Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
MESUR YR WYTH AWR.
News
Cite
Share
MESUR YR WYTH AWR. WYTHNOS i heno y mesur uchod oedd prif bwnge y dralodnetli yn Nhy y Cyffredin7 Nid oes neb yn credu fod dydd cyfreithlawn o wyth awr o weithio o fewn cylch gwleidyddiaeth ymarferol. Ar yr un pryd, y mae yr wyth awr gweithio hyn wedi dyfod o fewn y cylch hwnw ynglyn ag un o ganghenau mawr- ion diwydrwydd; sef, yn y pwll glo. Corphorir yr egwyddor yn ffurfiol mewn mesur sydd yn cael ei ddwyn allan gan y Llywodraeth ei hun. Yn wir, yr oedd rhoddi ffurf ymarferol i'r ddarpariaeth hon yn mron wedi dyfod yn fater ag y cyttunai yr holl bleidiau arno. Ond, ysywaeth, y mae rhai o berchenogion y glofeydd wedi mynu gosod eu hwynebau fel y callestr yn ei erbyn. Gyda mesur o gyfrwysdra y mae y rhai hyn wedi bod yn arfer eu dylanwad ar y cymdeithas- au masnachol, y nwy gwmniau, a phawb sydd yn defnyddio glo yn helaetli, gan fygwth y byddant hwy yn rhwym o godi pris y nwydd yn uwch lawer nag ydyw yn awr. A newyddiaduron iselaf Tori- aeth a gymmerant eu hochr, am eu bod yn gweled yn hyn gyfle i geisio drygu y Llywodraeth. Gyda'r un diffyg eg- wyddor ag sydd yn peri iddynt ddal y Llywodraeth yn gyfrifol am fethiant y cynhauaf gwenith yn Canada a Thwrci, taerant yn awr mai unig effaith Mesur Wyth Awr yr Ysgrifenydd Cartrefol fydd dwyn tynell o lo allan yn Ihvyr o gyrhaedd y dyn tlawd. Yn ngwyneb y fath haeriadau angenrheidiol ydyw, edrych yn wyneb ffeithiau diledryw. Un ffaith ydy\V, fod yr oil o'r gwledydd sydd yn y gydymgais benaf a ni am fasnach y byd eisoes wedi mabwysiadu egwydd- or rheoleiddiad yr oriau gweithio yn eu pyllau glo, yn ol cyfraith, yn lie gadael 1 bob pwll gael ei weithio yn ol mympwy a rhaib y percbenog am elw. Felly, gwelir nad ydym- ni, yn y diwygiad gweithfaol hwri, yn gwneyd dim ond dilyn llwybrau cenedloedd gwareidd- iedig eraill y byd. Yn yr Alm'aen ac Unol Dalaethau yr America-y ddwy wlad sydd yn codi mwyaf o lo, ag eithrio y wlad hon—y mae diwrnod gwaith y glowr gryn lawer yn llai nag ydyw gan amlaf yn Mhrydain. Yn Silesia a West- phalia, lie nad oes dim llav na chwarter miliwn o ddynion yn gweithio dan y ddaear, wyth awr o weithio ydyw rheol y dydd; a hyn a fedda awdurdod cyfraith, ac a gedwir yn rheolaidd, with gwrs, yn yroll o'r gwahanol ddosbarthiadau. Yn Ffraingc, dair blynedd yn ol, pas- iwyd cyfraith yn darparu nad oedd neb, ar ol lonawr, 1906, am ysbaid dwy flyn- edd, i weithio am fwy na naw awr o dan y ddaear. Yn lonawr diweddaf, am ddwy flynedd ereill, tynwyd y diwrnod i lawr i wyth awr a hanner; ac o lonawr, 1910, y gyfraith fydd dim ond wyth awr. A'r diwrnod hwnw a gyfrifir, o'r adeg pan a y gweithiwr i lawr hyd yr adeg y daw i fyny drachefn, wedi terfynu ei shifft.' Oddi wrth hyn gwelir fod y math ys- beilgar' 'treisiol' a Sosialaidd' hwn o ddeddfwriaeth (fel y gelwir ef gan ryw rai yn ein plith ni, mewn ymarferiad llawn yn yr oil o'r gwledydd) (oddi gerth yr eiddom ni) ag y dygir diwydiannau mawrion ynddynt; a'r gwledydd, yn ol breuddwydion Diwygwyr y Tariff, sydd yn brysur ein curo ni allan o bob gafael y yn nghystadleuaeth fawr fasnachol y byd. Pa effaith a ga wyth awr o weithio yn y pwll glo ar bris y nwydd. y rhaid i'n llaw-wneuthurwyr a phawb ohonom yn ein tai ei gael ? Pa effaith a gaiff, hefyd, ar ein trafnidiaeth allforawl? Drachefn, pa effaith ar y galw am weith- wyr yn y glofeydd? Ni fyn y rhai cyfar- wydd a phwyllog dyweyd dim yn bendant y naill ffordd na'r llall mewn attebiad i'r cwestiynau hyn. Ond, yr ymfflamychwr politicaidd a ruthra i'w hatteb yn safn- rhwth, gan fytheirio pethau nad oes iddynt sail ond yn unig yn ei ddychymyg ef. Yn yr adroddiad a dynwyd allan gan y pwyllgor a bennodwyd gan yr Ysgrif- ienydd Cartrefol ddeunaw mis yn ol i gymmeryd y pwngc yn ei holl arwedd- lon dan ystyriaeth ystyrid mai peth an- hawdd ydoedd prophwydo' dim gyda mesur o sicrwydd am y canlyniadau. Y pwyllgor hwnw a wneid i fyny o wyr cyf- arwydd, yn cynnwys proffeswyr mewn mwnyddiaeth a gwyddonwyr. Nid pwyll- gor o wleidyddion plaid ydoedd mewn un modd. Casglasant wmbredd o ffeithiau, a gwrandawsant dystiolaethau yn ddi- brin. Yn eu casgliadau dangosant yr ys- bryd mwyaf gwyliadwrus. Ond yn eu holl gasgliadau ni cheir dim o natur y drygar- goelion a welir, neu, y dycbymygir eu bod yn eu gweled, gan rai na wyddant ddim, trwy ymchwiliad na phrofiad, am y mater. Ynglyn a'r lleihad yn y cyn- nyrch, tystiwyd wrth y pwyllgor gan rai perohenogion glofeydd. y byddai llai d -7- bummiliwnarhugainodynelli o lo yn j cael ei godi mewn blwyddyn os pesid y cynllun o wyth awr. Mewn unfrydedd hollol y gwrthododd y pwyllgor dderbyn y dyfaliadau hyn. Yn hytrach, credent y byddai yr amser a gollir dan y trefniant presennol yn sicr o gael ei wneyd i fyny dan drefniant yr wyth awr. Hefyd, credent y gwneid y gwaith yn fwy effedthiol; ac y bydd i beiriannau gael eu dyfeisio i arbed llafur llaw. Yn ddoeth y gofyna. y pwyllgor dan sylw ar fod i'r cyfnewidiad pan y (gwneir ef gael ei ddwyn oddi amgylch gyda gochelgarwch, ac yn raddol. Wrth gwrs, cydnabyddant yn eu hadroddiad 'y bydd llai o lo yn cael ei godi dan y trefn- iant newydd; ond, am dymmor yn un- ig.' Ni chredant y bydd swm y lleihad, na hyd y tymmor y bydd y lleihad yn parhau, agos cymmaint ag y taerir a fydd y naill na'r llall. Ond fel casgliad cyff- redinol' ceir hwy yn credu y bydd 'pethau yn ennill eu cydbwysedd yn fuan,. a'r cyf- lenwad a'r gofyn yn dyfod i fantoli y naill y llall.' Heb law hyn oil, nid ydyw yn ymddangos fod ganddynt hwy nemawr, os dim pryder, ynghylch effaith 'yr wyth awr.' ar allforiad glo o'r wlad hon i wled- ydd eraill. Hwyrach y bydd peth toll- iad yn cymmeryd He yn y marchnadoedd mwyaf pellenig o herwydd prinder am ennyd; ond, daw y tra.fnid yn ol i'w le o dan amgylchiadau cyffredin.' Yn ddi- weddaf, awgryma y pwyllgor y dylai y Llywodraeth gadw rhyw gymmaint o aw- durdod yn ei llaw i weithredu fel y barno hi yn ddoeth neu yn angenrheidiol, gan nad ydyw y trefniant newydd ar y goreu ond math o arbrawf, neu, naid yn y ty- wyllwch (er nad mor dywyll, chwaith). Yr oil o'r argymmhelliadau hyn ydynt wedi eu corphori i mewn yn y m'esur sydd yn awr o flaeri y Ty. Yn raddol y cwttog- ir yi1 oriau gweithio dan y ddaear. Cwt- togir hwy, i ddechreu, i naw, ac i wyth awr, ar ol Mehefin, 1910. Gwneir eithr- iadau o'r swyddogion, ac o rai dosbarth- iadau o weithwyr. Hefyd, caniateir estyn yr oriau o dan ammodau neillduol —ond, nid ar fwy na thrigain o ddyddiau y iau mewn blwyddyn. Yn mhellach, ceir yn y mesur ddarpariaeth i droi y ddeddf o'r neilldu, mewn adeg o enbydrwydd cen- edlaethol, er enghraifft, neu, pe digwydd- ai streic ddifrifol. Mesur mwy gochel- gar o ddiwygiad cymdeithasol na hwn byddai yn anhawdd meddwl am dano. Y peth mwyaf anghysson yn ein bryd ni ynglyn ag ef ydyw fod y diffyndollwyr yn ei wrthwynebu o gwbl. Gobeithiwn yn hyderus, y gall y Weinyddiaeth basio ei Mesur.
I IBRENHINES SHEBA.
News
Cite
Share
BRENHINES SHEBA. Syna ein darllenydd at ein penawd. Goddefer i ni, modd bynag, droi cefn ar y byd politicaidd am dro. Os nad ydym yn camgymmeryd yn fawr, y mae genym beth o gryn ddyddordeb i'w ddadlenu. Gwyddis yn dda fed penaduriaid Abys- sinia yn honi eu bod hwy yn ddisgynydd- ion y Brenin Solomon a Brenhines Sheba hanes ym-weliad yr hon a'r gwr doeth yn Jerusalem sydd un o'r pethau pryd- ferthaf yn yr holl hanesiaeth Ysgrythyr- ol. Heb law yr hanes Beiblaidd ceir amryw adroddiadau eraill, am yr ymwel- iad hwnw. Ond, prin y rhaid pfetruso dyweyd mai y mwyaf dyddorol a llawnaf yn ei fanylion ydyw yr un sydd newydd gael ei ddwyn i'r goleu gan Ffrangewr enwog o'r enw M. Hugues le Roux, a'i gyhoeddi yn y cylchgrawn Ffrengig a elwir y La Revue Hebdomadaire' o dan y penawd 'Magda, Brenhines Sheba,' wrth gwrs, nid ydys yn dadleu dros ddi- lysrwydd neu wiredd yr hanes hwn, nac yn ei osod ar yr un tir a'r hanes Ysgryth- yrol. Nid ydys yn honi ysbrydoliaeth iddo bid sicr yn y graddau lleiaf. Ein hunig amean ydyw ei gyflwyno i'r dar- llenydd er mwyn iddo yntau ei gym- mharu a'r adroddiad yn Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd, a thynu ei gasgliadau ei hun pa mor bell y mae y. ddau adroddiad yn eyflenwi ac yn cadarnhau y naill y llall. Dylem ddyweyd fod yr hanes newydd hwn yn gynnwysedig o ddyfyn- iadau o ysgrif-lyfr a elwir y Keubra Neuguest,' neu Ogoniant y Bi.enin,' yr hwn a ystyrir y trysor llenyddol gwerthfawrocaf a fedd ymherawdwr Abyssina. Rhamant ynddi ei hun ydyw hanes diweddar (beth bynag am hynafol) y trysor a.mmhrisiadwy hwn; ac yn en- wedig hanes y modd y daeth M. le Roux i'w gael i'w ddwylaw a gwneyd cyfieith- iad o hono. Yn fyr, dyma yr hanes hwnw Pan y goresgynodd y Prydeiniaid Abyssinia amryw flynyddoedd yn ol, ae yr ennillas- ant Magdala o dan lywyddiaeth Argl. Napier, cymmerodd ein milwyr y gaerfa a'r ystafell yr anneddai eu gelyn gorch- fygedig ynddi, sef yr Ymherawdwr Theo- dore, yr hwn oedd newydd gyflawni hun- anladdiad. Yn mysg yr amrywiol drys- orfa ereill a gymmerwyd ymaith gan y Prydeiniaid yroeddy gyfrol gyssegred- ig a enwyd, a'r hon a gafwyd o dan oben- ydd ei fawrhydi. Ar erfyniad taeraf yr Ymherawdwr loan, olynydd yr hen The- odore, anfonwyd, yr ysgrif-lyfr yn ei ol i Abyssinia, gyda'r geiriau a ganlyn yn nglyn ag ef-'Dychwelwyd y gyfrol hon i Frenin Ethiopia, trwy orchymyn ym- ddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig, Rhagfyr 14eg, 1872-J. Winter Jones, Prif-Lyfrg-ellydd.' Wedi ei dhae-1 yn gai- ogel yn ol, arferai y Brenin Io^n ei chludo gydag ef i bob man hyd, nes y lladdwyd ef gan ganlynwyr y Mahdi, neu y Gau Bro- phwyd, mewn brwydr, a'r pryd hwnw cymmerwyd meddiant o honi gan Men- elik y 'negus,' neu yr ymherawdwr pre- sennol, Ysgrifenwyd y llyfr yn y dafod- iaith gyssegredig a elwir y Gheze —tafodiaith nad ydyw yr ymherawdwr yn ei deall, mwy nag y mae ei weinidog- ion, a'i urddasolion. Mewn gair, i ych- ydig iawn o bobl y mae hi yn wybydd- us. Y cwestiwn naturiol a ymgyfyd ydyw —pa fodd y daeth M. le Roux i feddu yr allwedd i'r dafodiaith hynafol hon?, Ac a allwn ni ymddiried yn llawn ynddo fel cyfieathydd o honi ? Mewn attebiad i hyn, eglura efe mai yr arfer yn Ethiopia (neu Abyssinia) ydyw i'r ymherawdwr anfon swyddwr i hwyluso y ffordd a-c ar- M'ain pa wr bynag a fyddo yn cael ei wahodd i ymweled a'r brif-ddinas. Yn ei achos ef, modd bynag, gan nad oedd ganddo angen am wasanaeth unrhyw swyddwr o'r fath, o herwydd ei wybod- iaeth am y wlad, anfonodd Menelik wr dysgedig, y Tigreen Ato-Haile-Mariam, fel addasach cydymaith iddo ef. Y gwr cyfarwydd brodorol hwn a ddywedodd wrtho ef am fodolaeth yr ysgrif-Iyfr uchelbris, gan chwanegu mai mewn modd cyfrin a. dirgelaidd yn unig y gellid myned ato a'i weled, o blegid ofnau ac eiddigedd yr offeiriaid a'r mynachod. Yn y diwedd appeliwyd at yr Ymherawd- wr, a thrwy ei orchymyn ef dygwyd y gyfrol, wedi ei hamblygu mewn brethyn cain a'i rhwymo mewn croen gafr,i babell M. le Roux, a chyda cymmhorth Haile- Mariam, dechreuwyd ar y gwaith o'i chyfieithu. Cynnwysai bedair a thri- gain o ddalenau. Yr ystori ei hun a ddis- I y grifir fel pryddest rydd-ieithol sydd yn cystadlu mewn prydferthwch ag eiddo Homer, ac mewn teimlad a'r hanes Beiblaidd. Yn sicr, y mae ynddi swyn anarferol; ac os yw yn sylfaenedig ar wirionedd hanesydd- ol, rhaid edrych arni fel chwan- egiad gwerthfawr at yr hanes ysgrythyr- n ol. Yn awr, yn ol yr hen hanes ysgrythyr- ol hwn, y mae Brenhines Sheba yn cyr- ha'edd i Jerusalem, a meddiennir hi yn y fan gan edmygedd o'r pethau rhyfedd- ol a, wel hi yno. Yr unig beth mwy na'i syndod ydoedd ei hyfrydwch gorfol- eddus pan y cafodd hi ei hun yn mhres- ennoldeb y Brenin Solomon. Fy arglwydd (ebai hi), dedwydd ydwyt, canys ti a gynnysgaeddwyd yn helaeth a gwybodaeth ac a doethineb. Caraswn fod yn dy balas yr iselaf o'th lawforwynion, fel y ga-llaswn gael golchi dy dra-ed, gwrandaw ar dy eiriau, ac ufuddhau iddynt. Mor ddedwydd wyf pan yr ydwyt ti yn gofyn i mi gwest- iynau, a pnan yr ydwyt yn atteb fy hol- ion innau. Canfyddaf oleuni yn y tvwyllwch, perl yn y mor, y seren foreu yn nghanol ser y nef, a. phelydr- au y lloer ar foreugwaith. Dyna pa ham yr wyf yn gogoneddu yr Hwn a'm harweiniodd yma; yr Hwn a ganiataodd i'th fawrhydi gael ei ddadguddio i mi; yr Hwn a barodd i mi gerdded o flaen dy dy, a gwrandaw ar dy lais.' O'r bron, llawn mor ostyngedig ydyw y Brenin Solomon yn ei attebiad, gan gydnabod fod ei holl ddoethineb ef wedi dyfod oddi wrth Dduw. Nid arglwydd ydwyf fi (meddai). Nid wyf yn bodoli o honof fy hun, ond yn ol ei ewyllys Ef. Trwyddo Ef yr wyf yn Ilefaru, ac yn meddwl. Fy noethineb a berthyn iddo Ef. Llweh oeddwn i. Efe a ffurfiodd fy nghorph, ac Efe a'm creodd ar ei lun a'i ddelw ei hun.' Erys y frenhines yn Jerusalem) am c-hwe mis, ac yna daw eisieu myned 'adref arni; ond nid yw Solomon yn ewyllysio ymada-el a'r ddynes brydwedd- 01 hon, yr hon a ddaethai ato o eithaf- oedd y ddaear. Taer erfynia arni i aros gydag ef, a byw am ennyd etto yn ei balas. Yn hwyrfrydig, i fesur, hi a gydsynia, ar ol ei osod ef ar: ei lw y byddai iddo ymddwyn yn anrhydeddus tuag ati. Rhoes Solomon ei wystl iddi am hyn; ac ar yr un pryd gwnaeth i'r frenhines, o'i thu hithau, dyngu na chyffyrddai hi a dim a berthynai iddo ef yn y palas. Ar ol hyn disgynodd y doethaf o ddynion i gyflawni twyll. Efe a roddodd i'r frenhines ar swper ryw- beth a barai iddi deimlo syched angerdd- ol, a hi a aeth i ystafell y brenin i ym- ofyn dwfr i dori ei syched. Neidiodd y brenin, a cbyhuddodd hi o dori ei llw; ac ni fynai ei rhyddhau ond ar yr unig ammod ei bod hi yn ei ryddhau yntau oddi wrth ei ymrwymiad. Y llw a gym- merasai hi a ym'ddangosai, ar y pryd, yn un ffol; ond, yn awr, hi a ddeallodd ei ystyr. Dirymwyd llwon y ddau. Y nos hono cafodd y brenin weledigaeth. Gwelai haul disglaer yn disgyn i lawr o'r nefoedd, ac yn tywallt ei belydr-au dros Wlad Israel. Y disgleirdeb tanbeid hwn a barhaodd am dalm o amser. Wedi hyny ffodd yr haul ymaith. Aeth a safodd uwch ben Ethiopia, lie y bu yn tywynu yn ddisglaer am dalm yn mhellach o amser-am rai oesoedd. Disgwyliai y brenin am iddo ddychwelyd i Israel; ond dychwelyd nis gwnaeth. Yn mhen amser wed'yn gwelodd Solo- mon haul arall, yr hwn yntau a ddis- gynodd o'r nefoedd, ac a oleuodd Judah. DisgkirracB yd<?gdd hwri na'r fiEtul r flaen, ond yr Israeliaid a'i cablent 6 herwydd ei wres. Cyfodasant eu dwy- law yn ei erbyn a ffyn ac a chleddyfau. Mynent ei ddiffodd, a'r ddaear a gryn- odd; a chymmylau a- orchuddiasant yr holl fyd. Tybiai yr Israeliaid eu bod wedi diffodd goleuni yr haul hwnw, a'i gladdu. Hwy a osodasant wylia-dwriaetb ar ei fedd; ond, er gwaethaf eu gwyliadwr- iaath, torodd yr haul allan drachefn, gan oleuo y byd a'r mor, Ethiopia ao Ymherodraeth Rhufain. Yn mhellaeh, bellach, yr elai oddi wrth Israel. Rhoes Solomon ddadganiad i'w ed- mygedd Q wroldeb, hawddgarweh, a diniweidrwydd y Frenhines Magda; a phan oedd efe yn canu yn iach iddi ar ei mynediad tuag adref, efe a dynodd fodrwy oddi am ei fys, ac a'i rhoes iddi hi yn gofanvydd. Bu y frenbines ar ei thaitham fisoedd lawer; ac ar ei ffordd rhoddodd enedigaeth i fab. Pan y daeth hi i'w gwlad ei hun, o'r hon y buasai hi yn absennol am gyfnod mor faith; rhoddodd i'w maban yr enw Bsdnel- ekhem, hyny yw, 'Mab y Dyn Doeth.' Pan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed dechreuodd y bachgenyn holi ynghylch lei dad, a'i athrawon a ddy- wedent wrtho mai y Brenin Solomon oedd ei dad ef; a phan gyrhaeddodd efe ei ddwy flwydd ar hugain penderfynodd fyned i weled ei dad, a chychwynodd i'w daith. Wedi cyrhaedd talaeth Gaza, yr hon a roddasai Solomon i'w fam, ym- grymodd y bobl hyd lawr o'i flaen. Y rhai a ddaethent i'w gyfartcd o'r palas, ac a welsent y brenin at ei orsedd, a ryfeddent o herwydd tebygolrwydd y ddau i'w gilydd. Dygwyd Bainplek- hem i bresennoldeb y brenin. Pan y gwelodd Solomon y llangc efe a'i cym- merodd yn ei freichiau, ac a'i cusanodd ar ei enau, ei dalcen, a'i lygaid, ac a ddy- wedodd wrtho:— Wele fy nhad Dafydd fel yr oedd efe yn nyddiau ei ieuengctid. Efe a gyfod- odd oddi wrth y- meirw, ac a ddychwel- odd ataf! Nid myfi y mae efe yh ei ad- gynnyrchu. Tebycach lawer yw efe i fy nhad yn nyddiau ei faboed. Gwell ydyw efe na myfi.' Gwisgodd Solomon ei fab mewn dillad wedi eu goreuro; dododd goronbleth o aur am ei ben, a modrwyau o emau ar ei ddwylaw. Gosododd ef i eistedd ar orseddfaingc gyffelyb i'r eiddo ei hun. Yna y cymmerodd y mab y foarwy a ym- ddiriedasai ei fam iddo yn ddirgelaidd, ac a'i rhoddes i'w dad, gan ddywedyd: Cymmer y fodrwy hon, a chofia dy gynghrair a'm mam, yr hwn a seliaist a gair dy enau dy hun. Dymunaf arnafc roddi i mi, hefyd y lleni a orchudd- iant Arch y Cyfammod, fel y gallom eu haddoli ar hyd ein bywyd.' Ond dywed- odd Solomon wrtho nad oedd angen y fodrwy i brofi mai ei fab ef ydoedd Bainelekhem. Mewn attebiad i daer gais y brenin ar iddo ef aros yn Mhales- tina, dywedodd Bainelekhem, yn ol yr hen ysgriilyfr'1 Na themtia fi, canys y mae i ti fab ag y dylent ei fawrygu o fy mlaen i. Efe a elwir Rehoboam; a ganwyd ef, yn ol y gyfraith, yn fab dy I wraig gyfreithlawn. Nid oedd fy mam i yn wraig gyfreithlawn i ti.' I hyn yr attebodd Solomon:—' Pa beth yr ydwyt ti yn ei feddwl ? Nid wyf finnau, yn ol y gyfraith, yn ddim mwy yn fab i fy nhad Dafydd! Cymmerodd fy nhad fy mam, yr hon oedd yn wraig un arall; parodd i'w gwr gael ei ladd yn y rhyfel, a hi a'm dygodd i iddo ef. Trugarog yw Duw, ac efe a faddeuodd y trosedd hwn. Myfi ydwyf yn neshau at oedran fy nhad. Os myn Duw byddaf yn fuan yn cael fy nghasglu at fy nhad, ac at fy nhadau. Tydi a fyddi yn aros ar fy ngorsedd, ac yn teyrnasu yn fy lie. Rhoddaf i ti fren- hinesau lawer, a gordderchwragedd lawer—cynnifer ag a ewyllysi.' Atteb- y I odd yntau trwy ddyweyd fod ei fam wedi peri iddo ef dyngu y dychwelai ati, ac nas gallai adael ei fam a'i wlad. Or diwedd—i ni derfynu y chwedl ryfedd hon—penderfynwyd ei fod ef yn dychwelyd gyda lleni yr Arch, a chyda cyntaf a-nedigion penaethiaid Israel. Felly, ceid Israel mewn dwy deyrnas; Solomon yn teyrnasu' ar un, a mab Mag- da. yn teyrnasu ar y llall. Ar ei ffordd gartref dadguddiwyd i'r gwr ieuangc fod yr Arch ei hun wedi ei chymmeryd ymaith, a i bod yn eu canol bwynt. Eneiniwyd yntau gan Zadoc, yr arch- off eiriad, yr hwn a roddodd iddo yr enw Dafydd, Brenin Ethiopia. Arweinid y brenin ieuangc gan Michael, yr arch- angel; a llwybr yr hwn, o hyn allan, yd- oedd yn llawn o wyrthiau. Pan y cyr- haeddodd Dafydd i Ethiopia, ei fam, yn ewylLysgar, a roddodd yr orseddfaingc 1 fyny iddo, a chyssegrwyd ef yn adnew- yddol i fod yn frenin. Ebai hi:—'Dewis- ais yr hwn a ddewisodd Duw, a'r hwn a geidw babell Duw i fyny. Fy nghalon a ymlyn wrth yr hwn y mae Duw yn ei hoffi; giras ei gyfraith ef, yr hwn a. ymgeledda ac, a amddiffyna yr oedranus a'r amddifad.' 0 hyn allan nid oedd menyw byth i eistedd ar orsedd Ethiopia.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Aeth v cerbyd modur cyntaf welwyd erioed yn Jerusalem i'r ddinas sanctaidd dydd Gwener Yr oedd wedi dyfod o Haifa, yn cael ei gyru gan Mr Charles Glidden, Boston, Mass yr hwn sydd wedi bod ar daith modur trwy y byd er 1901, ac yr oedd wedi teithio 43,16<j o filldiroed$, mewn dwy ar bymthegaT h«gam 6 wt^fydd.
a TRAMOR.
News
Cite
Share
1 r. f ceir un nad oes ynddo fwy Q'r banner o garcharorion nag y bwriedid id do gynnwys pan yn cael ei adeiladn. Nis gall gwlad ä:i charcharau yn y sefyllfa hon barhau yn hir c heb rhyw gyfnewidiad trwyadl y n y Llywodr- aeth. Boreu ddydd Mercher bu y ddau gadfridog o Borth Arthur—Smirnoff a Fock-yn wyii- ebu eu gilydd a phistolion. Edliw pethaii c&a y naiiri'r liall oedd yr achos o'r ornest. Dywedir ddarfod i Smirnoff gael ei glwyfo yn farwol. Poen o herwydrl na chaiff efe ei ffordd ei hun gan ei senedd ynglyn a'r Congo sydd wedi dwyn ei afieehyd presennol ar frenin Belgium. Dywedir yn awr ei fod ef wedi troi ar wella. G?r ei feddyg ef i neillduaeth ucheldir yr Ardennes, i fod yn mhell bddi wrth ei weinidogion. ^id oes wybod pi beta a, ddigwyddasai yn Port au Prince, yn Hayti, oni bae ddyfod lldigau rhyfel y Galhioedd yno, Wedi eu dyfodiad y mae pob peth yn graddol dawelu yno. Cyflafan erchyll ar boblwynion yn ddiau a gymmerasai le oni bae am eu dyfodiad. Er gwaethaf holl appeliadau taerion M Stolypin, y mae pwyllgor y drydedd 'dduma.' wedi gwrthod yr amcangyfrifon i adeiladu llongau rhyfel newyddion y flwyddyn hon. Rhydd hyn derfyn ar uchelgais Llywodr aeth Rwssia am y presennol i ail adeiladu ei llynges. Dyma frwydr gyntaf y 'dduma' hon a'r Weinyddiaeth. Buddugoliaeth i'r sen- edd & gaed, canys addawodd y Prifweinidog tefyll wrth y dyfarniad. Fel y crybwyllasom eisoes, y mae y Cad- fridog di Giorgis, penaeth heddlu Macedonia wedi marw. Cymmer y Sultan arno fod yn bryderus ynghylch i'w olynydd gael ei ben- nodi yn ddioert Gan Lywodraeth yr Eidal y mae yr hawl i wneyd hyny. Yr awdurdodau yn Fez, prifddinaa Moroc- co, a deimlant yn dra dygasog yn erbyn y Ffrangcod a'u gwaith. 0 few a y dyddiau diweddaf anfonasant brotest at y Galluoedd yn eu herbyn. Ychydig sylw a gymmerir o'u gwrthdystiad. Armeniad blaenllaw yn Nghaer Cystenyn a ddynoetha erchylldra ofnadwy o du hedd g<udwaid Twrci. Yn y modd mwyaf dychryn- Jlyd yr arteithir y carcharorion yn fynych gan y mileiniaid hyn. Er enghraifft, tua thair wythnos yn ol cymmerwyd Armeniad ieuangc, dwy flwydd ar hugain oed, o'r enw Tchiblakion (nai i fasnachwr) i'r ddalfa gan yr heddgeidwaid, ar y cyhuddiad (sydd etto heb ei brofi) ei fod ef mewn gohebiaeth. a'r blaid chwyldroadoI yn Armenii. Bu yr heddgeidwaid yn ehwilotta. ei swydd- fa, ond, methasant a chael dim o duedd i brofi ei euogrwydd. Perthynasau y gwr a ofynent bob dydd am gael ei weled yn ei gell, ond, gwrthodid hwy bob tro. Dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, hysbyswyd y patriarch Almaenaidd fod y dyn ieuangc wedi lladd ei hun yn y carchar. Ond, yr arteithiau ysgeler a pha rai y poen- ydiwyd ef ydoedd y gwir achos o'i farwol- aeth. Arteithiau i'w orfodi ef i gyffesu oeddynt. Tywalltwyd olew pet.-oleum drosto, a rhodd- wyd ef ar dan. Mewn gair, llosgwyd ef i farwolaeth. Golwg erchyll hwnt disgrifiad oedd ar ei gorph; ond, nid oedd pan y pat- riarch, na'r perthynasau, ddim i'w wneyd ondbodynddistaw. Terfysgoedd difrifol a dorasant allan yr wythnos o'r blaen yn Tinnevelley a Tuticorin, yn Madras, yn yr India. Ffrwyth streic rhyw bedair mil o frodorion a weithient yn y melinau cotwm oedd y terfysgoedd. Bu y rhai hyn yn gorymdeithio trwy yr heolydd, ac yn ymosod ar bob Ewropiad y caent afael arno. Yn Tinnevelley drylliwyd ffenestri a do- drefn y Coleg Cenhadol. Ar y llythyrdy ac adeiladau cyhoeddua eraill gwnaeth y ter- fysgwyr ymosodiad. Agorasant ddorau y carchar, a gotlyngwyd y carcharorion yn rhydd. Bu raid i'r heddgeidwasd danio ar- nynt. Lladdwyd pedwar o ddynion; ond, gostegwyd y cythrwfl. Dwy bont newydd ydynt i gael eu hadeil- adu dros y Nilus yn Cairo, yn yr Aipht. | Cwmni Ffrengig sydd i wneyd y gwaith. Rhaid gorphen y pontydd yn mhen dwy flyn- edd a banner. Y dydd o'r blaen ffurfiwyd cymdeithas i ddathlu coffadwriaeth Abraham Lincoln yn Chicago. Y flwyddyn nesaf hydd can mlyn- edd er pan anwyd ef. Bwriedir casglu mil- iwn o ddoleri i ddathlu yr achlyaur dedwydd hwnw yn deilwng. Yr wythnos ddiweddaf soniasom fod hedd- geidwaid Paris yn cael eu dysgu yn yr iaith Saesneg. Bydd gan bob un a tedr Saesneg dorch am ei fraich. Ar y dorch bydd y gair 'Cyfieithydd' tneu yn hytrach Interpreter) mewn llytliyrenau aur. NidSaezneg yw yr unig iaith newydd a ddysgir iddynt, modd bynag. Yr Almaenaeg, yr Eidalaeg, yr Yspaenaeg, &c. yn ogyatal. Ar y dorch nodir yr iaith a fed rant; a mawr yr hwyluadod a fydd hyn, yn ddiau. Terfysgoedd o blaid yr etholfraint i bawb a. fuont yn Buda-Pesth, prifddinas Hungary, yr wythnos ddiweddaf. Ymosododd yr heddgeidwaid ar y bobl &'u cleddyfaw a'u llawddrylliau, gan anafu o ddeutu. cant o honynt. Bygythir streic gyffredinol trwy yr holl wlad osna cheir yr etholfraint yn ei chyflawnder. Hyabysir fod Llywodraeth Japan wedi sef- ydlu 4 Cronfa Trychinebau' i gynnorthwyo dioddefwyr oddi wrth dymmhestloedd a daeargrynfaau. Credir y ceir 50,000/?. oddi wrth y gweddill yn y Gyllideb y flwyddyn kon. Dydd Gwener cyn y diweddaf y gwelwyd cerbyd modur yn heolydd Jerusalem am y waith gyntaf erioed. Daeth o Joppa, a gyrid ef gan Americanwr. Rhaid oedd iddo gael t earned arbenig y Sultan i ddyfod i'r 'ddinas y sanctaidd. Nis gall hyd yn oed y Thibetiaid wrth- sefyll ymdaith gwareiddiad am byth. Yr hanes dLweddaraf am danynt ydyw fod ar- graphwasg wedi ei gosod i fyny yn Lhassa, y brifddinas. Yr hanes nesaf fydd am newydd- iadur yn cael ei ddwyn allan. Ar y 30airi o lonawr dylasai llythyrgod arbenig o Lundain gyrhaedd i New York. Ni ddaeth. Y dydd o'r blaen darganfyddwyd ef yn Yokohama, yn Japan. Yn y swyddfa ddosbarthu yn Llundain y gwnaed y cam- gymmeriad, yn ol pob tebyg. --L