Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

'Y FORD GRON.' ,

News
Cite
Share

'Y FORD GRON.' Yr wyf wedi derbyn y rhifyn diweddaraf 0 gylchgrawn llenyddol Cymru Caer—' Bnws- ion y lord Gron.' Ceir ynddo lu o ysgrifau yn Gymraeg a Saesneg: mewn rhyddiaeth a chan, a'a- oil yn ffordd yn talu gwarogaeth i enw a gwaith y diweddar Dr. John Ro- berts gwr oedd wedi ennill saile uchel ac anrhydeddus yn ninas henafol Caer. Efe oedd maer y dldinas hono yn y flwyddyn 1903. Brodor o Ffestiniog ydoedd Dr. Roberts, ac yno y mae ei frawd awengar Isallt yn cynghaneddu, yn pysgota, ac yn iachau y cleifion. A phriodol ydoedd i'r Ford Gron gyssegru rhifyn Gwyl Dewi i son am y phys- yewr anwyl' a wnaeth gymmaint er dyrch- aru Oymru a. Chymraeg yn ystod ei drigias yn ninas Caer. Y mae'r ysgrifau yn rhy li- osog i mi fedru manylu arnynt, er fy mod wedi eu Idarllen oil. Goddefer i mi gyfeirio at y dernyn barddonol tyner a chelfydd, hefyd, o eiddo Mr. Morris Parry, dernyn Saesneg, ar fesur 'In memorium.' Y mae tinge yr awen wir yn y llinellau; ac y mae cyfres englynion loan Anwyl' yn llawn o swyn a naturioldeb. Fel dangoseg o deithi meddwl, a nodweddiad personol Dr. Roberts Caer, nis gellid cael dim yn fwy awgrymiadol na'r ddau ddyfyniad a ganlyn:— Yr oedd yn llawn ffydd-o ffydd plentyn yn ngallu ei Dad Nefol i gael pob peth i'w ie, heb deimlo gorfod arno ef geisio dyfalu But. Ac ni welsom ef erioed yn gymmaint o ddyn nag ar achllysuron, wedi ysgwrs am bethau cyfrin, yr eistedldai yn ol yn ei gad- air yn hamddenol, y lledgauai ei lygaid, a chydag amnaid barchus ei law, y dadganai ei fwriad i adael y pethau na ddeallai i ofal yr Hwn a'u gwydd- ai. Yn win-, yr hyn a'i tynai allan o 'lechres gwyr cyffredin ydoedd y plentyn- dod byth-wyrdd oedd yn ei gyfansoddiad. Deuai i'r golwg yn mhob agwedd o'i fywyd. Gallai ddarllen llyfra-u mawr o'r goreu, ond parhaai- i ddarllen Trysorfa'r Plant' bob mis o'i chychwyniad. Siaradai am syniadau newyddion, ond gormod o gamp i neb ydoedd eti gael i wadu llyfr 'Rhodd Mam.' Daeth yn dldyn mawr, goleu, a dringodd i'r lleflydd goreu heb symrnud ber o blith ei frodyr cyff- redin. Glynodd wrth hen bethau ei wlad a'i genedl, ac ni fyddai yn fwy cartrefol a hapus yn unman nag yn yr Ysgol Sul.' Dyna bortread tlws a hudolus, a gwyn fyd na cheir llawer yn rliagor o gyffelyb gymmer- iadau. Onld, ysywaeth, y mae llawer o ddysg, yn wir, y mae ychydig wybodaeth, yn peri i ambell un ynfydu,' a myned i feddwl mai gwyntyUio ammheuon sydd yn profi rhagoriaeth a gwir fawredd. Ond er fod Dr. Roberts, Caer, yn glynu wrth seiliau ffydd a chrOO, nid oedd yn gyfyng na cheid- wadol. Yr oedd e^i lygaid yn canfod pob peth gwerthfawr yn myd meddwl ei oes. Dyma fel y tystiolaethai Mr. Owen Griffith am dano, yn ei sylwadau cofiannol yn yr Ysgol, Sul, yn Nghaer:- Yr oedd yn ddarllenwr craff, a chofiai yn dda bob sylw fyddai wedi ei gyffwrdtd yr oedd, hefyd, yn ddarllenwr llydan anghyffred- in; nid oedd culni o unrhyw fath ynddo; er ei fod wedi ei wreiddio a'i sefydlu yn mhrif athrawiaethau crefydd uniongred, darllenai liaws o lyfrau a gyfrifir y tu allan i union- grededld, a mwynhaai lawer ar syniadau dyn- ion Old. Darllenodd lawer o bregethau gweinidog presennol y 'City Temple,' ac ymddangosal ar brydiau fel un yn cael ys- glyfaeth lawer. Un ydoedd; ef allai dynu mel o bob blodeuyn ddelai i'w ffordd, a byddai y mel hwnw yn amlwg yn yr addysg a gyfranai.' V Dyna'r ddau dclarlun, y naiill fel y Hall wedi cael ei dynu gan y sawl a adwaenent Dr. Roberts, ac y maent yn cyttimo yn dded- wydd a'u gil'ydd. Yr oedd y gwr a lynai wrth ffydd ei febyd, ac a arddelasai y Rhodd Mam,' a dysgeidiaeth yr Ysgol Sul, yn ber- chen meddwl agored, llydall, ac yn medru cael bendith wrth ddarllen awduron oeddynt yn teithio llwybrau gwahanol i'r eiddo ef. Onld medrai dynu 1 mel' o'r oil, a dyna'r gamp. Mel, nid gwenwyn. Ac os ceir mel mewn 'ysgerbwd llew,' pob peth yn dda. Ond os na fydd yno ddim ond yr ysgerbwd,' gadawer ef yn llonydd Yr ydym yn wir ddi- olchgar am y Briwsion sydd wedi disgyn oddi air y 'Ford Gron.' Briwsion breision, blasus, iach. Hyderwn y bydd gan y gwyr da sydd. yn edrych ar ol buddiannau y Ford Gron arlwy lenyddol etto, a hyny cyn b'o hir lawn. Dyna'r unig gwyn ellid ei ddodi yn eu herbyn. Y mae yr ymborth a'r enllyn yn dda ragorol; ond fel y dywedais yn y Geninen,' Iled ansicr ac annyben ydyw adeg y prydiau bwyd.' Yr wyf newydd orphen darllen rhifyn Mawr'th o'r 'CYMRU.' Y mae'r golygydkl yn rhoddi hanes dyfodiad yr '.Aradr i Gyrnru, a'i dylanwad ar fywyd y werin. Dyma rediad yr ysgrif :— Yr aradr a'r ddafad oedd y ddau beth pwysicaf yn mywyid Cymru yn y bymthegfed ganrif. Yr oedd y naill yn brif offenvn am- aethwr y gwas'tadeddau; yr oedd y llall yn brif gyfoeth bugail y mynyddau.' Yr un pryd, yr oedd y defaid yn lli- osogi ar y mynyddoedd. Y mlynach ddaeth a'r defaid, hefyd. Efe welodd fod Prydain wedi eichyfaddasu at godi gwlan.' Ond gweithid gwlan yn Nghymru. hefyd. Yr oed-d melin ban yma ac acw trwy r wlad, Buasai'n ddyddorol cael ¡map' i ddangos ple'r oeddynt i gyd.' ',Yr oedd brethynwyr a gwehyddion yn myddin Glyndwr. O'r a'deg hono hyd ddyddiau'r Siartiaid, yr oedd gwehyddion Dyffryn Hafrenynhawlioacyngweled rhyw- beth fel cydraddoldeb yr oedd gweithdai'r Dre Newydd, a Llanidloes yn dyfod yn fwy pwysig na ichastoll Dolferwyn, a muriau Tr^faldwvn. Ac felly yr oedd y ddafad, fel yr aradr, yn dyfod ag ysbryd chwyldroad gyd a. hi.' Gwr yr aradr a'r gwehydd' oedd halen yr hen ddyddiau hyny. Hyd frwydr Bosworth yr oedd y by:l yn dda ar y ddau, ac yn gwella o hyd. Wedi hyny, daeth cymmvlau„' Yn dilyn yr ysgrif dra dyddorofuchod ceir cywydd yr 'Aradr' gan Lewis Glyn Cothi, Yn mysg pethau da eraill yn y rhifyn hwn c'r 'Gymru' y mae anerchiad ar yr Ysgol Sul—anerchiad a Idraddodwyd yn Meifod, gan yr Hybarch Henry Rees, yn y flwyddyn 1829. Dyn ieuangc ydoedd Mr. Rees y pryd hwnw; ond y mae ei arddull yn urddasol, a choe-'tli. Ac onid ydoedd Un o brif yg- grifenwyr r!h!yd!diaeth Gymraeg yn y ganrif ddiweddaf? Da iawn yn ei ffordd ei hun ydyw yr yatori—' Marged Dafis o sir Aber- teifi.' Yn gymmhleth a'r ysgrifau ceir dar- luniau rhagorol o'r diweddar Thomas Dar- lington, Jenkin Howells, Aberdar, a J. p. Bryan. Da genyf ddeall fod y Ilythyrau a- ysgrifenodd Mr. Bryan, o'r Aipht, wed; eu cyhoeddi'n llyfr. Y mae aiiadl bywyd yn- ] ddynt,' ebai golygydd 'Cymru.' Pe'r ys-! grifenai pawb ryddiaeth mor naturiol la, di- ymhongar a rhyddiaeth y llythyrau hyn, ni fyddai fawr o son am drange yr iaith Gym- raeg.' LLYTHYR O BLEP Y icliydd o'r blaeii mi a dderbyniais lythyr caredig, ond heb enw priodol na chyfeiriad 19, yr awdwr. Fel rheol, ni thelir llawer o sylw i ohebiaethau o'r fath; ond y mae y llythyr hwn yn eithriad, ac yr wyf yn lied- dybied mai tipyn o ddireidi yn yr awdwr oedd dodi mwgwd ftugenw lar ei wyneb. Dyma fel y mae yn ysgrifenu :— Anwyl Anthropos, Maddeuwch i mi am eich galw fel yna; gwn yn dda beth yw eich enw bedydd, gan fly: mod wedi bod gyda chwi yn Ysgol y Cwm ■ ond fel yna, rywfodd, y byddaf yn meddwl am danoch. Chwi a gofiweh, o bossibl, eich bod, pan yn disgrifio y brain ac adar y mor yn y cae ared'ig, wedi defnyddio llinell o waith Twm o'r Nant- Pob teiladaeth rhag tylodi.' Aeth yn ddadl rhyngof ag un o bregethwyr yr Hen Gorph ar y pwngc. Dywedai efe yn bendant mai fel hyn y dylasai fod— I Pob caledwaith rhag tylodi.' Er nad wyf fi fardd, na mab i fardd, nid wyf yn gweled priodoldeb y llinell fel yna. Car- aswn i chwi roddi gair yn y Faner' i ben- derfynu rhyngom. Mi goeliaf wed'iyn; ond dim yn gynt. Byddaf yn cael llawer o fwyn- had wrth. ddarllen y Golofn Lenyddol.' Y mae genych rywbeth dan eich bawd,' fel y dywedir, bob ;amser. Yr oeddych yn sylwi, dro yn ol, fod Clymro wrth golli ei Gymraeg yn colli grym ei feddwl yr un pryd. Yr wyf wedi teimlo hyny yn yr Ysgol Sul lawer gwaith. Ac y mae ambell un sydd yn byw yn Lloegr yn ddigon e'hud i dybied mai rhlyw gymmwynas a'r hen iaith ydyw ei siarad o gwbl. Daliwch ati i ysgrifenu, canys iaith calon ami un o'ch darllenwyr ydyw—' Melus, moes mwy.' Bu y Parch. H. Barrow Williams tyma yn darl'ithio yr wythnos ddiweddaf, yn ddoniol ac addysgiadol, fel arfer. Ei destyn ydoedd —' Keep to the right.' Yr oeddwn wedi gwrandaw y ddarlith yn Gymraeg, ac felly yn ei deall, ac yn ei. mwynhau yn well yn Saes- neg. Ac yn wir, wrth iddo grtybwyll am enwau Tom Ellis, a'r 'hen ddoctor' o'r Bala, yr oeddwn bron a gwaeddi yn Gymraeg —' Dyna i chwi fawredd, a gallu, a chymmer- iad!' Ond rhag ofn i'r Saeson yma. fy nhroi allan, mi gefais ras i dewi.' Yr eiddoch yn bur, Edmygwr.' Wei, y mae yn dda genyf wybod fod ambell i sylw yn y Golofn Lenlyddol' yn foddion i ennyn ymholiad yn y darllenydd. Mewn perthynas i'r llinell a ddyfynwyd y mae geiriad y pregethwr yn rhoddi eithaf ystyr —pob caledwaith rhag tiylodi;' ond y mae yn difa y gynghanedd' oedd mor nodwedd- iadol yn ngwaith barddonol Twm o'r Nant. Ond y mae'r llinell yn ei ffurf wreiddiol yn cadw'r dingc awenyddol:— Pob teiladaeth rhag tylodi.' t, 1, d, t, 1, d, Digwydda y llinell mewn can o eiddo'r bardd a enwyd, yn dwyn yr enw 'Certdd y Celfyddydau.' Y mae'r ddau bennill oynt,af o honi fel hyn:— Pob dyn a dynes gynnes gall, Mae'n ddiwall mewn addewid, Fod rhaid i bawb sy'tt ehwennych byw Feddwl am ryw gelfyddyd Rhai i'r mor, a rhai i'r mynydd, Rhai i'r glynau, rhai i'r glenydd, Rhag tylodi i ymboeni beunydd Rhai yn hwsmyn drwy bob drysni, Rhai 'mhob swyddlau rhag ofn soddi, Helynt lidiog rhag tylodi. Y gof a'r saer ar gyfer sydd, A thylWlytlh crydd a theiliwr, Y tanner crych, a'r tynwr croen, A'r gwydd .mewn poen, a'r pannwr, A'r tinceriaid, hwythau'n euro, A'r melinydd yn mileinio, Ac yn tolli cymmaint allo, Bricklers, masons, yn dra misi, Nailers, tilers, yn cydholi— Pob teiladaeth rhag tylodi.' Fel yna y canai Twm o'r Nant. Gan hyny, y mae'r fantol yn troi o blaid Edmyg- wr.' Diau genyf fod y pregethwr,' pwy bynag yw, yn gwybod beth ydyw caled- waith.' Byckled i'r caledwaith hwnw droi yn adeiladaeth i'r saint. A phan y caffo hamdden, astudied briodoleddau r gynghan- edd, ac yna daw i ddeall y buasai bron yn ammhossibl i fardd y Nant ollwiig llinell fel I Pob caledwaitlh rhag' tylodi,' allan o'i ddwy- law, canys y mae yn gwbl amddifad o felodi ac ystwythder telynegol. Ac os bydd Ed- nuygwr' yn anfon gair etto, disgwylir iddo yntau dynu y mwgwd oddi ar ei wyneb!

IGLAN ALUN.

Advertising

CANADA YNTE'R WLADFA?

MARWOLAETH A CHLADDEDICAETHI…

CINIAW CYMDEITHAS CYMREIC…

CARCHAROR FFYRNIC.

PESWCH SYCH CALED A HIRBARHAOL.