awdwr nas gall gyffwrdd y pethau mwyaf plaen heb eu codi uwch law yr ystrydebol. J. Puleston Jones. Pwllheli, Mawrth 7fed, 1908.
MESUR DADSEFYDLIAD YR EGLWYS…
News
Cite
Share
MESUR DADSEFYDLIAD YR EGLWYS YN NGHYMRU. P AROTOI Y FFORDD. Nos Fercher, yn Nht y Cyffredin, ymgyfar- fyddodd yr xs-bwyllgor o'r Blaid Seneddol Gymreig bennodwyd i dynu allan fynegiad o brif egwyddorion Mesur Dadsefydliad yr Eglwys yn Nghymru, er iddo fod yn gyfar wyddyd i Mr. Asquith pan yr ymdrinia S'r cwestiwn. Cymmerwyd y gadair gan Syr Alfred Thomas Yr aelodau eraill vn bres- ennol oeddynt, Syr F. Edwards, Syr D. Bryn- mor Jones, Mr. Herbert Roberts, Mr. W. Jones, a Mr. Ellis Griffith. Cafodd darpar ¡ iaethau y mesur gyflwynwyd gan Mr. Asquith yn 1894 eu dadleu, ac awgrymwyd airiryw bwyntiau y byddai yn ddymunol cael gwell- iant. Ar ol penderfynu rhyw fanglion rhag- arweiniol, gohiriwj^d y cyfarfod hyd dydd Mercher (heddyw), pan y cvmmerir o dan ystyriaeth gwestiwn y gwaddoliadau.
MAN DYDDYNOD.
News
Cite
Share
MAN DYDDYNOD. Y CAIS AM DDIRPRWYAETH GYMREIG. CAFODD y ddirprwyaeth bennodwyd gan yr aelodau seneddol Gymreig i dalu ymweliad sg Arglwydd Carrington, gydar amcan o ddangos yr angenrheidrwydd o bennodi dir- prwyaeth o dan Gyfraith y Man-Dyddynod oedd yn ineddu gwybodaeth am sefyllfa pethau yn Nghymru. ac o'r iaith Gymraeg, ymgom a Llywydd Bwrdd Amaethyddiaeth prydnawn dydd lau. Yr aelodau ar y ddirprwyaeth oeddynt y Mri. Herbert Roberts, David Da vies, William Jones, Ellis Davies, a Clement Edwards. Wedi i Mr. Roberts eglur o amcan y ddir- prwyaeth, dadganodd Mr. David Davies ei farn fod pennodi y cyfryw ddirprwvwr yn hanfodol er i'r gyfraith weithio yn llwydd- iannus. Dadleuai Mr. William Jones y manteision a ddeilliai o bennodiad o'r nodwedd yma a chyfeiriodd, wrth gymmeryd amgylchiadau Cymru i ystyriaeth, ei bod yn hanfodol i gynnrycbiolydd Bwrdd Amaethyddiaeth o dan y Gyfraith ddeall y bobl, a sicrhau eu hymddiriedaeth. Cadarnhaodd Mr. Ellis Davies a Mr. Clement Edwards yr hyn a draethwyd gan aelodau eraill y Ddirprwyaeth. Arglwydd Carrington, mewn attebiad, a ddadganodd ei gydymdeimlad ag amcan y Ddirprwyaeth. Yr oedd ei wybodaeth am fywyd amaethyddol yn Nghymru, yr hwn oedd wedi ei sicrhau trwy ei driganniad yn y Dywysogaeth, a'i gyssylitiad ar Ddirprwy- aeth Dirol Gymreig, yn ei alluogl ef i syl- weddoli pwysigrwydd y cais. Yr oedd wedi gwneyd ymdrech i ddangos ei werthfawrog- iad o amgyichiadau arbenig Cymru pan y cod- ai cyfleusdra. Yn bresennol — byd nes y cawsai prawf chwanegol i ba raddau y bydd- ai y wlad yn manteisio ar ddarpariaethau Cyfraith y Mpn-Dyddynod-nid oedd mewn sefyllfa i chwanegu trydydd dirprwywr at yr un bennodwyd eisoes; ond sicrhaodd y Ddirprwyaeth, os gwelid fod yn angenrheidiol pennodi trydydd dirprwywr, fod y cyfryw ddirprwywr yn meddu y cymmhwysderau yr oedd y Ddirprwyaeth wedi dadleu drostynt gyda golwg ar Gymru. Addawodd Arglwydd Carrington, hefyd, ystyried unrhyw awgrymiad a allai gael ei wneyd gyda golwg ar symbylu dyddordeb a gweithrediad dioed yr awdurdodau lleol oedd yn dwyn perthynas a'r gyfraith. Diolchodd y Ddirprwyaeth i Arglwydd Carrington am y derbyniad cynnes a rodd- odd iddynt.
NODION 0 BETHESDA.
News
Cite
Share
NODION 0 BETHESDA. Cynnaliwyd eisteddfod flynyddol y Gerlan nos Fercher, yr wythnos ddiweddaf. Sefydl- iad ydyw hon sydd ynglyn a chymdeithas lenyddol y capel, ac y mae wedi dyfod i aros yn eu plith yn y lie !hwnw. Ymddengys fod aelodau y gymdeithas hono yn dwyn mawr sel gyda'r eisteddfod, canvs ceir lliaws mawr o honynt yn Ilafurio yn ddyfal ar ei chyfer; a chan mai ar eu eyfer hwy yn arbenig y dygir hi yn mlaen, cyfyngedig o ganlyniad ydoedd y testynau. Yr oedd yn eisteddfod gadeiriol, gan y rhoddid cadair yn wobr am awdl fuddugol ar y testyn 'Mynydd;' ac allan o chwech o ymgeiswyr tla genym mai cadeirydd y gymdeithas lenyddol ydoedd bardd cadeiriol yr eisteddfod; sef, Mr. E. R. Jones, Abercaseg. Urddwyd1 ef (yn hytrach ei gynnrychiolydd, o herwydd cafodd ef ei luddias i fod yn bresennol o herwydd gwael- edd), gyda rhwysg. Arweiniwyd y seremoni o gadeirio gan y Prif-fardd Job, ac amryw o feirdd yr ardal. Llywydd y cyfarfod yd- oedd Mr. If or Williams, M.A., Tregarth; ac yr oedd yna amryw o wyr graddedig eraill yn cymmeryd rb-n yn y gweithrediadau. Dangosodd ;od yma y lies" sydd yn deilliaw o'r «jjindeithasau llenyddol yn ystod tymmor y gauaf. Yn nghymdeithas lenyddol Llanllechid, nos lau, darllenodd Mr. W. H. Jones, B.A., Ysgol Sirol, bapur dysgedig, ac addysgiadol, ar Lenyddiaetn a Barddoniaeth y Celt,' a chaed sylwadau pwrpasol ar yr un mater gan Mr. Ifor Williams, Mi.A., Coleg y Gogledd; E. Llewelyn Williams, B.A., Llanllechid, ac eraill. Llywyddwyd gan Mr. W. E. Wil- liams, B.Sc., Llanllechid, gan yr hwn, hefyd, y cafwyd anerchiad ragorol i'r un cyfeiriad. Treuliwyd rhan fawr o gyfarfod diwedd&f y Cynghor Dinesig, nos Wener diweddaf, i drefnu gogyfer ag ymchwiliad a wneir ar ran Bwrdd y Llywodraeth Leo] am hawl i archeb newydd i alluogi y cynghor gael benthyca arian i gario allan welliantau deimlai yn angenrheidiol ynglyn a'r Gwaith Nwy. Pen- nodwyd ar fod i'r cadeirydd, Mr. John Ro- berts, Llys Llewelyn; yr is-gadeirydd, Mr. j R. B. Evans, Bron Arfren; yr Henadur W. J. Parry, Llys Coetmor; a G. Roberts, Lome House; a'r Clerc, Mr. D. G. Davies. gynnrychioli y cynghor o flaen y Dirprwywyr, î i osod y gofynion ger bron. Darllenwyd j nythyr, hefyd, oddi wrth ysgrifenydd Cy- nghor Sir, Arfon, yn hysbysu, ar Awdurdod Rheolwyr Chwarel y Penrhyn, fod lie i nifer fawr o weithwyr cymmhwys gael gwaith yn y chwarel hono. Hysbysodd y clerc iddo wneyd ymchwiliad gyda Mr. E. A. Young, y priif oruchwyliwr, er cael eglurhad ar g'ynnwys y llythyr, ac ymddengys mai labr- wyr, ac nid chwarelwyr sydd yn eisieu. Di- olchodd y cynghor i'r clerc am y dyddordeb prydlawn a gymmerodd yn y mater. Dad- ganodd y cynghor ei lawenydd wrth ddeall fod gwaith i'w roddi i nifer fawr, a phen- derfynwyd anfon hyny i'r Cynghor Sir, gyda chwanegiad y gwyddai aelodau Cynghor Din- esig Bethesda fod yn yr ardal hono, ar hyn o bryd, nifer fawr o weithwyr cymmhwys allan o waith, llawer o ba, rai a dreuliasent eu blynyddoedd: yn y chwarel hono, ac ydynt yn awyddus i gael dychwelyd yno drachefn, a gofynir i'r Cynghor Sir arfer ei ddylan- wad gydag awdurdodau y Penrhyn i geigie ganddynt gymmeryd y rhai hyny yn ol. Pasiwyd, hefyd, i anfon copi o'r penderfyn- m lj1 ^r' Young. Dylai gweithwyr ardal- oecld eraill roi chwareu teg i'r bob! hyn yn eu hardal eu hunain.-Gohebydd.
DINORWIC.
News
Cite
Share
DINORWIC. DAMWAIN ANGEUOL I DDAU CHWARELWR. PRYDNAWN dydd Mercher cymmerodd damwain le yn Chwareli Dinorwic, trwy yr hon y collodd Owen Griffith, 59ain mlwydd oed, Celyn. Clwtybont a William Thomas Jones, 40ain mlwydd o3d, eu hywydau. Ym- ddengys fod y dynion yn darparu i i^ethu darn o graig, pan y ffrwjrdrodd yr ergyd yn annisgwyliadwy. Cafodd un o'r dynion ei saethu yn ddarnau, a derbyniodd ei gydym- daith y cyfryw nivveidiau a ddiweddodd yn ei farwolaetli yn fuan ar ol hyny. Attaliwyd y gwaith yn y cbwarel yn ddioed, a dilya- odd y gweithwyr gyrph meirw eu cydweith- wyr i'r ygbytty. Prydnawn dydd lau cynnaliodd Mr. Pentir Williams, crftner y sir, drengholiad ar y ddau berson nodwyd. Yr oedd Mr. G. J. Williams, Arolygydd y Llywodraeth, yn bresennol. Yn ol y dystiolaeth a roddwyd yr oedd y dynion yn rhoddi ergyd o gelatine a qilignilt mewn craig, pan y cymmerodd ffrwydrad Ie. Cafodd Griffiths ei chwythu yn llythyrenol yn ddarnau, a bu y dyn arall farw yn mben yr awr. Ni roddwyd un dystiolaeth gyda golwg ar yr achos gwirioneddol o r ffrwydrad, ond tybiai arolygydd y Llywodraeth ei fod yn debygol nad oedd y ffrwydrion wedi cael eu tymmheru yn briodol Dychwelwyd rheithfarn o 'Farwolaeth trwy n'rwydad.'
NEWYNU YN ARAF I
News
Cite
Share
NEWYNU YN ARAF I GWELLA YR ANWYDWST A DFFFYG THEULIAD TRWY YMBORTH. Y MAE dyn yn Newcastle-on-Tyne, yr hwn ar un adeg na welai ddim ger ei fron ond newyniad araf, wedi adeiinill ei hen iechyd a'l nerth wrth ymborthi ar Grape Nuts. Ys- grifena yn ddyddorol id,wn am ei brofiad fel y canlyn Bum yn dioddef am gryn amser, i raddau mwy neu lai, oddi wrth ddiffyg treuliad, ac ar ol ymosodiad cas o anwydwst, ennillodd lwyr feistrolaeth arnaf. Yr oedd genyf ofn bwyta, gan fy mod yn ofni y chwvd-duedd dvchrynllyd a'r boen arteithiol oedd yn sicr o ganlyn. Tynwyd fi i lawr yn gyflym yn fy mhwysau o 11 ft'me 4 pwys i 8 stone 2 pwys. Rhoddais brawf ar bob meddyginiaeth yn mron oedd yn cael ei hadfertisio,' a rhoddais fy hun yn nwylaw dau feddyg neillduol iawn, ond etto yn methu dyfol ddim yn well. Dywedwyd wrthyf yn ami fy mod yn newynu yn araf i farwolaeth, ond yr oeddwn yn gwybod y ffaith hono yn rhy dda fy bun. Pan yr ymddangosai pob peth yn hollol ddi-allu perswadiodi hen gydymaith fi mewn modd difrifol i roddi prawf ar Grape Nu". Yr ydwyf yn wir ddiolchgar fy mod" edi gwneyd hyny. Ni ddarfu i mi erioed synu mwy, na theimlo wrth fy modd, na phan y cefais nad oedd y pryd cyntaf o'r ymborth rhyfeddol hwn yn achosi unrhyw gyfyngder i mi o gwbl. O'r diwraod hwnw yn miaen yr wyf wedi parhau i gymmeryd (}■• pe Nvtt ddwy neu dair gwaith y dydd. Yr wyf yn awr yn mron wedi cael fy adfer yn hollol i'm hen iechyd a nerth, ac yr wyf o fewn 11 pwys i'm pwysau blaenorol. Y mae Grape If'utc, mewn gwirionedd, wedi eyflawni gwellhid hynod, pan yr oedd yr iioll ymborthau eraill, a'r ddau feddyg yr ymgynghoraig & hwy, wedi methu gwneyd dim daioni i mi. Rhoddir yr enw gan Grape Nuts Co., Ltd., 66 Shoe Lane, London, E. C. Os ydych yn dioddef oddi wrth ddiffyg treuliad cofiwch fod pob gronyn o Grape Nuts yn faeth sydd wedi ei dreulio mewn rhan yn fiaenorol, yr hwn fydd yn sicr o wneyd ei ffordd i'ch gwaed heb osod unrhyw egni gormodol ar eich organau treuliadol. Pan yr y iych wedi eich gwanj^chu trwy wendid hir-barhaol, neu anhwylder treuliad- ol, nerth ydyw yr hyn yr ydych yn sefyll mewn angen am dano; a bydd i ymborth Grape JSuts, nid yn unig eich gwneyd yn dda, ond eich cadw felly. Y mae yn ymborth rhagorol bob dydd i bobl fethedig, campwyr, neu rai sydd yn gweithio a'u hymenydd. Y mae yna reswm dros Gr,'pe Nutc. Bydd i ddeng niwrnod o dreial brofi hyny. Peidiwch a derbyn ond pecynau gydag am- len newydd Y mae ymborth Grat e Nuts o'r pecynau newydd yn ddadguddiad. YBgrifena, llawer rad oeddynt erioed wedi dychyfn) g i fod yr ymborth yn un mor ddyrnunol. Y mae wedi bod bob amser yn mron mor foethus a. dymunol i'r archwaeth a pban y gvrnaed ef gyntaf, ond y drafferth oedd y Ileithder yn yr awyr. Yn awry mae hyn yn cael ei gau allan gan ein gorchudd leith brofedig. Peidiwch derbyn pecynau hebddo. Cymmer y gwneuthurwyr yn ol gan y chwegnwyddwyr becynau sydd heb gael eu hamddiffyn felly. Rhoddwch brawf ar Grape Nuts Biscuitt a *WaJt>s
[No title]
News
Cite
Share
Y mae nifer ypLlllt sydd yn yr ysgolion elferi- ol yn Llundain v; t di gostwrig yn sefydlog y '^■lyusdd diweddaf. Priodolir y lleihad i'r nifer iai sydd; ar gyfartaledd, mewn tenlu- oedi.