Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

24 articles on this Page

Y GOGLEDD.

News
Cite
Share

Y GOGLEDD. Gwneir trefniadau i ddathlu can'mlwydd- iant eglwys Annibynol Dolgellau y mis nesaf. Cynnelir c v mdeith a sf a- chwarterol Method- istiaid Calfinaidd Gogledd Cymru yn Liver- pool, yr wythnos hon. Ail etholwyd Mr. J. Lloyd Jones, U.H., yn gadeirydd llywiawdwyr Ysgol Sirol Ffestin- iog am y flwyddyn hon. Bu farw Mr. John Williams, Towyn, un o ddiaconiaid hynaf v Methodistiaid Calfin- aidd yn Ngogledd Cymru. Yn nghyfarfod Cynghor Dinesig Caergybi, ddydd Mercher, derbyniwyd wyth o geisiad- au am godiad mewn cyflog, ond ni chydsyn- iwyd &'r cais. Cyflwynodd Mr. Edward Joseph, un o ddi- aooniaid eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Moclidre, Drefnewydd, ddarn o dir i godi capel newydd arno. Gwneir trefniadau i gynnal Arddangosfa Amaethyddol Meirionydd yn Harlech, Medi 9fed. Trefnir i roddi amryw wobrwyon chwanegol gan y llywydd. Y mae esgob Bangor wedi pennodi y Parch. J. J. Ellis, diweddar ficer Nefyn', i fywol- iaeth Llaneilian, ger Amlwch, yr hon sydd wedi myned yn wag trwy ymddiswyddiad y Parch. Morris Lloyd. Mewn cvfarfod o Fwrdd Dwfr Conwy a Colwyn Bay, ddydd Iau, penderfynwyd can- iatau gini a hanner, a thocyn yr ail ddos- barth, i aelodau a anfonid i Lundain, neu ryw le arall, fel dirprwywyr. Derbyniwyd y swm o 200p. trwy nodachfa cynnaliwyd mewn cyssylltiad ag eglwys Mor- lah (M.C.), Caernarfon. Yr oedd yr elw i gael ei ranu rhwng y Genhadaeth Dramor a hartrefol a'r Genhadaeth Drefol. Bu farw Mr. John Kendrick, Coleshill, Fflint, dydd Mercher. Yr oedd Mr. Ken- drick yn 82ain mlwyd oed, ac yr oedd wedi Henwi y swydd o overseer plwyf Coleshill Fawr, Fflint, am fredair blynedd ar ddeg. Prydnawn dydd Mawrth syrthiodd John Jones, gwr priod, Ffordd Caernarfon, Glan- adda, Bangor, o nenfwd uchel ysgoldy new- ydd y Wesleyaid, Bangor. Symmudwyd ef i Glafdy sir Gaernarfon a sir Fon, lie y gor- weddai mewn cyflwr peryglus. Anrhegwyd y Parch. Edward Parry, gan aelodau Ysgol Sabbothol y Crescent Dref- newydd, a darlun o hono, yr hwn oedd i gael ei osod i fyny yn yr ysgoldy cyssylltiedig a'r capel, He yr oedd wedi gweinidogaethu am dros ddeng mlynedd ar hugain. Torodd tan allan yn adeiladau y Mri. Mor- ris a Hughes, dilladwyr, Llangollen, nos Lun; a gwnaed gryn ddifrod yno trwy y tan, y mwg, a'r dwfr. Dyma y trydydd tan sydd wedi cymmeryd lie yn y dref yn ystod yr ychydig fisoedd diweddaf. Tanysgrifiodd y Dirprwywyr Eglwygig y swm o 400p., i drysorfa sydd wedi cael ei chodi yn mnlwyf Conwy, er chwyddo gwerth y fywoliaeth. Y mae yn cael ei chodi drwy y drysorfa i'r swm o 32p. yn flynyddol. Gwerth y fywoliaeth yn awr ydyw 206p., gyda ficerdy. Cafodd materion yswiriol mewn cyssylltiad a'r tan yn Mhalas y Frenhines, Rhyl, ei ben- derfynu yn foddhaol; a bydd i ymdrech gael ei wneyd i wneyd dawns-ystafell erbyn y Sulgwvn ond ni wneir dim mewn ffordd o godi chwareudy ar y llanerch yn ystod y tymmor hwn. Claddwyd gweddillion Mr. Mark Cross, Melinau Dwfr Llanddulas, yn mynwent y lie hwnw, ddydd Mawrth. Cymmerodd ddyddor- deb mawr yn amgylchiadau y pentref am lawer o flynyddoedd a bu yn ei gynnrych- ioli am flynyddoedd ar Fwrdd y Gwarcheid- waid, ac ar y Cynghor Plwyf. Cafodd cyfarfod hanner biynyddol Cy- nghrair Cynghorau Eglwysi Rhyddion Canol- barth Cymru ei gynnal yn Trallwm, dydd Iau, o dan lywvddiaeth y Parch. W. Mar- wood, Gelli. Pasiwyd penderfyniad unfryd- ol yn cymmeradwyo ptif ddarpariaethau y I Mesur Addysg a Mesur y Trwyddedau. Y mae Cynghor Eglwysi Rhyddion a Chymdeit'has Rydafrydig Caernarfon, wedi penderfynu gohirio yr arddangosiad a fwr- ledir ei gynnal yn y dref hono, er cefnogi Mesur Trwyddedau a Mesur Addysg y Llyw- odraeth hyd ganol mis Mai, pan y disgwyl- ir i Mr. Lloyd George fod yn brif siaradwr. Bydd Dr. Clifford, ac enwogion eraill, yn bresennol. Cafodd cyfarfod cyntaf pwyllgor unol o gynnrychiolwyr sir Gaernarfon a sir Fon, pa rai sydd o hyn allan i reoli Coleg Normalaidd Bangor, ei gynnal yn y ddinas hono, yr wyth- nos ddiweddaf. Rhoddwyd ar Mr. Richard Lloyd Jones, archadeiladydd PwyPgor Add- ysg sir Gaernarfon, i dynu allan blaniau o'r cyfnewidiadau a fwriedir eu cario allan yn y coleg, gyda'r amcan o wneyd lie i ddar- paru nifer chwanegol o fyfyrwyr. Yn llys man ddyledion Treffynnon gwnaeth Mr. Kerfodt. Roberts gais, ar ran Mrs. Pierce, gwraig weddw o Mostyn, yr hon, yn mis Tachwedd, a gafcdd ddyfarniad o dan Gyfraith Ad-daliad y Gweithwyr am golli ei gwr, am archeb iddi hi dderbyn op. o'r drys- orfa. oedd yn y llY8 i ddarparu careg fedd i'w gwr. Dywedodd y barnwr fod gryn duedd yn yr achcsion fhyn i daflu gryn lawer o arian ar y marw. Gyda rhyw gymma:nt o liwyrfrydigrwydd caniataodd yr archeb. Cynnaliwyd ymchwiliad gan Fwrdd y Llywodraeth Leol yn Rhyl, dydd lau, mewn perthynas i'r cais wnaed am allu i godi ech- wyn o l,100p., i'r amcan o helaethu y fweithiau nwy. Eglurodd yr Ysgrifenydd refol nad oedd hyn ond y cyfranddaliad cyntaif o gynllun llawer eangac'h a ddisgwylid ei gario allan yn y dyfodol buan, yr hwn a olygai wario tua 8,000p. Yr oedd cynnydd cyflym y dref, a'r galw chwanegol am nwy, yn ei gwneyd yn angenrheidiol i helaethu y gweithiau. Cynnaliodd y Mil Saiidb ',ch cadeirydd Cymdeithas Sirol sir Drefaldwyn, gyfarfod- yad yr wythnos ddiweddaf yn Machynlleth, Llanidloes, Dref newydd, a Thrnllwm, i eg- luro darpariaethau cynllun newydd y Fydd-n, ao i atteb cwestiynau a roddid iddo gan wir- foddolwvr, ac eraill. Wrth siarad yn Llan- idloes, dywedodd y Mil. Sandbach mai Mr. Haldane oedd y Gweinidog Rhyfel mwyaf ar ol Mr. Cardwell, a'i fod yn cario allan y meddylddrych oedd gan y gweinidog hwnw mewn golwg.

_ ; Y D E H E U.

Y FEDDYGINIAETH NEWYDD.

J SIR DDINBYCH.

Clafr ar Ddefaid.

Marchnad Croesoswallt.

Cau Cynnar.

Pont Bangor-ls-y-Coed.

Ffyrdd Costus.

IIPwyiigor yr Heddgeidwaid.

t'.' T.„|,.NI,..,.,,-,..,..-"".."."…

YSGOL SIR FFESTINIOG.

PORTHMADOG.

CRICCIETH.

PWLLHELI.

CYHUDDIAD 0 GREULONDEB AT…

TREFOR.

MR. LLOYD GEORGE.

- '.-.'...-----LLANSILIN A'R…

Y CYNGHOR DOSBARTH.

AP GLASLYN YN CEFNCANOL. :

- GWYL DE A CHYFARFOD.

CYFARFOD CANU UNDEBOL.

OEN RHYFEDD.