Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Dadgyssylltiad a Oadwaddoliad…
News
Cite
Share
Dadgyssylltiad a Oadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru. Mesur i ni yn gyntaf a phenaf fydd hwn, ac yn y gymdeithasfa dylem edrych ar y mesur hwn o safle drwyadl grefyddol. Bydd- wn ofalus rhag rhoddi argraph ar feddwl neb mai cenfigen at Eglwys Loegr sydd wrth wraidd ein cri dros Ddadgyssylltiad Nid gweled cyfleusdra yr ydym i wanychu nerth enwad sydd yn cystadlu a ni ar faes Cymru. Buasai gwangc i ysbeilio cydymgeisydd oddi wrth fanteision nad ydym ni yn eu nreddu er mwyn ymladd ag ef yn beth cwbl annheil- wng o grefydd. Gwir fod rhif ac ansawdd Eghvys Loegr yn Nghymru yn ffeithiau pwysig iawn; ond pe buasai yr Egl- wys yn y mwyafrif mawr yn ein gwlad, a phe y buasai iddi hanes glan, a phe buasai yn gwneyd deng waith mwy o ddaioni nag a wna ein cri ni wed'yn fyddai, dadgyssyllter a dad- waddoler hi. Nid am mai hyny sydd yn deg a nij ond am mai hyny sydd yn deg a hi ei hunan. Nid mater o degweh mo hono, ond mater o iawnder. Nid rhifedi ddylai ei ben- derfynu, ond egwyddor. Cyssylltiad anach- aidd yw cyssylltiad unrhyw eglwys a'r wlad- wnaeth. Nid hynafiaeth a wna eglwys, > Nage'r eglwys ddeng mlwydd oed, Oedd y lanaf, oedd y buraf, Oedd y symlaf fu erioed. Nid cynnysgaeth a wna eglwys, Nid rhyw fyw ar bwys y byd: Pan oedd dlotaf y bu gryfaf, A rhagoraf oil i gyd. Nid ei hundeb a'r wladwriaeth, Sydd yn rhoi ei nerth a'i grym; Cyn yr undeb cariai'n wastad, Ddawn dylanwad hynod lyni. (Beth yiv ynte P) Dau neu dri yn cydymgynnull Yn enw'r Iesu, ac o'i du Yntau'i Hunan yn y canol, Dyna eglwys gymmhwys gu." -n_. -m-
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLANGOLLEN.
News
Cite
Share
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLANGOLLEN. MANYLION Y RHAGLEN. Y MAE Mr. F. D. Jones, ysgrifenydd yr Eis- teddfod Genedlaethol am 1908, wedi cyhoeddi y trdniadau cerddorol ar gyfer yr *yl, y rhai sydd yn awr yn mron yn gyflawn. Y noson gyntaf bydd i'r Cynhauaf,' Miss illiams, cyfansoddiad Cymreig, gael ei ber- fformio, pan yr nrweinia Mr. Wilfred Jones gor yn cynnwys 280 o leisiau. Agorir yr ail ran o'r rhaglen gyda dyfyniadau o 1 Nero' Goleride Taylor, ac y mae y cyfansoddwr wedi addaw yn bevsonpl arwain Y prif ddatgeiniaid fydd, Miss Edith Evans, Miss Gwladys Roberts, Mr. Tom Thomas, a Mr. David Hughes. NosFercher perfformir dau 0 weithiau Cymreig; sef, 'Llyn y Forwvnig' (David J^enkins), a Dafydd ap Gwilym (Parry Evans a'r cyfansoddwyr fydd yn arwain yn mhob un o'r perfformiadau hyn. Y prif ddatgeiniaid fydd, Mesdames Amy Evans, Dilys Jones, ac Ethel James, a Spencer Thomas, David Ellis, Emlyn Davies, a David Evans. Bydd 'St Paul' Mendelsshon yn cael ei berfformio nos Iau gan y cor mawr o'r Rhos a Llangollen. Y prif ddatgeinwyr fydd, Miss Edith Evans, Mrs. Dilys Jones, Mr. Ben Da vies, a Mr. Etnlyn Davies. Nos Wener cynnwysa y perfformwyr Madame Laura Evans, Eira' Gwyn, T. Edwards (llhos), Ben Davies, Dan Price, Smith Duce, ac Eos D.r. Y mae y trefniadau yn mron a chael eu cwblhau ar gyfer arddangosfa gynnrychioliadol mewn celf, i gael ei hagor gan larlles Grosvenor, y dydd Gwener cyn yr Eisteddfod.
AIL CYFRES.
News
Cite
Share
AIL CYFRES. XXVII. Mi feiddiais ddyweyd, rai wythnosau yn ol, wrth gyfeirio at yr anhawsder i gyflwvno rhydd-ddinasyddiaeth Llundain i Miss Flo- rence Nightingale yn y dull arferol, a'r an- hawsder a deimlid i y mad aw oddi wrth y dull hwnw, y byddai yr awdurdodau yn siwr o daraw ar rhyw hvybr a fyddai yn un es- mwyth i'r foneddiges y dymunid ei hanrhyd- odclu. A hyny a wnaed ddydd Linn, wyth- nos i'r diweddaf. Galwyd am ei pherthynas agos -f sef, nai iddi, Mr. L. H. Shore Night- ingale, i gymmeryd ei lie yn y seremoni. Un tn>, auluuwyd dirprwyaeth i dy Syr Row- land Hill, yn Hampstead, yn y rlian ogledd- ol-orllewinol o Lundain, i gyfiwyno y fraint iddo. Ond nid oedd Miss Nightingale yn ddigon cref i dderbyn dirprwyaeth; ac felly, caniatawyd i'w nai ymddangos yn y 'Guild Hall yn ei lie. Gwnaed y cyfiwyniad gan Syr Joseph Diversdale, y City 'Chamber- lain;' a dywedodd rai pethau tra plirydferth mewn modd gwir deilwng. Addefai mai camgymmeriad oedd na buasai yr anrhydedd wedi cael ei osod ar y foneddig- es hanner can mlynedd yn ol. Ond gwell hwyr na hwyrach. Welo rai brawddegau o'r araeth :— 'There are many names of great leaders and warriors upon our Roll of Fame, but in coming ages none will shine brighter, none will be surrounded with ,a, more brilliant halo, than that of Florence Nightingale.' Etto:—' We proclaim for all time our ad- miration of the labours and lofty aims of one of the noblest characters in our country's his- tory, and one whom posterity will ever be proud to claim as one of Britain's daughters.' Tra nodweddiadol o honi oedd gofyn am casket syml a rhad i gynnwys y cofnodiad o'r fraint yn lie y 'casket' aur arferol; ac o barch i'w dymuniad, gwnaed 'casket' dderw hardd, a rhoddwyd pris y casket aur, can gini, at ryw amcanion elusengarol a ddymunai y foneddiges. Siaradodd ei nai yn dra synwyrol, gan ddadgan nad oedd neb yn gofidio mwy nag ef o herwydd ei hanallu i fod yn bresennol. Dywedai na bu hi erioed yn coisio unrhyw elw neu glod personol trwy ei gwaith; yn ei gwaith y cymmerai ddyddor- deb—y gwaith ei hun, ac nid unrhyw elw neu anrhydedd a allai ddyfod oddi wrtho. Dywedai ar yr un pryd fod yr anrhydedd a osodid ami gan ddinas Llundain yn foddhitl gwirioneddol iddi. Yn araf yr elo i lawr i lan y dwr; ac na fyddai yr afon yn donog iddi. Heulwen digymmylau fyddo ar ei hym- adawiad. Y mae yn iechyd i ysbryd y wlad a'r dref i ymgydnabyddu a hanes y ferch hon, ac edmygu ei chymmeriad. Onid gwerthf.awr fyddai llyfr Cymraeg rhad yn adrodd hanes ei gwaith, tra byddo y genedl yn ngwres ei dyddordeb ynddo ? I Wythnos i ddoe, yn y Liverpool Town Hall, dan lywyddiaeth yr Arglwydd Faer (Dr. Caton), cynnaliwyd cyfarfod pwysig iawn o blaid Cronfia yr adeiladau newyddion i'r Coleg Cenedlaethol yn Mangor. Agorwyd y coleg mewn hen hotel,' Hydref 18fed, 1884-fwy na thair blynedd ar hugain yn ol. Tra annigonol ydyw y cyfleusderau yno i ddwyn yn mlaen waith mawr a chynnyddol y coleg; ac y mae yn llawn bryd cael cyfleus- derau helaethach. Cofiryn dda i'w Fawr- hydi Iorwerth y Seithfed ddyfod i lawr i osod y gareg goifadwriaethol, yn Gorphenaf di- weddaf. Yr un ydyw y Prifathraw o'r cy- chwyn, yr hwn a adnabyddir, bellach, fel Syr Harry Reichel. Nid oes yn yr holl Dywysog- aeth ragorach safle i goleg na'r tir a rodd- wyd gan ddinas Bangor; a phan orphenir yr adeiladau, byddant yn odidog mewn gwirion- edd. Bydd yr holl draul yn agos i wyth ugain mil o bunnau. Ar hyn o bryd, ni fwr- iedir myned yn mlaen ond gyda rhanau mwy- af angenrheidiol y gwaitli. Bydd y draul ar y rhai hyny yn rhywle o ddeutu pedwar ugain mil o bunnau. Y casglydd cyffredinol a gwir effe-ithiol ydyw Mr. L. D. Jones (Liew Tegid) a dywedai wrthyf ddydd Mercher fod yr addewidion eisoes yn agos i ddeu- ddeng mil a deugain o bunnau. Traddod- wyd anerchiadau rhagorol yn y cyfarfod gan Arglwydd Kenyon, llyv/ydd y Coleg; a, Syr Harry Reichel, y Prifathraw. Un peth gwerthfawr ynglyn a'r coleg o'r cychwyn ydyw fod pob plaid wleidyddol a chrefydd- ol yn cyduno i'w gefnogi. Ei lywydd cyntaf oedd Arglwydd Powys, pendefig Eglwysydd- ol a Thoriaidd; ond buasai yn ammhossibl i unrhyw ddyn fod yn fwy ffyddlawn iddo, a. selog drosto, nag y bu efe am yr wyth mlynedd y bu yn ei swydd. Dilynwyd ef gan Mr. William; Rathbone, A.S., Ym- neillduwr Rhyddfrydig; ac yr oedd ei sel yntau yn angerddol dros ei lwyddiant. Yn 1900 dilynwyd ef gan Arglwydd Kenyon. Tori, mi dybiaf, ydyw yntau, ond nid oes llafur, trafferth, n.ac aberth yn ormod gan- ddo er mwyn y coleg. Hir fyddo ei oes i'w wasanaethu. Daeth niter da o Gymry i'r cyfarfod; a rhoddodd Syr Alfred L. Jones, Cymro o sir traertyrcldin, oOOp. a Syr William H., Tate, 500p., yn chwanegol at 1,000p. a roddasai yn flaenorol. Rhoddodd Mr. John W. Hughes, 250p. Mr. Hugh R. Rathbone, lOOp. Mr. Louis S. Cohen, 50p.; Dr. Thel- wall Thomas, 50p. ac amryw eraill symiau llai. Ac arosodd Llew Tegid yn y ddinas a'i hamgylchoedd am rai dyddiau i geisio gwth- io y gwaith yn mlaen. Taraw yr haiarn tra yn boeth;' pa lwyddiant fu ar ei ym- drechion, nid wyf wedi clywed. Llawer o ofyn am arian at wahanol achogion sydd yn y dyddiau hyn. Y mae yma dair Ba- zaar yr wythnos hon; dwy gan y Bedydd- wyr, Cymreig a Saesnig; ac un gan y Wes- leyaid Saesnig. Ond y mae y teimlad cen- edlaethol yn weddol gryf, a hawliau Coleg Bangor yn ddiammheuol. Cyfranodd Cymry Liverpool yn dda ar y cychwyn, a'r tebyg ydyw yr adnewyddir eu sel yn y cyfwng pwysig presennol. Parhau yn bryderus yr ydys ynghylch y Prifweinidog.. Tua dechreu yr wythnos ddiweddaf ofnai llawer, wrth ddarllen rhwng llinellau bulletins y meddygon, mai i lawr yr oedd yn myned. Ac nis gallai y newydd- laduron ymwrthod a'r pleser o ad-drefnu y Weinydd.iaeth. Ond dymuno adferiad ac estyniad einioes i'r Prifweinidog a wna pleid- wyr a, gwrthwynebwyr. Ac fel yr oedd y dyddiau yn myned heibio, ymddangosai peth- au yn fwy gobeithiol. Yr oedd tystiolaeth y meddygon yn fwy ffafriol; a dechreuwyd adgofio gwellhad rhyfeddol ei frawd, hynach nag ef, tua dechreu y flwyddyn. Dan yr amgylchiadau hyn, gellir yn hawdd fforddio gadael Honydd i'r cwestiwn ag y mae rhai papyrau yn brysur gydag ef; sef, a fyddai raid i Mr. Asquith sefyll am ail etholiad pe dyrchenr ef i fod yn Brifweinidog ? Yr wythnos hon cynnelir cymdeithasfa Methodistiaid Gogledd Cymru yn nghapel Oakfield Road, Liverpool. Er's peth amser. bellach, y mae y gymdeithasfa yn myned 1 Henaduriaeth Lancashire yn ei thro fel i'r gwahanol gyfarfodydd misol. Cynnaliwyd y gyntaf o fewn cylch yr Henaduriaeth yn nghapel City Road, Caer, Mehefin, 1903, a'r ail yn nghapel Catherine Street, Liverpool, Tachwedd, 1905. A hon ydyw y drydedd. Eglwys gymmharol ieuangc ydyw eglwys Oak- field Road, yr hon sydd ferch i'r eglwys yn Everton Brow. Cychwynwyd hi yn Walton Breck Road; ond y mae. v capel eang a hardd presennol wedi ei adeiladu er's nifer 0 flynyddoedd. Y gweinidog ydyw y Parch. T. G. Owen, M.A.; ac y mae wedi bod yn ei Ie er's un mlynedd ar hugain. Un o'r gweithwyr mwyaf egniol ac ymroddedig ydyw, yn llawn sel a than Cymreig, er yn wei 11 idog eglwys Saesnig. A dysga. Gymraeg i'w blant. Merch i'r diweddar flaenor haedd- barch o Charings Cross Road, Llundain, Mr. liicliard Williams, ydyw ei wraig; a chwaer i Mr. Howell J. Williams, un o'r blaenor- iaid pr( bennol, ac aelod er's llawer o flyn- yddoedd o'r London County Council;' ao wyres i'r hen flaenor pur, William Richard, Rehoboth, C'orris. Yn 1853 y ffurfiwyd yr hyn a elwid Hen- aduriaeth Siroedd Caer a Lancaster;' a chyn- nwysai y pryd hwnw dri dosbarth o eglwysi, (1), Eglwysi. Cymreig yn nhrefydd Lloegr; sef, Liverpool, Birkenhead, Seacombe, Man- chester, a Rurcorn. (2), Eglwysi Saesnig perthynol i'r Genhadaeth Gartrefol yn cyr- haedd o Wrexham yn y De, hyd Scarisbrick yn y Gogledd. (3) Eglwysi yn perthyn i gyfundeb y Parchedig Phillip Oliver, M.A.; sef, yr Octagon, yn Ngliaer; Ebenezer, yn Waverton, Tarvin, Delamere, Saighton, a Cotabrook. Ond ni pharhaodd y trefniant hwnw am fwy nag un mlynedd ar ddeg. Y11 1864 ym- wahanodd yr Eglwysi Cymreig a'r Eglwysi Saesnig oddi wrth eu gliydd, y naill i ffurfio dau gyfarfod misol a'r lleill i ffurfio Henad- uriaeth. Yn Nyddiadur 1865 ceir Cyf- arfod Misol Liverpool,' Cyfarfod Misol Man- chester,' a Henaduriaeth Saesnig Siroedd Lancaster, Caer, Fflint, a- Dinbych.' Ar hyn 0 bryd, nifer yr eglwysi Saesnig yn Liverpool a'r amgylchoedd ydyw deg; sef, Catherine Street, Everton Brow, Oakfield Road, Birkenhead Liscard, sir Gaer Orrell, Street, y rhai hyn oil yn Liverpool; Willmer Road, Birkenhead; Liscard, sir Gaer; Onell, Bootle Garston. A chyda'r rhai hyn y mae eglwys Saesneg yn Runcorn, yn y naill gyf- eiriad, ac yn Hoylake, yn y cyfeiriad arall. Ac eglwysi byw a thra gweithgar ydyw y nifer mwyaf o honynt. Yn wir, y mae llwydd Eglwysi Saesnig Liverpool yn galonogol yn mhob ystyr. Temtir fi i ddwyn i mewn yma y rhestr o welnidogion yr Henaduriaeth vn Nyddiad- ur 1865:— 1829, William Hughes, Wrexham. Bit rarw, 1865. 1846, Owen Howell, Tarvin. Bu farw, 1874. 1846, William Evans, Caerlleon. 1847, William Howells, Liverpool. Bu farw, 1888. 1837, Richard Brown, Liverpool. Bu farw, 1895. 1849, Ebenezer Powell, Holt. Bu farw, 1876. William Clarke, Sutton, Chester. 1856, Robert Thomas, Garston. Bu farw, 1884. 1857 Joseph Jones Wrexham. Bu farw, 1890. 1863, John Meredith, Rossett. Bu farw. 1907. 1863 William Evans, M.A., Runcorn. Y diweddaf (yn awr o Pembroke Dock), ydyw yr unig un sydd yn awr yn fyw. Oddi wrth yr Annibynwyr y daeth Mr. Clarke at y Cyfundeb; y mae wedi marw er's llawer o ilynyddoedd. Ymfudodd Mr. Evans i New Zealand; a bu yn weinidog yno am gryn dymrnor; ond bu yntau farw tua deng mlyn- edd yn ol.. Yr oedd yno, hefyd, yn 1864, y pregethwyr canlynol:—■ Lewis Parry, Bryn, Wrecsam. Jonathan Davies, Gwersyllt. y ddau hyn wedi eu derbyn i'r gymdeithasfa. Ordeiniwyd hwy yn 1865. Yr oedd yno, hefyd, wedi eu derbyn i gylch yr Henadur- iaeth :— Joseph Edwards Liverpool. David Lantrow, Fflint. Hugh Hughes, Runcorn. William Williams, Liverpool. Edwin Evans, Birkenhead. Richard Jones, Manchester. Thomas Phennah, Wrecsam. James Kirkham, Runcorn. Thomas Francis, Wrecsam; a dau frawd eraill. Nid oes yr un o honynt yn awr ar restr pregethwyr y cyfundeb. Gwneid coffhacl am un o honynt, Mr. Phen- nah, yn y gymdeithasfa ddiweddaf.. Y mae un peth yn sicr, y rhoddir i'r gymdeithasfa groesaw mor wresog yn Oakfield rd., ag a gaf- odd mewn unman. Nid yw yn debyg y daw o'i blaen yr un 'cwestiwn llosgawla chenyf fi nid gofidus ydyw hyny. Cyffredin • fydd y gwaith, ond nid llai gwerthfawr.o blegid hyny. Disgwylir, gyda dyddordeb, am araeth ym. adawol y llywydd, pa iaith bynag a ddefnydd- la. Y mae yn ddiammheu y bydd ganddo genadwri deilwng 0 ystyriaeth yr holl egl- vvvsi. Cyn y darllenir y llinellau hyn bydd wedi ei thraddodi. Yr wyf bellach er's dyddiau yn darllen gyda hyfrydwch lyfr o eiddo y Parchedig Joseph Evans, Dinbych, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Swyddfa Cyfundeb y Method- istiaid, yn Nghaernarfon. Yr hyn sydd at y wyneb-ddalen ydyw, Biographical Diction- ary of Ministers and Preachers of the Welsh Calvinistic Methodist Body, or Presbyterians of Wales. From the start of the Denomina- tion to the close of the year 1850. By Rev. Joseph Evans, Denbigh. Carnarvon: 1907.' Da, yn ddiau, y gwnaeth Mr. Evans barotoi y gyfrol hon; bydd o werth mawr i bawb sydd yn cynuneryd dyddordeb yn hanes y cyfundeb Methodistaidd, ac yn arbenig i'r bobl ieuaingc sydd yn fwy hoff o ddarllen Saesneg na Cnymraeg. Ni wneir un ym- drech i roddi hanes llawn am y gwahanol ber- sonau a nodir; ond dodir i lawr gymmaint ag sydd yn wybyddus am lawer a bregeth- wyr y cyfnodau boreuol. Ac i lawer aawn o ddarllenwyr bydd y cwbl a ddywedir am y cymmeriadau hyny yn newydd. Treuliwyd ar y gyfrol lafur dirfawr, ond y mae y ffrwyth yn dra gwerthfawr. Ni roddaf y gyfrol heib- 10 "neiP e' darllen o glawr i glawr. J^el yr awgrymais wythnos yn ol, y mae y bragwyr a'u pleidwyr yn ffyrnig arswydus yn erbyn Mesur Trwyddedol y Llywodraeth. Ac ymddangosant. fel yn tybio mai yn eu flaw hwy y mae ei dynged. Bygythiant y Llywodraeth, y Rhyddfrydwyr, yr esgobion, a r clerigwyr, a phawb, yn wir, a feiddiant ddangos unrhyw gydymdeimlad a'r mesur. Mewn un cyfarfod g'waeddai un o'r gynnull- eidfa ,ar aelod seneddol Chuck it out or we will chuck you out. Ond y maent ym gorwheyd eu gwrthwynebiad. Nid ydynt yn' cofio fod dynohaeth yn ymgodi yn natunol yn erbyn gwrthwynebiad o'r fath yma. ACT
,ANERCHIAD WRTH ADAEL Y-GADAIR,.
News
Cite
Share
yd hwn, yr oedd pechod yn ei goresgyn wed'yri, gan ddeifio ei thegwch, a difa ei nerth. Byd marw mewn pechod ydyw ein byd ni, yn ol dysgeidiaeth ddi- floesgni y Beibl; dyna ddywed synwyr moesol pob dyn a'i daille-na yn ddidu- edd, a. dyna gredo v dynion sydd wedi gadael eu hoi ddyfnaf arno. Beth, ynte, sydd gan yr efengyl ar gyfer byd fel hyn? Nid mae ganddi rvwbeth, ond y mae ganddi ddigon, neu nid efengyl fu- asai. Mae y digon hwnw i'w gael mewn adnod send, ac y mae pawh yn ei medru, Canys felly y earodd Duw y byd. fel y rhoddodd Efe ei unig,anedig Fab, fei na e-holler p \ry bvnag a gredo ynddo of, ond caff a el o bono fywyd tragwyddol.' Car- iad mawr, aberth mawr, amean mawr, fel y clywais Mr. Roberts, Tai Hen, yn gosod eynnwys yr adnod mewn tri phen pregeth. Yr oedd rhoddi Duw yn cyn- nwys aberth digymmhar o du Dduw, neu 11 i buasai yn deilwng o'i gariad, ac yn eynnwys aberth heb ei fath o du y Mab, neu ni fuasai yn deilwng o'i ufudd-dod a'i gariad yntau. Ac amean hyn i gyd oedd rhoddi bywyd i'r byd; a. buasai dysgu sut i fyw heb roddi modd i fyw yn chwanegu at faich y ddynoliaeth, yn lie ei symmud. Fe rc-ddodd Duw ei Fab nid yn brophwyd in dysgu yn unig, nac yn benaf, ond yn offeiriad i'n gwaredu. Fe'i rhoddodd i farw; nid terfyn tragic- al i'w fywyd oedd ei angau, ond ei goron a'i binacl. Bu fyw i farw, a, bu farw i fyw. Gwir iddo ddywedyd ge-ir- iau wrth y byd na bu eu bath; rhoddes gyfarwyddiadau ac esiampl na chaed eu hail, ond ei air penaf oedd ei weithred olaf. Nid ydym am wahanu hon oddi wrth yr oes aarweiniai iddi, ond yr ydym am ei gwahaniaethu er mwyn gosod arbenigrwydd teilwng o'i dwyfol bwysigrwydd arni. Ychydig allasai cer- bydau iaith ei ddal o'r cyfiawnder difesur oedd ynddo, ond dyrna act yr aeth y person iddi i gyd. Os mai dyma gnew- yllyn yr efengyl, dyma ddylai cnewyllyn y weinidogaeth fod Nid yw hyn yn golygu n ZD wrth gwrs, nad ydym i bregetliu dim ond lawn Crist, a'i aberth anfeidrol; ond golyga mai dyma yw safon y weinidog- aeth. Nid gwaed yw testyn pob pre- geth i fod, oud dylai pob pregeth fod o dacn arwydd y gwaed, onid e ni bydd ddi- hangol. Calfaria yw canolbwynt dinas ZD Duw yn ngweinidogaeth yr efengyl i fod. Tu allan i'r porth yr oedd y bryn yn ddaearol, ond yn nghanol y ddinas y mae Calfaria i fod byth, bellach, yn y nef a'r ddaear; a gwae y pulpud esyd Galfaria, etto y tu allan i'r porth. Calfaria fryn.yw'r unig sail, adeilaf arno mwy.' Wedi dangos i'r bobl y ffordd i n gael bywyd, a'r unig ffordd, dysgwn 1 0 hwy wed'yn i fyw; dygwn y cymmhell- ion cryfaf, a'r dybenion uchaf o'u blaen, a dangoswn iddynt mat amcan Duw yn rhoddi bywyd i bechadur ydyw, er mwyn iddo ei fyw, galw allan ei adnodd- au dideifyn, a dangos ei harddweh di- gymmhar, nes swyno'r byd a'i brydferth- wch, ac ymgyrhaedd yn wastadol at y Z, perffeithrwydd dynol a dwyfol sydd yn nod parhaus i'r plant ymestyn ato. Gwyliwn wneyd marw'r groes yn ddim ond moddion gwaredigaeth rhag dinystr, yn ddim ond cynllun dwyfol i osgoi ing a phoen. Nid yw Duw, mae'n wir, yn hoffi gweled ei greadur Ueiaf yn dioddef, llawer llai dyn luniwyd ai ei ddelw; ond, ,etto, fe fuasai gwaredu dyn rhag dioddef, a. dim ond hyny, yn waith rhy ddrud i'w sicrhau drwy ddioddefaint anfeidrol unig-anedig Fab Duw. Adnoddau, ym- adferthoedd, possiblrwydd enaid, sydd yn gosod mawredd ar ddyn, fel nad oedd clxwys a dagrau, a gwaed Mab Duw yn ormod o draul i'w adfer. Buasai y draul anfeidrol hon yn ormod pe mai moddion gwaredigaeth o boenau yn unig fuasai: ond nid oedd yn ormod fel modd- ion i c'dadblygu possiblrwydd diderfyn eaaid dyn. Gwaith Duw ydyw y Crist- ion, wedi ei greu yn Nghrist Iesu i weithredoedd da.' Y mae galw mawr arnom i ddiwygio ein credo, ac i ad-drefnu ein CySes Ffydd.' Hwyrach fod angen, nid wyf am ddyweyd nad oes. Ond byddai yn ddoeth ynom i edrych pwy sydd yn galw am hyn. Llais pwy yw y llais-P Os mai dynion, y byd sydd yn galw, na wrandawn, nid ydynt abl i farnu; pobl ddyeithr ydynt. Os mai gwyr dysgedig yr oes sydd yn galw, gwrandawn arnynt yn barchus, ond peidiwn a dechreu tynu yr hen adeilad i lawr nes y byddant hwy wedi cytuno a'u gilydd ar gynlluniau yr adail newydd, a bydd hyny, yn ol pob argoel, yn lied bell yn mlaen. Os mai dynion ieuaingc darllengar ein heglwysi sydd yn galw, byddwn ofalus beth ddywedwn wrthynt, gwyliwn ddangos ys- bryd tra-arglwyddiaethol; yn hytrach, bydd- wn hynaws. a charedig; gwenwn, nid yn sarug, ond yn siriol fel saint; a chofiwn fod pobl ieuaingc pob oes yn chwannog i adeil- adu cestyll, ond mai yn yr awyr y maent gan amlaf. Os ambell i bregethwr medrus a don- iol -fydd yn galw, un mwy yn ei gynnefin mewn athreniaeth nag mewn duwinyddiaeth, mwy cyfarwydd yn Uenyddiaeth nag anghen- ion ysbrydol ei oes; un digon rhyfygus i ddechreu cliwalu yr hen gredoau fel mur- ddynod diwerth er mwyn cael lie i adeiladu teml newydd i'r gwirionedd. Gadawn iddo yntau waeddi Drylliwn eu rhwymau, a thanwn eu rheffynau oddi wrthym.' Bydd yntau wedi crygu cyn y syflir un o hoelion ein pabell, a chyn y torir yr un o'i rhaffau. Cawn ofyn yn y man Pa le y mae yr ysgrifellydcl ? Pa le y mae tafolwr yr aur P Pa le v mae rhifwr y tyrau? Gwel Seion,' ar ol yr ys- garmes, Dacw hi yn ddianaf. Gwel Seion, dinas ein cyfarfod dy lygaid etto a welant Jerusalem, y breswylfa lonydd, y babell ni 1 kwr. Yr Arglwydd ar- Y, dderchog fydd yno i ni yn fangre afonydd a ffrydiau llydain; rhwyf-long (athroniaeth) nid a trwyddo, a Hong odidog (Socialaeth) nid a drosto. Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn, ni thaenasant yr hwyl; yna y rhenir ysglyfaeth vsbail fawr.' Ond os bydd ffydd yn gwaeddi am ad-drefn- iad gwrandawn arm yn ebrwydd. Os bydd bywyd mewnol y pren am ad-drefniad newydd o ddail a blodau hands off ar unwaith. Na rodder ffydd yn hualau caethiwed, gallwn fentro iddi hi ryddid tragwyddol heol.' Y mae Duw yn mherth yr eglwys, edrychwn ninnau yn addolgar ar y Vveledigaeth fawr. Hwyrach mai gwawr tan, ac ambell fflam yn dyrchafu ei phen wehvu 11i; ond 11a ddy- chrynwn, nid difa y berth wna y tanL ond ei harddvi a'i gogoueddu. Rheolir ei banes nid gan gyfraith gorchymyn cnawdol, end gan nerth bywyd annherfynol.' Mae yr amser wedi myn'd cyn i mi gael cyffwrdd a'r ail ran o'r anerchiad, sef Perthynas y Cyfundeb a'r Amseroedd. Mae yn amlwg i bob syhvedydd fod yr amseroedd yn achlysur, os nad yn wir yn achos, i roddi cvfeiriad a ffurf i feddwl, credo, gwaith, a bywyd yr eglwys yn mhob cyfciriad. Nid ydym yn awr yn eyfeirio at yr amseroedd yn eu harferion llygredig-mae hwn yn fater digon pwysig i gael trafodaeth ar ei ben ei hun. Cyfeiriwn yn awr at yr oes yr ydym yn byw ynddi yn rhai o agweddau pwysig ei meddwl, ei syniadau cymdeithasol; a'i diwyg- iadau gwleidyddol. Nid yn Nghymru y mae y gwahanol bwerau hyn yn ymffurno, ond yn Lloegr ac ar y Cyfandir. Etto mor eb- rwydd y cyrhaeddant Gymru. Mor fuan ag yr ymgyfyd eu tonau draw, clywir eu swn yn ymdori ar lenydd ein gwlad. A byddai mor anhawdd heddyw i ni yn Nghymru ymgilio oddi wrth eu dylanwad ag a fyddai ymgadw oddi wrth ffasiynau gwisgo ein teyrnas. Gyda golwg ar feddwl yr oes yn ei wahanol gylchoedd ac agweddau, y mae yn rhwym o ddyweyd ar ein syniadau duwinyddol a chref- yddol. Ac nid anffawd yw hyn, cofiwn, ond un o lwybrau dadblygiad meddwl a bywyd yr eglwys. Mae y dduwinydiaeth a gauo ei dorau a'i ffenestri rhag dylanwad dargan- fyddiadau, dysgeidiaeth, beirniadaeth, a meddylgarwch yr oes, yn rhwym, cyn hir, o beidio a bod yn gynniweirfa, bywyd; ac o ddirywio yn raddol yn fath o museum,' llawn o ffosylau a chreiriau, annyddorol i bawb ond hynafiaethwyr. Ond etto, dylem gofio nad yw duwinyddiaeth yr eglwys na'i chrefvdd i fod at drugaredd gwyddoniaeth, beirniadaeth, nac ysgolheigdod yr oes. Nid yw credo yr eglwys i gael ei farchogaeth gan bob Jehu. Nid plentyn yn Haw gwyddon- iaeth yw crefydd; yn hytrach, gwyddon- iaeth ddylai fod, ac a fydd yn y man, yn ei Haw hi. 'Ein ffydd ni' ddylai wneyd ein duwinyddiaeth yn fyw, fel y medr drwy ei greddf ei hunan gymmhathu (assimilate) pob peth o'r awyrgylch o'i chwmpas fydd yn feithrinfa i'w bywyd. Gadawer iddi, fel y pren byw, sugno nerth o ddyfnder daear ei chredo sefydlog; o'i phrofiad ysbrydol ei hun o awelon mor a mynydd, ac o gawodydd maethlawn Nefoedd Duw. Y mae crefydd i drethu yr holl fyd; ganwyd hi yn freiniol; ei duwinyddiaeth hi yw brenhines y gwydd- orau, ac ni fedd neb liawl-iia Llywodraeth wladol na dysgeidiaeth fydol—i'w threthu hi. Na ddyged ei charedigion hi i dy y caethiwed; yn hytrach, rhodder iddi y rhyddid a haedda. Sosialaeth. Aniai- wch^ gwag erchvll ydyw Cymdeithas- iaet'n etto; mae ei liawduidodavi penaf yn anghyttuno a'u gilydd ar y pyngciau mwyaf hanfodol ynddi etto. Camp fyddai i neb ddyweyd heddyw beth yw, nac hyd yn oed beth a fyn fod. Wrth gymmeryd cipdrem ar ei hanes gwelwn fod cyfnewidiadau mawr- ion a chysson yn dyfod dros$i. Mae yr hylldod welid yn yr oes o'r blaen wedi. ei gymmedroli yn fawr, a'r gwylltineb wedi dofi llawer. Yn gymmharol ddiweddar y mae y mudiad wedi dyfod yn allu yn y wlad hon, ond y mae yn ei rwysg ar y Cyfandir er's ugeiniau o flynyddoedd. Yno yr oedd rhai o'i phleidwyr mwyaf eithafol, fel Karl Marx, ac eraill, yn elynion cyhoeddus i Gristionogaeth, a'u bryd ar ddi-orseddu ei Duw. Yr oedd eu hiaith wrth son am grefydd yn hyf a garw. Ymddygent ati fel ysgymmunbeth; ac ymdynghedent i'w thra- ddodi mewn byr amser i'r wadd a'r yst- lumod.' Erbyn heddyw y mae y llifeiriant hwn wedi peidio a'i dwrf; nid oes ond ambell 1 Socialist gorphwyllog erbyn hyn yn arddel y syniadau gwylltion hyny. Yn hytrach, tuedd sydd yn Sosialaeth ein dyddiau ni i edrych ar grefydd fel peth y tu allan i'w therfynau, fel gwyddoniaeth. Am grefydd I yr ydym yn son, cofier-nid am yr eglwysi na'u duwinyddiaeth. Ond, er hyn i gyd, bygythia Sosialaeth chwyldroi ein syniadau am y Wladwriaeth, am Lywodraeth, ac am gylch cyssegredig y teulu. Yn ei ffurfiau gwylltion dylid, yn ddiammheu, ei gwrth- wynebu yn y modd mwyaf penderfynol; o blegid ceisia borthi huiianoldeb dyn dan, gochel meithrin hunanymwadiad ynddo, a dyga gynnud i'w falchder dan rith estyn iddo ei hawliau. Parlysa yni yr unigol, a deifia bob uchelgais iach ynddo; gwna- i ffwrdd a'r cymmhellion cryfaf i ragori a llwyddo, ac ysbeilia ddyn or ymadferth hwnw sydd yn hanfodol i gyrhaedd pob rhagoriaeth wladol a chymdeithasol. Cyll talent ei gwerth yn marchnad y byd, ni roddir pris dyladwy ar ddarbodaeth na medr, a newynir athrylith er mwyn gwastadhau amgylchiad- au. Materoliaeth o'r fath fwyaf peryglus yw hyn oil—gwaeth o lawer na'r fateroliaeth wyddonol oedd mewn bri gynt. Etto i gyd dylem gofio fod gwersi i'r eglwys i'w dysgu mewn mudiad mawr a gwyllt fel hyn. Y mae ynddo rhyw wirionedd y dylai yr egl- ( wys feddwl yn ddifrifol uwch ei ben, ac ys- tyried ai nid yw hi wedi ei esgeuluso yn or- modol yn yr hanner canrif ddiweddaf. Crist- ionogaeth biau wir 'Socialism,' a gresyn fyddai i'r un drwg ysbeilio eglwys Crist o'r gair heb son am ei ystyr. Yr efengyl sydd wedi cynnyrchu brawdgarweh o'r iawn ryw, o honi hi yn uniongyrchol neu yn an- umongyrchol y tarddodd pob dyfais a chynllun i Jiniaru angen ac i leddfu poen plant dyn- ion. Hi yw gelyn penaf a chryfaf gormes a gorthrwm, hi roes derfyn ar gaethwasiaeth yn ngwledycld Creel. Yr eglwys wna hyn yn effeithiol etto, a da fyddai iddi gael ei dad- ebru at ei gwaith. Nid wyf, yn credu mai drwy gynlluniaii a threfniadau o'i heiddo ei hun y mae i wneyd y gwaith; ond drwy breg- ethu efen/yl y deyrnas nad yw o'r byd hwn; y gwirionedd fedr ryddhau gwlad, a'r gwir- ionedd meg\3 y mae yn yr Iesu. Nid hwn fedr ei rhyddhau o afaelion pechod yn unig, ond, hefyd o efynau pob gorthrwm; treiddia. ei ddylanwad o dan wraidd pob camwri yn mhob cylch. Haul Duw fedr doddi eira ein mynyddoedd a dadmer rhew ein cymmoedd. Ofer fyddai i wyddonwyr na dysgedigion yr oes, er teilynged gwyr ydynt, geisio gwneyd y gwaith. Chwarddai y rhew am eu penau, a gorchnddiai yr eira hwynt a'i blu esmwyth. Yr un modd Haul y Cyfiawnder sydd a medd- yginiaeth yn ei esgyll i wella clwyfau y gweitbiwr, ei belvdrau ef fedr ddadmer ia gormes; a melus yw cofio yn nghanol ubaiu ystonnydd gauaf y byd nad ymgudd dim yn T man oddi wrth ei wres ef. Credwn ni mai gobaith Prydain a Chymru yw eu crefydd, ac na lwydda unrhyw offeryn i wella corn- wydydd cymdeithas oni chedwir ef yn loyw a glan yn ei chyssegr sanctaidd hi. Wrth derfynu, mi hoffwn gyfeirio ar fyr eiriau at rai agweddau ar wleidyddiaeth y dydd, ac edrych arnynt nid o safle plaid qjid o safle crefydd. Bydd tri o .fesurau ger ein bron yn fuan, y mae dau o honynt eisoes o'n blaen—mesurau na bu eu pwysicach nac yn wir rai mor bwysig i foesoldeb a chrefydd ein gwlad er pan y mae ein cyfundeb yn bod. Gobeithiaf yr ennyn ein crefydd sel ynom i wneyd a allwn o'u plaid. Y mae y Mesur Addysg yn un tra phwysig; ac er nad yw ei ddarpariadau oil wrth ein bodd, dylem gofio yr anhawsder mawr i ddeddfu yn deg a llwyddiannus pan mae buddiannau mor groes i'w gilydd ar y maes; ac yn sicr, ein dyled yw cefnogi hyd y gallwn ni y Llywodraeth yn ei hymdrech yn mhlaid y mesur hwn. Am y Mesur Trwyddedol, y mae yn un gwir ragorol ,ac nid appelio yr ydwyf am i ni fel cyfundeb fod yn unfarn yn ei gylch-mi hyderaf ein bod felly—ond dymunwn gyffroi meddwl puraidd y gymdeithasfa a'r cyfundeb drwyddi i ymroi yn mhob modd i sicrhau y mesur gwerthfawr hwn. Tybed y bydd sel tafarnwyr a bragwyr am elw, yn fwy na sel crefyddwyr am sobri y wlad yn yr ymgyrch hon? Siaradwn, gweithiwn, deisebwn, gweddiwn o blaid y fath fesur. Lie y mae Pwyllgor Dirwestol y Gymdeithasfa a'r Gym- manfa Gyffredinol ? Lie y mae pwyllgorau dir- westol ein cyfarfodydd misol a'n heglwysi? Hwyrach eu bod wrth eu gwaith, ond carem ni glywed mwy o swn arfau. Ie, pa ham y cyfeiriwn at y pwyllgorau neillduol hyn dy- lai pob eglwys fod yn bwyllgor, a phob pul- pud yn esgynlawr, a phob aelod eglwysig, dirwestwr neu beidio, fod ar ddihun yn y fath argyfwng a hwn. Pe collid y mesurau eraill byddai yn gywilydd i Ryddfrydiaeth, ond pe collid hwn byddai yn warth oesol i grefydd ein gwlad.