Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Hide Articles List
14 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
#1% rs Mav I have rhe pleasure 01 making your- Copper like Gold, Tin like Silver, Paint like New. I do a Day's Work in an Won't wash Clothes. MONKEY BRAND. M I BENJAMIN BROOKE & CO > Ltd.
FFESTINIOG A'R CYLCH.
News
Cite
Share
FFESTINIOG A'R CYLCH. DAMWAIN ANGEUOL. Prydnawn dydd Gwener diweddaf eyfarfu John Pritchard, Pantyrhedydd, Llan; a damwain angcuol yn Chwarel Oakeley, drwy i ddarn o graig syrthio arno. Cludwyd ef i'r ysbytty, lle y bu farw yn mhen ychydig amser.
DIRWESTOL.
News
Cite
Share
DIRWESTOL. Nos Wener, yn nghapel y Gareg ddu, cyn- naliwyd cyfarfod dirwestol o dan lywyddiaeth Mr. Thomas Roberts. Yr oedd trefniadau wedi eu gwneyd i gael trafodaeth ar y Mesur Trwyddedol, ond methodd y siaradwyr a bod yn bresennol. Gwnaeth Mr. C. Rhydwen yehydig sylwadiau ar rhai adranau o hono, a diolchwyd iddo.
Y CYNGHOR DINESIG.
News
Cite
Share
Y CYNGHOR DINESIG. Cynnaliwyd cyfarfod arbenig o'r cynghor nos Iau diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. David Williams, pryd y gosodwyd sel y cyng- hor wrth weithred dynwyd allan er mwyn ben- thyca 1120p. i adeiladu Gorsaf i'r Peiriant Tan ac ymhelaethu y Gwaith Nwy.
DEWIS OLYNYDD.
News
Cite
Share
DEWIS OLYNYDD. Cyfarfu Rhyddfrydwyi y Rhiw nos Weiier i ddewis ymgeisydd am sedd y diweddar Mr. D. G. Jones ar y Cynghor Sirol. Rhoddwyd tri enw i fyny, sef, Mri. Owen Jones, Goruch- wyliwr Chwarel Oakley; Owen Owen, Deint- ydd; a G. G. Davies, Glanypwll. Ar Mr. Owen Jones y syrtbiodd y coelbren, ac y mae yn wr rhagorol, ac eisoes yn aelod o'r Cyng- hor Dinesig a Bwrdd Rheolwyr Addysg yr ardal.
GWAELEDD.
News
Cite
Share
GWAELEDD. Y mae Mr. Griffith, athraw yn yr Ysgol Sirol, yn wael iawn, ac y mae cydymdeimlad fig efl gan ei fod yn boblogaidd iawn yma.- Camrys.
D I N B Y C H.
News
Cite
Share
D I N B Y C H. CYFARFOD LLENYDDOL A CH ERDDOROL Y CAPEL MAWR. Nos Fawrth cynnaliwyd cyfarfod llenyddol a cherddorol o dan nawdd Ysgol Sul y Capel Mawr. Cynnelir cyfarfod o'r nodwedd hwn yn flynyddol, ac y maent yn profi yn fanteid- iol iawn i'r plant a'r rhai ieuaingc. Yr oedd trefniadau y cyfarfod hwn yn ngofal pwyllgor o'r Ysgol Sul, i ba un y gweithredai y rhai canlynol fel swyddogion :— Mr. J. R. Owen, Haulfryn (cadeirydd); Mr. T. Andrew Roberts, Brynhyfryd (trysorydd) a'r Mri. Arthur Millward Benson Evans, An- wylfa, ac Aneurin Dryhurst Roberts, Bron- hwylfa, fel ysgrifenyddion; a gwnaeth yr oil O'r swyddogion eu goreu er sicrhau llwydd- iant y cyfarfod. Gwasanaethwyd fel beirniaid gan y rhai canlynol:—Cerddoriaeth, Mr. J. Jones (Glas Alaw), Rhyl. Rhyddiaeth ac arholiadau, Parch. J. 0. Jones, Bryncelyn. Adroddiad- au, Parch. J. Tudno Williams. Celfyddyd, Mrs. Parry, Clwyd Villa; Mrs. Jenkins, Gladstone Villa; Miss Evans, Belmont; Mr. H. Hugh-Jones, a Mr. Askew, Ysgol y Sir. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. Evan Jones, y gweinidog, ac arweiniwyd mewn modd deheuig a hapus gan Mr. Thomas Ed- wards, Isgaer (y Postfeistr). Cyfeiliwyd yn ystod y cyfarfod gan Miss Dora B. Andrews; Miss Annie Evans, Fron; Miss Gwladys J. Jones, Hyfrydle; Miss Roberts (High Street), a Mr. A. M. Benson Evans. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu — 4 Cyssegrwn flaenffrwyth ddyddiau'n hoes,' ac yna aed yn mlaen gyda'r rhaglen. Yr oedd y dyfarniadau fel y canlyn:— xsgrifenu y drydedd bennod o'r Rhodd Mam,' i blant dan wyth oed-I, Gwennie Jones; 2, Bessie Dryhurst Wynne; 3, Cerid- wen Owen; 4, David Griffith Davies. Attebion ysgrifenedig i blant dan ddeg oed o'r 'Rhodd Mam '-1, Catherine M. Owen; 2, Elwy Owen; 3, Elsie M. Evans. Adroddiad j blant dan wyth oed, 'Bydd garedig -I, Aled Owen; 2, Bessie Dryhurst Wynne; cyfartal 3, Emily Ceinwen Davies, a Wilfrid Owen Davies. Rhoddwyd y dryd- edd wobr a gwobrwyon i'r gweddill o'r ym- geiswyr gan y Parch. Evan Jones a Mire. Andrews. Arholiad i rai dan 13eg oed oddi ar faes yr arholiad sirol—1, Tom Gee; 2, W. Aneurin Lloyd; 3, Mary Elizabeth Roberts. Plain pillow slips (cyfyngedig i enethod dan ddeg oed—1, Ethel Myfanwy Ellis; 2, Blodwen Elizabeth Davies. Cystadleuaeth i rai dan wyth oed, canu Cy, Y Milwr Bach.' Galwyd wyth o rai bach ar y llwyfan; a dvfarnwyd fel y canlyn :—1, JSmily Davies; 2, Myfanwy Kennard; 3, Aled Owen; a rhoddodd Mrs. Andrews wobrwyon i'r gweddill o'r cystadleuwyr. Arholiad i rai dan 16eg oed—attebion ys- grifenedig oddi ar faes yr arholiad sirol (deg o ymgeis>vyr)—1, Mary Harriett Jones, Hyf- rydle 2, Thomas Edward Davies; 3, Gwladys Jones, Clywedog. Arholiad i rai 21ain oed (pedwar yn ym- geisio)-l, Gwladys Jones Davies; 2 Ca- therine J. Hughes (Anwylfa); 3, Bessie Jones, Shop, Henllan Place. Am y Pinafore apron goreu-Mary Har- riett Jones. Llawysgrif oreu o Salm xxiii, i fechgyn dan ddeg oed—1, David Thomas Davies; 2, Leonard Lloyd Wynne. Unawd i blant dan ddeuddeg oed, Hen brocer bach gloyw fy nain.' Nid ymgeisiodd ond un, sef Elwy Owen, a dyfarnwyd ef yn gwbl deilwng o'r wobr. Pencil sketch,' o Fwthyn yn y wlad,' i rai dan 21ain oed—William Owen Jones, Vale View, a rhoed iddo ganmoliaeth uchel iawn am ei waith. Yr ail ydoedd Richard Edward Wynne, Beacon's Hill. Cystadleuaeth canu Dim ond deilen,' i enethod dan 12eg oed. Ymgeisiai pump; a dyfarnwyd y gwobrwyon i 1, Lizzie Blodwen Williams, 2, Josephine Keepfer ac (3), Anita Davies. Rhoddodd Mrs. Keepfer wobr i'r gweddill o'r ymgeiswyr. Llythyr Cymraeg, Cats am le mewn mas- nachdy, neu fel athraw neu athrawes mewn ysgol,' dyfarnwyd John Edward Ellis (Fron), a W. Thomas Jones (King's Mills) yn gyd- raddoreu. Adroddiad, Clefyd y Sul,' i rai dan 16eg oed. Rhanwyd y wobr gyntaf cydrhwng Elwy Owen, Ethel Ellis, a Ceridwen Jones; a'r ail wobr rhwng Olwen Roberts ac Amy Green. Rhoddwyd gwobr i'r ymgeiswyr eraill gan Mr. Edwards, Isgaer. Am y traethawd goreu o Crynodeb o hanes Iesu Grist a'r gwersi a geir oddi ar hyny,' i rai dan 16eg oed—dyfarnwyd Lizzie Jones, Beacon's Hill, yn oreu allan o bed- war o ymgeiswyr. Darlun o'r Gwir Anrhyd. D. Lloyd- George (cyfyngedig i fechgyn dan 16eg oed) -1, Richard Edward Wynne; 2, Peter Thomas Hughes. Unawd i rai rhwng 12eg ac 16eg oed, R'oedd mam yn cofleidio ei baban bach glan.' Daeth pump i'r llwyfan. Dyfarnwyd Dora Roberts, Tanygraig, Tremeirchion, yn oreu; a Maggie E. Roberts, Bronhwylfa, Love Lane, yn ail. Traethawd, Moesoldeb y Bregeth ar y Mynydd,' i rai dan 21ain oed. Goreu, John Edward Ellis, Fron. Unawd ar y berdoneg i rai dan 16eg oed, Those evening bells.' Ymgeisiodd tair—1, Mary Cordelia Jones, Henllan; 2, Maggie E. Roberts; 3, Anita Davies. Ar gynnygiad Mr. David Owen, ac eiliad Mr. T. W. Davies, Brnhyfryd, talwyd di- olchgarwch i bawb fu yn cymmeryd rhan gyda'r cyfarfod. Terfynwyd trwy ganu Hen wlad fy nhadau.'
MARWOLAETH MR. PETER MC'INTYRE.…
News
Cite
Share
MARWOLAETH MR. PETER MC'INTYRE. U.H. (PEDR ALBAN). Bu farw Mr. Peter Mc'Intyre, yn ei bres- wylfod, Gwydyr Ucbaf, yn foreu ddydd Mercher, Mawrth 18fed, ar ol mwy na dwy flynedd o waeledd. Y mddan^osai fel yn ym- ddadebru ambell dro, ond diwfvid yr wyth- nas ymosodwyd arno gan yr anwydwst, yr hyi a derfynodd yn angeu iddo. Daeth i Wydyr Uchaf fel is-oruchwyliwr dan MT. Henry Curr, ar yr etifeddlaeth, ond yr oedd er's Ilawer ofiynyddoedd yn brif oruchwyliwr ar Etifeddiaeth Gwyd Llanwodd y swydd o Gynghorydd Sirol in fwy na phymtheng mlynedd dros D l- yduelen a Bettws y Coed. Dewiswyd f yn henadur; a dewiswyd Mr. R. 0 Davies i'w olynu. Llanwai lu a swyddi. Ni fu un a weithiai yn fwy egniol nag ef. Gadawodd briod, un mab, ac amryw ferch- ed i alaru eu colled ar ei ol. Gofidus iawn ydyw ei golli. Nid oedd o d 59ain mlwydd oed. Yr oedd yn hynod barch- us. Ceidwadwr heb fod yn eithafol oedd ef. Daeth yma tua'r flwyddyn 1874. Perchid ef yn fawr gan bawb.
-...-,.----.--..--<------...,-..-."SARZINE"…
News
Cite
Share
< "SARZINE" BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.—Dyna yr hyn y mae y Sarzine Blood Mixture' yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines; end os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurvv, dolunau, penddynod, &c., yn tarddu o wa^d drwg ac amrnhur, minweh botelaid o Sar- zine Blood Mixture gan y Druggist nesaf atoch, lilt a 2/9 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn chwanegol, oddi wrth y Perchen- og. HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. 8382k2.
BWRDD Y GWAROHEIDWAID.I
News
Cite
Share
BWRDD Y GWAROHEIDWAID. I CYFARFU yr nchod dydd Gwener cyn y diweddaf, yn Neuadd y Dref, o dr-n lvv/yddiai th yr Henadur T. ¡ Watkins, y Berllan, cadeirydd arferol y bwrdd. I Talwyd yn ystod v pythefnos gan y rheidwe'nydd y swm o 74p 9s. 7c. i 240 o dlodion, gyferb n i 72p. i 235 o dlodion yn yr amser cyferbyniol yn y flwyddyn o'r blaen. | Darllenwyd oddi ar lyfr cofnodion v meistr fel y canlyn Fod dau wedi mvned allan o'r t$, ac un wedi i Darllenwyd oddi ar lyfr cofnodion v meistr fel y canlyn Fod dau wedi inyned allan o'r t$, ac un wedi j marw; fod dau wedi dyfod i mewn i'r ty-un wedi j tori ei fraich mewn ysgarmes, a'r llall yn blentyn heb fod yn llawn dwyflwydd oed, wedi cael ei anfon imewn 1 trwy orchymyn yr ynadon, am fod y personau hyny a ddylasent ofalu am dano yn ei esgeukiso. Hefyd, pen- derfynwyd fod yn rhaid i w fam, yr hon sydd mewn gwasanat-th mewn rhan arall o'r sir, dalu tuag at ei gynnaliaeth. A gohiriwvd yr achos hyd nes cael rhajror o'r manylion, &c. Nifer y trigolion yn y ty ydoedd 22ain, gyferbyn a 30ain yn y flwyddyn o'r blaen. Nifer y crwydriaid a gawsant letty noswaith yn ystod y pythefnos ydoedd 163, gyferbyn a 130 am yr un amser yn y flwyddyn o'r blaen. Cafwyd rhestr hirfaith o gynnygion am gyflenwi y a nwyddau yn ystod y t"i nrs nesaf, a cbafwyd dadl lied ddyddorol ar restr y glo. Penderfynwyd derbyn y cynnyg iselaf ar y rhestr hirfaith; set, eiddo y Meistri Daniel Jones a'i Fab, Llanymddyfri. Y gld careg (nuts) am 20s. y dynell, a'r glo soft' am 22s.—y ddau wedi en dyiifro yn Tan y bryn, llettv yr undeb. Hefyd, penderfynwyd fod amser dechreu cyfarfodydd y bwrdd o ddechren mis Ebrill hyd ddiwedd Gorpheraf yn cael ei osod am hanner awr vedi deg y boreu, ac o ddechreu mis Hydref hyd ddiwedd Mawrth am 1 leg y boreu. Hefyd, y cadeirydd a alwodd sylw y bwrdd at y mater o wella y ffordd fawr syd yn arwain o gyfeiriad Llanfair ar y bryn yn groes i Heol Ceryg ac i'r Heol Newydd (New Road) i gyfeiriad y 'Station.' Dywedai ei fod ef wedi cael ei osod gan aelodau y < ynghor refol i ddwyn y mater ger bron, ac i ofyn i'r gwar- cheidwaid a wnaent ganiatau darn byclmn o gornel cae yr undeb, fel y galler unioni ychydig ar y tro chwyrn, anhawdd, a pheryglus, ag sydd yn yr he lydd crybwylledig yn y man hyn. Ac os llwyddent i gael darn hycban o'r tir ar yr ochr arall i r heol drachefn, yna byddai gwelliant gwirÎoneddol a pbarhaus yn debyg o gael ei wneyd. Mater i'r Cynghor Sirol yd- oedd ei wneyd; ond yr oeddynt am sicrhau y ddaear yn rhodd ac yn rhad, fel y gallent arbed treuliau. Etholwyd pwyllgor i dala ymweliad â'r fan, ac i ddwyn ei adroddiad erbyn y cyfarfod nesaf.
------.-------Y CYNGHOR DOSBARTH.
News
Cite
Share
Y CYNGHOR DOSBARTH. Hefyd cyfarfu yr uchod yr un dydd, ac yn yr un ystafell; Mr Evans, Caio, yn y gadair. Darllenwyd gohebiaeth oddi wrth Fwrdd Llywodr- aeth Leol yn galw sylw y cynghor at y mater o gyf- lenwi pentref Llangadog â dwfr; ond penderfynwyd gobirio y mater am fis. Hefyd, cafwyd planiau oddi wrth Gynghor Dosbarth Llandeilo o'r bont newydd fwriedir adeiladu yn Pyllau cochion rhwng Llansadwrn a Thai y llvebau a gohir- iwyd y mater hwn, hefyd, am nad oedd manylion nac amcangyfrif or gost o'i hadeiladu wedi eu hanfon ganddynt. Hefyd, penderfynwyd gohirio y mater o adeiladu pont newydd yn Porth y rhyd, Myddfai, hyd y cyfar- fod nesaf Darllenwyd gobebiaeth oddi wrth Mr. Rogers, Blaen cwm, Myddfai, yn achwyn fod rhai pobl yn esgeuluso tori y perthi ar ochr yr hewlydd, fel yr oedd yn an- hawdd ae yn beryglus myned drostynt Penderfynwyd fod arolygydd y ffyrdd i dalu ymwel- iad a'r He, ac i weled fod yr hewl yn cael ei chadw yn glir. Aed yn mlaen i ystyried rhestr y cynnygion am gyf- lenwi y tfyrdd 3, cheryg am y flwyddyn ddyfcd L A dim ond rhanbarth < a'o yn unig y llwvddwyd i fyned drosto, am ei bod yn ben bryd (ciniaw,) ac yn amser i rai o'r cynghorwyr i redeg am y gerbydres.
EISTEDDFOD.
News
Cite
Share
EISTEDDFOD. BAND OF HOPE' SALEM. Nos Ian, Mawrth 12fe.l, y eynnaliw\ d yr uchod, yn y Neuadd Ymarfer, a thebyg iawn y cewch yr hoi! fanyl- ion gan eich gohebydd lfyddl iwn Dvfri ap Tywi, o herwydd gwelais ef ar yr esgvnlawr a phin ysgrifenydd buan yn ei law, yn cymmeryd 'notes,' ga.t;em feddwl, 'at the rate of ]00 per minute: A giir o homes y IB-Ind of Hope' fydd genyf yn iwyaf neilldnol y tro hwn. Un o reolau pendant y gymdeithas uchod ydyw. fodtyn rhaid i bawb sydd yn dal perthynas a hi fod yn Uwyrvmwrthodwyr trwyadl oddi wrth y pethau meddwol a'r myglys. Pa un ai cyfarfod pregetbu, areithio, canu, neu eisteddfod a gynneiirmewn cyssyllt- iad a hi, rhaid i bob swyddog a beirniad fod yn ddir- westwr trwyadl. 'Does fawr gwahaniaeth pa un ai Pab, Pabydd, Protestant, neu Budda' fydd ei gred grefyddol-dim ond iddo fod yn 'ddyn,' ac yn llwyr- ymwrthodwr pendant oddi wrth y pethau meddwol a'r myglys. Yr oedd yn dda genym weled dau foneddwr ieuangc o ardal Myddfai yn l'anw swyddau mor bwvsiir—Mr. Davies, Rhyblid, yn gadeirydd. a Mr. Jones, Llwyn Mered th, yn barnu yr amrywiaeth, &c. Mae Mr. Dav;es yn adnabyddus iawn fel dirwestwr eadarn drwy y rhan hon o'r sir, a dyma y drydedd, os nad y bed- waredd waith, iddo ef lanw y gadair yn yr eisteddfod flynyddol hon; a chawsom ganddo araeth agoriadol gwerth ei gwrandaw. Ac y mae cael boneddwr o gyf- oeth, talent, a dylanwad Mr. Davies o blaid sobrwydd yn fendith fawr mewn unrhyw ardal, a dyweyd y lleiaf. Hefyd, dyma foneddwr ieuangc arall o ardal Myddfai etto, yn mherson Mr Jones ('eu.), Ltwyn Meredith. Yr oedd pwyHgor Band of Hope' Salem wedi cael hint' droion fod yna allu, dysg, a thalent ag angen eu dwyn allan i'r cy'hoedd ac wedi hir gymmheli, llwyddwyd yn y diwedd i'w cael. Ac, yn wir, profodd Mr. Jones fod yr hyn a sibrydwyd am dano yn wir; o berwydd nid gallu i farnu yn unig oedd ganddo, ond y medr a'r 'tact' hwnw i osed allan ei feirniadaeth yn y fath fodd nes llwyr argyhoeddi a boddloni yr ymgeiswyr' eu bod yn cael cyfiawnder ganddo. Ar y Haw ddeheu iddo, wrth farnu bob tro, yr eis- teddai Mr. 'Gweithiwr o'r Cwm,' un o ohebwyr y FANER; a dywedai Mr Jones ei fod yn ddyledus iawn iddo am ei gynnorthwy, ac yn enwedig fel ei hen athraw. Bendith i ardal ydyw cael tri wyr cedyrn fel hyn o blaid sotrwydd i fyw ynddi.
MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH
News
Cite
Share
MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. DAYIES, NEW ROAu. Dydd Iau diweddaf bu farw yr hen frawd anwyl uchod, wedi hir nychdod, yn e; Slain mlwydd oe1. Yr oedd yn un o ddiaconiaid hynaf Salem, eglwys yr An- nibynwyr yn y dref. Yr oedd yn un a fawr hoffid gan bawb am ei waith bob amser yn dyweyd ei feddwl mor blaen-cryf, iach, a siriol; a thrwy brofiad maith yn alluog i roi cynghor da a gwerthfawr mewn unrhyw amgylchiad. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y Gwirionedd ei hun; a ffarfiodd gymmeriad gwerth ei efelychu. Claddwyd ef heddyw (dydd Llun), yn mynwent Llandingat, a chafodd angladd lliosog, am fod tywys- og yn Israel' yn cael ei gdaddu. Gwasanaethwyd yn jr tf gan y Parchedig D. E. Walters, M.A., B.D.. Merthyr Tydfil, cyn-weinidog Salem, a'r Parchedig D. Rhydd- erch, B.A., gweinidog dyfodol Salem. AP BRUTUS.
Advertising
Advertising
Cite
Share
TRADE TERMS TO FEW RIDERS in each dist ict who apply at once. Greatly reduced prices; direct from factory. Sa.ve dealers' profits. |L—ssasffisca. G o v o n try GycSes j British-made. Warranted six to fifteen years; i| best tyres, coasters, variable-speed gears, and SK/M 11 all latest improvements û3 new models. M3' t0' Ca«^d. li W Old machines taken in part exchange. HWlm 259/ iMSCOSINT for Car>h. Easy pay- WiNW /O ments at 10% discount off catalogue prices. Every transaction in cu;,l1dence. No deposit or references required. Thousands of Estab. WUMVI estimonials from delighted customers. lished W iMf Sliop-soiletl & Second-hand Cycles, all makes, 21 years, m/l as good as new, from 30; Groot Clearance Sale. Mf Cycle accessories and repairs at half usual prices. >550^ Write or call at once for our bier Art Catalogue and special offer on sample machine. 0' T:li D p.m. M CAH Cycle Co. Dept. fia Svl bMi# 91-95, Paradise St., LIVES., .oL. London: i9, Charing Cross Rd. Manchester: tee, Deansgale. (Jlasgow; 168, Buchanan St, Newcastle: a, New Bridge St, Ma Mae yr AN ST HB yn beth i'w ofni fwyaf am HB jjga fod yr effeithiau Hj Hj sydd yn aros ar |H m 01 mor ddifrifol. Gellir H[ eu hosgoi yn rhwydd a H hollol tnvy symeryd H| I NCOTT S I I Emulsion I Bra yr hwn a rydd i chwi nerth H Corphorol a meddyliol i IH H rwystro unrhyw ganlyn- H iadau. Os cymerwch |H SCOTT'S yn awr fe H rwystra i chwi rhag cael |H yr Anwydwst mewn un- rhyw ffurf. HH DYMA TRADE MARK Y FFI|F|||P' FEDDYGINIAETH SYDD nJ B RHWYSTRO EFFEITHIAU MWM YR ANWYDWST* 4 IS GEORGri PILLS*' Hanesyn Rhyfeddol ODDI WRTH Diweddar Gyhoeddwr y «TYST IL!P Xr. X:lo Y X> !>•* ANWYL SYR, Aeth un o'm meibion allan i Canada, ac ymsefydlodd yn nghymmydogaeth yr Oil Springs, Lambton, Ontario. Tua thri mis yn ol ysgrifenodd ei fod wedi bod yn wael ei iechyd er's amryw wythnosau, yn dyoddef oddi wrth y Piles. Mor fuan ag y derbyniais ei lythyr, danfonais iddo sypyn o'ch peleni. Tair wythnos yn ol ysgrifenodd adref i ddyweyd fod eich peleni wedi gwneyd lies dirfawr iddo. Cyn ei fod wedi gorphen un blwch yr oedd yn al!uog i ail gym- meryd at ei waith. Neithiwr cefais lythyr arall oddi wrtho, fod y clefyd, i bob, ymddangosiad, wedi ei lwyr adael, a'i fod yn ei gynnefinol iechyd. Ar ol clywed yn ddamweiniol fod dyn yn byw yn y gymmydogaeth wedi dioddef oddi wrth y Piles er's ugain mlynedd, darfu i fy mab chwilio am dano. gan ddyweyd wrtho am y daioni yr oedd eich Peleni chwi wedi wneyd iddo, gan roi iddo hanner y blychaid oedd ganddo. 0 fewn pedwar diwrnod yr oedd y dyn yn dawnsio gan lawenyddoddi wrth effeithiau daionus eich Peleni chwi Wedi derbyn y fath leshad iddo ei hun, a gweled y daioni dirfawr a wnaed i'w gyfaill, teimla fy mab yn awyddus am i eraill wybod am y feddyginiaeth werthfawr hon. Yr eiddoch, &<L, JOSEPH WILLIAMS. Xr mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf -.r. No. 1.—George's Pile and Gravel Pills (label wen). No. 2-—George's Graveftafl18 (l .bel las). No. 8.-George's Piils for the Piles (label goch). Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blychau Is. 1 Jc. a 2s. 9<L yr un. Gyda'r Post am Is. 2c. a 2s. 10c. Gochelwch Dwyllwyr I-Gofynwch yn eglur am 'George's Pills,' a gwelwcb eich bod yn eu cael. PERCHENOG— J." E. GEORGE, RLRP.S., Hirwain, Abcrdare.