Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

Peidiweh Anghoflo Formamint: ar Ymdaith Hirfaith' (Dyfyniad o'r O.T.C. Year Booh). Dolur y Gwddf yw dinystr y swyddog newydd. Mae'r wasgfa ar ei lais a' i gyfansoddiad —gorfod bod allan ar bob math o dywydd-yn ei wneud yn aberth rhwydd i anhwylderau o'r fath. Dyna'r rheswm am y cyngor swyddogol hwn yn yr Officers' Training Corps Year Book am 1917:— r Peidiwch anghofio cymryd potelaid 0 Formamint gyda chwi, a sugnwch dabled yn eich genau pan ar ymdaith hirfaith.' I'r genau a'r gwddf blinedig, poerius a sych- edig, y mae Formamint yn gysurwr adfywiol iawn, ond gorwedd ei brif ddefnydd mewn rhwystro a iachau anhwylderau heintus y gwddf. Felly, yn Aldershot, llwyr ddiddymwyd yn ymarferol haint o'r Ysbinog trwy i'r Prif Swyddog Meddygol beri defnyddio yn gyffred- inol Formamint yn yr holl wahanluoedd.' Pan yn ymarferyd gartref neu yn ymladd oddicartref. mae angen ar eich dyn mewn khaki gael Formamint, felly anfonwch botelaid iddo heddyw-a pheidiwch anghono ei gymryd eich hunain pryd bynnag y cewch Ddolur y Gwddf neu pan deimlwch ei fod yn dod ymlaen.' FORMAMINT: 'Tabled y Gwddf at Ladd Egin Afiechyd.' Pa fodd bynnag, byddwch ofalus i beidio camgymeryd Formamint am y tabledi formalin cyffredin, nea y rhai hynny a elwir yn sugeni gwrthbydrol. Oblegid y gwir Formamint yw yr unig ddar- pariaeth a wir ddinistria yr holl egin afiechyd yn eich genau a'ch gwddf heb wneud niwed i chwi. Felly y mae yr im pryd yn Fcddyginiaeth ac yn Rhwystrydd. Er enghraifft, mewn achosion o Ddolur y Gwddf neu'r Ysbinog rhydd esmwythad buan oddiwrth boen-lleiha y chwydd ar enyniad- ttn y tymheredd i lawr ac iacha y pilennau rhwygedig—felly yn iachau yr anhwylder yn yr amser lleiaf poiibl. Nid yw gallu Formamint fel rhwystrydd yn cael ei gyfyngu i afiechydon ysgafn perthynol i'r gwddf os cymerir ef mewn pryd troa heibio anechydon peryglus fel yr Anwydwst, Diphtheria, y Dwymyn Goch, y Prech Goch, &c. Gofynnwch i'ch Fferyllydd am y gwir Forma- mint-pris 2/2 y botel-a gwelwch ei fod yn dwyn ein henw a'n cyfeiriad ar y label :—Gen- atosan, Ltd. (Prynwyr Prydeinig Cwmni y Sanatogen). Cadeirydd: Lady Mackworth—12, Chenies-street, London, W.C. i. Sylwch Er mwyn eich diogelu chwi rhag efel- ychiad, rhoddir i Formamint ymhen amser enw newydd, yr hwn a gyhoeddir yn fuan.

Lon Swan, Dinbych.