Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Nebo, Glyncorrwg. tI

News
Cite
Share

Nebo, Glyncorrwg. t CWRDD ORDEINIO. I Dydd arbennig iawn yn hanes yr eglwys uchod oedd dydd Mawrth, Hydref gfed, sef dydd i I ordeinio'r brawd D. Ewart Peregrine, myfyriwr o Goleg Caerfyrddin, ac un o blant Salem, Llan- deilo, i gyflawn waith y weinidogaeth. Dechreu- wyd cyfarfod y bore gan y Parch. Pugh (B.), Abercynon. Yn nesaf pregethwyd ar Natur Eglwys gan Proffeswr J. Oliver Stephens, B.A., B.D., Caerfyrddin, yn hynod o dda, ac yr oedd pawb wrth eu bodd pan yn gwrandaw ar y Proffeswr yn traethu'r genadwri. Wedi hynny cafwyd pregeth siars i'r eglwys yn hynod o effeithiol gan y Parch. J. Williams, Tabor, Aber- gwynfi, a gobeithio y bydd i'r eglwys ddal ar y pethau a glywsom, rhag i ni un amser en gollwng hwynt i golli. Dechreuwyd oedfa'r prynhawn am 2 gan y Parch. J. T. Rees, Saron, Maesteg. Llywydd- wyd gan y Parch. D. Jones, Hebron, Cymer (Cadeirydd y Cyfundeb am y flwyddyn). Nid oes angen dweyd dim am Mr. Jones fel cadeirydd am y rheswm y gwyr pawb trwy'r ardal yma am dano, a'i fod yn barod bob amser i wneud yr hyn a allo. Wedi hynny galwodd y Cadeirydd ar yr ysgrifennydd i roddi ychydig o hanes yr alwad, a dywedai nad oedd yn credu fod yr un a-lwad erioed wedi pasio mor esmwyth ac mor dawel a'r alwad yma, a chredai fod a fynno'r Pen Bugail mawr a'n cynorthwyo i arwain Mr. Peregrine yma i'n plith fel gweinidog. Holwyd y gofyniadau gan y Parch. T. H. Thomas, Gibeon, Taibach, ac atebwyd gan Mr. Peregrine yn ganmoladwy ac yn hynod o feistrol- gar. Yna gofynnodd Mr. Thomas am yr arwydd o'r uniad gan yr eglwys, a chododd pawb oedd yn aelodau ac yn wrandawyr ar eu traed i ddangos fod yr eglwys yn unfrydol, a gofyn- nwyd i Mr. Peregrine i wneud yr un modd. Wedi hynny offrymwyd yr urdd-weddi am i Dduw fendithio'r uniad yma i fod er lies i'r eglwys ac i'r ardal yn gyffredinol gan y Parch. J. Edwards, Soar, Castellnedd, yn dyner ac effeithiol dros ben. Cafwyd pregeth siars i'r gweinidog ieuanc gan y Parch. S. Thomas, Salem, Uandeilo, yn feistr- olgar dros ben, ac yn llawn o gynghorion dwys er ei galonogi i geisio cario gwaith mawr a phwysig y weinidogaeth ymaen. Yn nesaf cyflwynodd Mr. Thomas rodd i'r gweinidog leuanc o werth llawer o bunnoedd o lyfrau, a dangosai hynny yn eglur fod Mr. Peregrine yn uchel iawn ei barch yn yr eglwys. Diolchodd Mr. Peregrine i frodyr a chwiorydd Salem am eu hedmygedd ohono, gan obeithio y buasai iddo gael llawer o flynyddoedd i'w darllen a'u myf- yrio. Cafwyd gair wedyn gan Mr. Dan Davies, un o aelodau Salem. Dywedai fod yn dda ganddo fod yn bresennol y prynhawn hwnnw, sef yn un peth i loxigyfarch yr eglwys ar ei dewisiad o weinidog. Yr oedd yn adnabod Mr. Peregrine yn dda wedi bod yn gyfeillion agos er pan yn blant, ac wedi ei gael yn fachgen da bob amseT. Nid oedd cerdded tair milltir i gyfarfod gweddi yn ddim iddo. Dymunai pob liwyddiant iddo ym maes y weinidogaeth. Dywedai Mr. D. W. Evans, Salem, ei fod yn falch o'r cyfleustra i ddwyn gair neu ddau o dystiolaeth i'r eglwys am Mr. Peregrine, am y cre.dai ei fod yn fachgen rhagorol iawn, a'i fod yn gryn dipyn o golled i Salem i'w golli. Dy- munai Dduw yn rhwydd iddo ac i'r eglwys, ac y caent fyned ymlaen law yn Haw nes cyrraedd yr hafan ddymunol. Credai Mr. Parry, Salem, fod Mr. Peregrine wedi dyfod i le ardderchog i wneud gwaith dros ei Feistr. Yr oedd yn adnabod Mr. Peregrine yn dda oddiar pan yn blentyn, ac wedi ei gael yn fachgen trwyadl a gweithgar ynglyn a phopeth mewn cysylltiad a'r eglwys. Codwyd ef ar ael- wyd grefyddol, a dymunai o galon am lwyddiant ar yr uniad rhwng y bngail a'r praidd. Duw a fendithio'r uniad i fod yn lies i'r gweinidog ac i'r eglwys ac er gogoniant i'w enw mawr Ei Hun. Mr. John Jones, un o ddiaconiaid y.Capel Newydd, IJandeilo, a ategai'r ewbl oedd wedi cael ei ddweyd gan ei frodyr yn flaenorol, am y gallai ef dystiolaethu am rinweddan da Mr. Peregrine, ac y credai y gwnai efe weinidog da i eglwys Nebo. Cafwyd gair eto gan Mr. W. S. Griffiths, mab y Parch. J. Griffiths, Wern, Aberafon, ac efryd- ydd o Goleg Caerfyrddin, ar ran bechgyn y Coleg. Hwythau hefyd yn dymuno'n dda i Mr. Peregrine ac i'r eglwys. Cafwyd ychydig eiriau hefyd gan y Parchn. J. F. Williams (B.) ac R. Roberts (M.C.), cym- dogion Mr. Peregrine yn y weinidogaeth yn y lie. Darllenwyd nifer o lythyrau oddiwrth amryw o weinidogion y Cyfundeb yn datgan eu hanallu i fod yn bresennol, a'r oil yn dymuno bendith Duw ar yr uniad. Gwelwyd yn bresennol y Parchn, W. R. Bowen, J. T. Parry, T. J. Rees. Ishmael Lewis (S.), Ben Da vies, | Maesteg 4 Bryniog Thomas, Caerau Cynlais Williams, Dyffryn T. H. Thomas, Tai- bach Pugh (B.), Abercynon Williams, Tabor, Abergwyaifi D. Jones, Hebron, Cymer Davies, Seven Sisters, ac amryw o ddiacouiaid o'r gwa- hanol eglwysi yn y Cyfundeb. Terfynwyd cyfarfod y prynhawn gan y Parch. W. R. Bowen, Maesteg. Dechreuwyd oedfa'r hwyr gan y Parch. Ishmael Dewis (S.), Maesteg, a phregc-thwyd gaii y Parchn Bryniog Thomas, Caerau, ac R. E. Peregrine, B.D., Rhymni. Arhosed y pethau da a ddy- wedwyd ar y testynau ar fywyd y gwrandawyr, yna gellir disgwyl gwedd lewyrchus ar ddeiliaid Seion maes o law. Darparwyd lluniaeth i bawb o'r dieithriaid yn y festri, a chroeso i bawb i gyfranogi. Rhaid dweyd fod y merched a'r gwragedd, ac hefyd amiyw o'r brodyr, weithio'n galed er mwyn gwneud yr wyl yn llwyddiannus, a thystiolaetha pawb iia fu dim gwell darpariaeth erioed ar fwrdd unrhyw frenin. Wedi gorffen yr wyl, barn pawb oedd na fuont mewn gwell cyfarfod ordeinio erioed-pawb yn serchus ac yn hynod o garedig, a rhyw ysbryd fine yn meddiannu pob oedfa. Parhaed brawdgarwch. AEI<OD.

I Coleg B- ala-Bangor.

Advertising

CYFARFODYDD CHWARTEROL.